Cofnodion

Lleoliad bwriedig: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

51.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorwyr Banks, Butler, Jones a Mullin ddatgan cysylltiad personol gydag eitem rhif 3 - Rhaglen Foderneiddio NEWydd gan eu bod yn llywodraethwyr ysgol.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

52.

Rhaglen Foderneiddio NEWydd

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn nodi manylion y cynllun pontio gweithredol arfaethedig ar gyfer Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf ac amlinellodd gamau’r gweithrediad a oedd eu hangen i gyflawni’r targedau ar gyfer Rhaglen Foderneiddio NEWydd. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i Gadeirydd y Cyngor, a oedd yn arsylwi’r cyfarfod, am gytuno i’r cyfarfod arbennig gan fod y penderfyniad yn un brys ac er buddioldeb. Eglurodd y rhesymau dros hynny, sef er mwy amddiffyn taliadau gadael.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau, a’u hateb, ar ansawdd y bwyd, darpariaeth prydau dros dro, cynnyrch na ellir eu hailgylchu a’r fwydlen newydd a fyddai ar gael o Ionawr 2021.

 

Diolchodd yr aelodau i bob swyddog am y gwaith a wnaed i alluogi caniatáu ceisiadau gweithwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo gweithrediad arfaethedig Rhaglen Foderneiddio NEWydd, a'r newidiadau i’r gwasanaeth arlwyo ysgol, fel nodir yn y cynllun pontio gweithredol; a

 

(b)       Cefnogi rhyddhau gweithwyr a oedd wedi gwneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol erbyn 31 Medi 2020 i helpu i hwyluso gweithrediad y model gweithredu newydd.

53.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.