Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol

a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

21.

Cofnodion pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 20 Mehefin 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gofnodion cywir.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

22.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cyllideb 2024/25 pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer y gofyniad ychwanegol cyllideb 2024/25 a’r strategaeth ac amserlen y gyllideb sy’n datblygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn adolygu ac yn diweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn flynyddol.  Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn rhagweld yr adnoddau y byddai’r Cyngor eu hangen i fodloni ei sail costau, sy’n newid yn gyson, ar gyfer y blynyddoedd i ddod.  Mireinio’r rhagolygon oedd y cam cyntaf i gynllunio’r gofynion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

Yn dilyn y gofyniad cyllidebol a ragwelwyd ar y cychwyn, roedd y rhagolygon ar gyfer 2024-25 wedi eu diweddaru i ystyried y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf ar dâl y sector cyhoeddus, yr effaith a amcangyfrifir o ran y newidiadau i’r galw ar wasanaethau ac effeithiau parhaus chwyddiant.  Roedd y rhagolygon a ddiwygiwyd yn dangos, ar y cyfnod cynnar hwn, fod yna ofyniad cyllidebol ychwanegol o £32.222 miliwn yn debygol o fod ar gyfer 2024/25.

 

Wedi ei atodi i’r adroddiad roedd manylion yr holl bwysau costau ar gyfer 2024-25 yn ogystal ag arwyddion cynnar o bwysau ar gyfer 2025/26 a 2026/27.

 

Roedd gweithdy ar gyfer yr holl Aelodau wedi ei drefnu i’w gynnal ar 31 Gorffennaf i alluogi Aelodau i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ariannol ac i gyfrannu at ddatblygu strategaeth y gyllideb.

 

Roedd angen datblygu strategaeth gyllideb fanwl ar frys yn gyfochrog â chyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ar y rhagolygon ariannol ar draws Cymru gan gynnwys unrhyw ddewisiadau oedd ar gael i gynyddu’r cwantwm cyffredinol sydd ar gael ar gyfer llywodraeth leol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth ychwanegol ar y rhesymau dros y cynnydd yng ngofyniad y gyllideb.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni wnaed unrhyw sylwadau.

 

Roedd amlinelliad o amserlen y gyllideb wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y wybodaeth ddiweddaraf ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn cael ei dderbyn; ac y

 

(b)          Cytunir ar y broses a’r amserlen ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25.

23.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 pdf icon PDF 223 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 cyn i’r Cyngor Sir roi sêl bendith iddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac eglurodd ei fod yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel y nodir ym Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint 2022/23.

 

Yn 2022/23 roedd y Cyngor wedi symud o’r ymagwedd adferol fel rhan o bandemig Covid-19 ac wedi symud at ymagwedd ‘busnes fel arfer’.

Roedd y perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol yn gyffredinol gyda 61% o’rdangosyddion perfformiad yn bodloni neu’n mynd y tu hwnt i’r targed ar gyfer y flwyddyn ac roedd y Cyngor hefyd nawr yn adrodd ar fwy o ‘Gamau Gweithredu’ a ‘Mesurau’ nac yn 2021/22; cyfanswm o 160 o Gamau Gweithredu a 111 o Fesurau o’i gymharu â 2021/22 pan adroddwyd ar 144 o Gamau Gweithredu a 60 o Fesurau.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y perfformiad ar gyfer 2022/23 yn erbyn Camau Gweithredu a Mesurau Cynllun y Cyngor wedi eu crynhoi mewn siart yn yr adroddiad.  Dyma’r cynnydd cyffredinol yn erbyn y camau gweithredu:

 

·         Gwnaed cynnydd da (gwyrdd) mewn 77% (123) o weithgareddau.

·         Gwnaed cynnydd boddhaol (oren) mewn 19% (31) o weithgareddau.

·         Gwnaed cynnydd cyfyngedig (coch) mewn 4% (6) o weithgareddau

 

Byddai’r Adroddiad ar gael drwy wefan y Cyngor unwaith y byddai’n cael ei gyhoeddi a byddai copïau papur hefyd ar gael gyda dogfennau ategol.

 

Roedd y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

wedi parhau i ystyried meysydd perfformiad a oedd yn tanberfformio (tuedd tuag at i lawr a/neu safle meincnod chwartel isel) trwy gydol 2022/23.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23, gan nodi perfformiad a gyflawnwyd.

24.

Mabwysiadu Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Y Cabinet i nodi’r dull o weithio sy’n cael ei gymryd a chynnydd hyd yma ar y Strategaeth Toiledau Lleol ac amserlenni’r adolygiad ffurfiol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad ac eglurodd fod strategaeth toiledau lleol presennol Sir y Fflint wedi ei gymeradwyo a’i gyhoeddi ym Mai 2019.  Mae canllawiau cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu’r polisi bob dwy flynedd o pryd y cyhoeddodd neu yr adolygodd yr awdurdod lleol ei strategaeth ddiwethaf, ac o fewn blwyddyn i bob etholiad llywodraeth leol cyffredin.

 

Cyflwynwyd yr adolygiad o’r strategaeth ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 7 Mawrth 2023 pan gefnogodd Aelodau yr adolygiad arfaethedig o’r strategaeth toiledau lleol a’r ymagwedd arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad. Diben yr adroddiad oedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cabinet yn dilyn cyhoeddi holiadur yr ymgynghoriad a sut y byddent yn mynd i’r afael â’r sylwadau a godwyd yn y cynllun gweithredu arfaethedig.

 

Byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei ymgorffori o fewn y strategaeth toiledau lleol cyn agor yr ymgynghoriad 12 wythnos ffurfiol ar y Strategaeth Toiledau Lleol diwygiedig dros yr haf.

 

Nod y strategaeth newydd yw adlewyrchu uchelgais arweinyddiaeth y cyngor i ddarparu gwell cyfleusterau i breswylwyr ac ymwelwyr Sir y Fflint.

 

Fe dderbyniodd yr holiadur 687 o ymatebion tua 430 o ymatebion fesul cwestiwn a darparwyd crynodeb o’r ymatebion. 

 

Byddai adroddiad arall, i fabwysiadu’r strategaeth yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn yr hydref.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cydnabod canlyniadau’r holiadur a chefnogi’r cynllun gweithredu a gyflwynwyd; a

 

(b)       Chefnogi’r adolygiad drafft o’r Strategaeth Toiledau Lleol a’r cynllun gweithredu a adnewyddwyd cyn lansio’r ymgynghoriad 12 wythnos.

25.

Monitro'r Gyllideb Refeniw 2022/23 (Canlyniadau) pdf icon PDF 169 KB

Pwrpas:        Cyflwyno gwybodaeth fonitro canlyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 (yn amodol ar archwiliad).

 

Roedd y Cyfrifon ar gyfer 2022/23 bellach wedi eu cau i bob pwrpas ac roedd y Cyngor ar y trywydd iawn i gyflwyno’r Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau cefnogol i Archwilio Cymru o fewn yr amserlen a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cyflwynwyd mesurau i adolygu a herio gwariant nad oedd yn angenrheidiol a recriwtio i leoedd gwag gyda’r nod o leihau

gwariant yn ystod y flwyddyn i leihau’r gorwariant a ragwelir ar yr adeg honno. Cafodd y gwaith hwnnw effaith cadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.

 

Y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn oedd:

Cronfa’r Cyngor

·         Gwarged gweithredol o (£3.013 miliwn) a oedd yn symudiad ffafriol o

(£0.907 miliwn) o’r ffigwr a adroddwyd ddiwethaf o (£2.106 miliwn) fel ar Fis 11.

·         Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2023 yn £9.508 miliwn.

 

Nid oedd sefyllfa derfynol arian dros ben Cronfa’r Cyngor o (£3.013 miliwn) yn cynnwyseitemau untro amrywiol y gwariwyd arnynt a oedd yn gyfanswm o £5.876 miliwn a gymeradwywyd i’w cyllido o’r Gronfa Hapddigwyddiad fel y Dyfarniad Cyflog o £3.826 miliwn, costau cysylltiedig â COVIDo £1.573 miliwn a chostau untro y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn y Gwasanaethau Plant o £0.477 miliwn. Pe byddai’r symiau hynny wedi eu cymryd o’r gyllideb refeniw yn ystod y flwyddyn, fe fyddai ynaorwariant net cyffredinol o £2.863 miliwn wedi bod ar gyfer y flwyddyn ariannol.

 

Roedd y gwarged gweithredol o (£3.013 miliwn) gyfwerth â 0.9% o’r Gyllideb Gymeradwy, a oedd yn uwch na tharged DPA y SATC ar gyfer amrywiad yn erbyn cyllideb o 0.5%.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Roedd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £2.688 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Balans terfynol o £3.786 miliwn ar 31 Mawrth 2023.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y cyfrifon, ers cwblhau’r adroddiad, wedi eu cyflwyno’n ffurfiol i Archwilio Cymru ac yr adroddir arnynt i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr wythnos ganlynol.

 

            Fe edrychir ar gronfeydd nad ydynt wedi eu clustnodi dros yr haf a byddai unrhyw rai nad oes eu hangen mwyach yn cael eu symud i’r gronfa arian at raid.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad wedi ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol lle gofynnwyd cwestiynau am daliadau am dorri rheolau’n ymwneud â gwastraff, cost y Cynllun Datblygu Lleol a’r Cyfrif Benthyciadau a Buddsoddi Canolog.  Cafodd y Rheolwr Cyllid a’i dîm eu llongyfarch gan y Pwyllgor ar gyflawni cyfradd casglu o 97.4% ar gyfer Treth y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2023 (yn amodol ar archwilio);

 

(b)       Nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai (yn amodol ar archwilio); a

 

(c)        Chymeradwyo cario arian ymlaen.

26.

2023/24 monitro cyllideb refeniw (Interim) pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/24 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r trosolwg cyntaf o sefyllfa monitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 lle’r adroddwyd drwy eithriad ar amrywiaethau arwyddocaol posibl a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2023/24.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai dim ond yn yr adroddiad roedd risgiau ariannol wedi eu hamlygu yn ystod y cyfnod cynnar hwn.  Byddai’r gallu i liniaru’r risgiau hynny yn canolbwyntio ar adolygu a herio gwariant gohiriedig gan wneud y mwyaf o ffrydiau incwm a chyllid grant.

           

Lefel derfynol Cronfa Wrth Gefn At Raid Cronfa'r Cyngor a ddygwyd ymlaen i 2022/23 oedd £9.508 miliwn fel y manylir yn adroddiad sefyllfa derfynol 2022/23 (yn amodol ar archwiliad).

 

Roedd cyfanswm o £3.743 miliwn yn parhau ar gael o’r gronfa argyfwng COVID gwreiddiol £5.316 miliwn a glustnodwyd.

 

Byddai adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi a fyddai’n rhoi rhagamcan ar y sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2023/24.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad wedi ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni wnaed unrhyw sylwadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad ar gyllideb 2023/24 a’r risgiau ariannol posibl; a

 

(b)       Chymeradwyo’r dyraniad o £0.100 miliwn o’r Gronfa Arian at Raid ar gyfer Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd.

27.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Sefyllfa Derfynol) pdf icon PDF 190 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r wybodaeth am Sefyllfa Derfynol Rhaglen Gyfalaf 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2022/23 ynghyd â newidiadau i'r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter olaf.

 

Bu gostyngiad net yng nghyllideb y Rhaglen Gyfalaf (o £12.735 miliwn) yn ystod y chwarter diwethaf a oedd yn cynnwys:

 

  • Gostyngiad cyllideb net yn y rhaglen (o £6.382 miliwn) (Gweler Tabl 2 - Cronfa’r Cyngor

(£4.243 miliwn), Y Gronfa Refeniw Tai (£2.139 miliwn);

  • Swm i’w gario ymlaen i 2023/24, wedi’i gymeradwyo ym mis 9 o (£3.060 miliwn) wedi ei wrthbwyso’n rhannol

drwy wrthdroi’r swm a gaiff ei Gario Ymlaen o £0.245 miliwn;

  • Newid grant Cynnal a Chadw Ysgolion (£2.524 miliwn) a grant Anghenion Dysgu Ychwanegol

(£1.001 miliwn) (i gyd o Gronfa’r Cyngor);

  • Arbedion a ddynodwyd yn y sefyllfa derfynol (o £0.013 miliwn) (Cronfa’r Cyngor)

 

Y gwir wariant ar gyfer y flwyddyn oedd £55.013 miliwn.

 

Gwarged gyllido’r sefyllfa derfynol o Raglen Gyfalaf 2024/25 oedd £4.313 miliwn. Cafodd Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 ei chymeradwyo ar 24 Ionawr 2023 gan gyfrif £3.376 miliwn o arian dros ben y flwyddyn bresennol tuag at y rhaglen a gadael gwarged a ragamcanir o £0.365 miliwn. Fe gafodd y sefyllfa derfynolar gyfer 2022/23 yr effaith o warged sefyllfa gyllido agoriadol diwygiedig o £1.302 miliwn, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad wedi ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni wnaed unrhyw sylwadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;

 

(b)       Cymeradwyo'r addasiadau cario ymlaen; a

 

(c)        Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.

28.

Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2022/23 pdf icon PDF 159 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod yn rhaid i Gynghorau, o dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf Mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus),fel y’i diweddarwyd yn 2017, bennu amrediad o ddangosyddion darbodus.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi manylion yngl?n â gwir ddangosyddion darbodus y Cyngor ar gyferblwyddyn ariannol 2022/23 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a osodwyd ar gyfer:-

 

  • Dangosyddion Darbodus ar gyfer Doethineb
  • Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r dangosyddion darbodus.

29.

Dileu Ardrethi Busnes pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Cabinet i gymeradwyo dileu drwgddyledion unigol ar gyfer Ardrethi Busnes dros £25,000.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ar gyfer drwgddyledion unigol dros £25,000 fod Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo unrhyw argymhellion i ddiddymu dyledion.

 

Nodwyd fod dyled Ardrethi Busnes ar gyfer PPA Ltd, sy’n gyfanswm o £38,563.06 yn anadferadwy gan fod y cwmni nawr wedi ei ddiddymu’n orfodol. Roedd Ardrethi Busnesbob amser yn cael eu dosbarthu fel dyledion na roddir blaenoriaeth iddynt a gan nad oedd yna unrhyw asedauar gael i gredydwyr na roddir blaenoriaeth iddynt nid oedd hi’n bosibl mwyach i adfer y dyledion Ardrethi Busnes hyn yn llwyddiannus.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd y cynigion, fel nodir yn yr ymgynghoriad, yn cael unrhyw oblygiadau uniongyrchol o ran adnoddau i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo diddymu’r Ardrethi Busnes sy’n gyfanswm o £38,563.06 ar gyfer PPA Ltd.

30.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Rhyddhad Ardrethi Gwelliannau Ardrethi Busnes pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ac ymateb a argymhellir i’r Cabinet ar gyfer ymgynghoriad Ardrethi Busnes Llywodraeth Cymru ar gynigion i gyflwyno cynllunRhyddhad Ardrethi Gwelliannau’.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac ymateb a argymhellwyd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i gyflwyno Cynllun Gwella Rhyddhad Ardrethi Busnes o Ebrill 2024.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y cynllun yn anelu i gefnogi twf a buddsoddiad yn y sylfaen drethu. Ei fwriad oedd annog talwyr ardrethi i fuddsoddi mewn gwelliannau i’w heiddo drwy ddarparu rhyddhad tymor byr, am gyfnod o ddeuddeg mis, o effaith cynnydd gwerth trethiannol o ganlyniad yn eu hatebolrwydd Ardreth Annomestig. Felly pan oedd eiddo yn cael ei wella byddai lefel newydd yr Ardreth Annomestig wedi ei seilio ar y gwerth trethiannol gwell yn cael ei ohirio am flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynigion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ac awdurdodi’r Rheolwr Cyllid a Chaffael mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol i ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad fel y nodir yn yr adroddiad.

31.

Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2023 pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth i ganlyniadau’r adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod yr adolygiad o ffioedd a thaliadau 2023 wedi’i gwblhau yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor sy’n nodi'r rhesymeg a'r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau.

 

Roedd canlyniad yr adolygiad wedi’i atodi i’r adroddiad a byddai’n berthnasol o 1 Hydref 2023.

 

Roedd cymhwyso’r egwyddorion a gaiff eu cynnwys ym Mholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor, fersiwn 3 a gymeradwywyd gan y Cabinet yng Ngorffennaf 2022, wedi sicrhau bod unrhyw newidiadau i daliadau wedi eu rheoli yn briodol o dan adolygiad 2023.

 

Mae fersiwn tri y polisi wedi ei atodi fel Atodiad B. 

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu gofynion parhaus yr adolygiad blynyddol o ffioedda thaliadau ar gyfer 2023, yn arbennig ar gyfer y ffioedd a thaliadau hynny nad ydynt eto wedi dangos eu bod wedi adfer y gost yn llawn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod yna ddiwygiad i’r manylion yn yr atodiad a oedd yn ymwneud â ffioedd parcio yng nghanol y dref, a ddylai fod fel a ganlyn:

 

  • byddai 60 munud yn dod yn 90 munud a byddai’r ffi yn cynyddu o 30 ceiniog i 50 ceiniog
  • byddai 120 munud yn dod yn 150 munud a byddai’r ffi yn cynyddu o 50 ceiniog i 70 ceiniog
    • Byddai’r ffioedd yn weithredol rhwng 0800-1500 a byddai modd parcio’n rhad ac am ddim ar ôl 3pm.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau sydd i’w gweld yn Atodiad A i’w gweithredu ar 1 Hydref 2023; a

 

(b)       Chytuno fod fersiwn addas i’r cwsmer o’r amserlen ffioedd a thaliadau’n cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi.

32.

Adnewyddu Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Mae’r cytundeb fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru cyfredol yn dod i ben fis Mai 2024, ac mae'r adroddiad hwn yn amlinellu’r dull arfaethedig ar gyfer adnewyddu’r Cytundeb Fframwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod y defnydd o fframweithiau caffael yn cael eu cydnabod yn eang ac yn cael eu defnyddio fel ffordd o leihau costau trafodion, gan ddarparu gwelliant parhaus o fewn perthnasoedd hirdymor ac i alluogi sefydliadau sector cyhoeddus i gael gwell gwerth a mwy o gyfoeth cymunedol.

 

Fe sefydlwyd Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru yn 2014, yn bennaf i gyflawni adeiladu adeiladau ysgol newydd, neu ailfodelu ac adnewyddu adeiladau ysgol presennol o dan Gymunedau Cynaliadwy ar gyfer dysgu Llywodraeth Cymru

a oedd yn cael ei adnabod yn flaenorol felRhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Roedd y Fframwaith yn bartneriaeth rhwng y chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel yr Aelod Arweiniol. Fe gyflawnodd y Fframwaith ystod o brosiectau ar draws gwahanol sectorau a gallai hefyd gael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn y rhanbarth i gyflawni eu prosiectau adeiladu.

 

Fe ddaeth y cytundeb fframwaith cyfredol i ben ym Mai 2024, ac mae'r adroddiad yn amlinellu’r dull arfaethedig ar gyfer adnewyddu’r Cytundeb Fframwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ymagwedd a amlinellwyd i gaffael cenhedlaeth nesaf fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru.

33.

Adolygu Rhwystr Mynediad – Llwybr Arfordir Cymru pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Hysbysu aelodau am adolygiad diweddar i rwystrau mynediad ar hyd Llwybr Arfordir Cymru (Rhan Caer i Lannau Dyfrdwy) a cheisio eu cymeradwyaeth i weithredu’r argymhellion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi penodi ymgynghorydd i ymgymryd ag adolygiad o’r mesurau rheoli mynediad presennol sydd mewn grym ar ran o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Caer a Queensferry.

 

Roedd y rhwystrau rheoli mynediad mewn grym i amddiffyn defnyddwyr Llwybr Arfordir Cymru rhag y risgiau a gyflwynir gan fynediad anghyfreithlon i gerbydau i’r llwybr, fodd bynnag gallai’r rhwystrau presennol achosi problemau mynediad i ddefnyddwyr rhai sgwteri symudedd neu feiciau anghonfensiynol.

 

Roedd yr astudiaeth yn adolygu’r cyd-destun cefndirol, deddfwriaethau, dimensiynau’r rhwystrau a chyfyngiadau ar ddefnyddwyr er mwyn cyflwyno argymhellion ar gyfer yr 14 pwynt mynediado Gaer i Lannau Dyfrdwy. Cafodd argymhellion i wella mynediad eu cydbwyso yn erbyn unrhyw effaith o ddiwygiadau o’r fath ar hygyrchedd cerbydau anghyfreithlon.

 

            Roedd yna ddau brif argymhelliad arfaethedig:

 

  • Ffrâm - uwchraddio’r rhwystr hwn i Rwystr Ffrâm A gyda Giât â Chlo Radar.

Byddai hyn yn cynnig datrysiad cost effeithiol gyda’r potensial ar gyfer gwell

hygyrchedd i ddefnyddwyr cyfreithlon sydd ag allwedd radar (sydd ar gael yn  hawdd ar-lein) tra’n parhau i gynnal rhwystr effeithiol i fynediad cerbydau anghyfreithlon.

 

  • Rhwystrau igam ogam - Argymhellwyd gosod datrysiad gatiau gwasgarog yn lle’r rhwystrau igam ogam presennol. Byddai hyn yn cadw’r lefel bresennol o

athreiddedd i ddefnyddwyr cyfreithlon (a allai gael ei hybu pe byddai’r

gatiau yn cael eu gosod gyda chloeon radar a allai gael eu hagor yn ôl yr angen), abyddai’n cadw’r lefel bresennol o rwystr i fynediad anghyfreithlon i gerbydau.

 

Ar 11 Gorffennaf fe gefnogodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi a Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint y gwaith i ddarparu gwell mynediad i Lwybr Arfordir Cymru ac argymell y byddai ymgynghoriad pellach gyda grwpiau defnyddwyr penodol o fantais. Cynigiwyd gan fod dyluniad yn cael ei wneud ym mhob pwynt mynediad penodol, y byddai’r cynllun yn cael ei rannu gan wahodd adborth gan Swyddog Diogelu Trwy Ddyluniad Heddlu Gogledd Cymru, grwpiau beicio ac anabledd. Wedyn fe fyddai hyn yn cael ei weithredu.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai cyllid grant yn cael ei ddefnyddio i weithredu’r datrysiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi canfyddiadau’r adolygiad a chefnogi’r argymhellion ar gyfer gwell hygyrchedd.

34.

Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24 Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010.

 

Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf a sut y byddent yn cael eu cyflawni.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos cynt lle roedd Aelodau wedi mynegi eu gwerthfawrogiad o’r gwaith a wnaed gan y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2023-24.

35.

Cydnerthedd a Gallu i Gyflenwi yn y Gwasanaethau Stryd a Chludiant pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Rhoigorolwg i’r Cabinet ar y sefyllfa staffio bresennol, sy’n effeithio ar gydnerthedd y timau Gwasanaethau Fflyd a Strategaeth Gwastraff a’u gallu i ymateb i’r galw am y gwasanaeth a chyflawni’r blaenoriaethau’n effeithiol ac yn hyblyg, ac argymhellion i ddatrys y broblem.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth wedi profi sawl problem dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda recriwtio staff, cadw staff ac absenoldebau hirdymor a oedd wedi effeithio ar wytnwch a chapasiti’r timau presennol.

 

Rhagwelwyd y byddai’r galw ar y portffolio yn parhau i gynyddu wrth i ddeddfwriaeth gael ei diweddaru neu ei chyflwyno ac roedd y pwysau i ddarparu gwasanaethau ychwanegol neu newydd yn lluosogi.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg i Aelodau o’r problemau staffio parhaus o fewn y portffolio, a oedd yn effeithio ar wytnwch a chapasiti’r timau presennol i ymateb i ofynion gwasanaethau a darparu blaenoriaethau gwasanaethau’n effeithiol ac yn hyblyg.

 

Cyflwynodd yr adroddiad gynigion i fynd i’r afael â’r materion o ran gwytnwch a chapasiti o fewn y portffolio mewn dau faes allweddol: gwasanaethau fflyd a’r strategaeth wastraff. Nid oedd y cynigion angen unrhyw newidiadau strwythurol ac nid oeddent yn rhoi unrhyw weithwyr presennol mewn perygl. Roedd y meysydd hynny o’r portffolio wedi eu nodi fel rhai risg uchel, lle roedd angen capasiti cynyddol i sicrhau fod y gwasanaeth yn parhau yn wydn gan sicrhau fod targedau statudol yn cael eu bodloni, fod dyletswyddau cyfreithiol yn cael eu gwireddu a bod y galw a ragwelir ar gyfer y dyfodol yn cael ei fodloni.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod rôl y Rheolwr Fflyd yn un statudol ac fel y rheolwr trafnidiaeth rhagnodedig ar drwydded y gweithredwr, roedd yn ofynnol iddo sicrhau fod y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludo nwyddau ar y ffyrdd yn cael eu bodloni. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod yr heriau a wynebir gan y portffolio yn nhermau gwytnwch staff a chapasiti yn cael eu cydnabod a bod y risgiau cysylltiedig a amlygwyd yn cael eu nodi; a

 

(b)       Bod y cynigion y manylir arnynt yn yr adroddiad yn cael eu cefnogi, a fyddai’n golygu fod angen dyrannu cyllideb ychwanegol ar gyfer creu y swyddi ychwanegol canlynol:

  • Gwasanaethau Fflyd - dwy swydd ychwanegol i gefnogi darpariaeth a darparu gwytnwch.
  • Y Strategaeth Wastraff - tair swydd swyddog ailgylchu a chydymffurfedd data ychwanegol

36.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r

Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth ar y camau gweithredu a gymrwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Mae’r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint 202 (Kinnerton Lane a Lesters Lane, Higher Kinnerton) (Terfyn Cyflymder 40 milltir yr awr) (Diwygiad rhif 02)

Hysbysu’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd ar ôl hysbysebu’r terfyn cyflymder 40 milltir yr awr ar y ffyrdd fel y rhestrir uchod.

 

Arlwyo a Glanhau NEWydd

 

  • Cynyddu Pris Prydau Ysgol

Mae’r pwysau o ran costau ar ddarpariaeth prydau ysgol ers yr adolygiad blaenorol yn Ebrill 2022 wedi bod yn arwyddocaol.  Gyda RPI ar hyn o bryd yn 13.8% ac yn benodol chwyddiant bwyd yn 19.3% a gyda’r pwysau ychwanegol o gyfraddau llafur yn cynyddu o dros 10%, mae’r angen am gynnydd ym mhris prydau ysgol yn glir er yn destun gofid.

 

Mae cynnydd yn galluogi NEWydd i barhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd yn unol â chostau sy’n cynyddu’n gyflym, yn arbennig y rhai hynny sy’n gysylltiedig â bwyd a llafur.

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo Ased Cymunedol, Canolfan Ieuenctid Glanrafon, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Mae’r ardaloedd a’r ased sydd i’w trosglwyddo wedi eu nodi ar gynllun lleoliad y safle ag ymyl coch.  Mae cyfnod y trosglwyddiad am saith mlynedd ar hugain am rent bychan iawn gyda’r dewis o dorri’n rhydd wedi blwyddyn yn ymarferadwy gan y tenant yn unig.

 

  • Trosglwyddo Ased Cymunedol, Llyfrgell Bagillt, Gadlys Lane, Bagillt, Sir y Fflint

Mae’r ardaloedd a’r ased i’w trosglwyddo wedi eu nodi ar gynllun lleoliad y safle ag ymyl coch.  Mae cyfnod y trosglwyddiad am saith mlynedd ar hugain am rent bychan iawn gyda’r dewis o dorri’n rhydd wedi blwyddyn yn ymarferadwy gan y tenant yn unig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

37.

Tair Ffordd a Phrosiect Adleoli Growing Places (Datblygiad Maes Gwern)

Pwrpas:        I roi diweddariad i’r Cabinet am gynnydd datblygiad Maes Gwern yn Yr Wyddgrug.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar y prosiect ad-leoli ar gyfer Tri Ffordd a Growing Places.

 

PENDERFYNWYD:

           

Fod y cynnydd a wnaed ar gyfer datblygiad Maes Gwern yn cael ei nodi a bod awdurdod yn cael ei roi i fynd i gontract ar gyfer adeiladu’r datblygiad newydd cyn belled â bod grant Llywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo.

38.

Caffael Contract Asiantaeth a Reolir Newydd

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i ddyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir yn dilyn proses gaffael i sicrhau parhad busnes pan fydd y contract presennol yn dod i ben ar 28 Awst 2023.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ar gyfer caffael contract newydd asiantaeth a reolir a fyddai’n cael ei sefydlu i gychwyn am gyfnod o dair blynedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo dyfarnu’r contract i’r cwmni a amlinellir yn yr adroddiad, am gyfnod cychwynnol o dair blynedd yn dechrau ar 29 Awst 2023, gyda’r dewis o ymestyn hyd at 12 mis arall.

39.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.