Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

104.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Healey gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 5 ar y rhaglen - Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint.

105.

Cofnodion pdf icon PDF 154 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 20 Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

106.

Cyllideb 2023/24 a Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2023/24 a goblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gafwyd ar 14 Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am:

 

·         brif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru;

·         adborth o gyfres o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, oedd ynghlwm â’r adroddiad;

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a risgiau i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24; a

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr ystod o ddatrysiadau cyllidebol sydd ar gael i’r Cyngor er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.

 

Yn dilyn adroddiad i’r Cabinet ym mis Tachwedd pan gafodd y gofyniad bwlch ychwanegol yn y gyllideb ei amcangyfrif yn £32.448m, derbyniwyd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar 14 Rhagfyr. Oherwydd y symiau canlyniadol oedd yn codi o gyhoeddiadau cyllideb y DU yn ddiweddar, roedd y Setliad yn well a byddai’n cyfrannu £19.568m at y gofyniad a adroddwyd yn flaenorol o £32.448m a byddai angen dod o hyd  i’r swm sy’n weddill o feysydd eraill y datrysiadau cyllideb yn yr adroddiad.

 

Adroddwyd yn flaenorol ar nifer o risgiau parhaus fyddai’n cael effaith bosibl ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol yn cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog, ansicrwydd am barhad cyllid yn y gwasanaeth digartrefedd a lefelau’r galw am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir. Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau hynny.

 

Cafodd y dewisiadau oedd ar gael i’r Cyngor i fodloni’r gofyniad cyllidebol sylweddol eu crynhoi yn yr adroddiad.  Roedd angen ystyried y datrysiadau o ran:

·         Gostyngiadau i Gostau Portffolios

·         Gostyngiadau Ariannu Corfforaethol

·         Gostyngiadau i Gostau Ysgolion

·         Cynyddu Treth y Cyngor

 

Cyflwynwyd adroddiad i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr ac ni ddynodwyd unrhyw feysydd newydd o arbedion effeithlonrwydd. 

 

Yna, cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 12 Ionawr 2023, oedd ar agor i bob Aelod o’r Cyngor a rhoddwyd manylion y cwestiynau a ofynnwyd.

 

Roedd cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24 ar y rhaglen i gael ei hargymell gan y Cabinet i’r Cyngor ar 23 Chwefror 2023.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr gefndir heriol y broses o osod y gyllideb, a allai fod yn anodd yn 2024/25 hefyd oherwydd y risgiau sy’n wynebu’r awdurdod.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gwaith bellach yn canolbwyntio ar y risgiau fel yr amlinellwyd gan y Cynghorydd Johnson. Byddai adroddiad yn argymell y gyllideb yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 23 Chwefror cyn cael ei ystyried gan y Cyngor Sir yn y prynhawn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau cyn cytuno ar gyfres o argymhellion i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.

107.

Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu, symudwyd y Cynghorydd Healey i’r lobi rhithiol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad gan egluro bod gofyn i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’i adolygu’n rheolaidd.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r gwaith a wnaed i baratoi a mabwysiadu CDLl i Sir y Fflint.

 

CDLl Sir y Fflint fydd y prif bolisi a strategaeth y bydd y Cyngor yn ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar y cynigion datblygu i’r dyfodol. Roedd yn gynllun cadarn a chynaliadwy sy’n cynnwys gofyniad i ystyried y rhaglen ‘Creu Lleoedd’ ac yn cyflwyno dull cadarnhaol o reoli’r twf y bydd Sir y Fflint yn ei brofi i’r dyfodol.

 

Roedd y polisïau a’r cynigion o fewn y CDLl yn ymdrin ag angen y Sir am gartrefi, swyddi, isadeiledd a chyfleusterau cymunedol newydd i gefnogi twf economaidd a gwella safonau byw. Wrth gynllunio twf, roedd yn cydnabod ei fod yn anorfod yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, yn enwedig ar ryddhau tir ar gyfer datblygu mewn rhai ardaloedd. Roedd Cynghorwyr a chynllunwyr yn y gorffennol wedi bod yn ddewr ac eofn i wneud y penderfyniadau anodd hyn. 

 

Amlinellwyd prif gamau paratoi’r CDLl yn yr adroddiad. Dechreuodd y gwaith o archwilio’r CDLl ar 11 Tachwedd 2020 a chynhaliwyd gwrandawiadau dros gyfnod o wyth mis hyd at 23 Tachwedd 2021. Yn ystod yr archwiliad, bu’n rhaid i’r Cyngor ystyried ac ymateb i fater newydd sylweddol a godwyd ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno targedau newydd mwy llym ar gyfer lefelau ffosffadau a ganiateir mewn Afonydd ACA a warchodir, ac yn achos y CDLl, Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Cafodd yr arolygwyr ddigon o dystiolaeth i ganiatáu iddynt orffen archwilio’r CDLl.

 

Yn y Cabinet ar 31 Mai 2022, cymeradwyodd yr Aelodau ‘Newidiadau’r Materion sy’n Codi’ i’r CDLl i’w Archwilio, ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Gorffennaf 2022 a chafwyd tua 122 o sylwadau. Cawsant eu hanfon ymlaen at yr Arolygwyr i’w hystyried. Yn unol â rhwymedigaethau statudol, ni chafodd y sylwadau eu hystyried gan y Cyngor.

 

Roedd yr Arolygwyr bellach wedi cyflwyno eu Hadroddiad terfynol, oedd ynghlwm i adroddiad y Cabinet ac roedd yr Archwiliad wedi dod i ben. Ystyriwyd yn yr Adroddiad bod y CDLl yn gadarn, ac yn amodol ar ei natur derfynol, y bydd y cynllun angen cael ei fabwysiadu gan y Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bithell i’w gydweithwyr ar y Gr?p Strategaeth Gynllunio am eu holl waith caled ar y CDLl.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r holl swyddogion a fu’n rhan o’r gwaith, yn enwedig gan fod gofyn gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yr wythnos ganlynol ac os bydd yn cael ei gymeradwyo, byddai cyfres newydd o bolisïau'n cael eu creu a byddai ar Aelodau angen hyfforddiant arnynt.  Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd gan y Cyngor gyfle i roi mewnbwn i’r Cynllun Datblygu Strategol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i  ...  view the full Cofnodion text for item 107.

108.

CYNLLUN BUSNES ARIANNOL 30 BLYNEDD Y CYFRIF REFENIW TAI (CRT) pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        I gyflwyno, er argymhelliad y Cyngor, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad oedd yn cyflwyno’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) drafft a’r Gyllideb CRT arfaethedig ar gyfer 2023/24.

 

Rhoddwyd manylion llawn am fenthyca, rhenti, rhenti garej, taliadau gwasanaeth, y rhaglen gyfalaf a chyllid cyfalaf a chronfeydd wrth gefn. 

 

O ran cronfeydd wrth gefn, ni ddylid eu defnyddio i ariannu pwysau cylchol ar y Gyllideb gan y byddai hynny’n gwneud y Cynllun Busnes yn anghynaladwy.    Bwriad y Cyngor oedd defnyddio £0.589 miliwn o gronfeydd wrth gefn presennol tuag at bwysau untro a nodwyd yng Nghynllun Busnes 2023/24, a ystyriwyd yn fforddiadwy, ac oedd yn gadael digon o gronfeydd wrth gefn i gydbwyso risgiau yn y dyfodol.

 

Argymhellwyd adolygu’r lefelau yn ystod y flwyddyn a rhyddhau cyfran o unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd dros ben i gefnogi’r gwelliant mewn cyfraddau eiddo gwag ar draws y Sir. 

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn gyllideb wedi’i neilltuo. Roedd y gyllideb CRT a Chynllun Busnes yn dangos y gallai’r Cyngor gyflawni’r Safon Ansawdd Tai Cymru parhaus, y gallai fodloni cynlluniau gwella gwasanaeth ac ymrwymiadau, a chyda benthyca darbodus, y gallai barhau â’i raglen adeiladu tai Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai a chyllideb ar gyfer 2023/24 fel y nodwyd yn yr adroddiad ac atodiadau; a

 

(b)       Cytuno i ystyried defnyddio'r cronfeydd wrth gefn sydd ar gael, yn ystod y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod modd defnyddio eiddo gwag yn Sir y Fflint.

109.

Adolygiad Strategaeth Gwastraff pdf icon PDF 195 KB

Pwrpas:        Adolygu Strategaeth Wastraff bresennol y Cyngor gyda’r amcan o gyflawni targedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod y Strategaeth Gwastraff wedi cael ei adolygu dair gwaith yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac mai’r adolygiad diweddaraf oedd ‘Targed 70’ ym mis Gorffennaf 2021. Roedd yr adolygiadau hynny wedi caniatáu i’r Cyngor roi newidiadau mawr ar waith mewn gwasanaethau, oedd wedi cyfrannu at wella’r ffordd y mae gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu darparu.

 

Yn ei Strategaeth Gwastraff presennol, ‘Mwy nag Ailgylchu’, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau statudol i awdurdodau lleol yng Nghymru i ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio o leiaf 64% o’u gwastraff erbyn 2022-23 a 70% erbyn 2024-25.

 

Fodd bynnag, roedd lefelau perfformiad ailgylchu yn Sir y Fflint wedi gostwng yn raddol o un flwyddyn i’r llall a chafodd y pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig effaith sylweddol. Pwrpas yr adolygiad hwn yw canolbwyntio ar gyflawni’r targedau ailgylchu statudol ac osgoi cosb ariannol os na chânt eu cyflawni.

 

Yn dilyn dau weithdy i’r Aelodau i gyd ym mis Tachwedd 2022, amlinellodd yr adroddiad sut y cynigir lleihau gwastraff ac ailgylchu mwy er mwyn gwella perfformiad ailgylchu a chyflawni’r targedau ailgylchu statudol.

 

Yn dilyn dadansoddiad diweddar o gynnwys, yn ôl y canlyniadau cychwynnol, roedd hyd at 50% o’r hyn a roddwyd mewn biniau gwastraff gweddilliol gan breswylwyr Sir y Fflint yn ddeunydd y gellir ei ailgylchu. Yn ogystal, roedd 27% o’r gwastraff gweddilliol yn wastraff bwyd. Gan fod gwasanaeth casglu wythnosol ar wahân ar ymyl y palmant ar gyfer gwastraff bwyd a bod ailgylchu’n cael ei gasglu bob wythnos hefyd, nid oedd y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy ac roedd yn parhau yn risg sylweddol i’r awdurdod lleol.

 

Cafodd themâu cyffredinol yr adborth o’r gweithdai i Aelodau eu hamlinellu yn yr adroddiad. Mesur allweddol a gyflwynwyd gan nifer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru oedd cyfyngu ar faint o wastraff y gallai aelwydydd ei daflu. Drwy gyfyngu ar gapasiti’r bin gwastraff gweddilliol, byddai pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio mwy ar y gwasanaeth casglu ailgylchu ar ymyl y palmant. Gellir lleihau gwastraff gweddilliol drwy leihau maint y bin gwastraff gweddilliol neu newid pa mor aml mae gwastraff yn cael ei gasglu.  

 

Roedd nifer o fodelau casglu gwastraff ar draws Cymru wedi cael eu cymharu ac roedd yn glir bod cyfyngu ar wastraff gweddilliol wedi gwella lefelau ailgylchu, oedd yn ei dro wedi cael effaith sylweddol ar berfformiad ailgylchu. Mae lleihau capasiti gwastraff gweddilliol i 60 litr wedi arwain at y gwelliannau cyfartalog canlynol:

·         Gostyngiad cyffredinol o 30% mewn gwastraff gweddilliol aelwydydd (yn cynnwys Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref)

·         Cynnydd o 17% mewn ailgylchu sych o ymyl y palmant

·         Cynnydd o 28% mewn gwastraff da a gesglir

 

Pe bai amlder y casgliadau’n newid o’r model pythefnos presennol, byddai hynny’n cael effaith ar yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaethau casglu.   Roedd y manylion llawn yn yr adroddiad. Os bydd amlder y casgliadau’n newid, gallai hyn olygu bod angen newid maint y cynwysyddion neu’r math o gynwysyddion a ddefnyddir, fyddai’n golygu ystyriaethau eraill megis cyllid, iechyd a diogelwch, effaith  ...  view the full Cofnodion text for item 109.

110.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 8) pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 8) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfamonitro cyllideb refeniw 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredol o £0.352 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog y byddai angen eu talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid anffafriol o £0.258 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 7

·         Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2023 yn £3.797 miliwn 

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £3.076 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.398 miliwn.

 

             Helpodd Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru i sicrhau £6 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, ac roedd taliadau ar gyfer 2022/23 yn parhau i gael eu hawlio ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim  a Taliadau Tanwydd y Gaeaf o fewn eu cyfnodau cymwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23;

 

(b)       Cefnogi’r cais am ddwyn arian ymlaen; a

 

(c)        Bod y Gronfa wrth Gefn at Raid yn cael ei chynyddu £2.4 miliwn o’r dyraniad Cymorth Refeniw ychwanegol a gafwyd ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23 i wella’r lefel sydd ar ôl i ddiogelu’r Cyngor rhag risgiau a digwyddiadau eraill na ellir eu rhagweld.

111.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Berfformiad a Chynnydd Gwerth Cymdeithasol pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Darparu data perfformiad ar y gwerth cymdeithasol a grëwyd yn Sir y Fflint yn y cyfnodau adrodd a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y gwaith a wnaed ac a gynlluniwyd o ran y rhaglen waith gwerth cymdeithasol ehangach.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd mai creu gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu a chaffael y Cyngor oedd y cyfrannwr mwyaf at gynyddu gwerth cymdeithasol a’i fod yn parhau yn un o brif feysydd blaenoriaeth y Cyngor.

 

Amlinellodd yr adroddiad ddata perfformiad ar gyfer blwyddyn ariannol lawn 2021-22 yn ogystal â chwe mis cyntaf 2022/23.

 

Amlinellodd hefyd y camau nesaf i roi’r argymhellion a wnaed ac a gymeradwywyd gan y Cabinet y flwyddyn flaenorol ar waith.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol am yr adroddiad a’i chanmol am yr hyn a gyflawnwyd hyd yma. Wrth ymateb i gwestiwn, eglurodd y swyddog bod pob contract yn cael ei asesu ar nifer o agweddau, yn cynnwys pris ac ansawdd a bod gwerth cymdeithasol yn rhan o unrhyw beth dros £25,000. Roedd gwaith ar y gweill i sicrhau bod trothwyon yn eu lle fel bod gwerth cymdeithasol yn cael ei gynnwys ym mhob ymarfer caffael. Wrth ymateb i gwestiwn arall, eglurodd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol os na fyddai prentis wedi cwblhau’r oriau angenrheidiol, byddai’r oriau a gwblhawyd yn cael eu dwyn ymlaen i swydd arall yn y Cyngor.

 

Wrth ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hughes, eglurodd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol fod carbon wedi bod yn rhan o dargedau gwerth cymdeithasol ar gyfer contractau dros £1 miliwn, ond pan oedd yn bosibl byddai mesurau carbon hefyd yn cael eu cynnwys mewn contractau llai.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd o ran creu gwerth cymdeithasol yn ystod 2021/22, yn ogystal ag yn chwe mis cyntaf 2022/23; a

 

(b)       Cefnogi’r camau nesaf a gynigir.

112.

Incwm Rhent Tai ac Ymateb Lles pdf icon PDF 177 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad, oedd yn rhoi diweddariad gweithredol cyfunol ar effeithiau’r ymateb lles diweddaraf a lefelau presennol ôl-ddyledion rhent 2022/23.

 

Roedd yr ôl-ddyledion rhent hyd at wythnos 34 yn £2.9 miliwn, o’i gymharu â £2.7 miliwn ar yr un adeg y llynedd. Roedd yr argyfwng costau byw parhaus yn cael effaith andwyol ar gasglu rhent, ac roedd rhai tenantiaid yn cael trafferth talu’r costau byw cynyddol.

 

Roedd y meddalwedd yn seiliedig ar risg yn dal i gael ei ddefnyddio i liniaru risgiau a sicrhau ymgysylltiad cynnar â’r tenantiaid hynny oedd yn methu â chynnal eu taliadau rhent.

 

Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad pellach hefyd ar effaith barhaus diwygio'r gyfundrefn les ar breswylwyr a heriau costau byw eraill. Rhoddodd ddiweddariad hefyd ar y gwaith oedd ar y gweill i liniaru llawer o’r heriau hyn ac i gefnogi’r aelwydydd hynny drwy’r argyfwng costau byw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi sefyllfa ariannol ddiweddaraf casgliadau rhent yn 2022/23; a

 

(b)       Cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith mae diwygio’r gyfundrefn les yn ei gael ac a fydd yn parhau i’w gael ar rai o’r tenantiaid mwyaf diamddiffyn, yn ogystal â chyflwyno cefnogaeth trwy fesurau cefnogi Llywodraeth Cymru er mwyn lliniaru’r argyfwng costau byw.

113.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Strydwedd a Thrafnidiaeth

 

  • Cyngor Sir y Fflint – Ffordd Wrecsam, Fagl Lane a Stryt Isa, Yr Hôb  – Gwaharddiad Arfaethedig i Aros Ar Unrhyw Adeg

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu’r Gwaharddiad i Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrir uchod.

 

  • Ffioedd a Thaliadau Gwaith Stryd ar gyfer 2023/24

Mae ffioedd a thaliadau a godir ar gyfer trwyddedau a cheisiadau amrywiol o fewn Gwaith Stryd wedi eu hadolygu ac mae’r taliadau arfaethedig ar gyfer 2023/24 wedi’u nodi yn y daflen pwerau dirprwyedig. Cyfradd dreigl 12 mis CPIH ym mis Mawrth 2022 oedd 6.2%. Mae hyn wedi’i ddefnyddio fel swm mynegai chwyddiant normadol gyda’r holl ffioedd a thaliadau perthnasol i greu swm taladwy ffioedd a thaliadau 2022. Er mwyn caniatáu i ymgeiswyr osod cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, bydd ffioedd Gwaith Stryd yn dod i rym o 1 Ebrill 2023.

 

Ar y pwynt hwn, amharwyd ar y cyfarfod gan aelod(au) o’r cyhoedd a daeth y cyfarfod i ben. Cynhaliwyd rhan olaf y cyfarfod, i ystyried adroddiad cyfrinachol, â dolen cyfarfod newydd.

114.

Gwaredu Parc Diwydiannol Expressway Cam 1

Pwrpas:        Gwerthu’r buddiant lesddaliadol i’r rhydd-ddeiliad.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

GWERTHU PARC BUSNES EXPRESSWAY, QUEENSFERRY

 

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, yr adroddiad oedd yn gofyn am gefnogaeth i waredu Buddiant Lesddaliad y Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo gwaredu buddiant lesddaliad y Cyngor, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

115.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd pedwar aelod o’r cyhoedd yn bresennol.