Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

13.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Cofnodion:

14.

Cofnodion pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar  19 Gorffennaf 2017.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2017.

 

Materion yn codi 

 

            Gan gyfeirio at dudalen 2 o’r cofnodion, gofynnodd y Cynghorydd Ron Davies bod ei ddiolch yn cael eu hanfon ymlaen at y swyddogion a roddodd wybodaeth iddo am waith cyfalaf sy'n cael ei gynnal yn ei Ward yn fuan wedi'r cyfarfod.  Cytunodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) y byddai’n anfon ei ddiolchiadau i Reolwr Gwasanaethau Tai'r Cyngor i’w cyfleu i’r tîm.

 

Gan gyfeirio at dudalen 5 o’r cofnodion, mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryder ynghylch y grisiau cul yn Castle Heights, Y Fflint, a gofynnodd bod y mater yn cael sylw i sicrhau y gallai'r holl breswylwyr adael yr adeilad yn ddiogel os bydd yna argyfwng. Fe eglurodd y Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf bod y broses gwagio mewn tyrau o fflatiau yn y Fflint yn cael eu hadolygu ac y byddai adroddiad diweddaru manwl yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

15.

Cynllun y Cyngor 2017-23 pdf icon PDF 82 KB

I ystyried a chadarnhau targedau penodol a osodwyd o fewn Cynllun y Cyngor  2017-23, a dangosyddion perfformiad cenedlaethol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad gan ddarparu gwybodaeth gefndir.  Fe gyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, a gwahoddodd y rheolwr gwasanaeth perthnasol i roi diweddariad am y blaenoriaethau diwygiedig a'r is-flaenoriaethau i'w gweithredu a oedd yn cael eu cynnig i’r Cyngor eu mabwysiadu. 

 

                        Bu’r Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf a’r Rheolwr Menter ac Adfywio yn rhoi adroddiad ar flaenoriaeth y Cyngor Cefnogol, a’r is-flaenoriaethau canlynol;

 

  • tai priodol a fforddiadwy
  • cartrefi modern, effeithlon ac wedi’u haddasu
  • diogelu pobl rhag tlodi

 

Fe roddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ddiweddariad hefyd ar flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol ac is-flaenoriaeth twf y sector busnes ac adfywio. 

 

            Fe ofynnodd y Cadeirydd am ragor o wybodaeth am yr is-flaenoriaeth i warchod pobl rhag tlodi a datblygu strategaeth i fynd i’r afael â thlodi bwyd. Wrth ymateb, fe gyfeiriodd y Prif Swyddog at ddatblygu ymagwedd gyfannol i fynd i’r afael â thlodi ac fe soniodd am yr angen i roi cymorth ar gyfer rheoli cyllideb, tlodi tanwydd, a helpu pobl i gael gwaith. Fe awgrymodd y Prif Swyddog bod adroddiad ar dlodi bwyd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol pan fyddai'n briodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod Cynllun (Gwella) y Cyngor yn nodi blaenoriaethau’r Cyngor dros y pum mlynedd nesaf a’r hyn y mae’n gobeithio ei gyflawni. Fe soniodd am y pwysau ariannol sylweddol ac effaith tan-gyllido a dywedodd er ei fod yn canolbwyntio ar amcanion yn ystod 2017/18, roedd y Cynllun hefyd yn realistig ynghylch rhwystrau cenedlaethol i’r hyn y gallai gael ei gyflawni.      

 

            Wrth ymateb i bryder a fynegwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton ynghylch oedi roedd rhai pobl wedi’i brofi mewn perthynas â hawlio’r Credyd Cynhwysol, rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad am gynnydd cyflwyno’r Credyd Cynhwysol a dywedodd y byddai dadansoddiad manwl yn cael ei ddarparu i gyfarfod o'r Pwyllgor a fydd yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2017. 

 

            Yn ystod trafodaeth, fe ymatebodd Swyddogion i gwestiynau pellach ynghylch cynnydd wrth gwblhau cynlluniau gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru. Fe eglurodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf fod yna sawl rheswm pam fod tenantiaid wedi gwrthod gwaith cyfalaf, serch hynny, fe achubwyd ar bob cyfle i ail-ddal y ‘gwrthodiadau’ a hysbysu’r tenant y gallai gwaith gwella gael ei gynnal i wella safon y tai er lles y tenant.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Denis Hutchinson i’r Cynghorydd Bernie Attridge a swyddogion am y cymorth a ddarparwyd wrth fynd i’r afael â’r broblem o wersylloedd diawdurdod sipsiwn a theithwyr yn ei Ward.

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i’r Prif Swyddog am adroddiad manwl a llawn gwybodaeth a diolchodd iddi hi a’i thîm am eu gwaith. Fe soniodd am anghenion a'r heriau roedd pobl ifanc yn eu hwynebu, gan sôn am y gr?p oedran 18-24 yn benodol, ac fe soniodd am yr angen i ddatblygu llety fforddiadwy ar gyfer y gr?p yma o bobl. Gan sôn am y Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru gofynnodd i’r Pwyllgor yn cael gweld casgliadau archwiliad mewnol y Rhaglen pan fyddai’n cael ei gwblhau.  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Deddf Tai (Cymru) 2014 – Digartrefedd pdf icon PDF 179 KB

Ystyried gweithredu deddfwriaeth newydd a’r heriau sy’n ymddangos

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddarparu’r diweddaraf ynghylch sut mae’r Cyngor wedi diwallu gofynion y ddeddfwriaeth digartrefedd newydd a rhai o’r heriau arfaethedig y mae’r Cyngor yn eu hwynebu.  Fe roddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yna gynnydd wedi bod yn nifer yr aelwydydd sydd yn gofyn am gymorth a bod y gwasanaeth yn rhagweld pwysau ychwanegol oherwydd cyfuniad o ffactorau.

 

            Diolchodd y Cynghorydd George Hardcastle i’r Prif Swyddog a’i thîm am eu gwaith ynghylch atal digartrefedd. Fe gyfeiriodd at ddarpariaeth llety dros dro a’r defnydd o lety Gwely a Brecwast, a gofynnodd sawl teulu sydd wedi’u lleoli mewn llety gwely a brecwast ar hyn o bryd. Fe eglurodd y Prif Swyddog bod y nifer y bobl mewn llety gwely a brecwast ar hyn o bryd yn isel iawn. Fe soniodd y Cynghorydd Hardcastle hefyd am y broblem denantiaid oedd ag ôl-ddyledion rhent, a defnyddiodd y dreth ystafelloedd gwely fel enghraifft, a gofynnodd sawl tenant oedd wedi gofyn i gael symud i eiddo llai ond nad oedd modd iddynt wneud hynny oherwydd diffyg eiddo addas ar gael. Cytunodd y Rheolwr Budd-daliadau i ddarparu’r wybodaeth yma ar ôl y cyfarfod.

 

            Fe ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau a phryderon a fynegwyd gan ddweud y byddai adroddiad ar effaith Diwygiadau Lles yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2017. Fe eglurodd y Prif Swyddog fod gan y Cyngor bolisi dyled deg a bod ganddynt agwedd holistaidd at bob achos a’u bod yn gweithio gyda phob cwsmer i ddarparu’r canlyniad gorau ar gyfer y tenant a’r Cyngor. 

 

Fe soniodd y Cynghorydd Aaron Shotton am y gostyngiad i'r Grant Cefnogi Pobl ac fe awgrymodd efallai yr hoffai’r Pwyllgor bwyso ar Lywodraeth Cymru i ofyn am gefnogaeth i’r Grant.    Cytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar ran y Pwyllgor i geisio cefnogaeth Llywodraeth Cymru i warchod y Grant Cefnogi Pobl.

 

Yn ystod trafodaeth, fe ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau ac awgrymiadau a grybwyllwyd ynghylch dulliau newydd a’r defnydd arloesol o adeiladau presennol i fynd i’r afael â’r mater o lety dros dro a diffyg tai.

 

Wrth ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Hardcastle ynghylch trawsnewid, trwsio ac ailwampio adeiladau presennol, cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor ar asbestos mewn eiddo ar ôl y cyfarfod.

 

Yn dilyn awgrym y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd y Swyddog Strategaeth Dai y byddai’n edrych mewn i’r mater o gael gwasanaeth glanhau mewn eiddo sy’n cael eu rhannu.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi'r diweddariad ar reoli'r ddeddfwriaeth newydd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014;

 

 (b)     Nodi’r heriau y mae’r Cyngor wedi’u hwynebu wrth ddod o hyd i ddewisiadau tai addas ar gyfer aelwydydd a’r peryglon pellach i hyn petai cyllid pontio yn dod i ben a/neu gyllid Cefnogi Pobl yn cael ei leihau;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i ddatblygu darpariaeth tai newydd i liniaru digartrefedd yn y Sir; ac

 

 (d)     Anfon llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol pdf icon PDF 93 KB

Ystyried y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol arfaethedig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Strategaeth Tai adroddiad ar raglen presennol Grant Tai Cymdeithasol sydd yn ariannu ystod o dai fforddiadwy sy’n cael eu darparu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir y Fflint.

 

                        Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom, dywedodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod holl gynlluniau adeiladu tai y Cyngor yn cael eu hariannu’n llawn gan y Cyngor ar hyn o bryd a bod yna achos cryf y dylai'r Cyngor gael mynediad at gyllid grant ac i'r terfyn ar gyllid gael ei dynnu er mwyn cael gweithredu’n gyfartal rhwng y Cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir y Fflint.    

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Rhaglenni Grant Tai Cymdeithasol Sir y Fflint

 

18.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Dywedodd wrth Aelodau y byddai cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 25 Hydref 2017 i roi diweddariad ar gyflwyno rhaglenni arbed ynni domestig, a Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Reece a fyddai modd rhoi gwybod i’r Cynghorwyr pan fyddai tenantiaid newydd yn symud mewn i’w Ward. Dywedodd y Prif Swyddog y dylai hyn fod yn digwydd ac y byddai’n edrych mewn i’r mater gyda’r tîm ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol; a

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

19.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.