Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702321  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

30.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny

 

Cofnodion:

Datgelodd Mrs McWilliam, Mr Harkin a Mr Buckland wrthdaro ynghylch eitem 4 ar y rhaglen yngl?n â chontractau ymgynghorwyr.Fodd bynnag, gan nad oedd a wnelo’r eitem honno â dim ond cymeradwyo estyniad i’r contract, byddent yn aros yn y cyfarfod oni fyddent o’r farn broffesiynol fod yno wrthdaro.  Dywedodd Mr Everett hefyd na fyddai’r materion o ran adnoddau y cyfeiriwyd atynt yn eitemau 5 a 7 yn peri unrhyw wrthdaro uniongyrchol i’r swyddogion hynny oedd yn bresennol.

.

31.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Medi 2018

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Medi 2018.

Dywedodd Mr Hibbert fod y sylwadau ar dudalen 10 yngl?n â newid ecwiti hollgynhwysol gweithredol, lle’r oedd y canlyniad yn golygu y byddai’r Gronfa ar ei hennill ymhob ffordd, gan ofyn beth fyddai’n digwydd pe byddai’r sefyllfa’n un lle’r oedd y Gronfa ar ei cholled ymhob ffordd.Cadarnhaodd Mr Latham y byddai’n ymdrin â hynny yn yr eitem nesaf ar y rhaglen.

PENDERFYNWYD:

 

Cytunwyd y gallai’r Cadeirydd dderbyn, cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion.

 

32.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 91 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth Mr Latham drwy’r eitem hon ar y rhaglen, gan nodi’r materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu y bu’r Cadeirydd ac ef yn bresennol ynddo ar 25 Medi 2018. Dywedodd fod y rhan helaeth o’r gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar yn ymwneud â phenodi rheolwr trawsnewid ar gyfer asedau ecwiti hollgynhwysol, a byddai hynny’n digwydd ar 14 Ionawr 2019.

Dywedodd Mr Latham y byddai 4% o asedau’r Gronfa, sef swm o tua £80 miliwn, yn symud o’r mandad ecwiti hollgynhwysol cyfredol gydag Investec i Gynllun Contractiol Awdurdodedig gyda Phartneriaeth Pensiynau Cymru.Roedd gwaith hefyd wedi’i wneud ar fandadau yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop, ac er na fyddai’r Gronfa’n buddsoddi yn y rheiny roedd pethau’n mynd yn dda, ac roedd yn rhagweld y byddai’r asedau’n trosglwyddo fis Mawrth 2019.

 

Y strategaeth incwm sefydlog oedd yn mynd â’r sylw mwyaf, ac roedd Russell Investments, ar ran y Gweithredwr, wedi bod yn ymchwilio i wahanol gynigion er mwyn bodloni gofynion ar awdurdodau gweinyddu.

 

            Cyfeiriodd Mr Latham at bwynt Mr Hibbert yn gynharach, gan ddweud bod y mandad ecwiti hollgynhwysol yn sicr yn sefyllfa lle byddai’r Gronfa ar ei hennill ymhob ffordd.  Serch hynny, roedd hi’n bosib na fyddai’r ffioedd yr oedd y Gronfa’n eu talu ar gyfer rhai mandadau yn gostwng bob amser wrth gronni asedau, gan fod ffioedd llawer ohonynt eisoes yn gystadleuol iawn a’i bod yn annhebygol y byddai’r un cyfraddau ar gael i’r Bartneriaeth.  

 

O ran buddsoddiadau’r Bartneriaeth, credai Mr Latham fod popeth yn dal i fynd yn dda, o’i safbwynt ef.Ychwanegodd Mr Latham y byddai Mrs Fielder yn mynd i gyfarfod y Gweithgor Swyddogion ar 30 Tachwedd ac y byddai’n rhoi sicrwydd fod nodau’r Gronfa wedi’u diogelu o ran y portffolio incwm sefydlog.

 

O ran gwaith llywodraethu’r Bartneriaeth, roedd yr Awdurdod Lletyol wedi cynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd wag.

Gan gyfeirio at raglen cyfarfod y Gweithgor Swyddogion ar 30 Tachwedd, dywedodd Mr Latham fod benthyca cyfranddaliadau’n rhywbeth i’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ei ystyried.

 

Holodd Mr Hibbert a oedd bwriad i gyflawni gofynion Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun o ran cynrychiolaeth y cynllun ar y Cyd-bwyllgor.Gofynnodd am godi’r mater yng nghyfarfod y Gweithgor Swyddogion y dydd Gwener canlynol, ac fe gadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n gwneud hynny.

 

Holodd y Cynghorydd Jones yngl?n â thrafodaethau’r Bwrdd Pensiynau yngl?n â llywodraethu’r gronfa a nodwyd ar dudalen 59, a mynegodd yntau bryder yngl?n â’r diffyg cynllunio busnes.Cadarnhaodd Mrs McWilliam fod Byrddau Pensiynau Lleol ledled Cymru’n ystyried ysgrifennu llythyr i’r gronfa gyfun yngl?n â’r cynllun busnes a materion llywodraethu eraill.    Dywedodd Mrs McWilliam ei bod yn trafod y mater gyda chadeiryddion y Byrddau eraill.

 

Ychwanegodd Mr Latham y byddai angen i’r gronfa gyfun sefydlu Polisi Buddsoddi Cyfrifol.Roedd y Llywodraeth yn dweud mai’r awdurdod gweinyddu lleol oedd yn gyfrifol am hynny.  Fodd bynnag, gallai fod yn anodd cyflawni pob un o amcanion y Gronfa o ran buddsoddi cyfrifol yng nghyd-destun cronfa gyfun.   Byddai hyn yn rhywbeth i’w ystyried wedi i’r Bartneriaeth lunio  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 155 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Gadawodd Mr Everett yr ystafell pan drafodwyd yr eitem hon.

 

Dywedodd Mr Latham na lwydddd y Gronfa i benodi tri aelod newydd yn y Tîm Cyllid.Wedi rhoi sylw i’r swydd Swyddog Buddsoddiadau a phrofi’r farchnad, dywedodd Mr Latham y câi’r swydd ei hail-hysbysebu fel Swyddog Buddsoddiadau Graddedig, gan nad oedd y cyflog yn ddigon i ddenu rhywun â’r cymwysterau priodol.Cafwyd yr un drafferth â’r swydd Cyfrifydd, ond yn yr achos hwnnw penderfynwyd ail-hysbysebu’r swydd ar raddfa uwch.Câi’r swydd Swyddog Llywodraethu a Chymorth ei hail-hysbysebu ar yr un raddfa ag o’r blaen.

                      O ran y Swyddog Buddsoddiadau Graddedig, mynegodd Mr Hibbert bryder yngl?n â phenodi a hyfforddi rhywun oedd newydd raddio, a fyddai wedyn yn medru gadael yr awdurdod gweinyddu ar ôl dwy neu dair blynedd i gael swydd yn rhywle arall am well cyflog.  Cytunodd Mr Latham fod yno berygl o hynny, ac y gallai mwy o uwch-swyddi ddod ar gael gyda’r Gronfa yn y dyfodol, pe byddai’r swydd Raddedig yn llwyddo.Dywedodd y Cadeirydd fod yr un peth yn digwydd gydag awdurdodau eraill.Credai Mr Latham y gallai anghenion Cronfa Clwyd fod yn wahanol oherwydd ei strwythur, ond bod yr heriau’r un fath gyda chronfeydd eraill. 

                      Holodd Mr Hibbert a oedd cyfleoedd i rannu’r swydd â chronfa arall, ond cadarnhaodd Mr Latham na fyddai hynny’n bosib oherwydd nifer o elfennau unigryw’r swydd benodol hon.  Amlygodd y Cadeirydd y perygl o ran colli gwybodaeth ac arbenigedd y swyddogion presennol.

                      Yna soniodd Mr Latham fod Marsh and McLennan yn y broses o brynu JLT, a bod y cwmni hefyd yn berchen ar Mercer.  Roedd hynny’n golygu, pe cwblheid y contract presennol â JLT yna câi hwnnw ei newyddu er mwyn cydnabod newid y cwmni.

                      Aeth Mr Latham ymlaen i’r rhan nesaf a oedd yn ymwneud â’r Bwrdd Pensiynau. Cynhaliwyd cyfarfod fis Hydref a rhoddwyd braslun o’r prif bynciau trafod yn yr adroddiad, gan y sylw a roddwyd i ddull y Gronfa o reoli perygl seiberdroseddu. Aeth Mr Latham a Mr Pumford i gyfarfod Bwrdd Lleol Cronfa Bensiynau Swydd Gaer ac roedd y Byrddau’n cydweithio i weld a allent ddysgu rhywbeth gan ei gilydd.Holodd y Cadeirydd a oedd y gwaith yn addawol.Cadarnhaodd Mr Pumford y bu’n ymarfer da iawn a thra buddiol.

                      Rhannodd Mr Latham y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Soniodd yn benodol am y prosiect ymwahanu oedd yn mynd rhagddo, a’r broblem y gallai gwrthdaro buddiannau godi rhwng rheoli Cronfa Bensiynau’r Cynllun a swyddogaethau ac amcanion y rhiant-awdurdod lleol.                       

                      Dywedodd Mr Hibbert y bu’n bresennol mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan Wasanaeth Pensiynau Unsain, lle canwyd clodydd Cronfa Bensiynau Clwyd am ei pholisi buddsoddi cyfrifol.

                      Aeth Mr Latham ymlaen i sôn fod dolen gyswllt ar dudalen 40 i weld adroddiadau blynyddol y Bwrdd Pensiynau Lleol a’r Cynghorydd Annibynnol, a gwahoddodd aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau ynghylch hynny.

Cyfeiriodd Mr Latham hefyd at eitem 1.06 ar y rhaglen, gan sôn y cafwyd ymateb da iawn i’r Cyd-gyfarfod Ymgynghorol  ...  view the full Cofnodion text for item 33.

34.

Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 96 KB

Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda materion cyfredol sy’n effeithio rheolaeth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Miss Fellowes y wybodaeth ddiweddaraf yn gryno yngl?n â’r materion allweddol oedd yn effeithio ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.Amlygodd y materion canlynol:

·         Cadarnhawyd y byddai’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn 2.4% ym mis Medi 2018, ac felly byddai pensiynau’n cynyddu 2.4% fis Ebrill 2019.

·         Cyhoeddodd Adran Actiwari'r Llywodraeth ei Adroddiad Adran 13 fis Medi, ac ni soniwyd am y Gronfa ynddo.Roedd y pedwar prif gwmni actiwaraidd oedd yn cynghori cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol â nifer o bryderon yngl?n â’r adroddiad, ac roeddent wedi mynegi’r rheiny mewn llythyr ar y cyd i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun.  Nid oedd dim dwywaith na fyddai’r trafodaethau’n parhau yngl?n â’r pryderon hynny.

·         Bu trafodaeth yngl?n â symud i gylch prisio pedair blynedd, gan gynnal prisiad 2019 fel y bwriadwyd, ond gan adolygu cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr ar ganol y cylch (2022 yn ôl pob tebyg), a chynnal y prisiad statudol dilynol yn 2024. Byddai Mercer yn rhannu mwy o wybodaeth am hyn faes o law.

·         Ym mis Hydref penderfynodd yr Uchel Lys gydraddoli’r Isafswm Pensiwn Gwarantedig ar gyfer yr aelodau hynny oedd wedi ymryddhau o Gynllun y Wladwriaeth.Roedd hynny’n effeithio ar bob aelod oedd ag Isafswm Pensiwn Gwarantedig ers 17 Mai 1990, a disgwylid y byddai’n cael effaith ar gostau a rhwymedigaethau cynlluniau sector preifat.O ran y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chronfa Bensiynau Clwyd, y farn ar y cychwyn oedd y byddai unrhyw effaith yn dibynnu ar broffil yr aelodau, ac y byddai’n debygol o fod yn llawer llai arwyddocaol oherwydd y dull mynegeio a ddefnyddid gyda’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a oedd yn debygol o gael ei ledaenu.Roedd yr actiwariaid yn cadw golwg barhaus ar hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Jones a oedd holl awdurdodau gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn dilyn yr un cylch ar gyfer prisio actiwaraidd.Cadarnhaodd Mr Middleman fod pob awdurdod gweinyddu yng Nghymru a Lloegr yn dilyn yr un cylch, a bod Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr Alban flwyddyn ar ei hôl hi.Yn 2024 byddai pawb yn dilyn yr un drefn pe byddai’r newidiadau arfaethedig yn digwydd.Dywedodd Mr Middleman fod pedair blynedd yn amser hir i gronfa oedd â pholisi rheoli risg gweithredol, ac felly ei bod yn bwysig meddu ar y grym i adolygu’r cyfraniadau ar ganol y cylch pe byddai angen.

            Gofynnodd Mr Hibbert am yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r drefn Rheoli Costau.Eglurodd Mr Middleman drefn y Trysorlys, lle byddai’n rhaid i’r aelodau ysgwyddo’r costau pe byddent yn mynd yn fwy na 2% yn uwch na’r targed, ond yn elwa pe byddai’r costau’n gostwng mwy na 2% islaw’r targed (drwy hwb i’w buddion neu ostyngiad yn eu cyfraniadau).  Fodd bynnag, roedd Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun yn gweithredu trefn arall a fedr fod yn drech na threfn y Trysorlys, lle’r oedd rhywfaint o ddisgresiwn pe byddai’r costau’n gyfwerth â rhwng 0-2% o gyflogau.  Yn ôl y data diweddaraf ynghylch tueddiadau, roedd yn debygol y byddai rhywfaint  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Diweddariad ar Weinyddu Pensiynau/Cyfathrebu pdf icon PDF 129 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd a chytuno ar newidiadau i Gynllun Busnes y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Nododd Mrs Williams y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun busnes yn eitem 1.01, lle gallai fod angen newid y dyddiadau ychydig o ran cwblhau’r prosiect ar ôl-groniad gwaith gweinyddu, gan ystyried y blaenoriaethau eraill. Dywedodd y byddai syniad mwy pendant o’r dyddiad cwblhau erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

Roedd y tîm gweinyddu dan gryn bwysau ac yn ysgwyddo baich gwaith trwm o ganlyniad i’r broblem â thâl CARE, sef ‘Project Apple’. Byddai sôn am hynny yn eitem Rhan II ar y rhaglen. Roedd y gwaith yn mynd rhagddo ond ni adroddwyd yn ei gylch fel rhan o’r gweithdrefnau dangosyddion perfformiad allweddol.

Fel y soniodd Mr Middleman eisoes, byddai’r drefn Rheoli Costau’n bwysig iawn i’r tîm gweinyddu.Dywedodd Mrs Williams hefyd, fodd bynnag, y byddai’r cael gwared â’r buddion afiechyd haen 3 yn arbed ychydig o waith gweinyddu.

Roedd dogfen y cytundeb derbyn a’r broses wedi’u hadolygu yn sgil newid y rheoliadau’n ddiweddar, a bellach yn cael eu defnyddio.  Cadarnhaodd bod y drefn newydd yn mynd yn dda yn ôl pob golwg.

Dywedodd Mrs Williams fod y Gronfa wedi cynnal asesiad o ansawdd data yn unol â disgwyliadau’r Rheoleiddiwr Pensiynau, drwy ddefnyddio gwasanaeth a ddarparwyd gan Aquila Heywood, darparwr system weinyddol y Gronfa.  Canfuwyd bod 92.7% o gofnodion yr aelodau heb yr un methiant data cyffredin.Canfuwyd hefyd bod 68.2% o gofnodion yr aelodau heb yr un methiant data mewn perthynas â chynllun penodol.Wrth baratoi ar gyfer Prisiad Actiwaraidd 2019, roedd y Gronfa hefyd wedi cael gwiriadau ansawdd data gan Mercer, gan gynnwys y goblygiadau posib o ran cyfrifo rhwymedigaethau.  Roedd ymdrin â’r materion data hyn yn cael blaenoriaeth cyn cynnal y prisiad, gan eu bod yn effeithio ar gostau’r cyflogwr.

Roedd Mr Latham wedi sôn mor bwysig oedd ansawdd data yn y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol.Roedd y Prif Weithredwr yn debygol o grybwyll y mater mewn llythyr at bob cyflogwr.Byddai’r llythyr yn wahanol i bob cyflogwr gan fod yr heriau o ran data’n amrywio.Dywedodd Mrs Williams y gallai rhai cyflogwyr beidio â derbyn llythyr os nad oedd eu data’n peri unrhyw bryderon sylfaenol.

Cyfeiriodd Mrs Williams at dudalen 179, a’r cyhoeddiad fod Equiniti wedi prynu’r elfen Aquila gan gwmni Aquila Heywood, sy’n darparu meddalwedd gweinyddu’r gronfa, Altair.Ym marn Mrs Williams roedd hynny’n fwy perthnasol i gynlluniau sector preifat, ond byddai’n ceisio mwy o wybodaeth am y mater faes o law, gan y byddai’n mynd i gyfarfod yn fuan a fyddai’n cynnwys y pwnc.Dywedodd fod y mater hwn ar y gofrestr risg.  Roedd bwriad o hyd i sefydlu fframwaith caffael cenedlaethol ar gyfer systemau gweinyddu, ond gallai’r newidiadau o fewn Aquila Heywood effeithio ar hynny.

Cafwyd ymateb cadarnhaol yn dilyn y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol.O ran gwybodaeth am Bolisïau a Strategaethau, dywedodd Mrs Williams fod pethau’n gwella o ran y dangosyddion perfformiad allweddol.Dywedodd hefyd y cynhelid cyfweliadau ar gyfer swydd newydd swyddog cyfathrebu.

Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd y prosiect i fynd i’r afael â’r ôl-groniad gweinyddu wedi’i  ...  view the full Cofnodion text for item 35.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

                        Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

36.

Mater tâl am ofal cyflogwyr

i roi diweddariad i'r Aelodau'r Pwyllgor ar y prosiect hwn.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Latham adroddiad ar broblem oedd yn effeithio ar daliadau i aelodau Cronfa Bensiynau Clwyd oherwydd gwall wrth gyfrifo tâl CARE y cyflogwr i’r Gronfa.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr egwyddorion cytûn o ran datrys y mater a chyfathrebu yn ei gylch.

Roedd y Gronfa’n anfon gwahanol fersiynau o lythyrau at wahanol aelodau.Roedd Mr Latham yn gobeithio y câi’r llythyrau hynny eu hanfon ymhen wythnos ar ôl cyfarfod y Pwyllgor.

Roedd Mr Latham wedi siarad â’r Rheoleiddiwr Pensiynau am y mater,  a oedd wedi gofyn am gael gwybodaeth yn fisol yngl?n â chynnydd y prosiect.

Holodd Mr Hibbert a oedd hyn yn broblem â’r feddalwedd oedd yn effeithio ar gyflogwyr eraill yn y Gronfa.Cadarnhawyd nad oedd y broblem wedi effeithio ar gyflogwyr eraill yn y Gronfa.

Holodd y Cynghorydd Jones a fyddai’r Gronfa’n sicrhau bod ei thîm Cyfathrebu’n barod i ymateb pe byddai’n rhaid pan ddeuai’r broblem i sylw’r cyhoedd.Dywedodd Mr Everett y byddai’n ystyried hyn ac yn cymryd camau priodol, er nad oedd o’r farn nad oedd y mater yn effeithio ar y cyhoedd.

Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd rhyw syniad o’r costau terfynol i’r Gronfa.Dywedodd Mrs McWilliam nad oedd y costau terfynol wedi’u pennu eto, ond roedd y gwaith hyd hynny’n awgrymu mai bach iawn fyddai’r effaith yn y pen draw. 

            Dywedodd y Cadeirydd wrth gloi ei bod yn braf gweld fod y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda.Yn amlwg, roedd pryder mawr o hyd, ac roedd yn tybio y byddai’r wythnosau nesaf yn allweddol o ran meithrin dealltwriaeth o ymateb aelodau’r cynllun i’r newyddion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.

 

 

EDOD Â'R WASG A'R CYHOEDD YN ÔL I MEWN

            Dywedodd y Cadeirydd fod y rhan breifat o’r cyfarfod wedi dod i ben, a bod y cyfarfod bellach yn agored i’r wasg a’r cyhoedd unwaith eto.

 

37.

Diweddariad Buddsoddi a Chyllid pdf icon PDF 109 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwydac i dderbyn y Datganiadau Strategaeth Ariannu i'w cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Mrs Fielder y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r eitem hon ar y rhaglen, gan sôn yn gyntaf fod pethau ar y trywydd iawn i gyflawni tair o’r tasgau yn y cynllun busnes. Dywedodd fod angen sêl bendith y Pwyllgor i ddiwygio’r Datganiad o’r Strategaeth Ariannu. Byddai’r diwygiadau yn y Datganiad yn cynnwys y newidiadau diweddar yn y rheoliadau credydau ymadael a’r hyn a ychwanegwyd at y strategaeth llwybr hedfan, er enghraifft, gwarchod ecwiti deinamig.

Roedd yr Atodiad i’r adroddiad yn ymdrin â’r symudiadau arian parod yn y cyfnod dan sylw. Yn unol â chais Mr Hibbert yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor, roedd graff yngl?n â rheoli arian parod wedi’i gynnwys ar dudalen 232.

Rhoddodd Mr Middleman grynodeb o ganlyniadau Adolygiad Ariannu Interim 2018, a oedd yn rhoi cyfrif am ddiweddaru’r rhagolygon buddsoddi a’r tueddiadau o ran disgwyliad oes (yn seiliedig ar ystadegau gwladol). Amcangyfrifwyd fod cyfanswm lefel ariannu’r Gronfa ar 31 Mawrth 2018 yn 88%, ond bu rhywfaint o ansefydlogrwydd ers hynny (codi i 92% a gostwng yn ôl i 88%).  Amcangyfrifwyd bod ad-daliadau yn y dyfodol yn gyfwerth â 18% o gyflogau (15.3% o gyflogau ydoedd pan gynhaliwyd y prisiad diwethaf), ond nid oedd hynny’n cynnwys y costau posib yn sgil canlyniad y drefn Rheoli Costau.  Fodd bynnag, roedd hyn yn dal i ragori ar y targed ac roedd hynny’n galonogol.  Esboniodd Mr Middleman y cafodd y Gronfa gyfnod da yn ddiweddar, ond mai’r pethau pwysicaf oedd y disgwyliadau o ran enillion uwchlaw chwyddiant yn y dyfodol, a sicrhau bod y cyfraniadau’n ddigonol i gynnal cyflwr ariannol y Gronfa.  Cadarnhaodd Mr Middleman y câi hyn ei drafod yn fanylach wrth ddynesu at ddyddiad y prisiad, a dywedodd Mr Ferguson fod cyfarfod wedi’i drefnu â chyfarwyddwyr cyllid yr awdurdodau ddiwedd mis Ionawr.

Dywedodd Mr Middleman y disgwylid rhai newidiadau o ran y tybiaethau demograffig yngl?n â disgwyliad oes, ac y byddai hynny’n cael effaith ar gostau a chanlyniadau.  Am y tro roedd y rheiny’n seiliedig ar dueddiadau cenedlaethol, ond gwneid dadansoddiad wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer y Gronfa ddechrau’r flwyddyn newydd, a byddai hynny’n rhoi darlun mwy pendant ar gyfer y prisiad.

Dywedodd Mr Everett wrth Mr Middleman y bu’r eitem hon ar y rhaglen yn fuddiol iawn. Holodd sut allai’r Gronfa gael sicrwydd a sefydlogrwydd hirdymor, gan ystyried y gwasgfeydd enbyd ar gyllidebau’r cyflogwyr, yn enwedig wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ddiwedd mis Mawrth 2019. Gallai hynny, ar ben ffactorau eraill, roi’r Gronfa mewn sefyllfa waeth. Cytunodd Mr Middleman nad oedd yr ansicrwydd yn helpu, ond drwy lunio’r strategaeth llwybr hedfan a sefydlu strwythur asedau, roedd y Gronfa wedi lliniaru ar rai o’r risgiau.  Roedd yr effaith hirdymor ar chwyddiant yn y Deyrnas Gyfunol yn hollbwysig, gan y byddai hynny’n effeithio ar rwymedigaethau.

Fodd bynnag, cadarnhaodd Mr Middleman fod y trafodaethau’n cynnwys pennu strategaeth hirdymor a’r gydbwysedd rhwng cyfraniadau arian parod ac enillion. Pe byddai’r marchnadoedd yn cwympo 20%, er enghraifft, oherwydd yr ansicrwydd yngl?n ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, nid fyddai Mr Middleman o  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad pdf icon PDF 91 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rannodd Mr Harkin y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â’r economi a’r marchnadoedd yn y tri mis diweddaraf.Roedd tudalen 315 yn dangos yr hyn a ddigwyddodd yn y farchnad yn y tri mis a ddaeth i ben ar 30 Medi 2018. Cododd Mr Harkin y materion allweddol canlynol:

·         Yn ôl ystadegau’r farchnad roedd y marchnadoedd mewn cyflwr ‘bodlon cymryd risgiau’.

·         Roedd yr enillion yn dda drwyddi draw, ac wedi gwasgfeydd ar y Marchnadoedd Newydd roeddent bellach wedi dod ag enillion cadarnhaol.

·         O safbwynt buddsoddi, roedd llawer o hyder yn enwedig o ran yr Unol Daleithiau, lle’r oedd camau’r Gronfa Ffederal wedi llacio rhywfaint o’r straen ar yr economi.

·         Daeth Sterling o dan bwysau yn erbyn doler yr Unol Daleithiau a’r Ewro, a byddai hynny’n cael effaith ar arian tramor mewn cronfeydd pensiynau wedi’u seilio yn y Deyrnas Gyfunol.

 

            Ers hynny, bu’r marchnadoedd ecwiti o dan gryn bwysau.Ym mis Hydref 2018 cafwyd colledion mawr yn y marchnadoedd ecwiti byd-eang.Cododd Mr Harkin y materion allweddol canlynol:

·         Darparwyd rhywfaint o ddadansoddiad ar Bloomberg o ran y posibilrwydd o wrthod bargen ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a’r effaith y byddai hynny’n ei gael ar Sterling.

·         Roedd arlywyddion Ffrainc a’r Almaen o dan bwysau, ac roedd llawer o bwysau a newyddion drwg yn fyd-eang

 

     Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd perfformiad Sterling yn erbyn doler yr Unol Daleithiau’n beth da i allforwyr.Cytunodd Mr Harkin ei fod yn beth da, ond y byddai yno bob amser rai’n ennill a rhai’n colli yn y farchnad.Dywedodd fod y Deyrnas Gyfunol yn allforio swm mawr o nwyddau, ac felly y byddai’n dda i fusnes allforio pe byddai llawer o’i nwyddau’n dod o’r Unol Daleithiau.Roedd sefyllfa Sterling o gymharu ag arian gwledydd eraill yn dal yn wan oherwydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a’r gagendor yn arbennig o lydan o gymharu â doler yr Unol Daleithiau, ond nid oedd mor wan ag y bu.

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Nodi a thrafod yr Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Economi a'r Farchnad ar 30 Medi 2018.

 

(b)        Nodi sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” i bob pwrpas ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.

 

39.

Y Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb gan y Rheolwr pdf icon PDF 87 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar berfformiad strategaeth buddsoddi’r gronfa a Rheolwyr Cronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Mr Buckland y wybodaeth ddiweddaraf yn gryno ynglyn â’r eitem hon ar y rhaglen. Ar dudalennau 336 a 337 roedd gwybodaeth fanylach am y portffolio na’r hyn a baratowyd ar 30 Medi 2018. Gyda golwg ar berfformiad cyffredinol o ran dyranu asedau ar dudalen 337, dymunai Mr Buckland amlygu dau ddyraniad a oedd uwchlaw neu islaw’r pwysau, er enghraifft, y portffolio Buddsoddi ar sail Rhwymedigaethau, a oedd uwchlaw’r pwysau. Dywedodd Mr Buckland fod credyd preifat ychydig islaw’r pwysau gan fod hwn yn ddyraniad newydd i’r Gronfa.Ar dudalen 339 rhoddwyd crynodeb o berfformiad y Gronfa fel yr oedd hi ar 30 Medi 2018. Y peth cyntaf a ddaeth i sylw oedd perfformiad eithriadol y Gronfa ymhob cyfnod.Cyflawnodd y Gronfa enillion o 11.8% o gymharu â tharged o 10.3% dros dair blynedd.Cafwyd canlyniadau arbennig o dda mewn rhai meysydd unigol, gan gynnwys ecwitïau a’r portffolio syniadau gorau, a gyflawnodd 11.5% o gymharu â tharged o 5.3%.

Bu Hydref 2018 yn fis gwael i’r Gronfa ac mae’r canlyniadau perfformiad bron i gyd yn goch.Gostyngodd cyfanswm ei gwerth ar y farchnad o £1,886 miliwn i £1,839 miliwn, ychydig llai na 2.5%. Serch hynny, fe wnaeth y Gronfa elwa rhywfaint ar amrywiaeth y portffolio yn y cyfnod hwn.

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Nodi a thrafod y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr yng Nghrynodeb y Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli 30 Medi 2018

 

(b)        Bu’r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad ar yr Economi a’r Farchnad, i ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn.

 

 

 

40.

Diweddariad Cyllid a Llwybr Cyrraedd Targed pdf icon PDF 123 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o’r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Mr Middleman fod y Gronfa wedi dad-ddirwyn trosglwyddiad gwerth cymharol ag Insight ac wedi elwa £26.7 miliwn wedi cwblhau’r trosglwyddiad hwnnw (heb gynnwys y costau).Roedd hynny’n gyfwerth ag oddeutu 75% o’r holl elw’r oedd y Gronfa’n ei ddisgwyl ar y dechrau dros gyfnod o tua hanner can mlynedd.Fodd bynnag, fel y soniwyd yn y cyfarfod blaenorol, penderfynwyd troi hyn yn elw yn awr er mwyn cael gwared â’r perygl o golledion yn y dyfodol.Soniodd Mr Middleman hefyd fod treuliau’r trosglwyddiad wedi dod i £269,000, a oedd yn llawer iawn gwell na’r swm a ragwelwyd rhwng £0.8-2.2 miliwn.  Roedd hwn yn ganlyniad da iawn a oedd yn dangos sut y gallai llywodraethu da ddod ag enillion mawr i’r Gronfa.

Dywedodd Mr Middleman fod Mercer wedi cyfrifo y gellid rhyddhau gwerth £100 miliwn o sicrwydd cyfochrog o’r strategaeth rheoli risg heb fod hynny’n cael effaith ar y sefyllfa gyffredinol o ran mantoli (mae Mercer hefyd wedi cadarnhau hynny).Bu nifer o drafodaethau yngl?n â sut ddylai’r Gronfa ddefnyddio’r arian.Penderfynwyd cadw £50 miliwn mewn rhaeadr sicrwydd cyfochrog i’w ddatblygu ymhellach gydag Insight, a defnyddio £50 miliwn mewn rhyw ran arall o’r portffolio. Roedd hyn wedi bod yn gweithio’n dda, a chafwyd canlyniadau gwerth chweil a fyddai’n gosod y Gronfa ar seiliau cadarn i’r dyfodol.

Oherwydd y dulliau diogelu a mantoli’r oedd y Gronfa’n eu defnyddio, roedd y sefyllfa’n well nag y gallai wedi bod gan ystyried ansefydlogrwydd y marchnadoedd.

            Holodd Mr Hibbert faint yn ddrutach oedd y dulliau diogelu na’r hyn oedd gan y Gronfa o’r blaen.Dywedodd Mr Middleman fod dau beth wedi effeithio ar gostau’r dulliau diogelu – lefel y diogelu dan sylw, a’r ganfyddiad ynghylch ansefydlogrwydd y marchnadoedd.Wrth roi’r dulliau diogelu ar waith cymharwyd y costau â’r manteision, a daethpwyd i’r casgliad eu bod yn rhesymol gan ystyried yr enillion a ddisgwylid (wedi’u haddasu yn ôl risg).  Serch hynny, roedd hi’n deg dweud fod ariannu’r dulliau diogelu’n ddrutach yn awr oherwydd ansefydlogrwydd y farchnad, ond ar y llaw arall roedd gwerth y dulliau diogelu wedi cynyddu hefyd (gan ystyried ansefydlogrwydd y marchnadoedd a lefelau’r marchnadoedd hynny).

Mewn gwirionedd byddai unrhyw ddull diogelu’n dod â chostau (gan mai hanfod y peth yw ildio rhywbeth er mwyn diogelu rhag canlyniad gwael) ond y peth pwysicaf oedd “yswirio” rhag canlyniad gwael o ran cyfraniadau cyflogwyr.Dywedodd fod popeth yn gweithio’n dda, ond na fu angen manteisio ar unrhyw ddulliau diogelu eto.   Fodd bynnag, gan ystyried ansefydlogrwydd y marchnadoedd, roedd y dulliau diogelu’n fwy gwerthfawr nag erioed o’r blaen.

PENDERFYNWYD:

 

a)         Nododd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r sefyllfa o ran mantoli, a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

 

(b)        Nododd y Pwyllgor y cwblhawyd y gwaith o ailstrwythuro’r strategaeth buddsoddi ar sail rhwymedigaethau ac y cyflawnwyd enillion cadarnhaol ar brisiau’r asedau ar y farchnad.

 

(c)        Nododd y Pwyllgor fod y Swyddogion yn gweithio â’u hymgynghorwyr er mwyn cadarnhau proses rhaeadru sicrwydd cyfochrog gydag Insight fel y  ...  view the full Cofnodion text for item 40.