Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd

 

Penderfyniad:

Cadarnhau’r Cynghorydd Ron Hampson fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Llafur.  Gan y penodwyd y Cynghorydd Ron Hampson i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd Ron Hampson fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Ian Dunbar fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Haydn Bateman y Cynghorydd Ian Dunbar fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

Ar ôl cynnal pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ian Dunbar fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.  Cymerodd y Cynghorydd Ian Dunbar y Gadair am weddill y cyfarfod.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson, cytunwyd y byddai’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn anfon llythyr ar ran y Pwyllgor i fynegi ei ddymuniadau gorau i'r Cadeirydd am adferiad buan a chyflym. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ian Dunbar fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Mawrth

2017.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

5.

DATGANIAD YNGL?N Â GRENFELL TOWER

Cofnodion:

Gan nad oedd yr Aelod Cabinet wedi gallu dod i’r cyfarfod, gwnaeth y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) ddatganiad ar ei ran. Yn dilyn y newyddion trist a brawychus iawn o Lundain yngl?n â'r tân yn Grenfell Tower, eglurodd y bydd Gwasanaeth Tai'r cyngor yn ysgrifennu at ei denantiaid yn egluro'r mesurau amddiffynnol sydd gennym yn eu lle, i sicrhau diogelwch ein tenantiaid mewn achos o dân.

 

Yn Sir y Fflint, mae gennym dri bloc o fflatiau. Sef Castle Heights, Bolingbroke Heights a Richard Heights yn y Fflint. Mae pob un o’r rhain yn destun asesiad risg tân wedi’i reoli. Mae pob un wedi’u hailwampio’n ddiweddar, gyda nifer o fesurau amddiffynnol wedi’u cynnwys yn yr ailwampiad hwnnw. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:

 

·         Gosod systemau chwistrellu. Mae systemau chwistrellu wedi’u lleoli ledled eiddo'r tenantiaid ac ardaloedd cymunedol. Cafodd cyfarfodydd i denantiaid eu cynnal gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub i egluro'r rhesymau dros osod y systemau chwistrellu a chyngor diogelwch tân allweddol.

 

·         Gosod drysau tân amddiffynnol ym mhob eiddo tenant.

 

·         Roedd gwaith ailwampio'r tri eiddo hefyd yn cynnwys gosod inswleiddio wal allanol. Wrth benderfynu ar y math o inswleiddio ar gyfer ein heiddo, fe wnaeth ein hymchwil cefndirol gynnwys ymweliadau â’r ganolfan hyfforddi Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghanolbarth Lloegr i weld arddangosiadau, i’n helpu i benderfynu ar yr inswleiddio wal allanol i’w osod yn ein heiddo.

 

·         Drwy bob un o’n blociau o fflatiau, mae gennym synwyryddion mwg yng nghynteddau ein tenantiaid, yn ogystal â synwyryddion gwres mewn ceginau; ac mae'r synwyryddion yn cael eu monitro.

 

·         Mewn ardaloedd cymunedol (grisiau, ystafelloedd sgwter, golchi dillad a chanolfannau cymunedol), mae gennym synwyryddion mwg sy’n cael eu monitro’n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae synwyryddion mwg hefyd yn eu lle yn ein hardaloedd cynnal a chadw (ystafelloedd peiriannau generadur a boeleri, yn ogystal â storfeydd biniau).

 

Yn ogystal â mesurau amddiffynnol corfforol, rydym yn sicrhau ein bod â chyfres lem o weithdrefnau arolygu sy’n ymdrin â phob agwedd ar yr eiddo. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:

 

·         Asesiadau risg o dân (Castle Heights yn Chwefror 2017; Bolingbroke Heights Rhagfyr 2016 a Richard Heights Chwefror 2017);

·         Profi’r larwm bob wythnos;

·         Arolygiadau chwarterol o synwyryddion mwg; profi goleuadau mewn argyfwng bob mis;

·         Gwiriadau annibynnol bob 6 mis o bob diffoddwr tân;

·         Cynhyrchu log tân wythnosol, sy'n nodi symudiadau tenantiaid;

·         Datblygu cynlluniau personol gadael eiddo mewn argyfwng, yn nodi gallu bob tenant unigol i adael yr eiddo mewn argyfwng. 

 

Yn hwyrach ymlaen ar ddydd Mercher, 14 Mehefin, byddai staff yn ymweld â’n holl denantiaid yn y blociau fflatiau i roi gwybodaeth am fesurau sydd gennym yn eu lle, a rhoi tawelwch meddwl iddynt ynghylch yr ymrwymiad sydd gennym fel cyngor i'w diogelwch personol.

 

6.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.