Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702321  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

42.

Ymddiheuriadau

I derbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Nigel Williams, y Cynghorydd Ted Palmer a’r Cynghorydd Ralph Small.

 

43.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y byddai’n rhaid i’r holl ymgynghorwyr adael yr ystafell ar gyfer eitem 14 oherwydd gwrthdaro buddiannau.  Ni wnaed unrhyw ddatganiadau pellach.

 

44.

Cofnodion pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:       I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28                                Tachwedd 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2018.

Cyfeiriodd Mr Hibbert at dudalennau 5 a 6 yngl?n â'r cwestiwn roedd wedi ei holi am beth fyddai'n digwydd pe bai’r Gronfa ar ei cholled bob ffordd. Dywedodd nad oedd yn credu bod ateb wedi ei roi a theimlodd fod angen un er mwyn i'r Pwyllgor gyflawni eu dyletswyddau. Yn benodol, os rhoddir cynnig i'r Pwyllgor sy’n cynnig enillion is gyda ffi uwch nag o dan reolwr presennol Cronfa Bensiynau Clwyd, pa gamau all y Pwyllgor eu cymryd o ystyried y canllawiau statudol a chyfrifoldeb ymddiriedol? 

 

 Nododd Mr Latham mai un o brif amcanion cyfuno yw gweithredu strategaeth fuddsoddi’r Gronfa mewn ffordd sy’n rhoi gwell enillion wedi eu haddasu yn ôl risg gyda ffioedd is o'i gymharu â buddsoddi fel Cronfa unigol.  Fodd bynnag, nid y ffioedd yw'r rhan bwysicaf a does dim sicrwydd gyda buddsoddiadau. Roedd Mr Latham yn gobeithio na fyddai’r Gronfa yn canfod ei hun mewn sefyllfa lle byddai ar ei cholled ymhob ffordd.

 

Cadarnhaodd Mr Everett y byddai penderfyniadau o ran trosglwyddo asedau ai peidio yn cael eu gwneud fesul achos, ac na fyddai'n cefnogi unrhyw achos lle nad oedd y cydbwysedd risgiau er lles gorau’r Gronfa. Nododd pe bai sefyllfa yn ymylol, yna byddai’n briodol dewis y datrysiad cyfuno.

 

Cyfeiriodd Mrs Fielder at dudalen 6 a chadarnhaodd ei bod wedi amlygu cynrychiolaeth y cynllun ar y JGC gyda’r Gweithgor Swyddogion.  Cadarnhaodd Mrs Fielder y byddant yn anfon ymateb at y SAB ar ryw bwynt yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd Mr Hibbert y Pwyllgor at eitem 37 ar dudalen 12 a chadarnhaodd mai ei gwestiwn oedd a oedd y mater wedi effeithio Cronfeydd eraill, nid cyflogwyr yng Nghronfa Clwyd yn unig. Dywedodd Mrs McWilliam y byddai unrhyw Gronfeydd eraill sy’n defnyddio’r un feddalwedd yn debygol o fod â'r un broblem. Cadarnhaodd Mr Everett bod y broblem wedi ei uwch-gyfeirio gyda’r darparwr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Miss Fellowes am safon y cofnodion a ddarparwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Y gallai’r Cadeirydd dderbyn, cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion.

 

45.

Cynllun Busnes 2019/20 i 2021/22 pdf icon PDF 81 KB

I ddarparu Cynllun Busnes i Aelodau’r Pwyllgor i’w gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Latham mai nod y cynllun busnes yw arddangos bod y Gronfa yn rheoli ei risgiau (ariannol a gweithredol) a pha adnoddau a ddefnyddir i wneud hyn. Nododd bod y rhan fwyaf o’r eitemau o fewn y cynllun busnes ar hyn o bryd yn rhai oedd yn mynd rhagddynt ac felly wedi eu cynnwys yng nghynllun y llynedd ar wahân i rai prosiectau pwrpasol.

 

Nododd Mr Latham bod y cynllun busnes yn cynnwys datganiad cenhadaeth y Gronfa ar gyfer y Gronfa ac amcanion polisïau a strategaethau allweddol y Gronfa.

 

Argymhellodd Mr Everett y dylent ychwanegu nod oedd yn ymwneud a risg penodol yn ymwneud â chydbwyso angen y Gronfa a'r gronfa(pool), gan nodi’r risgiau positif a negyddol o fewn o fewn y gronfa.Cytunodd Mr Latham a dywedodd y byddai angen diweddaru’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi hefyd.

 

Gofynnodd Mr Hibbert a fyddai gwaith gyda’r Actiwari ar y prisiad yn cael ei wneud bob pedair blynedd yn hytrach na phob tair blynedd. Dywedodd Mr Middleman bod hyn yn cael ei drafod a bydd yn destun ymgynghoriad ac felly dim ond unwaith bydd y newidiadau yn y Rheoliadau yn dod i rym y gellir ei ddiweddaru, felly mae’n gywir ar y funud mai cyfeirio at dair blynedd mae’r cynllun.

 

Cyfeiriodd Mr Latham y Pwyllgor at y pedwar pwynt bwled ar waelod tudalen 30. Nododd bod y pwyntiau uchaf ac isaf (yn ymwneud â thrawsnewid asedau i'r gronfa a gweithredu newidiadau strwythur buddion o ganlyniad i newidiadau cenedlaethol) yn ffactorau allanol sy’n effeithio’r Gronfa. Fodd bynnag, rhaid i’r Gronfa sicrhau eu bod yn parhau i weithio ar feysydd allweddol eraill (e.e. parhau i hyrwyddo ein cyfleusterau ar-lein a gorffen cyflwyno systemau gwell i gyflogwyr) gan fod risg bod y ffactorau allanol yn cymryd yr adnoddau i ffwrdd oddi wrth feysydd eraill.

 

Amlygodd Mr Latham dudalennau 31 a  32 sy’n dangos bod y Gronfa yn dal i fod â llif arian cadarnhaol ond bydd mwy o waith yn cael ei wneud ar y rhan hon fel rhan o'r prisiad actiwaraidd.

 

Gofynnodd Mr Hibbert am ffioedd rheolwyr y gronfa ac a fyddai werth cynnwys troednodyn yn egluro pa gyfran o’r ffioedd sydd wedi cynyddu o ganlyniad i dryloywder costau rheolwyr a pha rai sydd o ganlyniad i gostau ychwanegol. Gallai’r troednodyn egluro pam bod y ffioedd yn cynyddu a beth mae'r Gronfa yn ei wneud am y peth, gan ei fod yn gwybod bod rhesymau yn bodoli nad ydynt yn cael eu hegluro yma. Cytunodd Mrs Fielder gyda’r sylw hwn. Cadarnhaodd Mrs Fielder bod y rhan fwyaf o gynyddiadau ffioedd o ganlyniad i dryloywder costau rheolwyr lle maent yn datgan yr holl gostau o ystyried bod llawer nawr wedi eu cofrestru ar y cod tryloywder.  Nododd Mrs Fielder ei bod yn anodd amcangyfrif ffioedd perfformiad a bod costau trafodiadau yn tueddu i fod yn fach.

 

Mae llawer o waith yn mynd i mewn i’r rhifau hyn ac mae’r ffigyrau yn adlewyrchu’r cynnydd ym maint asedau’r Gronfa. Dywedodd Mr Hibbert mai ei farn ef  ...  view the full Cofnodion text for item 45.

46.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 96 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru ac i gytuno ar yr ymateb i ymgynghoriad MHCLG ar Ganllawiau Statudol ar Gyfuno Asedau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Latham ar yr eitem hon ar yr agenda oedd yn cynnwys pedair prif adran; buddsoddi cyfrifol, benthyg stoc, canllawiau statudol a diweddariad cyffredinol ar gyfuno:

 

·         Buddsoddi cyfrifol – ar hyn o bryd mae polisi cynaliadwyedd gan y Gronfa o fewn yr ISS. Mae sesiwn hyfforddi ar gyfer y Pwyllgor ar 20 Mawrth i drafod beth mae’r Gronfa yn ei wneud ar hyn o bryd o ran buddsoddi cyfrifol a hefyd pa arferion gorau oedd yn y maes hwn. Bydd hefyd yn cynnwys sesiwn ar beth mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ei wneud yn y maes hwn.

 

Cyfeiriodd Mr Latham y Pwyllgor at dudalen 117 a nododd y disgwylir mwy o ganllawiau ar lefel genedlaethol gan y SAB ar fuddsoddi cyfrifol. Y prif bwrpas yw darparu canllawiau ar beth ddylai’r cronfeydd fod yn ei wneud gan y dylent allu darparu polisïau buddsoddi cyfrifol yr holl gronfeydd. Gall hyn fod yn anodd gan y gallai pob cronfa fod a’i bolisi ei hun a gallant fod yn dra gwahanol.

 

Mae’r Bartneriaeth yn datblygu polisi buddsoddi cyfrifol i'r Gronfa sy'n cael ei ddrafftio gyda Hymans fel yr ymgynghorydd. Mae Hymans wedi cynhyrchu holiadur i gasglu credoau buddsoddi'r Gronfa o fewn y gronfa ar fuddsoddi cyfrifol. Mae Hymans eisiau cael dau ymateb, un o safbwynt swyddogion ac un gan Gadeirydd y Pwyllgor yn seiliedig ar farn y Pwyllgor.

Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai’n well ganddo petai’r Swyddogion yn ymateb erbyn y dyddiad cau gan eu bod yn deall buddsoddi cyfrifol yn well, fodd bynnag awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ymateb ar ôl sesiwn hyfforddi 20 Mawrth pan fydd ganddynt well dealltwriaeth. Roedd Mr Everett a’r Pwyllgor yn cytuno gyda’r cynnig hwn.

 

·         Benthyg Stoc  - Trafododd Mr Latham yr argymhelliad i ganiatáu’r Bartneriaeth i gymryd rhan mewn benthyg stoc. Mae’n rhaid i’r wyth cronfa o fewn y Bartneriaeth gytuno iddo neu ni fydd modd ei symud ymlaen. Mae chwech o'r cronfeydd eisoes wedi bod drwy eu Pwyllgorau, sydd wedi cytuno i’w ganiatáu. Mae gan y cronfeydd eraill lawer o ecwiti a bydd benthyg stoc felly yn cael mwy o effaith. Mae hyn yn fach ei effaith ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd gan mai dim ond dyraniad 4% sydd ganddynt o ran ecwitïau byd-eang, sy’n golygu mai’r incwm disgwyliedig fydd £25,000 y flwyddyn o fenthyg stoc.

 

Dywedodd Mr Latham wrth y pwyllgor mai benthyg stoc yw pan fydd buddsoddwr yn benthyg stoc i drydydd parti fel eu bod yn cael perchnogaeth dros gyfnod o amser ac am hynny maent yn talu ffi i’r rhoddwr benthyciadau.  Mae’r rhoddwr benthyciadau yn derbyn sicrwydd cyfochrog pe bai'r rhoddwr benthyciadau yn methu.  Yn gyffredinol bydd y Bartneriaeth yn cael tua £1 miliwn o ran incwm. Fodd bynnag, mae'r buddsoddwr yn colli eu hawliau pleidleisio. I liniaru hyn yn rhannol gall y Bartneriaeth ddal 5% o gyfranddaliadau yn ôl ym mhob stoc er mwyn cadw’r bleidlais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mullin a oes unrhyw risgiau gwirioneddol i'r Pwyllgor boeni yn eu cylch. Dywedodd Mr Latham bod rhai risgiau mewn amgylchiadau eithriadol.  ...  view the full Cofnodion text for item 46.

47.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 146 KB

I ddarparu’r diweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu ac i gytuno ar yr ymateb i ymgynghoriad MHCLG ar y Fargen Degcryfhau amddiffyniad pensiwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd Mr Latham eu bod yn symud ymlaen ar eitem 1.01 a bod cyfweliadau ar gyfer Cyfrifydd a Swyddog Cefnogi Llywodraethu yn cael eu cynnal fory, byddant yn cael eu hysbysebu drwy’r swydd raddedig yn fuan. Dywedodd Mr Everett eu bod wedi bod yn gweithio’n galed ar y swyddi a’r broses o ail-drefnu staff.

 

Amlygodd Mr Latham dudalen 117 a’r gwaith mae Bwrdd Cynghori’r Cynllun yn ei wneud a’i bwysigrwydd gan ei fod yn effeithio ar y Gronfa.

 

Rhoddodd Mr Middleman ddiweddariad ar y Fargen Deg, gan amlygu y bu ymgynghoriad a bod ymateb drafft yn y papurau er mwyn cytuno arno mewn egwyddor.  Rhoddodd Mr Middleman drosolwg o gefndir y Fargen Deg, gan nodi ei bod yn ymwneud â gwarchod hawliau gweithwyr sy’n cael eu tynnu o'r sector cyhoeddus at gyflogwr sector preifat. Ar hyn o bryd maent yn aros yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’n newid i gynllun sy’n cynnig buddion sy’n “weddol gymharol" i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol fel y tystiwyd gan actiwari. O dan y Fargen Deg newydd bydd y llwybr gweddol gymharol yn diflannu. 

 

Mae’r cwestiynau a ofynnwyd ac a atebwyd wedi eu nodi o dudalen 134. Mae'r ail gwestiwn yn trafod y diffiniad o gyflogwr Bargen Deg, sef yr holl gyrff cyhoeddus ar wahân i gyflogwyr addysg bellach ac addysg uwch. Mewn ymateb, mae’r Gronfa wedi gwneud sylw bod hyn yn ymddangos yn rhesymol ond bod anghysondeb posib sydd angen ei gadarnhau os taw hyn yw’r bwriad.

 

Mae Cwestiwn 3 yn ymwneud â threfniadau pontio, er enghraifft beth sy’n digwydd i’r rheiny sydd mewn cynllun gweddol gymharol pan fydd y contract yn dod i ben. Bydd eu pensiwn a’u hawliau yn cael eu trosglwyddo’n orfodol yn ôl i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sydd yn cynyddu risgiau a chostau posib i gyflogwyr gan y byddant yn cael eu trosglwyddo trosodd ar sail unigol, a all fod yn hael i unigolion oherwydd y rhagdybiaethau a ddefnyddir o'i gymharu â'r trosglwyddiad a gynigir. Yn flaenorol, byddent yn cael eu trosglwyddo “gyda’i gilydd” mewn dull a fyddai fel arfer yn gwarchod y cyflogwr ond yn rhoi canlyniad teg i’r aelodau hefyd. Dywedodd Mr Middleman nad oedd llawer o gynlluniau gweddol gymharol felly yn gyffredinol ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gallai fod yn rhywbeth y gellid ei ddioddef er mwyn ei wneud yn syml i’w weithredu.

 

Dywedodd Mr Middleman bod elfen allweddol yr ymgynghoriad ar dudalen 136, sy'n trafod cyflwyno “statws cyflogwr tybiedig”. Pe bai’r Cyngor yn rhoi gwasanaethau ar gontractau allanol, yna gallai’r Cyngor fod yn “gyflogwr tybiedig” ac ni fyddai angen cytundeb derbyn na bond ar y cyflogwr allanol.

 

Tra byddai’r llwybr corff derbyniedig yn dal i fod ar gael, byddai hyn yn symleiddio’r broses yn yr achosion lle mae’r Cyngor yn cytuno i gymryd yr holl risg. Byddai hyn yn golygu na fyddai angen cyfrifiad dyled ymadael. Fodd bynnag, nododd Mr Middleman y dylid parhau i ddogfennu perthynas y cyflogwr newydd yn llawn gan fod yn rhaid iddynt barhau i dalu cyfraniadau i'r  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 104 KB

Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda materion cyfredol sy’n effeithio rheolaeth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Miss Gemell gan fod y pwyntiau allweddol o fewn y diweddariad yn cael eu cynnwys o fewn eitemau Llywodraethu o dan yr eitem flaenorol ar yr agenda, doedd dim angen trafod gweddill y diweddariadau o fewn y cyfarfod.

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod holl aelodau’r Pwyllgor yn nodi’r adroddiad hwn ac yn hysbysu eu hunain o’r wybodaeth yngl?n â’r materion presennol oedd yn effeithio ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rhai ohonynt yn berthnasol i weithrediad y Gronfa.

 

49.

Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn pdf icon PDF 122 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ms Meacock ei hun i’r Pwyllgor ac eglurodd mai hi bellach yw’r Prif Swyddog Pensiynau ar gyfer rheoliadau a chyfathrebu. Rhoddodd Ms Meacock ddiweddariad ar y prif bwyntiau yn yr eitem hon ar yr agenda. Mae’r prosiect crynhoi wedi ei ymestyn oherwydd Prosiect Apple a symudiad adnoddau. Mae’r tîm technegol wedi bod yn gweithio ar 980 o ymholiadau gan Mercer, a’r nod yw gwella safon data cyn prisiad actiwaraidd 2019. Mae’r gwaith ar iConnect yn mynd rhagddo. Mae Mrs Williams ar gr?p meincnodi’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifiaeth ac mae adrodd ar y dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) wedi ei drafod dros amser, bydd y KPIs yn newid yn unol â  thrafodaethau yn y gr?p.

Nododd Ms Meacock bod y swydd swyddog cyfathrebu wedi ei llenwi bellach a bod ymgeisydd mewnol wedi ei benodi, sy’n golygu felly bod swydd wag arall o fewn y tîm. Roedd un o’r swyddogion cyflogau rhan amser wedi ymddeol felly mae swydd wag yn y tîm technegol hefyd sydd angen ei llenwi. Bydd y Prif Swyddog Pensiynau yn canolbwyntio ar lenwi’r swyddi gwag hyn dros yr wythnosau nesaf.

Gofynnodd Mr Hibbert am y llinell binc yn y KPIs ac a yw hyn yn ymwneud â’r nifer o swyddi sy’n dod i mewn. Dywedodd Mrs McWilliam bod y llinell binc yn ymwneud â’r nifer o achosion sydd wedi eu cwblhau o fewn y mis, yn hytrach na'r nifer o achosion newydd. Er enghraifft, cwblhawyd 340 o achosion ymadael ac roedd 63% o fewn yr amserlenni cyfreithiol.

Gofynnodd y Cynghorydd Jones beth oedd 24.92% ar dudalen 223 yn ei olygu gan nad yw’n clymu gyda’r nifer o gofnodion yn y Gronfa. Cadarnhaodd Ms Meacock bod amryw gofnodion ar gyfer rhai aelodau, er enghraifft os oes ganddynt amryw o swyddi, ond mae'r mesur hwn yn ymwneud â'r nifer o wir aelodau, yn hytrach na chofnodion, sydd wedi cofrestru ar gyfer hunan wasanaeth aelodau.

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion am ddal i ymgymryd â gwaith y Rheolwr, a chadw pethau ar y trywydd iawn mewn cyfnod heriol.

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf a gwneud sylwadau.

 

50.

Diweddariad Buddsoddi a Chyllid pdf icon PDF 113 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlygodd Mrs Fielder y prif feysydd sef y cyfrifoldebau a ddirprwywyd a throsglwyddo asedau i’r gronfa. Roedd gofynion llif arian ym mis Rhagfyr 2018 ac felly mae’r Gronfa wedi adbrynu £10 miliwn o'r sicrwydd cyfochrog o fewn mandad Insight. Mae llif arian yn parhau i gael ei fonitro.

Dywedodd Mrs Fielder hefyd wrth y pwyllgor am gynllun prisiad actiwaraidd 2019 a’r amserlenni. 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Fielder a'i thîm am barhau i reoli'r adran er y swyddi gwag.

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor wedi ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyfrifoldebau dirprwyedig a’u nodi, yn ogystal â rhoi sylwadau.

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi nodi’r amserlenni ar gyfer cynllun prisiau 2019 ac yn deall y meysydd lle bydd angen cymeradwyaeth y Pwyllgor.

 

51.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad pdf icon PDF 91 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad bras ar yr eitem hon ar yr agenda. Soniodd am dudalen 257 oedd yn dangos y lefel o ansefydlogrwydd a welir yn Ch4 2018, yn enwedig ym mis Hydref a Rhagfyr.  Mae marchnadoedd America wedi eu heffeithio gan fraw heintus yngl?n â diwedd esmwytho meintiol, a hefyd mae’r marchnadoedd wedi cael eu heffeithio gan bryderon parhaol yngl?n â Brexit. Ers 31 Rhagfyr, mae’r marchnadoedd wedi eu hadfer bron i’r sefyllfa roeddynt ynddi cyn mis Rhagfyr. Mae arenillion gilt wedi cwympo yn y chwarter hwn sydd yn broblem i'r DU. Nododd Mr Harkin bod ansefydlogrwydd yn debygol o barhau am beth amser.

Soniodd y Cynghorydd Jones am dudalen 262, lle nodir bod Japan yn dod yn darged i Weinyddiaeth Trump yn 2019 oherwydd yr anghydbwysedd yn y sector Ceir. Soniodd am y newyddion diweddar am safle Honda yn Swindon oedd yn cyd-fynd â hyn.

Nododd Mr Everett bod y raddfa twf ar gyfer y DU wedi ei hisraddio gan Fanc Lloegr ar gyfer y tair blynedd hyd at 2022.

Dywedodd Mr Harkin bod yr oedi gyda Brexit yn golygu bod cwmnïau eisoes wedi gwneud penderfyniadau ar sut i ddelio ag ef, er nad ydynt yn gwybod beth fydd y canlyniad.  Mae hyn yn ei hun yn creu ansicrwydd yn yr economi, ac o ganlyniad i hynny, yn y marchnadoedd.

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi a thrafod y Diweddariad am yr Economi a'r Farchnad ar 31 Rhagfyr 2018.

(b)       Nodi sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” yn effeithiol ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.

 

52.

Y Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb gan y Rheolwr pdf icon PDF 87 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar berfformiad strategaeth buddsoddi’r gronfa a Rheolwyr Cronfa

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Buckland ddiweddariad bras ar yr eitem hon ar yr agenda cyn cymryd cwestiynau. Y peth cyntaf a nododd oedd bod y chwarter hyd at 31 Rhagfyr 2018 wedi bod yn un gwael. Fodd bynnag, yn y flwyddyn hyd at 31 Rhagfyr bu'n weddol fflat, oedd yn dangos ansefydlogrwydd parhaol y marchnadoedd. Siaradodd drwy dudalen 277, gan nodi bod credyd preifat yn fuddsoddiad newydd a fydd yn cymryd amser i ymrwymo iddo’n llwyr, a bod Gr?p Rheoli Risg y Gronfa, oedd yn cynnwys JLT, Mercers a swyddogion y Gronfa ar hyn o bryd yn edrych ar reoli sicrwydd cyfochrog portffolio LDI a reolir gan Insight. Mae marchnadoedd preifat mewnol yn perfformio'n well na'u targedau lle mae cronfeydd rhagfantoli a thwf amrywiol yn tangyflawni yn erbyn y meincnod. Nododd Mr Buckland bod enillion chwarterol dros 2019 wedi bod yn anghyson iawn ond amlygodd bod y Gronfa yn fuddsoddwr tymor hir a bod y perfformiad dros dair blynedd yn gadarnhaol sef 8.8% y flwyddyn. Nododd hefyd bod yr enillion ers 31 Rhagfyr wedi bod yn gadarnhaol a bod asedau wedi cynyddu o £1,784 miliwn i £1,821 miliwn ers diwedd Ionawr 2019.

 

Soniodd Mr Everett am yr ansefydlogrwydd hyd at y prisiad actiwaraidd a fyddai’n bryder o ystyried yr anawsterau i gyllidebau cyflogwyr, er iddo nodi bod trafodaethau ar hyn wedi bod o gymorth wrth gynllunio. Fe wnaeth atgoffa'r Pwyllgor y dylent gofio eu rôl cronfa bensiynau wrth wneud penderfyniadau am hyn ar y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi a thrafod y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr yng Nghrynodeb y Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli 31 Rhagfyr 2018.

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf yn adroddiad Diweddariad yr Economi a’r Farchnad, i ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn.

 

53.

Diweddariad Cyllido A Llwybr Cyrraedd Targed pdf icon PDF 111 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o’r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Middleman y lefel o ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd yn ddiweddar a sut roedd hynny wedi effeithio sefyllfaoedd cyllido. Roedd y lefel cyllido yn 86% ar ddiwedd Rhagfyr 2018, wedi codi i 89% ar ddiwedd Ionawr 2019 a bellach i fyny at 91%.  Tra bo’r lefel cyllido yn ansefydlog, nododd mai’r prif beth oedd y rhagolwg ar gyfer y dyfodol a beth fydd Brexit yn ei wneud i’r economi ac enillion uwch chwyddiant. Mae’n bwysig nodi bod y fframwaith llwybr cyrraedd targed yn gweithio a bod y dull diogelu ecwiti wedi cyfrannu’n gadarnhaol pan gwympodd y marchnadoedd.

 

Siaradodd Mr Middleman am y rhaeadr sicrwydd cyfochrog sy’n golygu gwneud i'r fframwaith weithredu mor effeithiol â phosib. Fe nodwyd £100 miliwn o sicrwydd y gellid ei ryddhau a’i ddefnyddio’n fwy effeithiol i gynyddu enillion disgwyliedig. Arwyddwyd yr holl ddogfennau a disgwylir y bydd y rhaeadr yn cael ei roi ar waith erbyn diwedd y mis. Mae tudalen 288 yn nodi’r rhesymau pam bod y Gronfa yn gwneud hyn, sef er mwyn cynnal yr un lefel o reolaeth risg ym mandad LDI ond ailstrwythuro er mwyn gwneud y mwyaf o enillion. Disgwylir i’r dull hwn gynhyrchu arenillion ychwanegol o £3 miliwn y flwyddyn.

 

Nid yw’r adroddiad yn cynnwys effaith Brexit a pha mor gryf yw’r Gronfa o ystyried beth allai ddigwydd. Mae’r Gronfa yn amrywiol iawn ac mae dulliau diogelu mewn lle er mwyn ymdrin mor dda â phosib gyda’r rhan fwyaf o risgiau ar wahân i arian cyfred.  Fodd bynnag mae hyn wedi ei drafod yn y FRMG a'r Gr?p Llywio a chytunwyd arno dros dro er mwyn gweithredu mantoli cyfredol ar lefel o 50%.  Bydd hyn yn “bancio” peth o’r enillion sydd eisoes wedi eu gwneud. Bydd canlyniad hyn yn cael ei adrodd mewn mwy o fanylion mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Mr Everett o le daw’r term ‘collateral waterfall'. Cadarnhaodd Mr Middleman bod y rhaeadr yn ymwneud â dal sawl math gwahanol o asedau (y tair haen y cyfeirir atynt yn yr adroddiad) a ddefnyddir ar adegau gwahanol fel bod yr asedau â'r enillion mwyaf yn cael eu defnyddio olaf, gan gynyddu enillion cyffredinol.

 

Gofynnodd Mr Everett am fwy o wybodaeth yngl?n â beth yn union yw hyn a chadarnhaodd Mr Middleman y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cytunwyd hefyd y bydd tua £30 miliwn yn cael ei dynnu o’r QIAIF Insight er mwyn ei fuddsoddi mewn seilwaith yn unol â chyfarwyddyd JLT maes o law.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r sefyllfa o ran mantoli ar gyfer y Gronfa, a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

 

(b)  Nododd y Pwyllgor fod y Swyddogion yn gweithio â’u hymgynghorwyr er mwyn cadarnhau proses rhaeadru sicrwydd cyfochrog gydag Insight fel y gellid rheoli’r gofynion sicrwydd cyfochrog yn well. Mae Insight yn y broses o weithredu’r broses rhaeadru sicrwydd cyfochrog a fydd yn ei lle erbyn Chwefror 2019.  ...  view the full Cofnodion text for item 53.

54.

Mater tâl am ofal cyflogwyr (PART 2)

Rhoi manylion i Aelodau’r Pwyllgor am dordyletswydd posib yn ymwneud ag un Gweithiwr penodol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Latham yr eitem hon ar yr agenda ond nododd mai Ms Robinson sy’n arwain y prosiect. Gwnaed cynnydd da ar y cyfrifiadau ac mae nifer sylweddol o lythyrau eisoes wedi eu hanfon at aelodau. Nid ydynt wedi derbyn cwynion swyddogol, sy’n arwydd da, a dim ond pum ymholiad a dderbyniwyd gan aelodau'r cynllun.

 

Nododd Mr Latham yr effaith ariannol gyffredinol isel ond pwysleisiodd mai’r nod allweddol yw sicrhau bod aelodau’r cynllun yn cael eu trin mor gadarnhaol â phosib o ystyried sensitifrwydd y mater. Cadarnhaodd Mr Latham bod y gr?p prosiect wedi bod mewn cyswllt parhaol â'r Rheoleiddiwr  Pensiynau oedd i’w weld yn fodlon â’r datrysiad. Mae Mr Latham yn disgwyl y bydd yn cymryd tan ddiwedd Chwefror i gwblhau’r rhan fwyaf o’r cyfrifiadau a’r cyfathrebu, gydag ychydig o achosion cymhleth yn cymryd tan ddiwedd  Mawrth. Mae ganddynt alwad gyda’r Rheoleiddiwr Pensiynau ar 6 Mawrth ac yn gobeithio cau’r achos gyda’r TPR bryd hynny.

 

Nododd Mr Latham bod datrysiad wedi ei ychwanegu at y system gyflogau sydd ar hyn o bryd yn cael ei brofi ac maent yn parhau i weithio gyda thîm cyflogau'r Cyngor ar hyn.

 

 Dywedodd Mr Everett ei fod yn gwerthfawrogi'r holl waith sydd wedi ei wneud hyd yn hyn a nododd bod yr undebau wedi bod o lawer o gymorth gyda'r broses a'r cyfathrebu gydag aelodau.

 

Amlygodd Mrs McWilliam yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor.  Cadarnhaodd mai dim ond 52 o achosion sydd ar ôl i’w cyfrifo a bod tua 1200 o achosion wedi eu cwblhau hyd yma. Ar hyn o bryd maent yn y cam gwirio fel y gellir cyfathrebu pan fydd angen. Cadarnhaodd mai’r gostyngiad gros mwyaf i bensiwn blynyddol oedd £99 y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect mawr hwn gan fod hynny yn ychwanegol i’w gwaith o ddydd i ddydd. Nododd y Cadeirydd ei bod yn amlwg bod cynnydd gwych wedi ei wneud ers y diweddariad diwethaf a’i fod yn falch nad oedd unrhyw gwynion wedi eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.

 

 

 

55.

Penodi Darparwr Actiwaraidd a Budd-Daliadau (PART 2)

Darparu proses i Aelodau’r Pwyllgor a gynhaliwyd i gaffael gwasanaethau darparwr Actiwaraidd a Budd-daliadau a chymeradwyo penodiad y Darparwr hwnnw

Cofnodion:

Gadawodd Mr Middleman, Mr Harkin, Mr Buckland, Mrs McWilliam a Miss Gemmell yr Ystafell Bwyllgor ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda.

 

Cyflwynodd Mrs Fielder yr adroddiad gan drafod y broses a ddilynwyd ar gyfer caffael Darparwr Actiwaraidd a Budd-Daliadau ar gyfer y Gronfa Bensiynau. Roedd hyn yn cynnwys meini prawf sgorio a sgoriau terfynol ar gyfer y tendrau a dderbyniwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Yn seiliedig ar y sgôr a nodir yn yr adroddiad, cytunodd y Pwyllgor i ail benodi Mercer i gyflawni rôl ymgynghorydd actiwaraidd a budd-daliadau i Gronfa Pensiynau Clwyd am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2025 (gyda’r opsiwn i ymestyn am 12 mis pellach hyd at 31 Mawrth 2026).