Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

107.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Banks yn datgan cysylltiad yn eitem rhif 10 ar y rhaglen: Cynllun Strategol 10 Mlynedd Cymraeg Mewn Addysg 2022-2032 gan ei fod yn llywodraethwr mewn dwy ysgol cyfrwng Cymraeg.    Datganodd y Cynghorydd Bithell gysylltiad personol yn eitem rhif 14: Cyllideb 2022/23 - Cam Clo Terfynol gan ei fod yn ymddiriedolai DASU.

108.

Cofnodion pdf icon PDF 288 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 18th Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

109.

Cyllideb 2022/23 - Cam Cau Terfynol pdf icon PDF 167 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y cynigion cyllideb terfynol ar gyfer 2022/23 i'w hargymell i'r Cyngor Sir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb am gyfrannu at broses y gyllideb.   Hefyd, diolchodd i Lywodraeth Cymru (LlC) am y setliad gorau yr oedd y Cyngor wedi’i dderbyn hyd yma.    Fodd bynnag, roedd yna heriau o’n blaen i’w hwynebu.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y Cabinet wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y prif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2022. 

 

Yn y bôn, roedd y setliad yn cynnwys cadarnhad o’r angen i dalu costau rhai cyfrifoldebau newydd - y mwyaf sylweddol ohonynt fyddai (1) costau llawn dyfarniadau tâl yn y dyfodol; (2) gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol; (3) rhoi’r gorau i’r gronfa galedi; ac (4) effeithiau Grant Penodol.

 

Oherwydd yr uchod, roedd angen gwneud gwaith brys wedi’i flaenoriaethu ac roedd deilliant y gwaith hwnnw wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.    Roedd yr adroddiad yn cynnig atebion ac argymhellion i’r Cyngor allu llunio cyllideb gyfreithiol a chytbwys.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhelliad Treth y Cyngor ar gyfer gosod lefelau trethiant lleol ar gyfer 2022/23.   Cynigiwyd penderfyniad ffurfiol i'w roi gerbron y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i roi gwybod eu bod wedi derbyn praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.

 

Roedd lefel cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor yn benderfyniad i’r Cyngor llawn.   Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Cyngor wedi gosod cyfeiriad clir y dylai cynnydd blynyddol fod yn 5% neu lai.    Roedd yn rhaid i’r Cyngor gynnwys nifer o bwysau ychwanegol i ddarparu ar gyfer y pwysau ychwanegol a nodwyd yn y Setliad Dros Dro gan Lywodraeth Leol Cymru oedd wedi cynyddu gofyniad y gyllideb.    Yn seiliedig ar ofyniad y gyllideb ychwanegol terfynol o £30.562miliwn, roedd angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.3% ar Dreth y Cyngor i Wasanaethau’r Cyngor a 0.65% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol GwE.   Roedd hynny’n cyfateb i ymgodiad cyffredinol o 3.95% ac yn darparu arenillion ychwanegol cyffredinol o £3.825miliwn yn 2022/23.  Roedd hynny’n gyfystyr â chynnydd blynyddol o £55.08 y flwyddyn ac yn dod â’r swm i £1,449.58 ar Band D cyfatebol (£1.06 yr wythnos).

 

Roedd y Cyngor wedi cael gwybod am y praesept Heddlu a phraeseptau cyngor tref a chymuned ar gyfer 2022/23 fel awdurdod casglu Treth y Cyngor ac roedd yna adroddiad ar wahân ar raglen y Cyngor i’w drafod yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson am yr heriau y byddai’r Cyngor yn wynebu ym mlwyddyn 2 a 3, gan gynnwys y pwysau ychwanegol fel y cynnydd mewn chwyddiant a chostau ynni. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod cyhoeddiad diweddar wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru ar dâl costau byw o £150 i bob aelwyd ym Mandiau A-D, ac roedd angen deall manylion hynny. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi a chymeradwyo’r diwygiad ychwanegol yng ngofynion y gyllideb ar gyfer 2022/23;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer yr arbedion effeithlonrwydd corfforaethol a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;  ...  view the full Cofnodion text for item 109.

110.

Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2022/23 pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod rhaid i awdurdodau lleol osod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mhob blwyddyn ariannol.  Roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o adnoddau refeniw fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.

 

Roedd y Cyngor, fel rhan o strategaeth y gyllideb, wedi cynnal adolygiadau manwl o’i bolisi MRP yn 2016/17 a 2017/18 ac wedi diwygio’r polisi o ganlyniad.

 

Roedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2022/23 mewn cysylltiad â’r MRP ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).  Nid oedd angen newidiadau i’r polisi ar gyfer MRP Cronfa’r Cyngor.

 

Byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried yn y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y canlynol yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled Cronfa'r Cyngor heb ei thalu:

 

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2017.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca cefnogol o 1 Ebrill 2016 ymlaen.    Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan drefniadau benthyca (darbodus) nad yw wedi ei gefnogi neu drefniadau credyd.   Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(b)       Bod y canlynol yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:

 

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2021.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

·         Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021 ymlaen.   Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(b)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir, bod Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i adeiladu tai fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf mewn telerau cyfrifeg) fel a ganlyn:

 

·         Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod  ...  view the full Cofnodion text for item 110.

111.

Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad oedd yn delio gyda’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2022/23.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod y cynnydd yn y rhent a fwriedir yn y cynllun busnes yn ymgodiad cyffredinol o 1.18% ac yn ogystal, yn cynnwys ymgodiad trosiannol o £2 i’r tenantiaid oedd ar hyn o bryd yn talu o leiaf £3 o dan y rhent targed.  Roedd hynny’n cyfateb i gynnydd cyffredinol yn y rhent o 2% yn y cynllun busnes.    Cynnydd chwyddiant cyffredinol o 2% o incwm rhenti a ragwelir yn £38.047miliwn ar gyfer 2022/23.

 

Roedd cynnydd yn y rhent garej a llain garej yn 2% ar gyfer 2022/23 oedd yn cyfateb i £0.20 yr wythnos ar gyfer rhent garej ac yn golygu bod rhent fesul wythnos yn £10.23.   Roedd y cynnydd mewn rhent garej yn £0.03 yr wythnos gyda chynnydd plot garet yn £1.66 yr wythnos.

 

Roedd y cynllun busnes yn rhagweld lefelau incwm o £0.395 miliwn ar gyfer garejys a lleiniau garej.

 

Byddai tâl gwasanaeth yn cael ei rewi eto ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23.

 

Roedd y cyfanswm rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 yn £25.074miliwn ac roedd wedi’i grynhoi yn atodiad C yr adroddiad. 

 

Roedd yr adroddiad wedi’i ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau oedd yn cefnogi’r cynnwys. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi a chymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 fel y'i hamlinellir yn atodiadau’r adroddiad.

112.

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2022/23 pdf icon PDF 150 KB

Pwrpas:        Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2022/23 i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad oedd yn cyflwyno’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys drafft 2022/23 ar gyfer cymeradwyaeth ac argymhelliad i’r Cyngor ar y cyd â:

 

·         Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys Drafft 2022 i 2025

·         Arferion ac Atodlenni Rheoli’r Trysorlys Drafft 2022 i 2025

 

Cafodd yr adroddiad ei ystyried yn fanwl yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 26 Ionawr 2022.

 

Roedd hyfforddiant i holl Aelodau’r Cyngor ar reoli’r trysorlys wedi’i ddarparu ar 8 Rhagfyr 2021. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y ddogfen ganlynol yn cael ei chymeradwyo a’i hargymell i’r Cyngor:

 

·         Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2022/23

·         Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys Drafft 2022 i 2025

·         Arferion ac Atodlenni Rheoli’r Trysorlys Drafft 2022 i 2025

113.

Datblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Sir y Fflint 2022-2026 pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Cabinet ynghylch y dull o sicrhau cyflawniad a gweithrediad Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Sir y Fflint cyn y dyddiad gweithredu o 1 Ebrill 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad oedd yn rhoi gorolwg o ofynion y Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai a’r dull a gymerwyd yn Sir y Fflint i ddatblygu a mabwysiadu’r Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai erbyn diwedd Mawrth 2022.   

 

Roedd y Strategaeth rhaglen Cefnogi Tai ynghlwm i’r adroddiad ar gyfer adolygiad terfynol, ynghyd â manylion ar gyfer darparu a monitro’r Strategaeth RhCT a Chynllun Gweithredu cefnogol ar gyfer y cyfnod 2022-2026.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod Llywodraeth Cymru (LlC) angen i Awdurdodau Lleol ddatblygu RhCT bob pedair blynedd, gydag adolygiad hanner ffordd bob dwy flynedd.    Roedd y RhCT yn amlinellu cyfeiriad strategol awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau cefnogi sy’n ymwneud â thai, gan ddarparu un golwg strategol o ddull awdurdod lleol ar gyfer atal digartrefedd a gwasanaethau cefnogi tai.    Felly, roedd yn cynnwys swyddogaethau digartrefedd statudol a ariannwyd drwy’r setliad refeniw a gwasanaethau ataliol anstatudol a ariannwyd drwy’r Grant Cefnogi Tai. 

 

Roedd y GCT wedi cynyddu o £5,950,818 i £7,828,610 oedd yn gynnydd sylweddol ac yn adlewyrchu’r flaenoriaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y ffrwd gyllido a phwysigrwydd cefnogaeth cysylltiedig â thai ac atal digartrefedd.    Roedd manylion y gwasanaethau presennol a ddarperir drwy’r GCT wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. 

 

Hefyd, wedi’i amlinellu yn yr adroddiad oedd Gweledigaeth, Egwyddorion a Blaenoriaethau’r Strategaeth RhCT.

 

Roedd yr Aelodau’n croesawu’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai yn cael ei chymeradwyo. 

114.

Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Ennill cytundeb ac ymrwymiad i’r Strategaeth Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd yn 2019 bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi galw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.   Yn dilyn y datganiad hwnnw, roedd y Cabinet wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2019 ar Strategaeth Newid Hinsawdd a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030. 

 

            Roedd y Strategaeth Newid Hinsawdd yn manylu’r gwaith a wneir gan y Cyngor hyd yma: ei allyriadau carbon llinell sylfaen; a meysydd oedd angen eu datblygu ac amcanestyniad o’r cyflwr yn y dyfodol os bydd y camau hynny’n cael eu cwblhau i yrru’r Cyngor tuag at ei nod carbon niwtral/di-garbon erbyn 2030. 

 

            Dywedodd fod pawb yn gyfrifol am helpu i gyrraedd nod carbon niwtral.  Yr ysgol newydd ym Mynydd Isa fyddai’r cyntaf yn y sir i fod yn garbon niwtral.  Diolchodd i bawb oedd wedi cyfrannu, gan gynnwys yr Aelod Cabinet blaenorol a oedd wedi bod yn allweddol i’w yrru ymlaen. 

 

            Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad oedd yn gynhwysfawr a chadarnhaol, gan ychwanegu ei fod wedi’i annog gan y diddordeb a ddangoswyd yn y pwnc gan y bobl ifanc. 

 

            Diolchodd y Prif Swyddog (yr Amgylchedd a’r Economi) i’r Cynghorydd Sean Bibby oedd yn Gadeirydd y Bwrdd Newid Hinsawdd ac roedd wedi arwain cynhyrchu’r ddogfen i Aelodau. 

 

            Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Butler, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod newid hinsawdd yn chwarae rhan allweddol o’r strategaeth o fewn ysgolion ac yn y gwasanaeth ieuenctid, oedd yn darparu cefnogaeth i bobl 11-25 oed. 

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai brîff ar leihau carbon yn cael ei ddarparu i Aelodau newydd yn dilyn yr etholiad a byddai hefyd yn ffurfio rhan o’r rhaglen gynefino.  Byddai’r wefan hefyd yn cael ei diweddaru.           

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynnydd a wnaed i gyflawni mesurau lleihau carbon hyd yma yn cael ei gydnabod;

 

(b)       Bod y Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer 2022 - 2030 a’i nod yn cael ei gymeradwyo.

 

(c)        Bod brîff ar gyfer Aelodau newydd yn dilyn yr etholiad yn cael ei drefnu i amlygu’r gwaith a wnaed hyd yma ac ymrwymiadau’r Cyngor wrth symud ymlaen, a bod y Strategaeth Newid Hinsawdd yn rhan o Raglen Gynefino’r Aelodau; a

 

(d)       Bod gwefan y Cyngor yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y Strategaeth Newid Hinsawdd;

115.

Cynllun Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft a’r trefniadau ymgynghori statudol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a ddatblygwyd i ddarparu trosolwg i’r Aelodau o’r cynllun drafft ar gyfer y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) nesaf a gynhelir rhwng Medi 2022 a 2032. 

 

            Roedd y Cyngor yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb.    Roedd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn Sir y Fflint yn declyn strategol hirdymor er mwyn i’r Cyngor gyfrannu at y nod ledled y wlad i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.    Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl sydd yn y gymuned ehangach, gyda'r nod o greu sir a gwlad sy'n gynyddol ddwyieithog.

 

            Byddai’r cynllun deng mlynedd cyntaf yn dechrau ar 1 Medi 2022 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2032.   Byddai pob cynllun pellach yn dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn pan fyddai’r cynllun deng mlynedd blaenorol yn dod i ben e.e. 1 Medi 2032 hyd at 31 Awst 2042.   Mae’n rhaid i’n cynllun gynnwys targed yn amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y dysgwyr Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.

 

            Roedd Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 yn cyflwyno darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddylunio eu cynlluniau yn seiliedig ar darged.   Felly, roedd yn ofynnol i’r Cyngor osod targed deng mlynedd yn amlinellu’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 oedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir y Fflint.

 

            Mae Cynghorau wedi’u grwpio gan Lywodraeth Cymru i wahanol gategorïau yn adlewyrchu’r gwahaniaethau a’r elfennau tebyg rhwng y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.   Roedd y ffactorau a ystyriwyd wrth grwpio yn cynnwys canran y dysgwyr a addysgir yn Gymraeg mewn ardal; modelau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a fabwysiadwyd a natur ieithyddol yr ardal.   At y diben hwn mae Sir y Fflint wedi'i gosod yng Ngr?p 4.   Y diffiniad o Gr?p 4 oedd 12% neu lai o blant Blwyddyn 1 yn yr awdurdodau lleol hynny oedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2017/18.   Roedd yna ddewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn yr awdurdodau lleol hynny.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu targed ystod is ac ystod uwch ar gyfer Sir y Fflint.   Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 6 pwynt canran (ystod is) a chynnydd o 10 pwynt canran (ystod uwch) yn nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.   Er y dylid trin yr ystod is fel yr isafswm y dylid ei gyflawni, ni ddylid trin yr ystod uwch fel yr uchafswm.   Bydd angen ystyried cynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y  Gymraeg i rywfaint rhwng 225 a 295 disgybl dros gyfnod deng mlynedd y Cynllun.    Talodd deyrnged i Sian Hilton a Vicky Barlow oedd wedi arwain datblygiad y Cynllun. 

 

            Mewn ymateb i ymrwymiad gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod  ...  view the full Cofnodion text for item 115.

116.

Cynyddu Effaith – Cynllun Cyflawni Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024 pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Cyflwyno cynllun cyflawni newydd ar gyfer Darpariaeth Ieuenctid Integredig 2021-24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y cynllun newydd a ddatblygwyd ar gyfer darparu gwasanaethau ieuenctid y Cyngor, a elwir yn Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig ar gyfer y cyfnod 2021-2024.

 

            Roedd y cynllun wedi’i baratoi yn dilyn ymgynghoriad gyda phobl ifanc, gyda staff yn y Tîm Darpariaeth Ieuenctid Integredig a gyda phartneriaid allweddol oedd yn cefnogi’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc 11 i 25 oed yn Sir y Fflint.   Roedd wedi’i ddatblygu o fewn cyd-destun y pandemig COVID-19 parhaus a oedd wedi’i gydnabod yn eang i fod wedi cael effeithiau arwyddocaol ar iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol pobl ifanc. 

 

            Roedd elfennau o’r cynllun cyflenwi eisoes yn cael eu gweithredu gan fod y gwasanaeth wedi parhau i gefnogi plant a phobl ifanc drwy gydol y pandemig.    Roedd wedi cael ei gynnig mewn ffyrdd gwahanol i weithgareddau gwaith ieuenctid oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a fu ar waith ar adegau gwahanol.

 

            Roedd teitl y cynllun, Cynyddu Effaith, yn fwriadol er mwyn dangos sut yr oedd gwersi a ddysgwyd am ddarparu gwasanaeth yn ystod y pandemig wedi eu hymgorffori yn y gwaith ieuenctid wrth symud ymlaen a sut yr oedd gweithio mewn partneriaeth effeithiol rhwng y Cyngor a phartneriaid allweddol yn yr ardal honno yn fantais gadarnhaol i bobl ifanc a mwyhau ei effaith.

 

            Roedd y cynllun yn amlinellu’r cyd-destun cenedlaethol a lleol ar gyfer gwaith ieuenctid, cyfeirio at yr adborth o’r broses ymgynghori a ddatblygwyd y cynllun a gosod blaenoriaethau uchelgeisiol ar gyfer datblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad wedi’i ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yr wythnos gynt ac roedd trafodaeth wedi’i chynnal ar sut yr oedd pobl ifanc yn cael eu cefnogi ar ôl gadael addysg, oedd drwy’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig oedd yn gyfrifoldeb statudol.   Eglurodd fod darpariaeth draddodiadol gwaith ieuenctid yn ystod y pandemig wedi’u cwtogi ond roedd llawer o wasanaethau wedi eu darparu drwy blatfform digidol.   Roedd yr awdurdod yn anelu i gynnal clybiau ieuenctid mewn cymunedau mawr ble roedd yna alw, ond yn ychwanegol, roedd cyfleusterau dros dro yn cael eu darparu ble roedd yna angen.    Yn ogystal, roedd Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio o fewn ysgolion uwchradd ble gallai disgyblion dderbyn cyngor a chael eu hatgyfeirio i wasanaethau priodol. 

 

            Roedd y Prif Swyddog a’r Aelod o'r Cabinet yn talu teyrnged i Ann Roberts oedd wedi arwain y darn hwn o waith, oedd yn ymddeol o’r awdurdod.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod gwaith hanfodol y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig yn ystod y pandemig COVID-19 yn cefnogi plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint i gael ei gydnabod yn gadarnhaol; a

 

(b)       Cynyddu Effaith – Cynllun Cyflawni Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint 2021-2024 i gael ei gymeradwyo.

117.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 9) pdf icon PDF 228 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, erbyn Mis 9. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Gwarged gweithredol o £1.537 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.821 miliwn ers ffigur y gwarged a adroddwyd ym Mis 8, sef £0.716 miliwn.
  • Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £7.407 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.437m yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelid mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £4.035m.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22; a

 

(b)       Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.

118.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 9) pdf icon PDF 291 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ar Fis 9 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2020 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2021), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.

 

            Gwelodd y Rhaglen Gyfalaf gynnydd net o £6.626 miliwn yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £10.337 miliwn yng nghyllideb y rhaglen (Cronfa’r Cyngor £9.222 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai £1.115 miliwn);

·         Dygwyl ymlaen net i 2022/23, cymeradwywyd ym mis 6, o (£0.687miliwn) a Grant Cynnal a Chadw Ysgol ychwanegol (£2.638) (Cronfa’r cyngor i gyd)

·         Arbedion a nodwyd ym mis 9 (£0.386miliwn) (Cronfa’r Cyngor)

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £52.871miliwn.

 

Roedd derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn nhrydydd chwarter 2021/22 ynghyd ag arbedion a nodwyd yn gyfanswm o £0.757miliwn.   Roedd hynny’n rhoi gweddill rhagamcanol diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £4.904m (o weddill sefyllfa gyllid 6 mis o £4.147m) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2021/22 – 2023/24, cyn gwireddu derbynebau cyfalaf ychwanegol ac/neu ffynonellau cyllid eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad; a

 

(b)       Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen.

119.

Crynodeb Archwilio Blynyddol Cyngor Sir y Fflint 2020/21 pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Derbyn y Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac eglurodd fod y Crynodeb Archwilio Blynyddol yn cynnwys gwaith rheoleiddio ac archwilio a wneir gan Archwilio Cymru o Gyngor Sir y Fflint.    Roedd yn rhoi diweddariad ar yr adroddiad blaenorol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021.

 

            Yn gyffredinol, roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i gasgliad cadarnhaol “Roedd yr Archwiliwr Cyffredinol wedi tystio fod y Cyngor wedi cyflawni gweddill ei ddyletswyddau yn y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21, fel yr arbedwyd drwy archeb a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.”

 

Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn.

 

Roedd nifer o gynigion newydd ar gyfer gwelliannau a chynigion datblygu'n codi o'r adolygiadau a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru.

 

Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn ddiamod, gwir a theg ar ddatganiadau ariannol y Cyngor ar 29 Medi 2021, dau fis cyn y terfyn amser statudol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson mewn cymhariaeth â Chynghorau eraill, roedd Sir y Fflint wedi gwneud yn dda.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynnwys ac arsylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2020/21.

120.

Canfyddiadau Archwilio Mewnol Digartrefedd Llety Dros Dro 2021 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Rhannu gyda’r Cabinet ar gyfer sylwadau ar y canfyddiadau yn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Hughes yn cyflwyno’r adroddiad oedd yn cadarnhau canlyniad Archwiliad diweddar o reoli llety dros dro o fewn Sir y Fflint.    Roedd yr archwiliad wedi amlygu nifer o feysydd ar gyfer gwella ac yn cael ei gynnwys fel Adroddiad Archwilio Coch.

 

            Roedd yr Adroddiad Archwilio ar fin cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 14 Mawrth 2022.   Roedd yr adroddiad yn rhoi cefndir i’r cais ar gyfer yr archwiliad, prif ganfyddiadau’r archwiliad a’r broses gwella gwasanaeth sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr bod llety dros dro yn “dai dros dro” a ddarparwyd i bobl oedd yn ddigartref (pobl sengl/cyplau/teuluoedd) oedd yn unol â dyletswyddau o dan Deddf Tai Cymru (2014) gan y Cyngor.   Roedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy’r Tîm Digartrefedd. 

 

            Roedd y portffolio presennol o eiddo yn gymysgedd o dai amlfeddiannaeth (HMO), fflatiau hunangynhwysol a thai oedd yn cael eu prydlesu gan landlordiaid preifat, ynghyd â nifer fach o eiddo HRA y Cyngor. 

 

            Roedd y galw am Lety Dros Dro a Llety Brys wedi tyfu’n sylweddol o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 gyda Llywodraeth Cymru yn gofyn i holl bobl ddigartref dderbyn llety drwy’r gyfarwyddeb “pawb i mewn”.  Cyn Covid-19, roedd y portffolio yn cynnwys nifer uchel o eiddo gwag, ond ers Covid-19 a’r dyletswyddau ychwanegol i gartrefu mwy o bobl, roedd eiddo ychwanegol drwy HRA wedi ei sicrhau i fodloni’r galw cynyddol.    Roedd y gwasanaeth hefyd yn dibynnu ar lety gwely a brecwast.    Roedd y galw yn debyg o barhau i dyfu wrth i’r pandemig ddod i ben a’r cyfnod adfer ddechrau.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod unrhyw sylwadau yn cael eu darparu cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 14 Mawrth 2022. 

121.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Rhannu Llythyr Blynyddol 2020-21 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2021-22 (Ebrill-Medi 2021).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a’r diben oedd rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint. 

 

            Roedd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon yn rhoi trosolwg o berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion a ymchwiliwyd yn 2020-21. 

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o gwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio i’r Cyngor rhwng y cyfnod 1 Ebrill - 30 Medi 2021. 

 

            Roedd y nifer o gwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon am awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi gostwng 12.5% yn 2020-21 oedd yn adlewyrchu’r gostyngiad mewn cwynion a adroddir arnynt gan awdurdodau lleol yn ystod y pandemig Covid-19. 

 

            Roedd yr Ombwdsmon wedi ymyrryd (wedi cadarnhau, setlo neu ddatrys yn fuan) yn yr un gyfran o gwynion am gyrff cyhoeddus, 20% o’i gymharu â 2019-20.

 

            Roedd 35 o gwynion Sir y Fflint yn gynamserol ac roedd hynny’n cyfrif am 59% o’r cwynion.    Ar draws Gogledd Cymru roedd cyfartaledd y cwynion cynamserol yn 11.    Roedd y dadansoddiad yn egluro er bod y nifer cyffredinol o gwynion a wnaed yn erbyn Sir y Fflint yn uchel, roedd hynny yn bennaf oherwydd y nifer uwch na’r cyfartaledd o gwynion cynamserol.

 

            Roedd angen adolygu sut yr oedd yr awdurdod yn hybu ei weithdrefnau cwynion ei hun a phwysigrwydd hysbysu achwynwyr am gynnydd eu cwyn i leihau’r nifer o atgyfeiriadau cynamserol i’r Ombwdsmon. 

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y perfformiad blynyddol o’r Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2020-21 yn cael ei nodi;

 

(b)       Bod perfformiad hanner blwyddyn 2021-22 y Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i wasanaethau yn unol â’i weithdrefnau cwynion yn cael ei nodi; a

 

(c)        Cefnogi’r camau a amlinellwyd yn yr adroddiad i wella’r broses o ddelio â chwynion ar draws y Cyngor.

122.

Gwerth Cymdeithasol pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        I fynegi’r risgiau a’r heriau sy’n effeithio ar y rhaglen Gwerth Cymdeithasol ar hyn o bryd, a’r cyfleoedd i wella’r rhaglen er mwyn cefnogi datblygiad y ffrwd waith i’r dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod cyflawni gwerth cymdeithasol o weithgaredd a gwariant y Cyngor yn flaenoriaeth gorfforaethol i’r Cyngor ac roedd y Cyngor wedi’i gydnabod am ei waith cadarnhaol ar werth cymdeithasol, gyda llawer o alw am wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd gan y Swyddog Datblygu Gwerthu Cymdeithasol. 

 

            Eglurodd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol bod y rhaglen gwerth cymdeithasol, ers ei sefydlu, wedi ffynnu o amgylch 90% o holl weithgaredd caffael a gefnogwyd i gynnwys cyflawniadau gwerth cymdeithasol.    Rhwng Ionawr a Medi 2021 cofnodwyd bod dros £2.2miliwn o union werth cymdeithasol wedi’i gyflawni yn Sir y Fflint. 

 

            Er mwyn cynnal yr effaith gadarnhaol o werth cymdeithasol i gymunedau lleol, roedd Cyngor Sir y Fflint eisoes wedi ymrwymo i raglen barhaus o waith gwerth cymdeithasol drwy wneud swydd Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol yn barhaol. 

 

            Roedd yr adroddiad yn amlygu rhai o’r deilliannau cadarnhaol hyd yma ac yn edrych ar gynnal blaenoriaeth y Cyngor i gyflawni gwerth cymdeithasol gyda thargedau diwygiedig ar gyfer 2022/23. 

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ble derbyniodd ymateb da. 

 

            Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddog Gweithredol Strategol a’r Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol am eu holl waith ar hyn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod perfformiad y rhaglen gwerth cymdeithasol hyd yma yn cael ei nodi;

 

(b)       Bod y cynnig o amgylch adroddiad perfformiad a sicrhau rhaglen waith gwerth cymdeithasol cyflawnadwy ar gyfer 2022/23, gydag adnoddau sydd ar gael, yn cael ei gymeradwyo; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn parhau i gefnogi’r rhaglen gwerth cymdeithasol, gan ddeall bod cyfleoedd pellach yn bodoli i wella hyn ond bydd angen capasiti/adnoddau ychwanegol i ddatblygu hyn. 

123.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 200 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Amrywiol Ffyrdd o fewn Bwcle, Mynydd Isa, Drury, New Brighton, Burntwood, Bryn Y Baal ac Alltami, Sir y Fflint) (Cyfyngiad Cyflymder 20mya) 202-

Cynghori’r Aelodau am y gwrthwynebiad a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu’r cyfyngiad cyflymder 20mya bwriedig ar amrywiol ffyrdd o fewn Bwcle, Mynydd Isa, Drury, New Brighton, Burntwood, Bryn y Baal ac Alltami, Sir y Fflint. 

 

  • Cynnig i Adeiladu Croesfan Sebra ar Ffordd Coed Onn, Y Fflint

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r cynnig i adeiladu Croesfan Sebra arfaethedig ar Ffordd Coed Onn, Y Fflint.

 

  • Cais am Arian Grant i Hybu Mentrau Atgyweirio ac Ailddefnyddio

Mae strategaeth ‘Mwy Nag Ailgylchu’ Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfeiriad clir i awdurdodau lleol gyda’r pwyslais ar reoli gwastraff yn gadarnhaol a’r symud tuag at economi gylchol yn dechrau drwy sicrhau bod eitemau yn cael eu cadw a’u defnyddio am gymaint â phosibl.  Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy fabwysiadu’r hierarchaeth gwastraff o ailddefnyddio, addasu neu atgyweirio eitemau fel y dewis cyntaf cyn dewis ailgylchu neu waredu.   Er mwyn ymgorffori’r egwyddor hon ym mholisi’r Cyngor, mae dewisiadau wedi eu hystyried yngl?n â sut i ddarparu gwasanaeth ble mae eitemau yn cael eu hystyried fel gwastraff yn cael ei ryng-gipio neu ddargyfeirio ar bwynt gwaredu ac yn cael ei gyfeirio’n ôl i’w ailddefnyddio.   Mae’r adroddiad yn gofyn am awdurdod dirprwyedig i weithredu cynllun peilot i ddarparu cynllun peilot ailddefnyddio ar y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gyda Refurbs Flintshire.   Mae’r cynllun peilot hwn angen darparu arian grant fel y gellir cyflwyno cais i’r Cynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer ystyriaeth cronfa prosiect sylweddol cenedlaethol. 

 

  • Ffioedd a Thaliadau Gwaith Stryd ar gyfer 2022/2023

Mae ffioedd a thaliadau a godir ar gyfer trwyddedau a cheisiadau amrywiol o fewn Gwaith Stryd wedi eu hadolygu ac mae’r taliadau arfaethedig ar gyfer 2022/23 wedi’u nodi yn y tabl.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Trosglwyddo Tir Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Chwitffordd

Ildio tir i Ystad Mostyn (Landlord), a’r landlord i drosglwyddo’r tir i Fwrdd Cyllid Esgobaeth Llanelwy.

124.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2022/2051

Pwrpas:        Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2022/2051.

Cofnodion:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

124.    CYNLLUN BUSNES CARTREFI GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU 2022/2051

                                        

            Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad oedd yn nodi elfennau allweddol o Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu’r nifer o Eiddo Rhent Fforddiadwy i'w cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2022/2051.

125.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.