Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702321  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

I derbyn unrhyw ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Nigel Williams, Colin Everett (Prif Weithredwr) a Helen Burnham (Rheolwr Gweinyddol Pensiynau)

 

 

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I derbyn unrhyw ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro newydd

3.

Penodi is-gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd a nodi bod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd o ganlyniad yn cael eu penodi fel Aelod a Dirprwy o Bwyllgor Cydlywodraethu ar gyfer Partneriaeth Pensiynau Cymru

Cofnodion:

            Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor ei fod wedi cael ei benodi yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn yng nghyfarfod diweddar Cyngor Sir y Fflint, ac yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, golygai hyn hefyd ei fod yn aelod penodedig priodol o Bwyllgor Cydlywodraethu Partneriaeth Pensiynau Cymru (PPC).  Amlygodd y Cadeirydd bod swydd Is-Gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiynau yn fater i’r Pwyllgor benderfynu yn ei gylch a byddai'r person hwn hefyd yn Ddirprwy ar gyfer Partneriaeth Pensiynau Cymru (PPC).Enwebwyd y Cynghorydd Bateman ar gyfer rôl yr Is-Gadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytunodd y Pwyllgor â’r penodiad hwn.

 

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 111 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Mawrth 2018

 

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2018.Diolchodd y Cadeirydd i Miss Fellowes am safon uchel parhaus y cofnodion.

PENDERFYNWYD:

Cytunwyd y gallai’r Cadeirydd dderbyn, cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion.

 

 

5.

Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18. pdf icon PDF 93 KB

Darparu Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18 i Aelodau’r Pwyllgor i’w hystyried a newidiadau i’r broses cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Ferguson, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yr eitem hon trwy esbonio bod ei rôl yn cynnwys cyfrifoldeb cyfreithiol dros weinyddu cyllid a chyflwyno cyfrifon ar amser.  Esboniodd bod newid wedi bod yn y ddeddfwriaeth a oedd wedi arwain at wahanu cyfrifon y Gronfa Bensiynau oddi wrth prif gyfrifon y Cyngor.  O ganlyniad, roedd Pwyllgor y Gronfa Bensiynau bellach yn gyfrifol am gytuno’n ffurfiol ar eu cyfrifon eu hunain, lle byddai hyn wedi bod yn gyfrifoldeb i'r Cyngor yn y gorffennol gan eu bod yn rhan o gyfrifon y Cyngor.

           

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon i Mr Worth, ymgynghorydd annibynnol a benodwyd i baratoi cyfrifon y Gronfa ar gyfer y flwyddyn bresennol nes bo swydd wag barhaol yn cael ei llenwi yn y Tîm Cyllid. Rhoddodd Mr Worth gyflwyniad cryno am ei brofiad a’i rôl bresennol yng Nghronfa Bensiynau Clwyd ac eglurodd y byddai’r cyfrifon blynyddol drafft yn cael eu cyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) erbyn 15 Mehefin 2018.  Bydd SAC yn dechrau'r archwiliad ym mis Mehefin / Gorffennaf 2018.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig ymchwilio i arddull, fformat ac ansawdd y cyfrifon.

 

Amlinellodd Mr Worth y dylid paratoi’r cyfrifon yn ôl Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) (“Y Cod”) lle caiff cod newydd ei ddosbarthu bob blwyddyn i adlewyrchu’r newidiadau i’r Safonau Cyfrifeg. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r cyfrifon gael eu gwahanu oddi wrth gyfrifon y Cyngor. Mae Cymru bellach yn dilyn y model a fabwysiadwyd gan yr Alban dair blynedd yn ôl h.y. Nid yw cyfrifon CPLlL bellach yn cael eu cynnwys yn natganiad cyfrifon ar wahân yr awdurdod gweinyddu ond maent yn parhau i gael eu hadrodd yn yr Adroddiad Blynyddol erbyn 1 Rhagfyr 2018 fan bellaf. Caiff y cyfrifon wedi’u harchwilio eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Gronfa a’u cyflwyno i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor ar 5 Medi 2018.

 

Cyflwynodd Mr Worth y cyfrifon a phwysleisiodd elfennau penodol wrth y Pwyllgor er gwybodaeth gefndirol. Y pwyntiau allweddol oedd:

 

  • O sleid 4, y cyfraniadau arferol yw’r cyfraniadau a wna’r cyflogwr i weithwyr yn ystod y flwyddyn

 

  • Mae cyfraniadau diffygion yn cael gwared ar y diffyg mewn cyllid sydd wedi’i ariannu yn is na 100%. Yng nghyfrifon 2016/17, roedd y cyfraniadau diffygion oddeutu £28 miliwn tra bod y ffigwr hwn oddeutu £52 miliwn yn 2017/18. Mae hyn yn adlewyrchu bod tri cyflogwr wedi talu eu cyfraniadau diffygion o flaen llaw. Mae hyn yn fanteisiol oherwydd ei fod yn ffigwr gostyngol (ar gyfradd gostyngiad yr actiwari) gan fod y cyflogwr wedi talu gwerth tair blynedd o gyfraniadau yn y flwyddyn gyntaf.

 

  • Cyfraniadau ychwanegol yw’r cyfraniadau megis ar gyfer ymddeoliadau cynnar heb fod ar sail salwch h.y. buddion heb ostyngiadau cyn oedran ymddeol arferol.

 

  • Ffigwr allweddol yw’r newid yng ngwerth buddsoddiadau ar y farchnad gan fod hyn yn sail i’r symud yng ngwerth y farchnad sy'n cysoni'r asedau ar y dechrau a'r diwedd.

 

6.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 99 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor mai’r Cynghorydd Mark Norris (RCT) yw Cadeirydd newydd y Pwyllgor Cydlywodraethu am y flwyddyn galendr ac mai’r Cynghorydd Peter Lewis (Powys) yw’r Is-Gadeirydd.

Dywedodd y Cadeirydd  bod prosbectws Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) ar gyfer y Cynllun Contractiol Awdurdodedig wedi’i gwblhau a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i’w gymeradwyo.Roedd yn broses anodd a oedd yn gofyn am lawer iawn o fewnbwn cyfreithiol ac ymgynghorol. Mae’r Llywodraeth wedi gofyn am ddiweddariad o’r cynnydd a wneir gan PPC a disgwylir i 80% o asedau ledled Cymru gael eu trosglwyddo ym mhen 12 mis.

Tynnodd Mr Latham sylw at y cyflwyniad gan First State Investments ar Lag?n Llanwol Bae Abertawe i’r Gweithgor Swyddogion (GS), lle’r oedd aelodau o’r Pwyllgor Cydlywodraethu yn bresennol hefyd.  Rhannwyd y cyflwyniad â’r Pwyllgor ynghyd â’r datganiad i’r wasg. Esboniodd nad oedd y GS yn gwneud penderfyniadau felly sesiwn wybodaeth oedd hon wedi bod ac ni ddaethpwyd i unrhyw gytundeb ffurfiol yngl?n â gwneud unrhyw fuddsoddiad. Fodd bynnag, daeth y rheiny a oedd yn bresennol i gydgytundeb y byddai PPC yn cefnogi'r prosiect. Yn dilyn y cyfarfod rhyddhawyd Datganiad i’r Wasg yn tynnu sylw at gefnogaeth PPC i’r prosiect.  

Nododd y Cynghorydd Llewelyn Jones na ddylai’r Gronfa gael ei gorfodi i fuddsoddi mewn rhywbeth na fyddai o fudd i aelodau felly mae angen sicrhau diwydrwydd dyladwy priodol.

Nododd Mr Hibbert hefyd y dyfarniad Llys diweddar a oedd o blaid y Llywodraeth ynghylch rhoi cyfarwyddyd i Gronfeydd yngl?n â ble i fuddsoddi. Y gobaith oedd na fyddai’r Llywodraeth yn gorfodi unrhyw gynlluniau i fuddsoddi mewn prosiectau os nad oeddent o fudd i’r aelodau.

Amlygodd y Cynghorydd Annibynnol, Mrs McWilliam, sydd hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Cronfa Bensiynau Clwyd, y byddai’r Bwrdd fel mater o drefn yn ystyried a oedd prosesau priodol yn cael eu dilyn mewn perthynas â gwneud penderfyniadau gan PPC.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac yn trafod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

7.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 156 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor am faterion yn ymwneud â llywodraethu a chytuno ar newidiadau i'r Gronfa Cynllun Busnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweinwyd yr eitem hon gan Mr Latham a adroddodd bod popeth yn ei le ar gyfer GDPR.

O ran y Cynllun Busnes, roedd dau newid i’w nodi:

  • gohirio’r diweddariad yn y polisi Gwrthdaro Buddiannau
  • o ran staffio, byddai tair swydd yn cael eu creu (Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau, Swyddog Buddsoddiad a Swyddog Llywodraethu a Chefnogi Busnes) a byddai hen swydd y Rheolwr Cyllid Pensiynau yn cael ei dileu.

 

Mae gofyn i’r unigolion hyd fod yn brofiadol ac yn gwbl gymwys fodd bynnag; golygu hynny gost uwch. Gan hynny, gofynnir am gynyddu’r gyllideb staffio.

Gofynnodd Mr Hibbert a oedd gofyn i’r cyflogau fod ynghlwm wrth werthusiad graddfeydd cyflog / swyddi Cyngor Sir y fflint ynteu a fyddai modd darparu lefelau cyflog amgen.  Esboniodd Mr Latham bod hyn wedi’i drafod yng nghynhadledd y Gymdeithas Pensiynau ac Arbedion Gydol Oes (PLSA) yn ddiweddar gan fod pob Cronfa yn cael anhawster wrth recriwtio. Cadarnhawyd bod yn rhaid i’r broses recriwtio bresennol ddilyn proses gwerthuso swyddi Cyngor Sir y Fflint yn ogystal â graddfeydd cyflog y Cyngor, ond byddai modd gofyn am atchwanegiadau y farchnad.    Oherwydd bod AD a Llywodraethu yn rhan o’i bortffolio, dywedodd y Cynghorydd Mullin ei fod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle’r oedd y polisïau cyflogau presennol yn cyfyngu ar recriwtio a lle gellid defnyddio hyblygrwydd ar gyfer staff arbenigol.Dywedodd Mr Latham y bydd yn trafod y mater gyda’r Prif Weithredwr.

O ran cyflogau, nododd Mr Owen bod cyflogeion sy’n gweithio i’r Gronfa yn gyflogeion i Gyngor Sir y Fflint, felly byddai unrhyw newidiadau i gyflogau yn cael effaith ar gyflogeion Cyngor Sir y Fflint yn gyffredinol o dan y polisi.Byddai unrhyw newidiadau i gyflogau yn gyfrifoldeb i’r Cyngor yn hytrach na’r Pwyllgor a byddent yn cael eu pennu gan y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag eraill.  .

Amlinellodd Mrs McWilliam bod y gwaith o osod cyllideb y Gronfa yn cael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor sy’n golygu mai’r Pwyllgor ddylai benderfynu ar y costau sy'n gysylltiedig â staffio ond byddai’n rhaid i hyn gael ei gytuno yn unol â pholisïau'r Cyngor.Ychwanegodd Mr Ferguson, pe bai’r Gronfa yn mynd allan i’r farchnad i recriwtio, byddai angen dilyn polisi Cyngor Sir y Fflint.

Dywedodd y Cynghorydd Rutherford bod y Gronfa yn ymroddedig i statws sengl; gan hynny yr unig ffordd y gallent fynd y tu hwnt i raddfeydd cyflogau a bennir gan y gwerthusiad swyddi yw trwy atchwanegiadau ar gyfradd y farchnad.

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y byddai’r penderfyniad yn cael ei ddirprwyo i’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol. Byddai’r argymhelliad yn cael ei newid yn y cofnodion.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu cyfarfod Cadeirydd Pwyllgor Pensiwn Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun a chyfarfod Cadeirydd y Bwrdd ar 27 Mawrth a nododd bod y Gronfa mewn sefyllfa dda o ran Llywodraethu ac Arolygu yn gyffredinol.

Nododd Mr Hibbert yn y cyfarfod PLSA bod sesiwn ardderchog ar fuddsoddiad goddefol gan un o reolwyr gweithredol y Gronfa a oedd yn sôn am ganlyniadau anfwriadol buddsoddi goddefol. Roedd yn sôn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pdf icon PDF 89 KB

Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda materion cyfredol sy’n effeithio rheolaeth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.                       

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon ar y rhaglen i Mr Middleman i amlygu unrhyw beth penodol o ran materion presennol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn y chwarter hwn.

 

Nododd Mr Middleman bod y Gronfa yn trafod goblygiadau’r Credydau Ymadael a gyflwynwyd yn ddiweddar ac a drafodir yn yr eitem diweddariad Buddsoddi ac Ariannu ar y rhaglen. Nodwyd hefyd bod disgwyl adroddiad cymharu prisiad 2016 Adran 13 gan Adran Actiwari’r Llywodraeth erbyn diwedd mis Gorffennaf.Caiff y canlyniad ei adrodd ym Mhwyllgor mis Medi ond disgwylir y byddai’r Gronfa mewn cyflwr iach.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd aelodau’r Pwyllgor yr adroddiad hwn a gwneud eu hunain yn ymwybodol o’r gwahanol

faterion sy’n effeithio ar y CPLlL ar hyn o bryd - roedd rhai o'r rheiny yn arwyddocaol i weithrediad y Gronfa.

 

 

9.

Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn pdf icon PDF 126 KB

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd a chytuno ar newidiadau i Gynllun Busnes y Gronfa sy’n ymwneud ag adolygu’r gweithlu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb Mrs Burnham, cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Mrs Beales a Mrs Robinson yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar yr eitem hon ar y rhaglen.Nododd Mrs Beales bod gwelliant cadarnhaol wedi bod mewn Dangosyddion Perfformiad Allweddol a lefelau uwch o Hunan-wasanaeth ymysg Aelodau ond mae rhywfaint o faterion sylfaenol yn dal i effeithio ar amseroedd gweithredu gwasanaethau.

Rhoddodd Mrs Beales ddiweddariad o’r cynllun busnes. Mae llwyth gwaith y tîm gweinyddol wedi cynyddu o ganlyniad i’r newidiadau diweddar yn y rheoliadau diwygio, megis galluogi aelodau gohiriedig i gael mynediad at eu buddion o 55 oed ymlaen.  Mae hyn wedi arwain at aelodau yn gofyn am amcangyfrif o werth eu buddion yn gynharach na’r arfer.

Oherwydd y newidiadau hyn a heriau parhaus sy’n gysylltiedig â lefelau cyffredinol y llwyth gwaith, dywedodd Mrs Robinson bod y tîm gweinyddol yn llunio achos busnes llawn i adolygu strwythur y tîm, gan gynnwys niferoedd staff. Bydd yr achos busnes yn amlygu'r cynnydd mewn gwaith gan gynnwys y ffaith bod llawer mwy o gymhlethdodau’n gysylltiedig â’r cynllun enillion ailbrisedig cyfartaledd gyrfa (CARE). Mae’r tîm yn cydnabod yr heriau sy’n bodoli ac a fydd yn parhau o ganlyniad i’r anawsterau wrth recriwtio a hyfforddi aelodau newydd o staff.Yn unol â hynny mae disgwyl y bydd angen parhau i ddefnyddio help allanol ar brosiectau unigol, yn debyg iawn i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Mercer ar hyn o bryd, am beth amser.

Ychwanegodd Mrs Robinson yr enghreifftiau allweddol canlynol o brosiectau neu newidiadau ychwanegol.  Mae rhai ohonynt yn cyflwyno arbedion effeithlonrwydd;

  • Mae’r Gronfa’n gweithio tuag at derfynau amser Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o ran cysoni GMP.
  • Mae’r holl ddeunyddiau darllen wedi cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â GDPR.
  • Adolygodd y tîm gweinyddol bob achos ers 2008 er mwyn nodi a oes gan bob aelod bartner sydd â hawl i dderbyn pensiwn yr aelod (ond sydd heb ei enwebu eto).Os felly, mae gofyn i’r Gronfa gysylltu â’r unigolion hyn a’u hysbysu o’r posibilrwydd bod pensiwn ar gael iddynt.
  • Mae datganiadau buddion electronig wedi bod yn llwyddiannus.Mae’r datganiadau buddion blynyddol ar amser a disgwylir iddynt gael eu dosbarthu ar ddiwedd mis Awst.
  • Bydd ymarfer cymudo dibwys yn arwain at lai o waith ac yn creu arbedion gan fod y Gronfa yn talu cyfandaliad bach. Bydd y prosiect hwn yn dechrau ar gyfer achosion o’r gorffennol unwaith y penderfynir sut y caiff ei ariannu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Robinson a Mrs Beales am eu gwaith a’u diweddariad ar yr eitem hon ar y rhaglen a dywedodd ei bod yn amlwg bod angen mwy o adnoddau.

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau;

 

(b)        Bod yr Adolygiad Gweithlu a fwriadwyd ar gyfer chwarter 4 a 2019/20 yn cael ei ddwyn ymlaen gan ddechrau yn chwarter 2 2018/19 a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo bod y Cadeirydd, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol dan ddirprwyaeth yn cymeradwyo mwy o adnoddau staffio ar ôl derbyn achos  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Diweddariad Buddsoddi a Chyllid pdf icon PDF 95 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon ar y rhaglen i Mrs Fielder a roddodd ddiweddariad i’r Pwyllgor am fuddsoddiad dros y chwarter diwethaf.

 

Esboniodd Mr Middleman y Credydau Ymadael newydd.Mae hwn yn newid sylfaenol i gyflogwyr sy’n gadael y Gronfa a’u gwarantwyr.  Mae’r newid yn y Rheoliadau Diwygio CPLlL yn golygu bod yn rhaid i’r Gronfa dalu unrhyw arian dros ben sydd gan gyflogwyr os ydynt yn penderfynu gadael y Gronfa.Yn y gorffennol nid oedd gofyn i’r Gronfa dalu unrhyw arian dros ben.

 

Mae’n hanfodol bod cyflogwyr yn ymwybodol o hyn a bod yr holl bolisïau yn cyfateb i’r newid diweddar – yn enwedig mewn perthynas â darpariaeth gan gyflenwyr allanol neu Gwmnïau Masnachu Awdurdod Lleol mewn perchnogaeth lwyr sydd wedi ymddangos yn ddiweddar lle gallai contractau masnachol gael eu heffeithio hefyd.Bydd angen ymgynghori ar newidiadau i Ddatganiad y Strategaeth Ariannu.Mae’r Gronfa yn ysgrifennu at bob cyflogwr ar hyn o bryd yngl?n â’r newid ac i roi gwybod am yr ymgynghoriad sydd ar ddod. Bydd y pwyslais ychydig yn wahanol mewn gohebiaeth i rai cyflogwyr e.e.Cynghorau sy’n gwarantu rhwymedigaethau cyflogwyr eraill yn y Gronfa.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Ystyriodd y Pwyllgor y camau arfaethedig oherwydd y newidiadau i’r Rheoliad ar gyfer credydau ymadael a’u nodi; a

 

(b)       Ystyriodd y Pwyllgor y diweddariad ynghylch cyfrifoldebau dirprwyedig a’u nodi yn ogystal â darparu sylwadau. 

 

 

11.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad pdf icon PDF 87 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon ar y rhaglen i Mr Harkin a roddodd ddiweddariad cryno i’r Pwyllgor gyda’r pwyntiau canlynol;

 

·         Mae llawer iawn o ddigwyddiadau hanfodol wedi cymryd lle blaenllaw yn y penawdau yn ddiweddar, er enghraifft y cynnydd yng nghyfradd llog sylfaenol yr Unol Daleithiau.

·         Mae’r marchnadoedd yn parhau i fod ‘mewn risg’. 

·         Mae Bondiau enwol Llywodraeth Y DU a oedd wedi perfformio’n dda yn ystod chwarter 1 bellach yn dechrau syrthio o ran enillion.

·         Roedd gwerth y sterling wedi codi yn erbyn Doler Yr Unol Daleithiau a’r Ewro dros y chwarter.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y Pwyllgor wedi nodi a thrafod Diweddariad Economaidd a’r Farchnad 31 Mawrth 2018; a

 

(b)       Nododd y Pwyllgor sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” yn effeithiol ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.

 

12.

Y Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb gan y Rheolwr pdf icon PDF 87 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar berfformiad strategaeth buddsoddi’r gronfa a Rheolwyr Cronfa

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arweiniodd Mr Buckland yr eitem hon ar y rhaglen gan amlygu bod cyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad dros y tri mis diwethaf oddeutu £1,777 miliwn ar ddiwedd mis Mawrth, tua £1,820 miliwn ar ddiwedd mis Ebrill ac oddeutu £1,850 miliwn ar ddiwedd mis Mai.Mae JLT  yn dal i aros am gadarnhad o’r ffigwr hwn fodd bynnag mae cynnydd o ryw 5% wedi bod ers diwedd mis Mawrth.

 

Cyfeiriodd Mr Buckland y Pwyllgor at dudalen 209 a oedd yn rhoi amlinelliad o'r crynodeb perfformiad ar ddiwedd mis Mawrth.Roedd perfformiad y Gronfa dros y tri mis yn siomedig oherwydd enillion ecwiti negyddol yn bennaf.Fodd bynnag, yn gyffredinol mae cyfanswm enillion y Gronfa yn uwch na’r meincnod er gwaethaf hyn.

 

Tynnodd Mr Buckland sylw at y ffaith nad oedd y Portffolio Syniadau Gorau wedi perfformio’n dda dros y tri mis tan 31 Mawrth 2018.  Gwelwyd gostyngiad o 4.1% a adawodd cyfanswm gwerth y farchnad oddeutu £188 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2018.  Fodd bynnag, erbyn diwedd mis Mai 2018 roedd perfformiad wedi gwella gan adael cyfanswm gwerth y farchnad o £198 miliwn.

 

Perfformiodd asedau mewnol cyffredinol yn dda ar y cyfan dros y deuddeng mis diwethaf a'r tair blynedd, gan ragori ar y meincnod dros y ddau gyfnod.

 

Dywedodd Mr Latham bod perfformiad y CPLlL gyfan wedi cael ei ddadansoddi mewn cyfarfod yr oedd wedi’i fynychu yn y gorffennol a daeth y Gronfa yn bedwerydd am yr enillion ecwiti gorau ar draws pob CPLlL. Mae Ecwiti yn ddosbarth ased y mae’r Gronfa fel arfer yn cael anhawster ag ef o’i gymharu a’i gyfoedion felly roedd hwn yn ganlyniad boddhaol.Nododd Mr Buckland bod dod i gysylltiad â marchnadoedd newydd wedi helpu perfformiad y Gronfa gydag ecwitïau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bu i’r Pwyllgor nodi a thrafod y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr yng Nghrynodeb y Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli 31 Mawrth 2018; a

 

(b)        Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth yn yr adroddiad diweddariad Economaidd a Marchnad i ddarparu cyd-destun yn ogystal â’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn.

 

13.

Diweddariad Cyllid a Llwybr Cyrraedd Targed pdf icon PDF 115 KB

Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o’r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon ar y rhaglen i Mr Middleman.Dywedodd bod amcangyfrif o’r lefel ariannu ar ddiwedd mis Mai yn 92% a oedd 12% yn uwch na'r targed.Atgoffodd Mr Middleman y Pwyllgor o’r pwyntiau allweddol canlynol;

 

  • Mae’r Llwybr Hedfan yn cynnwys rheoli risg a chael gwell canlyniadau i Gronfeydd o ran cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr. Mae hyn yn hanfodol gan mai dyna pam yr ydym yn gwneud yr holl waith ar hyn o bryd i ddiweddaru diogelwch ecwiti.
  • Mae’r Gr?p Rheoli Risg a Chyllid wedi edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer diogelu ecwiti ac wedi dod i'r casgliad y byddai strategaeth fwy deinamig yn rhoi gwell enillion risg wedi’u haddasu a diogelwch i'r safle ariannu yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd.  
  • Ar ôl trafod y dull hwn gydag amryw o bartïon penderfynwyd cyflwyno'r strwythur ar sail dreigl ddyddiol trwy ddefnyddio banc buddsoddi cyd-barti (JP Morgan). Cynghorodd Mercer mai dyma’r dewis gorau yn gyffredinol (o ran gwerth am arian, hyblygrwydd a galluogrwydd) ar ôl trafod gyda nifer o bartïon.
  • Bydd hyn yn dal i ddigwydd trwy'r cyfrwng buddsoddi Insight a, gan hynny, fel rhan o strwythur y Llwybr Hedfan a chafodd ei weithredu ar 24 Mai.
  • Byddai manylion pellach a hyfforddiant ar y strategaeth newydd yn cael eu darparu i’r pwyllgor yn ystod y cyfarfodydd nesaf fel rhan o'r cynllun hyfforddi.

 

O ran y strategaeth Llwybr Hedfan, gofynnodd y Cynghorydd Llewelyn Jones am eglurhad yngl?n â chyfuno’r strategaeth.

 

Cytunodd Mr Middleman â’r Cynghorydd Llewelyn Jones ynghylch cymhlethdod y llwybr hedfan a’i fod yn bwysig bod PPC yn gallu darparu ar gyfer y strategaeth cyn iddi gael ei chyfuno fel rhan o’r gronfa.  Nid yw hyn yn debygol o ddigwydd yn fuan a byddai angen diwydrwydd dyladwy ar gyfer y dull hwn cyn y gellid cytuno i'w drosglwyddo i mewn i'r gronfa. Roedd gweithredwr y gronfa wedi cydnabod hyn gan fod deialog barhaus wedi bod ers y cychwyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Nododd y Pwyllgor y diweddariad am y sefyllfa mantoli a chyllido ar gyfer y Gronfa a’r     cynnydd  sy’n cael ei wneud ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg; a

 

(b)        Nododd y Pwyllgor y strategaeth diogelu ecwiti newydd a deinamig sydd bellach mewn lle ac sy’n rhoi’r Gronfa mewn safle strategol da wrth i’r Prisiad Actiwaraidd nesaf nesáu.

 

14.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

15.

Mater tâl am ofal cyflogwyr

Rhoi manylion i Aelodau’r Pwyllgor am dordyletswydd posib yn ymwneud ag un Gweithiwr penodol..

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr CBC adroddiad am fater sy’n effeithio ar daliadau i aelodau’r Gronfa.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys asesiad o'r effaith debygol ar adnoddau'r gwasanaeth tra bo'r mater yn cael ei ddatrys.