Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 15 Hydref. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd fel cofnod cywir. Cofnodion:
Cyflwynwydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2024 (eitem agenda rhif 3) a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhaucofnodion y cyfarfodydd fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) Pwrpas: Ystyried y Gyllideb Cyfrif Refeniw Tai (CRT) arfaethedig ar gyfer 2024/25 a Chynllun Busnes y CRT. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Ystyried cyllideb y CRT ar gyfer 2025/26, fel y nodir yn yr adroddiad;
(b) Cymeradwyo'r codiad isafswm rhent arfaethedig o 2.7%;
(c) Cymeradwyo'r cynnydd o 2.7% yn rhenti garejis;
(d) Cymeradwyo cynnydd mewn taliadau gwasanaeth i adennill costau llawn;
(e) Nodi'r pwysau a'r effeithlonrwydd y manylir arnynt yn yr atodiad; a
(f) Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf CRT arfaethedig ar gyfer 2025/26. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) (eitem agenda rhif 4), a oedd yn amlygu'r holl ystyriaethau gofynnol.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Ystyried cyllideb y CRT ar gyfer 2025/26, fel y nodir yn yr adroddiad;
(b) Cymeradwyo'r codiad isafswm rhent arfaethedig o 2.7%;
(c) Cymeradwyo'r cynnydd o 2.7% yn rhenti garejis;
(d) Cymeradwyo cynnydd mewn taliadau gwasanaeth i adennill costau llawn;
(e) Nodi'r pwysau a'r effeithlonrwydd y manylir arnynt yn yr atodiad; a
(f) Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf CRT arfaethedig ar gyfer 2025/26. |
|
Rhaglen Gyfalaf 2025/26 – 2027/28 Pwrpas: Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2025/26 – 2027/28 i’w hargymell i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Cymeradwyo'r dyraniadau a'r cynlluniau yn Nhabl 3 ar gyfer adrannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2025/26 – 2027/28;
(b) Cymeradwyo'r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 ar gyfer yr adran Buddsoddi o Raglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2025/26-2027/28;
(c) Nodi'r diffyg cyllid ar gyfer cynlluniau yn 2027/28 yn Nhabl 5 (er bod gwarged yn y blynyddoedd blaenorol); a
(d) Cymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran o Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a ariennir yn benodol ac a ariennir yn rhannol drwy fenthyca. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Jones yr adroddiad (eitem agenda rhif 5) a oedd yn cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig am y cyfnod 2025/26 – 2027/28 i’w hargymell i’r Cyngor.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r dyraniadau a'r cynlluniau yn Nhabl 3 ar gyfer adrannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2025/26 – 2027/28;
(b) Cymeradwyo'r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 ar gyfer yr adran Buddsoddi o Raglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2025/26-2027/28;
(c) Nodi'r diffyg cyllid ar gyfer cynlluniau yn 2027/28 yn Nhabl 5 (er bod gwarged yn y blynyddoedd blaenorol); a
(d) Cymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran o Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a ariennir yn benodol a fydd yn cael ei hariannu’n rhannol drwy fenthyca. |
|
Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2025/26 – 2027/28 Pwrpas: Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2025/26 – 2027/28 i’w hargymell i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf a'i hargymell i'r Cyngor Sir; a
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac argymell i’r Cyngor Sir: • Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2025/26 – 2027/28 fel y manylir arnynt yn Nhablau 1, a 4-8 o'r Strategaeth Gyfalaf • Dirprwyo awdurdod i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol wneud symudiadau rhwng y terfynau a gytunwyd ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf). Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad (eitem agenda rhif 6) a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer argymhelliad i'r Cyngor.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf a'i hargymell i'r Cyngor Sir; a
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac argymell i’r Cyngor Sir: • Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2025/26 – 2027/28 fel y manylir arnynt yn Nhablau 1, a 4-8 o'r Strategaeth Gyfalaf • Dirprwyo awdurdod i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol wneud symudiadau rhwng y terfynau a gytunwyd ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf). |
|
Comisiynu Cwmni Eiddo D2 – Gwasanaethau Llety i Bobl Ddigartref Pwrpas: Cael caniatâd i ymgysylltu â’r cwmni uchod at ddibenion darparu gwasanaethau llety i bobl ddigartref ar gyfer hyd at 50 aelwyd sy’n profi digartrefedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Nodi'r gwaith a wnaed i adnabod darpar ddarparwyr gwasanaeth rheoli tai dwys ar gyfer llety digartref;
(b) Nodi canlyniad yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) o ran profi'r farchnad; a
(c) Cymeradwyo'r dyfarniad uniongyrchol i D2 PropCo, i'w cyflogi fel partner i ddarparu datrysiad rheoli tai dwys ar gyfer llety digartref. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Brown yr adroddiad (eitem agenda rhif 7) a oedd yn amlinellu model o wasanaethau rheoli tai dwys a ddarperir gan D2 PropCo ar gyfer llety digartref a manteision cost ymgysylltu â phartner ar gyfer y gwasanaethau hynny.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r gwaith a wnaed i adnabod darpar ddarparwyr gwasanaeth rheoli tai dwys ar gyfer llety digartref;
(b) Nodi canlyniad yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) o ran profi'r farchnad; a
(c) Cymeradwyo'r dyfarniad uniongyrchol i D2 PropCo, i'w cyflogi fel partner i ddarparu datrysiad rheoli tai dwys ar gyfer llety digartref. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 6) Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2024/25 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Nodi'r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2024/25; a
(b) Nodi'r mesurau sy'n cael eu hystyried ar gyfer gwella'r sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad (eitem agenda rhif 8) a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl diweddaraf o sefyllfa monitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2024/25; a
(b) Nodi'r mesurau sy'n cael eu hystyried ar gyfer gwella'r sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. |
|
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2024/25 (Mis 6) Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 6 ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau i'w cario ymlaen; a
(c) Nodi'r dyraniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 15 Hydref 2024. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad (eitem agenda rhif 9) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2024/25 ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2023.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau i'w cario ymlaen; a
(c) Nodi'r dyraniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 15 Hydref 2024. |
|
Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26 Pwrpas: Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2025/26 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Bod y sylfaen drethu o 66,458 eiddo cyfwerth â band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 sy’n ymgorffori’r codiad arfaethedig i’r cyfraddau o 75% i 100% i’r cyfraddau ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor a pharhad o cymeradwyo'r premiwm 100% ar gyfer Ail Gartrefi; a
(b) Parhau i osod ‘dim’ disgownt ar gyfer eiddo sy’n dod o fewn unrhyw un o’r Dosbarthiadau Penodedig (A, B neu C) a fyddai’n berthnasol i ardal gyfan y sir. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad (eitem agenda rhif 10) a oedd yn rhan annatod o'r gyllideb refeniw a phroses cymeradwyo Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y sylfaen drethu o 66,458 eiddo cyfwerth â band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 sy’n ymgorffori’r codiad arfaethedig i’r cyfraddau o 75% i 100% i’r cyfraddau ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor a pharhad o cymeradwyo'r premiwm 100% ar gyfer Ail Gartrefi; a
(b) Parhau i osod ‘dim’ disgownt ar gyfer eiddo sy’n dod o fewn unrhyw un o’r Dosbarthiadau Penodedig (A, B neu C) a fyddai’n berthnasol i ardal gyfan y sir. |
|
Gweithredu Newidiadau i’r Casgliadau Gwastraff Gweddilliol ac Adolygu’r Polisi Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet gyda throsolwg o’r cynllun gweithredu a chyfathrebu er mwyn newid i fodel casglu gwastraff gweddilliol bob tair wythnos a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer y polisi gweithredol cysylltiedig ar gasgliadau ailgylchu a gwastraff a’r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref wedi’i ddiweddaru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Cymeradwyo'r dyddiad gweithredu arfaethedig ar gyfer newid amlder casglu gwastraff gweddilliol a gymeradwywyd eisoes;
(b) Nodi'r cynllun gweithredu arfaethedig, a chefnogi'r gwaith a wnaed hyd yma;
(c) Nodi'r cynllun cyfathrebu;
(d) Nodi'r Polisi Gweithrediadau Canolfannau Ailgylchu a Chasgliadau Gwastraff y Cartref wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a gymeradwywyd yn flaenorol i wasanaethau; a
(e) Nodi'r Polisi Trwyddedau Cerbydau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi'i ddiweddaru sydd i'w gyhoeddi yn dilyn mabwysiadu gweithdrefnau diwygiedig a roddwyd ar waith i gefnogi cwsmeriaid ag anableddau a allai fod angen defnyddio'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gan ddefnyddio eu cerbydau. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad (eitem agenda rhif 11) a oedd yn cyflwyno'r dyddiad gweithredu arfaethedig a chynlluniau gweithredu a chyfathrebu sydd yn eu lle ar gyfer y newid gwasanaeth.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r dyddiad gweithredu arfaethedig ar gyfer newid amlder casglu gwastraff gweddilliol a gymeradwywyd eisoes;
(b) Nodi'r cynllun gweithredu arfaethedig, a chefnogi'r gwaith a wnaed hyd yma;
(c) Nodi'r cynllun cyfathrebu;
(d) Nodi'r Polisi Gweithrediadau Canolfannau Ailgylchu a Chasgliadau Gwastraff y Cartref wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a gymeradwywyd yn flaenorol i wasanaethau; a
(e) Nodi'r Polisi Trwyddedau Cerbydau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi'i ddiweddaru sydd i'w gyhoeddi yn dilyn mabwysiadu gweithdrefnau diwygiedig a roddwyd ar waith i gefnogi cwsmeriaid ag anableddau a allai fod angen defnyddio'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gan ddefnyddio eu cerbydau. |
|
Hunanwerthusiad Gwasanaethau Addysg Sir y Fflint Pwrpas: Rhoi sicrwydd i’r Cabinet ynghylch ystod ac ansawdd darpariaeth gwasanaethau addysg Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Nodi canlyniad adroddiad hunan-arfarnu blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd y gwasanaethau addysg am y cyfnod 2023/24; a
(b) Cyflwyno unrhyw sylwadau ar yr adroddiad i'r Tîm Portffolio. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad (eitem agenda rhif 12) a ddaeth i’r casgliad bod gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gryf, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol ac yn parhau i ddarparu gwerth da am arian.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi canlyniad adroddiad hunan-arfarnu blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd y gwasanaethau addysg am y cyfnod 2023/24; a
(b) Cyflwyno unrhyw sylwadau ar yr adroddiad i'r Tîm Portffolio |
|
Pwrpas: Rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a throsolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng 1 Ebrill 2024 – 30 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Nodi perfformiad blynyddol cadarnhaol y Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2023-24;
(b) Nodi perfformiad hanner blwyddyn y Cyngor (2024-25) mewn perthynas â chwynion a dderbyniwyd yn unol â pholisi Pryderon a Chwynion y Cyngor; a
(c) Cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad (eitem agenda rhif 13) a oedd yn rhoi trosolwg o berfformiad y Cyngor mewn perthynas â chwynion o gamweinyddu a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Roedd hefyd yn rhoi trosolwg o'r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi perfformiad blynyddol cadarnhaol y Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2023-24;
(b) Nodi perfformiad hanner blwyddyn y Cyngor (2024-25) mewn perthynas â chwynion a dderbyniwyd yn unol â pholisi Pryderon a Chwynion y Cyngor; a
(c) Cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd yn yr adroddiad. |
|
Bromborough Plastics - Adroddiad diweddaru Pwrpas: Mae’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet o dan Reolau Gweithdrefnau Ariannol (Adran 5.2) i ddiddymu dyledion Rhent Masnachol ar gyfer Bromborough Plastics Limited. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo'r ddyled a ddilëwyd. Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad (eitem agenda rhif 14) a oedd yn rhoi manylion dyled yr argymhellwyd ei dileu yn unol â'r Rheolau Gweithdrefn Ariannol.
Cefnogwydyr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'rddyled a ddilëwyd. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd a nodwyd eitem wybodaeth (eitem agenda rhif 15) ar y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahardd am weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Model Gwella Ysgolion Pwrpas: Dod â chynnig drafft ar gyfer model Partneriaeth Gwella Ysgolion Sir y Fflint yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adolygu’r modd y darperir gwasanaethau gwella ysgolion sydd wedi arwain at y bwriad i ddod â chonsortia gwella ysgolion rhanbarthol i ben. Penderfyniad: (a) Cydnabod cymhlethdodau creu model awdurdod lleol newydd ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion o fewn yr amserlenni disgwyliedig gyda rhywfaint o nodyn hanfodol o wybodaeth eto ar gael;
(b) Bod yr Aelodau'n cadarnhau eu hyder yn y model drafft sy'n cael ei gyflwyno i sicrhau cefnogaeth barhaus ac effeithiol i ysgolion Sir y Fflint i sicrhau'r canlyniadau gorau i ddysgwyr;
(c) Bod Aelodau'n derbyn bod yn rhaid i'r model fod yn hyblyg ac yn amodol ar newidiadau a wneir gan uwch swyddogion y Portffolio Addysg wrth i gynnydd gael ei wneud tuag at y dyddiad cau ar gyfer Ebrill 2025; a
(d) Bod unrhyw adborth a sylwadau yn cael eu darparu, er mwyn llywio datblygiad y model. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud i greu Gwasanaeth Gwella Ysgolion newydd yn Sir y Fflint o 1 Ebrill 2025.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cydnabod cymhlethdodau creu model awdurdod lleol newydd ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion o fewn yr amserlenni disgwyliedig gyda rhywfaint o nodyn hanfodol o wybodaeth eto ar gael;
(b) Bod yr Aelodau'n cadarnhau eu hyder yn y model drafft sy'n cael ei gyflwyno i sicrhau cefnogaeth barhaus ac effeithiol i ysgolion Sir y Fflint i sicrhau'r canlyniadau gorau i ddysgwyr;
(c) Bod Aelodau'n derbyn bod yn rhaid i'r model fod yn hyblyg ac yn amodol ar newidiadau a wneir gan uwch swyddogion y Portffolio Addysg wrth i gynnydd gael ei wneud tuag at y dyddiad cau ar gyfer Ebrill 2025; a
(d) Bod unrhyw adborth a sylwadau yn cael eu darparu, er mwyn llywio datblygiad y model. |
|
Caffael System Gwybodaeth Cleientiaid- Diweddaru Pwrpas: Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am gaffael system gwybodaeth cleientiaid newydd a chynnwys dyddiadau a chostau gweithredu arfaethedig. Penderfyniad: (a) Bod cyfranogiad parhaus ac esblygol wrth gynhyrchu'r achos busnes cenedlaethol a'r grwpiau cenedlaethol sy'n sail i'r rhaglen Cysylltu Gofal;
(b) Cymeradwyo symud ymlaen i'r cam dyfarnu Contract a sicrhau ymrwymiad ariannol; a
(c) Cytuno ar y cynigion i ddechrau gweithredu’r system newydd ar ôl 1 Ebrill 2026, a’u gweithredu’n llawn erbyn 31 Mawrth 2028. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn amlinellu caffael a gweithredu system TG newydd ar gyfer gofal cymdeithasol.
Cefnogwydyr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cyfranogiad parhaus ac esblygol wrth gynhyrchu'r achos busnes cenedlaethol a'r grwpiau cenedlaethol sy'n sail i'r rhaglen Cysylltu Gofal;
(b) Cymeradwyo symud ymlaen i'r cam dyfarnu Contract a sicrhau ymrwymiad ariannol; a
(c) Cytuno ar y cynigion i ddechrau gweithredu’r system newydd ar ôl 1 Ebrill 2026, a’u gweithredu’n llawn erbyn 31 Mawrth 2028. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nidoedd unrhyw aelod o'r wasg na'r cyhoedd yn bresennol. |