Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

117.

Ymddiheuriadau

I derbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Andy Rutherford (Cynrychiolydd Cyflogwyr Cynllun Aarall), y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill, Nigel Williams a Tim Roberts.

 

118.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

119.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Hydref 2020

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn, cymeradwyo ac arwyddo cofnodion cyfarfod 7 Hydref 2020 gan y Cadeirydd.

 

120.

Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd pdf icon PDF 108 KB

I roi cyflwyniad i Aelodau’r Pwyllgor ar fesur ôl troed carbon a dadansoddi risg hinsawdd yn asedau’r gronfa bensiynau, a thrafod y canlyniadau ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Buckland y sesiwn drwy atgoffa’r Pwyllgor pan gytunwyd ar y strategaeth fuddsoddi ddiwygiedig gan y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020, cytunwyd hefyd ar bolisi Buddsoddi Cyfrifol ar fformiwla newydd. Ychwanegodd fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn cynnwys nifer o feysydd sylw allweddol a’i fod yn cynnwys datganiad am Newid Hinsawdd. Mae’r Gronfa’n cydnabod pwysigrwydd rhoi sylw i’r risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, drwy ei strategaeth fuddsoddi, ac yn cydnabod hynny fel risg ariannol.

 

Mae’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol hefyd yn cydnabod nifer o feysydd posibl i roi sylw iddynt, ac felly cytunwyd ar 5 blaenoriaeth strategol ar gyfer y 3 blynedd nesaf (2020-2023). Un o’r blaenoriaethau rheiny oedd gwerthuso a rheoli datguddio carbon. Gwnaeth Mr Buckland sylw i gloi y byddai sesiwn heddiw yn edrych ar ganlyniadau’r ymarfer ôl troed carbon yr oedd Mercer wedi ei wneud ar asedau ecwiti’r Gronfa. Cyn cyflwyno’r canlyniadau byddai Mr Gaston yn dechrau gyda sesiwn addysgiadol, wedi ei chynllunio i gynorthwyo dealltwriaeth y Pwyllgor o’r canlyniadau.

 

Cyflwynodd Mr Gaston o Mercer sesiwn hyfforddi fanwl i helpu dealltwriaeth aelodau’r Pwyllgor o ran ôl troed carbon. Ystyriodd fater Newid Hinsawdd, a chynhesu byd-eang a nododd ar hyn o bryd, fod y byd ar ei ffordd at tua + 3?C o gynhesu cyn diwedd y ganrif, ac felly daeth i’r casgliad fod angen gwneud mwy o waith yn fyd-eang er mwyn bodloni uchelgais Cytundeb Paris. Aeth yn ei flaen i ystyried ymarferoldeb mesur ôl troed carbon, ac edrychodd ar y metrigau y dylid rhoi sylw iddynt, a thrafododd fater allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3 a sut y cânt eu hasesu.

 

Aeth Mr Gaston yn ei flaen wedyn i ystyried canlyniadau’r dadansoddiad ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd. I ddechrau cyfeiriodd at fater cynnwys yr holl ddosbarthiadau asedau, a nododd ar y funud fod y dadansoddiad wedi ei gyfyngu i fuddsoddiadau ecwiti cyhoeddus, gyda pheth gwybodaeth ar gael ar gyfer incwm sefydlog a buddsoddi mewn eiddo.

 

Er mwyn rhoi hyn mewn cyd-destun, atgoffodd Mr Buckland y Pwyllgor am y strategaeth fuddsoddi bresennol a nododd ar gyfer y dadansoddiad ôl troed carbon, fod Mercer wedi cynnwys ecwiti rhestredig (10% ecwiti Byd-Eang, 10% ecwiti Marchnadoedd Datblygol) a mwyafrif y portffolio TAA/Syniadau Gorau. O ystyried fod y Gronfa yn amrywiol a’i bod yn agored i farchnadoedd preifat, pwysleisiodd Mr Buckland anhawster dadansoddi ôl troed carbon yn hyn o beth. Aeth Mr Gaston yn ei flaen i nodi, pan gafodd ôl troed carbon ei ddadansoddi ar 31 Mawrth 2020, llwyddwyd i asesu 18.6% o’r gronfa, ac ar 30 Medi 2020, oherwydd newidiadau mewn cymysgedd asedau, roedd y gyfran a ddadansoddwyd wedi cynyddu i 26.5 o’r Gronfa.

 

Canolbwyntiodd Mr Gaston ar ddarganfyddiadau’r crynodeb gweithredol. Soniodd fod y portffolio ecwiti a restrir ychydig yn fwy carbon effeithiol na’r meincnod byd-eang MSCI ACWI. Roedd gostyngiad hefyd yn nwysedd carbon o c9% sydd wedi ei yrru’n rhannol gan y gostyngiad yn nwysedd y carbon mewn asedau a ddelir gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru a throsglwyddo ecwiti goddefol gyda BlackRock i’w Cronfa Ecwiti ESG.  ...  view the full Cofnodion text for item 120.

121.

Cyfuno Asedau a Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru pdf icon PDF 113 KB

I roi Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru i Aelodau’r Pwyllgor a chael cyflwyniad gan Weithredwr PPC a Darparwr Datrysiad Rheoli Buddsoddiadau, yn cynnwys symud o ecwitïau marchnadoedd newydd i’r PPC i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Gough o Link Fund Solutions ei hun i’r Pwyllgor. Dechreuodd y cyflwyniad drwy wneud sawl sylw:      

 

-       Er gwaetha’r oedi a’r cymhlethdodau, roedd Link Fund Solutions wedi lansio 5 is-gronfa incwm sefydlog yn 2020.

-       Roedd statws lansio is-gronfa Marchnadoedd Datblygol wedi ei ddal yn ôl oherwydd y gofynion oedd i'w cynnwys yn y prosbectws, yn gysylltiedig â’r dull datgarboneiddio. Roedd Link Fund Solutions wedi anelu am lansiad yn Chwarter 2 2021 ond efallai y caiff hyn ei oedi.

 

Cyflwynodd Mr Quinn o Russell ei hun o’r Pwyllgor a nododd, ers i’r Pwyllgor gyfarfod ddiwethaf na fu gwahaniaeth o ran rheolwyr yn yr is-gronfa cyfleoedd byd-eang.

 

            Gwnaeth Mr Quinn y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Er gwaethaf sefyllfa argyfyngus y farchnad yn Chwarter 1 2020, roedd perfformiad y portffolio cyfleoedd byd-eang yn gadarnhaol o ran elw o fuddsoddiadau. Ychwanegodd ers yr ymchwiliad, fod elw tâl-dros-ben yn gadarnhaol (c0.5% p.a.) ond cyfnod cymharol fyr yw hwn.

-       Roedd y siart ar sleid 8 yn amlinellu’r gwahaniaeth mewn twf o’i gymharu â gwerth, gyda thwf yn gwneud yn well na gwerth.

 

Gofynnodd Mr Harkin sut roedd y portffolio’n edrych wrth symud ymlaen o ganlyniad i’r newid yn llywodraeth yr UDA, o ystyried y byddai gwahanol bolisïau’n cael eu gweithredu. Cyflwynodd Mr Fitzpatrick o Russell ei hun gan ymateb drwy nodi y byddai’n dibynnu ar ganlyniad terfynol etholiad yr Unol Daleithiau. O ran sefyllfa’r senedd, credwyd ar hyn o bryd fod mwy o rwyg ac y byddai’r gweriniaethwyr yn cadw sefyllfa’r senedd ac y byddai Biden yn arlywydd. Mae’r senedd yn rheoli torri trethi (sy’n dda i’r economi a’r farchnad), yr oedd llywodraeth Trump yn ei arwain, felly roedd yn credu ei fod yn debygol o aros yn ei le. Yn gyffredinol, canlyniad cadarnhaol o ystyried yr ansicrwydd.

 

Canolbwyntiodd Mr Fitzpatrick ar y targedau ar gyfer y Cronfeydd Credyd Aml-Ased. Ers eu cychwyn, roedd y perfformiad yn gadarnhaol gydag allberfformiad o 2.8% y flwyddyn yn erbyn targed o 1.1% y flwyddyn. Mae digwyddiadau fel etholiad America a COVID-19 wedi bod yn dda i asedau credyd gan eu bod yn bwydo drwy farchnadoedd credyd.

 

Nododd mai’r elw targed yw SONIA+ 4% y flwyddyn. Yr asedau a reolir ar gyfer Partneriaeth Pensiynau Cymru gyfan ar 31 Hydref 2020 yw £636 miliwn.  Amlinellodd Mr Fitzpatrick sut mae Russell yn bwriadu cyflawni’r targed perfformiad.

 

Parhaodd Mr Fitzpatrick i nodi fod gan farchnadoedd credyd rôl o hyd i’w chwarae fel rhan o ddyrannu asedau’n ehangach, o ystyried mai elw lefel ddisgwyliedig ganolig ydyw o’i gymharu ag ecwiti. O ran rheoli tactegol, mae Russell yn defnyddio dull “derbyn risg, gwrthod risg”.

 

Siaradodd Mr Mandich am y Gronfa Cyfleoedd Byd-Eang y buddsoddodd Cronfa Clwyd ynddi. Mae wedi ei gynllunio i dargedu ôl troed carbon sydd 25% yn is na’r meincnod ar ddechrau 2021. Daw hyn yn bosibl drwy wella gweithredu portffolio (EPI) sydd wedi ei gynllunio i roi mwy o reolaeth i Reolwr y Gronfa.

 

Aeth Mr Mandich yn ei flaen wedyn at bwnc Marchnadoedd Datblygol. Nododd Mr Mandich  ...  view the full Cofnodion text for item 121.

122.

Y newyddion diweddaraf am gyllid a buddsoddiadau. pdf icon PDF 124 KB

I roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor am y lefel ariannu, materion economaidd a’r farchnad a pherfformiad Rheolwyr y Gronfa, ac adolygiad buddsoddi o ddarparwyr AVC.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad byr am fuddsoddi a nododd fod prisiad diweddaraf y gronfa (fel yr oedd ar 31 Hydref) heb newid rhyw lawer ond ei fod ychydig yn is na’r sefyllfa ym mis Medi 2020.

 

Gofynnodd Mr Hibbert a allai’r Pwyllgor gael mwy o fanylion am strategaeth ecwiti synthetig y Gronfa, rhaeadru gwarant cyfochrog ac elfennau eraill o’r strwythur llwybr hedfan. Cadarnhaodd Mr Harkin a Mr Middleman y gallai Mercer ddarparu mwy o wybodaeth am hyn yn y sesiynau hyfforddiant a drefnir.

 

Cadarnhaodd Mr Middleman o ran y sefyllfa ariannu, fod y Gronfa ar y llwybr iawn mwy neu lai o ran y sefyllfa ariannu yn erbyn prisiad actiwaraidd 2019. Mae’r sefyllfa yn tueddu ar i lawr ychydig o ddiwedd mis Medi, ond hyd yma mae’r Gronfa ar y blaen i’r amserlen yn seiliedig ar amcangyfrifon sefyllfa gwerth asedau.   Ond, mae ansicrwydd yn parhau yn y rhagolygon ar gyfer elw ar fuddsoddiadau’r dyfodol allai effeithio ar sefyllfa hydaledd y Gronfa.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi fod diweddariad y Farchnad a’r Economi ar gyfer y chwarter wedi dod i ben 30 Medi 2020.

(b)  Bod y Pwyllgor yn ystyried crynodeb y Rheolwr Perfformiad a’r Strategaeth Fuddsoddi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020.

(c)  Bod y Pwyllgor yn nodi diweddariad y Fframwaith Ariannu a Rheoli Risg a chanlyniadau’r adolygiad gwirio iechyd blynyddol.

(d)  Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniadau adolygu darpariaeth Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol y Gronfa.

 

123.

Newidiadau mewn Rheoliadau sy'n effeithio ar Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 124 KB

Mae yna nifer o newidiadau mewn rheoliadau sy’n mynd rhagddynt a fydd yn effeithio ar y CPLlL, ac felly yn effeithio ar Gronfa Bensiynau Clwyd. Mae’r adroddiad yma’n rhoi gwybodaeth gefndir i aelodau’r Pwyllgor am bedwar prif faes o newid a’r camau sydd eu hangen yn cynnwys dirprwyo i swyddogion. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Latham fod y gwaith yngl?n ag unioni McCloud yn mynd fel y dylai gan fod y Gronfa yn y broses o gasglu data gan gyflogwyr. Ond, roedd risg gydag oedi mewn rheoliadau.   Nodwyd yr ymgynghoriad ar indecsio/cydraddoli Gwarant Lleiafswm Pensiwn hefyd ynghyd â’r argymhelliad.

 

Rhannwyd gwybodaeth o lythyr gan Lywodraeth Cymru yngl?n â’r cap 95k. Ni chai’r Gronfa ei heffeithio gan y rheol hon pe bai gan gyflogwyr o fewn y Gronfa aelodau oedd yn gadael ac yn dod o fewn y categori perthnasol.

 

Nododd Mr Everett fod y risgiau a gymerir ar risg y cyflogwr, ac nid Cronfa Bensiynau Clwyd.  Cytunodd Mr Middleman a dywedodd bod angen i’r llywodraethu a’r penderfyniadau gan y Gronfa a’r cyflogwr fod yn glir ar hyn.  Dywedodd Mr Middleman fod hwn yn faes hynod gymhleth a bod angen ei drafod gyda chyflogwyr i sicrhau fod y prosesau cywir yn eu lle.

 

Nododd Mr Everett fod mater heriol iawn yngl?n â’r newidiadau hyn. Cytunodd Mr Middleman gyda’r cymhlethdod a nododd y gellir bod angen cytuno ar bolisi posibl ar y mater hwn ar gyfer y Gronfa. Cadarnhaodd Mrs McWilliam y gall y Gronfa ddefnyddio dirprwyaeth frys i ddelio â’r sefyllfa hon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.

(b)  Bod y Pwyllgor yn ystyried a chytuno ar yr argymhelliad ar gyfer yr ymateb i’r ymgynghoriad o ran Ymgynghoriad Indecsio Gwarant Lleiafswm Pensiwn, fel yr amlinellir ym mharagraff 1.07, ac yn dirprwyo’r ymateb i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.

124.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 117 KB

Rhoidiweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd Mr Latham i’r Bwrdd am y sylwadau ym mharagraff 1.02 o’r eitem agenda hon. Tynnodd sylw’r Pwyllgor hefyd at gyflwyno sesiynau hyfforddiant cynefino posibl i’w trefnu yn 2021.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar faterion yn ymwneud â llywodraethu.

(b)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r adborth ym mharagraff 1.02 gan y Bwrdd Pensiynau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf. Cynhelir cyfarfod ffurfiol nesaf y Pwyllgor ar 10 Chwefror 2021. Daeth y cyfarfod i ben am 12:15pm.

 

……………………………………

Y Cadeirydd