Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

125.

Ymddiheuriadau

Pwrpas: I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim

 

126.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

Pwrpas: I dderbyn unrhyw Ddatganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill ei fod am ddychwelyd ei ffurflen datgan cysylltiadau ac y byddai’n gwneud hynny cyn bo hir.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

127.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar  25th Tachwedd 2020

 

Cofnodion:

Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd is-gronfa ecwiti’r farchnad ddatblygol  Partneriaeth Pensiynau Cymru, wedi ei lansio eto.Cadarnhaodd Mr Latham fod mwy o oedi ac felly bod disgwyl i’r dyddiad lansio fod ym mis Medi 2021. Byddai hyn yn cael ei drafod yn nes ymlaen ar yr agenda.

Gwnaeth Mr Hibbert bwynt y gallai diystyru ffactorau megis newid yn yr hinsawdd wrth fuddsoddi asedau’r Gronfa, fod yn niweidiol oherwydd y gall materion ESG gael effaith negyddol ar berfformiad buddsoddiadau.  Felly, yn ei farn o, er mwyn i’r Pwyllgor gynnal eu dyletswyddau ymddiriedol, mae’n bwysig fod ffactorau o’r fath yn cael eu hystyried wrth fuddsoddi asedau’r Gronfa.

PENDERFYNWYD:

Derbyn, cymeradwyo ac arwyddo cofnodion y cyfarfod ar 25 Tachwedd 2020 gan y Cadeirydd.

128.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:   Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor o faterion yn ymwneud â llywodraethu, gan gynnwys cynnydd y Cynllun Busnes a hyfforddiant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Latham ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y materion Llywodraethu diweddaraf ar gyfer y Gronfa gan gynnwys newid bychan i rai amserlenni yn y cynllun busnes. Nododd fod y Gronfa yn cynnal gwiriad cydymffurfiaeth yn erbyn gofynion Y Rheoleiddiwr Pensiynau, a bod Mrs Fielder a Mrs Williams wedi ei adolygu’n ddiweddar gyda goruchwyliaeth y Bwrdd.Pan nad oedd y Gronfa’n cydymffurfio, cymerwyd camau gweithredu lle roedd yn briodol.

 

            O ran risgiau’n ymwneud â llywodraethu, roedd y rhai oedd o fewn rheolaeth uniongyrchol y Gronfa’n gymharol isel. Roedd rhai meysydd risg-uchel i’r Gronfa, yn ymwneud â ffactorau allanol fel newidiadau mewn rheoleiddio ac effaith COVID-19.

 

            Roedd Mr Latham yn dymuno mesur barn y Pwyllgor o ran amseru dyddiau hyfforddiant y Pwyllgor i’r dyfodol.Cytunodd y Pwyllgor i’r gwaith o drefnu’r dyddiau hyfforddiant gychwyn cyn gynted â phosibl ac felly cadarnhaodd Mrs McWilliam y byddai mewn cysylltiad gyda rhai dyddiadau posibl ar gyfer y sesiynau hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a oedd y Gronfa wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran recriwtio arbenigwr ar y we.Cadarnhaodd Mrs Williams fod arbenigwr wedi ei benodi’n fewnol o adran arall o’r Cyngor ble roeddent wedi bod yn rhan o’r rhaglen Hyfforddi Graddedigion.Pwysleisiodd y penodiad cadarnhaol ac edrychai ymlaen at y profiad y gallent ei gynnig i’r tîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r amserlenni ar gyfer tasgau llywodraethu yn y cynllun busnes fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.

(c)  Cytunodd y Pwyllgor y dylid trefnu’r sesiynau hyfforddi nesaf yngl?n â materion pwnc penodol fel y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1.08.

129.

Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn pdf icon PDF 161 KB

Pwrpas:  Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor o faterion yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu, gan gynnwys cynnydd y Cynllun Busnes. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mrs Williams y pwyntiau allweddol canlynol o’i hadroddiad:

 

·         Roedd y tîm wedi llwyddo i gwblhau’r rhan fwyaf o’r meysydd gwaith yn y cynllun busnes.

·         Roedd rhai eitemau ar y cynllun busnes yn dal heb eu gorffen oherwydd yr oedi mewn canllawiau a rheoliadau, a hynny wedi dal pethau yn ôl.

·         Roedd y tîm wedi dechrau prosesu cynllun busnes 2021/2022.

·         Roedd yr ymarfer cysoni GMP i fod i ddod i ben ar ddiwedd Chwefror 2021.

·         Gwnaed cynnydd gyda sesiynau ymgysylltu â chyflogwr, McCloud.

·         O ran y dangosydd perfformiad allweddol, roedd gostyngiad mewn achosion oedd heb eu penderfynu i 5,000 ac roedd 10,000 tua 2 flynedd yn ôl.Roedd hyn yn hynod gadarnhaol i’r Gronfa ac yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad y tîm yn ogystal â chefnogaeth y Pwyllgor oedd yn cydnabod yr angen am adnoddau i hwyluso hyn.

·         Yn dilyn cymeradwyo’r achos busnes am Brif Swyddog Gwefan a Phrif Swyddog Cyflogau mae penodiadau wedi ei wneud i’r ddwy swydd.

·         Mae’r tîm wedi ei effeithio gan salwch nad oedd yn ymwneud â COVID a phrofedigaethau teuluol yn ddiweddar. Ond mae’r hwyliau’n dda ac mae pawb wedi parhau i weithio’n dda ac ni effeithiwyd ar gyfraddau gwaith.

                                                                                        

Rhoddodd Mr Everett ganmoliaeth i’r tîm am eu gwydnwch yn ystod yr amseroedd anodd yma am aros yn gadarnhaol a dal i weithio er gwaethaf hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r estyniad i amserlenni mewn perthynas â nifer y camau gweithredu o fewn y cynllun busnes fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.

130.

Diweddariad Buddsoddi ac Ariannol pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas: Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd, yn cynnwys cynnydd gyda’r Cynllun Busnes. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pwysleisiodd Mrs Fielder y sefyllfa gref roedd y Gronfa ynddi ar hyn o bryd a nododd y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Roedd y gwaith parhaus gyda Buddsoddi Cyfrifol wedi cymryd cryn dipyn o amser Mrs Fielder yn ychwanegol at ei dyletswyddau arferol.
  • Yn dilyn y cyflwyniad a roddwyd i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd, bwriedir i’r tîm adrodd wrth y Pwyllgor ym mis Mehefin gyda map ffordd yn amlinellu bwriadau’r Gronfa o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Argymhellodd Mrs Fielder fod y Gronfa yn dod yn aelod cysylltiedig o Penions for Purpose, oedd yn fenter gydweithredol o reolwyr effaith, cronfeydd pensiwn, mentrau cymdeithasol ac eraill oedd yn rhan neu a diddordeb mewn buddsoddiad effaith.Yn ychwanegol at y gwaith mae’r Gronfa yn ei ddatblygu i fynd i’r afael â risg yr hinsawdd, byddai hyn yn cynorthwyo bwriad y Gronfa i fuddsoddi, lle bo modd, yn uno a’r nodau datblygu cynaliadwy. Mae The Good Economy yn gwmni cynghori cymdeithasol, sy’n arbenigo mewn mesur effaith a rheoli ac mae Mrs Fielder wedi bod yn rhan o rai o’u gweithgorau nhw hefyd.
  • Mae Mrs Fielder hefyd wedi bod yn rhan o sawl cyfarfod gydag aelodau Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru ac mae wedi cynnwys rheolwyr allanol y Gronfa allai gynnig canllawiau a chymorth ar rai o’r prosiectau unigol.
  • Mae Bwrdd Cynghori’r Cynllun wedi creu gr?p cynghori ar fuddsoddi cyfrifol sy’n cynnwys detholiad o Reolwyr Cronfa, Ymgynghorwyr a chynrychiolwyr o Gronfeydd a grwpiau awdurdod gweinyddu allweddol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Penodwyd Mrs Fielder yn gynrychiolydd cronfeydd Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru.Mae Mr Buckland hefyd wedi ei benodi ar ran Mercer.
  • Mae’r Gronfa wedi bod yn rhan o’r Sefydliad Effaith a lansiwyd yn 2019 gyda'r bwriad o gyflymu'r twf a gwella effeithlonrwydd effaith y farchnad buddsoddiad effaith yn y DU ac yn rhyngwladol.Maen nhw wedi datblygu pedair egwyddor arweiniol ar gyfer cynlluniau pensiwn ac argymhellir fod y Gronfa yn mabwysiadu’r egwyddorion hyn gan eu bod wedi eu alinio i Bolisi Buddsoddi Cyfrifol y Gronfa.
  • O ran y Cyfrifoldebau Dirprwyedig, mae’r Gronfa yn dal a llif arian cadarnhaol.Mae Mercer a’r Gronfa wedi cydweithio a chafodd £15 miliwn ei ymrwymo i reolwr Ecwiti Preifat, Livingbridge.

 

Ychwanegodd Mr Latham ei fod wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yngl?n â phenderfyniad i dynnu nôl o fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil a buddsoddi mewn buddsoddiadau lleol. Roedd y Cynghorydd Williams yn ymwybodol o hyn.

 

O ran Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru, gofynnodd Mr Everett beth allai’r Gronfa ddisgwyl o ran amserlen.Dywedodd Mrs Fielder nad oedd hi’n sicr ar hyn o bryd.Nododd nad oes gan y Gronfa yr arbenigedd ac nad yw wedi ei harfogi i ddadansoddi’r prosiectau unigol ei hun, o ystyried fod y gwaith yn cael ei gwblhau drwy reolwr buddsoddi fel arfer. Gwnaeth Mrs Fielder sylw y gallai rhai o reolwyr presennol y Gronfa hwyluso hyn ond y byddai’n rhaid i’r gronfa weithio gyda Phartneriaeth Pensiynau Cymru yn hyn o beth.

 

            Holodd y Cynghorydd Bateman a  ...  view the full Cofnodion text for item 130.

131.

Cyfuno buddsoddiadau yng nghymru pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:  Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar Gyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru, gan gynnwys cynnydd o ran cynrychiolaeth aelodau’r cynllun ar Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Latham ddiweddariad i’r Pwyllgor yngl?n â’r gwaith a wnaed gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru o ran dod â buddsoddiadau at ei gilydd yng Nghymru gan wneud y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Cadarnhaodd fod y Pwyllgor Cyd-lywodraethu wedi cytuno bellach i gael Cynrychiolydd cyfetholedig o Aelodau’r Cynllun ar y Pwyllgor.
  • Mae Partneriaeth Pensiynau Cymru wedi symud ymlaen ac adolygu polisïau newydd gan gynnwys polisi hyfforddi a mabwysiadu polisi pleidleisio Robeco.
  • Roedd is-gr?p risg newydd wedi ei greu ac mae bellach yn rhan o lywodraethu Partneriaeth Pensiynau Cymru.
  • Mae gwaith yn parhau ar farchnadoedd preifat Partneriaeth Pensiynau Cymru, risg ac is-grwpiau Buddsoddiad Cyfrifol.Mae’r rhain yn feysydd cymhleth ac maen nhw wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyliad gwreiddiol i Mrs Fielder a Mr Latham sy’n rhan o'r ddau gr?p.
  • O ran buddsoddiadau i Bartneriaeth Pensiynau Cymru, mae Buddsoddiadau Ecwiti Byd-eang a buddsoddiadau Credyd Aml-ased yn cael eu rheoli erbyn hyn gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru ac yn perfformio yn ôl y disgwyl, er bod y ddau bortffolio yn gymharol newydd.
  • Roedd oedi o ran lansio’r is-gronfa i’r Marchnadoedd Datblygol a disgwylir y bydd y dyddiad lansio ym mis Medi 2021.Roedd hyn yn bennaf oherwydd yr awydd i gynnwys lleihau carbon, ac roedd hynny’n  gofyn am fwy o eglurder. Pwysleisiodd Mr Latham mai mantais yr is gronfa marchnadoedd datblygol yw lleihad carbon, llai o ffioedd a gwell canlyniad ymateb addasu risg.

 

Gofynnodd Mr Hibbert a oedd y Pwyllgor Cyd-lywodraethu angen cyfweliad yn y broses o ddethol Cynrychiolydd Aelod o’r Cynllun. Dywedodd Mr Latham y byddai’r broses o benderfynu ar y penodiad yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyd-lywodraethu.Credai Mr Hibbert y dylai cynrychiolwyr yr aelodau gael penderfynu ar y cynrychiolydd.Cefnogodd y Cyng. Rutherford farn Mr Hibbert.Roedd Mr Everett hefyd yn cefnogi hyn o gofio y byddai cyfweliadau penodi eisoes wedi digwydd ar lefel y Gronfa ar gyfer aelodau’r Bwrdd.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd godi’r mater hwn gyda’r Pwyllgor Cyd-lywodraethu yn y cyfarfod nesaf.

 

Ar dudalen 127, tynnodd y Cyng. Bateman sylw at y ffaith fod Cofrestr risg Partneriaeth Pensiynau Cymru yn rhoi’r argraff fod mwy o fodiau i lawr nag oedd yna o fodiau i fyny.Tynnodd Mr Lathan sylw’r Pwyllgor at y ffaith fod nifer o fodiau ar draws oedd yn golygu fod Partneriaeth Pensiynau Cymru yn hapus ond fod rhai meysydd i’w gwella eto.Roedd unrhyw fodiau i lawr o’r siart yn ymwneud a risgiau gyda chyflenwyr allanol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a’i drafod.

(b)  Cymeradwyodd y Pwyllgor y newidiadau i’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod er mwyn caniatáu cynnwys Cynrychiolydd Aelod o’r Cynllun ar y Pwyllgor Cyd-lywodraethu, yn amodol ar gytuno i’r newidiadau arfaethedig i eiriad y Cytundeb Rhyng-Awdurdod gan Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a gofyn i’r Cadeirydd fynegi dymuniad i gael proses benodi o dan arweiniad y Bwrdd Pensiwn yn y Pwyllgor Cyd-lywodraethu nesaf.

 

132.

Diweddariad ar yr economi a'r farchnad a y strategaeth Fuddsoddi a chrynodeb gan y rheolwr pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas: Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad Rheolwyr y Gronfa a'r Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y farchnad a’r economi hyd t 31 Rhagfyr 2020 a chrynhodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Roedd yr ymdeimlad o ymdrin a risg yn dal i ddod ag elw cadarnhaol mewn asedau.

·         Roedd Banciau Canolog wedi ysgogi’r economi oherwydd effaith ansefydlog lledaeniad COVID-19.

 

Cadarnhaodd Mr Buckland fod gwerth y Gronfa ar y farchnad wedi cynyddu o tua £120 miliwn yn y flwyddyn erbyn 31 Rhagfyr 2020 i gyfanswm o £2.1 biliwn, sef y ffigwr uchaf erioed.Roedd y cynnydd hwn oherwydd effaith chwyddiant pris asedau yr oedd Mr Harkin wedi ei drafod.Roedd perfformiad y Gronfa dros 3 mis, 12 mis a 3 blynedd yn +6.2%, +6.4% a +5.5% y flwyddyn yn eu trefn.

 

Tynnodd Mr Buckland sylw at y tri tharged/meincnod gwahanol o baragraff 1.04 ar dudalen 147. Y targed actiwaraidd oedd y lefel targed tymor hir a rhagdybiwyd gan yr Actiwari.Y targed strategol oedd yr elw posibl ar gyfer strategaeth fuddsoddiad y Gronfa, a chyfanswm y meincnod oedd y targedau cyfansawdd gan bob un o’r rheolwyr cronfa sylfaenol.Mae’r Gronfa wedi perfformio’n well na’r targed actiwaraidd a’r targed strategol dros Chwarter 4 2020 a blwyddyn 1.Roedd ychydig o danberfformio ar y meincnod cyfan.

 

            O safbwynt dosbarth asedau, mae’r Gronfa bellach yn unol â phob targed strategol.Ond, roedd perfformiad asedau marchnad breifat y tu ôl i farchnadoedd rhestredig ac yn llawer is na’r meincnod. Sicrhaodd Mr Buckland y Pwyllgor nad oedd ganddo unrhyw bryderon yngl?n a hyn.

 

Diolchodd y Cyng. Bateman i’r tîm am eu gwaith a’r adroddiad cynhwysfawr ar gyfer yr eitem agenda hon.

 

            Gofynnodd Mrs McWilliam ai meincnod neu darged strategol oedd y targed o +5.4% dros y chwarter.Cadarnhaodd Mr Buckland mai meincnod oedd hwn.

 

            Dywedodd Mr Buckland ei fod yn croesawu ac yn annog adborth ar yr adroddiad monitro gan ei fod yn ffordd newydd o adrodd.

 

            Gofynnodd Mr Everett beth oedd y cyngor a’r ymdeimlad o hyder yn y rhagolygon tymor byr ar gyfer Chwarter 1 a 2 yn 2021. Cadarnhaodd Mr Hankin fod y rhagdybiaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn gymharol gadarnhaol ar gyfer asedau risg. Disgwylid i ecwiti ddod yn ei ôl yn gymharol gryf o ystyried y brechlyn byd-eang rhag COVID-19.Roedd buddsoddwyr wrthi'n barhaus yn ceisio edrych ymlaen o ran sefyllfa COVID-19.Ond, rhybuddiodd fod y farchnad yn dal yn hynod anwadal ac fel y gwelwyd yn ddiweddar, gall nerfusrwydd effeithio ar farchnadoedd.

 

            Cwestiynodd y Cyng. Bateman sut fyddai cyfraddau llog negyddol yn effeithio ar y Gronfa.Atebodd Mr Harkin fod y DU mewn sefyllfa economaidd newydd.Dywedodd fod elw byd-eang o fondiau yn isel iawn o ystyried y ffigurau diweithdra, cyfradd chwyddiant ac effaith ôl Brexit.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor berfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2020 ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi.

133.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:  Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Middleman wybodaeth i’r Pwyllgor ar y pwyntiau canlynol:

 

·         Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd gan y Gronfa lefel gyllid o 96%, oedd 4% ar y blaen i’r hyn a ddisgwyliwyd yn y prisiad actiwaraidd diwethaf.

·         Cododd y mater yngl?n ag ansicrwydd y farchnad yn ôl yr eitem agenda flaenorol, a allai effeithio ar prun ai fydd y Gronfa’n bodloni’r elw tymor hir disgwyliedig yn y cynllun ariannu, neu peidio.Er enghraifft, byddai gostyngiad o 0.25% y flwyddyn yn yr elw tymor hir disgwyliedig, yn gostwng y lefel ariannu o 4% yn ôl i 92%.Roedd hyn yn pwysleisio sensitifrwydd i elw a’r effaith posibl ar gyfraniadau cyflogwyr.

·         Roedd y Gronfa mewn sefyllfa dda o ystyried y rheoli risg perthnasol o fewn y llwybr hedfan i roi mwy o allu i ragweld canlyniadau. Er nad yw hyn yn cael gwared ar bob risg, mae’n rhoi lefel dda o amddiffyniad.

 

Gofynnodd Mrs McWilliam a fyddai unrhyw beth yn digwydd pe bai’r Gronfa yn cyrraedd lefel ariannu o 100%.Dywedodd Mr Middleman yn y sefyllfa honno y byddai’n rhaid i’r Gronfa adolygu ei strategaeth ac ystyried “bancio” peth o’r enillion drwy leihau’r risg ymhellach drwy strategaeth fuddsoddi e.e. gostyngiad mewn asedau twf.Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, ac fe’u trafodir yn y Gr?p Ariannu a Rheoli Risg a’u gweithredu yn ôl y ddirprwyaeth.  Gallai canlyniad y drafodaeth honno fod yn wahanol pe bai’r lefel ariannu yn gwella i 110% o’i gymharu â lefel ariannu o 101% dyweder.

 

            Nododd Mr Latham fod y Gronfa wedi llwyddo i gyrraedd targedau gyda risg cymharol isel a gofynnodd i Mr Middleman a oedd hyn yn sylw teg.Cadarnhaodd Mr Middleman a dywedodd fod strategaeth y Gronfa yn llawer mwy ymwybodol o risg na nifer o gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.Elfen hanfodol y fframwaith llwybr hedfan oedd monitro’r risg mewn ffordd fwy strwythuredig a sefydlogi a chyflawni targed y Gronfa.Roedd rhedeg y Gronfa ar risg isel wedi bod yn llwyddiant, ond er mwyn amddiffyn rhag ochr negyddol bydd yn rhaid ildio peth o’r ochr gadarnhaol, ond ym marn Mr Middleman, mae agwedd y Gronfa yn un gywir yn y tymor hir.

 

            Gofynnodd Mr Everett am ffigurau diweddaraf y lefelau ariannu.Eglurodd Mr Middleman fod y lefel ariannu yn debyg iawn i 31 Rhagfyr 2020 h.y. wedi ei ariannu 96%.Caiff hyn ei adolygu bob mis fel arfer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.