Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Mawrth 2019.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Pwrpas: Amlinellu ymdriniaeth y dyfodol o ran adfywio Canol Trefi yn y Sir. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad i ddisgrifio’r dull ar gyfer adfywio canol trefi’r sir.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad wedi’i lunio mewn ymateb i’r amodau economaidd heriol a wynebir gan ganol trefi; ymrwymiad yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 i ddatblygu ymateb; a phryderon ynghylch bywiogrwydd canol trefi Sir y Fflint a’r angen i’r Cyngor sefydlu dull rhagweithiol.
Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ar yr ystyriaethau allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad, mewn perthynas â’r dull ar gyfer adfywio canol trefi a chyfeiriodd ar yr heriau economaidd sy’n wynebu canol trefi ar draws y DU sy’n effeithio ar eu cynaliadwyedd.Darparodd amlinelliad o’r ymatebion arfaethedig i gynyddu defnydd amrywiol canol trefi ; i gryfhau rôl grwpiau budd-ddeiliaid lleol; ac i gefnogi busnesau addasu a chystadlu’n fwy effeithiol.Cyfeiriodd hefyd at ddarparu Gweledigaeth Dwf Gogledd Cymru sydd, trwy’r cam cychwynnol o brosiectau cyfalaf y Fargen Twf a rhaglenni ehangach o waith, yn golygu bod yna botensial i ddod â manteision sylweddol i ganol ein trefi.Eglurodd y byddai prosiectau penodol eraill fel seilwaith digidol yn helpu i wella cystadleurwydd busnesau a chysylltedd canol trefi.
Soniodd y Cadeirydd am gau banciau’r stryd fawr ac am y cynnig i godi tâl ar bobl am dynnu arian allan o beiriannau arian a fyddai, yn ei farn ef, yn cael effaith andwyol pellach ar yr angen i ymweld â chanol trefi.
Soniodd y Cyng. Rosetta Dolphin am effaith marchnadoedd stryd yn y sir a’u hyfywedd yn y dyfodol.
Siaradodd y Cyng. Paul Shotton am rôl Rheolwyr Canol Trefi a’u gwybodaeth a’u cysylltiadau lleol.Dywedodd fod yn rhaid i fudd-ddeiliaid, Cynghorau Tref a Chymuned a chymunedau gydweithio i ddatblygu cyfleoedd entrepreneuraidd.Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth am y rhaglen Ardal Gwella Busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r rhaglen yn canolbwyntio ar yr Wyddgrug ond dywedodd y byddai’n cael ei monitro i weld a fyddai modd cynnal y rhaglen mewn trefi eraill yn y sir.
Datganodd y Cyng. Dennis Hutchinson nifer o bryderon ynghylch adfywio canol tref Bwcle ac estynnodd wahoddiad i Aelod Cabinet Datblygu Economaidd a’r Rheolwr Menter ac Adfywio ddod i gyfarfod o Gyngor Tref Bwcle i drafod y ffordd ymlaen.Derbyniodd y Cyng. Derek Butler y gwahoddiad a phwysleisiodd fod y Cyngor yn croesawu pob awgrym ar gyfer gwelliant economaidd.Dywedodd fod yr holl gyfleoedd a gyflwynwyd wedi’u harchwilio’n fanwl a bod sawl adwerthwr mawr wedi’u cysylltu â nhw ond, am resymau masnachol, roeddynt wedi penderfynu peidio ag agor siopau newydd yn yr ardal.Siaradodd y Cyng. Butler hefyd am yr adnoddau cyfyngedig a’r amodau sydd ynghlwm wrth grantiau untro a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ardaloedd o amddifadedd.
Dywedodd y Cyng. Patrick Heesom fod angen rhwydwaith ffordd a gwasanaethau cludiant cyhoeddus gwell i ganol trefi er mwyn cynyddu nifer y busnesau a’r ymwelwyr.Gofynnodd hefyd fod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau ar adfywio canol trefi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull ar gyfer adfywio canol trefiSir y Fflint.
|
|
Datblygu Cysylltedd Digidol PDF 92 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar ddatblygiad isadeiledd digidol yng Ngogledd Cymru a Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad ar ddatblygu seilwaith digidol yng ngogledd Cymru a Sir y Fflint.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith digidol sydd wedi’i wneud hyd yma gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac, yn benodol, datblygiad Strategaeth Cysylltedd Digidol y rhanbarth. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol sy’n cael ei ddatblygu i ddiogelu cyllid gan Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.
Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth gefndir a chyflwynodd yr ystyriaethau allweddol, a nodir yn yr adroddiad, o ran Strategaeth Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru a’r rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol.
Gofynnodd y Cyng. Ted Palmer a fyddai datblygiadau preswyl newydd Sir y Fflint yn manteisio ar y buddsoddiad yn y rhwydwaith ffibr.Eglurodd y Rheolwr Rhaglenni Tai fod modd i dai Cyngor newydd elwa ar well cysylltedd digidol.
Yn ystod y drafodaeth ymatebodd t Rheolwr Menter ac Adfywio i gwestiynau’r Cyng. Rosetta Dolphin yngl?n â mynediad i’r rhwydwaith a mapio safleoedd strategol allweddol ar gyfer gogledd Cymru ac eiddo preswyl ‘gwyn’ yng ngogledd Cymru fel y nodir ar dudalennau 29 a 36 yr adroddiad.
Siaradodd y Cyng. Patrick Heesom am yr angen i wella mynediad ar gyfer cymunedau.Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cyng. Heesom, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor yn darparu mynediad wyneb yn wyneb a thros y ffôn i wasanaethau yn ogystal â darpariaeth ar-lein.Cyfeiriodd at fanteision buddsoddi yn y rhwydwaith ffibr a dywedodd fod y cynnig Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol ar hyn o bryd yn fuddsoddiad gwerth £9 miliwn yn y rhanbarth.Byddai darparu band eang ffibr llawn yn golygu cysylltedd o ansawdd uchel sydd fel rheol ond ar gael mewn ardaloedd trefol mawr a byddai hefyd yn gwella mynediad mewn lleoliadau anghysbell a gwledig.Byddai’r gwell cysylltedd i eiddo’r Cyngor drwy’r rhaglen hon hefyd yn creu cyfleoedd i wella gwasanaethau drwy dechnoleg sy’n addas i’r dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wneir i greu a gweithredu rhaglen uchelgeisiol ar gyfer cysylltedd digidol yng ngogledd Cymru.
|
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 71 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried.Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys yr eitemau canlynol ar raglen y cyfarfod nesaf ar 26 Mehefin 2019:
· Diweddariad ar Ddiwygio’r Gyfundrefn Les – Cyflwyno’r Credyd Cynhwysol · Adroddiad Monitro Chwarter 4/Diwedd y Flwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19 · Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd. · Diweddariad ar Incwm Rhent Tai · Cartrefi Unedol
Eglurodd yr Hwylusydd y byddai'n diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i gynnwys cyfarfodydd y Pwyllgor yn 2019/2020 yn dilyn ystyried yr amserlen cyfarfodydd ddrafft yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir ar 7 Mai. Dywedodd yr Hwylusydd y bydd adroddiad ar dracio camau gweithredu yn cael ei gynnwys fel eitem sefydlog ar raglen y Pwyllgor yn dilyn y prosiect prawf a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.Cytunwyd hefyd y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar ddechrau cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
|
|
Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048 Pwrpas: I ystyried Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048. Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng. Sean Bibby, Aelod Cabinet Dros Dro Tai, yr adroddiad i ystyried Cynllun Busnes NEW Homes ar gyfer 2019/2048.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Cynllun Busnes yn nodi elfennau allweddol y Strategaeth Ddatblygu arfaethedig i gynyddu nifer yr eiddo rhent fforddiadwy yn ystod y tair blynedd nesaf.Soniodd am y prif ystyriaethau, a nodir yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at Gynlluniau Busnes, Strategaeth Ddatblygu a Chynllun Perfformiad NEW Homes (gweler yr adroddiadau).
Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y Rheolwr Rhaglenni Tai i gwestiynau’r Cyng. Rosetta Dolphin yngl?n â’r ddarpariaeth yn y Strategaeth Ddatblygu arfaethedig i ddiwallu anghenion pobl h?n.Ymatebodd hefyd i sylwadau pellach gan y Cyng. Dolphin yngl?n â NEW Homes yn rhoi'r gorau i ddarparu gwasanaeth rheoli gosodiadau ar gyfer landlordiaid preifat.
Soniodd y Cyng. Ted Palmer am y trafodaethau a gafodd gyda’r Aelod Cabinet blaenorol yngl?n â chodi rhandai meddiannaeth sengl ar safle hen Ysgol y Fron yn Nhreffynnon.Dywedodd y Rheolwr Rhaglenni Tai nad oedd yn ymwybodol o’r drafodaeth ond y byddai’n siarad gyda'r Cyng. Palmer ar ôl y cyfarfod.
Yn ystod y drafodaeth ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol holodd y Cyng. Mike Reece ynghylch hen safle Depo Canton.Dywedodd y Prif Swyddog fod cynllun yn bosibl yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
Cafodd y swyddogion eu llongyfarch gan yr Aelodau am lwyddiannau NEW Homes hyd yma.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Busnes NEW Homes ar gyfer 2019/48; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd mewn Benthyca Darbodus drwy’r Cyngor (hyd at £20 miliwn) i’w fenthyg i NEW Homes at ddibenion datblygu a phrynu cartrefi newydd, ar yr amod bod NEW Homes yn cwrdd â’r paramedrau benthyg cytunedig.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 11.55 am)
|