Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

133.

Ymddiheuriadau

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Cyngor Sir Ddinbych), Kieran Harkin (Ymgynghorydd Buddsoddiadau’r Gronfa – Mercer) fel aelod o’r Panel Ymgynghorol.

134.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Ddatganiadau a chynghori’r  Aeolodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Nododd Mrs Fielder ei phenodiad diweddar fel cyfarwyddwr anweithredol gyda Pensions for Purpose, sydd wedi ei gymeradwyo gan Adnoddau Dynol a’r Prif Weithredwr.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad arall.

135.

Cofnodion pdf icon PDF 98 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10th Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Adolygwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021.

PENDERFYNWYD:

Derbyniwyd, cymeradwywyd ac arwyddwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021 gan y Cadeirydd.

 

136.

Diweddariad Cronfa Gyffredinol pdf icon PDF 117 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor am amryw ddatblygiadau o ran y Gronfa ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

          DIWEDDARIAD CYFFREDINOL AM Y GRONFA

 

            Rhoddodd Mr Latham ddiweddariad i’r Pwyllgor am ddatblygiadau a welwyd mewn nifer o feysydd ers y cyfarfod diwethaf, ac fe’u hamlinellir yng nghrynodeb gweithredol yr adroddiad.Ers i’r pecyn gael ei gyhoeddi, mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi agor ymgynghoriad ar god ymddygiad newydd a gofynnir am ymatebion ym mis Mai.Cadarnhaodd Mr Latham y byddai ymateb y Gronfa’n cael ei gymeradwyo gan ddefnyddio pwerau dirprwyedig.

 

            Tynnodd y Cynghorydd Williams sylw’r Pwyllgor at gynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghylch newid hinsawdd a nodir yn yr adroddiad.Cadarnhaodd Mr Latham y cyflwynir gwybodaeth am hyn i’r Pwyllgor fel rhan o fap ffyrdd Buddsoddi Cyfrifol yn y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin.Awgrymodd y gellid cynnig sesiwn arall i’r Pwyllgor am hyn a chytunodd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol i drefnu sesiwn briffio am y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad.

 

137.

Datganiad Strategaeth Gyllido - Diweddariadau Polisi pdf icon PDF 111 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor am bolisïau yn y Datganiad Strategaeth Ariannu o ganlyniad i ddarpariaethau hyblygrwydd cyflogwr newydd a chymeradwyo’r polisïau drafft i’w cynnwys yn y Datganiad ac ymgynghoriad â chyflogwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mr Latham fod dau ddiweddariad polisi allweddol ynghylch newidiadau i’r rheoliadau, sy’n ymwneud â hyblygrwydd ychwanegol ynghylch taliadau ymadael cyflogwyr ac adolygu cyfraniadau cyflogwyr. Mae Datganiad y Strategaeth Gyllido wedi cael ei ddiweddaru yn unol â’r newidiadau yn y rheoliadau a bydd angen ymgynghori yn ei gylch gyda chyflogwyr.Er nad oes gan y Gronfa lawer o gyflogwyr a all ymadael oherwydd eu natur statudol, pwysleisiodd Mr Latham mor bwysig yw sicrhau bod y polisïau yn eu lle, yn enwedig gan fod y cyflogwyr eu hunain yn gallu gofyn am adolygiad o’u cyfraniadau.

 

            Nododd Mr Latham hefyd fod adroddiad y Pwyllgor a’r atodiadau’n cynnwys mwy o wybodaeth ar y cynllun dirprwyo a oedd wedi ei ddiweddaru i ymgorffori’r polisïau newydd, yn ogystal â phroses arfaethedig os bydd cyflogwyr yn apelio yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol a wneir am yr hyblygrwydd hwn.

 

            Nododd Mr Middleman y pwyntiau allweddol y dylid ymgynghori yn eu cylch ym mharagraffau 1.03 ac 1.09 yr adroddiad, pan fo mewnbwn cyflogwyr yn bwysig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cymeradwyodd y Pwyllgor y polisïau drafft i’w cynnwys yn Natganiad y Strategaeth Gyllido a’r ymgynghoriad gyda chyflogwyr.

(b)  Penderfynodd y Pwyllgor y gellid dirprwyo mân newidiadau terfynol, yn dilyn ymgynghoriad, i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a Dirprwy Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd, ac y dylid dod ag unrhyw newidiadau sylweddol yn ôl gerbron y Pwyllgor i’w hystyried.

(c)  Cytunodd y Pwyllgor ar y diweddariadau i Ddirprwyo Swyddogaethau, sydd ynghlwm yn Atodiad 3.

 

138.

Strategaeth Weinyddu pdf icon PDF 121 KB

Rhoi Strategaeth Weinyddu ddrafft wedi’i diweddaru i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfer ymgynghori â chyflogwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Latham yr adroddiad hwn drwy bwysleisio nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gael strategaeth weinyddu ond ei bod yn arfer dda, er fod Bwrdd Cynghori’r Cynllun wedi cynghori’r MHCLG yn ffurfiol dros y misoedd diwethaf y dylai strategaeth weinyddu fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae gan y Gronfa strategaeth weinyddu ers nifer o flynyddoedd.Nod y strategaeth yw amlinellu’r cyfrifoldebau ar gyfer y Gronfa a’i chyflogwyr.Nododd Mrs Williams fod y prif newidiadau’n ymwneud ag ymgorffori dulliau adrodd newydd gyda chyflogwyr, i gymryd lle’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth presennol.Pwysleisiodd nad yw’r gofynion yn newydd ar y cyfan; yr hyn sy’n newid yw’r ffordd maen nhw’n cael eu cyfathrebu a’u hadrodd.Gobeithir y bydd y drefn newydd yn fwy hwylus ac effeithlon ar gyfer cyflogwyr a’r Gronfa, yn ogystal â helpu i ganfod yn gyflymach a oes gan gyflogwyr yr adnoddau a’r gallu i gyflawni eu cyfrifoldebau fel y gellir cynnig cymorth.Mae eitem 1.06 yn pwysleisio’r prif newidiadau yn y strategaeth.

 

            Gofynnodd Mr Latham a yw’r prif gyflogwyr e.e.y Cyngor a’r prif gyflogwyr eraill, yn barod i ddiwallu disgwyliadau’r Gronfa yn hyn o beth.Nododd Mrs Williams fod yr amserlenni targed yn rhywbeth yr oedd yn rhaid i gyflogwyr gydymffurfio â nhw yn y gorffennol.Serch hynny, gan nad yw’r tîm wedi darparu adroddiadau yn y gorffennol, roedd yn anodd cynnig sylw, gan nad yw’r cyflogwyr o reidrwydd yn gwybod a ydyn nhw’n cydymffurfio â’r amserlenni neu beidio.Bydd yr adroddiadau’n dangos os nad yw cyflogwyr yn llwyddo i gydymffurfio mewn unrhyw feysydd allweddol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bateman faint o gyflogwyr sydd gan y Gronfa.Cadarnhaodd Mrs Williams fod gan y Gronfa tua 50 o gyflogwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cafodd y Strategaeth Weinyddu newydd, sydd ynghlwm yn Atodiad 1, ei hystyried a’i chymeradwyo gan y Pwyllgor, yn amodol ar ymgynghori â’r rhanddeiliaid.

(b)  Penderfynodd y Pwyllgor y gellid dirprwyo mân newidiadau terfynol, yn dilyn ymgynghoriad, i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a’r Rheolwr Gweinyddu Pensiynau, ac y dylid dod ag unrhyw newidiadau sylweddol yn ôl gerbron y Pwyllgor i’w hystyried.

 

139.

Parhad Busnes a Seiberdroseddu pdf icon PDF 94 KB

Rhoi Polisi Parhad Busnes y Gronfa i Aelodau’r Pwyllgor i’w gymeradwyo a’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran rheoli risg o seiberdroseddu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mr Latham fod y Gronfa’n ymgymryd â gwaith sylweddol i ddeall sut y gall y Gronfa wrthsefyll seiberdroseddu.Rhoddir mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor maes o law, er y bydd hyn yn si?r o fod yn eitem Rhan 2 am resymau diogelwch. Cyfeiriodd Mr Latham hefyd at ddisgwyliadau’r Rheoleiddiwr Pensiynau ac y dylai rheolwyr y cynllun ddeall a rheoli peryglon seiberdroseddu’n gywir.

 

            Esboniodd Mr Latham fod y Gronfa hefyd wedi cynllunio ar gyfer parhad busnes yn y gorffennol ac felly mae’n galonogol na chafwyd problemau yn y gorffennol, ond bydd mwy o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod cynlluniau parhad busnes yn parhau i fod yn gyfredol a phriodol.  Fel rhan o hyn, mae Polisi Parhad Busnes wedi cael ei ddatblygu er mwyn i’r Pwyllgor ei ystyried a’i gymeradwyo.

 

            Nododd y Cynghorydd Bateman mai seiberdroseddu yw un o brif beryglon y Gronfa a chadarnhaodd Mr Latham ei bod yn risg allweddol a’i bod felly’n bwysig cael sicrwydd ynghylch sut y rheolir hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Williams beth mae’r Gronfa’n ei wneud yn weithredol i edrych ar gynllunio ar gyfer olyniaeth.Cadarnhaodd Mrs Williams fod yr eitem hon ar y gofrestr risg a threuliwyd llawer o amser yn ystyried hyn.Mae ystod eang o staff yn y tîm naill ai’n derbyn hyfforddiant ar hyn o bryd neu eisoes wedi eu hyfforddi i reoli’r maes hwn.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Williams a yw'r Gronfa wedi newid ei strwythur cyflogau gan fod awdurdodau eraill yn talu staff cymwys ar lefel uwch.Cadarnhaodd Mrs Williams nad oedd wedi sylwi bod hyn yn broblem gan fod unrhyw aelod o staff a adawodd y tîm wedi ailymuno ers hynny.

 

            O ran cynllunio ar gyfer olyniaeth, dywedodd Mrs McWilliam fod y Gronfa, fel rhan o’r adolygiad cynllunio ar gyfer olyniaeth, yn cynnal dadansoddiad o'r bylchau, a fydd yn cynnwys ystyried pwy a fyddai’n gwneud y gwaith pe na bai aelod o staff ar gael.  Bydd hyn yn helpu i nodi unrhyw risg gyda pherson allweddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cafodd Polisi Parhad Busnes y Gronfa ei adolygu a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor.

(b)  Gwnaeth y Pwyllgor sylw ar y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â pharhad busnes a seiberddiogelwch ar gyfer y Gronfa.

 

140.

Cynllun Busnes Partneriaeth Bensiynau Cymru 2021/22 i 2023/24 pdf icon PDF 93 KB

Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda Chynllun Busnes Partneriaeth Bensiynau Cymru, gan gynnwys cyllideb PPC ar gyfer 2021/22, i’w gymeradwyo yn amodol ar gymeradwyaeth y Cydbwyllgor Llywodraethu ar 24 Mawrth 2021. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Gwnaeth Mr Latham atgoffa’r Pwyllgor fod yr holl Gronfeydd o fewn Partneriaeth Bensiynau Cymru wedi gweithio’n agos i ddatblygu cynllun busnes Partneriaeth Bensiynau Cymru sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd, gyda’r pwyslais ar Fuddsoddi Cyfrifol, peryglon hinsawdd a marchnadoedd preifat. Rhaid i’r wyth Awdurdod Cyfansoddol sy’n cymryd rhan ym Mhartneriaeth Bensiynau Cymru gymeradwyo’r cynllun busnes.

 

            Mynegodd Mr Hibbert ei bryder ynghylch cynigion ar sut byddai penodi Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun yn digwydd drwy’r Pwyllgor Cydlywodraethu.Gan fod penodi Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun yn rhan o’r cynllun busnes, roedd ganddo’i bryderon ynghylch cymeradwyo’r cynllun busnes gan y gallai hyn arwain at anwybyddu’r materion yn ymwneud â sut y gwneir y penodiad.Pwysleisiodd, ar sail trafodaethau blaenorol gan y Pwyllgor, fod awydd cryf i aelodau’r cynllun a’r cyrff sy’n eu cynrychioli i benodi Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun, yn hytrach na’r Pwyllgor Cydlywodraethu.

 

            Nododd Mr Latham y pryder ond dywedodd na ddylai hyn fod yn rheswm dros beidio â chymeradwyo’r cynllun busnes gan nad yw canolbwynt y cynllun busnes ei hun yn datgan pwy a benodir na sut y gwneir hynny.

 

            Awgrymodd Mrs McWilliam y dylid cymeradwyo’r cynllun busnes a gadael i’r Cadeirydd ymdrin â phryderon y Pwyllgor ar y mater hwn fel rhan o’r eitem ar wahân am y Pwyllgor Cydlywodraethu. Pwysleisiodd fod y Gronfa’n un o wyth ac felly, er fod y Cadeirydd wedi mynegi’r pryderon hyn, byddai’n rhaid i aelodau eraill y Pwyllgor Cydlywodraethu gytuno hefyd.

 

Cytunodd Mr Everett fod y sefyllfa’n anodd gan fod y Gronfa wedi ei dal yn y canol rhwng trefn ac egwyddor.Ei gyngor ef fyddai i’r Cadeirydd a Mr Latham sicrhau bod y disgwyliadau’n eglur o ran sut y penodir Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun.

 

Cytunodd holl aelodau’r Pwyllgor gyda’r argymhellion ar wahân i Mr Hibbert a nododd ei bryderon gyda’r drefn i benodi Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Busnes drafft Partneriaeth Bensiynau Cymru, yn cynnwys amcanion y gronfa ar dudalen 7 a’r gyllideb ar dudalen 14, yn ymwneud â chyfnod 2021/22 hyd at 2023/24 cyn y bydd yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cydlywodraethu ar 24 Mawrth 2021. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y bydd y Cadeirydd yn mynegi eu safbwynt i’r Pwyllgor Cydlywodraethu ar y broses i gymeradwyo Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun.

 

141.

Cynllun Busnes Cronfa Bensiynau Clwyd 2021/22 i 2023/24. pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno Cynllun Busnes Cronfa Bensiynau Clwyd i Aelodau’r Pwyllgor gan gynnwys y gyllideb ar gyfer 2021/22 ar gyfer ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Latham gynllun busnes arfaethedig Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer y tair blynedd nesaf a nododd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Diolchodd i’r tîm am eu hymdrechion wrth baratoi’r cynllun busnes a nododd nad yw’n cynnwys unrhyw broblemau mawr newydd.
  • Pwysleisiodd ei bod yn arfer dda i adolygu polisïau’r Gronfa’n rheolaidd felly cafodd hyn ei gynnwys.
  • Gan ystyried ei bwysigrwydd, mae newid hinsawdd nawr yn cael ei ystyried ar wahân yn y cynllun.
  • Mae canllawiau cronni ar fin cael eu cyhoeddi a gallai hyn gael effaith sylweddol ar y Gronfa.
  • Cynhelir adolygiad actiwaraidd interim ar y Gronfa eleni.Mae’r adolygiad interim yn helpu cyflogwyr i gynllunio cyllidebau ac mae’n caniatáu eu swyddogion cyllid i nodi costau disgwyliedig o flaen llaw a fydd yn codi yn sgil y prisiad actiwaraidd nesaf.
  • Mae’r adrannau gweinyddu a chyfathrebu nawr wedi eu rhannu’n feysydd sy’n cael neu ddim yn cael eu rheoleiddio.

 

Gofynnodd Mr Hibbert am adroddiad gan y Pwyllgor Cydlywodraethu am eu gweithgarwch benthyg stoc, fel yr addawyd.Cadarnhaodd Mr Latham yr adroddir am hyn ym mhob un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cydlywodraethu, ond ei bod yn eitem gyfrinachol.Cadarnhaodd Mr Latham y bydd yn ymchwilio i weld sut y gellir rhannu’r wybodaeth hon gyda’r Pwyllgor.

 

            Wrth gyflwyno adran ragarweiniol y Cynllun Busnes, cyfeiriodd Mrs Fielder at y pwyntiau allweddol canlynol:

·         Nododd y cyflwyniad ar dudalen 128 a’r newidiadau a wnaed yn niweddariad y Gronfa i’r siartiau strwythur (a amlygir ar dudalen 129).

·         Yn ogystal â materion busnes fel arfer, mae’r Gronfa wedi nodi pa feysydd y dylid canolbwyntio arnyn nhw dros y tair blynedd nesaf ar dudalennau 134 i 137.

·         Fel rhan o’r llif arian, bu’r Gronfa’n eithaf ceidwadol wrth amcangyfrif cyfraniadau 2022/23 gan gofio mai hon fydd y flwyddyn nesaf ar ôl y prisiad actiwaraidd.

·         Roedd amcangyfrif y gostyngiadau a’r dosraniadau yn y marchnadoedd preifat wedi parhau i fod yn anodd yn dilyn y farchnad gyfnewidiol a welwyd oherwydd COVID-19 yn Chwefror a Mawrth 2020. Yn y flwyddyn ddiwethaf, roedd dosraniadau’r Gronfa’n uwch na’r disgwyl. Roedd brasamcan y dosraniadau net y tu hwnt i’r gostyngiadau tua £17 miliwn o’i gymharu â chyllideb wreiddiol o tua £8 miliwn.Roedd hyn yn amlygu pa mor anodd yw amcangyfrif y ffigur hwn.

 

O ran y cyfandaliadau ar dudalen 139 y rhaglen, holodd y Cynghorydd Bateman am y cynnydd o tua £3 miliwn yn y gwir gyllidebau.Cadarnhaodd Mrs Fielder fod y ffigur hwn yn cynnwys cyfandaliadau ymddeol a grantiau marwolaeth.Nododd ei bod yn anodd pennu’r cyfandaliadau y mae aelodau’n bwriadu eu cymryd ar ôl ymddeol gan fod gan yr aelodau’r dewis i gyfnewid, sy’n arwain at gyfandaliad mwy yn gyfnewid am bensiwn llai.

 

Nododd Mr Vaughan y pwyntiau allweddol canlynol ynghylch cyllideb weithredol 2021/22 ar dudalen 140.

·         Ar y cyfan, roedd y treuliau llywodraethu tua £2.9 miliwn yn y gyllideb, sy’n gynnych bychan ar gyllideb y llynedd.

·         Roedd y gyllideb ar gyfer treuliau’r rheolwr buddsoddi tua £20.8 miliwn.  

·         Roedd costau gweithwyr wedi cynyddu, ond roedd hyn o ganlyniad i gostau ychwanegol mewn perthynas  ...  view the full Cofnodion text for item 141.