Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad) I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ran y rhai a oedd yn bresennol o Mercer, datganodd Mrs McWilliam a Mr Harkin gysylltiad mewn perthynas ag eitem 12 ar y rhaglen a gadawsant y cyfarfod tra oedd eitem 12 yn cael ei thrafod.
Datganodd y Cynghorydd Wedlake gysylltiad oherwydd ei fod yn aelod o’r Gronfa Bensiynau a Chyngor Cymuned Coedpoeth. Nododd ei fod hefyd yn aelod o SERA. Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau eraill. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 31 Awst 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth Mr Hibbert sylw ar yr adran yngl?n â llythyr Michael Lynk a’r 17 o gwmnïau a oedd yn gormesu pobl Palestina. Dywedodd ei fod eisiau egluro ei fod yn awgrymu ffordd bosibl i ddadfuddsoddi o’r cwmnïau hynny heb gael ein cyhuddo o gymryd rhan mewn boicot anghyfreithlon. Nodwyd hyn gan y Cadeirydd.
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 31 Awst 2022. PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod 31 Awst 2022 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd 2021/22 PDF 107 KB Darparu Aelodau’r Pwyllgor ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd a archwiliwyd ar gyfer eu cymeradwyo, a’r adroddiad archwilio allanol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr eitem hon gan Mrs Fielder. Cadarnhaodd mai dim ond dau newid mân oedd wedi cael eu gwneud i’r cyfrifon ers ystyried y cyfrifon drafft yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Cadarnhaodd y pwyntiau allweddol canlynol: - Amlygodd ddatganiad yn y cyfrifon a gywirwyd ym mharagraff 1.08. Roedd hyn yn ymwneud â phrisiadau’r farchnad breifat ym mis Rhagfyr oherwydd cynnydd o oddeutu £1.3 miliwn a gafwyd o ganlyniad i dderbyn prisiadau nad oedd wedi’u cyflawni fis Mawrth. - O ystyried cynnwrf y farchnad ym mis Medi, ychwanegwyd nodyn digwyddiad sy’n dilyn y fantolen. - Roedd tudalen 199 yn cynnwys y llythyr sylwadau a oedd yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth a ddatgelwyd yn wir ac yn gywir. Argymhellodd y dylai’r Pwyllgor gymeradwyo hyn.
Nododd Ms Wiliam, Arweinydd Archwilio Cronfa Bensiynau Clwyd, y pwyntiau allweddol canlynol: - Roedd safonau archwilio rhyngwladol yn golygu bod angen tynnu sylw’r Pwyllgor at faterion penodol cyn cymeradwyo’r cyfrifon. Ni allai Archwilio Cymru roi sicrwydd llawn bod y cyfrifon hyn wedi’u nodi’n gywir ond roedd yn gweithio yn unol â lefel berthnasedd a allai olygu bod unrhyw gyfrifon dros y lefel honno yn gamarweiniol. Roedd y swm o ran y lefel berthnasedd eleni yn £24.917 miliwn a defnyddiwyd lefel is o £1,000 ar gyfer datganiadau parti cysylltiedig mewn perthynas â staff rheoli allweddol. - Roedd Archwilio Cymru yn annibynnol o’r Gronfa yn ystod yr archwiliad ac yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar ôl derbyn y llythyr sylwadau wedi’i lofnodi. Byddai’r archwilydd yn llofnodi hwn ar 28 Tachwedd 2022. - Nid oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro yn y cyfrifon, fodd bynnag, roedd diwygiadau a oedd wedi’u nodi yn Atodiad 3. Ar ôl cwblhau’r archwiliad, byddai Archwilio Cymru yn cwrdd â’r tîm cyllid i drafod sut aeth y prosiect. Diolchodd Ms Wiliam i Mrs Fielder a’r tîm cyllid am eu cymorth yn ystod yr archwiliad. Gofynnodd y Cynghorydd Hughes a oedd unrhyw un wedi mynegi diddordeb yngl?n â swydd wag Cyfrifydd y Gronfa. Cadarnhaodd Mrs Fielder bod Adran Adnoddau Dynol y Cyngor wrthi’n gwerthuso’r swydd ar hyn o bryd cyn y gellid ei hysbysebu. Roedd hyn hefyd yn wir am y swydd Cynorthwy-ydd Gweinyddol Llywodraethu. PENDERFYNWYD: (a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Gronfa ar gyfer 2021/22 yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon. (b) Bod y Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon. (c) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau terfynol. |
|
Datganiad Strategaeth Gyllido Drafft PDF 127 KB Darparu Aelodau’r Pwyllgor â chanlyniadau’r Prisiad Actiwaraidd cychwynnol a’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft i’w ystyried, adolygu a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori gyda Chyflogwyr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd Mr Middleman mai pwrpas y Datganiad Strategaeth Gyllido oedd i gydbwyso fforddiadwyedd cyfraniadau cyflogwyr yn erbyn cynaliadwyedd cyfraniadau yn y tymor hir ac iechyd ariannol y Gronfa. Nododd y pwyntiau allweddol canlynol yngl?n â’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft: - Bydd y Datganiad Strategaeth Gyllido drafft yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad â chyflogwyr ar gyfraddau cyfraniad cyflogwyr o 1 Ebrill 2023. - Pwysleisiwyd er bod y Datganiad Strategaeth Gyllido yn strwythur i gefnogi cyfraniadau cynaliadwy, mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i ystyried hyn yng nghyd-destun eu cyllidebau eu hunain, yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae cyfathrebu â chyflogwyr ar y mater hwn yn hollbwysig, oherwydd bod derbyn cyfraniadau llawer iawn llai r?an, oherwydd sefyllfaoedd cyllido gwell, am ei gwneud yn anoddach i gyflawni cyfraniadau cynaliadwy yn y dyfodol. Byddai gohebiaeth ysgrifenedig a thrafodaethau yn cael eu cynnal, yn cynnwys yn y Cyd-Gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol ym mis Rhagfyr 2022 a byddai adborth gan gyflogwyr ar ffactorau amrywiol yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor er mwyn rhoi cymeradwyaeth derfynol i’r Datganiad Strategaeth Gyllido ym mis Chwefror 2023. - Mae isafswm cyfraniad ar gyfer cyflogwyr wedi’i osod drwy baramedrau’r Datganiad Strategaeth Gyllido i dargedu cynaliadwyedd yn y dyfodol, ac mae hyblygrwydd o fewn y paramedrau hyn i gyflogwyr allu talu mwy na’r isafswm yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.
O ran y paramedrau allweddol ar gyfer rhagdybiaethau o baragraff 1.05 ymlaen, nodwyd y canlynol gan Mr Middleman: - Mae budd-daliadau yn ymwneud â chwyddiant ac felly caiff rhwymedigaethau eu gyrru gan chwyddiant. Roedd hyn yn rhagdybiaeth allweddol fel rhan o brisiad 2022. - Roedd sawl safbwynt am lefel uchel chwyddiant ar hyn o bryd a pha mor hir y byddai’n parhau, a’i bod yn bwysig i’r Gronfa roi ystyriaeth resymol i’r lefel hon dros y blynyddoedd nesaf. Cynigwyd cynyddu lefel gyfartalog hirdymor chwyddiant o 2.4% y flwyddyn i 3.1% y flwyddyn, a oedd yn adlewyrchiad o’r disgwyliad y byddai chwyddiant yn aros yn uchel dros y blynyddoedd nesaf ac yna’n lleihau. - Yr agwedd arall o ran chwyddiant oedd y ffaith fod y cynnydd pensiwn a roddwyd yn seiliedig ar chwyddiant yn y 12 mis o fis Medi i fis Medi bob blwyddyn. Felly roedd disgwyl i’r cynnydd pensiwn yn 2023 fod yn 10.1%. Felly, roedd penderfynwyd cynnwys lwfans ar gyfer chwyddiant hysbys i fireinio llif arian y Gronfa h.y. y rhwymedigaethau. - Caiff cyfraniadau cyflogwyr eu gyrru gan y berthynas rhwng yr enillion disgwyliedig ar yr asedau (cyfradd gostyngiad) a chyfradd chwyddiant, gan fod hyn yn pennu cyfran y buddion a delir amdanynt drwy enillion asedau yn y tymor hir yn erbyn y rhai hynny a delir amdanynt drwy gyfraniadau cyflogwr. - Ar ddyddiad y prisiad, roedd gan Mr Middleman syniad o’r hyn fyddai efallai’n rhagdybiaeth resymol ar gyfer y gyfradd gostyngiad a chwyddiant ond, o fis Mawrth 2022, gwelwyd newid sylweddol i gyfraddau llog, disgwyliadau a’r rhagolygon economaidd byd-eang. Ystyriwyd hyn a daethpwyd i’r casgliad bod y rhagdybiaethau yn parhau i fod yn rhesymol ... view the full Cofnodion text for item 26. |
|
Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid PDF 112 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd Mr Page y pwyntiau allweddol canlynol: - Roedd y sefyllfa gyllido ar 30 Medi 2022 wedi gostwng i 102%, o 105% ar 31 Mawrth 2022. Ers hynny, gwelwyd cynnydd o ran y lefel gyllido a oedd yn newyddion da i’r Gronfa er gwaethaf anwadalrwydd y marchnadoedd yn Ch3 2022. - Roedd y fframwaith rheoli risg wedi cael ei roi ar brawf, yn enwedig yn ystod mis Medi a Hydref 2022 ond serch hynny roedd y fframwaith wedi gwasanaethu’r Gronfa’n dda. Roedd yr adroddiad yn amlygu perfformiad pob elfen wahanol o’r fframwaith rheoli risg. - Gwelwyd gostyngiad mewn ecwiti ond roedd wedi’i ddiogelu gan y portffolio ecwiti synthetig felly bu i’r amddiffyniad ar y gyfran honno o’r portffolio ychwanegu gwerth dros y chwarter. - Bu i’r bunt wanhau’n sylweddol dros y chwarter, a gwnaed colledion ar strategaeth fantoli FX. Fodd bynnag, oherwydd sicrwydd o 100% rhag chwyddiant, roedd y colledion FX a wnaed wedi cael eu gosod yn erbyn yr enillion a wnaed ar yr asedau ffisegol a fuddsoddir ynddynt dramor. - Y strategaeth LDI oedd y prif ffocws o ystyried anwadalrwydd y farchnad gilt yn ddiweddar. Roedd lefel y rhagfantoli ar gyfer cyfraddau llog wedi cynyddu o fewn y fframwaith sbardunau marchnad o oddeutu 20% i 50%. Roedd lefel y rhagfantoli ar gyfer chwyddiant yn parhau i fod yn 40% ar 30 Medi 2022, gan ddarparu amddiffyniad gwerthfawr rhag chwyddiant cynyddol dros y flwyddyn. - Roedd anwadalrwydd eithafol o ran y giltiau hyd at bwynt lle’r oedd bron yn gamweithredol ac roedd y siart ar dudalen 282 yn dangos y camau olrhain drwy gydol mis Medi a mis Hydref 2022 a pha mor gyflym oedd y cyfnod hwn. Er gwaethaf yr anwadalrwydd, rheolwyd hyn yn dda gan y fframwaith sicrwydd cadarn a oedd yn weithredol. - Ar ôl cyhoeddi’r datganiad cyllidol, bu cynnydd cyflym mewn arenillion giltiau a gostyngiad cyflym yng ngwerth giltiau. Dros gyfnod o ychydig ddyddiau, bu i arenillion giltiau godi a gostwng, gan gynyddu o 2.5% ac yna gostwng o 2.5%, ac nid oedd hynny erioed wedi digwydd o’r blaen. Yna, fe aeth Banc Lloegr ati i sefydlogi’r farchnad am gyfnod o bythefnos ac fe aeth yr arenillion giltiau i lawr eto ond buan iawn y gwnaethant ddechrau cynyddu’n raddol eto. Yn ystod y bythefnos, bu i’r diwydiant cynllun pensiwn werthu nifer fawr o asedau i leihau dyledion y portffolios LDI. Fodd bynnag, roedd pryderon o hyd am arenillion giltiau yn codi eto ond, oherwydd cefnogaeth gan Fanc Lloegr a’r Canghellor newydd a wnaeth ddirwyn y polisiau yn ôl, fe sefydlogwyd y farchnad. - Roedd Mr Page yn falch iawn â fframwaith llywodraethu hynod gryf y Gronfa, nododd fod y Gronfa nid yn unig mewn sefyllfa dda i wrthsefyll ansefydlogrwydd y farchnad ar hyn o bryd, roedd hefyd mewn sefyllfa i gymryd cyfleoedd. Roedd gan y Gronfa fframwaith yn weithredol lle’r oedd yn cymryd y cyfle i fuddsoddi mewn giltiau pan oeddent yn rhad, gyda’r lefelau arenillion hynny wedi’u diffinio ymlaen llaw. Ar ben hynny, roedd ... view the full Cofnodion text for item 27. |
|
Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad, a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr PDF 104 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd Mr Harkin y pwyntiau allweddol canlynol yn ymwneud â’r economi cyffredinol a marchnadoedd. - Roedd sefyllfa’r farchnad a fanylwyd arni yn yr adroddiad yn trafod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022, a oedd wedi bod yn gyfnod heriol i’r marchnadoedd. Yn y DU, ac mewn sawl rhanbarth arall, y sefyllfa anoddaf o hyd oedd y chwyddiant uchel parhaus. - Dros y tri mis hyd at 30 Medi 2022, gwelwyd gostyngiad o £64.2 miliwn yng nghyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad i £2,216 miliwn. - Roedd economiau datblygedig mawr yn parhau i ddelio â’r sefyllfa anodd mewn perthynas â chwyddiant drwy dynhau polisiau ariannol ychwanegol. Er y cafwyd rhywfaint o ryddhad o ran y chwyddiant tymor byr yn ystod y chwarter, daeth hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod a bu i asedau risg godi a bu i fwyafrif y dosbarthiadau asedau mawr nodi ffigyrau negyddol o ran enillion ar ddiwedd y chwarter. - Roedd hwn yn un o’r chwarteri gwaethaf o ran portffolios bond ac ecwiti yn hanes cadw’r asedau hyn ar y cyd ac mae hyn yn amlygu mor anodd mae 2022 wedi bod i fuddsoddwyr. - Nid oedd llwybr clir ymlaen ond er bod arwyddion y gallai cyfradd chwyddiant UDA fod ar fin lefelu, nid oedd hyn yn wir am gyfradd chwyddiant y DU.
Cyflwynodd Mr Dickson bwyntiau allweddol i’r Pwyllgor yngl?n â Strategaeth Fuddsoddi’r Gronfa: - Roedd tudalen 314 yn amlinellu bod y Gronfa wedi cyflawni enillion o -2.5% ar fuddsoddiad dros Ch3 2022, a bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn. - Dros y 12 mis diwethaf, roedd y Gronfa wedi cyflawni enillion o -6.5% ar fuddsoddiad a dros 3 blynedd roedd y Gronfa wedi perfformio’n dda gydag enillion o 4.1% ar fuddsoddiad. - Roedd y perfformiad gwell yn erbyn y meincnod strategol yn ychwanegu gwerth at yr holl gyfnodau fel y dengys yn y tabl ar dudalen 314. - Ar dudalen 317, gellid gweld fod gan ddyraniad sylweddol y Gronfa i farchnadoedd preifat effaith fuddiol gref, gydag enillion o 24.6% dros gyfnod o 12 mis. Roedd hyn yn awgrym da o gyfanswm yr enillion ar y buddsoddiad, o ystyried y pwysoliad uchel a ddyrannwyd i farchnadoedd preifat.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Medi 2022, ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi, a oedd i bob pwrpas yn egluro’r sefyllfa. |
|
Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu PDF 156 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol a darparu’r ymateb ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Cymru a Lloegr); Llywodraethu ac adrodd ar ymgynghoriad risgiau newid hinsawdd i’w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol: - O ran y cynllun busnes, oedwyd proses adolygu’r strategaeth fuddsoddi oherwydd yr amgylchedd economaidd anodd. Byddai hyn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2023. - Roedd oedi hefyd o ran yr adroddiad newid hinsawdd a gofynion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn Ymwneud â’r Hinsawdd. Roedd y gwaith yn parhau a byddai sesiwn hyfforddi yn cael ei chynnal i aelodau’r Pwyllgor ar 1 Chwefror 2023. - Cyflwynwyd y Cod Stiwardiaeth erbyn y dyddiad cau ar 31 Hydref 2022 wedi i gyflwyniad drafft gael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Awst. Ni fydd y canlyniad yn hysbys i’r Gronfa tan fis Mawrth 2023. Os oedd yr aelodau’n dymuno gweld y cyflwyniad terfynol, dylent gysylltu â Mrs Fielder. - Roedd y Gronfa wedi disgwyl sawl ymgynghoriad yngl?n â datblygiadau yn ymwneud â buddsoddiad CPLlL ond dim ond yr un sy’n ymwneud â llywodraethu ac adrodd ar risg hinsawdd sydd wedi cael ei gyhoeddi. - Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.02, bu i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyhoeddi ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 24 Tachwedd 2022, ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddu CPLlL adrodd ar risgiau newid hinsawdd. Roedd yr ymgynghoriad yn unol â’r argymhellom a wnaed gan y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn Ymwneud â’r Hinsawdd. Eglurodd Mrs Fielder fod cyfres o argymhellion wedi cael eu cyhoeddi yn 2017 gyda’r nod o wella risgiau ariannol. Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddwyd y byddai datganiadau’r Tasglu yn orfodol yn y DU erbyn 2025. Barn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yw y dylai’r gofyniad ar gyfer CPLlL fod yr un mor uchel â’r safon a osodir ar gyfer cynlluniau pensiwn preifat. Y cynlluniau pensiwn preifat oedd y man cychwyn ar gyfer y cynigion ond nid oeddent yn ystyried nodweddion unigryw’r CPLlL yn cynnwys gweinyddu lleol ac atebolrwydd democrataidd. Tynnodd Mrs Fielder sylw at ymateb drafft y Gronfa i’r ymgynghoriad yn Atodiad 2. Ar y cyfan, roedd y Gronfa yn cefnogi cynigion yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn yr ymgynghoriad. Mae nifer sylweddol o’r cynigion yn ymwneud â dadansoddi sefyllfaoedd a metrigau, ac roedd y Gronfa eisoes wedi gwneud gwaith modelu a byddai’n gwneud hynny eto fel rhan o broses adolygu strategaeth fuddsoddi’r Gronfa. Mae ymateb y Gronfa i’r ymgynghoriad yn crynhoi sut yr oedd newid hinsawdd eisoes wedi’i sefydlu yn strategaethau llywodraethu, buddsoddi ac ariannu’r Gronfa. Darparodd hyn dystiolaeth bellach fod y Gronfa wedi ymrwymo i’r arfer orau yn y maes hwn, a bod y Gronfa yn bwriadu cynnal ei adroddiadau Tasglu ei hun ar ddechrau 2023, cyn dyddiad cau’r Llywodraeth. Roedd hyn yn cadw at yr egwyddorion a osodwyd yn y ddogfen ymgynghori. Dywedodd Mrs Fielder fod gofyniad ar y Pwyllgor i gymeradwyo’r ymateb i’r ymgynghoriad drafft. - Roedd paragraff 1.04 yn amlinellu’r adolygiad Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol yr oedd y Gronfa’n rhan ohono ar hyn o bryd gyda darparwyr CGY, Prudential ac Utmost drwy Mercer. Yn unol ... view the full Cofnodion text for item 29. |
|
Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau PDF 163 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu, yn cynnwys y Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfio i’w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i Mr Latham longyfarch Mrs Fielder a Mrs K Williams a oedd eu dwy wedi cael eu henwebu a’u cynnwys ar restr fer y Gwobrau Women in Pensions. Dywedodd hefyd fod Mrs K Williams wedi ennill canmoliaeth uchel. Bu i’r Pwyllgor longyfarch Mrs Fielder a Mrs William. Nododd Mr Latham y pwyntiau allweddol canlynol: - Roedd paragraff 1.01 yn amlinellu’r diweddariad ar y cynllun busnes, ac fe gadarnhaodd Mr Latham fod cynnydd da yn cael ei wneud. Atgoffodd aelodau diweddaraf y Pwyllgor, nad oedd wedi gallu mynychu’r sesiynau hyfforddiant cynefino, i gadarnhau pan yr oeddent wedi gwylio’r recordiadau perthnasol. - Nid oedd yr ymgynghoriad ar God Ymarfer Unigol y Rheoleiddiwr Pensiynau a’r Adolygiad Llywodraethu Da wedi’i gwblhau ac felly roedd wedi cael ei symud ymlaen yn y cynllun busnes. - Roedd Mrs E Williams, a oedd yn wreiddiol wedi cael ei phenodi fel Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun (Nad Ydynt yn Rhan o Undeb Lafur) y Bwrdd Pensiwn am dair blynedd hyd at fis Chwefror 2023, wedi cael ei hail-benodi i’r swydd hon am ddwy flynedd arall. - Roedd materion cenedlaethol yr oedd yn rhaid i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt wedi’u rhestru ym mharagraffau 1.06 i 1.11. - Roedd y Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfio wedi cael ei adolygu ac roedd y newidiadau arfaethedig wedi’u hamlygu yn Atodiad 3. Yn cynnwys y newidiadau yn ymwneud â Phennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yn cymryd cyfrifoldebau gan y Prif Weithredwr. Gofynnodd Mr Latham i’r Pwyllgor gymeradwyo’r diweddariadau i’r Polisi a’r Datganiad. - Roedd yr adolygiad blynyddol o’r mesurau amcanion ar gyfer polisïau a strategaethau yn ymwneud â llywodraethu wedi’i gynnwys yn Atodiad 4. Roedd y rhan fwyaf o fewn y targed, ond roedd gan rai meysydd gwaith i’w gwblhau o hyd. - Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.14, braf iawn oedd gweld canran uchel o aelodau yn mynychu’r hyfforddiant. Roedd rhestr o ddigwyddiadau hyfforddiant yn y dyfodol a gofynnodd Mr Latham i aelodau’r Pwyllgor nodi’r rhain a mynychu os yn bosibl. - Roedd problemau recriwtio a chadw staff ar hyn o bryd a oedd yn achosi straen ychwanegol oherwydd swm y gwaith ychwanegol oherwydd ffactorau y tu allan i reolaeth y Gronfa megis y Dangosfwrdd Pensiynau a Rhaglen Unioni McCloud. Roedd gwaith pellach hefyd yn cael ei wneud i ddeall a fyddai cynnydd mewn llif gwaith gweinyddol o safbwynt aelodaeth yn parhau.
Dywedodd Mrs Fielder fod e-bost wedi cael ei anfon yngl?n â’r Seminar Buddsoddi LGC a fydd yn cael ei gynnal yn Carden Park. Gofynnodd i’r aelodau roi gwybod iddi cyn gynted â phosib os oeddent yn dymuno mynychu er mwyn i’r Gronfa allu manteisio ar y gostyngiadau cynnar, a dywedodd ei fod bod amser yn ddigwyddiad gwerthfawr ac yn lleol. PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad. (b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau i amserlenni yn y cynllun busnes ar gyfer eitemau G3 a G5, oherwydd oedi gan y Llywodraeth o ran symud ymlaen â Chod Unigol y Rheoleiddiwr Pensiynau a chanlyniadau adolygiad Llywodraethu Da y ... view the full Cofnodion text for item 30. |
|
Diweddariad Gweinyddu a Chyfathrebu PDF 159 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd Mrs K Williams y pwyntiau allweddol canlynol o’r adroddiad:
- Roedd A6 ac A7 yn y diweddariad cynllun busnes 2022/23 ym mharagraff 1.01 yn amlinellu’r adolygiad o’r polisïau a’r strategaethau a hefyd y trefniadau gwirio bodolaeth pensiynwyr. Amlygwyd bod y camau hyn ar waith ond eu bod rhywfaint ar eu hôl hi oherwydd blaenoriaethau yn gwrthdaro a llwyth gwaith cynyddol. - Roedd oedi wedi bod o ran adnewyddu’r Strategaeth Gyfathrebu oherwydd swydd wag y Swyddog Cyfathrebu. Fodd bynnag, roedd y swydd hon wedi’i llenwi bellach a chynnydd da yn cael ei wneud. - Dau faes allweddol a oedd yn achosi cynnydd mawr o ran llwyth gwaith oedd y dyfarniadau cyflog ar gyfer 2021/22 a nifer yr aelodau gohiriedig cymwys a oedd yn cymryd eu buddion. Mae’r ddau fater uchod yn effeithio ar allu’r Gronfa i gwblhau ei gwaith busnes arferol o fewn terfynau amser rheoleiddio ac yn unol â safonau gwasanaeth a gytunwyd arnynt yn fewnol. - Cytunwyd a thalwyd y dyfarniad cyflog wedi’i ôl-ddyddio ym mis Mawrth 2022. Fodd bynnag, fe arweiniodd at ail-gyfrifo buddion sawl aelod a oedd wedi gadael y cynllun yn ystod 2021/22. Ar gyfer 2022/23, oherwydd gwerth y dyfarniad cyflog, roedd yr effaith yn llawer mwy sylweddol gan arwain at nifer uchel o geisiadau i ail-gyfrifo. Roedd yna eisoes dros 1,100 o geisiadau ar gyfer dyfarniad 2022/23 a oedd yn llawer iawn o waith ychwanegol o’i gymharu â 2021/22. Nid yw’r tîm yn gallu ail-gyfrifo fesul llwyth oherwydd amgylchiadau unigol pob aelod. Felly, gwneir yr holl ail-gyfrifiadau ar sail unigol. - Mae’r tîm yn cynnal adroddiad misol i nodi nifer yr aelodau gohiriedig cymwys sy’n nesáu at 60 mlwydd oed sydd efallai’n dymuno cymryd eu buddion pensiwn. Mae’r ffigyrau hyn yn cynyddu bob mis, y rhai hynny ar yr adroddiad sydd angen cysylltu â nhw, ac yna y rhai hynny sy’n dewis cymryd eu buddion yn dilyn yr ohebiaeth gychwynnol honno. Mae’r Rheolwr Gweinyddu yn ymchwilio i unrhyw dueddiadau posibl i sicrhau bod y tîm yn cael adnoddau priodol yn y dyfodol. Roedd y siart ar achosion heb eu cwblhau yn Atodiad 3 yn dangos bod nifer yr achosion heb eu cwblhau wedi gostwng o dros 10,000 yn 2018 i 5,000 erbyn hyn. Roedd y tîm yn parhau i chwilio am arbedion drwy brosesau mwy awtomatig. Mae Mrs K Williams hefyd yn ystyried strwythur y tîm yn y dyfodol yn cynnwys tîm prosiect posibl i sicrhau nad yw gwasanaethau busnes yn dirywio. - Er gwaethaf y swyddi gwag ar hyn o bryd, cwblhawyd 8,552 achos yn y chwarter diwethaf, o’i gymharu â 7,731 yn yr un cyfnod adrodd llynedd. - Roedd nifer yr achosion yn dod i mewn eisoes yn 9,171 o’i gymharu â 9,210 yn ystod yr un cyfnod llynedd. Fodd bynnag, roedd y 9,210 achos yn cynnwys ôl-groniad o weithwyr newydd gan un cyflogwr penodol a throsglwyddiad TUPE sylweddol), ac felly nid oedd y ffigyrau hyn yn wir adlewyrchiad o lwyth gwaith arferol y tîm y llynedd. - Roedd Atodiad 4 yn ... view the full Cofnodion text for item 31. |
|
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem hon wedi’i chynnwys at ddibenion nodi a bod mwy o fanylion wedi’u cynnwys yn yr eitem nesaf ar y rhaglen. Nododd Mr Hibbert fod fformat rhithiol y cyfarfodydd Pwyllgor, ar y cyfan, yn gwneud pethau’n anodd iawn iddo gan nad oedd ganddo gopi hygyrch o bapurau cyfarfodydd a dim ond un sgrîn oedd ganddo. Felly nid oedd yn gallu dilyn ei ddogfennau a chodi pwyntiau yn y cyfarfod. Cytunodd y Cynghorydd Hughes â Mr Hibbert a holodd a fyddai’n bosib newid cyfarfodydd y Pwyllgor i gyfarfodydd hybrid o hyn ymlaen. Cytunodd y Swyddogion i gyflwyno’r mater i’r Gwasanaethau Democrataidd. PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Contractau Cyflenwyr - Cyfrinachol Gofyn i Aelodau’r Pwyllgor gymeradwyo estyniadau i gontractau Cronfeydd amrywiol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Link Fund Solutions Limited. Cofnodion: Oherwydd gwrthdaro buddiannau, bu i gynrychiolwyr Mercer ac Aon adael y cyfarfod ac ail-ymuno o baragraff 1.09. Cyflwynwyd a thrafodwyd yr eitem hon ar y rhaglen.
PENDERFYNWYD (a) Bod y Pwyllgor yn ymestyn y contract ag Aon tan 31 Mawrth 2025. (b) Bod y Pwyllgor yn ymestyn y contract â Mercer tan 31 Mawrth 2025. (c) Bod y Pwyllgor yn cytuno i barhau â’r contract gyda Heywood ar sail dreigl 12 mis tan fis Chwefror 2028. (d) Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar Link Fund Solutions a’i drafod.
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 18 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhaglen waith Strategaeth Seiber - Cyfrinachol Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar waith strategaeth seiber y Gronfa yn cynnwys canlyniadau asesiad seiber Cyngor Sir y Fflint. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan Byron Lloyd-Jones (Datrysiadau Seiber Aon)
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r cyflwyniad gan arbenigwyr diogelwch seiber Aon.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod ac am gymryd rhan. Soniodd hefyd am y sesiynau hyfforddiant i ddod yn cynnwys y sesiwn PPC ar 5 Rhagfyr, y sesiynau hyfforddiant hanfodol ar 18 Ionawr 2023 ac 1 Chwefror 2023 a’r Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol ar 13 Rhagfyr 2022. Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 15 Chwefror 2023. Daeth y cyfarfod i ben am 12:30pm. …………………………………… Y Cadeirydd
|