Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

23.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ran y rhai a oedd yn bresennol o Mercer, datganodd Mrs McWilliam a Mr Harkin gysylltiad mewn perthynas ag eitem 12 ar y rhaglen a gadawsant y cyfarfod tra oedd eitem 12 yn cael ei thrafod.

 

Datganodd y Cynghorydd Wedlake gysylltiad oherwydd ei fod yn aelod o’r Gronfa Bensiynau a Chyngor Cymuned Coedpoeth. Nododd ei fod hefyd yn aelod o SERA.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau eraill.

24.

Cofnodion pdf icon PDF 130 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 31 Awst  2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Gwnaeth Mr Hibbert sylw ar yr adran yngl?n â llythyr Michael Lynk a’r 17 o gwmnïau a oedd yn gormesu pobl Palestina. Dywedodd ei fod eisiau egluro ei fod yn awgrymu ffordd bosibl i ddadfuddsoddi o’r cwmnïau hynny heb gael ein cyhuddo o gymryd rhan mewn boicot anghyfreithlon. Nodwyd hyn gan y Cadeirydd.      

           

            Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 31 Awst 2022.

PENDERFYNWYD:

Bod cofnodion cyfarfod 31 Awst 2022 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

25.

Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd 2021/22 pdf icon PDF 107 KB

Darparu Aelodau’r Pwyllgor ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd a archwiliwyd ar gyfer eu cymeradwyo, a’r adroddiad archwilio allanol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr eitem hon gan Mrs Fielder.  Cadarnhaodd mai dim ond dau newid mân oedd wedi cael eu gwneud i’r cyfrifon ers ystyried y cyfrifon drafft yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Cadarnhaodd y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Amlygodd ddatganiad yn y cyfrifon a gywirwyd ym mharagraff 1.08. Roedd hyn yn ymwneud â phrisiadau’r farchnad breifat ym mis Rhagfyr oherwydd cynnydd o oddeutu £1.3 miliwn a gafwyd o ganlyniad i dderbyn prisiadau nad oedd wedi’u cyflawni fis Mawrth.

-       O ystyried cynnwrf y farchnad ym mis Medi, ychwanegwyd nodyn digwyddiad sy’n dilyn y fantolen.

-       Roedd tudalen 199 yn cynnwys y llythyr sylwadau a oedd yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth a ddatgelwyd yn wir ac yn gywir. Argymhellodd y dylai’r Pwyllgor gymeradwyo hyn.

 

            Nododd Ms Wiliam, Arweinydd Archwilio Cronfa Bensiynau Clwyd, y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Roedd safonau archwilio rhyngwladol yn golygu bod angen tynnu sylw’r Pwyllgor at faterion penodol cyn cymeradwyo’r cyfrifon. Ni allai Archwilio Cymru roi sicrwydd llawn bod y cyfrifon hyn wedi’u nodi’n gywir ond roedd yn gweithio yn unol â lefel berthnasedd a allai olygu bod unrhyw gyfrifon dros y lefel honno yn gamarweiniol. Roedd y swm o ran y lefel berthnasedd eleni yn £24.917 miliwn a defnyddiwyd lefel is o £1,000 ar gyfer datganiadau parti cysylltiedig mewn perthynas â staff rheoli allweddol. 

-       Roedd Archwilio Cymru yn annibynnol o’r Gronfa yn ystod yr archwiliad ac yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar ôl derbyn y llythyr sylwadau wedi’i lofnodi. Byddai’r archwilydd yn llofnodi hwn ar 28 Tachwedd 2022.

-       Nid oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro yn y cyfrifon, fodd bynnag, roedd diwygiadau a oedd wedi’u nodi yn Atodiad 3. Ar ôl cwblhau’r archwiliad, byddai Archwilio Cymru yn cwrdd â’r tîm cyllid i drafod sut aeth y prosiect.

            Diolchodd Ms Wiliam i Mrs Fielder a’r tîm cyllid am eu cymorth yn ystod yr archwiliad.

            Gofynnodd y Cynghorydd Hughes a oedd unrhyw un wedi mynegi diddordeb yngl?n â swydd wag Cyfrifydd y Gronfa. Cadarnhaodd Mrs Fielder bod Adran Adnoddau Dynol y Cyngor wrthi’n gwerthuso’r swydd ar hyn o bryd cyn y gellid ei hysbysebu. Roedd hyn hefyd yn wir am y swydd Cynorthwy-ydd Gweinyddol Llywodraethu.

PENDERFYNWYD:

(a)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Gronfa ar gyfer 2021/22 yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon.

(b)          Bod y Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon.

(c)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau terfynol.

26.

Datganiad Strategaeth Gyllido Drafft pdf icon PDF 127 KB

Darparu Aelodau’r Pwyllgor â chanlyniadau’r Prisiad Actiwaraidd cychwynnol a’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft i’w ystyried, adolygu a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori gyda Chyflogwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Eglurodd Mr Middleman mai pwrpas y Datganiad Strategaeth Gyllido oedd i gydbwyso fforddiadwyedd cyfraniadau cyflogwyr yn erbyn cynaliadwyedd cyfraniadau yn y tymor hir ac iechyd ariannol y Gronfa. Nododd y pwyntiau allweddol canlynol yngl?n â’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft:

-       Bydd y Datganiad Strategaeth Gyllido drafft yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad â chyflogwyr ar gyfraddau cyfraniad cyflogwyr o 1 Ebrill 2023. 

-       Pwysleisiwyd er bod y Datganiad Strategaeth Gyllido yn strwythur i gefnogi cyfraniadau cynaliadwy, mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i ystyried hyn yng nghyd-destun eu cyllidebau eu hunain, yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae cyfathrebu â chyflogwyr ar y mater hwn yn hollbwysig, oherwydd bod derbyn cyfraniadau llawer iawn llai r?an, oherwydd sefyllfaoedd cyllido gwell, am ei gwneud yn anoddach i gyflawni cyfraniadau cynaliadwy yn y dyfodol. Byddai gohebiaeth ysgrifenedig a thrafodaethau yn cael eu cynnal, yn cynnwys yn y Cyd-Gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol ym mis Rhagfyr 2022 a byddai adborth gan gyflogwyr ar ffactorau amrywiol yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn rhoi cymeradwyaeth derfynol i’r Datganiad Strategaeth Gyllido ym mis Chwefror 2023.

-       Mae isafswm cyfraniad ar gyfer cyflogwyr wedi’i osod drwy baramedrau’r Datganiad Strategaeth Gyllido i dargedu cynaliadwyedd yn y dyfodol, ac mae hyblygrwydd o fewn y paramedrau hyn i gyflogwyr allu talu mwy na’r isafswm yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

 

            O ran y paramedrau allweddol ar gyfer rhagdybiaethau o baragraff 1.05 ymlaen, nodwyd y canlynol gan Mr Middleman:

-       Mae budd-daliadau yn ymwneud â chwyddiant ac felly caiff rhwymedigaethau eu gyrru gan chwyddiant.   Roedd hyn yn rhagdybiaeth allweddol fel rhan o brisiad 2022.

-       Roedd sawl safbwynt am lefel uchel chwyddiant ar hyn o bryd a pha mor hir y byddai’n parhau, a’i bod yn bwysig i’r Gronfa roi ystyriaeth resymol i’r lefel hon dros y blynyddoedd nesaf. Cynigwyd cynyddu lefel gyfartalog hirdymor chwyddiant o 2.4% y flwyddyn i 3.1% y flwyddyn, a oedd yn adlewyrchiad o’r disgwyliad y byddai chwyddiant yn aros yn uchel dros y blynyddoedd nesaf ac yna’n lleihau.

-       Yr agwedd arall o ran chwyddiant oedd y ffaith fod y cynnydd pensiwn a roddwyd yn seiliedig ar chwyddiant yn y 12 mis o fis Medi i fis Medi bob blwyddyn. Felly roedd disgwyl i’r cynnydd pensiwn yn 2023 fod yn 10.1%. Felly, roedd penderfynwyd cynnwys lwfans ar gyfer chwyddiant hysbys i fireinio llif arian y Gronfa h.y. y rhwymedigaethau.

-       Caiff cyfraniadau cyflogwyr eu gyrru gan y berthynas rhwng yr enillion disgwyliedig ar yr asedau (cyfradd gostyngiad) a chyfradd chwyddiant, gan fod hyn yn pennu cyfran y buddion a delir amdanynt drwy enillion asedau yn y tymor hir yn erbyn y rhai hynny a delir amdanynt drwy gyfraniadau cyflogwr.

-       Ar ddyddiad y prisiad, roedd gan Mr Middleman syniad o’r hyn fyddai efallai’n rhagdybiaeth resymol ar gyfer y gyfradd gostyngiad a chwyddiant ond, o fis Mawrth 2022, gwelwyd newid sylweddol i gyfraddau llog, disgwyliadau a’r rhagolygon economaidd byd-eang.  Ystyriwyd hyn a daethpwyd i’r casgliad bod y rhagdybiaethau yn parhau i fod yn rhesymol  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 112 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Page y pwyntiau allweddol canlynol:

-          Roedd y sefyllfa gyllido ar 30 Medi 2022 wedi gostwng i 102%, o 105% ar 31 Mawrth 2022. Ers hynny, gwelwyd cynnydd o ran y lefel gyllido a oedd yn newyddion da i’r Gronfa er gwaethaf anwadalrwydd y marchnadoedd yn Ch3 2022.

-          Roedd y fframwaith rheoli risg wedi cael ei roi ar brawf, yn enwedig yn ystod mis Medi a Hydref 2022 ond serch hynny roedd y fframwaith wedi gwasanaethu’r Gronfa’n dda. Roedd yr adroddiad yn amlygu perfformiad pob elfen wahanol o’r fframwaith rheoli risg.

-       Gwelwyd gostyngiad mewn ecwiti ond roedd wedi’i ddiogelu gan y portffolio ecwiti synthetig felly bu i’r amddiffyniad ar y gyfran honno o’r portffolio ychwanegu gwerth dros y chwarter.

-       Bu i’r bunt wanhau’n sylweddol dros y chwarter, a gwnaed colledion ar strategaeth fantoli FX. Fodd bynnag, oherwydd sicrwydd o 100% rhag chwyddiant, roedd y colledion FX a wnaed wedi cael eu gosod yn erbyn yr enillion a wnaed ar yr asedau ffisegol a fuddsoddir ynddynt dramor.

-       Y strategaeth LDI oedd y prif ffocws o ystyried anwadalrwydd y farchnad gilt yn ddiweddar. Roedd lefel y rhagfantoli ar gyfer cyfraddau llog wedi cynyddu o fewn y fframwaith sbardunau marchnad o oddeutu 20% i 50%. Roedd lefel y rhagfantoli ar gyfer chwyddiant yn parhau i fod yn 40% ar 30 Medi 2022, gan ddarparu amddiffyniad gwerthfawr rhag chwyddiant cynyddol dros y flwyddyn.

-       Roedd anwadalrwydd eithafol o ran y giltiau hyd at bwynt lle’r oedd bron yn gamweithredol ac roedd y siart ar dudalen 282 yn dangos y camau olrhain drwy gydol mis Medi a mis Hydref 2022 a pha mor gyflym oedd y cyfnod hwn. Er gwaethaf yr anwadalrwydd, rheolwyd hyn yn dda gan y fframwaith sicrwydd cadarn a oedd yn weithredol.

-       Ar ôl cyhoeddi’r datganiad cyllidol, bu cynnydd cyflym mewn arenillion giltiau a gostyngiad cyflym yng ngwerth giltiau. Dros gyfnod o ychydig ddyddiau, bu i arenillion giltiau godi a gostwng, gan gynyddu o 2.5% ac yna gostwng o 2.5%, ac nid oedd hynny erioed wedi digwydd o’r blaen. Yna, fe aeth Banc Lloegr ati i sefydlogi’r farchnad am gyfnod o bythefnos ac fe aeth yr arenillion giltiau i lawr eto ond buan iawn y gwnaethant ddechrau cynyddu’n raddol eto. Yn ystod y bythefnos, bu i’r diwydiant cynllun pensiwn werthu nifer fawr o asedau i leihau dyledion y portffolios LDI. Fodd bynnag, roedd pryderon o hyd am arenillion giltiau yn codi eto ond, oherwydd cefnogaeth gan Fanc Lloegr a’r Canghellor newydd a wnaeth ddirwyn y polisiau yn ôl, fe sefydlogwyd y farchnad.

-       Roedd Mr Page yn falch iawn â fframwaith llywodraethu hynod gryf y Gronfa, nododd fod y Gronfa nid yn unig mewn sefyllfa dda i wrthsefyll ansefydlogrwydd y farchnad ar hyn o bryd, roedd hefyd mewn sefyllfa i gymryd cyfleoedd. Roedd gan y Gronfa fframwaith yn weithredol lle’r oedd yn cymryd y cyfle i fuddsoddi mewn giltiau pan oeddent yn rhad, gyda’r lefelau arenillion hynny wedi’u diffinio ymlaen llaw. Ar ben hynny, roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad, a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 104 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Harkin y pwyntiau allweddol canlynol yn ymwneud â’r economi cyffredinol a marchnadoedd.

-          Roedd sefyllfa’r farchnad a fanylwyd arni yn yr adroddiad yn trafod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022, a oedd wedi bod yn gyfnod heriol i’r marchnadoedd. Yn y DU, ac mewn sawl rhanbarth arall, y sefyllfa anoddaf o hyd oedd y chwyddiant uchel parhaus.

-          Dros y tri mis hyd at 30 Medi 2022, gwelwyd gostyngiad o £64.2 miliwn yng nghyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad i £2,216 miliwn.

-          Roedd economiau datblygedig mawr yn parhau i ddelio â’r sefyllfa anodd mewn perthynas â chwyddiant drwy dynhau polisiau ariannol ychwanegol. Er y cafwyd rhywfaint o ryddhad o ran y chwyddiant tymor byr yn ystod y chwarter, daeth hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod a bu i asedau risg godi a bu i fwyafrif y dosbarthiadau asedau mawr nodi ffigyrau negyddol o ran enillion ar ddiwedd y chwarter.

-          Roedd hwn yn un o’r chwarteri gwaethaf o ran portffolios bond ac ecwiti yn hanes cadw’r asedau hyn ar y cyd ac mae hyn yn amlygu mor anodd mae 2022 wedi bod i fuddsoddwyr.

-          Nid oedd llwybr clir ymlaen ond er bod arwyddion y gallai cyfradd chwyddiant UDA fod ar fin lefelu, nid oedd hyn yn wir am gyfradd chwyddiant y DU.

 

            Cyflwynodd Mr Dickson bwyntiau allweddol i’r Pwyllgor yngl?n â Strategaeth Fuddsoddi’r Gronfa:

-          Roedd tudalen 314 yn amlinellu bod y Gronfa wedi cyflawni enillion o -2.5% ar fuddsoddiad dros Ch3 2022, a bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn.

-          Dros y 12 mis diwethaf, roedd y Gronfa wedi cyflawni enillion o -6.5% ar fuddsoddiad a dros 3 blynedd roedd y Gronfa wedi perfformio’n dda gydag enillion o 4.1% ar fuddsoddiad.

-          Roedd y perfformiad gwell yn erbyn y meincnod strategol yn ychwanegu gwerth at yr holl gyfnodau fel y dengys yn y tabl ar dudalen 314.

-          Ar dudalen 317, gellid gweld fod gan ddyraniad sylweddol y Gronfa i farchnadoedd preifat effaith fuddiol gref, gydag enillion o 24.6% dros gyfnod o 12 mis. Roedd hyn yn awgrym da o gyfanswm yr enillion ar y buddsoddiad, o ystyried y pwysoliad uchel a ddyrannwyd i farchnadoedd preifat.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Medi 2022, ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi, a oedd i bob pwrpas yn egluro’r sefyllfa.

29.

Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu pdf icon PDF 156 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol a darparu’r ymateb ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Cymru a Lloegr); Llywodraethu ac adrodd ar ymgynghoriad risgiau newid hinsawdd i’w cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol:

-          O ran y cynllun busnes, oedwyd proses adolygu’r strategaeth fuddsoddi oherwydd yr amgylchedd economaidd anodd. Byddai hyn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2023.

-          Roedd oedi hefyd o ran yr adroddiad newid hinsawdd a gofynion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn Ymwneud â’r Hinsawdd. Roedd y gwaith yn parhau a byddai sesiwn hyfforddi yn cael ei chynnal i aelodau’r Pwyllgor ar 1 Chwefror 2023.

-          Cyflwynwyd y Cod Stiwardiaeth erbyn y dyddiad cau ar 31 Hydref 2022 wedi i gyflwyniad drafft gael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Awst. Ni fydd y canlyniad yn hysbys i’r Gronfa tan fis Mawrth 2023. Os oedd yr aelodau’n dymuno gweld y cyflwyniad terfynol, dylent gysylltu â Mrs Fielder.

-          Roedd y Gronfa wedi disgwyl sawl ymgynghoriad yngl?n â datblygiadau yn ymwneud â buddsoddiad CPLlL ond dim ond yr un sy’n ymwneud â llywodraethu ac adrodd ar risg hinsawdd sydd wedi cael ei gyhoeddi.

-          Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.02, bu i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyhoeddi ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 24 Tachwedd 2022, ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddu CPLlL adrodd ar risgiau newid hinsawdd. Roedd yr ymgynghoriad yn unol â’r argymhellom a wnaed gan y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn Ymwneud â’r Hinsawdd. Eglurodd Mrs Fielder fod cyfres o argymhellion wedi cael eu cyhoeddi yn 2017 gyda’r nod o wella risgiau ariannol. Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddwyd y byddai datganiadau’r Tasglu yn orfodol yn y DU erbyn 2025. Barn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yw y dylai’r gofyniad ar gyfer CPLlL fod yr un mor uchel â’r safon a osodir ar gyfer cynlluniau pensiwn preifat. Y cynlluniau pensiwn preifat oedd y man cychwyn ar gyfer y cynigion ond nid oeddent yn ystyried nodweddion unigryw’r CPLlL yn cynnwys gweinyddu lleol ac atebolrwydd democrataidd. Tynnodd Mrs Fielder sylw at ymateb drafft y Gronfa i’r ymgynghoriad yn Atodiad 2. Ar y cyfan, roedd y Gronfa yn cefnogi cynigion yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn yr ymgynghoriad. Mae nifer sylweddol o’r cynigion yn ymwneud â dadansoddi sefyllfaoedd a metrigau, ac roedd y Gronfa eisoes wedi gwneud gwaith modelu a byddai’n gwneud hynny eto fel rhan o broses adolygu strategaeth fuddsoddi’r Gronfa. Mae ymateb y Gronfa i’r ymgynghoriad yn crynhoi sut yr oedd newid hinsawdd eisoes wedi’i sefydlu yn strategaethau llywodraethu, buddsoddi ac ariannu’r Gronfa. Darparodd hyn dystiolaeth bellach fod y Gronfa wedi ymrwymo i’r arfer orau yn y maes hwn, a bod y Gronfa yn bwriadu cynnal ei adroddiadau Tasglu ei hun ar ddechrau 2023, cyn dyddiad cau’r Llywodraeth. Roedd hyn yn cadw at yr egwyddorion a osodwyd yn y ddogfen ymgynghori. Dywedodd Mrs Fielder fod gofyniad ar y Pwyllgor i gymeradwyo’r ymateb i’r ymgynghoriad drafft.

-          Roedd paragraff 1.04 yn amlinellu’r adolygiad Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol yr oedd y Gronfa’n rhan ohono ar hyn o bryd gyda darparwyr CGY, Prudential ac Utmost drwy Mercer. Yn unol  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau pdf icon PDF 163 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu, yn cynnwys y Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfio i’w cymeradwyo. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Bu i Mr Latham longyfarch Mrs Fielder a Mrs K Williams a oedd eu dwy wedi cael eu henwebu a’u cynnwys ar restr fer y Gwobrau Women in Pensions.  Dywedodd hefyd fod Mrs K Williams wedi ennill canmoliaeth uchel. Bu i’r Pwyllgor longyfarch Mrs Fielder a Mrs William.

Nododd Mr Latham y pwyntiau allweddol canlynol:

-          Roedd paragraff 1.01 yn amlinellu’r diweddariad ar y cynllun busnes, ac fe gadarnhaodd Mr Latham fod cynnydd da yn cael ei wneud. Atgoffodd aelodau diweddaraf y Pwyllgor, nad oedd wedi gallu mynychu’r sesiynau hyfforddiant cynefino, i gadarnhau pan yr oeddent wedi gwylio’r recordiadau perthnasol.   

-          Nid oedd yr ymgynghoriad ar God Ymarfer Unigol y Rheoleiddiwr Pensiynau a’r Adolygiad Llywodraethu Da wedi’i gwblhau ac felly roedd wedi cael ei symud ymlaen yn y cynllun busnes.

-          Roedd Mrs E Williams, a oedd yn wreiddiol wedi cael ei phenodi fel Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun (Nad Ydynt yn Rhan o Undeb Lafur) y Bwrdd Pensiwn am dair blynedd hyd at fis Chwefror 2023, wedi cael ei hail-benodi i’r swydd hon am ddwy flynedd arall.

-          Roedd materion cenedlaethol yr oedd yn rhaid i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt wedi’u rhestru ym mharagraffau 1.06 i 1.11.

-          Roedd y Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfio wedi cael ei adolygu ac roedd y newidiadau arfaethedig wedi’u hamlygu yn Atodiad 3. Yn cynnwys y newidiadau yn ymwneud â Phennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yn cymryd cyfrifoldebau gan y Prif Weithredwr. Gofynnodd Mr Latham i’r Pwyllgor gymeradwyo’r diweddariadau i’r Polisi a’r Datganiad.

-          Roedd yr adolygiad blynyddol o’r mesurau amcanion ar gyfer polisïau a strategaethau yn ymwneud â llywodraethu wedi’i gynnwys yn Atodiad 4. Roedd y rhan fwyaf o fewn y targed, ond roedd gan rai meysydd gwaith i’w gwblhau o hyd.

-          Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.14, braf iawn oedd gweld canran uchel o aelodau yn mynychu’r hyfforddiant. Roedd rhestr o ddigwyddiadau hyfforddiant yn y dyfodol a gofynnodd Mr Latham i aelodau’r Pwyllgor nodi’r rhain a mynychu os yn bosibl.

-          Roedd problemau recriwtio a chadw staff ar hyn o bryd a oedd yn achosi straen ychwanegol oherwydd swm y gwaith ychwanegol oherwydd ffactorau y tu allan i reolaeth y Gronfa megis y Dangosfwrdd Pensiynau a Rhaglen Unioni McCloud. Roedd gwaith pellach hefyd yn cael ei wneud i ddeall a fyddai cynnydd mewn llif gwaith gweinyddol o safbwynt aelodaeth yn parhau.

 

            Dywedodd Mrs Fielder fod e-bost wedi cael ei anfon yngl?n â’r Seminar Buddsoddi LGC a fydd yn cael ei gynnal yn Carden Park. Gofynnodd i’r aelodau roi gwybod iddi cyn gynted â phosib os oeddent yn dymuno mynychu er mwyn i’r Gronfa allu manteisio ar y gostyngiadau cynnar, a dywedodd ei fod bod amser yn ddigwyddiad gwerthfawr ac yn lleol.

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.

(b)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau i amserlenni yn y cynllun busnes ar gyfer eitemau G3 a G5, oherwydd oedi gan y Llywodraeth o ran symud ymlaen â Chod Unigol y Rheoleiddiwr Pensiynau a chanlyniadau adolygiad Llywodraethu Da y  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Diweddariad Gweinyddu a Chyfathrebu pdf icon PDF 159 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mrs K Williams y pwyntiau allweddol canlynol o’r adroddiad:

 

-          Roedd A6 ac A7 yn y diweddariad cynllun busnes 2022/23 ym mharagraff 1.01 yn amlinellu’r adolygiad o’r polisïau a’r strategaethau a hefyd y trefniadau gwirio bodolaeth pensiynwyr. Amlygwyd bod y camau hyn ar waith ond eu bod rhywfaint ar eu hôl hi oherwydd blaenoriaethau yn gwrthdaro a llwyth gwaith cynyddol.

-          Roedd oedi wedi bod o ran adnewyddu’r Strategaeth Gyfathrebu oherwydd swydd wag y Swyddog Cyfathrebu. Fodd bynnag, roedd y swydd hon wedi’i llenwi bellach a chynnydd da yn cael ei wneud.

-          Dau faes allweddol a oedd yn achosi cynnydd mawr o ran llwyth gwaith oedd y dyfarniadau cyflog ar gyfer 2021/22 a nifer yr aelodau gohiriedig cymwys a oedd yn cymryd eu buddion. Mae’r ddau fater uchod yn effeithio ar allu’r Gronfa i gwblhau ei gwaith busnes arferol o fewn terfynau amser rheoleiddio ac yn unol â safonau gwasanaeth a gytunwyd arnynt yn fewnol.

-          Cytunwyd a thalwyd y dyfarniad cyflog wedi’i ôl-ddyddio ym mis Mawrth 2022. Fodd bynnag, fe arweiniodd at ail-gyfrifo buddion sawl aelod a oedd wedi gadael y cynllun yn ystod 2021/22. Ar gyfer 2022/23, oherwydd gwerth y dyfarniad cyflog, roedd yr effaith yn llawer mwy sylweddol gan arwain at nifer uchel o geisiadau i ail-gyfrifo. Roedd yna eisoes dros 1,100 o geisiadau ar gyfer dyfarniad 2022/23 a oedd yn llawer iawn o waith ychwanegol o’i gymharu â 2021/22. Nid yw’r tîm yn gallu ail-gyfrifo fesul llwyth oherwydd amgylchiadau unigol pob aelod. Felly, gwneir yr holl ail-gyfrifiadau ar sail unigol.

-          Mae’r tîm yn cynnal adroddiad misol i nodi nifer yr aelodau gohiriedig cymwys sy’n nesáu at 60 mlwydd oed sydd efallai’n dymuno cymryd eu buddion pensiwn. Mae’r ffigyrau hyn yn cynyddu bob mis, y rhai hynny ar yr adroddiad sydd angen cysylltu â nhw, ac yna y rhai hynny sy’n dewis cymryd eu buddion yn dilyn yr ohebiaeth gychwynnol honno. Mae’r Rheolwr Gweinyddu yn ymchwilio i unrhyw dueddiadau posibl i sicrhau bod y tîm yn cael adnoddau priodol yn y dyfodol. Roedd y siart ar achosion heb eu cwblhau yn Atodiad 3 yn dangos bod nifer yr achosion heb eu cwblhau wedi gostwng o dros 10,000 yn 2018 i 5,000 erbyn hyn. Roedd y tîm yn parhau i chwilio am arbedion drwy brosesau mwy awtomatig.  Mae Mrs K Williams hefyd yn ystyried strwythur y tîm yn y dyfodol yn cynnwys tîm prosiect posibl i sicrhau nad yw gwasanaethau busnes yn dirywio.

-          Er gwaethaf y swyddi gwag ar hyn o bryd, cwblhawyd 8,552 achos yn y chwarter diwethaf, o’i gymharu â 7,731 yn yr un cyfnod adrodd llynedd.

-          Roedd nifer yr achosion yn dod i mewn eisoes yn 9,171 o’i gymharu â 9,210 yn ystod yr un cyfnod llynedd.  Fodd bynnag, roedd y 9,210 achos yn cynnwys ôl-groniad o weithwyr newydd gan un cyflogwr penodol a throsglwyddiad TUPE sylweddol), ac felly nid oedd y ffigyrau hyn yn wir adlewyrchiad o lwyth gwaith arferol y tîm y llynedd.

-          Roedd Atodiad 4 yn  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Cyfuno Asedau pdf icon PDF 101 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem hon wedi’i chynnwys at ddibenion nodi a bod mwy o fanylion wedi’u cynnwys yn yr eitem nesaf ar y rhaglen.

            Nododd Mr Hibbert fod fformat rhithiol y cyfarfodydd Pwyllgor, ar y cyfan, yn gwneud pethau’n anodd iawn iddo gan nad oedd ganddo gopi hygyrch o bapurau cyfarfodydd a dim ond un sgrîn oedd ganddo. Felly nid oedd yn gallu dilyn ei ddogfennau a chodi pwyntiau yn y cyfarfod. Cytunodd y Cynghorydd Hughes â Mr Hibbert a holodd a fyddai’n bosib newid cyfarfodydd y Pwyllgor i gyfarfodydd hybrid o hyn ymlaen. Cytunodd y Swyddogion i gyflwyno’r mater i’r Gwasanaethau Democrataidd.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

33.

Contractau Cyflenwyr - Cyfrinachol

Gofyn i Aelodau’r Pwyllgor gymeradwyo estyniadau i gontractau Cronfeydd amrywiol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Link Fund Solutions Limited. 

Cofnodion:

Oherwydd gwrthdaro buddiannau, bu i gynrychiolwyr Mercer ac Aon adael y cyfarfod ac ail-ymuno o baragraff 1.09. Cyflwynwyd a thrafodwyd yr eitem hon ar y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD

(a)      Bod y Pwyllgor yn ymestyn y contract ag Aon tan 31 Mawrth 2025.

(b)      Bod y Pwyllgor yn ymestyn y contract â Mercer tan 31 Mawrth 2025.

(c)       Bod y Pwyllgor yn cytuno i barhau â’r contract gyda Heywood ar sail dreigl 12 mis tan fis Chwefror 2028.

(d)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar Link Fund Solutions a’i drafod.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 18 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

34.

Rhaglen waith Strategaeth Seiber - Cyfrinachol

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar waith strategaeth seiber y Gronfa yn cynnwys canlyniadau asesiad seiber Cyngor Sir y Fflint. 

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Byron Lloyd-Jones (Datrysiadau Seiber Aon)

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r cyflwyniad gan arbenigwyr diogelwch seiber Aon.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod ac am gymryd rhan. Soniodd hefyd am y sesiynau hyfforddiant i ddod yn cynnwys y sesiwn PPC ar 5 Rhagfyr, y sesiynau hyfforddiant hanfodol ar 18 Ionawr 2023 ac 1 Chwefror 2023 a’r Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol ar 13 Rhagfyr 2022. Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 15 Chwefror 2023.  Daeth y cyfarfod i ben am 12:30pm.

……………………………………

Y Cadeirydd