Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

107.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

Pwrpas:  I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd fod ei ferch yn gweithio i Gyngor Sir y Fflint o fewn yr adran Gweinyddu Pensiynau a hefyd yn aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd.

Nododd y Cadeirydd hefyd fod ei bartner yn gweithio i Gyngor Sir y Fflint ac yn aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad arall.

108.

Penodi Is-gadeirydd

Pwrpas:Penodi Is-gadeirydd a nodi bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, felly, wedi’u penodi fel Aelod a Dirprwy, yn y drefn honno, o'r Pwyllgor Cydlywodraethu ar gyfer Partneriaeth Bensiwn Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Mullin a’r Cynghorydd Small y Cynghorydd Bateman fel Is-gadeirydd. Nodwyd y byddai’r Is-gadeirydd a benodwyd hefyd yn Ddirprwy i’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru. 

PENDERFYNWYD:

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd fel Aelod a Dirprwy, yn y drefn honno, o'r Cydbwyllgor Llywodraethu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

109.

Cofnodion pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:  I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Chwefror 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2020.

PENDERFYNWYD:

Derbyniwyd, cymeradwywyd ac arwyddwyd cofnodion y cyfarfod ar 11 Chwefror 2020 gan y Cadeirydd.

 

110.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2019/20 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:  Darparu Aelodau’r Pwyllgor ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer eu cymeradwyo

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Vaughan y pwyntiau allweddol canlynol ar yr eitem hon ar y rhaglen:

·         Mae perfformiad buddsoddi’r Gronfa yn adfer wrth i’r Gronfa symud drwy 2020/21.

·         Mae’r Gronfa wedi parhau i weithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru a byddant yn trosglwyddo asedau ymhellach yn 2021.

·         Diweddarwyd y strategaeth weinyddu i alluogi cyflogwyr ac aelodau i dderbyn gwybodaeth mewn ffordd well.

·         Yn dilyn effaith COVID-19, roedd y Gronfa wedi parhau i ddarparu busnes fel arfer yn llwyddiannus.

 

Nododd Mr Vaughan fod Mr Ferguson wedi arwyddo’r cyfrifon, fel swyddog Adran 151. Mae Pwyslais Mater wedi’i gynnwys yn yr adroddiad, sy’n ymwneud yn benodol ag ansicrwydd ym mhrisiad buddsoddiadau Eiddo Cyfun oherwydd effaith COVID-19. Dogfen arall sydd ei hangen eleni yw’r Llythyr Sylwadau, bydd yn rhaid i’r Pwyllgor gadarnhau i Archwilio Cymru fod yr holl wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y datganiadau ariannol yn wir, yn gywir ac wedi’i datgan, yn ogystal â llythyr ymateb sy’n ateb rhai cwestiynau mewn perthynas ag ymholiadau archwilio.

 

Cadarnhaodd Mr Monkhouse, ers rhannu’r adroddiad, fod y gwaith maes ar gyfer archwilio’r cyfrifon wedi’i gwblhau. Diolchodd i Mrs Fielder, Mr Vaughan a’r tîm am gynhyrchu’r cyfrifon ac am eu cymorth parhaus i’r archwiliad yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Mae Archwilio Cymru yn gweithio ar sail cyfyngiadau materoliaeth, gyda’r bwriad o geisio nodi a chywiro camddatganiadau a allai fel arall achosi i ddefnyddiwr y cyfrifon gael eu camarwain. Y cyfyngiad materoliaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer yr archwiliad eleni yw tua £17.8 miliwn. Roedd disgwyl i’r archwiliad gael ei gymeradwyo erbyn 13 Hydref a bydd angen llofnodion electronig gan y Pwyllgor.Yn sgil y cyfyngiadau COVID-19, roedd Mr Monkhouse a’r tîm wedi bod yn gweithio o bell ac wedi mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio gyda’i gilydd, megis cyfarfodydd wythnosol, a oedd wedi bod yn llwyddiannus.

 

            Yn Atodiad 3 o’r adroddiad, gwnaethpwyd diwygiad o oddeutu £19.4 miliwn oherwydd fod yr asedau net wedi’u gorddatgan gan y swm hwn.

 

Nododd Mr Everett fod yr Adroddiad Blynyddol yn llawn gwybodaeth ac yn addawol, diolchodd y tîm a’r ymgynghorwyr am eu gwaith ardderchog yn datblygu’r adroddiad yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

 

Diolchodd Mr Ferguson i bawb am eu cyfranogiad a’u cymorth ac argymhellodd y dylid cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2019/20

(b)  Bod y Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Archwilio.

(c)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau.

(d)  Bod y Pwyllgor yn nodi llythyr ymholiadau ac ymatebion Archwilio.

 

111.

Diweddariad McCloud ac Ymateb i'r Ymgynghoriad pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar McCloud ac ymateb i’r ymgynghoriad drafft Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer ei gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mrs Williams yr adroddiad hwn ac eglurodd fod y datrysiad McCloud yn achos o wahaniaethu ar sail oedran. Roedd y Llys Apêl o’r farn y gwahaniaethwyd yn erbyn aelodau iau o’r cynlluniau Pensiwn Dyfarnwyr a Diffoddwyr Tân oherwydd nad oedd yr amddiffyniadau i aelodau h?n yn berthnasol iddyn nhw. Bydd effaith y datrysiad McCloud arfaethedig yn sylweddol ar gyfer cyflogwyr a’r tîm gweinyddol gan y gallai gynnwys ystyried a chywiro tua 12,000 o fuddion aelodau yn y Gronfa yn seiliedig ar y cyfrif cychwynnol. Y n sgil pwysigrwydd y gwaith sydd ynghlwm â hyn, roedd y Gronfa wedi sefydlu rhaglen ffurfiol i sicrhau y byddai’r gwaith mewn perthynas â’r datrysiad McCloud yn cael ei gwblhau’n unol â’r meini prawf llwyddiant cytunedig.

 

Cyfeiriodd Mrs Williams at yr ymateb i’r ymgynghoriad ar McCloud, a rannwyd â’r Pwyllgor ar 14 Medi, ar ôl iddo gael ei gytuno gan y Gr?p Llywio a oedd yn cynnwys Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiynau. Gofynnodd Mrs Williams am ragor o sylwadau ar yr ymateb i’r ymgynghoriad ac ni wnaethpwyd unrhyw sylwadau.  

 

Cyfeiriodd Mrs Williams y Pwyllgor at y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen McCloud yn yr atodiad i’r adroddiad. Eglurodd fod y tîm hefyd yn gweithio ar holiadur cyflogwr i ganfod sut y darparwyd data dros y blynyddoedd a pha ddata y dylid ei gasglu/gadarnhau er mwyn symud ymlaen â’r datrysiad McCloud. Byddai cyfarfodydd un-i-un yn cael eu cynnal gyda phob cyflogwr i drafod y gofynion data.

 

Roedd y gronfa wedi bod yn gweithio gyda darparwr y rhaglen gweinyddu pensiynau i sicrhau fod yr offerynnau meddalwedd priodol ar gael i gasglu a mewnbynnu data, a bydd prosesau mewnol y Gronfa yn cael eu haddasu i fodloni gofynion newydd McCloud ar gyfer cyfrifiadau buddion aelodau’r cynllun.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r ymateb i’r ymgynghoriad drafft Cronfa Bensiynau Clwyd.

112.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:  Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad buddsoddi’r gronfa a rheolwyr y gronfa ar gyfer trafodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd Mr Harkin fod y Gronfa wedi elwa o’r fframwaith rheoli risg ac hefyd o arallgyfeiriad y portffolio asedau. Gan fod llawer o ansefydlogrwydd rhwng dosbarthiadau asedau, mae adlam cryf wedi bod mewn ecwitïau yn arbennig rhwng mis Mawrth 2020 a r?an. Pwysleisiodd Mr Harkin felly pa mor bwysig yw arallgyfeirio mewn portffolio.

 

            Nododd Mr Harkin y byddai buddsoddwr ecwiti UDA mewn sefyllfa gadarnhaol ac wedi gwneud arian yn y flwyddyn 2020. Amlinellodd hefyd fod enillion bondiau Llywodraeth y DU wedi gostwng; fodd bynnag, roedd cynnydd bychan wedi bod yn ddiweddar. Mae’r peryglon sydd o’n blaenau wedi’u chwyddo yn y tymor byr a’r hirdymor; yn arbennig yn yr hirdymor yn sgil COVID-19. Roedd y pandemig COVID-19 yn golygu fod Llywodraethau byd-eang yn ysgogi economïau ac yn diogelu swyddi lle bo modd. Roedd peryglon gwleidyddol a allai gael effaith ar farchnadoedd, er enghraifft; roedd llai na mis i fynd tan etholiad yr UDA. Roedd tensiynau hefyd yn parhau rhwng yr UDA a Tsieina ac roedd yn rhaid ystyried Brexit fel ffactor er gwaethaf yr holl bethau eraill a oedd yn mynd ymlaen. Pwysleisiodd Mr Harkin fod y Gronfa wedi ymdopi’n dda iawn o ystyried popeth a oedd wedi digwydd eleni.

 

            Nododd Mr Buckland fod gwerth asedau cyfredol y Gronfa ar 31 Awst 2020 yn tua £2 biliwn, ond ar 31 Mawrth 2020, roedd y ffigwr hwn yn tua £1.8 biliwn. Roedd hyn yn sgil gostyngiad mewn marchnadoedd a arweiniodd at ostyngiad sylweddol i’r Gronfa ym mis Mawrth, ond mae hyn wedi’i ddiogelu i ryw raddau gan y fframwaith rheoli risg. Roedd cyfanswm prisiad y Gronfa bellach mewn sefyllfa debyg i’r flwyddyn flaenorol.

 

            Gwnaeth Mr Middleman sylw ar y sleid monitro lefelau ariannu, ac eglurodd fod y linell ddu yn nodi’r lefel ariannu disgwyliedig yn seiliedig ar y cynllun cyfrannu a gytunwyd ym mhrisiad 2019, roedd y linell las yn dangos y lefel gyllido gwirioneddol a amcangyfrifir. Eglurodd mewn termau syml, os yw’r Gronfa’n uwch na’r lefel ddisgwyliedig, roedd hynny’n golygu fod y Gronfa’n perfformio’n well na’r hyn a nodwyd yn y cynllun â’i strategaethau, ac fel arall.

 

Amlygodd Mr Middleman fod tuedd y Gronfa yn unol â’r cynllun ar ddiwedd mis Awst er gwaethaf y gostyngiad i lefel ariannu o 85% ym mis Mawrth 2020 yn sgil effaith COVID-19 ar y farchnad. Tan ddiwedd mis Awst, y lefel ariannu oedd 92%.  Gan nad oedd y ffigurau presennol ar gael yn llawn, amcangyfrifodd Mr Middleman fod y Gronfa ar y trywydd iawn. Amlinellodd Mr Middleman bod ansicrwydd materol yn parhau ac fe allai hyn gael effaith ar y sefyllfa ariannol i’r dyfodol.  Fodd bynnag, drwy’r fframwaith llwybr hedfan, mae gan y Gronfa amddiffyniadau ar waith i gyfyngu gymaint o anfanteision â phosibl i sicrhau fod y Gronfa yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi â’r ansicrwydd hwn.

 

            Nododd Mrs McWilliam fod y sleid sy’n amlinellu gwerthoedd asedau misol yn dangos ein bod bellach mewn sefyllfa debyg i fis Rhagfyr 2019, sy’n dangos nad oedd twf buddsoddi’r Gronfa wedi cyflawni’r targedau cytunedig.  ...  view the full Cofnodion text for item 112.

113.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas: Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfuno buddsoddiadau yng Nghymru ar gyfer trafodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth Mr Latham sylw ar ddwy agwedd o Bartneriaeth Pensiwn Cymru; llywodraethu a buddsoddiadau.Cyhoeddodd Mr Latham fod llawer o gynnydd wedi’i wneud yn ddiweddar ar yr ochr lywodraethu, a fod nifer o bolisïau wedi’u cynhyrchu (cyfeirir atynt yn eitem 1.01). Roedd cynllun busnes bellach ar waith ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, polisi gwrthdaro buddiannau, cynllun hyfforddi, polisi risg a chofrestr risg.

Cododd Mr Latham y cwestiwn parhaus sef a ddylai Partneriaeth Pensiwn Cymru gael cynrychiolydd aelodau’r cynllun, a chyhoeddodd y bydd y mater yn cael ei ystyried yn y Cydbwyllgor Llywodraethu nesaf. Trafododd y Pwyllgor hyn a nodwyd eu cefnogaeth gryf i hyn.

O ran ochr fuddsoddi’r gronfa, penodwyd Robeco fel Ymgynghorydd Pleidleisio ac Ymgysylltu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn benodiad allweddol i’r gronfa. Nododd Mr Hibbert ei fod eisoes wedi codi cwestiynau a phryderon gyda Mrs Fielder yn ymwneud â gallu’r Pwyllgor i fesur gweithgarwch Robeco ar ran y Pwyllgor. Ymatebodd gan ddweud bod hyfforddiant wedi’i gynnal ar y mater hwn y diwrnod cynt ac roedd Mrs Fielder eisoes wedi codi’r pwynt hwn â Robeco.

O ystyried pwysigrwydd buddsoddi cyfrifol a’r risg hinsawdd, mae is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd wedi’i gytuno, a fydd yn adrodd i’r Gweithgor Swyddogion ar sut i weithredu, mesur ac adrodd ar gynnydd gyda’r polisïau hyn. Byddai Mrs Fielder ar yr is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd ac felly’n adrodd i’r Gweithgor Swyddogion. Roedd Mrs Fielder yn falch o’r penderfyniad i greu is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd a theimlwyd y byddai’n fanteisiol i’r Gronfa gael ei chynrychioli arno. Nododd y byddai’r gr?p yn cael eu gwahodd i bob cyfarfod perthnasol a sesiynau gr?p cleient Robeco. Rhoddwyd y dasg o ystyried y polisi pleidleisio sydd ar waith ar hyn o bryd i’r gr?p a nododd Mr Latham fod gan y mwyafrif o gronfeydd eraill swyddog Buddsoddi Cyfrifol sy’n arbenigo yn y maes hwn. Er fod gan Mrs Fielder lefel uchel iawn o wybodaeth am Fuddsoddi Cyfrifol, roedd ganddi hefyd nifer o rolau a chyfrifoldebau eraill yn y Gronfa.

Yn dilyn cymeradwyaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin 2019, roedd £200 miliwn o asedau’r Gronfa wedi’u trosglwyddo o gyllidau credyd aml-ased Stone Harbour i gronfa credyd aml-ased Partneriaeth Pensiwn Cymru.  Nodwyd hefyd y byddai Link a Russell yn mynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor ac yn trafod ecwitïau marchnadoedd newydd.Roedd y dyddiad cau gwreiddiol wedi’i drefnu ar gyfer Mehefin 2020 o fewn cynllun gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer is-gronfa ecwitïau marchnadoedd newydd.Fodd bynnag, mae’r dyddiad bellach wedi newid i  Mai 2021.

Eglurodd Mr Latham fod holiadur yn cael ei baratoi ar gyfer awdurdodau cyfansoddol gyda’r bwriad o’i rannu â phob aelod o’r Pwyllgor. Bwriad yr holiadur yw cael amcan o farn pob awdurdod o Bartneriaeth Pensiwn Cymru a llywio’r ffocws i’r dyfodol.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bateman at yr eitem rheoli risg ar dudalen 330 a oedd yn nodi fod risg llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn y categori ‘sylweddol’ yng nghofrestr risg y Gronfa. Gofynnodd a ddylai’r Pwyllgor bryderu  ...  view the full Cofnodion text for item 113.

114.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 157 KB

Pwrpas:  Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Latham ddiweddariad byr gan amlygu’r newidiadau bychain i’r gofrestr risg yn ogystal â’r newidiadau i amserlen y cynllun busnes mewn perthynas â Chod Modiwlaidd Sengl Rheoleiddiwr y Pensiwn.  Diolchodd Mr Fielder a Mr Latham i’r aelodau wnaeth fynychu hyfforddiant y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar faterion yn ymwneud â llywodraethu.

(b)  Bod y pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r amserlenni ar gyfer tasgau llywodraethu yn y cynllun busnes.

(c)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r diweddariadau i’r gofrestr risg.

 

115.

Diweddariad Gweinyddu/ Cyfathrebu Pensiynau pdf icon PDF 154 KB

Pwrpas:  Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Pwysleisiodd Mrs Williams y llwyth gwaith yr oedd y tîm gweinyddol yn gyfrifol amdano gan gynnwys busnes fel arfer, y datrysiad McCloud, yr achos Goodwin, y cap 95,000 a mwy. Dywedodd hefyd, yn sgil yr holl newidiadau rheoleiddiol, bod perygl na fydd eu systemau’n cael eu diweddaru mewn pryd ar gyfer newid, ac felly byddai’n rhaid i’r tîm wneud cyfrifiadau unigol fesul achos. 

 

Amlygodd hefyd fod y tîm gweinyddol hefyd yn gyfrifol am gynnwys gwefan y Gronfa, sy’n gallu bod yn heriol o ystyried y cymhlethdodau sydd ynghlwm ag uwchlwytho cynnwys a’r diffyg profiad â gwefannau o fewn y tîm.  Roedd swydd swyddog gwefan dynodedig newydd wedi’i gymeradwyo gan ddefnyddio’r dyraniadau brys yn ogystal â swydd swyddog arweiniol arall yn ymwneud â’r gyflogres a fyddai’n caniatáu i’r arweinydd tîm ganolbwyntio ar eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau, yn ogystal â chyflwyno rheolaethau mewnol gwell.

 

            Amlygodd Mrs Williams lwyddant y tîm o ran cefnogi lles ei gilydd yn sgil yr  heriau sydd ynghlwm â gweithio o gartref a llwythi gwaith ychwanegol. Roedd cyfarfodydd lles rheolaidd yn cael eu cynnal ar-lein gyda phob aelod o’r tîm i sicrhau eu bod yn ymdopi. Roedd y mwyafrif o’r staff yn teimlo fod gweithio o gartref yn gweithio’n dda. Amlygodd Mr Everett ei fod yn debygol y byddai’n rhaid iddynt barhau i weithio o gartref yn bennaf am dipyn.Mae cyswllt cymdeithasol yn rhan o gynllun rheoli’r Cyngor ar gyfer bob tîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar faterion yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

(b)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r estyniad i amserlenni mewn perthynas â nifer y camau gweithredu o fewn y cynllun busnes.

116.

Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu pdf icon PDF 158 KB

Pwrpas:  Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mrs Fielder bod amserlen wedi’i diwygio o fewn y Cynllun Busnes o ran creu polisi llif arian, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

Fel rhan o’r trosglwyddiad, trosglwyddodd y Gronfa'r holl asedau i sicrhau fod dosbarthiadau’r asedau yn unol â’r strategaeth newydd. Roedd y Gronfa wedi trosglwyddo cronfa ecwiti byd-eang goddefol BlackRock i gronfa ecwiti byd-eang goddefol ESG BlackRock newydd fel y cytunwyd gan y Pwyllgor. Tan yr oedd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn barod i gymryd pob un o’r asedau marchnad newydd, roedd y Gronfa wedi trosglwyddo rhai o’r asedau i gronfa goddefol marchnad newydd BlackRock, gan ei fod yn llawer rhatach na rheolwr gweithredol. O ganlyniad i’r trosglwyddiad, roedd pob un o’r dosbarthiadau asedau gan eithrio dyraniadau marchnad preifat yn unol â’r strategaeth newydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman am sefyllfa’r llif arian ar dudalen 462 a gofynnodd beth oedd wedi achosi’r gostyngiad o £35 miliwn i £20 miliwn. Cadarnhaodd Mrs Fielder fod y Gronfa, fel rhan o’r trosglwyddiad, wedi defnyddio ychydig o arian i gynorthwyo ag amseriad y trosglwyddiad. Pe bai’r Gronfa wedi parhau â’r adbryniadau cychwynnol gan reolwyr, byddent wedi bod mewn perygl o fod allan o’r farchnad. Felly, defnyddiodd y Gronfa oddeutu £9.3 miliwn ychwanegol o arian mewnol i reoli’r trosglwyddiad yn effeithiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad ar gyfrifoldebau dirprwyedig.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r estyniad i amserlenni mewn perthynas â nifer y camau gweithredu o fewn y cynllun busnes.

 

117.

Diweddariad Cyllid a Llwybrau Cyrraedd Targed pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas: Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd y sefyllfa ariannu a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o'r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr eitem wedi’i chynnwys ar y rhaglen i’w nodi ac ychwanegodd Mr Middleman fod lefel fantoli’r Gronfa wedi dychwelyd i 40%, yn hytrach na’r lefel o 20% a nodwyd yn y Pwyllgor diwethaf. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r sefyllfa o ran mantoli ar gyfer y Gronfa, a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

(b)  Bod y Pwyllgor yn nodi effaith y strategaeth diogelu ecwiti.

(c)  Bod y Pwyllgor yn nodi effaith y strategaeth fantoli gyfredol.