Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

60.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bithell gysylltiad personol ag eitem 18 ar y rhaglen – Adolygiad o’r Cyllid Craidd.

61.

Cofnodion pdf icon PDF 272 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 19 Hydref 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

62.

Strategaeth Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 i’w hargymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad ar Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a gofynnodd i’r Cabinet argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r strategaeth.

 

            Mae’r adroddiad yn egluro nodau allweddol y strategaeth a chynnwys pob adran, a pham bod angen y strategaeth.

 

            Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), mae’n rhaid i awdurdodau bennu cyfres o ddangosyddion darbodus. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23 – 2024/25.

 

            Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion y tablau yn yr atodiad sy’n ymwneud â Dangosydd Darbodus: Amcangyfrif o’r Gwariant Cyfalaf mewn miliynau o bunnau, Cyllido Cyfalaf mewn miliynau o bunnau, Isafswm Darpariaeth Refeniw mewn miliynau o bunnau, Dangosydd Darbodus: Amcangyfrif o’r Nawdd Cyfalaf Gofynnol mewn miliynau o bunnau, Dangosydd Darbodus: Amcangyfrif o’r Nawdd Cyfalaf Gofynnol mewn miliynau o bunnau, Dangosydd Darbodus: Terfyn Awdurdodedig a Ffin Weithredol ar gyfer Dyledion Allanol, a Dangosydd Darbodus: Cyfran o’r Costau Cyllido i’r Ffrwd Refeniw Net.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor Sir;

 

(b)       Cymeradwyo ac argymell y canlynol i'r Cyngor Sir:

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2022/23 – 2024/25 fel y manylir yn nhablau 1, a 4 – 7 ar gyfer y Strategaeth Gyfalaf

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf)

63.

Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 pdf icon PDF 586 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 i’w hargymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 – 2024/25 i’w hargymell i’r Cyngor.

 

Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Mae’r asedau’n cynnwys adeiladau (fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff) ac asedau nad ydynt yn eiddo i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi sector preifat). Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:

 

  1. Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol
  2. Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes
  3. Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor

 

Yn hanesyddol, mae’r rhan fwyaf o raglen y Cyngor wedi’i hariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau. Mae gallu’r Cyngor i gynhyrchu derbyniadau cyfalaf sylweddol yn heriol gan fod nifer yr asedau sydd gan y Cyngor i’w gwaredu yn lleihau. Bydd y Cyngor yn manteisio ar bob cyfle i nodi asedau i’w gwerthu a ffynonellau eraill o arian, fel grantiau penodol a chyfraniadau refeniw. Fodd bynnag, bydd ar y Cyngor angen defnyddio benthyca darbodus i gyllido mwy o’r rhaglen i’r dyfodol, yn arbennig rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif a bydd angen ariannu cynlluniau eraill sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen fuddsoddi yn defnyddio benthyca darbodus hefyd.

 

O ystyried y sefyllfa bresennol wrth bennu’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y tair blynedd nesaf (2022/23 – 2024/25), mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i gynlluniau newydd arfaethedig i’w cynnwys oherwydd, os na fydd ffynonellau ariannu eraill yn dwyn ffrwyth, bydd yn rhaid i’r Cyngor ddefnyddio benthyca darbodus i ariannu gweddill y rhaglen.

 

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiad cyfreithiol i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050 ac i weithio tuag at sector cyhoeddus sero net erbyn 2030. Un o flaenoriaethau allweddol y Cyngor yng Nghynllun y Cyngor yw dod yn gyngor sero net erbyn 2030 a chefnogi gweithgareddau datgarboneiddio ehangach ar draws y sir. Mae’r rhaglen gwaith cyfalaf yn chwarae rhan allweddol i gyflymu'r newid tuag at gyrraedd y targed. Mae cynnwys y flaenoriaeth honno yn y rhaglen yn atgyfnerthu’r ymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn y tablau yn yr adroddiad, yn arbennig tabl 4 sy’n darparu manylion y dyraniad arfaethedig ar gyfer 2022/23-2024/25. Eglurodd fod y dyraniad blynyddol ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd wedi cynyddu o £600,000 i filiwn o bunnau. Mae tabl 5 yn darparu crynodeb o’r Rhaglen Gyfalaf, gan fanylu ar sut y bydd y rhaglenni’n cael eu hariannu.

 

Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan dynnu sylw  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

64.

Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb a’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd fis Ebrill 2020, i fodloni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel y’u hamlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Nod yr amcanion cydraddoldeb yw mynd i’r afael â'r materion a’r meysydd mwyaf arwyddocaol o anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl gyda nodweddion a ddiogelir (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol).

 

Mae dyletswyddau penodol Deddf Cydraddoldeb 2010 i Gymru yn cynnwys cyhoeddi adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth pob blwyddyn, sy’n amlinellu’r cynnydd wrth gwrdd â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chyflawni’r amcanion cydraddoldeb. Mae’r adroddiad hwn yn amlygu cynnydd y Cyngor wrth roi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith a chyflawni’r amcanion cydraddoldeb yn ystod 2020/2021.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai hwn yw’r adroddiad blynyddol cyntaf sy’n amlinellu’r cynnydd tuag at gyflawni pob un o amcanion cydraddoldeb y Cyngor a’i fod yn cynnwys gwybodaeth benodol am gyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am hyfforddiant a chyflog. Eglurodd y Swyddog Datblygu Polisi – Cydraddoldeb fod y cynnydd sydd wedi’i wneud i gyflawni'r saith amcan cydraddoldeb wedi’i amlinellu yn yr atodiad i’r adroddiad. Yn ogystal, mae’r adroddiad eglurhaol yn amlinellu’r llwyddiannau wrth ymgymryd â’r dyletswyddau cydraddoldeb yn 2020/21.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor yn gweithio drwy geisio annog pob gweithiwr i ddarparu gwybodaeth am eu rhyw, ond bod yn rhaid cydnabod nad yw pawb yn teimlo’n gyfforddus yn darparu’r wybodaeth honno.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad, yn enwedig yr adran yn ymwneud â chaffael a fanylir arni yn yr atodiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r dyletswyddau statudol mewn perthynas â chydraddoldeb;

 

(b)       Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/2021, cyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.

65.

Prosbectws Angen o Ran Tai yn Sir y Fflint pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cefnogi Prosbectws Angen o Ran Tai yn Sir y Fflint ymlaen llaw cyn ei drosglwyddo ymhellach i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o ofyniad Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol gynhyrchu prosbectws anghenion o ran tai a fyddai’n hysbysu’r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.

 

            Byddai’r prosbectws yn hysbysu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, yn siapio’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol drwy nodi blaenoriaethau’r Awdurdod Lleol ac yn darparu canllaw o ran y math o dai sydd eu hangen ac yn lle.

 

            Y gobaith yw y bydd darparwyr tai yn cyfeirio at y prosbectws wrth iddynt edrych ar ddatblygu safleoedd tai fforddiadwy er mwyn iddynt gynllunio i ddarparu cynlluniau sy’n cyflawni blaenoriaethau’r Awdurdod Lleol ac yn diwallu anghenion tai’r ardal yn well.

 

            Mae Prosbectws Anghenion Tai drafft Sir y Fflint wedi’i lunio ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol, y tîm Digartrefedd a’r Adain Gynllunio ac mae’n adlewyrchu gofynion y Cyngor ar hyn o bryd ar wasanaethau a’r uchelgeisiau sydd yn Strategaeth Tai Sir y Fflint 2019-24.

 

            Eglurodd Rheolwr y Strategaeth Dai fod hyn yn darparu ffordd gydlynus i gymdeithasau tai, Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Leol gydweithio i sicrhau bod y mathau cywir o dai yn cael eu darparu i bobl leol. Mae’r prosbectws yn darparu manylion y sefyllfa bresennol, gan gynnwys y pwysau presennol mewn perthynas â thai.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad sy’n delio â phob agwedd ar yr angen o ran tai yn y sir, yn enwedig ar gyfer trigolion diamddiffyn. Roedd hefyd yn falch o weld cydnabyddiaeth ar gyfer yr angen am eiddo o fwy o faint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint.

66.

Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cefnogi’r adroddiad a’r Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn rhoi dyletswydd orfodol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl. Mae’r grant ar gael i addasu neu ddarparu cyfleusterau i unigolion anabl mewn annedd.

 

            Fel rhan o adolygiad Archwilio Mewnol o wasanaeth y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl fis Mehefin 2018, nodwyd fod angen adolygu’r polisi presennol er mwyn gwneud y broses a'r manylion yn gliriach ac yn haws eu deall.

 

            Ers hynny mae gwaith wedi’i wneud i nodi a gweithredu gwelliannau i’r broses er mwyn hwyluso’r ddarpariaeth ac ym mis Medi 2020 cyflwynwyd a chymeradwywyd argymhellion ar gyfer eithriadau i’r polisi sydd, erbyn hyn, wedi’u cynnwys yn y polisi diwygiedig.

 

            Eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau fod llawer o waith hefyd wedi’i wneud i sicrhau bod cwsmeriaid, a gweithwyr proffesiynol sydd yn eu cefnogi, yn derbyn yr holl wybodaeth berthnasol ar y cyfle cyntaf posibl. Mae’r gwaith hwnnw wedi’i adlewyrchu yn y polisi diwygiedig. Eglurodd mai’r grant mwyaf sydd ar gael yng Nghymru yw £36,000 fesul bob cais a wneir o fewn cyfnod o bum mlynedd. Fodd bynnag, mae modd cyflwyno ceisiadau eraill o fewn y cyfnod hwnnw os yw cyflwr y cwsmer wedi newid. O ran ceisiadau ar gyfer gwaith addasu dan £10,000, nid oes ar yr achosion canolig hyn angen prawf modd bellach. Ar gyfer yr holl geisiadau eraill, byddai swm y grant yn amrywio o sero i’r uchafswm yn dibynnu ar gost y gwaith a gymeradwywyd ac amgylchiadau ariannol yr ymgeisydd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr amserlenni diwygiedig ar gyfer darparu addasiadau fel y nodir yn yr atodiad.

                       

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r adroddiad a’r Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl diwygiedig.

67.

Uwchgynllun Shotton pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Uwchgynllun, fel y cytunwyd gan y Cabinet yn eu cyfarfod ym mis Chwefror 2021 ac yn dilyn y diweddariad a gyflwynwyd yn ystod cyfarfod y Cabinet ym mis Gorffennaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-Swyddog Gweithredol yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet, ym mis Chwefror 2021, wedi cefnogi datblygiad ‘Cynllun ar gyfer Shotton’ - gyda Gr?p Llywio amlasiantaeth yn goruchwylio’r gwaith cynhyrchu a darparu.

 

            Mae’r rhaglen weithgareddau yn Shotton eisoes wedi gweld llwyddiannau, a amlinellir yn yr adroddiad, ynghyd â chynigion ar gyfer y camau nesaf a fyddai’n arwain at ymgysylltu'n ehangach gyda sefydliadau partner a’r gymuned i ddatblygu cynlluniau cyflenwi manylach. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r risgiau i’w hystyried a’r camau lliniaru i’w cytuno arnynt. Mae’r risgiau yn bennaf yn ymwneud ag adnoddau a gallu; rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid hyd yma; a datblygu cynllun realistig a rheoli disgwyliadau.

 

            Byddai ymgysylltu â mwy o sefydliadau partner a budd-ddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolaeth ehangach ar y Gr?p Llywio, yn gwella’r cyfle dan y cynllun i drefnu perthnasau partneriaeth i gydweithio i gyrraedd nodau a rennir ac i gyfuno adnoddau i fanteisio i’r eithaf ar y gallu i ddarparu canlyniadau blaenoriaeth lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo cynllun strategol lefel uchel, ‘Cynllun ar gyfer Shotton’, i bennu cyfeiriad strategol ar gyfer gwaith yn Shotton o r?an tan 2030;

 

(b)       Cefnogi gwaith pellach i ymgysylltu gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid ehangach i ddatblygu cynlluniau cyflawni manylach a chraidd sy’n canolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n cyd-fynd â’r pedwar amcan strategol, fel y nodir yn y Cynllun ar gyfer Shotton;

 

(c)        Nodi’r risgiau a’r camau lliniaru;

 

(d)       Cefnogi’r ddogfen gyfathrebu/cyhoeddusrwydd ragweithiol sy’n cyd-fynd â’r adroddiad a’r cynlluniau cysylltiedig.

68.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 6) pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad misol ar gyllideb Cronfa'r Cyngor a chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu rhagolwg o sefyllfa derfynol blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Mae’r adroddiad yn nodi y bydd y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r adenillion yn sgil cynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, fel a ganlyn:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Gwarged gweithredol o £0.227 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.045 miliwn ers ffigur y gwarged a adroddwyd ym Mis 5, sef £0.182 miliwn
  • Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £6.322 miliwn

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.755 miliwn yn uwch na’r gyllideb

·         Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £3.717 miliwn

 

Mae yna bwysau sylweddol o hyd ar leoliadau y tu allan i’r sir, yn sgil effeithiau blwyddyn gron lleoliadau newydd a wnaethpwyd yn 2020/21, yn cynnwys nifer o leoliadau drud a gytunwyd arnynt fis Mawrth ar ôl pennu’r gyllideb ar gyfer 2021/22. Mae cyfraniad o £0.500 miliwn wedi’i wneud o Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol, sy’n gadael gorwariant rhagamcanol o £0.851 miliwn ar gyfer gweddill y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’n debygol o gynyddu gan fod 6 mis arall o’r flwyddyn ar ôl.

 

Rydym yn aros am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddiad yngl?n â £42.72 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar draws Cymru. Byddai’r grant yn cefnogi Gwasanaethau Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, taliadau uniongyrchol i ofalwyr di-dâl, ymyrraeth gynnar ac atal, ynghyd â gwella hysbysebu a recriwtio ar gyfer swyddi gofal cymdeithasol. Byddai modd neilltuo’r cyllid ar gyfer pwysau ariannol presennol y portffolio, a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn manylu ar y sefyllfa fesul portffolio; amrywiadau sylweddol y mis hwnnw; cyflawniad arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn; cyllid brys, cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Eglurodd y rhesymau dros y symudiad ffafriol yn y gorwariant rhagamcanol, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol ragamcanol ar gyllideb 2021/22.

69.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 6) pdf icon PDF 290 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ar Fis 6 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2021/22 ers ei gosod fis Rhagfyr 2020 hyd at ddiwedd Mis 6 (Medi 2021), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol amcanol.

 

Mae’r Rhaglen Gyfalaf wedi gweld gostyngiad net o £2.174 miliwn yn y gyllideb yn ystod y cyfnod, sy’n cynnwys:

 

  • Cynnydd net o £2.435 miliwn yn y rhaglen (Cronfa’r Cyngor (£6.200 miliwn), y Cyfrif Refeniw Tai (£3.765 miliwn))
  • Swm i’w ddwyn ymlaen i 2022/23, wedi’i gymeradwyo ym mis 4 (£4.099 miliwn o Gronfa’r Cyngor)
  • Arbedion a nodwyd ym Mis 6 (£0.510 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor)

 

Roedd y gwariant gwirioneddol yn £37.698 miliwn.

 

Mae’r derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn ail chwarter 2021/22, ynghyd ag arbedion a nodwyd, yn dod i £1.352 miliwn. Mae hynny’n rhoi gwarged rhagamcanol diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf o £4.147 miliwn ym mis 6 (o gymharu â gwarged o £2.795 miliwn ym Mis 4) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2021/22-2023/24, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllido eraill.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion y tablau yn yr atodiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen;

 

(c)        Cymeradwyo’r dyraniad ychwanegol.

70.

Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2022/23 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod gosod Sylfaen Treth y Cyngor yn rhan ganolog o’r broses i osod y Gyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2022/23, gan ganiatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo Praesept Treth y Cyngor at y flwyddyn nesaf.

 

            Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y sylfaen wedi’i chyfrifo yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band ‘D’, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai sydd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle rhoddir gostyngiadau statudol.

 

            Mae gosod sylfaen y dreth yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band ‘D’ hefyd yn cynrychioli twf ymylol yn y Sylfaen Dreth o 0.26% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a oedd gyfwerth â chynnydd o 168 eiddo Band D ar ôl ystyried symudiad naturiol mewn gostyngiadau ac eithriadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Sylfaen Dreth yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23;

 

(b)       Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hynny'n berthnasol i’r sir gyfan;

 

(c)        Parhau i osod premiwm o 50% ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi sy’n dod o dan gynllun Premiwm Treth y Cyngor yn 2022/23.

71.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drethi Lleol ar gyfer Ail Gartrefi a llety hunanddarpar pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Nodi ymateb y Cyngor ar bolisi ac ystyriaethau ymarferol ar y defnydd o drethi lleol ar gyfer y sector llety hunanddarpar a’r defnydd o’r cynllun premiwm Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch newidiadau posibl i’r system drethu leol, gyda’r nod o gefnogi awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar ar gymunedau.

 

            Ychwanegodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn am ein barn ynghylch:

 

·         Pa mor effeithiol yw premiymau i fynd i’r afael â materion tai

·         Sut mae modd i awdurdodau lleol ddefnyddio’r premiwm i helpu i ailddefnyddio eiddo gwag neu segur

·         Sut y dylai’r arian a gynhyrchir gan y premiwm gael ei ddefnyddio ac a ddylai awdurdodau lleol fod yn fwy tryloyw ynghylch sut mae’r arian a gynhyrchir wedi’i wario

·         Oedd y premiwm uchaf o 100% yn briodol? Os nad oedd, beth fyddai’n briodol a theg?

·         Beth oedd yr effeithiau cadarnhaol a negyddol ar lety hunanddarpar

·         Y meini prawf a’r trothwyon presennol ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar ac felly yn agored i dalu trethi busnes yn hytrach na Threth y Cyngor

·         Cymhwystra llety hunanddarpar ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach o 100% unwaith mae’r perchnogion yn gorfod talu Trethi Busnes

 

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad mae’r swyddogion wedi adolygu’r papur ymgynghori ac wedi cynnwys yr ymateb i’r uchod yn yr adroddiad i’w gymeradwyo gan y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

72.

Adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Ystyried prif argymhellion adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi ac ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac eglurodd fod Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o adfywio canol trefi fis Medi 2021. Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion i bob lefel o lywodraeth ymateb iddynt ac, yn unol â phrotocol y Cyngor, mae’r ymatebion ffurfiol yn cael eu cyflwyno i’r system bwyllgora cyn eu cyflwyno i Archwilio Cymru.

 

            Mae’r adroddiad yn nodi chwe argymhelliad, ac mae gofyn i’r llywodraeth leol ymateb i dri ohonynt. Mae'r ymateb i bob argymhelliad wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

            Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 9 Tachwedd 2021, gyda’r Cabinet yn ei ystyried ar 16 Tachwedd a’r Pwyllgor Archwilio yn ei ystyried ar 17 Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi argymhellion Archwilio Cymru a chymeradwyo’r ymateb arfaethedig.

73.

Adolygiad o’r Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar gynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â’r gofynion statudol, a nodi’r ymdriniaeth ar gyfer adolygiad pellach o’r strategaeth yn 2022-23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn darparu graddfeydd amser penodol y mae’n rhaid cadw atynt mewn perthynas â pharatoi ac adolygu strategaethau toiledau lleol. Mae’n rhaid cadw at y raddfa amser statudol hyd yn oed os yw awdurdod lleol yn penderfynu, am resymau gweithredol, i gyhoeddi adolygiad neu ddiweddaru’r strategaeth yn o’u gwirfodd rhwng pwyntiau adrodd allweddol o fewn y raddfa amser statudol.

 

            Cymeradwywyd Strategaeth Toiledau Lleol Sir y Fflint fis Mai 2019. Mae canllawiau cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu’r polisi bob dwy flynedd o ddyddiad cyhoeddi neu adolygu’r strategaeth, ac o fewn blwyddyn i etholiad llywodraeth leol cyffredinol.

 

            Mae’r adroddiad yn darparu diweddariad ar y cynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â’r gofynion statudol, ac yn pennu’r dull ar gyfer cynnal adolygiad pellach yn 2022/2023.

 

            Eglurodd Rheolwr y Strategaeth Priffyrdd fod lleoliadau perthnasol, a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad, yn arddangos sticer logo toiled wrth fynedfeydd i nodi’r toiledau sydd ar gael yn y lleoliad hwnnw at ddefnydd y cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r adolygiad a’r cynnydd hyd yma yn erbyn cynllun gweithredu’r Strategaeth Toiledau Lleol.

74.

Moderneiddio Ysgolion – Ymgynghoriad ar ehangu'r safle yn Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Gynradd Penyffordd pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori ar ehangu safle’r ysgol yn ysgolion cynradd Drury a Penyffordd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i ymgynghori drwy God Trefniadaeth Ysgolion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ynghylch estyn dwy ysgol – Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Penyffordd.

 

            Mae’r cod yn nodi gofynion addasiadau rheoledig i ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol mewn perthynas ag estyn safle ysgolion.

 

            Mae’r prosiectau buddsoddi arfaethedig yn Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Gynradd Penyffordd yn cyrraedd y trothwyon ar gyfer ymgynghori ynghylch cynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgolion drwy fframwaith cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

 

Yn Ysgol Gynradd Drury byddai nifer y lleoedd yn cynyddu i 180. Yn Ysgol Penyffordd byddai nifer y lleoedd yn cynyddu i 375.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo ymgynghoriad drwy God Trefniadaeth Ysgolion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ynghylch estyn safleoedd Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Penyffordd.

75.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 210 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth yngl?n â’r camau gweithredu a gymerwyd dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros ar Unrhyw Adeg – Ffordd Owen, Ffordd Gwynedd, Ffordd Glynd?r, Ffordd Edwin, Stryd Fawr, Parc Sant Pedr a Connah’s Quay Road, Llaneurgain – Cyngor Sir y Fflint

I hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu’r Gwaharddiad ar Aros ar y ffyrdd uchod.

 

  • Diwygiad i reoliadau mynwentydd Cyngor Sir y Fflint

Mae Rheoliadau Mynwentydd Cyngor Sir y Fflint yn llywodraethu’r gweithrediadau a wneir o fewn ei fynwentydd ac yn darparu arweiniad ar yr hyn a ddisgwylir gan ymwelwyr a’r rheiny sy’n berchen ar feddau yn y mynwentydd. Adolygir y rheoliadau hyn yn gyson i sicrhau eu bod yn gyfoes, yn cyrraedd safonau’r diwydiant ac yn addas i’r diben. Mae’r diwygiadau a amlinellir yn sicrhau mai dyma fydd yr achos yn 2021-2015.

 

Refeniw

 

  • Rhent Tai Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Rhent

Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Aelod Cabinet Tai ac Asedau yn gyfrifol am ystyried achosion i ddileu dyledion dros £5,000.

 

Mae penderfyniad i ddileu ôl-ddyledion rhent wedi’i wneud mewn perthynas â thenant sy’n destun Gorchymyn Methdalu. Mae ôl-ddyledion rhent o £7,268.89 wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn Methdalu ac o ganlyniad i’r dyfarniad nid oes modd ad-ennill yr ôl-ddyledion bellach.

 

  • Rhent Tai Cyngor – Dileu Hen Ôl-Ddyledion Rhent yn Dilyn Achos o Droi Allan

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (Adran 5.2) yn nodi bod drwgddyledion a dyledion na ellir eu hadennill, sydd dros £5,000, yn cael eu dileu drwy bwerau dirprwyedig ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Mae’r penderfyniad i ddileu dyled yn ymwneud ag un achos o rent heb ei dalu, lle bu i’r tenant adael yr eiddo cyn cael ei droi allan i ddod â’r denantiaeth i ben. Yn dilyn camau cyfreithiol i ddiweddu’r denantiaeth, ystyrir nad oes modd ad-ennill yr ôl-ddyledion rhent o £10,100 ac nad oes unrhyw obaith o sicrhau taliad.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

 

  • Cytundeb Perfformiad Cynllunio

Ceisiwyd pwerau dirprwyedig i ymrwymo i gytundeb perfformiad cynllunio i gwrdd â chostau’r Cyngor wrth ddarparu cyngor cyn ymgeisio ar gyfer Gorchymyn Caniatâd Datblygu a Chais Cynllunio ar gyfer Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol.

 

Tai ac Asedau

 

  • Dynodi tir ym meddiant y Cyngor yn Llwybr Troed Cyhoeddus ar ran o reilffordd segur rhwng Llwybr Troed Cyhoeddus rhif 5 a 6 yng nghymuned Bwcle yn ôl-weithredol

Dynodi tir sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint yn Llwybr Troed Cyhoeddus, fel y dangosir gyda llinell doredig ddu rhwng pwyntiau A a B ar y cynllun.

 

  • Trosglwyddo Ased Cymunedol, Canolfan Ieuenctid a Chwt Sgowtiaid Penyffordd

Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Ieuenctid a Chwt Sgowtiaid Penyffordd, Ffordd Penarlâg, Penyffordd, Sir y Fflint.

 

Addysg ac Ieuenctid a Thai ac Asedau

                                        

  • Gwaredu Adeiladau Diangen

Datganiad ar y cyd o Adeiladau Diangen – trosglwyddo adeiladau Cyngor Sir y Fflint, sef Canolfan Ieuenctid (Addysg ac Ieuenctid) a Chwt Sgowtiaid Penyffordd (Tai ac Asedau), Ffordd Penarlâg, Penyffordd, Sir y  ...  view the full Cofnodion text for item 75.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

76.

Adolygiad o Gyllid Craidd

Pwrpas:        Cyflwyno canlyniadau’r Adolygiad o Gyllid Craidd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi, yn y gorffennol, darparu cyllid i rai sefydliadau trydydd sector drwy Gytundebau Cyllid Craidd.

 

            Mae’ rhan fwyaf o’r sefydliadau sy’n derbyn cyllid craidd wedi bod yn gwneud hynny ers sawl blwyddyn ac o’r herwydd mae’n bryd adolygu’r trefniadau cyllido a’u haddasrwydd i gynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau a’i amcanion. Dechreuodd yr adolygiad o gyllid craidd yn 2019 ac mae bellach wedi’i gwblhau. Mae canlyniadau’r adolygiad wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi ailenwi’r gronfa yn “Cyllid Strategol” i adlewyrchu defnydd newidiol y gronfa i gomisiynu gwasanaethau;

 

(b)       Cymeradwyo'r dyraniad cyllid a nodir yn Atodiad 3 a rhoi’r gorau i gyllido un sefydliad;

 

(c)        Bod y tanwariant presennol a’r tanwariant i’r dyfodol yn cael ei gadw i ddarparu hyblygrwydd i gefnogi’r trydydd sector, yn cynnwys gwneud taliadau untro yn ôl yr angen;

 

(d)       Cefnogi adolygiad manwl pellach o’r gronfa hon a’r Gist Gymunedol, i'w gynnal o fewn tair blynedd i sicrhau bod y ddwy ffrwd ariannu yn dal yn ymarferol wrth fodloni anghenion y Cyngor.

77.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.