Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai yna newid bychan i drefn y rhaglen i ddwyn ymlaen eitem rhif 5 ar y rhaglen. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 26 Medi a 12 Hydref 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Diweddariad am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les - Cyflwyno’r Credyd Cynhwysol PDF 137 KB Pwrpas: I roi diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn manylu ar yr effaith o gyflwyno ‘gwasanaeth llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill, ynghyd â’r gwaith a wnaed gan y Tîm Ymateb i Ddiwygio Lles i gefnogi’r preswylwyr sydd wedi’u heffeithio yn Sir y Fflint.
Cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr aelwydydd yr effeithir arnynt gan y Rheolwr Budd-Daliadau ym mis Mehefin 2018. Roedd gostyngiad o ran nifer yr aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio gan yr uchafswm budd-daliadau is, fodd bynnag, roedd hyn yn dal i fod yn golled sylweddol i'w hincwm cyfunol. O’r 101 o aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio, roedd 85 ohonynt yn derbyn cymorth drwy Daliadau Dewisol Tai i wneud newidiadau i reoli eu hincwm yn well. Roedd y mwyafrif o aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio gan y cymhorthdal ystafell sbâr yn denantiaid Awdurdod Lleol a oedd ag un ystafell wely wag. Roedd Taliadau Dewisol Tai yn cael eu dyfarnu i denantiaid cymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn lliniaru effaith y cymhorthdal, fodd bynnag, roedd hyn yn datblygu’n ddatrysiad tymor hir oherwydd diffyg argaeledd eiddo llai.
Roedd ystod o gymorth yn cael ei geisio gan gwsmeriaid Credyd Cynhwysol Sir y Fflint a gwelwyd bod niferoedd wedi cynyddu o 337%. Roedd Cefnogaeth â Chymorth Digidol drwy Ganolfannau Sir Y Fflint Yn Cysylltu wedi helpu preswylwyr i reoli eu hawliadau a chysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd y galw am Gefnogaeth Cyllidebu Personol wedi arwain at gynnydd mewn cymorthfeydd ar draws y Sir ac roedd yr un tîm hefyd yn darparu cymorth cofleidiol i gyfeirio unigolion at gyngor ariannol arbenigol. Fodd bynnag, treuliwyd llawer iawn o amser yn gwirio neu’n herio cyfrifiadau a arweiniodd at apwyntiadau pellach ac oedi gyda thaliadau. Roedd y newidiadau arfaethedig o ran cyllid ar gyfer Cefnogaeth â Chymorth Digidol a Chefnogaeth Cyllidebu Personol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o fis Ebrill 2019 yn bryder enfawr a’r ansicrwydd o sut y byddai’r cymorth hwnnw yn parhau gyda Chyngor ar Bopeth. Roedd y cymorth cynnar hwn yn hanfodol er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu, ac fe godwyd y risg i'r Cyngor a phreswylwyr ar lefel genedlaethol. Roedd pryderon eraill a ddwysawyd er mwyn eu hystyried yn cynnwys dulliau gwahanol i gael gwared ar enwau ar gyd-denantiaethau a mynd i’r afael â cheisiadau Credyd Cynhwysol a oedd wedi’u hôl-ddyddio.
Mynegodd y Cynghorydd Attridge am ei falchder yn llwyddiant y tîm yn y gwasanaeth a sicrhaodd bod sylwadau yn parhau i gael eu gwneud ar ansicrwydd trefniadau ariannu yn y dyfodol.
Canmolodd y Cynghorydd Dolphin y tîm a dywedodd y dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd sylw o’r pryderon a godwyd gan y Cyngor o ystyried ei ran yn y cynllun peilot. Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau, gan fod cyllid Taliadau Dewisol Tai yn gallu cael ei newid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y bwriad oedd ei ddefnyddio fel datrysiad tymor byr i gefnogi preswylwyr a oedd wedi’u heffeithio gan ddiwygiadau lles (yn ogystal â rhai unigolion nad oedd wedi’u ... view the full Cofnodion text for item 37. |
|
Pwrpas: Darparu craffu gyda diweddariad gweithredol ar gasgliadau rhent, lefelau ôl-ddyledion presennol a'r strategaethau a fabwysiedir i liniaru risgiau ariannol i'r CRT wrth i Lywodraeth y DU wneud diwygiadau lles a chyflwyno Chredyd Cynhwysol. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad diweddaru ar gasgliad incwm rhent a’r effaith ariannol ar ôl-ddyledion rhent o fewn y Cyfrif Refeniw Tai o ganlyniad i ddiwygiadau lles dan arweiniad Llywodraeth y DU, yn enwedig cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol o fis Ebrill 2017.
Rhoddodd y Rheolwr Refeniw gyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:
· Golwg ar gyd-destun ehangach y diwygiad lles · Archwilio’r data yn bellach · Edrych ar faterion llif arian · Nodi’r sefyllfa bresennol · Llunio’r ffordd ymlaen – rheoli’r risgiau
Yn ystod y cyflwyniad, cyfeiriwyd at nifer o benawdau allweddol cenedlaethol a oedd yn tynnu sylw at effaith Credyd Cynhwysol ar ôl-ddyledion rhent. Roedd cymhariaeth o ffigyrau diwedd blwyddyn yn dangos bod ôl-ddyledion rhent yn dechrau lleihau yn 2016/17 cyn cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol ac wrth i’r arenillion rhent gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, roedd ôl-ddyledion rhent hefyd yn dueddol o gynyddu. Er bod y sefyllfa hon yn cael ei rheoli, roedd casglu rhent yn parhau i fod yn her sylweddol. Er mwyn dangos effaith Credyd Cynhwysol ar sefyllfa’r llif arian, rhoddwyd enghraifft o sut y gallai ôl-ddyledion rhent waethygu erbyn wythnos 8 ac ar y pwynt hwnnw gallai’r Cyngor wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau am daliadau a reolir. Fodd bynnag, roedd hyn yn cynnwys proses gymhleth ac roedd oedi’n debygol.
Roedd ystod o fesurau wedi’u mabwysiadu i gefnogi tenantiaid, yn benodol tenantiaid diamddiffyn, i reoli’r diwygiadau a mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent. Roedd dull mwy cadarn ar waith i ymgysylltu â thenantiaid yn gynt er mwyn ceisio deall pam nad oeddent yn talu a’u hannog i reoli eu harian er mwyn atal ôl-ddyledion rhag gwaethygu. Roedd adnoddau ychwanegol ar y Tîm Ymyrraeth Tai wedi helpu 362 o denantiaid i sicrhau bod eu hôl-ddyledion yn gyfredol. Byddai buddsoddi mewn meddalwedd dadansoddi data newydd, a ddefnyddir yn llwyddiannus ar hyn o bryd gan ddarparwyr tai eraill, o gymorth i ragweld achosion risg yn well.
Sicrhaodd y Cynghorydd Attridge bawb o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu’r cymorth hwn i denantiaid sydd wir angen help, ond nid oedd y Cyngor am gynnig ‘llwybr cyflym’ i’r broses adennill i’r unigolion hynny a oedd mewn dyled ond yn gwrthod ymgysylltu. Atgoffodd bawb fod lefelau casgliadau rhent o fudd i’r Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn ei dro o gymorth i adeiladu tai newydd.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Rheolwr Refeniw eglurhad o ran y tîm swyddogion a oedd yn ymdrin ag ôl-ddyledion rhent ac adennill rhai ôl-ddyledion drwy daliadau a reolir dros amser. Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ddilynol ar nifer y tenantiaid newydd (yn ystod y 12-18 mis cyntaf o’u tenantiaethau) a oedd mewn dyled.
Atgoffodd y Prif Swyddog bawb o’r gwiriadau a wnaed gan y Tîm Tai wrth ddyrannu eiddo a oedd o gymorth i ganfod tenantiaethau cynaliadwy.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Cymorth i Gwsmeriaid) fod gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol hefyd yn effeithio ar landlordiaid preifat. Roedd yr adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd gan ei thîm i ymgysylltu â thenantiaid yn ystod y camau ... view the full Cofnodion text for item 38. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth ystyried y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol, cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r diweddariad ar Fwrdd NEW Homes tan fis Mawrth 2019 a gohirio’r diweddariad ar y Diwygiad Lles o fis Mawrth.
Awgrymodd y Cynghorydd Dolphin y dylid cynnal gweithdy yn syth cyn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn helpu Aelodau i ddeall agweddau o’r Pwyllgor. Cytunodd y Cynghorydd Attridge y byddai hyn yn cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |