Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
SYLWADAU AGORIADOL Cofnodion: Fel a awgrymwyd gan y Cynghorydd Hardcastle, cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn anfon cerdyn a blodau i wraig y diweddar Gynghorydd Hampson yn dilyn colli eu mab. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol ag Eitem rhif 4 ar y Rhaglen, ‘Cyfrif Refeniw Tai 2018-19’ gan ei fod yn denant Cyngor. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 15 Tachwedd a 20 Rhagfyr 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd ac 20 Rhagfyr 2017.
Materion yn Codi
Nodwyd bod cofnodion 15 Tachwedd 2017 eisoes wedi’u cymeradwyo yn y cyfarfod blaenorol. Cytunodd y Prif Swyddog i drafod mater a godwyd gan y Cynghorydd Hardcastle y tu allan i’r cyfarfod.
O ran cofnod rhif 38, byddai’r Prif Swyddog yn gofyn am ddiweddariad am y gwasanaeth siopa symudol ac yn ymateb i’r Pwyllgor.
O ran cofnod rhif 39, cyfeiriodd y Cynghorydd Reece at fanylion cyswllt tirfeddiannwr preifat roedd wedi’u trosglwyddo i swyddogion a dywedwyd wrtho byddai hyn yn cael ei ddilyn.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Cyfrif Refeniw Tai 2018-19 PDF 98 KB Pwrpas: Ystyried y cynigion ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai 2018-19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried Cyllideb Ddrafft y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai.
Rhoddodd Rheolwr Asedau Tai a’r Cyfrifydd gyflwyniad i gwmpasu’r canlynol:
· Cyflawniadau 2017/18 o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) o Darpariaeth tai Cyngor · Cynllun busnes 30 mlynedd · Cyllideb 2018/19 o Incwm o Arbedion effeithlonrwydd o Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru · Gweithgarwch yn y dyfodol
Fel rhan o’r cyflwyniad, dangoswyd ffotograffau a oedd yn dangos y cyflawniad ar waith mewnol, gwaith allanol a gwaith amgylcheddol yn rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru.
Croesawodd Cynghorydd Shotton gynnydd ar Safon Ansawdd Tai Cymru a chanmolodd ymateb prydlon y Cyngor o ran rhoi sicrwydd i denantiaid am dri bloc fflatiau uchel y sir yn dilyn y digwyddiad yn Nh?r Grenfell. Roedd yr adeiladau yn y Fflint yn dri o ddim ond saith yng Nghymru lle roedd systemau chwistrellu mewnol eisoes wedi’u gosod ac roedd trefn archwilio diogelwch y Cyngor wedi bodloni safonau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Siaradodd Cynghorydd Dolphin am yr angen i gynnwys parcio digonol mewn datblygiadau newydd i ddiwallu anghenion preswylwyr gyda mwy nag un cerbyd. Eglurodd Swyddogion, fel rhan o’r rhaglen amgylcheddol, roedd safleoedd fel plotiau garejys nad ydynt yn cael eu defnyddio yn cael eu nodi i drosi yn lleoedd parcio. Gan ymateb i gwestiynau pellach, roedd gosodiadau ystafelloedd gwlyb yn berthnasol yn bennaf i lety gwarchod, fodd bynnag roedd hyblygrwydd yn y rhaglen i wneud darpariaeth ar gyfer addasiadau’r dyfodol i gefnogi tenantiaethau oes. Cytunodd y Rheolwr Asedau Tai i roi gwybod i Aelodau lleol am asesiadau ‘ar droed’ yn eu wardiau i’w galluogi i gyfranogi, pe baent am wneud hynny.
Yn ystod trafodaethau am renti, dywedodd Cynghorydd Dolphin ei bod yn bwysig i denantiaid fod yn ymwybodol o opsiynau talu. Eglurwyd bod rhenti targed yn berthnasol i 17% o denantiaid y Cyngor a bod y cynnig gan yr Aelod Cabinet ac Arweinydd y Cyngor i gyfyngu ar gynnydd y rhent i’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr o ganlyniad i bryderon am fforddiadwyedd yn yr hinsawdd bresennol. Ni fyddai’r Cyngor yn cael unrhyw gosbau wrth weithredu cynnydd is na’r hyn a argymhellir gan bolisi rhenti’r Llywodraeth.
Dywedwyd wrth Aelodau y byddai’r rhaglen y gofynnwyd amdani ar gyfer gwaith a gynlluniwyd ar gyfer pob ward yn cael ei ddatblygu gan Sean O’Donnell, yn dilyn ymadawiad y Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf.
Rhoddodd Cynghorydd Hardcastle ganmoliaeth i’r gwelliannau yn y gwasanaeth Tai dros flynyddoedd diweddar. Gan ymateb i ymholiadau, eglurodd swyddogion y dull o ran ailymweld ag eiddo lle nad oedd gwaith wedi’i gwblhau oherwydd gwrthod tenantiaid neu ddiffyg mynediad. O ran taliadau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau golchdy, byddai swyddogion yn ymgysylltu â thenantiaid mewn llety â galw isel am wasanaethau i bennu’r canlyniad cywir. Cytunodd y Cyfrifydd i ymateb ar wahân i ddarparu nifer y tenantiaid a aeth i’r llys am beidio talu rhenti.
Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Palmer, eglurodd y Rheolwr Asedau Tai fod gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei lywio gan yr ... view the full Cofnodion text for item 45. |
|
Adroddiad Archwilio SARTH PDF 111 KB Pwrpas: Rhannu canlyniadau adroddiad archwilio ar reoli’r gofrestr dai a dyrannu eiddo’r cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth, Cefnogaeth Cwsmeriaid adroddiad am ganlyniad adroddiad archwilio am reolaeth y gofrestr tai a dyrannu eiddo’r Cyngor sy’n codi o gyflwyno’r Un Llwybr Mynediad at Dai.
Nododd yr Archwiliad Mewnol 13 cam gweithredu ac roedd naw ohonynt wedi’u gweithredu’n llawn a dau ohonynt yn gysylltiedig â pholisi rhanbarthol – i gael eu gweithredu erbyn mis Mehefin 2018. Roedd yr adroddiad yn rhoi eglurhad manwl am gynnydd o ran y ddau gam gweithredu sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd o ran cwblhau adolygiadau cyfnodol o fewn amserlenni a chanslo apwyntiadau oherwydd na chafwyd tystiolaeth. Gobeithiwyd y byddai’r camau gweithredu yn darparu sicrwydd i Aelodau am ffyrdd gwell o weithio i wneud defnydd gwell o adnoddau cyfyngedig a chydymffurfio â’r argymhellion.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd bod eiddo yn cael eu dyrannu yn nhrefn dyddiad fel arfer, yn unol â bandio. Roedd nifer fach o resymau pam gellid pasio ymgeiswyr, fel math o eiddo, materion hygyrchedd neu lle roedd angen gosod yn sensitif. Eglurodd y Prif Swyddog fod amrywiaeth o ddatblygiadau TGCh wedi’u hamlygu yn yr adroddiad i gefnogi gweithio awtomataidd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at y cam gweithredu ar amserlenni ar gyfer canslo ceisiadau a dywedwyd wrtho fod y lefel risg gwyrdd (isel) wedi’i bennu gan Archwilio Mewnol gan nad oedd yn bosibl dyrannu eiddo heb y dystiolaeth angenrheidiol.
Cynigiodd y Cadeirydd fân ddiwygiad i’r penderfyniad ac fe’i dderbyniwyd.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl adolygu’r adroddiad, bod gan y Pwyllgor sicrwydd bod pob cam gweithredu risg uchel wedi’u gweithredu’n llawn a bod pob cam gweithredu sy’n weddill hefyd naill ai wedi’u cwblhau neu ar waith. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol i’w ystyried, dywedodd yr Hwylusydd y byddai’r eitem ar adolygu safleoedd garej (a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod) yn cael ei drefnu ar gyfer mis Mai. Ni wnaethpwyd unrhyw newidiadau pellach.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
SYLWADAU I GLOI Cofnodion: Darllenodd y Cadeirydd ddatganiad lle canmolodd y Prif Swyddog a’i thîm am eu llwyddiant o ran sicrhau £2.7m gan y gronfa Cartrefi Clyd i osod systemau gwres canolog a mesurau effeithlonrwydd ynni mewn eiddo yn Sir y Fflint. Dywedodd y Prif Swyddog fod cydweithwyr o’r portffolio Cynllunio a’r Amgylchedd wedi bod yn rhan o weithio ar y cais. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |