Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Ionawr 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019.
Cofnod rhif 51: Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 – Gofynnodd y Cynghorydd Shotton a oedd copi o’r rhaglen yn seiliedig ar ardaloedd ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru ar gael i Aelodau ac a oedd trefniadau wedi'u gwneud ar gyfer sesiwn galw heibio i Aelodau. Eglurodd yr Hwylusydd ei bod wedi siarad â Rheolwr y Tîm Gwaith Cyfalaf, a oedd wrthi’n casglu’r wybodaeth y gofynnodd yr Aelodau amdani yn y cyfarfod diwethaf.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Strategaeth Tai a chynllun gweithredu PDF 101 KB Pwrpas: Ystyried y Strategaeth Tai drafft cyn cymeradwyaeth y Cabinet. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Asedau a Thai) adroddiad a oedd yn amlinellu'r Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu drafft ar gyfer 2019-2024. Roedd y Strategaeth Tai a'r Cynllun Gweithredu yn nodi’r weledigaeth ynghylch sut y byddai’r Cyngor a’i bartneriaid yn diwallu anghenion o ran tai fforddiadwy, yn darparu cymorth perthnasol i drigolion ac yn sicrhau bod cartrefi cynaliadwy’n cael eu creu.
Amlinellodd y Prif Swyddog y nifer o gyflawniadau o’r Strategaeth Tai flaenorol, fel roeddent wedi'u nodi yn yr adroddiad, ac eglurodd y byddai’r Strategaeth gyfredol yn adeiladu ar gyflawniadau blaenorol yng nghyd-destun yr heriau a oedd yn wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd, fel diwygio'r gyfundrefn les, y cynnydd mewn digartrefedd ‘cudd’ a phrinder adnoddau. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r 3 blaenoriaeth a nodwyd gyda meysydd allweddol i weithredu arnynt ynghlwm â phob blaenoriaeth.
Roedd disgwyl i weithdy gael ei gynnal ym mis Chwefror 2019 gyda budd-ddeiliaid allweddol, Partneriaid Cymdeithas Dai'r Cyngor a grwpiau eraill, i adolygu'r cynllun gweithredu, er mwyn: sicrhau bod y camau gweithredu a nodwyd ar gyfer pob blaenoriaeth yn gynhwysfawr, yn ymarferol ac yn fforddiadwy; nodi unrhyw fylchau o ran y camau a restrwyd a nodi canlyniadau a sefydliadau arweiniol. Byddai fersiwn derfynol y Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu ar gael yng ngwanwyn 2019.
Canmolodd y Cynghorydd Shotton y swyddogion am yr adroddiad. Soniodd am y fenter gymdeithasol ar Ynys Môn a oedd yn darparu adeiladau ffrâm bren a gofynnodd a fyddai posib' ystyried adeiladu cartrefi tebyg er mwyn cyflymu'r rhaglen adeiladu tai ac ateb y galw cynyddol. Atebodd y Prif Swyddog gan ddweud bod nifer o wahanol gysyniadau adeiladu tai a oedd ar y farchnad ar hyn o bryd yn cael eu hystyried.
Soniodd y Cynghorydd Wisinger bod angen gwella mynediad i’r sector rhentu preifat a gofynnodd sut roedd landlordiaid lleol yn cael eu hannog i osod eu heiddo. Cydnabyddai’r Cynghorydd Attridge yr anawsterau wrth drafod gyda landlordiaid lleol a soniodd am ei bryderon bod nifer uwch o landlordiaid yn gwrthod ceisiadau gan bobl a oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol. Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai bod cyfarfod gyda landlordiaid lleol yn cael ei drefnu i ddod i ddeall eu pryderon yn well a gwella perthynas waith y Cyngor â nhw.
Dywedodd John Ennis, Cadeirydd Ffederasiwn y Tenantiaid, wrth y Pwyllgor ei fod wedi bod mewn cynhadledd yng Nghaerdydd a oedd wedi trafod dulliau adeiladu amgen a gofynnodd a oedd y Cyngor wedi derbyn unrhyw adborth o’r gynhadledd hon. Dywedodd y Prif Swyddog bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau adeiladu amgen a bod y Cyngor yn disgwyl am wybodaeth yngl?n â grant ar gyfer hyn.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Hughes, cytunodd y Prif Swyddog i gyflwyno adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol i'r Pwyllgor ar y cysyniad a'r opsiynau a oedd ar gael o ran defnyddio cartrefi unedol i gynyddu cyflenwad y Cyngor o dai.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Hutchinson ynghylch tai ffrâm bren a risg tân uwch, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd ... view the full Cofnodion text for item 57. |
|
Pwrpas: I ddarparu diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau ôl-ddyledion presennol. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw adroddiad a oedd yn rhoi mwy o’r wybodaeth weithredol ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf o ran casglu incwm rhent yn dilyn adroddiad diweddar i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2018. Er gwaethaf yr heriau parhaus sy'n deillio o nifer gynyddol o denantiaid yn symud o dderbyn y Budd-dal Tai i’r system Credyd Cynhwysol, roedd y sefyllfa gasglu ddiweddaraf yn dangos bod casglu rhent yn dechrau sefydlogi o ganlyniad i weithredu mesurau drwy fwy o adnoddau, ymyrraeth gynnar a mabwysiadu dull ‘rhent yn gyntaf', ac roedd cyfanswm y dyledion rhent yn gostwng o £2.22 miliwn i £2.14 miliwn.
I liniaru’r heriau ariannol ar gyfer y Cyngor, roedd gwaith y Timau Ymyrraeth Tai'n parhau ac roedd adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu i sicrhau bod tenantiaid a oedd ar ei hôl hi o ran rhent yn derbyn help a chymorth yn gynnar trwy ddull 'cyflym’. Rhannwyd copi o sefyllfa ddiweddaraf dyledion rhent y tenantiaid sy'n derbyn Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai i’r Pwyllgor.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod menter arall yn cael ei rhoi ar waith i wella'r systemau meddalwedd ategol sy'n llywio gwaith Swyddogion Gorfodi Rhent, er mwyn sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu targedu i’r tenantiaid hynny sydd angen yr help mwyaf i sicrhau bod rhent yn cael ei dalu ar amser.Roedd gwaith ymarferoldeb wedi’i wneud gyda darparwr meddalwedd ac roedd ei ddatrysiad ‘Rent Sense’ yn prysur ddod yn gyffredin ymysg y diwydiant tai i ddadansoddi amrywiadau talu, risg a phennu pa denantiaid i gysylltu â nhw a phryd. Roedd y feddalwedd yn defnyddio algorithmau i ddadansoddi patrymau talu, amlygu risg a darparu gwybodaeth ddamcaniaethol i gefnogi dull mwy penodol wedi'i dargedu o gasglu dyledion rhent.Byddai datblygu’r feddalwedd hon yn moderneiddio'r gwaith yn y Gwasanaeth Rhent ac yn helpu’r Gwasanaeth i ganolbwyntio’n fwy doeth ar y tenantiaid hynny sydd mewn mwy o berygl o fethu â thalu rhent, gan ryddhau adnoddau mewnol a olygai fod modd rhoi ymyraethau tai ar waith yn sydyn cyn i ddyledion fynd yn waeth.
Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Rheolwr Refeniw am yr adroddiad a’r wybodaeth ddiweddaraf. Dywedodd ei fod yn ddiweddar wedi gofyn am wybodaeth ynghylch dyledion Treth y Cyngor ar hyn o bryd a oedd wedi’u darparu gan y Rheolwr Refeniw ac a oedd yn dangos dyledion o £3.3 miliwn a gofynnodd a fyddai cynnydd i Dreth y Cyngor yn cael effaith ar ddyledion rhent. Eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai'r £3.3 miliwn o ddyledion yn parhau i ostwng gan fod gan breswylwyr yn Sir y Fflint nifer o wahanol ddiwrnodau yn ystod y mis y gallent ddewis talu Treth y Cyngor arnynt. Dywedodd mai’r Cyngor hwn oedd yn dal i berfformio orau o ran casglu Treth y Cyngor, gyda chyfradd gasglu o dros 99%, a oedd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 98%.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hardcastle hefyd at ddau achos o argyfwng roedd wedi ymdrin â nhw yn ei ward dros y penwythnos a dywedodd fod cwmni’r llinell gymorth ar gyfer y gwasanaeth y tu ... view the full Cofnodion text for item 58. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried ac fe gytunwyd ar y newidiadau canlynol:
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |