Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

73.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn datganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Paul Johnson gysylltiad personol yn eitem rhif 18 ar yr agenda - Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgell AURA.

74.

Cofnodion pdf icon PDF 157 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 17 Hydref 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2023 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

75.

Rhaglen Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 pdf icon PDF 387 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 i’w hargymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi derbyn adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor. Fodd bynnag, roedd ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg – roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Roedd cynlluniau sy’n cael eu hariannu trwy fenthyca yn cael eu hystyried yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:

 

1. Statudol / Rheoleiddiol - dyraniadau i gynnwys gwaith rheoleiddiol a statudol

 

2. Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd

er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

 

3. Buddsoddiad - dyraniadau i ariannu gwaith sydd angen ei wneud i ailfodelu’r gwasanaethau

i ddarparu effeithlonrwydd wedi’i amlinellu ym mhortffolio’r cynlluniau busnes a buddsoddiad mewn gwasanaethau

fel yr amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor.

 

Yn hanesyddol, caiff y rhan fwyaf o raglen y Cyngor ei hariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau.   Roedd gallu’r Cyngor i greu derbyniadau cyfalaf sylweddol yn

heriol, gan fod yr asedau oedd ar gael i’w gwaredu gan y Cyngor yn lleihau.  

 

Byddai’r Cyngor yn manteisio ar bob cyfle posibl i nodi asedau i’w gwerthu a ffynonellau eraill o arian, fel grantiau penodol a chyfraniadau refeniw.   Fodd bynnag, byddai angen i’r Cyngor ddefnyddio benthyca darbodus i ariannu mwy o’r rhaglen wrth symud ymlaen.   Yn benodol, byddai angen i’r rhaglen Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a chynlluniau eraill sydd wedi’u cynnwys o fewn y rhaglen fuddsoddi angen cael eu hariannu trwy fenthyca darbodus.

 

            Mae manylion o’r dyraniad arfaethedig 2024/25 - 2026/27 a’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer cyfnod 2024/25 - 2026/27 ar gyfer yr adran Fuddsoddi o’r Rhaglen Gyfalaf wedi’i ddarparu.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod dull darbodus tuag at gynlluniau wedi cael ei wneud oherwydd y pwysau yn y gyllideb refeniw.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni thynnwyd sylw at unrhyw broblemau sylweddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 yr adroddiad ar gyfer yr adrannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau a Gedwir yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2024/25 – 2026/27;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynlluniau a gaiff eu cynnwys yn Nhabl 4 yr adroddiad ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2024/25 – 2026/27;

 

(c)        Nodi fod y diffyg o ran ariannu’r cynlluniau yn 2024/25 a 2025/26 yn Nhabl 5 yr adroddiad ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd.   Bydd opsiynau, gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ail-drefnu cynlluniau yn rhai fesul cam, yn cael eu hystyried yn ystod 2024/25 ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a

 

(d)       Chymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 yr adroddiad ar gyfer adran Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor sy’n cael ei hariannu’n  ...  view the full Cofnodion text for item 75.

76.

Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 – 2026/27 pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 i’w hargymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn manylu ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 - 2026/27 i’w hargymell i’r Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn egluro pam fod angen y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob adran.

 

Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), yr oedd yn rhaid i Awdurdodau bennu ystod o ddangosyddion darbodus.   Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25 – 2026/27.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni chodwyd unrhyw broblemau sylweddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor Sir; a

 

(b)       Chymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor Sir:

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25 – 2026/27 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf.

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i greu symudiadau rhwng y terfyniadau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer yr effaith allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

77.

Ymgynghoriad ar y Strategaeth Wastraff pdf icon PDF 479 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnal ymgynghoriad ar strategaeth wastraff ddrafft yr Awdurdod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cefnogi’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru (LlC) i’r Sector Gyhoeddus ddod yn sero net erbyn 2030 ac ym mis Rhagfyr 2019 fe gymeradwyodd Aelodau’r Cabinet y symudiad i ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd amlwg a fyddai’n gosod y prif nodau a gweithredoedd ar gyfer creu sefydliad carbon niwtral.

 

Mae lleihau eich defnydd o bethau na ellir eu hailddefnyddio ac ailgylchu a chynyddu eich defnydd o’r hyn y gallwch eu hailddefnyddio a’u hailgylchu i arbed adnoddau gwerthfawr yn rhan allweddol o gyrraedd sero net.

 

Mae’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff drafft wedi arwain y cyfeiriad strategol i leihau gwastraff ac i ragori ar dargedau ailgylchu statudol LlC.  Heb weithredu bydd yr Awdurdod mewn perygl o gael dirwyon gwerth £1.13 miliwn am beidio â chyflawni’r targedau hyn yn 2021/2022 a 2022/2023 a mwy o ddirwyon yn 2023/2024 a thu hwnt.

 

Mae’r Strategaeth newydd yn arddangos i’r Gweinidog ymrwymiad y Cyngor i wneud y newid.  Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i gyflawni ymarfer ymgynghori ar y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff drafft.

 

Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) y risg o ddirwyon posib am dorri rheolau o beidio â chyflawni’r targedau ailgylchu statudol, a heb newidiadau sylweddol i’r gwasanaeth roedd yn annhebygol y byddai’r targedau yn cael eu cwrdd.    Amlygodd y Prif Swyddog y dadansoddiad cyfansoddiadol a oedd yn dangos y byddai 58% o’r hyn a aeth i mewn i’r bin gwastraff gweddilliol wedi gallu cael ei ailgylchu yn defnyddio’r gwasanaethau presennol gyda 30% yn wastraff bwyd.   

 

Ffocws y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd oedd i gefnogi preswylwyr a chymunedau i osgoi gwastraff ac i hyrwyddo ailddefnyddio deunyddiau gwerthfawr, a phan fo hynny ddim yn bosib, i alluogi preswylwyr i ailgylchu eitemau trwy gael gwared arnyn nhw yn y ffrwd dros ben fel y cam olaf.

 

Ynghyd â’r mandad i addysgu’r cyhoedd ar ailgylchu a gweithdrefnau gorfodi, mae’r Gweinidog wedi gofyn i waith pellach gael ei wneud gan yr awdurdod i ddarparu cynllun gweithredu gyda mwy o feddwl y tu cefn iddo sy’n fwy realistig ac yn seiliedig ar dystiolaeth fel rhan o’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff.  Byddai’n golygu ymdrech ar y cyd gyda’r Prif Swyddog yn egluro ei bod yn bwysig fod preswylwyr a chymunedau yn cael y cyfle i siapio’r cynigion a byddai hynny’n golygu bod angen cynnal ymgynghoriad llawn. 

Byddai’r ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 1 Rhagfyr ac yn cael ei gynnal tan 12 Ionawr.  Byddai’n edrych fel arolwg byr ar-lein, cyfres o ddigwyddiadau galw heibio wyneb yn wyneb, sesiynau briffio i Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned a, phan na fyddai mynediad ar gael i’r arolwg ar-lein byddai arolygon papur yn cael eu darparu.

 

Cefnogodd yr Aelodau gynnwys yr adroddiad a’r ymgynghoriad sydd ar y ffordd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cydnabod y cynnydd sy’n cael ei wneud ar gyflawni Strategaeth Adnoddau a Gwastraff cadarn ac effeithiol i gwrdd â thargedau sero net ac i leihau’r siawns o risg o ddirwyon a chyflawni  ...  view the full Cofnodion text for item 77.

78.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl cyntaf i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 6. 

 

Roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredol o £3.559 miliwn (heb gynnwys effaith y dyraniadau cyflog y byddai angen eu talu o gronfeydd wrth gefn -  a amcangyfrifir yn oddeutu £2.727 miliwn), a oedd yn newid ffafriol o £0.101 miliwn, ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 5.   Nodwyd fod yr effaith ariannol o ganlyniad i storm Babet heb gael ei gynnwys yn yr amcanestyniad ond roedd disgwyl iddo fod yn sylweddol.

·         Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £3.776 miliwn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog a chymryd i ystyriaeth y Balansau a ryddhawyd i Gronfeydd wrth Gefn ym Mis 5).

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn (£0.069 miliwn) yn is na'r gyllideb a oedd yn symudiad ffafriol o (£0.075 miliwn) o'r ffigur a adroddwyd ym Mis 5.

·         Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.266 miliwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon economaidd yn parhau'n heriol gan fod lefelau chwyddiant yn parhau i fod yn uchel.  Roedd effeithiau hynny, ynghyd â'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau, yn dod yn fwyfwy anodd ymdrin â nhw wrth i gyllid y Cyngor fethu â chadw i fyny â maint y pwysau hynny.  Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, roedd moratoriwm drwy adolygu gwariant diangen ynghyd â phroses o reoli swyddi gweigion yn parhau.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y disgwylir i gostau yn ymwneud â Storm Babet i fod ar gael i’w hadrodd yn ôl i Gabinet ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24; a

 

(b)       Bod y newid defnydd o £0.100m o gronfa wrth gefn ar gyfer y gwasanaeth Galw Gofal fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

79.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6) pdf icon PDF 185 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 6 ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 ers ei gosod ym mis Ionawr 2023 hyd at ddiwedd Mis 6 (Medi 2023), ynghyd â’r gwariant gwirioneddol hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.

 

Bu gostyngiad net o £4.422 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:

 

  • Lleihad yng nghyllideb net y rhaglen o (£1.342m) (Gweler Tabl 2 - Cronfa’r Cyngor

(CC) £4.326m, y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) (£5.668m);

  • Swm i’w ddwyn ymlaen i 2024/25 wedi’i gymeradwyo ym Mis 4 o (£3.080 miliwn)

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £27.517 miliwn (Gweler Tabl 3).

 

Roedd derbyniadau cyfalaf a gafwyd yn yr ail chwarter o 2023/24 yn gyfanswm o £0.043m. Roedd hynny’n darparu arian dros ben diwygiedig a ragwelwyd yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 6 o

£1.996m (o arian dros ben ym Mis 4 o £1.953m) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26

cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol ac/neu ffynonellau cyllid eraill.

 

Pan adroddwyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gofynnwyd bod y tabl ar fuddsoddiad ar drefi sir yn cynnwys cyfnodau hirach er mwyn dangos buddsoddiadau dros amser.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo'r addasiadau i gael eu parhau; a

 

(c)        Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.

80.

Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2024/25 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad gan egluro bod gosod sail Treth y Cyngor yn rhan annatod o’r broses gosod cyllid refeniw a Threth y Cyngor

ar gyfer 2024/25. Roedd yn galluogi cyfrifo praesept Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf ar gyfer Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd

ar gyfer Gogledd Cymru.

Council Tax precept.

 

Roedd y sail wedi cael ei gyfrifo yn 66,081, ar gyfer eiddo sy’n cyfateb â band ‘D’ ar ôl

ystyried y cyfanswm o eiddo a fyddai’n destun Treth y Cyngor,

gan gynnwys y rheiny sy’n destun cyfraddau premiwm Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai

sydd wedi’u heithrio o Dreth y Cyngor neu lle mae gostyngiadau statudol i gartrefi’n berthnasol.

 

Mae gosod y sail dreth ar 66,081 gyfwerth â band ‘D’ hefyd yn ymgorffori’r

parhad o gyfraddau premiwm Treth y Cyngor o 75% ar gyfer eiddo Gwag Hirdymor

a 100% ar gyfer Ail Gartrefi. Yn gyffredinol mae hyn yn cynrychioli twf yn y sail dreth

o 0.4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan gynrychioli 266 ychwanegol o eiddo sydd gyfwerth â band D.

 

PENDERFYNWYD:

 

 

(a)       Cymeradwyo’r sylfaen dreth yn seiliedig ar 66,081 o eiddo Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25;

 

(b)       Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hynny'n berthnasol i’r sir gyfan; ac

 

(c)        At ddibenion pennu’r sylfaen dreth, mae’r sylfaen yn ymgorffori newidiadau arfaethedig i gyfraddau premiwm treth y cyngor a gosod cyfraddau ar 75% ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor a 100% ar gyfer Ail Gartrefi.

81.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen a’r prosiectau sydd wedi’u dewis ar gyfer derbyn grant trwy ddyraniad cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad, gan egluro y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad o £2.5 biliwn hyd at fis Mawrth 2025 ar draws y DU.   Nod y rhaglen oedd “meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd”.  Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £126 miliwn i Ogledd Cymru ar gyfer darparu’r rhaglen rhwng 2022/2023 a 2024/2025 ac roedd £11 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir y Fflint ar gyfer y rhaglen graidd.

 

Cymeradwyodd Cabinet y meini prawf a’r broses o ddyrannu cyllid gan y rhaglen i brosiectau ar 22 Tachwedd 2022 a rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) ac Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Economi i wneud hynny. Roedd proses drwyadl yn cael ei wneud a oedd yn cynnwys dau gam er mwyn gwneud penderfyniad terfynol ar ddyrannu i brosiectau haeddiannol, cyfanswm o 23.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu diweddariad ar ddyrannu cronfeydd CFfG i brosiectau a beth yw canlyniadau disgwyliedig y rhaglen ar gyfer cymunedau Sir y Fflint. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi argymhellion ar sut y dylid dyrannu cyllid CFfG wrth gefn sy’n codi, ac unrhyw gyllid heb ei ddyrannu yn ystod darparu’r rhaglen.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol ac roedd Aelodau ar y cyfan yn gefnogol o gynnwys yr adroddiad.  Roedd yr atodiadau i’r adroddiad wedi nodi’r prosiectau llwyddiannus a byddai adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei gyflwyno unwaith bob chwe mis.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd a wnaed o ran datblygu rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhanbarthol ac yn lleol; a

 

(b)       Bod y dull yr argymhellir i ddyrannu unrhyw arian wrth gefn o’r CFfG yn cael ei gymeradwyo a bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Economi i weithredu’r ymagwedd hynny ac i reoli newidiadau o fewn y prosiectau a gymeradwywyd.

82.

Menter Gymdeithasol pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        1) rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Cyngor i gefnogi mentrau cymdeithasol; 2) ymateb i adolygiad Archwilio Cymru o gefnogaeth i fentrau cymdeithasol yng Nghymru; a 3) cyflwyno hunanasesiad y Cyngor ar gefnogi mentrau cymdeithasol a’r cynllun gweithredu mentrau cymdeithasol diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad gan egluro fod Archwilio Cymru wedi cwblhau adolygiad yn ddiweddar o’r gefnogaeth y mae’r sector menter gymdeithasol yn ei gael gan awdurdodau lleol Cymru.   Roedden nhw wedi cyflwyno sawl argymhelliad a chreu offer hunanasesu i awdurdodau lleol eu defnyddio.  Mae Cyngor Sir y Fflint eisoes gyda strwythur wedi’i hen sefydlu i gefnogi’r sector a dyfarnwyd y cyngor yn ddiweddar gydag achrediad Menter Gymdeithasol i adlewyrchu ei gyflawniadau.  Fodd bynnag, mae’r adroddiad Archwilio Cymru wedi darparu’r Cyngor gyda’r cyfle i adlewyrchu ar ei berfformiad ac i wella ei wasanaeth.

 

Mae’r adroddiad wedi cyflwyno ymateb arfaethedig i argymhellion adroddiad Archwilio Cymru, ymarfer hunanasesiad wedi’i gyflawni gan y Cyngor yn defnyddio templed Archwilio Cymru ac i orffen, Cynllun Gweithredu Menter Gymdeithasol ddiwygiedig sy’n adlewyrchu meysydd o welliant a nodwyd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i gyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, lle roedd y manylion ar fenter gymdeithasol wedi derbyn ymateb cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo ymateb drafft i’r adroddiad Archwilio Cymru ‘Cyfle wedi’i golli’ - Mentrau Cymdeithasol; a

 

(b)       Bod y Cynllun Gweithredu Menter Gymdeithasol a ddatblygwyd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad uchod yn cael ei gymeradwyo.

83.

Adroddiad Ôl Troed Carbon Cyngor Sir y Fflint 2022-23 pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        Adroddiad Ôl Troed Carbon Cyngor Sir y Fflint 2022-23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi cyfrifo ei ôl troed carbon yn flynyddol i fesur cyfanswm yr allyriadau nwy t? gwydr yr oedd yn gyfrifol amdanynt i fonitro a chyfeirio ymdrechion datgarboneiddio at Garbon Sero Net erbyn 2030. Ym Medi 2023, roedd y cyfrifiad ar gyfer cyfnod 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023 wedi’i gwblhau a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC).

 

Roedd y Diweddariad Allyriadau Carbon 2022/23 yn cyflwyno cyfrifiad canlyniadau 2022/23

ac yn eu cymharu nhw gyda ffigyrau gwaelodlin y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2018/19 a oedd yn dangos lleihad mewn allyriadau nwy t? gwydr yn 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig eglurhad ar bâm bod allyriadau wedi newid yn ogystal â nodi unrhyw welliannau neu anawsterau yn ymwneud â’r data a’r fethodoleg.

 

Daeth yr adroddiad i ben gydag argymhelliad i archwilio’r defnydd o dechnolegau digidol fel Microsoft Power BI i wella ansawdd data ar gyfer rheoli mwy o allyriadau a lleihau amser staff yn casglu data, a hefyd ystyriaethau allweddol ar gyfer yr adolygiad Strategaeth Newid Hinsawdd yn 2024/25, yn arbennig y waelodlin ar gyfer allyriadau a thargedau ar gyfer y Cadwyn Cyflenwi a thargedau ar gyfer Symudedd a Chludiant.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod data yn aeddfedu o hyd ac y byddai hyd yn oed yn well y flwyddyn nesaf yn arbennig o ran staff yn teithio.   Codwyd cwestiynau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi ar y ffordd y dylai data gael ei gyflwyno, ac yn y dyfodol byddai mathau gwahanol o ynni adnewyddadwy yn cael eu rhannu o fewn yr adroddiad.  Cafodd cais ei wneud hefyd am ddata ychwanegol ar ffigyrau gwaelodlin ac roedd yr adroddiad yn cael ei gefnogi ar y cyfan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad, a’r cynnydd a wnaed yn y flwyddyn ddiwethaf i wella prosesau casglu data mewn perthynas ag ôl-troed carbon y Cyngor.

84.

Pwysau Digartrefedd pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        Cyflwyno mesurau lliniaru arfaethedig sy’n cael eu harchwilio gyda’r golwg i leihau’r pwysau cyllidebol mewn perthynas â llety brys.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd o fewn Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Medi 2023, yr argymhellwyd bod adroddiad ar wahân yn cael ei baratoi gan Dai a Chymunedau yn ôl gofynion Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, i ymhelaethu ar y rhesymau dros y gorwariant sylweddol ar y gyllideb ddigartrefedd a’r mesurau lliniaru a oedd yn cael eu rhoi ar waith.

 

Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’.

  Yn ogystal â’r gyllideb

ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys.  Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb.  Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf yn ystafelloedd mewn gwestai, o fewn a thu allan i ffiniau

Sir y Fflint, ynghyd â rhai ffurfiau eraill o letyai gwyliau fel carafanau a rhandai.

 

Roedd dewisiadau wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb ddigartrefedd, a amlinellwyd yn atodiad yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai wedi ystyried yr adroddiad ac wedi cefnogi’r dewisiadau wedi’u hamlinellu yn yr atodiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran ddigartrefedd; a

 

(b)       Chefnogi’r dewisiadau a amlinellwyd yn atodiad 1 i gynyddu cyflenwad a lliniaru gorwariant pellach ar y gyllideb ddigartrefedd.

85.

Polisi Adennill Dyledion Corfforaethol – Rhenti Tai pdf icon PDF 140 KB

Pwrpas:        I’r Cabinet gymeradwyo newidiadau i’r Polisi Adennill Dyledion Corfforaethol i gryfhau trefniadau casglu rhenti tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby adroddiad a dywedodd bod adroddiad diweddar i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Thai wedi darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar weithredu’r broses o gasglu rhent tai, ynghyd â’r cynigion i wella casgliadau drwy gymryd achos llys yn gynt. 

 

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys y cynigion i ddiwygio Polisi Adfer Dyledion Corfforaethol ac i gryfhau’r broses adfer dyledion ar gyfer rhent tai.

 

Y newid allweddol oedd trothwy wedi’i ddogfennu ar gyfer cymryd achos llys yn erbyn y deiliad contract a oedd yn ddyledus o 12 wythnos o rent ac/neu £1,500 ac oedd ddim yn cyfathrebu â’r Cyngor.

 

Newidiadau bach eraill i’r Polisi Adfer Dyledion Corfforaethol oedd diddymu awdurdodiadau a fyddai’n efelychu newidiadau diweddar i’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol lle byddai gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ymreolaeth i ddiddymu dyledion sengl hyd at £10,000 (yn hytrach na £5,000).  Byddai dyledion rhwng £10,000 a £25,000 yn 

parhau i gael eu diddymu mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ac roedd dyledion yn uwch na £25,000 yn cael eu cyfeirio at Gabinet cyn y diddymu.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y flwyddyn flaenorol ac wedi ei dderbyn yn bositif.

 

PENDERFYNWYD:

 

(b) Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Dyledion Corfforaethol i gryfhau prosesau casglu Rhent Tai trwy gymryd camau trwy’r llys, fel dull diofyn, mewn achosion lle nad oedd deiliaid contract yn gwneud taliadau, lle’r oedd ganddynt 12 wythnos o ôl-ddyledion a/neu yr oedd arnynt £1,500 neu fwy.

86.

Prydau Ysgol am Ddim (PYD) pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Ystyried cynigion yn dilyn Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd i’r Cyngor ym mis Medi 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad gan ddweud yn ystod pandemig Covid bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnod y gwyliau a hanner tymor.  Bwriad y cynllun oedd mynd i’r afael â ‘llwglyd dros y gwyliau’ ac i helpu teuluoedd a oedd yn methu ymdopi â’r argyfwng costau byw, a’r mecanwaith ar gyfer darparu’r fenter oedd un ai taliad uniongyrchol i deuluoedd â phlant cymwys neu dalebau, neu ddarparu cinio iddyn nhw.

 

Ar ddiwedd mis Mehefin fe gadarnhaodd LlC ei fod yn dod â’r gefnogaeth i ben

am ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i blant yn ystod cyfnod y gwyliau a hanner tymor.

 

Mewn cyfarfod y Cyngor ar 26 Medi 2023 mabwysiadwyd Rhybudd o Gynnig i

Brydau Ysgol am Ddim, a’r prif bwyntiau oedd:

 

  • Bod Cabinet yn ymrwymo i weithio i ddod o hyd i adnoddau yn ystod

gwyliau’r Nadolig i deuluoedd sy’n derbyn prydau ysgol am ddim ac i gyflwyno adroddiad

i Gabinet ym mis Tachwedd gyda chynigion ar sut y gellir cyflawni hyn. Byddai Cabinet

 

  • yn sefydlu gweithgor i adrodd yn ôl i Gabinet.  Bydd y gweithgor

yn cael ei gadeirio gan Aelod Mainc Cefn y Cyngor ond bydd hefyd yn cynnwys y Cynghorydd Paul Johnson a’r Cynghorydd Mared Eastwood gyda chynrychiolwyr ar draws y Siambr.

 

            Roedd cylch gorchwyl y gweithgor wedi’i atodi i’r adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       I gymeradwyo bod y taliad o £25.00 ar gyfer pob disgybl cymwys i fynd i’r afael â’r cyfnod dros wyliau’r Nadolig yn dod o’r gronfa galedi (amcangyfrifir cyfanswm o £129,825); a

 

(b)       Bod Gr?p Gweithgor yn cael ei sefydlu a bod y gr?p yn adrodd yn ôl ar ei ddarganfyddiadau cyn penderfynu ar gyllideb 2024/25.  Prif nod y Gweithgor yw ystyried ac argymell dewisiadau cynaliadwy ar gyfer gwyliau ysgol yn y dyfodol.

87.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad gan ddweud yn ystod pandemig Covid bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnod y gwyliau a hanner tymor.  Bwriad y cynllun oedd mynd i’r afael â ‘llwglyd dros y gwyliau’ ac i helpu teuluoedd a oedd yn methu ymdopi â’r argyfwng costau byw, a’r mecanwaith ar gyfer darparu’r fenter oedd un ai taliad uniongyrchol i deuluoedd â phlant cymwys neu dalebau, neu ddarparu cinio iddyn nhw.

 

Ar ddiwedd mis Mehefin fe gadarnhaodd LlC ei fod yn dod â’r gefnogaeth i ben

am ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i blant yn ystod cyfnod y gwyliau a hanner tymor.

 

Mewn cyfarfod y Cyngor ar 26 Medi 2023 mabwysiadwyd Rhybudd o Gynnig i

Brydau Ysgol am Ddim, a’r prif bwyntiau oedd:

 

  • Bod Cabinet yn ymrwymo i weithio i ddod o hyd i adnoddau yn ystod

gwyliau’r Nadolig i deuluoedd sy’n derbyn prydau ysgol am ddim ac i gyflwyno adroddiad

i Gabinet ym mis Tachwedd gyda chynigion ar sut y gellir cyflawni hyn. Byddai Cabinet

 

  • yn sefydlu gweithgor i adrodd yn ôl i Gabinet.  Bydd y gweithgor

yn cael ei gadeirio gan Aelod Mainc Cefn y Cyngor ond bydd hefyd yn cynnwys y Cynghorydd Paul Johnson a’r Cynghorydd Mared Eastwood gyda chynrychiolwyr ar draws y Siambr.

 

            Roedd cylch gorchwyl y gweithgor wedi’i atodi i’r adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       I gymeradwyo bod y taliad o £25.00 ar gyfer pob disgybl cymwys i fynd i’r afael â’r cyfnod dros wyliau’r Nadolig yn dod o’r gronfa galedi (amcangyfrifir cyfanswm o £129,825); a

 

(b)       Bod Gr?p Gweithgor yn cael ei sefydlu a bod y gr?p yn adrodd yn ôl ar ei ddarganfyddiadau cyn penderfynu ar gyllideb 2024/25.  Prif nod y Gweithgor yw ystyried ac argymell dewisiadau cynaliadwy ar gyfer gwyliau ysgol yn y dyfodol.

88.

Ymestyn y Ddarpariaeth Addysg Arbenigol

Pwrpas:        Sicrhau cytundeb i ymestyn y ddarpariaeth arbenigol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i’r ehangiad arfaethedig o ddarpariaeth addysg arbenigol yn fewnol a chymeradwyaeth i symud ymlaen i gyflwyno hysbysiad statudol ar gyfer cynnydd mewn llefydd i ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Arbennig Pen Coch, Y Fflint. 

 

Byddai’n unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

 

PENDERFYNWYD:

           

Rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno hysbysiad statudol i gynyddu’r llefydd i ddisgyblion yn Ysgol Pen Coch, Y Fflint.

89.

Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Aura

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chodi materion i’w hystyried.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig wedi’i sefydlu yn 2017 i ddarparu prosiect, gyda’r nodau ac amcanion yn disgyn o fewn meini prawf cymhwyso ar gyfer cyllid grant gan y Cyngor. 

 

Mae’r Cyngor wedi bod mewn trafodaeth gyda Aura ynghylch dewisiadau am gytundeb hirdymor newydd ac wedi comisiynu gwaith i helpu i ddeall a gwneud penderfyniadau.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)       Bod yr egwyddorion lefel uchel o drefniant cytundebol newydd yn cael eu cefnogi a bod ffactorau eraill wedi’u nodi yn cael eu hystyried;

 

(b)       Bod cynnig cyllido (yn ystod cynnydd chwyddiant) o 3.1% yn cael ei dalu i Aura ar gyfer 2024/25 yn cael ei gefnogi; a

 

(c)        Cefnogi estyniad ymhellach i’r cytundeb cyllido presennol, am gyfnod o 12 mis, os na ellir cael cytundeb cynnar ar gyfer trefniant cytundebol newydd o Ebrill 2024 ac/neu fod yna lithriad pellach yn y gwaith rhagarweiniol.

 

90.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.