Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Yn dilyn marwolaeth y Cyng. Ron Hampson, mae’n rhaid penodi cadeirydd newydd. Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd. Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur. Gan y penodwyd y Cynghorydd Ian Dunbar i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau’r Cynghorydd Ian Dunbar fel Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 PDF 137 KB Pwrpas: Darparu'rrhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 yn ogystal â’r pwysau ariannol a’r opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Cymuned a Menter.
Diwygiwyd y rhagolwg ariannol a oedd wedi’i nodi yn adran 1.04 yr adroddiad, i ystyried y penderfyniadau a wnaed fel rhan o gyllideb 2017/18, a’i ddiweddaru â’r wybodaeth ddiweddaraf o ran pwysau gan bortffolios gwasanaeth. Defnyddiwyd setliad yr un fath neu debyg i waelodlin ariannol 2017/18 fel sail ar gyfer cyfrifo'r rhagolwg ar gyfer 2018/19 ac nid oedd unrhyw fodel ar gyfer codi lefelau Treth y Cyngor wedi’i gynnwys yn ystod y cam hwn.
Daeth y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol i’r casgliad bod cam un y cynigion ar gyfer y portffolio gwasanaeth yn cael eu cyflwyno drwy gydol mis Hydref i'w hadolygu gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Roedd y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref, 2017. Roedd y setliad terfynol i’w gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn galendr, yn dilyn datganiad cyllideb Canghellor y Trysorlys ar 22 Tachwedd 2017.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) i gyflwyno'r Datganiad Gwytnwch a’r Modelau Gweithredu ar gyfer y portffolio Cymuned a Menter.
Amlinellodd y Prif Swyddog y Datganiad Atgyfnerthu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd manylu ar yr arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi'u gwneud hyd yma ac effeithiau’r arbedion effeithlonrwydd hyn ar y gwasanaethau o fewn y portffolio Cymuned a Menter.
Rhoddodd Rheolwr Cyllid y Gwasanaethau Cymunedol fanylion am yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer 2018-19, sef cyfanswm o £0.837m a £0.893m, fel y manylir yn y Model Gweithredu yn y Dyfodol, a ddangosir yn Atodiad 2. Roedd yr arbedion arfaethedig yn cynnwys trefniadau newydd ar gyfer taliadau ffôn i gysylltu â’r Gwasanaeth Cysylltiadau, addasiad i ddarpariaeth dyledion gwael, effeithlonrwydd y gweithlu ac arbedion y Cynllun CTRS.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at Hawliau Lles a’r aelodau o staff Sir y Fflint sy’n gweithio gyda Chyngor ar Bopeth, gan helpu i gefnogi hawlwyr gyda Chredyd Cynhwysol a gafodd oblygiadau mawr. Gofynnodd a ddylai llywodraethwyr ysgol dynnu mwy o sylw at argaeledd prydau ysgol am ddim. Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai y dylid lobio unrhyw un a allai ddylanwadu’n genedlaethol neu’n lleol, am nad oedd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio gan deuluoedd a allai gael mynediad ato. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at brydau ysgol am ddim, gan awgrymu y byddai mwy o sgyrsiau gyda rhieni yn fuddiol er mwyn annog y defnydd ohonynt.
Croesawodd y Cynghorydd Dolphin y cynnig o ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, er mwyn lleihau nifer y teuluoedd sy’n gorfod aros mewn llety gwely a brecwast. Rhoddodd sylw hefyd ar y Tîm Hawliau Lles a chafodd sioc mai dim ond 2 aelod o staff oedd yn y tîm, gan ofyn a oedd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir.
Mewn ymateb, rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai sylw am hawlwyr credyd cynhwysol ... view the full Cofnodion text for item 22. |
|
Rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Domestig PDF 106 KB Pwrpas: I roi’r newyddion diweddaraf am gyflawni rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r canlynol:-
· Y Rhaglenni Effeithlonrwydd Ynni Domestig a ddarparwyd yn Sir y Fflint dros y blynyddoedd diwethaf i gartrefi yn stoc y Cyngor a'r sector preifat; · Y cyfanswm o 4325 o gartrefi a gafodd gefnogaeth yn y pum mlynedd diwethaf; ac · Amlinelliad o’r mesurau a fyddai’n arbed arian i gartrefi yn y dyfodol ac a fyddai hefyd yn arbed dros 123,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid.
Roedd y cyllid gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn gyfyngedig ar gyfer rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig i gartrefi'r sector preifat, ac roedd dyfodol cyllid ynni yn aneglur.
Roedd y prif raglenni gwaith a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:-
· Paneli ffotofoltaidd solar · Inswleiddio waliau allanol · Cynlluniau Mewnlenwi Nwy · Prosiect peilot oddi ar nwy · Cronfa mewn Argyfwng Cynhesrwydd Fforddiadwy a chynllun Cartrefi Iach Pobl Iach, a · Chyngor ar Ynni ac Ymgysylltiad â'r Gymuned drwy Ganolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru
Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton y mentrau inswleiddio atig a phaneli solar, a fyddai’n darparu arbedion ar gyfer preswylwyr, a gofynnodd a oedd unrhyw beth newydd ar arbed ynni yn cael ei ystyried ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod tariffau effeithlonrwydd a thariffau cymdeithasol yn cael sylw ar hyn o bryd. Cytunodd y Cynghorydd George Hardcastle gyda sylwadau’r Cynghorydd Shotton hefyd, a gofynnodd os mai dim ond ar gyfer byngalos oedd y rhaglen solar. Gofynnodd hefyd faint fyddai cost gosod y rhain, a beth fyddai’n digwydd pe na bai’r preswylydd am gael eu gosod.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio nad dim ond ar gyfer Byngalos oedd y paneli hyn, ond bod y rhaglen wedi'i dylunio i ddarparu'r budd mwyaf i breswylwyr. Cost gosod y paneli yw rhwng £3,500 a £4,000 am set lawn o baneli. Pe bai preswylydd yn gwrthod cal paneli solar, yna ni fyddai paneli solar yn cael eu gosod. Ond yn y dyfodol, pe bai preswylydd newydd yn yr eiddo am gael paneli solar, byddai'n cael ei ychwanegu at y rhaglen bosibl ar gyfer y flwyddyn honno ac, os yn bosibl, byddent yn cael eu gosod.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig a ddarperir yn Sir y Fflint. |
|
Diweddariad Cymunedau yn Gyntaf PDF 93 KB Pwrpas: I roi’r newyddion diweddaraf am Raglen Cymunedau yn Gyntaf. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad, gan ddarparu gwybodaeth gefndir i'r Pwyllgor ar sefydliad y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn 2001 i fynd i'r afael â thlodi. Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) fod y rhaglen yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018. Ni fyddai rhaglen gyflogi Cymunedau dros Waith yn cael ei effeithio a byddai’n parhau tan fis Mawrth 2020.
Byddai LlC yn gweithredu dwy raglen newydd o 1 Ebrill 2018 ymlaen:- · Y Gronfa Etifeddiaeth, a fydd yn cynnig cyllid ar raddfa fach i Gyrff Cyflenwi Lleol, er mwyn galluogi iddyn nhw barhau i ddarparu gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf effeithiol, am ddwy flynedd arall.
· Byddai’r ail raglen, y rhaglen Cyflogadwyedd, yn rhoi'r seilwaith rheoli i Gyrff Cyflenwi Lleol ar gyfer y rhaglen Cymunedau dros Waith
Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio mai rôl y swyddfeydd yn y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug a Glannau Dyfrdwy oedd dod o hyd i waith i bobl, ac y bu cyflawniad a ffocws sylweddol yn Sir y Fflint, gan ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant. Rhaglen Fentora LIFT, a oedd yn rhan o Cymunedau'n Gyntaf ac a ariannwyd tan 31 Mawrth 2018. Byddai’r Gronfa Etifeddiaeth yn rhoi rhai opsiynau.
Amlinellodd y cynigion yn y ffrwd waith cyflogadwyedd yn rhaglen Cynnig Gogledd Cymru, a ddyluniwyd i ddod i hyd i waith i fwy o bobl mewn tlodi:-
· Codi Cyflogaeth Gogledd Cymru · Y Banc Sgiliau · Rhaglen Gyrfaoedd a Chanllawiau Uwch · Rhaglen Bwrsarïau yn y Gweithle, a · Prentisiaethau a lleoliadau gwaith
Cyfeiriodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygiad Economaidd, at yr adroddiad ac yn benodol at bob un o'r mentrau a ddarparwyd a'r ystod o gynlluniau recriwtio a oedd wedi galluogi i bobl gael swydd. Teimlai bod yr adroddiad ar y cyfan yn tynnu sylw at y berthynas waith dda sydd gan y Cyngor gyda busnesau lleol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Cytunwyd y byddai eitem SARTH yn cael ei symud i'r cyfarfod yn y gwanwyn, ynghyd ag adroddiad diweddaru ar Safon Ansawdd Tai Cymru a Chartrefi Newydd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at y cyflymder y bu i swyddog tai ddelio ag ymateb brys gan Carelink, a gofynnodd i'w ddiolch gael ei basio i'r swyddog am ei waith caled.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton i adroddiad ar fesuryddion deallus gael ei gynnwys yn y Rhaglen Waith i'r Dyfodol i'w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |