Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

12.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod aelodau o’i deulu yn aelodau o’r Gronfa Bensiynau a’i fod ef ei hun wedi gwneud cais i ddod yn aelod o’r Gronfa.

Cadarnhaodd y Cyng Swash hefyd ei fod yn aelod o’r Gronfa, Cyngor Cymuned Penarlâg a’r Undeb Prifysgol a Choleg. 

Cadarnhaodd y Cyng Shallcross ei fod yn aelod o’r Gronfa a Chyngor Tref Saltney.

Cadarnhaodd y Cyng Wren ei fod wedi gwneud cais i ddod yn aelod o’r Gronfa a Chyngor Tref Cei Connah.

Mae’r Cyng Wren a’r Cadeirydd yn aelodau o Bwyllgor y Cyfansoddiad Cyngor Sir y Fflint, a amlygwyd yn ystod eitem 6.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau eraill.

13.

Cofnodion pdf icon PDF 117 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin 2022

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Gofynnodd Mr Hibbert a oedd ei nodyn cywiro ar gyfer cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor wedi’i dderbyn. Dywedodd Mrs Fielder a Mrs McWilliam fod hwn yn cael ei ddiweddaru.

 

            Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022.

PENDERFYNWYD:

Cafodd cofnodion cyfarfod 15 Mehefin 2022 eu derbyn a’u cymeradwyo a bydd y Cadeirydd yn eu llofnodi unwaith y bydd y diweddariadau wedi’u gwneud.

14.

Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd 2021/22 pdf icon PDF 87 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2021/22 i Aelodau’r Pwyllgor, er mwyn ei ystyried ac i wneud yr Aelodau yn ymwybodol o’r ymateb i lythyr Ymholiadau Archwilio 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd Mrs Fielder fod adroddiad blynyddol 2021/22 i fod i gael ei gyhoeddi cyn 1 Rhagfyr 2022, oedd yn cynnwys y cyfrifon archwiliedig. Diolchodd i Mercer am eu cefnogaeth i gynhyrchu’r Adroddiad Blynyddol oherwydd bod Cyfrifydd y Gronfa wedi gadael ym mis Ebrill 2022. Eglurodd Mrs Fielder fod Mr Ferguson, Swyddog Adran 151 y Gronfa wedi adolygu’r cyfrifon ac roedd ei sylwadau wedi cael eu hystyried. Cadarnhaodd hefyd fod y Gronfa’n cydymffurfio ag arweiniad y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a gynhyrchwyd yn 2019 o’r enw “Paratoi Adroddiad Blynyddol” cyn belled â phosibl.

            Aeth Mrs Fielder drwy’r adroddiad blynyddol gan dynnu sylw at nifer o feysydd yn cynnwys y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Amlygodd adroddiad y Cynghorydd Annibynnol ac adroddiad y Bwrdd Pensiynau bod y polisi seiber wedi cael ei gymeradwyo, cynnydd rhagorol ar flaenoriaethau a thargedau buddsoddiad cyfrifol y Gronfa yn ogystal â’r gwelliant parhaus mewn gweinyddu er gwaetha’r cynnydd mewn niferoedd achosion.

-       Mae’r adroddiad gweinyddu yn atodiad 4 yn dangos, ers y pandemig, bod gweithwyr wedi parhau i weithio o gartref yn ystod 2021/22. Roedd cynhyrchiant yn parhau’n uchel ac roedd mwy na 31,000 o achosion wedi eu cwblhau yn ystod y flwyddyn. Cynyddodd nifer y cofrestriadau ar gyfer hunan wasanaeth aelodau o 36.1% i 48.4%. Roedd 52 o’r 54 cyflogwr yn y Gronfa bellach yn defnyddio iConnect.

-       Hyd at 31 Mawrth 2022, roedd y Gronfa wedi cynnal sefyllfa a gyllidir yn llawn yn unol â thudalennau 83 i 86 yr eitem Gyllid a Llwybr Hedfan. Gan fod y gronfa mewn blwyddyn werthuso, byddai’r sefyllfa gyllid yn cael ei hadolygu’n ffurfiol a byddai’r fframwaith rheoli risg yn monitro effaith chwyddiant a chyfraddau llog cynyddol fyddai’n parhau ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifo a bydd y rhain yn cael eu hystyried fel rhan o osod rhagdybiaethau.

-       Perfformiodd y Gronfa yn dda yn ystod y flwyddyn fel yr amlinellir ar dudalennau 85 i 103 gan y cyflawnodd y Gronfa enillion ar fuddsoddiad o 13.3% am y flwyddyn yn erbyn meincnod y Gronfa o 9.1%. Y cyfartaledd awdurdod lleol ar gyfer y ffigwr hwn oedd 8.6%. Mae hyn yn golygu fod y Gronfa yn ail ym mydysawd Cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cymheiriaid. 

-       Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd y portffolio syniadau gorau a gyflawnodd 20.3% a’r portffolio marchnadoedd preifat gydag enillion o 26.4% i gyd, ac o hynny roedd enillion ecwiti preifat yn 36.0% a’r portffolio effaith leol yn 40.3%. Ar y llaw arall, roedd enillion ecwitïau marchnadoedd byd-eang a marchnadoedd newydd yn 2.3%, oedd yn groes i enillion y flwyddyn flaenorol o 42.2% pan lwyddodd marchnadoedd preifat i wneud enillion o 4.6% yn unig.

-       Parhaodd y Gronfa i wneud ymrwymiadau i asedau marchnadoedd preifat gan ffafrio’r rhai ag effaith gynaliadwy neu gylch gwaith lleol.

-       Yn ystod y flwyddyn trawsnewidiwyd mwy o asedau i’r WPP, sef ecwitïau marchnadoedd newydd. Roedd y dyraniad strategol 10% yn awr yn cael ei reoli gan Russell Investments, oedd yn dod â chyfanswm buddsoddiadau’r Gronfa yn y WPP i  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Cyflwyniad Cod Stiwardiaeth pdf icon PDF 127 KB

Darparu cyflwyniad Cod Stiwardiaeth Drafft i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfer ei ystyried ac i ddirprwyo cymeradwyaeth y fersiwn terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Latham yr adroddiad hwn gan dynnu sylw at y ddau argymhelliad ar dudalen 185. Roedd yr atodiad yn cynnwys yr Adroddiad Stiwardiaeth drafft, fyddai angen cael ei gyflwyno erbyn diwedd mis Hydref, cyn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd. Dyna pam y gofynnir i’r Pwyllgor ei ystyried yn y cyfarfod hwn a dirprwyo cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd. Ychwanegodd y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Roedd Mercer wedi cefnogi’r gwaith o ddrafftio’r Adroddiad Stiwardiaeth ac roedd yn cynnwys materion y mae’r Gronfa yn eu gwneud eisoes, wedi eu gwneud yn y gorffennol, neu’n bwriadu eu gwneud yn y dyfodol.

-       Roedd y gronfa’n rhan o’r WPP, oedd eisoes wedi cyflwyno adroddiad ar gyfer y Cod Stiwardiaeth yn gynharach eleni.

-       Roedd dau draean o asedau’r Gronfa y tu allan i’r WPP, felly roedd Mr Latham yn credu ei bod yn iawn i’r Gronfa hefyd ddod yn llofnodwr y Cod.

-       Wedi iddo gael ei gyflwyno, byddai’r Cyngor Adrodd Ariannol yn rhoi sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, os oedd y cyflwyniad yn llwyddiannus neu beidio. Os bydd yn llwyddiannus, bydd ar y Gronfa angen dangos datblygiad a gwelliannau parhaus, gan eu bod angen ailymgeisio’n flynyddol i gadw statws fel llofnodwr.

-       Dywedodd Mr Latham fod egwyddor 1 yn cynnwys diffiniad o stiwardiaeth - “Mae pwrpas, credoau buddsoddi, strategaeth a diwylliant y llofnodwyr yn galluogi stiwardiaeth sy’n creu gwerth hirdymor i gleientiaid a buddiolwyr gan arwain at fuddion cynaliadwy i’r economi, yr amgylchedd a chymdeithas”.

-       Roedd paragraff 1.07 yn amlygu’r pedair prif adran a’r 12 egwyddor sylfaenol.

-       Roedd paragraff 1.09 i 1.12 yn amlygu’r prif feysydd a sut yr ymdrinnir â nhw drwy’r Gronfa neu’r WPP.

-       Roedd paragraff 1.13 ymlaen yn rhoi’r prif bwyntiau i’w nodi fel rhan o’r cyflwyniad. Roedd Mr Latham yn credu mai un o feysydd cryfaf cyflwyniad y Gronfa oedd y portffolios marchnadoedd preifat, ble mae gan y Gronfa bwyslais cynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Ystyriodd y Pwyllgor gynnwys y cyflwyniad drafft.

(b)      Dirprwyodd y Pwyllgor gyfrifoldeb ar gyfer cymeradwyo’r cyflwyniad terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

 

16.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 173 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.  Gofyn i’r Pwyllgor ystyried ac argymell i’r Cyngor newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor a’r Protocol Bwrdd Pensiynau, ac i ystyried a chymeradwyo’r Cynllun Dirprwyo diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Tynnodd Mr Latham sylw at yr argymhellion a’r pwyntiau allweddol canlynol i’r Pwyllgor:

 

-       Roedd canlyniad arolwg effeithiolrwydd y Bwrdd Pensiynau wedi’i grynhoi yn atodiad 3.

-       Roedd yr argymhellion yn cynnwys newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad a Phrotocol y Bwrdd Pensiynau fel yr amlinellir ym mharagraffau 1.04 i 1.09.   Roedd y prif newidiadau’n cynnig symud cyfrifoldebau oddi wrth y Prif Weithredwr blaenorol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd. Roeddent hefyd yn cynnig ychwanegu’r Rheolwr Corfforaethol Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol at y Panel Ymgynghorol, yn lle’r Prif Weithredwr. Roedd y Swyddog Monitro wedi ystyried y newidiadau ac wedi eu cefnogi. Y camau nesaf fyddai i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor eu hystyried, cyn iddynt fynd gerbron Cyngor Sir y Fflint i’w cymeradwyo. Ar y pwynt hwn, dywedodd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Wren eu bod yn aelodau o Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ond roedd Mr Lathan a Mrs McWilliam, y Cynghorydd Annibynnol yn teimlo nad oedd gwrthdaro yn y rolau hyn, ac os rhywbeth, byddai’n ddefnyddiol iddynt fod yno.

-       Roedd diweddariad gan Fwrdd Cynghori’r Cynllun yn atodiad 5.

-       Fel y dangosir ym mharagraff 1.11, bu penodiadau newydd yn dilyn ymddiswyddiad llawer o weinidogion yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a’r Gymuned. 

-       Roedd gwybodaeth ym mharagraff 1.13 am ddyfarniad newydd gan y Goruchaf Lys fyddai’n debygol o effeithio ar y Gronfa a chyflogwyr. Roedd CLlL a’r Corff Cymeradwyo yn ymwybodol o’r mater a dywedodd Mr Latham y bydd angen i’r Gronfa wneud newidiadau ôl-weithredol i gofnodion efallai yn cynnwys cyfrifiadau buddion. Y gobaith yw y bydd canllawiau cenedlaethol maes o law.

-       Amlinellwyd digwyddiadau hyfforddi yn y dyfodol ym mharagraff 1.14 a gofynnodd Mr Latham i aelodau’r Pwyllgor gysylltu â Mrs Fielder os oeddent yn dymuno mynychu. Roedd yr hyfforddiant ar Adolygu’r Strategaeth Fuddsoddi i fod i gael ei gynnal ar 5 Hydref, a phwysleisiodd fod hwn yn hyfforddiant hanfodol a’i bod yn bwysig bod aelodau’n mynychu.

-       Roedd risg allweddol yn ymwneud â’r anawsterau recriwtio a chadw. Roedd y mater hwn yn cael ei ystyried gan y Panel Ymgynghorol oherwydd yr effaith mae’n ei gael ar y Gronfa.

 

            Yn dilyn pryderon Mr Hibbert a godwyd ac a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol am lythyr Michael Lynk ar Balestina, awgrymodd Mr Hibbert fod y Gronfa’n adolygu rhan ‘Gymdeithasol’ yr ESG yn ymwneud â’r cwmnïau y mae’r Gronfa’n buddsoddi ynddynt.  Dywedodd Mr Latham fod gwaith ar y gweill gyda’r WPP a Robeco ar y mater hwn. Ychwanegodd Mrs Fielder fod gr?p Buddsoddi Cyfrifol WPP yn cyfarfod yn rheolaidd â Robeco i drafod themâu ymgysylltu a’r stociau a chyfranddaliadau sy’n cael eu pleidleisio arnynt a’u hymgysylltu â nhw yn y meysydd hyn, a chyfeiriodd at yr atodiadau i eitem naw ar y rhaglen. 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad a’i nodi.

(b)      Ystyriodd y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor a Phrotocol y Bwrdd Pensiynau, o ran y cyfrifoldebau'n ymwneud â’r gronfa bensiynau ac argymhellodd i’r newidiadau arfaethedig gael eu hystyried gan Bwyllgor  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Diweddariad Gweinyddu a Cyfathrebu pdf icon PDF 176 KB

Diweddariad Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddol a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlygodd Mrs Williams fod yr eitem hon ar y rhaglen ar gyfer ei nodi a siaradodd am y pwyntiau allweddol canlynol.

-       Roedd y tîm yn brysur gyda busnes fel arfer, rhaglen McCloud, paratoi dangosfwrdd bwrdd pensiynau cenedlaethol ac ail gyfrifo buddion aelodau o ganlyniad i ddyfarniad cyflog ôl-weithredol 2021/22.

-       Amlinellwyd y materion o ran adnoddau ym mharagraff 2.01, oedd yn dangos nifer y swyddi gwag oedd ar gael yn y Gronfa ac unrhyw benodiadau a wnaed. Ers i’r papur gael ei ddrafftio, roedd y Gronfa wedi cyfarfod â chynghorwyr AD ac roeddent wrthi’n gwella geiriad yr hysbyseb swydd i ddenu ymgeiswyr yn well. Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys newidiadau i deitlau swyddi i gynnwys y gair “gweinyddu” fel y byddai’n ymddangos mewn mwy o chwiliadau am swyddi. Roedd disgwyl i’r hysbysebion fynd yn fyw yn yr wythnosau nesaf.

            Holodd y Cyng Hughes a oedd y gronfa wedi meddwl am gyflogi prentis. Cadarnhaodd Mrs Williams fod gan y Gronfa ddau brentis yn barod, felly ni fyddai mwy yn cael eu cyflogi eleni gan fod y pwyslais presennol ar recriwtio aelodau mwy profiadol i’r tîm.

            Yna, cyflwynodd Mrs Williams sleidiau hyfforddi am y dangosfwrdd pensiynau cenedlaethol ac amlygodd y canlynol:

-       Mae datblygiad y dangosfwrdd pensiynau cenedlaethol yn berthnasol i bob cronfa bensiynau (nid dim ond y Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol) ond canolbwyntiodd y sesiwn ar sut y bydd yn effeithio ar Gronfa Bensiynau Clwyd.

-       Mae’r prosiect dangosfwrdd yn cael ei gynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau; bydd yn caniatáu i unigolion weld eu holl wybodaeth cynlluniau pensiwn mewn un lle i helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad ac ymgysylltu mwy. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer aelodau nad ydynt wedi ymddeol eto (aelodau gweithredol a gohiriedig) – nid i bensiynwyr.

-       Mae angen i’r Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Trysorlys Ei Fawrhydi, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, darparwyr y system dangosfwrdd, rheolwyr y cynllun a gweinyddwyr darparwyr meddalwedd i gyd weithio gyda’i gilydd ar y prosiect hwn er mwyn iddo gael ei ddarparu ar amser. 

-       Mae’r gofynion yn cael eu rhoi mewn deddfwriaeth i orfodi cynlluniau i ddarparu gwybodaeth drwy ddangosfwrdd. Felly roedd gofyn i’r Gronfa baratoi data i gysylltu ag eco-system y dangosfwrdd pensiynau.

-       Byddai aelodau nad ydynt wedi ymddeol yn cael mynediad at fanylion trefniadau pensiwn, manylion cyflogaeth, pensiwn cronedig ac amcangyfrif o incwm ar ôl ymddeol.  Fodd bynnag, disgwylir cyfyngiadau o fewn y dangosfwrdd hwn felly roedd Mrs Williams yn awyddus i hyrwyddo Hunan Wasanaeth Aelodau’r Gronfa gan fod hyn yn golygu mwy o ymgysylltu uniongyrchol ag aelodau.

-       Mae’n ofynnol i bob cynllun sector cyhoeddus gael eu rhoi ar yr isadeiledd dangosfwrdd pensiwn erbyn mis Medi 2024, ond nid yw hyn yn golygu y bydd aelodau’n cael mynediad ato erbyn mis Medi 2024. Disgwylir y bydd yn mynd yn fyw tuag at ddiwedd 2024.

-       Hefyd, nid oedd angen darparu un elfen o’r data, sef data gwerth, hyd nes mis Ebrill 2025, oherwydd bod y gwaith parhaus ar y rhaglen McCloud  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Diweddariad ar Fuddsoddi a Ariannu pdf icon PDF 144 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Roedd y cynllun busnes ar y trywydd iawn ar hyn o bryd o ran y gwaith ar y prisiad actiwaraidd a datganiad y strategaeth fuddsoddi. Fodd bynnag, roedd y datblygiadau’n ymwneud â buddsoddiad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar ei hôl hi oherwydd yr oedi gyda’r ymgynghoriadau oedd i fod i gael eu cynnal yn yr haf.

-       Un peth newydd ar gyfer y chwarter hwn gan WPP oedd y wybodaeth ddiweddaraf am bleidleisio ac ymgysylltu a benthyca stoc. Byddai hyn yn cael ei ddiweddaru’n barhaus yn y dyfodol.  Robeco oedd yn cynnal y pleidleisio ac ymgysylltu a Northern Trust oedd yn cynnal y benthyca stoc.

-       Roedd tudalennau 419 i 464 yn trafod y gweithgaredd ymgysylltu a phleidleisio a gynhaliodd Robeco ar ran WPP. Roedd y stociau a restrwyd yn yr adroddiad ar gyfer WPP yn gyffredinol ac roeddent yn cynnwys yr holl is-gronfeydd, nid y rhai yr oedd y Gronfa yn buddsoddi ynddynt yn unig. Roedd y Gronfa yn buddsoddi mewn tair is-gronfa ar hyn o bryd.

-       Byddai’r Gronfa yn ymgysylltu â Robeco yn flynyddol ar bynciau ymgysylltu i’r dyfodol. Os bydd unrhyw aelod o’r Pwyllgor yn dymuno i unrhyw themâu gael eu trafod yn y dyfodol, gallai Mrs Fielder eu rhoi ymlaen i gael eu cynnwys.

-       Roedd crynodeb o’r gweithgaredd pleidleisio yn yr adroddiad ac roedd yr is-gr?p UC wedi derbyn yr adroddiadau pleidleisio unigol y tu ôl i’r crynodebau.

-       Maes arall yr oedd y gr?p UC yn edrych arno oedd benthyca gwarannau ac roedd crynodeb o’r incwm a grëwyd yn y stoc ym mharagraff 1.08.

-       Ers y cyfarfod diwethaf, roedd buddsoddiad pellach wedi’i wneud yn y Copenhagen Infrastructure Partners Energy Transition Fund. Roedd hyn yn unol ag awydd y Gronfa i fuddsoddi’n fwy cynaliadwy, gan gefnogi ac elwa o gyfleoedd y byddai’r pontio i economi carbon isel yn eu creu. 

-       Roedd y Gronfa hefyd yn gweithio gyda Mercer ar 5 neu 6 o gyfleoedd buddsoddi ychwanegol mewn meysydd cynaliadwy ac effaith.

-       Roedd sawl newid i’r gofrestr risg yng ngoleuni’r risgiau cynyddol oherwydd lefelau cyfraddau llog a chwyddiant. Byddai’r rhain yn parhau i gael eu monitro’n agos.

-       Mae’r heriau o ran adnoddau a recriwtio, y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol, hefyd yn effeithio ar y Tîm Cyllid gan fod ganddynt dair swydd wag ar hyn o bryd - cyfrifydd cronfa, cyfrifydd dan hyfforddiant a swydd llywodraethu a gweinyddu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor y diweddariad.

19.

Cyfuno Asedau pdf icon PDF 102 KB

I roi diweddariad i aelodau’r pwyllgor am gyfuno buddsoddiadau yng nghymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llongyfarchodd Mr Latham y Cadeirydd am ei swydd newydd fel Is-Gadeirydd y WPP am 12 mis. 

Dywedodd Mr Latham fod y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy wedi cael ei chymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu, ac roedd hyn wedi cael ei sbarduno gan y Pwyllgor hwn. Y cam nesaf yw y bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn adolygu’r cyflwyniad yn fanwl i sicrhau nad oes unrhyw wyrddgalchu a nodwyd y gallai hyn gymryd amser. Roedd Mr Latham yn gobeithio y byddai’r Gronfa yn gallu buddsoddi yn y cynnig cynaliadwy pan oedd wedi cwblhau ei adolygiad o’r strategaeth fuddsoddi.

Yn olaf, tynnodd Mr Latham sylw at y gwaith sydd ar y gweill ar farchnadoedd preifat, ac roedd Mrs Fielder hefyd yn rhan fawr o hyn. Roedd hyn yn hanfodol o gofio bod gan y gronfa 27% o asedau mewn marchnadoedd preifat.

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor y diweddariad a thrafododd raglen y Cydbwyllgor Llywodraethu.

 

20.

Iweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth
Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 106 KB

Darparudiweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Harkin y pwyntiau allweddol canlynol:

 

-       Pwysleisiodd y cyfnod anodd i’r holl asedau yn ystor y chwarter hyd at 30 Mehefin 2022 ac eithrio nwyddau oedd wedi perfformio’n gryf. Dros y cyfnod hwn, bu pwysau ar farchnadoedd ecwiti gyda thuedd am i lawr gan fod elw bondiau cynyddol yn golygu fod gwerth presennol enillion y dyfodol wedi gostwng.

-       Dros y chwarter, gwelwyd gostyngiad o tua £185 miliwn yng nghyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad i £2,280.2 miliwn. Roedd yn credu bod asedau’r Gronfa wedi bod yn gryf yn ystod cyfnod anodd oherwydd y strategaeth buddsoddiad amrywiol yn gyffredinol.

-       Er hynny, roedd y ffigurau hirdymor ar gyfer perfformiad y Gronfa yn dal yn gryf ar sail gymharol ac roedd y Gronfa wedi cael ei gwarchod drwy’r strategaeth llwybr hedfan drwy amgylcheddau economaidd anodd. 

-       Yr her fwyaf i’r Gronfa ar hyn o bryd yw pwysau chwyddiant oherwydd bod y gyfradd CPI 12 mis ar gyfer y DU wedi cynyddu i 9.4% ym mis Mehefin 2022. Roedd yn hanfodol sicrhau bod y Gronfa yn cael ei gwarchod, cymaint â phosibl, yn y tymor byr yn erbyn y math hwn o bwysau chwyddiant.

-       Y gobaith yw y bydd y syniadau cychwynnol am Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn dod gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Tachwedd, ond ar hyn o bryd, roedd gan y Gronfa strategaeth fuddsoddi gadarn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor berfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Mehefin 2022 ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi oedd yn gosod y sefyllfa yn effeithiol.

21.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 114 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pwysleisiodd Mr Middleman bwynt Mr Harkin am y pwysau chwyddiant ar y gronfa a nododd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

-       Ar 31 Mawrth 2022 (y dyddiad prisio), amcangyfrifwyd bod lefel y cyllid yn 101% ac er gwaetha’r amgylchedd buddsoddi heriol, roedd disgwyl y byddai’r Gronfa yn dal yn uwch na tharged lefel y cyllid o 95% o 2% ar 30 Mehefin 2022.

-       Roedd y ffigurau yn yr adroddiad yn seiliedig ar ddiweddariad o brisiad actiwaraidd 2019 gan fod Mercer wrthi ar hyn o bryd yn diweddaru prisiad actiwaraidd 2022.

-       Gallai cynnydd pensiwn Ebrill 2023 arwain at gynnydd posibl o 10%+ mewn buddion aelodau. Byddai hyn o fudd i aelodau ond byddai’n rhoi straen ar y Gronfa gan y byddai’n cynyddu’r rhwymedigaethau a byddai hyn yn cael ei ystyried yn y prisiad.

-       Nodwyd y newidiadau mewn cyfraddau llog. Cadarnhaodd Mr Middleman y mater hwn a byddai’r ffordd y bydd y Gronfa yn delio â hyn yn cael ei drafod yn y cyfarfod FRMG yng nghyd-destun sut y bydd yn effeithio ar gyllid a’r llwybr hedfan.

-       Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd yr amddiffyniad ecwiti wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer y Gronfa yn y chwarter diwethaf er gwaetha’r cyfnod heriol. Roedd Mr Middleman yn credu fod y Gronfa yn y sefyllfa orau ar hyn o bryd oherwydd y mesurau amddiffyn oedd yn eu lle o’r strategaeth llwybr hedfan a chyllid.

 

Roedd gan Fanc Lloegr darged i leihau’r gyfradd chwyddiant. Felly gofynnodd Mr Latham a oedd Mr Middleman yn credu bod hyn yn bosibl. Dywedodd Mr Middleman, ar gyfer prisiad 2022, tybir na fydd Banc Lloegr yn bodloni ei darged CPI 2% mor gyflym ag oedd yn ei ddweud, ond nid yw’n afresymol credu y gellir ei fodloni mewn 5 mlynedd, dyweder, sef yr hyn sydd wedi ei gynnwys yn y rhagdybiaethau dros dro. Byddai lleihau chwyddiant yn gynt yn bositif o ran rhwymedigaethau’r Gronfa (os bydd popeth arall yn gyfartal).

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor y diweddariad ac  ystyriodd gynnwys yr adroddiad.

 

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraffau 14 ac 18 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

22.

Rhaglen waith Strategaeth Seiber a Chanllawiau Hylendid Seiber

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar Raglen Waith Strategaeth Seiber y Gronfa a Chanllawiau Hylendid Seiber y Gronfa er mwyn eu nodi.

 

Cofnodion:

Cafodd yr eitem hon ei chyflwyno a’i thrafod.