Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

51.

Penodi Cadeirydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd yr Hwylusydd nad oedd y Cynghorydd Ian Dunbar wedi gallu yn anffodus aros ar-lein yn y cyfarfod, a bod y Cynghorydd Ray Hughes, Is-Gadeirydd, wedi ymddiheuro am beidio â bod yn bresennol yn y cyfarfod, felly ceisiodd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Dennis Hutchinson yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

52.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol i eitem 5 ar yr Rhaglen – Incwm Rhent Tai, fel tenant i’r Cyngor.

53.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 11 Mawrth 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton os byddai modd darparu dogfen Pwy ‘di Pwy o’r Swyddogion Tai i’r Pwyllgor. Yn ogystal dywedodd bod diddordeb ar gyfryngau cymdeithasol o ran Aldi yn dod i Gei Connah a gofynnodd a fyddai modd darparu rhagor o wybodaeth. Dywedodd yr Hwylysydd y byddai’n dosbarthu’r ddogfen Pwy ‘di Pwy i’r Pwyllgor pan fydd ar gael, a bydd yn gwneud cais am ymateb gan y Rheolwr Gwasanaeth – Menter ac Adfywio ar y posibilrwydd o Aldi yn dod i Gei Connah.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch yr adolygiad Llety Gwarchod, dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) ei bod yn adolygiad eang gyda gwybodaeth ychwanegol a fydd yn cael ei rannu i’r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin os oedd ymatebion wedi dod i law yn dilyn y camau gweithredu oedd heb eu gwneud o'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ym mis Mawrth :-

  • A oedd y Cabinet wedi gwneud penderfyniad ar gyllid ychwanegol ar gyfer adfywio canol tref, fel yr amlinellir yn yr adroddiad yr oedd y Pwyllgor wedi’i ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth;
  • Y wybodaeth ychwanegol ar gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd 7 tref ledled Gogledd Cymru yn manteisio o gael cysylltiad Wi-Fi am ddim;
  • Bydd gwybodaeth ar bympiau gwres yr awyr yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau fel y gellir ei rannu gyda phreswylwyr yn eu newyddlenni.

 

Bydd yr Hwylusydd yn ymlid y camau gweithredu hyn a darparu’r wybodaeth berthnasol i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dolphin bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac eiliodd y Cynghorydd Shotton hynny. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

54.

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2020/21 pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Ystyried y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2020/21 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y ffioedd gwresogi arfaethedig i eiddo’r Cyngor sydd â chynlluniau gwresogi cymunedol a fydd yn dod i rym o 31 Awst 2020. 

 

            Mae’r ffioedd arfaethedig ar gyfer 2020/21, wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn aros am gymeradwyaeth gan y Cabinet. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2020/21 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill y costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan drosglwyddo’r manteision o gostau ynni is i denantiaid.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch pympiau gwres yr awyr a boeleri tân nwy, amlinellodd y Prif Swyddog y manteision o bympiau gwres yr awyr sydd yn tynnu aer i greu ffynhonnell o wres a ellir ei reoli’n annibynnol gan breswylwyr.  Bydd boeleri nwy newydd yn cael eu gosod, mewn rhyw 15 – 20 mlynedd.  

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Shotton bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn Nhabl 1, paragraff 1.07 yr adroddiad yn cael eu nodi.

55.

Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 155 KB

Pwrpas:        Rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau am ddadansoddiad ôl-ddyledion rhent.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw y diweddariad gweithredol ar alldro diwedd blwyddyn 2019/20 ar gyfer casgliad rhent tai. Rhoddodd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Casglu Rhent:Alldro 2019/20;
  • 19/20 – Achosion sy’n arwain at droi allan am beidio â  thalu;
  • Dadansoddiad o Ôl-Ddyledion Rhent drwy’r math o hawliad;
  • Tenantiaid mewn Ôl-Ddyledion Rhent – Mawrth 2020; a
  • Casglu Rhent:20/21 Sefyllfa Ddiweddaraf (at wythnos 13)

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd tenantiaid ynghylch tenantiaid yn dod i ôl-daliad o ganlyniad i pandemig COVID-19, amlinellodd y Rheolwr Refeniw yr ymgysylltiad cynnar gyda thenantiaid i alluogi’r Cyngor gynorthwyo a chefnogi yn fuan iawn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin faint o denantiaid oedd wedi dod i ddyled oherwydd bod y Swyddfa yn Cysylltu wedi cau o ganlyniad i bandemig COVID-19, a pham nad oedd Swyddfa Treffynnon yn Cysylltu yn agor ar un pryd â rhai eraill yn Sir y Fflint.  Roedd yn bryderus ynghylch hyn gan fod y swyddfa hon yn cyflenwi ardal ddaearyddol eang yn Sir y Fflint. Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod heriau gyda thenantiaid a oedd yn dibynnu’n fawr ar daliadau arian parod, a nad oedd wedi gallu gwneud taliadau yn yr un modd. Roedd y Cyngor wedi bod yn ymgysylltu â’r tenantiaid hynny, a lle bo’n bosibl, yn eu hannog i wneud trefniadau amgen, gyda thua 100 o denantiaid ychwanegol yn talu drwy ddebyd uniongyrchol bellach. Y cyngor a roddwyd i denantiaid pan roeddynt eisiau parhau i wneud taliadau arian parod, oedd i sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud, pan roedd yn ymarferol i wneud. Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) cyn ail-agor y Swyddfeydd yn Cysylltu, roedd rhaid cynnal asesiad risg ac roedd yn amau mai'r rheswm bod swyddfa Treffynnon yn agor yn hwyrach oedd oherwydd lefel y risg.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Shotton ar effaith gadarnhaol y fenter ‘Gwario i Arbed’ ond cododd bryderon ynghylch y cynllun Credyd Cynhwysol a’r arhosiad am bum wythnos ar gyfer talu derbynwyr. Hefyd soniodd am y taliad Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) o £300k a oedd wedi’i dderbyn ar ôl y flwyddyn gyfrifyddu rhent wedi dod i ben, a gofynnodd os oedd hyn yn ddigwyddiad un-tro neu a oedd y taliad blynyddol gan DWP bob amser yn cyrraedd ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu. Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod mwy o denantiaid wedi mudo i Gredyd Cynhwysol oherwydd pandemig COVID-19. Cafodd y tenantiaid hynny eu symud i daliadau a reolir, ond roedd yr amser am daliadau gan DWP yn cymryd amser, a gobeithir y bydd newid yn fuan yn hyd amser yr oedd DWP yn anfon y taliadau i'r Cyngor, gan fod hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Lloyd ynghylch prif fannau lle mae ôl-ddyledion, eglurodd y Prif Swyddog na fyddai adnabod y prif fannau yn ddefnyddiol a bod ychydig o denantiaid ym mhob Cymuned sy’n gwrthod talu ac ymgysylltu â’r Cyngor.

 

Cododd y Cynghorydd Ron Davies bryderon ynghylch Credyd Cynhwysol a’r effaith negyddol mae hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

Housing Rent Income presentation pdf icon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

56.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.