Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad) I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai oedd yn bresennol i ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau cysylltiedig â’r gronfa, ar wahân i’r rhai hynny a gofnodwyd eisoes yng nghofrestr y Gronfa. O ran y wybodaeth ddiweddaraf am Fuddsoddi, Ariannu a Chronni, dywedodd y Cynghorydd Wedlake ei fod yn aelod o Ymgyrch Cefnogi Palesteina. Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad newydd.
|
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19 Mehefin 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mehefin. PENDERFYNWYD: Cafodd cofnodion 19 Mehefin 2024 eu derbyn, eu cymeradwyo a bydd y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2023/24 Darparu Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2023/24 i'r Pwyllgor eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt, a gwneud yr Aelodau'n ymwybodol o'r ymateb i Lythyr Ymholiadau Archwilio 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy’r adroddiad yma gan ddweud: - Bod angen i’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon a archwiliwyd gael eu cyhoeddi cyn 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Mae’r Swyddog Adran 151 wedi adolygu’r cyfrifon a chadarnhau ei fod yn hapus gyda’u hansawdd a’r tybiaethau sylfaenol cyn eu cyflwyno i Archwilio Cymru. - Cafodd canllaw cenedlaethol ar adroddiadau blynyddol cronfa bensiynau CPLlL ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2024, ac yn ôl y canllaw, mae’r Gronfa wedi gwneud ei gorau i gydymffurfio heblaw lle byddai’r ymdrech neu gost angenrheidiol yn anghymesur. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i strwythur yr adroddiad yn seiliedig ar ganllaw sydd â’r bwriad o wneud adroddiadau blynyddol y gronfa bensiynau yn fwy unffurf ar draws y CPLlL. - Diolchodd i’r rheini a fu’n rhan o baratoi fersiwn ddrafft yr adroddiad blynyddol a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor roi nodiadau a sylwadau. Bydd y Gronfa yn parhau i weithio gydag Archwilio Cymru i ddarparu Adroddiad Blynyddol terfynol wedi’i archwilio. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd ynghyd â Barn Archwilio ffurfiol, a bydd swyddogion yn argymell cymeradwyo’r ddogfen derfynol. - Mae’r gwaith o archwilio’r Cyfrifon Blynyddol wedi dechrau ac nid oes unrhyw faterion sylweddol wedi’u codi hyd yn hyn. Cafodd yr adroddiad drafft ei gyflwyno i Archwilio Cymru erbyn y dyddiad cau ar 1 Awst 2024, ond nid yw wedi cael ei archwilio eto.
Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy rannau cyntaf yr Adroddiad Blynyddol. Cyflwynodd Mrs McWilliam adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol, ac Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiynau. Diolchodd i aelodau’r Bwrdd am eu gwaith ac ymrwymiad i’r Gronfa, a diolchodd i’r Pwyllgor a’r swyddogion am weithio’n agored gyda’r Bwrdd a chroesawu’r ffaith ei fod yn ymwneud â’r Gronfa. I gloi dywedodd fod yna reolaeth eithriadol o’r Gronfa ac roedd 2023-24 yn flwyddyn lwyddiannus arall o safbwynt llywodraethu, ac fe soniodd am y risg yn sgil maint y gwaith sy’n gysylltiedig â datblygiadau cenedlaethol sydd y tu hwnt i reolaeth y Gronfa. Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy’r adroddiad ariannol a chyfrifon, yma gan ddweud: - Roedd yna welliant yng ngwerth ased net o 2.3 biliwn i 2.48 biliwn, yn bennaf oherwydd symudiad cadarnhaol yn y farchnad. - Llai o gyfraniadau yn sgil canlyniad Prisiad Actiwaraidd 2022. - Mwy o bensiynau yn daladwy yn sgil cynnydd chwyddiant mewn pensiynau ym mis Ebrill 2023. - Mwy o wariant yn gyffredinol o’i gymharu ag incwm ac eithrio ffioedd ac incwm buddsoddi. Roedd hyn yn cyd-fynd yn unol â’r amcanestyniad. - Trosolwg o berfformiad a ffioedd buddsoddi. - Y sefyllfa gyllido a amcangyfrifwyd oedd 109% ar 31 Mawrth 2024.
Yn olaf, gofynnodd i Aelodau nodi’r ymateb drafft i Lythyr Ymholiadau Archwilio gan Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24. Fe soniodd y Cynghorydd Wedlake am y sylwadau oedd yn ymwneud â thanberfformiad yn erbyn y meincnod ar dudalen 119. Roedd yn cydnabod bod angen edrych ar y darlun ehangach yn ymwneud â’r sefyllfa gyllido gadarnhaol, ond fe allai’r ffigurau ddynodi os ydi’r tueddiadau ... view the full Cofnodion text for item 15. |
|
Cyflwyniad Cod Stiwardiaeth Drafft Darparu’r cyflwyniad Cod Stiwardiaeth drafft i’r Pwyllgor ar gyfer ei ystyried ac i ddirprwyo cymeradwyaeth y fersiwn derfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe arweiniodd Mr Turner, Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa, y Pwyllgor drwy’r adroddiad. Fe eglurodd fod y gwaith yn mynd rhagddo’n dda, ac fe ddylai’r Gronfa fod mewn sefyllfa i gyflwyno ei Adroddiad Stiwardiaeth cyn y terfyn amser ddiwedd mis Hydref. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr adroddiad drafft, gan nodi’r meysydd nad oedd wedi cael eu diweddaru eto, a darparu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i gael eu cynnwys cyn y cyflwyniad terfynol. Roedd yn cydnabod bod llawer o waith yn mynd mewn i lunio’r adroddiad hwn, a thra bod y Cyngor Adrodd Ariannol wedi gwneud rhai newidiadau i ofynion er mwyn symleiddio’r broses, mae’r adroddiad dal yn ymrwymiad sylweddol i’r Gronfa. PENDERFYNWYD: Ystyriodd y Pwyllgor y cyflwyniad drafft a dirprwyodd y Pwyllgor gyfrifoldeb ar gyfer cymeradwyo’r cyflwyniad terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.
|
|
Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’r Pwyllgor am faterion yn ymwneud â llywodraethu, gan gynnwys y Polisi Gwrthdaro Buddiannau a’r Polisi Gordaliadau a Thandaliadau diweddaraf, i’w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Mr I Hughes yr adroddiad yma. Fe arweiniodd y Pwyllgor drwy’r prif bwyntiau yn cynnwys y Gofrestr Risg a’i fformat newydd, a chynnydd yn erbyn prif dasgau’r cynllun busnes. Roedd y diweddariad am faterion Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnwys: - Prif drafodaethau a chanlyniadau yng nghyfarfod Cydbwyllgor Llywodraethu ar 17 Gorffennaf, tynnu sylw at Gadeirydd newydd y Cydbwyllgor Llywodraethu ac ailbenodi dyranwyr eiddo tirol Partneriaeth Pensiwn Cymru. - Fe nodwyd fod y Gronfa, mewn partneriaeth gyda Mercer, wedi llunio templed Buddsoddi Cyfrifol sydd yn dilyn canllaw Institutional Investors Group on Climate Change, wedi’i anelu at gofnodi’r prif fatrics sy’n ymwneud â hinsawdd a natur o fewn portffolio Marchnadoedd Preifat y Gronfa. Bydd y data sy’n cael ei gasglu yn rhan o’r ymarfer yma yn cael ei integreiddio mewn i adroddiadau blynyddol Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol a Thasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol (TNFD) y Gronfa. - Cwblhau adroddiad Buddsoddi Cyfrifol Mehefin 2024, a fydd yn cynnwys y stociau sydd wedi’u cynnwys yn is-gronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru, yn cynnwys gweithgareddau pleidleisio ac ymgysylltu, benthyca gwarantu, matrics hinsawdd a matrics ESG. Fe fydd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. - Gofynnwyd am sylwadau gan aelodau’r Pwyllgor ar y themâu ymgysylltu a stiwardiaeth, er mwyn adrodd yn ôl i Bartneriaeth Pensiwn Cymru.
Fe soniodd y Cynghorydd Palmer am ei siom nad oedd yna ddatganiad yng Nghydbwyllgor Llywodraethu mis Gorffennaf yn cydnabod nac yn diolch iddo am ei gyfraniad i’r Cydbwyllgor Llywodraeth dros y blynyddoedd diweddaraf. Dywedodd Mr I Hughes hefyd fod Adran Actiwari'r Llywodraeth wedi cwblhau ei broses rheoli costau gan ystyried y costau yn nyfarniad McCloud. Eglurodd Mr Middleman fod y broses rheoli costau wedi dod i ben ac nad oedd angen newidiadau i’r cynllun i ailgydbwyso’r costau rhwng aelodau a chyflogwyr. Dywedodd y Cynghorydd Wedlake fod yna gwestiwn clir yngl?n â hawliau dynol o ran y gwrthdaro ym Mhalesteina ac achosion parhaus o dorri cyfreithiau rhyngwladol. Roedd yn cydnabod goblygiadau’r adnoddau ar gyfer y Gronfa, ond ar sail yr aelodau oedd wedi ysgrifennu ato, roedd wedi gwneud cais bod adroddiad cychwynnol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd gyda manylion am fuddsoddiadau sydd gan y Gronfa ar hyn o bryd y gellir eu cysylltu â chefnogi gweithredoedd llywodraeth a byddin ... view the full Cofnodion text for item 17. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fuddsoddi a Chronni Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion buddsoddi a chronni ac y Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Mr Turner a Mr Middleman yr adroddiad hwn.
Cyflwynodd Mr Middleman y sefyllfa ariannu ac eglurodd y set lawn o ‘oleuadau traffig gwyrdd’ yn yr atodiad llwybr hedfan gyda phopeth yn gweithio fel y disgwyl. Fe arweiniodd Mr Turner y Pwyllgor drwy uchafbwyntiau buddsoddiad a pherfformiad, yn cynnwys: - Sefyllfa gadarnhaol ar gyfer asedau sy’n ceisio elw. - Tanberfformiad Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - cafwyd eglurhad fod y Gronfa wedi bod yn buddsoddi yn yr is-gronfa hon am gyfnod cymharol fyr o un flwyddyn, ac mae casgliad ystyrlon o berfformiad angen o leiaf 3 blynedd. Y prif reswm am y tanberfformiad hyd yn hyn oedd dyraniad annigonol mewn stociau sy’n gysylltiedig â thechnoleg gwerth uchel yn yr UDA. - Fe berfformiodd y Credyd Aml-ased a Dyrannu Asedau Tactegol yn unol â disgwyliadau, ac nid oedd yna bryderon sylweddol am farchnadoedd preifat. - Mae’n ymddangos bod dyraniad arian y Gronfa yn gymharol uchel, ond mae hyn i’w ddisgwyl yn dilyn newidiadau strategol ers gweithgarwch lleihau risg yn gynharach yn y flwyddyn. O ystyried symudiadau asedau, roedd disgwyl y byddai’r dyraniad arian yn gostwng yn unol â tharged y Gronfa dros y misoedd i ddod.
Fe soniodd y Cynghorydd Palmer am sefyllfa ariannu 108% a gofynnodd petai’r sefyllfa hon wedi newid yn sylweddol, a fyddai’r effaith yn disgyn ar gyflogwyr a’u cyllidebau? Cadarnhaodd Mr Middleman ei bod yn bosibl y gallai hyn ddigwydd petai’n disgyn o dan y lefel ariannu disgwyliedig gan y byddai unrhyw fwlch mewn ariannu yn disgyn ar gyflogwyr. Fe allai ffactorau eraill effeithio ar y sefyllfa yma hefyd ac fe fyddai hyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r prisiad. Dywedodd Mr Middleman hefyd fod sefydlogrwydd yn cael ei gefnogi gan y strategaeth llwybr hedfan sydd ar waith. Mae hyn yn darparu rhywfaint o amddiffyniad i’r sefyllfa ariannu ac yn cyfrannu at sefydlogrwydd. Dywedodd y Cynghorydd Palmer mai dim ond ar gyfraniadau cyflogwyr y byddai hyn yn effeithio, ac nid cyfraniadau gweithwyr, ond cadarnhaodd Mr Middleman fod cyfraniadau aelodau’n cael eu gosod gan y Llywodraeth, nid y Gronfa. PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn gwneud sylwadau ar y diweddariad.
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a Pherfformiad Buddsoddi Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor ynghylch yr economi a’r farchnad, y sefyllfa ariannu gyfredol, a pherfformiad buddsoddi’r Gronfa. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Mr Turner a Mr Middleman yr adroddiad hwn. Cyflwynodd Mr Middleman y sefyllfa ariannu ac eglurodd y set lawn o ‘oleuadau traffig gwyrdd’ yn yr atodiad llwybr hedfan gyda phopeth yn gweithio fel y disgwyl. Fe arweiniodd Mr Turner y Pwyllgor drwy uchafbwyntiau buddsoddiad a pherfformiad, yn cynnwys: - Sefyllfa gadarnhaol ar gyfer asedau sy’n ceisio elw. - Tanberfformiad Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - cafwyd eglurhad fod y Gronfa wedi bod yn buddsoddi yn yr is-gronfa hon am gyfnod cymharol fyr o un flwyddyn, ac mae casgliad ystyrlon o berfformiad angen o leiaf 3 blynedd. Y prif reswm am y tanberfformiad hyd yn hyn oedd dyraniad annigonol mewn stociau sy’n gysylltiedig â thechnoleg gwerth uchel yn yr UDA. - Fe berfformiodd y Credyd Aml-ased a Dyrannu Asedau Tactegol yn unol â disgwyliadau, ac nid oedd yna bryderon sylweddol am farchnadoedd preifat. - Mae’n ymddangos bod dyraniad arian y Gronfa yn gymharol uchel, ond mae hyn i’w ddisgwyl yn dilyn newidiadau strategol ers gweithgarwch lleihau risg yn gynharach yn y flwyddyn. O ystyried symudiadau asedau, roedd disgwyl y byddai’r dyraniad arian yn gostwng yn unol â tharged y Gronfa dros y misoedd i ddod.
Fe soniodd y Cynghorydd Palmer am sefyllfa ariannu 108% a gofynnodd petai’r sefyllfa hon wedi newid yn sylweddol, a fyddai’r effaith yn disgyn ar gyflogwyr a’u cyllidebau? Cadarnhaodd Mr Middleman ei bod yn bosibl y gallai hyn ddigwydd petai’n disgyn o dan y lefel ariannu disgwyliedig gan y byddai unrhyw fwlch mewn ariannu yn disgyn ar gyflogwyr. Fe allai ffactorau eraill effeithio ar y sefyllfa yma hefyd ac fe fyddai hyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r prisiad. Dywedodd Mr Middleman hefyd fod sefydlogrwydd yn cael ei gefnogi gan y strategaeth llwybr hedfan sydd ar waith. Mae hyn yn darparu rhywfaint o amddiffyniad i’r sefyllfa ariannu ac yn cyfrannu at sefydlogrwydd. Dywedodd y Cynghorydd Palmer mai dim ond ar gyfraniadau cyflogwyr y byddai hyn yn effeithio, ac nid cyfraniadau gweithwyr, ond cadarnhaodd Mr Middleman fod cyfraniadau aelodau’n cael eu gosod gan y Llywodraeth, nid y Gronfa. PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn gwneud sylwadau ar y diweddariad.
|
|
Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Pwyllgor am faterion gweinyddol a chyfathrebu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn hoffi steil a chyflwyniad y diweddariad. Diolchodd Mr Palmer i’r tîm am eu gwaith caled. PENDERFYNWYD: Fe ystyriodd y Pwyllgor a rhoi sylw ar y diweddariad a rhoddodd adborth am fformat yr adroddiad crynodeb newydd.
|
|
Cyfarfodydd i Ddod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor nodi’r dyddiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol: 9.30am - dydd Mercher 27 Tachwedd 2024 9.30am - dydd Mercher 19 Chwefror 2025 9.30am - dydd Mercher 19 Mawrth 2025 9.30am - dydd Mercher 18 Mehefin 2025
PENDERFYNWYD:
Nododd y Pwyllgor ddyddiadau cyfarfodydd y dyfodol.
|