Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad) I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar dudalen 7, nododd Mr Latham yr argymhelliad o ran hyfforddai cyfrifydd y Gronfa ar eitem 165. Eglurodd mai nod yr argymhelliad oedd penodi hyfforddai cyfrifydd y gronfa cyn i Gyfrifydd presennol y Gronfa ymddeol, gobeithiwyd bod peth amser cyn hynny. Ond, ers y cyfarfod diwethaf mae Cyfrifydd presennol y Gronfa wedi penderfynu gadael, sy’n creu problem o ran adnoddau a risg llywodraethu. Bydd angen ystyried sut i reoli’r bwlch mewn adnoddau yn ystod cyfnod pwysig dros yr haf pan fydd cyfrifon y Gronfa yn cael eu paratoi a bydd cynlluniau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o law. Gofynnodd y Cadeirydd bod llythyr yn cael ei anfon gan y Pwyllgor at y Cyfrifydd sy’n gadael, Mr Vaughan, yn diolch iddo am ei wasanaeth rhagorol i’r Gronfa.
Gofynnodd Mr Hibbert a oedd unrhyw ddatblygiad yn y broses o ddethol cynrychiolydd aelod o’r Cynllun. Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod yn disgwyl mynychu cyfweliadau yn ddiweddarach yr wythnos honno.
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021.
PENDERFYNWYD:
Derbyn, cymeradwyo ac arwyddo cofnodion y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2021 gan y Cadeirydd. |
|
Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad ac Adroddiad Monitro Perfformiad PDF 105 KB Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyhoeddodd Mr Harkin bod Mr Buckland wedi gadael Mercer i weithio ar gyfer Cronfa CPLlL arall. Cyflwynodd Mr Harkin Mr Dickson a oedd eisoes wedi bod yn gweithio i’r Gronfa ers peth amser.
Roedd tudalen 22 yn amlinellu gwybodaeth ddiweddaraf y farchnad dros Ch4 2021 a’r chwarter cadarnhaol ar gyfer rhan fwyaf o’r asedau twf, er y nodwyd bod ecwiti’r marchnadoedd sy’n datblygu yn isel.
Eglurodd Mr Harkin bod y pryderon cychwynnol o ran amrywiolyn diweddaraf COVID-19 wedi’u diddymu’n gyflym gan fod y llywodraeth a’r banciau canolog wedi ymateb yn gyflym. Roedd y camau hyn wedi cefnogi cynnydd mewn prisiau asedau yn ystod 2021. Nododd bod anwadalrwydd marchnadoedd wedi cynyddu’n sylweddol ers tro’r flwyddyn a bod perygl geo-wleidyddol wedi cyfrannu at hynny.
Ar hyn o bryd, roedd economïau ledled y byd yn gweld lefelau sylweddol o chwyddiant, yn enwedig yn yr UDA a’r DU. Roedd Cronfeydd wrth Gefn Ffederal yr UDA a Banc Lloegr wedi dechrau codi cyfraddau llog byr dymor mewn ymateb i hynny. Roedd yn credu y byddai’r cynnydd mewn cyfraddau llog yn gynt na’r hyn a ddisgwyliwyd yn flaenorol ond byddai Mercer a’r Gronfa yn cynnal sgwrs barhaus ar y mater.
Fel y nodwyd ar dudalen 43, cadarnhaodd Mr Dickson bod perfformiad y Gronfa yn 4.7% dros Ch4 2021, a oedd yn rhagori ar y meincnod o 4.2%. Roedd y ffigwr 3 blynedd yn adlewyrchu’r perfformiad cyn y pandemig, yn ystod y pandemig a hyd heddiw. Y ffigwr oedd 11.9% y flwyddyn, sydd hefyd yn uwch na’r meincnod o 10.4%. Roedd y ddau darged ar gyfer cyfraddau disgownt actiwaraidd o 3.8% a 4.3% yn nodi’r arenillion yr oedd y Gronfa eu hangen er mwyn aros yn llonydd, ac felly roedd y ffigwr 3 blynedd o 11.9% yn sylweddol uwch na’r ddau darged actiwaraidd ac roedd y perfformiad gwell wedi cyfrannu at welliant yn y lefelau cyllid.
Nododd Mr Dickson bod tudalen 47 yn nodi bod asedau Byd-eang WPP ac Ecwiti ESG yn perfformio’n dda a bod yr arenillion cadarnhaol eraill o Gyfanswm Dyraniad Tactegol. Roedd marchnadoedd preifat hefyd wedi cynhyrchu arenillion cryf o 22.4% dros y flwyddyn a dychwelodd y Fframwaith Rheoli Arian Parod a Risg 33.6% dros yr un cyfnod.
Holodd y Cadeirydd am y rhagolygon o ran cynnydd mewn cyfraddau llog yn y dyfodol yn yr UDA. Nododd Mr Harkin bod y farchnad yn disgwyl 4 i 5 cynnydd mewn cyfraddau o gronfeydd wrth gefn Ffederal yr UDA dros y flwyddyn, ac oherwydd hyn, roedd hyn eisoes wedi’i brisio gan y farchnad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi’r diweddariad. |
|
Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid PDF 138 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan gan gynnwys protocol dechrau dileu risg lefel cyllido. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, cadarnhaodd Mr Middleman bod gan y Gronfa lefel cyllid o 102% ar ddiwedd mis Rhagfyr, sy’n sefyllfa gref o hyd. Roedd y lefel cyllid ar ddiwedd mis Rhagfyr yn is nag yn flaenorol yn bennaf oherwydd ffactorau strwythurol fel profiad aelodaeth ac adferiad McCloud (wedi’u cyfuno roedd y rhain yn rhoi oddeutu 3% o ostyngiad yn y lefel cyllid).
Roedd Mr Middleman yn credu mai’r risg mwyaf ar gyfer y Gronfa oedd parhad chwyddiant eithaf uchel gan fod rhwymedigaethau’r Gronfa yn gysylltiedig yn uniongyrchol â chwyddiant, felly byddai chwyddiant sy’n uwch na’r disgwyl yn golygu cynnydd mewn costau, oni bai bod arenillion o asedau a ddisgwylir yn cynyddu i ddigolledu hynny. Cadarnhaodd y byddai hyn yn fater i’w ystyried yn barhaus mewn Pwyllgorau yn y dyfodol wrth i’r Gronfa gyrraedd y dyddiad prisio actiwaraidd ar 31 Mawrth 2022. Risg chwyddiant oedd y risg mwyaf sylweddol ar gyfer y Gronfa gyda chyllidebau cyflogwyr a chyfraniadau yn bwynt trafod allweddol.
Nodwyd addasiad i’r terfynau cyfatebol ym mharagraff 1.11 ynghyd â’r cynllun i addasu’r lefel cyfatebol a ddelir yn yr asedau arenillion uchel yn y gronfa gyfatebol cyn ei fuddsoddi yn y marchnadoedd preifat.
Atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor o’r trafodaethau yn y cyfarfodydd blaenorol yngl?n â gosod sbardun lefel cyllido o 110%. Ers y drafodaeth honno, rhoddwyd ystyriaeth i lywodraethu’r broses i newid y strategaeth pe rhagorir ar y sbardun. Eglurodd Mr Latham bod yr adroddiad yn cynnig bod y Pwyllgor yn cytuno i ffurfioli sbardun lefel cyllido o 110% ac roedd yn cynnwys proses arfaethedig, a oedd yn gosod y terfynau amser a’r cerrig milltir pe bai’r sbardun yn cael ei ddiwallu. Roedd y broses arfaethedig yn cynnwys cyfathrebu gyda’r Pwyllgor i egluro’r newidiadau arfaethedig i gael eu sylwadau. Yn y pendraw, gellir trefnu cyfarfod Pwyllgor arbennig i drafod y newidiadau pe bai unrhyw bryderon o ran lleihau risg yn cael eu codi yn adborth y Pwyllgor.
Cymeradwyodd y Pwyllgor y sbardun lefel cyllido o 110% a chytuno ar broses lleihau risg sbardun lefel cyllido.
PENDERFYNWYD:
(a) Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf o ran Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid; a
(b) Cytunodd y Pwyllgor ar y sbardun lefel cyllido o 110% a chytuno ar broses lleihau risg sbardun lefel cyllido. |
|
Datganiad Strategaeth Fuddsoddi Arfaethedig PDF 96 KB Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda Datganiad Strategaeth Fuddsoddi diwygiedig er mwyn ei nodi, gwneud sylwadau a chymeradwyo yn dilyn ymgynghoriad gyda Chyflogwyr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn y cyfarfod Pwyllgor blaenorol ym mis Tachwedd 2021, cytunodd yr aelodau y dylid diweddaru Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi (“ISS”) i adlewyrchu’r ymrwymiad i osod targedau datgarboneiddio ar gyfer y Gronfa. Eglurodd Mrs Fielder y byddai adolygiad manylach o’r ISS yn ddiweddarach eleni. Fel sy’n ofynnol ac fel y cytunwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor, cytunodd y Gronfa i drafod y mater gyda chyflogwyr ac fe gadarnhaodd Mrs Fielder na chafwyd unrhyw ymatebion negyddol o ganlyniad i’r ymgynghoriad. Roedd tudalen 100 a 102 Datganiad Arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi yn tynnu sylw at y prif feysydd sydd wedi’u diweddaru.
Mynegodd Mr Hibbert ei safbwynt, er ei fod yn cytuno gyda chynnwys yr ISS diwygiedig, nid oedd yn gallu cytuno â’r argymhelliad. Y rheswm dros hyn oedd nad oedd yn credu bod digon o wybodaeth gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru (“WPP”) i dystiolaethu dyhead y Gronfa i fod yn ‘Fuddsoddwyr Cyfrifol’, ‘Buddsoddwyr ag Effaith’ nac yn ‘Stiwardiaid’ effeithiol o holl arian y Gronfa oherwydd methiant WPP i ddarparu adroddiad ar eu gweithgareddau benthyca stoc i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n codi’r mater yng nghyfarfod nesaf is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol WPP.
O ran y Cytundeb Benthyca Stoc, derbyniodd Mr Hibbert bod 5% o stoc yn cael ei gadw ar gyfer pleidleisio ond roedd yn dymuno deall effaith benthyca stoc ar werth y stoc dros y cyfnod benthyca. Roedd hefyd eisiau deall yr amser a gymerir i stoc adennill y gwerth cyn unrhyw fenthyca. Byddai hyn yn ei gynorthwyo i benderfynu a yw’r ffioedd benthyca a delir i’r Gronfa yn darparu’r gwerth ychwanegol fel y disgwylir.
Gofynnodd Mr Hibbert i’r Pwyllgor ofyn yn ffurfiol am weithgarwch benthyca stoc hyd yma gan WPP ac felly roedd yn anghytuno â’r argymhelliad.
Yn ogystal â hynny, nododd Mr Hibbert wall gramadegol yn yr ail baragraff ar dudalen 93, ac fe gadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n cael ei newid cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.
PENDERFYNWYD:
Ystyriodd, nododd a chymeradwyodd y Pwyllgor Ddatganiad Arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi. |
|
Cyfuno Asedau a Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru PDF 115 KB Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda diweddariad ar Fuddsoddiadau Cyfuno Asedau yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyniadau gan Weithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru a Darparwr Datrysiad Rheoli Buddsoddiadau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn y Cyd-bwyllgor Llywodraethu (“JGC”) diwethaf, cytunwyd y dylid ymestyn y contract gyda Gweithredwr Link Fund Solutions hyd at fis Rhagfyr 2024. Ychwanegodd Mr Latham y gwnaed cynnydd o ran penodi cynrychiolydd aelod cyfetholedig i’r JGC a dylid rhoi hyn ar waith erbyn y JGC nesaf ym mis Mehefin 2022.
Eglurodd Mr Latham na fyddai cynllun busnes WPP yn cael ei gyhoeddi mewn pryd ar gyfer Pwyllgor mis Mawrth 2022, ond byddai ar gael erbyn Pwyllgor mis Mehefin 2022. Yn ogystal â hyn, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ganllawiau cyfuno asedau CPLlL yn yr haf 2022.
Cadarnhaodd Mrs Fielder y bydd cyflwyniadau gan ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer penodi ‘dyranwyr’ y Farchnad Breifat yng Nghaerdydd yr wythnos ganlynol. Rôl y dyranwyr fyddai dewis y gorau o ran rheolwyr marchnad breifat ar draws y dosbarthiadau asedau gwahanol. Rhagwelir y bydd tendr i benodi Dyrannwr Ecwiti Preifat yn dechrau ym mis Ebrill 2022.
Cyflwynodd Mr Gough ei hun fel uwch reolwr perthynas ar gyfer Link Fund Solutions ac fe eglurodd y cyflwyniad. Eglurodd i’r Pwyllgor bod disgwyl i Link Fund Solutions gael eu gwerthu i drydydd parti o’r enw Dye & Durham ond nid oedd yn credu y byddai hyn yn cael unrhyw effaith o ddydd i ddydd ar WPP. Nododd y byddai gan yr endid gynllun clir ac roedd yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.
Holodd Mrs McWilliam a oedd hyn yn risg ar gyfer y Gronfa. Nid oedd Mr Gough yn credu bod hyn yn risg mawr ond byddai’n diweddaru’r Pwyllgor wrth i’r mater ddatblygu. Cadarnhaodd Mr Latham bod Gweithgor Swyddogion (“OWP”) a JGC yn monitro unrhyw risg sy’n gysylltiedig â hyn.
Cyflwynodd Mr Gough strwythur buddsoddiadau WPP o dudalen 123 a’r buddsoddiadau presennol ar gyfer y Gronfa o fewn WPP ar dudalen 124. Ar y cyfan, roedd gan WPP gyfanswm asedau o dan reolaeth o oddeutu £10.5 biliwn fel y nodwyd ar dudalen 125.
Cyflwynodd Mr Quinn ei hun fel cyfarwyddwr cyswllt a Mr Pearce fel uwch reolwr portffolio yn Russell Investments.
Nododd Mr Pearce y pwyntiau allweddol canlynol ar yr eitem hon ar y rhaglen:
- Mae gan Russell Investments ddadansoddwyr ymchwil ledled y byd ac mae eu hymchwil ar reolwyr yn uno rheolwyr buddsoddi ac arbenigwyr rhanbarthol. - Roedd tudalen 128 yn amlinellu tueddiadau perfformiad y farchnad ers llunio portffolios WPP. Y llinell ddu doredig yng nghanol y graff oedd Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang WPP. Roedd y llinell oren ar y graff yn cynrychioli twf. Nododd Mr Pearce bod mathau penodol o fuddsoddi yn aml yn cynnwys perfformio’n sylweddol well ond dros amser bydd dychweliad cymedr h.y. lle bydd twf yn dod yn ôl ar gyfer mathau eraill. - Cyflwynwyd dadansoddiad o Gronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang WPP ar dudalen 129. Ychwanegodd Mr Pearce y cyflwynwyd rheolwr newydd yn Siapan ym mis Rhagfyr 2021 o’r enw Nissay i gymryd lle NWQ. Cadarnhaodd y byddent yn parhau i adael NWQ yn ofalus nes bo’r holl gysylltiad yn Siapan gyda’r rheolwr arbenigol arall. ... view the full Cofnodion text for item 40. |
|
Diweddariad ar fuddsoddi ac ariannu PDF 155 KB Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Mrs Fielder y papur ac egluro ers cyflwyno pecyn rhaglen y Pwyllgor, roedd DLUHC wedi cyhoeddi Papur Gwyn Codi’r Gwastad, a oedd yn amlinellu’r disgwyliadau arfaethedig bod gan Gronfeydd CPLlL hyd at 5% o asedau wedi’u dyrannu i brosiectau, sy’n cefnogi ardaloedd lleol. Eglurodd Mrs Fielder nad oedd hyn yn newydd, gan fod Cronfa Bensiynau Clwyd eisoes wedi cefnogi’r ardaloedd lleol ers blynyddoedd gyda dros £132 miliwn o ymrwymiadau wedi’u cytuno, sydd eisoes dros y targed o 5%. Yn anffodus, cadarnhaodd Mrs Fielder ei bod yn bosib na fyddai’r camau yr oedd y Gronfa wedi’u cymryd yn flaenorol wedi’u cynnwys yn y targed o 5% ond bod angen aros am yr ymgynghoriad er mwyn deall sut fyddai hyn yn cael ei weithredu.
Ym mharagraff 1.05, cadarnhaodd Mrs Fielder bod y gr?p pwyso wedi symud ymlaen o danwydd ffosil ac yn ystyried cwmnïau da byw yn awr.
Fel y soniwyd yn y cyfarfod diwethaf, roedd Swyddogion ac ymgynghorwyr y Gronfa wedi bod yn ymchwilio mwy o gyfleoedd yn y farchnad breifat ac roedd hyn ar y gweill gyda mwy o ymrwymiadau wedi’u hamlinellu yn y tabl ym mharagraff 1.12. Roedd hyn yn cynnwys Capital Dynamics ac roedd mwy o fanylion ar hyn yn yr eitem nesaf ar yr agenda.
O ran y cysylltiad gyda chwmnïau da byw diwydiannol ym mharagraff 1.05, eglurodd y Cynghorydd Bateman ei fod wedi derbyn gohebiaeth gan etholwr oedd wedi mynegi pryderon am hyn. Holodd a oedd Mrs Fielder yn fodlon ateb y llythyr yr oedd wedi’i dderbyn. Cadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n ateb y cais.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi’r diweddariad. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Prosiectau Ynni Glân yng Nghymru - Cyfrif a Reolir ar Wahân Darparu Aelodau’r Pwyllgor gydag adroddiad a chyflwyniad gan Capital Dynamics ar weithredu Cyfrif a Reolir Ar Wahân ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd i fuddsoddi mewn prosiectau ynni glân uniongyrchol yng Nghymru. Cofnodion: Cyflwynwyd yr eitem a’i thrafod.
PENDERFYNWYD:
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad gan Capital Dynamics ar weithredu Cyfrif a Reolir ar Wahân ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd i fuddsoddi mewn prosiectau ynni glân uniongyrchol yng Nghymru. |