Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

61.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

62.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Chwefror 2019.

 

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2019.

 

Cywirdeb

 

            Cofnod rhif 57: Strategaeth Dai a Chynllun Gweithredu – cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at ei sylw ar y fenter gymdeithasol ar Ynys Môn a gofynnodd i’r geiriad gael ei newid i ddarparu “adeiladau ffrâm coed” nid “adeiladau modiwlar”.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. 

63.

Adroddiad Diweddariad yn dilyn Adroddiad Archwilio Mewnol Grant Cyfleusterau Anabl 2017 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y cynnydd o ran y cynllun gweithredu rheoli gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-Daliadau adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd o ran y cynllun gweithredu rheoli gwasanaeth.    Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod Grant Cyfleuster i’r Anabl ar gael i berchnogion sy’n byw yn eu heiddo a thenantiaid preifat i helpu unigolion fyw gydag anabledd gyda’r gost o addasu eu cartrefi i'w galluogi i barhau i fyw yn eu heiddo.  Y mwyafswm grant ar gael yng Nghymru oedd £36k.  Lle roedd cais ar gyfer plentyn, neu bod yr ymgeisydd yn derbyn budd-daliadau cymhwysiad priodol, nid oedd yna brawf modd ac roedd cost yr addasiad hyd at fwyafswm y grant wedi’i roi.  Ar gyfer ceisiadau eraill roedd maint y grant yn amrywio o sero i fwyafswm yn dibynnu ar gost y gwaith a gymeradwywyd ac amgylchiadau ariannol yr ymgeisydd.    

 

Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau yn dilyn archwiliad mewnol bod bwrdd arolygiaeth wedi’i sefydlu ym mis Gorffennaf 2018 i sicrhau bod yna welliant digonol a brys ar gyfer darparu’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.  Roedd gwaith ar y gweill i fynd i’r afael a gweithredu’r argymhellion o fewn yr adroddiad archwilio ac adolygu darpariaeth gwasanaeth i wneud gwelliannau.   Roedd cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ynghlwm i’r adroddiad oedd yn manylu’r cynnydd a wnaed.   Roedd y Rheolwr Budd-Daliadau yn adrodd ar y gwelliannau a’r newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, fel y manylwyd yn yr adroddiad a dywedwyd y byddai gwaith yn parhau hyd 2019/20 i wella amseroedd ac ansawdd darpariaeth ymhellach a dod â’r gwasanaeth yn unol ag argymhellion yn dilyn Adroddiad Addasiadau Tai Swyddfa Archwilio Cymru a safonau gwasanaeth Addasiadau Tai Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cadeirydd, eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau lle roedd angen addasiadau roeddent yn anaddas ym mhreswylfa presennol yr ymgeisydd ac roedd Grant Adleoli Cyfleusterau i’r Anabl ar gael ar gyfer costau symud person anabl i eiddo mwy addas.     

 

Llongyfarchodd Aelodau’r Rheolwr Budd-Daliadau a’i thîm am eu gwaith a’u cyflawniadau i wella darpariaeth gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton a oedd cymorth pellach ar gael os oedd y gost addasiadau yn uwch na £36k o fwyafswm grant yn daladwy yng Nghymru.  Eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai Grant Ychwanegol yn ôl Disgresiwn yn cael ei ystyried mewn amgylchiadau eithriadol, hyd at swm o £39k, lle roedd cost y gwaith gofynnol yn fwy na’r terfyn statudol o £36k.   Hefyd, dywedodd y gellir cyflwyno benthyciad ychwanegol Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, a oedd yn fenthyciad yn ôl disgresiwn a sicrhawyd yn erbyn gwerth yr eiddo i ddiwallu costau’r addasiad oedd yn uwch na’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl a’r grant ychwanegol Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.    

 

  Ailategodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai swm y grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn dibynnu ar gost y gwaith cymeradwy a lle bo’n briodol amgylchiadau ariannol ymgeisydd.   Byddai prawf modd yn cael ei gynnal ar geisiadau ac eithrio ymgeiswyr sy’n blant lle roedd yr ymgeisydd h?n yn derbyn gostyngiad Treth y Cyngor a/neu Budd-dal Tai.

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin a oedd anghenion tymor  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

64.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bernie Attridge adroddiad i roi crynodeb o berfformiad ar gyfer Chwarter 3 (Hydref i Rhagfyr 2018) sefyllfa 20018/19 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.    

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad monitro Chwarter 3 yn adroddiad cadarnhaol ac yn dangos bod 92% o weithgareddau yn gwneud cynnydd da gydag 85% yn debyg o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.   Roedd 67% o’r dangosyddion perfformiad wedi diwallu neu ragori ar eu targedau.  Roedd risgiau yn cael eu rheoli gyda’r mwyafrif yn cael eu hasesu fel cymedrol (61%) a mân/ansylweddol 22%.   Roedd yr adroddiad yn eithriad yn seiliedig ar adroddiad ac felly yn canolbwyntio ar y meysydd oedd yn tanberfformio.

 

Roedd y Cynghorydd Attridge yn adrodd ar y dangosyddion perfformiad canlynol oedd yn dangos statws Coch Melyn Gwyrdd ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed:

 

·         Nifer cyfartalog y diwrnodau calendr a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl

·         bydd lefelau dyledion yn codi os nad yw tenantiaid yn gallu fforddio talu eu rhent neu dreth y cyngor

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at dudalen 166 o’r adroddiad a soniodd am effaith Credyd Cynhwysol a’r caledi a achoswyd i nifer o unigolion a theuluoedd oherwydd yr amser a gymerir i brosesu ceisiadau.   Dywedodd bod angen rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am y pryderon. 

 

Roedd y Rheolwr Budd-Daliadau yn cydnabod y pwyntiau a wnaed ac yn egluro bod gwaith wedi dechrau i nodi effaith Credyd Cynhwysol ar Denantiaid y Cyngor a’u cyfrifon rhent.    Dywedodd fod tîm wedi gweithio gyda thenantiaid gynted â phosibl i nodi ac ymyrryd yn fuan (os yn briodol) i atal problemau rhag codi a rhoi mwy o siawns o’r cyfrif rhent yn dod yn ôl o dan reolaeth ac allan o ôl-ddyledion.   Hefyd dywedodd fod gan y Cyngor bellach statws ‘Partner y Gellir Ymddiried ynddo’ gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau oedd yn golygu bod prosesau a llif gwybodaeth a thaliadau yn symlach ac yn awtomataidd.   Roedd casgliadau treth y cyngor yn parhau dan bwysau.    Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 26 Mehefin 2019.

 

 Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr anawsterau a brofwyd gan bobl ar incwm isel a’r angen i godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ac adolygu sut yr oedd yn cael ei hysbysebu.    Mewn ymateb, cytunodd y Rheolwr Budd-Daliadau i adolygu gwerth hysbysebu’r cynllun yn unol ag ymgyrch Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Adroddiad Monitro 2018/19 Cynllun y Cyngor Chwarter 3.

65.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol i’w ystyried.   Cytunodd y Pwyllgor ar yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf i’w gynnal ar 1 Mai, gydag adroddiad ychwanegol ar Adfywio Canol Tref.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at ei awgrym blaenorol ar gyfer adroddiad ar Fesuryddion Deallus i’w gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor.    Dywedodd ei fod wedi derbyn pryderon gan nifer o drigolion am newid cyflenwyr ynni, gosod a darlleniadau mesurydd anghywir.    Awgrymodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i nodyn briffio ar osod mesuryddion deallus ac unrhyw heriau a brofwyd gael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor er gwybodaeth. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei Ward ac awgrymodd bod angen adolygiad o Un Llwybr Mynediad at Dai.  Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod hwn wedi’i gynnal yn ddiweddar ac awgrymodd mai’r hyn oedd ei angen oedd adroddiad yn cynnwys rheoli tenantiaeth gyda phwyslais arbennig ar orfodaeth.    Cytunodd y Cynghorydd Hutchinson y byddai hyn yn ddefnyddiol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, wrth i'r angen godi.

66.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg ac un aelod o'r cyhoedd yn bresennol.