Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

28.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd David Wisinger y Cynghorydd Ted Palmer fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn.

 

                        Enwebodd y Cynghorydd George Hardcastle y Cynghorydd Rosetta Dolphin ac eiliwyd hyn.

 

                        Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Ted Palmer fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ted Palmer fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

29.

Cofnodion pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar   20 Medi  2017.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

30.

Diweddariad ar y Diwygiad Lles pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas: Darparu diweddariad ar y Diwygiad Lles, gan gynnwys cyflwyno Credyd Cynhwysol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-daliadau yr adroddiad i ddarparu diweddariad ar yr effaith roedd 'Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau hawliau lles eraill yn eu cael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith oedd yn parhau i liniaru a chefnogi aelwydydd. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyflwyniad ar y Diwygiad Lles yn Sir y Fflint a chwmpasodd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Diwygiadau Cyn Credyd Cynhwysol
    • Treth Ystafell Wely
    • Uchafswm Budd-daliadau
  • Credyd Cynhwysol
    • Problemau ac Effeithiau
  • Gwaith Cefnogi
    • Cefnogaeth Cyllidebu Personol
    • Cefnogaeth Ddigidol Cynorthwyol
    • Taliadau Tai Dewisol
  • Effeithiau Diwygiad Lles Arfaethedig
  • Dadansoddi Data
  • Diwygiadau Lles y Dyfodol (o 2020)

o   Cyfyngiad Lwfans Tai Lleol – diddymwyd ar gyfer Tenantiaid Tai Cymdeithasol

o   Cyfyngiad Lwfans Tai Lleol – diddymwyd ar gyfer llety â chymorth

o   Nawdd wedi’i neilltuo ar gyfer Llety mewn Argyfwng 

 

            `           Diolchodd y Cadeirydd y Rheolwr Budd-daliadau am gyflwyniad manwl, llawn gwybodaeth a bu gwahoddiad i Aelodau ofyn cwestiynau.

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at ei bryderon a leisiodd o’r blaen ynghylch effaith Credyd Cynhwysol a rhoddodd sylwadau ar y mater o ôl-ddyledion rhent.Rhoddodd ganmoliaeth i waith y Rheolwr Budd-Daliadau a’i Thîm am ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i breswylwyr Sir y Fflint, sydd wedi cael eu nodi gan Lywodraeth Cymru.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd David Wisinger ei fod wedi derbyn cwynion gan rai o’r preswylwyr am nad oedd modd iddynt dalu eu rhent yn lleol ac eu bod wedi gwynebu problemau wrth gysylltu â'r Awdurdod dros y ffôn i drafod Credyd Cynhwysol.  Cytunodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) y byddai’n dilyn i fyny ar y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Wisinger yn dilyn y cyfarfod.

 

                        Yn ystod trafodaeth ymatebodd y Rheolwr Datrysiadau Tai a Chomisiynu i’r cwestiynau a’r pryderon a godwyd ynghylch digartrefedd ac esboniodd effaith gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol a’r pwysau o ganlyniad i hyn ar gyllideb digartrefedd Sir y Fflint. Dywedodd fod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno newid i’r ddeddfwriaeth yn y Flwyddyn Newydd i ddarparu ffordd wahanol i'r Awdurdodau Lleol adennill ychydig o’r costau a ysgwyddir wrth osod unigolyn neu deulu mewn llety mewn argyfwng, dros dro.

 

                        Ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle ynghylch darpariaeth llety interim a defnyddio llety gwely a brecwast. Cododd y Cynghorydd Hardcastle gwestiynau am y mater o denantiaid mewn ôl-ddyledion rhent, a’r anawsterau oedd yn wynebu tenantiaid oedd yn dymuno symud i eiddo llai ond nid oedd modd iddynt wneud hynny oherwydd y diffyg eiddo addas ar gael. Addawodd y Prif Swyddog bod rhywun wedi cysylltu â'r tenantiaid oedd mewn ôl-ddyledion rhent cyn gynted â phosib i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch incwm a hawl.  

 

PENDERFYNWYD: 

 

            Bod y pwyllgor yn parhau i gefnogi’r gwaith parhaus i reoli'r effeithiau mae’r Diwygiadau Lles yn eu cael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.

 

31.

Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas: Darparu diweddariad ar Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol ac adolygu safon cartrefi a adeiladir o’r newydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Rhaglenni Tai adroddiad i ddarparu diweddariad ar gynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).Darparodd wybodaeth gefndirol ac adroddodd ar y cynlluniau unigol oedd ar waith neu'n cael eu hystyried fel rhan o symud y Rhaglen SHARP yn ei blaen. 

 

                        Adroddodd Rheolwr Gwasanaeth Rhaglenni Tai ar y prif bwyntiau, fel y’u manylir yn yr adroddiad, ynghylch y cynnydd ar safleoedd y dyfodol a fyddai'n darparu cymysgedd o eiddo Rhannu Ecwiti ac Ecwiti Fforddiadwy y Cyngor, nawdd ar gyfer tai cymdeithasol, Grant Tai Fforddiadwy a Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, Safon Tai sir y Fflint a buddion perfformiad a chymunedol.  

 

Gan gyfeirio at Safon Tai Sir y Fflint, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu cynnig i sefydlu tîm prosiect o denantiaid, Aelodau Etholedig a swyddogion i adolygu Safon Tai Sir y Fflint i sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu tai o safon a gwerth am arian i’r Cyngor a Thai Gogledd Ddwyrain Cymru.Byddai’r Cyngor yn defnyddio’r cyfle i asesu Safon Sir y Fflint hefyd yn erbyn Safonau Technegol Llywodraeth Cymru, gan eu gwneud yn gymwys ar gyfer y Grant Tai Fforddiadwy.Gofynnodd am wirfoddolwyr o’r Pwyllgor i ffurfio tîm prosiect. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid Rhaglen SHARP a roddodd ganmoliaeth i dai’r cyngor a’r tai fforddiadwy oedd wedi cael eu hadeiladu hyd yn hyn.Gofynnodd a oedd modd gosod paneli solar ar dai newydd yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ray Hughes y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglenni Tai a’i dîm am y cynlluniau tai ar safleoedd Maes y Meillion a Heol y Goron yng Nghoed-Llai. Gofynnodd bod ei ddiolchiadau yn cael eu trosglwyddo i Wates am y gwaith ac am drafod gydag o, fel Aelod lleol, a'r preswylwyr lleol i hysbysu am bopeth.

 

Lleisiodd y Cynghorydd George Hardcastle ei bryderon ynghylch datblygiad Llys Gary Speed yn Aston, yn enwedig argaeledd tai fforddiadwy i unigolion sengl ac isadeiledd y briffordd.Cytunodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) i ddilyn ei bryderon i fyny am y ffordd.Mewn ymateb i ymholiad pellach gan y Cynghorydd George Hardcastle, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod tai/rhandai fforddiadwy ar gael i ddiwallu anghenion unigolion sengl yn ogystal â theuluoedd. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Wisinger pa ddarpariaeth a wnaed i breswylwyr anabl.Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y Wasanaeth yn gweithio’n agos gyda Chofrestr Tai Arbenigol i helpu’r rhai gyda’r angen fwyaf a thrafodwyd dyluniad y tai newydd gyda phobl anabl.    

 

Lleisiodd y Cynghorydd George Hardcastle ei farn am yr angen i gynnwys Aelodau ym mhroses ddylunio is-adeiledd datblygiadau tai o fewn eu Ward.

 

Mewn ymateb i gais y Cadeirydd, rhoddodd y Cadeirydd, a’r Cynghorwyr David Wisinger, Ray Hughes a Ted Palmer eu henwau ymlaen i wasanaethu ar Gr?p Safonau Tai Sir y Fflint.    

 

PENDERFYNWYD:

    

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi dull cyffredinol cyflwyno tai fforddiadwy a thai Cyngor newydd drwy Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP); a

 

 (b)      Bod yr Aelodau canlynol yn cael eu henwebu fel cynrychiolwyr ar Dîm Adolygu Prosiect, Safonau Tai Sir y Fflint.Y Cynghorwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) yr adroddiad i gyflwyno cynnydd monitro canol y flwyddyn ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’  sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau ynghylch monitro gweithgareddau, perfformiad a risgiau, fel y’u manylir yn yr adroddiad ac estynnodd wahoddiad i’r Rheolwr Menter ac Adfywio, Rheolwr Budd-daliadau, Rheolwr Gwasanaeth Rhaglenni Tai a Rheolwr Datrysiadau Tai a Chomisiynu, i ddarparu diweddariad ar gynnydd yn eu hardaloedd gwasanaeth.

 

                        Cyfeiriodd y Rheolwyr Gwasanaeth at Adroddiadau Cynnydd Canol y Flwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18 – Cyngor Cefnogol a Chyngor Uchelgeisiol, oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad ac adroddwyd ar yr is-flaenoriaethau a’r cynnydd cyffredinol a chanlyniadau gweithgareddau ar gyfer eu hardaloedd gwasanaeth. 

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson ei werthfawrogiad  i’r Swyddogion am eu gwaith a’u cefnogaeth wrth ymdrin â’r mater o wersylloedd anghyfreithlon ar Dir Comin Bwcle. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad

33.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 86 KB

PwrpasYstyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Raglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried.Dywedodd wrth yr Aelodau y cytunwyd i gynnal sesiwn friffio i ystyried ‘Sut mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn gweithio’ am 9.30am cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 20 Rhagfyr 2017. Esboniodd hefyd y cytunwyd i aildrefnu cyfarfod nesaf y Pwyllgor, oedd i fod ar 31 Ionawr 2018, i'w gynnal ar 15 Ionawr 2018.

 

Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.03 yr adroddiad a nododd y cafwyd penderfyniad yng nghyfarfod Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad 25 Hydref 2017, y dylai bob Pwyllgor ganfasio am farn ar eu blaenoriaeth cyfarfodydd fel rhan o’r rhaglen gwaith i'r dyfodol. Cyfeiriodd at y dewisiadau fel y'u manylir yn yr adroddiad a gofyn i’r Pwyllgor fynegi beth fyddai orau iddynt ar gyfer eu patrwm cyfarfod.Byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylai’r Cyngor gadw at ei drefniant arferol o gyfarfod ar fore Mercher am 10.00am, a chytunwyd ar hyn pan gafwyd pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Bod yr Hwylusydd yn darparu adborth i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad bod y cyfarfodydd cefnogi Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter yn parhau i fod am 10.00am fore Mercher.

 

34.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.