Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

151.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol

a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Bibby, Healey, Jones a Mullin gysylltiad personol ag eitem rhif 11 ar y rhaglen - Parcio y Tu Allan i Ysgolion a Gorfodaeth.  Datganodd y Cynghorwyr Jones a Roberts gysylltiad personol ag eitem rhif 12 ar y rhaglen - Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.

152.

Cofnodion pdf icon PDF 155 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 14 Mawrth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2023 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

153.

Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Rhannu cynnwys rhan 1 a 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 i’w adolygu a’i gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd.

 

Roedd strwythur y Cynllun yn cynnwys saith blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol.  Roedd y saith blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar adfer, prosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf.  Amlinellwyd manylion pob blaenoriaeth.

 

Byddai Cynllun y Cyngor yn cael ei gyhoeddi mewn fformat tebyg i’r blynyddoedd blaenorol, gan nodi camau gweithredu gyda’r nod o gyflawni’r amcanion lles, blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau.  Byddai materion/risgiau cenedlaethol a rhanbarthol a allai effeithio ar gyflawniad y blaenoriaethau hynny yn cael eu nodi a’u monitro.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod Rhan 2 Cynllun y Cyngor wedi'i hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol, ac eithrio Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, er mwyn sicrhau bod Rhan 1 o Gynllun y Cyngor 2023-28 yn cael ei gynnwys yn llawn a'i fesurau a'u targedau priodol.   Cefnogodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y Cynllun a gwnaeth nifer o sylwadau.  Byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Mehefin.

 

Canmolodd y Cynghorydd Healey y swyddogion am roi’r Cynllun at ei gilydd a dywedodd ei bod yn ddogfen llawn gweledigaeth a oedd yn dangos pa mor eang yw’r gweithgareddau a ymgymerir gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid cytuno ar ddogfennau Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i Flaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles Cynllun y Cyngor 2023-28; a

 

(b)       Bod y Prif Weithredwr yn cael yr awdurdod, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, i newid Cynllun y Cyngor i adlewyrchu sylwadau gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

154.

Hunanasesiad Corfforaethol 2021-22 pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Adrodd am y canfyddiadau a chynllun gwella yn dilyn cwblhau Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd i adrodd ar berfformiad a dywedodd ‘Rhaid i Gyngor gynhyrchu adroddiad hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol.  Rhaid i’r adroddiad nodi ei gasgliadau yngl?n ag i ba raddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno, ac unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd, neu y mae eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.’

 

Roedd proses tri cham wedi’i datblygu:

 

Cam un – dadansoddi a gwerthuso ‘wrth ddesg’.

Cam dau - canfod barn, ymgynghori ac ymgysylltu.

Cam tri - cyhoeddi’r asesiad terfynol a’r cynllun gwella.

 

            Fel sefydliad, roedd canlyniadau'r Hunanasesiad Corfforaethol wedi nodi bod tystiolaeth dda o berfformiad yn erbyn yr asesiad, gan sgorio rhwng arfer da ac arfer gorau mewn 79% o'r cwestiynau a ofynnwyd.  Mewn 15% o'r cwestiynau, nodwyd bod tystiolaeth dda / mwy o dystiolaeth yn ofynnol ac mewn 6% bod angen gweithredu pellach.

 

Roedd y thema / cwestiwn a gafodd sgôr ‘yr arfer orau un’ a nodwyd yn yr Hunanasesiad yn ymwneud â Thema F – Gweithio mewn Partneriaeth.  Cafodd dwy thema / cwestiwn y sgôr ‘mae tystiolaeth yn bodoli ond mae angen gweithredu pellach’ yn ymwneud â Thema B – Cynllunio a Rheoli Adnoddau a Thema G – Ymgysylltu â Chwsmeriaid a’r Gymuned.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai ymgynghoriad gyda'r gweithlu, undebau llafur ac Aelodau ar y ddogfen ac y byddai'r tair thema a amlinellwyd uchod yn cael eu hailystyried.  Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod gweithdy Aelodau yn cael ei drefnu ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet gan fod y ddogfen yn cael ei hadrodd i bob un o'r Pwyllgorau hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau’r Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo; a

 

(b)       Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn yr Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu cefnogi a’u cymeradwyo.

155.

Rheoli Cyllideb yn ystod y Flwyddyn 2022/23 – Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 11 pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa monitro refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2022/23 a’r hawliadau a dderbyniwyd gan y Gronfa Galedi Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb  Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, fel yr oedd ym Mis 11. 

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredol o (£2.106 miliwn) (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog a oedd wedi’u talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o (£1.413 miliwn) ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 10 (£0.693 miliwn).

·         Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid fel yr oedd ar 31 Mawrth 2023 yn £8.364 miliwn 

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £2.839 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.635 miliwn.

 

Roedd y Cyngor wedi parhau i hawlio cyfanswm gwerth £4.8 miliwn o daliadau Hunan Ynysu a thaliadau Tâl Salwch Statudol ychwanegol yn 2022/23, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim, o fewn eu cyfnodau cymwys.

             

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y broses o gau cyfrifon ar gyfer 2022/23 ar y gweill ac y byddai'n cael ei adrodd i'r Cabinet ym mis Gorffennaf.  Rhoddodd fanylion hefyd am y symudiadau cadarnhaol y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23; a

 

(b)       Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.

156.

Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganrif - trosolwg pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        I edrych ar fanteision a chyfyngiadau contractau allanol a/neu greu gwasanaethau a rannir fel modd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a dywedodd, yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2022, bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi gofyn am eitem ar yr agenda yn y dyfodol i archwilio manteision ariannol allanoli a rhannu gwasanaethau.

 

Dim ond dau fodel o gyflawni gwasanaethau amgen oedd allanoli gwasanaethau a rhannu gwasanaethau.  Er mwyn darparu trosolwg cyfannol, rhoddodd yr adroddiad grynodeb o ddetholiad ehangach o fodelau cyflawni amgen y manylwyd arnynt gan y Cynghorydd Johnson.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at yr angen i ystyried egwyddorion craidd ehangach, a gofynion deddfwriaethol cysylltiedig, wrth adolygu unrhyw wasanaeth gan ystyried newid posibl yn y model cyflawni.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fanylion am enghreifftiau o ddefnyddio modelau cyflawni amgen, gan gyfeirio at NEWydd a Throsglwyddiadau Asedau Cymunedol.  Roedd yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol lle cafodd ei gefnogi. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r modelau gwahanol y gellir eu defnyddio fel modelau amgen i gyflawni gwasanaethau;

 

(b)       Cydnabod y ffactorau ehangach, fel paramedrau deddfwriaethol ac egwyddorion craidd, sydd angen cael eu harsylwi wrth ystyried darparu gwasanaethau trwy fodelau cyflawni amgen; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn cael sicrwydd bod y Cyngor yn ystyried yr holl fodelau cyflawni amgen priodol, a manteision a chyfyngiadau’r rhain, fel rhan o werthuso dewisiadau ehangach wrth adolygu gwasanaethau.

157.

Prosiect Dal Carbon HyNet; Adroddiad Effaith Lleol y Cyngor ar gyfer Piblinell Carbon Deuocsid arfaethedig traws gwlad pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Adroddiad Effaith Lleol drafft a dirprwyo unrhyw fersiynau/atodiadau pellach allai fod eu hangen yn ystod y broses archwilio’r Biblinell Carbon Deuocsid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac esboniodd bod cwmni Liverpool CCS Limited yn bwriadu adeiladu a gosod piblinell carbon deuocsid newydd rhwng Ince, ger Stanlow, a’r Fflint, a rhoi ail bwrpas i biblinell nwy naturiol bresennol rhwng y Fflint a Thalacre.  Enw’r prosiect hwnnw oedd Piblinell Carbon Deuocsid y Gogledd-orllewin HyNet (HyNet North West Carbon Dioxide Pipeline) ac roedd yn cael ei ystyried yn Brosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol (NSIP).

 

Roedd y broses gymeradwyo yn wahanol ar gyfer Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol, a gwnaed cais o dan Ddeddf Cynllunio 2008 am ganiatâd sy’n cael ei alw’n Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).

 

Roedd y cais i adeiladu a gweithredu'r Biblinell Carbon Deuocsid arfaethedig wedi'i gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio (Lloegr) a fyddai'n gweinyddu'r cais DCO ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

 

Dechreuwyd archwiliad o’r cynnig NSIP ar 20 Mawrth 2023.  Rhan o rôl yr Awdurdod Lleol i lywio’r broses benderfynu oedd llunio Adroddiad Effaith Leol i gynorthwyo’r Awdurdod Archwilio i wneud argymhelliad i’r Gweinidog.

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnwys Adroddiad Effaith Lleol drafft y Cyngor a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd yr adroddiad effaith lleol a map o leoliad y biblinell.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) a'r Cynghorydd Roberts i'r Rheolwr Cynllunio Mwynau a Gwastraff am ei holl waith ar y prosiect a chroesawyd yr elfen budd cymunedol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo'r Adroddiad Effaith Lleol drafft; a

 

(b)       Bod unrhyw atodiad i Adroddiad Effaith Lleol y Cyngor y gallai fod ei angen yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd.

158.

Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a Chynllun Ynni Ardal Leol pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Rhanbarthol a chefnogi datblygiad Cynlluniau Ynni Ardal Leol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y broses cynllunio ynni rhanbarthol ac yn ymgorffori blaenoriaethau mewn camau gweithredu ac ymyriadau strategol. 

 

Argymhellodd y dylid cymeradwyo Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a darparodd wybodaeth am gychwyn Cynllunio Ynni Ardal Leol yn Sir y Fflint.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle cafodd ei gefnogi.

 

Byddai datblygiad y Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd ac yna i'r Cabinet.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru; a

 

(b)       Nodi dechrau Cynllunio Ynni Ardal Leol yn y sir.                                                                                               

159.

Cynllunio ar gyfer CCA Awyr Dywyll pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I fabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol yn ffurfiol ar Gynllunio ar gyfer Awyr Dywyll sy’n ymwneud â goleuadau yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar ôl iddo gael ei fabwysiadu’n gynharach yn Wrecsam a Sir Ddinbych.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac eglurodd fod Sir y Fflint, ynghyd â Chynghorau Wrecsam a Sir Ddinbych, wedi llunio a mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol ar y cyd yn ymwneud â dylunio a datblygu o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.  Yn dilyn hynny, cynhyrchwyd arweiniad pellach ar y cyd yn ymdrin â mater penodol golau a llygredd golau o fewn yr AHNE, gyda'r nod o ostwng ei lefel er mwyn cynorthwyo i sicrhau statws awyr dywyll i'r AHNE.

 

Roedd y canllawiau wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mhob un o ardaloedd y tri Chyngor ac wedi'u hystyried gan y Gr?p Strategaeth Cynllunio a argymhellodd bod y Cabinet yn ei fabwysiadu.  Roedd Cynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam eisoes wedi mabwysiadu'r canllawiau yn ffurfiol ac er mwyn rhoi’r pwys mwyaf arno fel ystyriaeth gynllunio berthnasol, roedd y Cabinet yn ceisio ei fabwysiadu.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Healey a Johnson yr adroddiad, gan nodi ei fod wedi ei fabwysiadu gan Gynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo argymhelliad y Gr?p Strategaeth Gynllunio i fabwysiadu'n ffurfiol y Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Awyr Dywyll y Nos.

160.

Parcio y Tu Allan i Ysgolion a Gorfodaeth pdf icon PDF 199 KB

Pwrpas:        Adolygu parcio y tu allan i ysgolion a chynghori aelodau am y sefyllfa bresennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r problemau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng nghyffiniau ysgolion y sir, ac amlinellodd rolau a chyfrifoldebau’r holl bartïon dan sylw hefyd er mwyn ceisio dull cydweithredol a datrysiad effeithiol.

 

Ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 23 Mawrth 2023, penderfynwyd sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen ar y cyd, a fyddai’n cynnwys Aelodau etholedig o’r ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, swyddogion o’r portffolios Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, yr Heddlu a Phenaethiaid i archwilio'r materion yn fanylach a datblygu dull gweithredu cydweithredol ac ataliol gyda budd-ddeiliaid allweddol.  Byddai'r Gr?p Tasg a Gorffen yn adrodd i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ei dro.  Felly gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i gefnogi creu'r gr?p.

 

Diolchodd i Aelodau'r ddau Bwyllgor am y drafodaeth lefel uchel a oedd wedi digwydd ac am beidio â chyfeirio at ysgolion unigol o fewn wardiau.  O ran cynrychiolaeth ar y Gr?p Tasg a Gorffen, dywedodd fod angen Aelodau i gynrychioli cymunedau trefol a gwledig fel ei gilydd, yn ogystal â bod yn wleidyddol gytbwys. 

 

Dywedodd fod angen cadw at Reolau’r Ffordd Fawr gan mai'r peth pwysicaf oedd diogelwch plant sy'n mynychu ysgolion. 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod hon yn broblem fawr i benaethiaid ar draws y sir a fu’n gwneud gwaith gyda disgyblion ar gadw'n ddiogel ac anfonir nodiadau atgoffa rheolaidd at rieni fel rhan o gyfathrebu rheolaidd.  Roedd yn bwysig cael cynrychiolaeth pennaeth ar y Gr?p Tasg a Gorffen ac apeliodd ar bob rhiant i yrru a pharcio'n gyfrifol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) nad oedd un ateb unigol i fynd i'r afael â'r problemau a oedd yn gymhleth ac y byddai angen dull cydweithredol.  Roedd Cylch Gorchwyl y Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Cymdeithas Llywodraethwyr yn Sir y Fflint sy’n darparu cynrychiolwyr ar gyfer cyrff eraill, felly byddai'n gwneud ymholiadau. 

 

Roedd y Cynghorydd Bibby yn cefnogi sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen ar y Cyd gan gynnwys cyfranogiad yr holl fudd-ddeiliaid y cyfeiriwyd atynt uchod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi'r materion hanesyddol sy'n gysylltiedig â pharcio o fewn cyffiniau ysgolion, a chydnabod cyfrifoldeb defnyddwyr y priffyrdd yn unol â gofynion Rheolau'r Ffordd Fawr;

 

(b)       Nodi'r hierarchaeth cyfrifoldeb mewn perthynas â rheoli traffig o fewn cyffiniau ysgolion a chydnabod rôl gorfodi fel mesur adweithiol yn hytrach na dull o atal digwyddiad yn y lle cyntaf;

 

(c)        Bod creu Gr?p Tasg a Gorffen ar y cyd, a fydd yn cynnwys Aelodau etholedig o’r ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, swyddogion o’r portffolios Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, yr Heddlu a Phenaethiaid i archwilio’r materion yn fanylach a datblygu dull cydweithredol ac ataliol gyda budd-ddeiliaid allweddol, yn cael ei gefnogi.

161.

Prosiect Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol i Ysgolion Cynradd (UPFSM) pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar gynnydd cyflwyniad lleol o UPFSM.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) a Phlaid Cymru wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgolion cynradd yn gallu cael cinio ysgol am ddim erbyn 2024.

 

Byddai gweithredu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (UPFSM) yn cael ei roi ar waith fesul cam.  Dechreuwyd cyflwyno’r cynllun yn Sir y Fflint ym mis Medi 2022 i blant mewn dosbarthiadau Derbyn, a byddai’r ail gam yn dechrau ym mis Ebrill 2023 i blant ym Mlynyddoedd 1 a 2. 

 

Roedd swm sylweddol o waith wedi'i gwblhau a byddai'n parhau i mewn i 2023 i sicrhau bod yr isadeiledd, yr offer, yr adnoddau a'r prosesau ar waith i alluogi gweithrediad llawn UPFSM.

 

Darparodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith o gyflwyno UPFSM yn lleol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb a fu'n ymwneud â'r paratoadau ar gyfer gweithredu'r cynllun hwn, gan gynnwys penaethiaid a staff mewn ysgolion i sicrhau y gallent hwyluso'r broses o gyflwyno'r cynllun.  Talodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) deyrnged i gydweithwyr ar draws sawl portffolio am eu gwaith i gyflwyno’r cynllun.  Pwysleisiodd pa mor bwysig yw i deuluoedd a oedd yn hawlio prydau ysgol am ddim yn barod i barhau i wneud cais amdanynt gan fod y niferoedd hynny yn ddangosyddion allweddol i ysgolion ac er mwyn darparu cyllid. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Healey y cynllun, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw ac atgyfnerthodd neges y Prif Swyddog yngl?n â theuluoedd cymwys yn parhau i wneud cais am brydau ysgol am ddim. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r cynllun UPFSM; a

 

(b)       Nodi'r goblygiadau o ran adnoddau a'r risgiau a nodwyd mewn perthynas ag UPFSM.

162.

Polisi grantiau a benthyciadau adfywio tai pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Gofyn i’r Cabinet adolygu a chymeradwyo’r Polisi Grantiau a Benthyciadau Adfywio Tai diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd fod rôl y Tîm Adfywio Tai wedi newid dros y blynyddoedd ers iddo gael ei greu gan fod cyllid wedi canolbwyntio mwy ar leihau carbon mewn tai a llai ar fesurau ehangach i wella cyflwr tai yn y sector preifat.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y tîm, yn nodi cyfres o flaenoriaethau a argymhellwyd i’r tîm ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol, ac yn cynnig y dylai’r Polisi Grantiau a Benthyciadau’r Sector Preifat, sydd bellach yn hen ffasiwn, gael ei ddisodli gan restr syml o grantiau a benthyciadau sydd ar gael i ddeiliaid tai yn Sir y Fflint.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle cefnogwyd ei ganfyddiadau a’i gynnwys.  Gwnaed sylw ar yr angen am gyfathrebu â phreswylwyr i'w hysbysu ynghylch sut y gellid cael gafael ar yr arian.  Byddai adroddiad ar wahân ar fenthyciadau, gan gynnwys benthyciadau canol tref, yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Tîm Adfywio Tai yn cael ei nodi a bod blaenoriaethau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol yn cael eu cymeradwyo; a

 

(b)       Cymeradwyo'r rhestr grantiau a benthyciadau, a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd a Chefn Gwlad a'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i amrywio'r amserlen wrth i'r cyllid sydd ar gael neu'r gofynion newid.

163.

Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Chysgwyr Allan pdf icon PDF 405 KB

Pwrpas:        Nodi'r adroddiad diweddaru a pharhau i gefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tai ac Atal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod digartrefedd yn wasanaeth statudol sy’n parhau i fod dan bwysau sylweddol ar ôl y pandemig a’r heriau pellach yn ymwneud â’r argyfwng costau byw a’r argyfwng tai.

 

Roedd yr angen i gynnig llety a chefnogaeth i bawb a oedd yn ddigartref ac mewn perygl o gysgu allan yn ystod y pandemig yn heriol.  Fodd bynnag, roedd wedi rhoi cyfle unigryw i ymgysylltu â nifer fawr o bobl na fyddent yn hanesyddol wedi cael yr un lefel o gymorth ac nad oeddent efallai wedi cyflawni canlyniadau llesiant neu dai cadarnhaol.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal fod marchnad dai’r sector preifat yn lleol yn gweld heriau sylweddol gyda llai o eiddo ar gael bob blwyddyn a llawer o landlordiaid yn gadael y farchnad.  Creodd hynny ddigartrefedd wrth i eiddo gael eu gwerthu, preswylwyr yn cael cais i adael a llai o eiddo ar gael gan olygu bod tai yn gynyddol anfforddiadwy.

 

Yn sgil newidiadau i Ddeddf Tai Cymru 2014 a chyflwyno unfed categori ar ddeg o Angen Blaenoriaethol ar gyfer cysgu allan a’r rheiny sydd mewn perygl o gysgu allan, llwyddwyd i gynnal y dull “peidio â gadael neb allan” a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig ac sydd bellach wedi sefydlu’r egwyddor yn gadarn ar sail gyfreithiol fel arfer safonol yng Nghymru.

 

O ganlyniad, bydd dyletswyddau llety yn ddyledus i fwy o bobl a bydd hynny’n creu cynnydd sylweddol yn y galw a'r gost i letyau digartref sydd eisoes dan bwysau.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jones i'r Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal a'i dîm am weithredu'n rhagweithiol wrth ymdrin â digartrefedd mewn amgylchiadau anodd.  Cytunodd y Cynghorwyr Roberts a Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r adroddiad diweddaru a pharhau i gefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tai ac Atal.

164.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r

gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.   Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth

 

  • A5119 Northop Road, Maes Hyfryd, Third Avenue, Fourth Avenue a Fifth Avenue, Y Fflint  Cynnig i Wahardd Aros a Chyfyngiadau Aros ar Unrhyw Adeg

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cynnig i Wahardd Aros ac Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrir uchod.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Kiln Lane, Yr Hôb) (Gwahardd Gyrru) (Ac Eithrio Mynediad) 2023

Hysbysu'r Aelodau o'r gwrthwynebiad a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r cynnig i Wahardd Gyrru – Ac Eithrio Mynediad ar Kiln Lane, Yr Hôb.

 

  • Ffordd yr Ysgol, Deansbury Close, Shaftsbury Drive a Windsor Drive, Y Fflint  Gorchymyn Gwahardd Aros Arfaethedig

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r Gorchymyn Gwaharddiad i Aros ar Unrhyw Adeg arfaethedig ar y ffyrdd a restrir uchod.

 

  • Cynnig i Weithredu Dim Aros ar Farciau Cadwch y Ffordd yn Glir wrth Ysgol Maes Hyfryd ac Ysgol Uwchradd y Fflint, Y Fflint

Hysbysu'r Aelodau o'r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r marciau Ysgol Cadw'n Glir arfaethedig ar Faes Hyfryd, Y Fflint.

 

  • Cyngor Sir y Fflint - Ffordd Llywelyn, Y Fflint.  Gwaharddiad Aros Arfaethedig

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cynnig i Wahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrir uchod.

 

Refeniw

 

  • Diddymu Ardrethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol, i ddiddymu dyledion rhwng £10,000 a £25,000.

 

Mae dwy ddyled Ardrethi Busnes sy’n werth cyfanswm o £34,762 yn cael eu hystyried yn anadferadwy ac mae angen eu diddymu.

 

Llywodraethu

 

  • Adolygiad o Ffïoedd Cofrestru Anstatudol

Mae'r Cyngor yn rheoli'r Gwasanaeth Cofrestru sydd â nifer o swyddogaethau statudol gan gynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau sifil a phartneriaethau sifil.  Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli yn Neuadd Llwynegrin, yr Wyddgrug ac mae'n cadw cofnodion archifol y rhoddir copïau o dystysgrifau ohonynt.  Mae'r gwasanaeth hefyd yn trwyddedu lleoliadau ar gyfer seremonïau sifil ar draws y Sir ac yn cynnal amrywiaeth o wasanaethau dathlu anstatudol.  Mae'r ffïoedd sy'n ymwneud â gwasanaethau statudol wedi'u pennu gan statud ac ni allant fod yn fwy na chost darparu'r gwasanaeth.  Fodd bynnag, mae gan y Cyngor gwmpas i osod ffïoedd ar gyfer gwasanaethau anstatudol.

 

Mae natur y Gwasanaeth Cofrestru yn golygu bod rhai gwasanaethau megis priodas yn cael eu harchebu hyd at 24 mis ymlaen llaw ac o ganlyniad mae angen gosod ffïoedd anstatudol ymlaen llaw er mwyn caniatáu i barau gynllunio.  Cynhaliwyd adolygiad sylfaenol o ffïoedd pan gyflwynodd y Cyngor ei “Dempled Adennill Costau Ffïoedd a Thaliadau” a rhoddwyd ffïoedd newydd ar waith ar 1 Ebrill 2021, am dair blynedd.

 

Bob blwyddyn caiff y ffïoedd eu hadolygu i sicrhau bod y gwasanaeth bob amser yn cyhoeddi set o ffïoedd am dair blynedd.  Mae'r adroddiad hwn yn gosod y ffïoedd ar gyfer 2025/26 i sicrhau bod y Gwasanaeth Cofrestru yn parhau i gyhoeddi ffïoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 164.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

165.

Cynllun Busnes NEWydd 2023/24

Pwrpas:        Cyflwyno Cynllun Busnes Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf 2023/24 i’w gymeradwyo.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet ym mis Hydref 2021 wedi cytuno i ymestyn y Cytundeb Consesiwn Gwasanaethau gyda NEWydd o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2024. 

 

Dywedodd y Rheolwr Corfforaethol – Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, yn unol â'r trefniant hwnnw, fod angen i NEWydd gynhyrchu Cynllun Busnes blynyddol, gan gynnwys cyllidebu a rhagolygon ariannol.

 

Roedd y Cynllun Busnes ynghlwm wrth yr adroddiad ac yn rhoi crynodeb o elfennau allweddol y Cynllun Busnes.

 

PENDERFYNWYD:

           

Nodi'r risgiau strategol sy'n wynebu'r busnes a chadarnhau Cynllun Busnes 2023/24, sy'n cynnwys lliniaru'r risgiau a nodwyd.

166.

Cynllun Busnes Theatr Clwyd

Pwrpas:        Cyflwyno Cynllun Busnes Theatr Clwyd ar gyfer 2023-2029 i’w ardystio.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes Theatr Clwyd 2023-29 a chyfrifon masnachu T?’r Cwmnïau ar gyfer blwyddyn fasnachu lawn gyntaf Ymddiriedolaethau Theatr Clwyd.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd fod sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant wedi’u cynnwys yn y Cynllun Busnes diwygiedig a bod yr adroddiad wedi cael derbyniad cadarnhaol.  Roedd Cynllun Busnes wedi'i ddiweddaru ar gael a byddai'n cael ei anfon at y Cabinet yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod awdurdod i gymeradwyo Cynllun Busnes diwygiedig Theatr Clwyd 2023-29 yn cael ei ddirprwyo i’r Rheolwr Corfforaethol – Rhaglen Gyfalaf ac Asedau mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden ar ôl derbyn y Cynllun Busnes wedi’i ddiweddaru.

167.

Comisiynu / Ail-dendro Gwasanaethau Cam-drin Domestig a ariennir gan y Grant Cymorth Tai

Pwrpas:        Cabinet Anffurfiol i gymeradwyo comisiynu / ail-dendro Gwasanaethau Cam-drin Domestig Sir y Fflint a ariennir gan y Grant Cymorth Tai. 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r ddarpariaeth bresennol ar gyfer cam-drin domestig yn Sir y Fflint a ariennir gan y Grant Cymorth Tai (HSG) a’r newidiadau yr oedd y Tîm Cymorth Tai yn bwriadu eu gwneud.

 

PENDERFYNWYD:

           

Cymeradwyo comisiynu / ail-dendro Gwasanaethau Cam-drin Domestig Sir y Fflint a ariennir gan y Grant Cymorth Tai.

168.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.