Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad) I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai oedd yn bresennol i ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau cysylltiedig â’r gronfa, ar wahân i’r rhai hynny a gofnodwyd eisoes yng nghofrestr y Gronfa. Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad newydd. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Chwefror 2024.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023 yn gywir. PENDERFYNWYD:
Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod 28 Chwefror a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Rhoi’r dyraniad asedau strategol arfaethedig i aelodau’r Pwyllgor a rhoi’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi wedi’i ddiweddaru i’r Pwyllgor ei gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth Mr Turner o Mercer â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad. Eglurodd resymeg a chwmpas yr adolygiad Cam 1, sy’n canolbwyntio ar ffurfioli cynllun i gyrraedd y dyraniad targed i gronfa ecwitïau gweithredol cynaliadwy PPC. Roedd yna hefyd amcan i sicrhau bod cynllun clir a chadarn yn ei le i ddiwallu anghenion hylifedd y gronfa ar gyfer taliadau pensiwn rheolaidd ac i fodloni ymrwymiadau marchnadoedd preifat dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaed hyn gan ystyried sut y gallai newidiadau posibl mewn strategaeth helpu’r Gronfa i wireddu ei hamcanion buddsoddi cyfrifol. Eglurodd Mr Turner rai o’r newidiadau posibl mewn strategaeth a oedd yn cael eu hystyried ac amlinellodd y newidiadau arfaethedig i’r dyraniad asedau strategol a’r Datganiad Buddsoddi Strategol (ISS) o ganlyniad i’r adolygiad. PENDERFYNWYD Bod y Pwyllgor yn cytuno ar y dyraniad asedau arfaethedig ar gyfer y gronfa ac yn cymeradwyo’r ISS diweddaredig.
|
|
Adolygu'r Strategaeth Fuddsoddi Cam 2 - Fframwaith Sbardun Lefel Cyllido 110% PDF 165 KB Cyflwyno’r weithred ddiofyn arfaethedig i leihau risg i Aelodau’r Pwyllgor pan gyrhaeddir y sbardun cyllido 110% a chynllun dirprwyo a ddiweddarwyd i’r Pwyllgor i’w adolygu a’i gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Eglurodd Mr Middleman o Mercer bod sbardun lefel buddsoddi’r Gronfa o 110% wedi’i gyrraedd ers cyhoeddi’r papurau ar gyfer y Pwyllgor hwn, ac yr amcangyfrifir mai’r lefel gyllido bresennol yw 112%. Roedd y lefel cyllido’n cael ei ddilysu yn unol â’r protocol cyfredol cyn cymryd unrhyw gamau, ond disgwylir iddo fod dros 110% yn hawdd.
Aeth Mr Nick Page â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad. Eglurodd bod yr adolygiad yn edrych ar pa welliannau strategol y gellid eu gwneud pe bai’r sbardun lefel cyllido o 110% yn cael ei gyrraedd, a sut y byddai’r fframwaith llywodraethu cysylltiedig â gweithredu’r sbardun yn cael ei ddiweddaru. Yr ymagwedd a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhan hon o’r adolygiad oedd i daro cydbwysedd rhwng defnyddio cyllid dros ben i leihau cyfraniadau’r cyflogwr yn y prisiad actiwaraidd nesaf ar yr un pryd a gostwng rhywfaint o’r risg buddsoddi o’r strategaeth er mwyn sefydlogi sefyllfa gyllido’r dyfodol ymhellach ac yn sgil hynny, gyfraniadau’r cyflogwr. Roedd yr adolygiad yn edrych hefyd ar weithrediad y newidiadau arfaethedig ac yn cynnig diweddariad i’r cynllun dirprwyo er mwyn lleihau’r oedi rhwng taro’r sbardun a gweithredu. Y cynnig oedd bod y pwyllgor yn diffinio camau gweithredu diofyn er mwyn dadrisgio pan gaiff y sbardun ei daro, a fydd yn cael ei ddilyn oni bai bod Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd, ar ôl cael cyngor ffurfiol fel rhan o’r Gr?p Cyllido a Rheoli Risg, yn penderfynu peidio mynd ymlaen a’r camau diofyn. Yn y senario hon, byddai cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Gronfa Bensiynau’n cael ei alw i ystyried y materion, a gofynnir i’r Pwyllgor benderfynu a ddylid cymeradwyo dull gweithredu arfaethedig Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd. Nododd Mrs McWilliam na ddylai’r newyddion bod y sbardun lefel cyllido wedi’i gyrraedd (yn amodol ar ddilysiad) ddylanwadu ar benderfyniad y Pwyllgor ynghylch yr argymhelliad hwn. Gofynnodd y Cynghorydd Shallcross a oedd unrhyw arwydd o ddirywiad ym mherfformiad y farchnad, a dywedodd Mr Page bod barn Mercer o farchnadoedd ecwiti yn gadarnhaol Gofynnodd y Cynghorydd Shallcross pam ddim cynnal y lefel risg bresennol hyd nes y bydd perfformiad yn newid, a pha mor gyflym y gellid newid cyfraniadau cyflogwyr gan y gallai hyn, o ystyried sefyllfa ariannol bresennol y cynghorau, fod yn amser da i fanteisio ar warged. Dywedodd Mr Page na fyddai unrhyw newidiadau i gyfraddau’r cyfraniadau’n digwydd tan ar ôl y prisiad ffurfiol nesaf (31 Mawrth 2025) gyda’r cyfraddau newydd i ddechrau o 1 Ebrill 2026, ac er bod y farn o’r ecwitïau'n ffafriol ar hyn o bryd, gallai hyn newid yn gyflym. Felly os mai’r penderfyniad fyddai cynnal y lefel bresennol o risg, mae posibilrwydd y byddai unrhyw ddirywiad cyn y prisiad actiwaraidd nesaf yn effeithio ar unrhyw ostyngiad posibl mewn cyfraddau cyfraniadau oherwydd y gwarged uwch sydd gan y gronfa ar hyn o bryd. Ychwanegodd Mr Turner bod yr opsiwn i gynnal y lefel bresennol o risg wedi’i ystyried fel rhan o’r adolygiad ond nodwyd mai bwriad y sbardun oedd ystyried dadrisgio. Cadarnhaodd na fyddai’r cynnig yn lleihau’r enillion disgwyliedig islaw anghenion y gronfa ... view the full Cofnodion text for item 44. |
|
Cronfa Bensiynau Clwyd Ddraft Polisi Rheoli Risg PDF 149 KB Cyflwyno’r Polisi Rheoli Risg newydd i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth Mrs McWilliam a’r Pwyllgor drwy’r adroddiad gan amlinellu cefndir yr adolygiad a’r cysylltiadau â Fframwaith Rheoli Risg Cyngor Sir y Fflint. Eglurodd y prif newidiadau i Bolisi Rheoli Risg y Gronfa (Polisi Risg gynt), yn cynnwys adran newydd yn amlinellu cyfrifoldebau’r Pwyllgor ac uwch swyddogion, yr adolygiad misol o’r gofrestr risg gan swyddogion, newidiadau i’r ffordd y caiff risgiau eu sgorio sy’n golygu y bydd risgiau coch yn fwy difrifol nag y maent o dan y drefn sgorio bresennol, a’r broses ffurfiol ar gyfer uwchgyfeirio risgiau coch. PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r Polisi Rheoli Risg.
|
|
Cynllun Busnes Drafft Partneriaeth Pensiynau Cymru 2024-25 i 2026-27 PDF 144 KB Cyflwyno Cynllun Busnes drafft Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i’r Pwyllgor, yn cynnwys amcanion a chyllideb PPC ar gyfer 2024/25 i’w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Eglurodd Mrs Fielder bod Cynllun Busnes PPC wedi’i dderbyn gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yr wythnos ddiwethaf ac na chafwyd cais am unrhyw newidiadau, sy’n golygu mai’r Cynllun oedd wedi’i gynnwys gyda’r papurau cefndir oedd yr un terfynol ar gyfer ei gymeradwyo. Aeth â’r Pwyllgor drwy brif bwyntiau’r adroddiad, yn arbennig y gyllideb a’r costau blynyddol. Nododd gyflwyniad clustnodwyr marchnadoedd preifat sy’n denu ffioedd uwch yn seiliedig ar symiau cyfalaf wedi’u hymrwymo neu gyfalaf wedi’i fuddsoddi, a bod y costau hyn yn awr wedi’u cynnwys yng nghyllideb PPC. Dywedodd Mr Hibbert nad oedd ganddo unrhyw gwynion am y Cynllun Busnes ond nododd ei bryderon ynghylch llywodraethiant PPC a’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu’n benodol. Cyfeiriodd at dudalen 5 sy’n datgan: “Mae'r Awdurdodau Cyfansoddol yn ymwneud llawer â holl agweddau strwythur llywodraethu'r Bartneriaeth, tra bo Cyd-bwyllgor Llywodraethu'r Bartneriaeth a'r Gweithgor Swyddogion yn cynnwys cynghorwyr etholedig, cynrychiolwyr aelodau’r cynllun a swyddogion o'r Awdurdodau Cyfansoddol.” Dywedodd Mr Hibbert bod hyn yn rhoi’r argraff bod statws cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun yr un fath ag aelodau eraill y Cyd-bwyllgor Rheoli. Eglurodd Mr Hibbert nad yw hyn yn gywir yn ei farn ef, gan fod Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun yn gorfod bodloni manyleb unigolyn, swydd ddisgrifiad, cyfweliad ac yn destun cyfyngiad amser o ddwy flynedd yn y rôl, gyda’r rôl hefyd yn un heb bleidlais, yn wahanol i aelodau eraill y Cyd-bwyllgor Gofynnodd a wnaed unrhyw gynnydd o ran gwneud cynrychiolydd aelodau’r cynllun yn aelod cyfartal o’r Cyd-bwyllgor. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ddiweddariad ar hyn a dywedodd bod yn rhaid i bob awdurdod cyfansoddol gytuno ar unrhyw newidiadau. Dywedodd bod cynrychiolydd aelodau presennol y Cyd-bwyllgor wedi newid meddwl y Cyd-bwyllgor sawl gwaith ac er nad oes ganddo bleidlais, mae’n ddylanwadol. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n trafod hyn gyda’r Cyd-bwyllgor ond nad yw’n rhagweld y bydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud. PENDERFYNWYD: Nododd y Pwyllgor y diweddariad a chymeradwywyd Cynllun Busnes drafft PPC 2024/25 - 2026-27, yn cynnwys amcanion a chyllideb y Bartneriaeth.
|
|
Cynllun Busnes Drafft Cronfa Bensiynau Clwyd 2024-25 i 2026-27 PDF 139 KB Cyflwyno Cynllun Ddraft Busnes Cronfa Bensiynau Clwyd i Aelodau’r Pwyllgor, gan gynnwys y gyllideb ar gyfer 2024/25 ar gyfer ei gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth Mr Latham â’r Pwyllgor drwy’r cyflwyniad i’r Cynllun Busnes Drafft fesul tudalen gan amlygu meysydd gwaith a risgiau allweddol. Aeth Mr Emmerson o Aon â’r Pwyllgor drwy Atodiad Llywodraethu’r Cynllun Busnes Drafft. Amlygodd y tasgau a’r risgiau allweddol, yn cynnwys: - Cynllunio olyniaeth ac adolygiad arfaethedig o’r strwythur rheoli. - Cod Ymarfer Cyffredinol newydd y Rheoleiddiwr y disgwylir iddo effeithio ar adolygiad perfformiad y dyfodol - Bydd y broses dendro am Ymgynghorydd Buddsoddi yn dechrau’n gynnar yn y flwyddyn er mwyn gallu manteisio ar wybodaeth Mrs Fielder yn y maes hwn cyn iddi ymddeol. Bydd hyn yn galluogi hyfforddi staff ar gyfer y contract ymgynghorydd annibynnol pan fydd yn mynd allan am dendr yn ddiweddarach yn y flwyddyn. - Adolygiadau o Gynrychiolwyr Aelodau Cynllun y Bwrdd Pensiynau sydd ar ddod.
Pwysleisiodd Cynghorydd Shallcross bwysigrwydd gwaith cysgodi gan swyddogion er mwyn cynnal gwybodaeth. Gofynnodd Mr Hibbert a fydd Cynrychiolwyr Aelodau Cynllun y Pwyllgor yn cael eu hadolygu ar yr un pryd â Chynrychiolwyr Aelodau Cynllun y Bwrdd Pensiwn. Dywedodd Mrs McWilliam na fyddai’n argymell hyn oherwydd y gwahaniaeth mewn cyfraddau amser. Cyflwynodd Mr Middleman a Mr Turner Atodiad Cyllid, Cyllido a Buddsoddi’r Cynllun Busnes Amlygodd Mr Middleman yr Adolygiad Prisio Interim a fydd yn digwydd yr haf hwn ac a fydd yn rhoi sylw i nifer o themâu a drafodwyd yn gynharach cysylltiedig â cham 2 o’r adolygiad strategol. Eglurodd mai’r Pwyllgor fydd yn cael Hyfforddiant ar y Strategaeth Gyllido a Phrisio Actiwaraidd yn barod ar gyfer Prisiad Actiwaraidd ffurfiol y flwyddyn nesaf. Eglurodd Mr Turner y themâu cysylltiedig â buddsoddi allweddol yn cynnwys yr adolygiad ISS ac adroddiadau’r Tasglu Datgeliadau Cysylltiedig â Natur (TNFD)
Cyflwynodd Mr Karen Williams yr Atodiad Gweinyddol, gan amlygu newidiadau i’r rhestr o weithgareddau ‘busnes fel arfer’ i adlewyrchu twf cyfrifoldebau dydd i ddydd y tîm gweinyddu. Cafodd nifer o dasgau allweddol eu dwyn ymlaen o gynllun busnes y llynedd fel y trafodwyd ym mhwyllgor mis Chwefror, ac roedd yna hefyd rai tasgau newydd yn cynnwys cofnodi gweithdrefnau cysylltiedig â pholisi disgresiynol y Gronfa o safbwynt grantiau marwolaeth, a datblygu polisi uwchgyfeirio i gefnogi cyflogwyr nad ydynt yn cyflawni eu cyfrifoldebau cysylltiedig â’r Gronfa. Cyflwynodd Mr Bateman y gyllideb ar gyfer costau gweithredu 2024 - 2025 gan egluro’r prif feysydd o newid, yn cynnwys: - Mae costau gweithwyr yn seiliedig ar y niferoedd presennol gan ganiatáu 5% ar gyfer codiadau cyflog. Roedd gwir gostau gweithwyr 2023-24 yn is na’r hyn y cyllidebwyd ar eu cyfer oherwydd swyddi gwag sydd bellach wedi’u llenwi. - Mae costau hyfforddi yn awr yn cael eu hadrodd ar wahân ar gyfer aelodau’r Pwyllgor, aelodau’r Bwrdd Pensiynau a Swyddogion. - Mae’r holl gostau ymgynghorwyr yn cynnwys prosiectau a ddynodwyd yn y cynllun busnes ac yn seiliedig ar y codiadau chwyddiant cytunedig yn y contractau. Fodd bynnag bydd y Gronfa yn tendro am gontract yr ymgynghorydd buddsoddi yn ystod 2024-2025 felly gallai’r rhain newid - Mae’r gyllideb ar gyfer treuliau rheoli buddsoddi wedi cynyddu oherwydd gwerth ased net cynyddol y Gronfa yn ... view the full Cofnodion text for item 47. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fuddsoddi a Chronni PDF 206 KB Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion buddsoddi a chronni. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw sylwadau na chwestiynau am hyn mewn ymateb i gais y Cadeirydd.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn gwneud sylwadau ar y diweddariad.
|
|
Cyllid a Pherfformiad Buddsoddi PDF 179 KB Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion cyllido a buddsoddi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw sylwadau na chwestiynau am hyn mewn ymateb i gais y Cadeirydd.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a'r camau amrywiol a gymerwyd mewn perthynas â'r fframwaith ariannu a rheoli risg.
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
|
|
Caffael Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gaffael Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru a cheisio cymeradwyaeth i benodi'r Gweithredwr. Cofnodion: Cyflwynwyd a thrafodwyd yr eitem hon ar y rhaglen.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn derbyniad yr adroddiad ac yn cytuno:
a) Y dylid gofyn am ragor o wybodaeth gan PPC er mwyn hysbysu’r penderfyniad hwn ac b) bod y Pwyllgor yn ailymgynnull mewn Cyfarfod Arbennig i’w gynnal o bell ym mis Ebrill i drafod a gwneud penderfyniad ar yr argymhelliad hwn.
|
|
Cyfarfodydd i Ddod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor nodi’r dyddiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol: - Dydd Mercher 19 Mehefin 2024 - Bydd Cyfarfod Arbennig yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ebrill (dyddiad i’w benderfynu).
Cyflwynodd y Cynghorydd Wedlake ei ymddiheuriadau ar gyfer sesiwn hyfforddi’r prynhawn oherwydd gwrthdaro â chyfarfod y Cyngor Sir. Gofynnodd bod pob ystyriaeth yn cael i rhoi i’r cyfarfodydd hyn wrth gynllunio cyfarfodydd y dyfodol.
Nododd Mr Latham bod dyddiadau arfaethedig cyfarfodydd pwyllgor y dyfodol wedi’u cynnwys ym mhecyn y cyfarfod, a gofynnodd i’r aelodau roi gwybod i’r swyddogion os oes unrhyw broblemau gyda’r dyddiadau hyn yn cynnwys unrhyw wrthdaro â dyddiadau cyfarfodydd Sir Ddinbych a Wrecsam.
|