Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

35.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol gan y Cadeirydd i ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau parthed y Gronfa, ar wahân i’r rheiny a gofnodwyd eisoes yng nghofrestr y Gronfa.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

36.

Cofnodion pdf icon PDF 124 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Tachwedd 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyn derbyn y cofnodion, cododd Pennaeth y Gronfa, Mr Latham, y mater a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol yngl?n â pha un a ddylai cyfarfodydd Pwyllgorau yn y dyfodol gael eu cynnal o bell neu ar ffurf hybrid. Crybwyllwyd hyn gyda Chyngor Sir y Fflint; fodd bynnag, daethpwyd i’r casgliad nad oedd cyfarfodydd hybrid yn ymarferol ar hyn o bryd. Yr oedd Mr Latham wedi dosbarthu holiadur byr cyn y cyfarfod er mwyn gwneud arolwg o’r hyn yr oedd aelodau’r Pwyllgor yn ei ffafrio. Nododd fod aelodau Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn arolwg hirach yn flaenorol ar y pwnc gan Wasanaethau Pwyllgorau, ond gofynnodd i holl Aelodau’r Pwyllgor ymateb er mwyn adlewyrchu safbwyntiau’r Pwyllgor cyfan.

           

            Parthed y cofnodion, dywedodd Pennaeth y Gronfa – gan gyfeirio at y wybodaeth ddiweddaraf am God Stiwardiaeth y Cyngor Adrodd Ariannol ar dudalen 11 – fod y Gronfa wedi cael gwybod yn union cyn dechrau’r cyfarfod hwn bod cais Cod Stiwardiaeth y Gronfa wedi bod yn llwyddiannus.

            Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022.

PENDERFYNWYD:

Cafodd cofnodion cyfarfod 23 Tachwedd 2022 eu derbyn a’u cymeradwyo a bydd y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

37.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddadansoddi Newid Hinsawdd pdf icon PDF 193 KB

Darparu Adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd (TCFD) arfaethedig a’r Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd i Aelodau’r Pwyllgor i’w nodi a darparu sylwadau arnynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd y Cadeirydd fod y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd a dadansoddeg hinsawdd wedi eu trafod yn fanwl yn y sesiwn Hyfforddiant Hanfodol ddiweddar a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, ac, o ystyried bod yr adroddiad ar gyfer nodi’n unig, gofynnodd am gyfyngu cwestiynau / sylwadau i eglurhad o wybodaeth yn yr adroddiad a meysydd dealltwriaeth.

             Crynhowyd prif bwyntiau Adroddiad Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd agoriadol arfaethedig y Gronfa gan Mr Gaston o Mercer, a’r dadansoddiad o adnodd Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd. Dywedodd fod dull gweithredu’r Gronfa mewn perthynas â newid hinsawdd wedi ei ddogfennu’n dda yn Strategaeth Fuddsoddi’r Gronfa o ran credoau, prosesau a monitro ôl troed carbon, ochr yn ochr â buddsoddiadau mewn datrysiadau buddsoddi sy’n ymwybodol o’r hinsawdd. Y mae ymgynghoriad wedi bod ar adroddiadau’r Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond nid yw’r gofynion wedi eu cwblhau eto. Mae’r Gronfa wedi llunio ei hadroddiad cyntaf flwyddyn yn gynnar, gyda’r bwriad o fireinio’r dull gweithredu a’i wneud yn unol â rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pan fyddant wedi eu gwneud.

            Parthed adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd, pwysleisiodd Mr Gaston y canlynol:

-       Mae adroddiadau’r Tasglu wedi eu hanelu at gwmnïau, rheolwyr asedau a pherchnogion asedau (gan gynnwys cronfeydd pensiynau). Yr oedd y Gronfa’n ystyried hyn fel fframwaith arferion gorau, gan annog datgeliadau cywir, llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau da parthed newid hinsawdd, ac annog safoni ledled y farchnad i ganiatáu i fuddsoddwyr nodi, asesu a rheoli’r risgiau a chyfleoedd.

-       Y pedwar piler sy’n cynnal y fframwaith yw Llywodraethu, Strategaeth, Rheoli Risg, a Metrigau a Thargedau. Strwythurwyd yr adroddiad drafft ar y seiliau hyn.

            Aeth Mr Gaston yn ei flaen i roi crynodeb o’r pedwar piler fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.

            Dywedodd Mr Hibbert nad oedd yr asesiad a ddarparwyd yn cynnwys Dyraniad Asedau Tactegol y Gronfa. Nododd fod asesiad blaenorol wedi dangos bod gan y portffolio Tactegol ddwysedd carbon uwch am bob punt a fuddsoddir na’r mwyafrif o ddosbarthiadau asedau eraill, os nad y cyfan. Gofynnodd Mr Hibbert pam yr hepgorwyd y dyraniad hwn o’r asesiad presennol. Eglurodd Mr Gaston fod y Dyraniad Asedau Tactegol wedi ei gynnwys yn yr asesiad o fewn gwahanol fetrigau yn unol â faint oedd ar gael, a nodwyd y rhain yn yr atodiadau. Yr oedd y canlyniadau hynny’n dangos bod gan nifer o’r daliadau hynny ddwysedd carbon uwch na gweddill y portffolio. Nid yw’r Gronfa wedi gosod canllawiau a thargedau ffurfiol yngl?n â’r daliadau hynny eto, a nodwyd hyn fel cam nesaf o ran ehangu’r gwaith o osod targedau y tu hwnt i’r Ecwitïau Rhestredig i’r portffolio ehangach.

            Cyfeiriodd Mr Hibbert at ddatganiad ar dudalen 37, “Mae gan y Gronfa ymrwymiad i arfer ei hawliau perchnogaeth ynghlwm wrth ei buddsoddiadau”, a gofynnodd pwy oedd yn ymdrin â hyn mewn perthynas â stociau a rheolwyr cronfa yn y Dyraniad Asedau Tactegol. Eglurodd Mr Gaston fod  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Adolygiad a Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi pdf icon PDF 165 KB

Darparu argymhellion i Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn yr adolygiad o’r Strategaeth Fuddsoddi, a Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi arfaethedig i'w gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Harkin o Mercer yr argymhellion yn dilyn Adolygiad y Strategaeth Fuddsoddi, a Datganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi, gan bwysleisio’r canlynol:

 

-       Yr oedd proses adolygu Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi wedi ei hoedi rywfaint oherwydd yr effaith a gafodd cyllideb fechan y Canghellor blaenorol ar farchnad Fondiau Llywodraeth y DU a ffactorau eraill sydd wedi dadsefydlogi marchnad y DU.

-       Effaith cronni a thrawsnewidiad y Gronfa i ddefnyddio cyfalaf drwy PPC.

-       Themâu cyfredol gan gynnwys yr argyfwng ynni, digwyddiadau geowleidyddol, chwyddiant, a’r cyfle i elwa o drawsnewidiadau.

-       Rôl y dosbarthiadau asedau cyfredol, gan gynnwys y Fframwaith Rheoli Risg ac Arian Parod, sydd â rôl gefndirol bwysig o ran mantoli risgiau ar gyfer y Gronfa.

-       Yr oedd enillion disgwyliedig y Gronfa yn fwy na’r gyfradd ostyngiad yr oedd ei hangen gan Actiwari’r Gronfa.

 

            Eglurodd Mr Harkin y rhesymau dros y mân newidiadau i’r dyraniad asedau, a oedd yn cynnwys:

-       Lleihau cydran ecwitïau’r marchnadoedd sy'n datblygu o 10% i 5%. Byddai’r 5% dros ben yn cael ei symud i Ecwitïau Marchnadoedd Datblygedig, a fyddai yn y pen draw yn cael ei fuddsoddi yng Nghronfa Gynaliadwy Ecwiti Byd-eang PPC.

-       Lleihau dyraniad y Gronfa Fantoli o 7% i 5%. Dyrennid y 2% dros ben i’r Gronfa Leol / Effaith.  Ychwanegodd Mr Dickson y byddai’r dyraniad Lleol / Effaith 6% hwn – yn ogystal ag adlewyrchu athroniaeth gynaliadwy ac athroniaeth effaith y Gronfa – yn cyd-fynd ac yn mynd y tu hwnt i gynlluniau disgwyliedig y Llywodraeth i gyflwyno’r orfodaeth i leoli 5% o asedau’n lleol – gyda ‘lleol’ yn golygu o fewn y DU.

 

            Dywedodd Mr Hibbert – yngl?n â’r buddsoddiad Ffyniant Bro ac Effaith – y bydd anhawster am fod effaith tai fforddiadwy / cymdeithasol yn cael ei ganolbwyntio yn y de-ddwyrain, felly byddai diffyg cyfleoedd buddsoddi wedi eu canoli mewn lleoedd eraill yn y DU.

            Gofynnodd Mr Hibbert hefyd i Gylch Gorchwyl Portffolio Dyraniad Tactegol, y cyfeirir ato ar dudalen 144, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w adolygu. Cytunodd Mr Harkin, a nododd y bydd yn cael ei adolygu yn unol â’r gwaith arfaethedig i ymgorffori fframwaith buddsoddi cyfrifol newydd i’r Dyraniad Asedau Tactegol.

            Cyfeiriodd Mr Hibbert at Ddatganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi ar dudalen 155, a gofynnodd am ychwanegu cyfeiriad at gynrychiolydd aelodau cynllun heb bleidlais ar y Cydbwyllgor Llywodraethu. Cytunodd Mrs McWilliam y byddai hyn yn ychwanegiad defnyddiol. Cyfeiriodd Mr Hibbert hefyd at dudalen 160, sy’n datgan mai “Ymgysylltu yw’r dull gorau o alluogi’r newid…”, ac eto amlygodd yr angen am eglurder yngl?n â phryd y gwneid penderfyniad am ddadfuddsoddi.

            Mewn perthynas â’r argymhellion, dywedodd y Cynghorydd Swash ei fod wedi rhoi ei farn o’r blaen bod dyddiad targed sero net y Gronfa, sef 2045, yn rhy hwyr. Pwysleisiodd fod Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog wedi cytuno ar 2030 fel targed. Cyfeiriodd y Cynghorydd Swash at Ddatganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi (tudalen 161), gan amlygu targedau allyriadau carbon allweddol o fewn y Portffolio Ecwitïau Rhestredig. Cynigiodd y Cynghorydd Swash ddiwygiad i’r paragraff  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Datganiad Strategaeth Gyllido pdf icon PDF 103 KB

Darparu’r Datganiad Strategaeth Gyllido i Aelodau’r Pwyllgor i’w gymeradwyo, yn dilyn ymgynghoriad â chyflogwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Mr Middleman, Actiwari’r Gronfa, i fynd drwy bwyntiau allweddol yr adroddiad gyda’r Pwyllgor.

           

-       Yn dilyn cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft gan y Pwyllgor ym mis Tachwedd, yr oedd yr ymgynghoriad â chyflogwyr yn annog cyflogwyr i ddarparu adborth. Darparodd nifer o gyflogwyr ymatebion cadarnhaol yn gyffredinol mewn perthynas â llunio’r strategaeth, a oedd yn caniatáu’r hyblygrwydd i gyflogwyr i reoli eu cynaliadwyedd ariannol eu hunain yng nghyd-destun sefyllfa gyllido well y Gronfa.

-       Yr oedd Datganiad y Strategaeth Gyllido yn gosod fframwaith gyda gofyniad isafswm cyfraniad cyflogwr yr oedd y Gronfa’n ei deimlo oedd yn gynaliadwy; fodd bynnag, mynegodd nifer o gyflogwyr fwriad i dalu mwy na’r isafswm gofynnol hwn er mwyn cynorthwyo cynaliadwyedd cyfraniadau ymhellach. Nododd Mr Middleman fod hyn yn ganlyniad cadarnhaol a’i fod yn dangos bod y negeseuon yngl?n â chynaliadwyedd wedi eu clywed ac y gweithredwyd arnynt.

-       Yn dilyn ymgysylltu â’r cyflogwyr, ni chafwyd unrhyw newidiadau i ragdybiaethau sylfaenol yn yr adroddiad ers i’r Pwyllgor dderbyn y drafft. Tynnodd Mr Middleman sylw tuag at baragraffau 1.08 ac 1.09, a oedd yn rhoi sylw i ddau newid i’r strategaeth ers y drafft.

o   Yr oedd risg hinsawdd wedi ei feintioli gan yr actiwari gan ddefnyddio goblygiadau o dan wahanol sefyllfaoedd. Gwnaed hyn ar sail gyson i ddadansoddiad ar yr enillion disgwyliedig, fel y trafodaethau cynharach.

o   Ychwanegwyd geiriad i’r polisi Terfynu yn nodi y gall cyflogwyr adael y Gronfa gyda chredyd neu ddyled ymadael, gan alluogi’r gallu ffurfiol i adolygu’r polisi, ond nodwyd nad oedd disgwyl i unrhyw rai o’r cyflogwyr, neu lawer ohonynt, adael y Gronfa.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r gweithgareddau fu ers y cyfarfod ym mis Tachwedd 2022, gan gynnwys ymgysylltu â chyflogwyr.

(b)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Datganiad y Strategaeth Gyllido.

 

40.

Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu pdf icon PDF 151 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Hughes y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am Fuddsoddi ac Ariannu, gan amlygu’r canlynol:

-       Mewn perthynas â diweddariad y cynllun busnes, yr oedd pob un namyn un o’r tasgau allweddol a amlygwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor wedi eu cwblhau – manylion yn 1.01.

-       Cyhoeddodd Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) ymgynghoriad yn ddiweddar yn cynnig newidiadau i broses rheoli costau’r Bwrdd Cynghori Cynllun – crynodeb yn 1.03. Ni ddisgwylid i hyn gael unrhyw effaith uniongyrchol ar y Gronfa.

-       Cydnabuwyd y Gronfa yn Gronfa Bensiynau y Flwyddyn yng Ngwobrau Effaith Environmental Finance.

-       Amlygodd Mr Hughes adroddiad gan Robeco ar effaith gymdeithasol Deallusrwydd Artiffisial, ymysg astudiaethau eraill.

-       Mae’r Gronfa’n parhau i nodi cyfleoedd cynaliadwy, ac mae wedi gwneud dau ymrwymiad yn ddiweddar. Sef:

o   £15 miliwn i Newcore (Cronfa V), rheolwr eiddo tirol yn y DU, yn arbenigo mewn isadeiledd cymdeithasol.

o   £17 miliwn (tua $20 miliwn) i Sandbrook (Cronfa I), cronfa isadeiledd hinsawdd cyntaf rheolwr o UDA.

-       Yr oedd y Gronfa wedi llenwi swydd wag Cynorthwyydd Gweinyddol Llywodraethu’n ddiweddar, fodd bynnag, y mae dwy swydd wag yn parhau i fod yn y tîm Cyllid. Y flaenoriaeth oedd llenwi swydd y Prif Gyfrifydd, a oedd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi diweddariad Buddsoddi ac Ariannu.

 

41.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyfuno Asedau pdf icon PDF 111 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf am gronni gan Mr Latham, Pennaeth y Gronfa Bensiynau, ac amlygodd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

-       Ysgrifennodd y Gronfa’n wreiddiol i PPC i ofyn am Gronfa Ecwiti Cynaliadwy Gweithredol, a byddai pob un o’r 8 cronfa yng Nghymru bellach yn gwneud buddsoddiadau i hwn. Disgwylid i’r gronfa ddod yn weithredol ym mis Ebrill 2023, gan olygu na fyddai effaith dyraniad 15% arfaethedig y Gronfa’n dod i rym tan ar ôl dyddiad adrodd y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd ym mis Mawrth 2023. Felly, nid adroddid arno tan fis Medi 2024, yn seiliedig ar y data fel ag y bydd ym mis Mawrth 2024.

-       Ni fu diweddariad yn ymwneud â materion Link Fund Solutions Ltd ers trafodaeth ddiwethaf y Pwyllgor. Pe bai’r Awdurdod Cynnal yn darparu diweddariad pellach, byddai’r wybodaeth hon yn cael ei hanfon ymlaen at y Pwyllgor.

-       Yr oedd PPC yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar gaffael contract y gweithredwr. Bydd Mr Latham a Mrs Fielder yn mynd i ddigwyddiadau ymgysylltu gyda phartïon sydd â diddordeb yng Nghaerdydd, ynghyd â chyfarfod rheolwyr eiddo PPC posibl.

-       Parthed Marchnadoedd Preifat, byddai’r ymrwymiadau ar gyfer Credyd Preifat, Ecwiti Preifat ac Isadeiledd yn barod i fynd y flwyddyn nesaf. Yr oedd ystyriaethau’n cael eu gwneud yngl?n â sut i reoli cost hyn. Y bwriad oedd defnyddio Mercer ar gyfer y Portffolio Effaith, hyd nes y bydd rhywbeth cyfwerth ar gael o fewn PPC.

-       Cynhelid hyfforddiant PPC ar 27 Chwefror, yn cwmpasu llawer o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, ac yr oedd gwahoddiad i holl aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd.

 

            Parthed y polisi benthyca stoc, gwnaeth Mr Hibbert sylw am yr eglurhad bod PPC yn gallu benthyca hyd at 95% o unrhyw stoc, am ffi. Gofynnodd Mr Hibbert a oes unrhyw fwriad i atal benthyca stoc dros y cyfnod pleidleisio fel y gellid eu hadalw. Nododd hefyd fod swm y cyfranddaliadau a bleidleisiwyd yn adroddiad Robeco yn ymddangos yn eithriadol o isel, a gofynnodd am eglurhad am hyn.

            Parthed ail gwestiwn Mr Hibbert yngl?n â swm y cyfranddaliadau a bleidleisiwyd, cadarnhaodd Mr Latham y byddai’n ymchwilio i hyn. Yngl?n â’r cwestiwn am fenthyca stoc, eglurodd Mr Latham fod cynrychiolwyr y Gronfa wedi bod mewn sesiwn hyfforddi ar fenthyca stoc, a oedd yn agored i aelodau’r Cydbwyllgor Llywodraethu’n unig. Disgwyliai y byddai hyn yn arwain at gyflwyno adroddiad i Gydbwyllgor Llywodraethu PPC ar fenthyca stoc, yn cwmpasu’r pwyntiau a godwyd gan Mr Hibbert yngl?n ag adalw stoc at ddibenion pleidleisio. Yr oedd Mr Latham yn tybio mai safbwynt y Gronfa fyddai i adalw’r stociau hynny er mwyn gallu pleidleisio arnynt, ond gofynnodd i’r Cadeirydd, a oedd hefyd yn bresennol yn yr hyfforddiant, i gadarnhau hyn, ac fe wnaeth. 

            Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn falch bod cynnydd yn cael ei wneud ar y mater hwn. Gofynnodd Mr Hibbert yngl?n â chytundeb blaenorol y Pwyllgor i ysgrifennu at Robeco yngl?n â hwy’n pleidleisio ar gwmnïau yn  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 106 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd crynodeb o amgylchedd a sefyllfa’r farchnad dros y flwyddyn ddiwethaf gan Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa, Mr Dickson, ac amlygodd ffactorau a fu’n effeithio ar farchnadoedd dros y flwyddyn ddiwethaf a’r chwarter diwethaf. Yna, eglurodd Mr Dickson sut oedd hyn wedi effeithio ar berfformiad y Gronfa:

 

-       Dros y chwarter diwethaf (30 Medi i 31 Rhagfyr) yr oedd asedau’n wastad.

-       Dros y flwyddyn yr oedd perfformiad y Gronfa wedi gostwng yn gyffredinol o 10.6%, gyda llai o enillion yn enwedig mewn ecwitïau a chredyd aml-ased. Cynhyrchodd Marchnadoedd Preifat enillion cadarnhaol ar gyfer y Gronfa, yn enwedig gyda Sterling yn gwanhau, fel ag y gwnaeth y Dyraniad Asedau Tactegol a’r cronfeydd mantoli.

-       Yr oedd yr olwg tair blynedd – sy’n bwysig ar gyfer dull gweithredu hirdymor y Gronfa – yn parhau i ddangos enillion cadarnhaol.

-       Rhoddodd Mr Dickson y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am berfformiad ers dechrau’r flwyddyn galendr pan fo’r marchnadoedd wedi bod yn gadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodwyd perfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2022 gan y Pwyllgor, ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi, a oedd i bob pwrpas yn egluro’r sefyllfa.

 

43.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 107 KB

Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gydag Aelodau’r Pwyllgor am y sefyllfa ariannu, a gweithrediad y Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid gan gynnwys argymell diweddariadau i’r Cynllun Dirprwyo sy’n gysylltiedig â Fframwaith Rheoli Risg y Gronfa i’w cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Aeth Mr Middleman drwy’r adroddiad hwn gyda’r Pwyllgor, gan wneud y pwyntiau allweddol canlynol:

 

-       Yr oedd y llwybr hedfan a’r fframwaith cyffredinol yn gweithio fel y disgwylid yn dilyn y cyfnod anwadal.

-       Gwnaed nifer o newidiadau i gynnal digon o hylifedd er mwyn i’r fframwaith weithio fel y disgwyl.

-       Yr oedd lefel yr ariannu ar y dyddiad prisio, 31 Mawrth 2022, yn 105%, a bu gostyngiadau bychain dros y flwyddyn ond erbyn diwedd mis Rhagfyr yr oedd hyn wedi dychwelyd i 105%, ac arhosodd o gwmpas y ffigwr hwnnw.

 

Dywedodd Mr Middleman, ar adegau o anwadalrwydd, yr oedd rhaid gwneud unrhyw newidiadau i ymateb i newidiadau yn y farchnad yn gyflym. Arweiniodd hyn at y newidiadau a awgrymwyd i egluro dirprwyaethau i Bennaeth y Gronfa yn atodiad yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn ystyried cynnwys yr adroddiad.

(b)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r diweddariadau arfaethedig i Gynllun Dirprwyo’r Gronfa.

44.

Cofnodion y Bwrdd Pensiynau (30 MEDI 2022) pdf icon PDF 91 KB

Darparu cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiynau a gynhaliwyd ar 30 Medi 2022 i’w nodi gan Aelodau’r Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried crynodeb o’r wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod diwethaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiynau a gynhaliwyd ar 30 Medi 2022.

 

45.

Cyfarfodydd Y Dyfodol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor nodi’r dyddiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor:

-       29 Mawrth 2023

-       21 Mehefin 2023

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodwyd dyddiadau’r cyfarfodydd gan y Pwyllgor.