Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

65.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a Hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol gan y Cadeirydd i ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau parthed y Gronfa, ar wahân i’r rheiny a gofnodwyd eisoes yng nghofrestr y Gronfa.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad newydd.

66.

Cofnodion pdf icon PDF 111 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Mehefin 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd Mr Hibbert, o ran tudalen 11 y cofnodion, bod Mrs Fielder wedi anfon rhagor o ohebiaeth gan Robeco – sy’n well eu trafod dan eitem rhif 13.

 

            Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023.

PENDERFYNWYD:

Bod cofnodion cyfarfod 29 Mawrth 2023 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

67.

Adroddiad Blynyddol drafft a Chyfrifon 2022/23 pdf icon PDF 89 KB

I Aelodau’r Pwyllgor ystyried Adroddiad Blynyddol drafft a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2022/23 a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ac i wneud Aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o’r ymateb i Lythyr Ymholiadau Archwilio 2022/23 a’r Cynllun Archwilio 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Michelle Phoenix, Rheolwr Archwilio Ariannol, Archwilio Cymru (sy’n gyfrifol am archwiliad allanol y gronfa) gefndir i’r cynllun archwilio. Eglurodd fod y cynllun archwilio manwl ar gyfer archwiliad 2022-23 yn cynnwys negeseuon allweddol at sylw’r Pwyllgor ac amlygodd y bydd dull newydd i’r archwiliad eleni yn sgil cyflwyno Safon Archwilio Rhyngwladol 315 (ISA 315). Mae ISA 315 yn rhoi mwy o bwyslais ar gynllunio’r archwiliad ac yn cynnwys dull gronynnog sy’n edrych yn fanwl ar gyfrifon y gronfa a rheolaethau mewnol, gan nodi risgiau sy’n berthnasol i’r archwiliad. Mae hyn yn golygu archwiliad gyda mwy o ffocws a mwy o waith yn cael ei wneud cyn archwilio’r datganiadau ariannol. Mae’r newid hwn wedi arwain at gynnydd yn y ffi: 10.2% o’r cynnydd yn sgil ISA 315, yn ogystal â chostau ychwanegol oherwydd chwyddiant.

 

Dywedodd fod dau aelod o’r tîm archwilio yn aelodau gohiriedig o’r Gronfa, ond bod mesurau diogelu yn eu lle i sicrhau nad oedd hyn yn effeithio ar annibyniaeth yr archwiliad.

            Aeth Mrs Fielder drwy’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon drafft, sy’n rhaid eu cyhoeddi cyn 1 Rhagfyr pob blwyddyn yn unol â rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Cadarnhaodd fod Swyddog Adran 151 Cyngor Sir y Fflint wedi adolygu’r cyfrifon a bod ei sylwadau wedi’u cynnwys. Diolchodd i Mercer am eu cefnogaeth wrth baratoi’r adroddiad a dywedodd fod y ddogfen hon i’w hystyried ar ei ffurf drafft, ac y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud o ran cyflwyniad a hygyrchedd y ddogfen cyn cyflwyno’r fersiwn archwiliedig derfynol i’r Pwyllgor ei chymeradwyo ar 29 Tachwedd.

Dywedodd Mrs Fielder, wrth baratoi’r Adroddiad Blynyddol drafft, fod y gronfa yn ceisio cydymffurfio â chanllawiau CIPFA. Amlygodd, ar dudalen 152 y pecyn, y gost wirioneddol o gymharu â’r gyllideb – sy’n dangos gorwariant o £4.9 miliwn ar y gyllideb £23.7 miliwn, yn bennaf oherwydd gorwariant o £5.5 miliwn ar dreuliau rheoli buddsoddiadau. Eglurodd Mrs Fielder beth oedd y treuliau rheoli buddsoddiadau a nododd y llynedd fod y gronfa wedi tangyllidebu ar gyfer ffioedd buddsoddiadau, yn enwedig ffioedd perfformiad yn y portffolio marchnad breifat.

Siaradodd am y cyfrifon a’r adroddiad ariannol, yn cynnwys y llif arian o gymharu â’r gyllideb ac eglurodd y rhesymau dros rai o’r amrywiadau. Yna aeth drwy rannau olaf yr Adroddiad Blynyddol, yn cynnwys y strategaethau a’r polisïau allweddol a fydd yn cael eu cynnwys yn adran 5 yr adroddiad terfynol.

Dywedodd Mr Hibbert bod yr adroddiad blynyddol yn ffordd dda i feirniadu cynnydd y gronfa ar draws sawl maes. Diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r broses am yr holl waith sydd wedi’i wneud a’r cynnydd yn ystod y flwyddyn.

Soniodd y Cyng. Swash am y daflen ffeithiau Good Economy a gyfeirir ati yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at y 10% a fuddsoddwyd yng Nghymru, gyda hanner hynny wedi’i fuddsoddi yng Nghronfa Clwyd, a bod arno eisiau adolygu’r data yn fanylach. Diolchodd i’r swyddogion am ddarparu’r adroddiad.

PENDERFYNWYD:

a)    Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol drafft y Gronfa ar gyfer 2022/23 yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon drafft.

b)    Nodi a  ...  view the full Cofnodion text for item 67.

68.

Ymgynghoriad Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Ynghylch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Camau Nesaf o ran Buddsoddiadau pdf icon PDF 127 KB

Galluogi Aelodau’r Pwyllgor i ddarparu sylwadau a barn ar yr ymgynghoriad, ac i ddirprwyo cymeradwyaeth o ymateb y Gronfa i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Aeth Mr Latham drwy’r adroddiad Mae’r swyddogion a’r ymgynghorwyr yn cynnig ymateb drafft i’r ymgynghoriad, ond maent yn nodi y dylai’r ymateb terfynol fod gan y Pwyllgor. Felly gofynnir i’r Pwyllgor ddarparu sylwadau. Mae’r ymateb arfaethedig wedi’i lunio o safbwynt Cronfa Bensiynau Clwyd. Bydd cronfeydd eraill o fewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn debygol o gael eu heffeithio mewn ffyrdd gwahanol ac felly yn amlygu materion gwahanol.

 

            Dywedodd Mr Latham y bydd PPC yn cyflwyno ei ymateb ei hun i’r ymgynghoriad a bydd gan y Gweithgor Swyddogion ac I, fel aelod o’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, gyfle i ddarparu mewnbwn. Gobeithir y bydd cysondeb yn yr ymatebion gan gronfeydd ar draws Cymru ac felly mae’r atodiad yn nodi meysydd allweddol y mae’r Gronfa yn bwriadu defnyddio barn PPC unwaith maent wedi cytuno ar eu hymateb hwy.

            Nid yw’r ddogfen ymgynghori yn nodi a yw PPC yn cael ei heithrio o’r isafswm maint cronfa arfaethedig o £50 biliwn. Fodd bynnag, mae swyddogion yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi awgrymu nad oes bwriad i ofyn am gyfuno trawsffiniol felly byddai PPC yn cael eithriad. Efallai y bydd ymateb PPC yn pwysleisio hynny. Eglurodd Mr Latham fod ymateb y gronfa wedi’i ddrafftio ar sail bod y Pwyllgor yn hapus i PPC barhau â’i threfniant presennol a gofynnodd i’r Pwyllgor gadarnhau a yw hynny’n wir, ac nid oedd gwrthwynebiad i hynny.

Aeth drwy bwyntiau allweddol yr ymateb drafft gan nodi nad yw barn swyddogion ac ymgynghorwyr yn ategu’r cynigion yn yr ymgynghoriad, gan amlygu:

-       Barn y Gronfa o ran y dylai’r strategaeth fuddsoddi barhau i gael ei phenderfynu arni’n lleol gan y Pwyllgor ac na ddylai cronfeydd orfod darparu cyngor ar fuddsoddi gan y byddai hynny’n ymddangos fel achos o wrthdaro buddiannau.

-       Y cynnig y dylid alinio strategaethau buddsoddi’r cronfeydd cyfansoddol yn agos iawn. Mae gan y Gronfa ei rhwymedigaethau ei hun ac yn rheoli risgiau o ran chwyddiant a chyfraddau llog mewn ffyrdd gwahanol i gronfeydd eraill. Dan y cynigion ni fyddai’r Gronfa yn gallu parhau â’r strategaeth bresennol.

-       Mae’r Gronfa eisoes yn gwneud gwaith o ran buddsoddiadau ffyniant bro, yn cynnwys y gwaith gyda Good Economy, ac yn alinio gyda’r rhan fwyaf o’r cynigion yn y maes hwn. Fodd bynnag, mynegodd Mr Latham bryderon ynghylch y cynnig i adrodd yn erbyn 12 nod ffyniant bro y llywodraeth bresennol. Dywedodd fod y diwydiant yn parhau i wneud cynnydd wrth adrodd yn erbyn nodau datblygu cynaliadwy, ac roedd o’r farn bod y rhain yn dargedau mwy addas i alinio â nhw. Fe ddywedodd hefyd nad yw’r 12 nod yn ymddangos fel eu bod yn cynnwys ynni adnewyddadwy.

-       Mae gan y Gronfa hanes hir o fuddsoddi mewn ecwiti preifat – nid yw pob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gwneud hynny. Fodd bynnag, yn hytrach na chyfyngu hyn i ecwiti preifat awgrymodd y dylai'r diffiniad gael ei ehangu i farchnadoedd preifat er mwyn cynnwys buddsoddiadau dyled a dosbarthiadau asedau eraill.

           

            Dywedodd Mr Latham mai dyddiad cau ymateb i’r ymgynghoriad oedd 2  ...  view the full Cofnodion text for item 68.

69.

Cyflwyniad Cod Stiwardiaeth Drafft pdf icon PDF 135 KB

Darparu cyflwyniad Cod Stiwardiaeth Drafft i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfer ei ystyried ac i ddirprwyo cymeradwyaeth y fersiwn terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Eglurodd y Cadeirydd fod y Gronfa llynedd wedi’i derbyn fel llofnodwr i’r cod stiwardiaeth newydd a bod hynny’n gydnabyddiaeth ffurfiol o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Gronfa o ran stiwardiaeth asedau. Cynigir bod y Gronfa yn ailymgeisio eleni er mwyn cynnal y statws llofnodi.

            Eglurodd Mr Dickson fod yr adroddiad stiwardiaeth bellach yn cynnwys pob dosbarth o asedau. Ar dudalen 225 amlygodd y 12 egwyddor y mae’r Gronfa yn eu defnyddio i adrodd yn erbyn y cod stiwardiaeth, ac eglurodd fod yr adroddiad wedi’i osod i fynd i’r afael â phob egwyddor. Mae’r Gronfa wedi cynnwys adborth manwl FRC ar gyflwyniad y flwyddyn flaenorol yn yr adroddiad drafft. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r cod yw 23 Hydref 2023, cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ac felly gofynnir i’r Pwyllgor ddarparu unrhyw adborth ac awgrymu newidiadau, a dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gronfa gymeradwyo’r fersiwn derfynol. Dywedodd y bydd unrhyw newid i’r polisi Buddsoddiad Cyfrifol yn ystod y cyfarfod hwn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad stiwardiaeth terfynol i ddangos sut mae’r Gronfa yn parhau i wneud cynnydd ac adrodd ar y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.

PENDERFYNWYD:

a)    Ystyriodd y Pwyllgor gynnwys y Cod Stiwardiaeth drafft a gwneud sylwadau arno.

b)    Dirprwyodd y Pwyllgor gyfrifoldeb ar gyfer cymeradwyo’r cyflwyniad terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

70.

Polisi Buddsoddi Cyfrifol o fewn y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi pdf icon PDF 117 KB

Darparu’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol diwygiedig i Aelodau’r Pwyllgor yn cynnwys y polisi gwaharddiadau newydd ar gyfer ymgynghori.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Eglurodd y Cadeirydd fod gan y Gronfa nifer o sesiynau hyfforddiant ar y pwnc yma, a bod geiriad arfaethedig y buddsoddiad cyfrifol wedi’i gylchredeg cyn y cyfarfod yn barod at ei gyflwyno i’r Pwyllgor ei gymeradwyo.

 

            Aeth Mr Turner drwy adran Buddsoddiad Cyfrifol y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi gan amlygu meysydd allweddol o newid.

-       Y newid mawr cyntaf yw sefydlu fframwaith chwe cham clir i asesu addasrwydd ac effaith bosibl unrhyw waharddiad a ystyrir gan y Pwyllgor, ar dudalen 227 y pecyn.

-       Ar dudalen 330 mae newidiadau wedi’u gwneud i eiriad targed 4, sef mynd i’r afael â mandadau cynaliadwy erbyn 2030 o fewn y portffolio ecwiti a restrir. Mae’r targed wedi’i newid o 30% i 100% erbyn 2030, gan adlewyrchu’r ffaith bod y Gronfa wedi newid i is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy PPC. Bydd y targed hwn yn gofyn i PPC/Russell ymchwilio i bosibilrwydd o is-gronfa marchnadoedd newydd cynaliadwy. Os nad yw hyn yn ymarferol, byddai’r Gronfa o bosibl yn ystyried newid y buddsoddiadau hyn i is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy sy’n bodoli’n barod.

 

            Mae adborth ar y geiriad arfaethedig wedi’i dderbyn gan Mr Hibbert a’r Cyng. Swash cyn y cyfarfod.

-       O ran y paragraff olaf ar dudalen 330 ac ar dudalen gyntaf tudalen 331, roedd y Cyng. Swash wedi gofyn a yw hyn yn ddigon cryf mewn perthynas â rhoi’r gorau i fuddsoddi yn y diwydiant tanwyddau ffosil – mae Pennaeth y Gronfa wedi darparu ymateb. Eglurodd Mr Turner fod hyn wedi’i ystyried ond cynigir bod y Gronfa yn cadw’r geiriad presennol sy’n seiliedig ar ddiffiniad yr IIGCC (Institutional Investors Group on Climate Change) o gwmnïau tanwydd ffosil sy’n fwy cynhwysfawr ac sy’n dal cwmnïau drud ar garbon ar draws pob sector, yn cynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu a chludiant.

-       Roedd y Cyng. Swash hefyd wedi awgrymu tynnu rhywfaint o’r geiriad yn y polisi gwaharddiadau, ac mae’r newid yma wedi’i wneud.

-       Roedd Mr Hibbert wedi awgrymu geiriad ychwanegol o ran gweithredu i waredu cwmnïau yr ystyrir bod yr ymgysylltu yn aneffeithiol. Yn seiliedig ar yr adborth yma mae’r geiriad drafft wedi’i ddiweddaru gan gydnabod y cydbwysedd rhwng dyheadau’r Pwyllgor ac ymarferoldeb gwaredu mewn cysylltiad â’r trafodaethau parhaus mewn perthynas â phroses uwchgyfeirio PPC.

 

            Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn cymeradwyo’r geiriad.

            Aeth Mr Turner drwy’r Polisi Eithriadau arfaethedig yn y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi. Dywedodd fod datganiad y Bwrdd Pensiynau Lleol o gymeradwyaeth ar gyfer y broses a’u cefnogaeth ar gyfer dull buddsoddi sy’n alinio a Paris, yn briodol. Cadarnhaodd y byddai newid arfaethedig y Bwrdd i’r polisi eithriadau yn cael ei wneud. Eglurodd mai prif amcan y rhan hon o’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi oedd egluro dyheadau’r Pwyllgor ar gyfer eithrio, a sut mae’r rhain yn cael eu cydbwyso yn erbyn yr heriau gweithredu a’r ymgysylltiad parhaus a fydd ei angen gyda PPC.

            Gan gyfeirio at y targedau allweddol yn y portffolio Ecwiti a Restrir ar dudalen 330, holodd y Cyng. Swash a yw’r nod “targedu holl bortffolio Ecwiti a Restrir i gael ei fuddsoddi mewn mandadau cynaliadwy erbyn 2030” yn  ...  view the full Cofnodion text for item 70.

71.

Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau pdf icon PDF 154 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.

72.

Diweddariad Gweinyddu / Cyfathrebu Pensiynau pdf icon PDF 147 KB

Darparu’rwybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.

 

73.

Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu pdf icon PDF 146 KB

Darparudiweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Mr Hibbert a yw’r Gronfa yn gallu ystyried cyd-barti gwahanol i JP Morgan o fewn y Fframwaith Arian Parod a Rheoli Risg. Eglurodd Mr Dickson er bod banciau mawr eraill ar gael, pan gafodd y mandad ei gychwyn, dewiswyd JP Morgan drwy broses adolygu gynhwysfawr a ystyriodd ffactorau fel gweithredu, ESG a ffioedd. Dywedodd fod y cyd-bartïon amgen hefyd yn debygol o fod yn fanciau buddsoddi ac nad oes dewis perffaith ar gael.

 

Gofynnodd Mr Hibbert pa mor aml mae’r dewis yma’n cael ei adolygu. Eglurodd Mr Dickson fod yna broses adolygu flynyddol ond mae’r broses o ddewis rheolwr yn cael ei chychwyn yn seiliedig ar ba un ai yw JP Morgan yn cyflawni eu rôl ai peidio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried, nodi ac yn gwneud sylwadau ar y diweddariad.

 

74.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 116 KB

Darparudiweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad y Gronfa dros y cyfnodau hyd at ddiwedd mis Mehefin 2023, ynghyd â’r diweddariad ar y Farchnad a’r Economi.

 

75.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan A Chyllid pdf icon PDF 112 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn ystyried cynnwys yr adroddiad a’r camau amrywiol a gymerwyd.

76.

Partneriaeth Pensiwn Cymru

Derbyn y meini prawf gwerthuso ar gyfer caffael gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru i’w gymeradwyo, a darparu eitemau preifat ar y rhaglen gan Gyd-bwyllgor Llywodraethu PPC ac unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â chronfeydd preifat. 

Cofnodion:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cyflwynwyd a thrafodwyd yr eitem hon ar y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)    Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso ar gyfer ymarfer caffael gweithredwr PPC yn 75% ansawdd a 25% pris.

b)    Nododd y Pwyllgor fod PPC yn adrodd ar fenthyca stoc ac ymgysylltiad, a chytunwyd y dylid cylchredeg hyn i’r Pwyllgor cyn cyfarfodydd, ond na ddylid ei gynnwys ar raglenni.

c)    Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar eu hymateb i adolygiad themâu stiwardiaeth PPC.

 

77.

Ailstrwythuro Arfaethedig y Tîm Gweinyddol

Darparu gwybodaeth gefndir a dadansoddiad o lif gwaith i Aelodau’r Pwyllgor, er mwyn cefnogi’r cynnig ar wneud newidiadau i gyllideb a strwythur y tîm Gweinyddu Pensiynau.

Cofnodion:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cyflwynwyd a thrafodwyd yr eitem hon ar y rhaglen.

PENDERFYNWYD:

 

a)    Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i strwythur sefydliadol y Tîm Gweinyddu Pensiynau.

b)    Nodi’r cynnydd cychwynnol o £113,000 yn y costau staffio blynyddol.

 

78.

Cyfarfodydd Y Dyfodol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor nodi’r dyddiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol:

-       Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023

-       Dydd Mercher 28 Chwefror 2024

-       Dydd Mercher 20 Mawrth 2024

-       Dydd Mercher 19 Mehefin 2024

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodwyd dyddiadau’r cyfarfodydd gan y Pwyllgor.