Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

118.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi mewn perthynas ag eitem rhif 5 y rhaglen – Adroddiad Hunanwerthuso Addysg ac Ieuenctid 2020/2021 – ar gyfer yr Aelodau hynny sy’n llywodraethwyr ysgol (Y Cynghorwyr Banks, Jones a Mullin).

119.

Cofnodion pdf icon PDF 252 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 16 Mawrth 2021. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2021 eu cyflwyno a’u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

120.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 11) pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 11 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y sefyllfa monitro refeniw manwl ddiweddaraf Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar wir incwm a gwariant fel yr oedd hyd at Fis 11. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhagamcaniad o sut y byddai’r gyllideb yn sefyll ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros fwy neu lai yr un fath. Roedd hefyd yn cymryd i ystyriaeth y sefyllfa ddiweddaraf  o ran cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru (LlC) am Gyllid Grant Argyfwng

 

            Y sefyllfa diwedd blwyddyn a ragwelwyd oedd:

 

Cronfa'r Cyngor

·         Roedd gwarged gweithredol o £1.912 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o’r cronfeydd wrth gefn), yn newid ffafriol o £0.988 miliwn o’r ffigwr gwarged o £0.924 miliwn a adroddwyd ym Mis 10.

·         Roedd y gwarged gweithredol o £1.912 miliwn yn cyfateb i 0.67% o’r Gyllideb a Gymeradwywyd, a oedd ychydig yn fwy na Dangosydd Perfformiad Allweddol targed y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer amrywiant yn erbyn cyllideb o 0.5%.

·         Rhagwelir balans wrth gefn at raid o £5.689 miliwn, ar 31 Mawrth 2021.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y gwelliant yn y sefyllfa wedi dod yn bennaf yn sgil cadarnhau rhagor o gyllid gan Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru am golledion incwm a gafwyd yn y flwyddyn ariannol (£0.665 miliwn).  Yn ogystal, roedd LlC wedi addasu’r meini prawf cymhwyso ar gyfer grantiau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol (gwasanaethau Oedolion a Phlant) a oedd wedi achosi newid cadarnhaol pellach yn y sefyllfa derfynol (£0.258 miliwn).

 

Roedd rhagamcanion blaenorol yn cynnwys colledion incwm posib gwerth cyfanswm o £0.665 miliwn o fewn portffolios Cynllunio a’r Amgylchedd a Llywodraethu.  Roedd hyn oherwydd y ffaith bod LlC ond wedi cadarnhau cyllid ar gyfer hyd at 50% o’r colledion hynny ar y pryd.  Gan fod cyllid ar gyfer y swm llawn wedi ei gadarnhau erbyn hyn, roedd yr effaith cadarnhaol ar y sefyllfa derfynol rhagamcanol bellach wedi’i adlewyrchu.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £1.675 miliwn yn llai na’r gyllideb.

·         Rhagwelir mai’r balans wrth gau ar 31 Mawrth fydd £3.684 miliwn 2021.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion yngl?n â’r sefyllfa a ragwelir, y sefyllfa a ragwelir fesul portffolio, newidiadau arwyddocaol ers Mis 9, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i'r amlwg, cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, ceisiadau i gario cyllid ymlaen a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Eglurodd bod y pandemig, fel gyda phob Cyngor, wedi amharu’n sylweddol ar gasglu Treth y Cyngor.  Ar hyn o bryd, roedd incwm Treth y Cyngor 1% yn llai na’r targed, a oedd y cyfateb i £1.0 miliwn.  Roedd incwm yn adfer yn arafach na’r disgwyl, ond roedd disgwyl iddo wella dros amser gan fod y prosesau adfer bellach wedi ailddechrau yn llawn a’r taliadau y cytunwyd i’w gohirio yn cael eu talu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl gydweithwyr ar draws  ...  view the full Cofnodion text for item 120.

121.

Adroddiad Hunanwerthuso Addysg ac Ieuenctid 20-21 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        I ddarparu manylion adolygiad a gwerthusiad y portffolio o’r gwasanaethau yn ystod 2020-21

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan egluro bod y Cyngor wedi cynnal hunanwerthusiad blynyddol o'i wasanaethau addysg.  Fel arfer, caiff ei hysgrifennu yn unol â’r fframwaith ar gyfer arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Estyn, ond wrth bod y fframwaith hwn wedi’i ohirio yn sgil Covid-19, cyflwynwyd yr adroddiad mewn fformat gwahanol gyda phob maes gwasanaeth yn canolbwyntio ar ei waith dros y 12 mis diwethaf a sut yr oedd wedi ymateb ac addasu i'r argyfwng iechyd parhaus. 

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod pob adran o’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r maes gwasanaeth, sut yr oedd wedi addasu, a’i flaenoriaethau datblygu parhaus a fyddai’n cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor a’r Cynllun Busnes Portffolio ar gyfer 2021/22. Ble bu cynnydd yn bosib yn erbyn argymhellion Estyn yn dilyn arolwg o Wasanaethau Addysg yn Sir y Fflint yn 2019, adlewyrchwyd y rhain ym mhob adroddiad gwasanaeth.

 

            Roedd Estyn wedi parhau i gadw cysylltiad rheolaidd ag ysgolion a swyddogion addysg er bod pob un o'r fframweithiau arolygu ffurfiol ar gyfer ysgolion a gwasanaethau addysg awdurdodau lleol yn parhau i fod wedi’u gohirio.   Comisiynwyd Estyn gan Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o waith awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020. Roedd yr adroddiad adborth yn seiliedig ar gyfarfodydd dros y we gyda Swyddogion Addysg, yr Aelod Cabinet Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a sampl o benaethiaid  ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

 

            Roedd yr adroddiad adborth wedi’i atodi i adroddiad y Cabinet, ac yn amlinellu ymateb cyflym ac effeithiol y Cyngor i gefnogi plant ac ysgolion o ddechrau’r pandemig.  Cydnabu’r arweiniad cryf gan Dîm Ymateb i Argyfwng y Cyngor, a’r Portffolio Addysg.   Roedd yn tynnu sylw at gryfderau’r dull cydweithredol a rennir ar draws y Cyngor a chyda phartneriaid allanol, e.e. GwE, er mwyn addasu gwasanaethau mewn modd effeithiol i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod yr argyfwng cenedlaethol.  Nododd hefyd yr adolygiad trylwyr o ymateb y Cyngor drwy waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

            Roedd yr adroddiad yn gadarnhaol iawn, ac nid oedd yn nodi unrhyw argymhellion ar gyfer gwella ymhellach.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Swyddog a’i thîm, a’r Uned Gludiant Integredig, am y gwaith a oedd wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf wedi iddynt wynebu heriau sylweddol.  Ategodd yr holl Aelodau’r sylwadau hynny, gan hefyd ganmol y staff addysgu a chefnogi a oedd wedi parhau i ddarparu addysg wyneb yn wyneb ar gyfer plant diamddiffyn a phlant gweithwyr allweddol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys yr adroddiad hunanwerthuso; a

 

(b)       Nodi'r adroddiad thematig cadarnhaol a gynhaliwyd gan Estyn yngl?n â gwaith y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig.

122.

Adfywio Canol Trefi - Ymyrraeth Eiddo pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Ystyried y rol y gallai’r Cyngor ei chwarae wrth helpu trefi I addasu I sefyllfa economaidd sy’n newid trwy ymyrraeth uniongyrchol wrth gaffael, ailddatblygu neu reoli eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad gan egluro bod canol trefi yn wynebu heriau economaidd cynyddol a bod y patrymau presennol o berchnogaeth eiddo yn rhwystro ymdrechion i'w helpu nhw i addasu.

 

            Roedd yr adroddiad yn gweithredu fel cam cyntaf y broses o ddatblygu rhaglen uchelgeisiol ond cyflawnadwy o ymyraethau er mwyn cefnogi ailddyfeisio ac adfywio canol trefi yn Sir y Fflint.

 

            Bwriad y rhaglen oedd:

 

·         Lleihau nifer yr eiddo gwag hirdymor yng nghanol trefi;

·         Lleihau'r nifer cyffredinol o ddarpariaethau manwerthu yng nghanol trefi drwy addasu unedau ar gyrion trefi at ddibenion gwahanol;

·         Dod o hyd i ddefnyddiau mwy cynaliadwy ar gyfer unedau manwerthu a chynyddu nifer y mentrau cymunedol ar y Stryd Fawr;

·         Cynllun i addasu a gwneud defnydd gwahanol o ganolfannau siopa llai hyfyw;

·         Datblygu unedau cychwyn ar gyfer mentrau manwerthu newydd yng nghanol trefi;

·         Annog buddsoddiad sector preifat mewn eiddo yng nghanol trefi; a

·         Cydlynu a chefnogi ymyraethau portffolio eraill Cyngor Sir y Fflint er mwyn gwneud y mwyaf o’r effeithiau adfywiol a ddaw o fuddsoddiad ac adnoddau.

 

Yn yr adroddiad amlinellwyd manylion y prosiectau o fewn y rhaglen a’r hyn y byddent yn eu cynnwys.  Hefyd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad roedd manylion y camau nesaf a oedd wedi’u nodi.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y rhanbarth ar fin newid o’r camau ymateb i camau adfer oherwydd y sefyllfa gadarnhaol yr oedd ynddi o ran rheoli'r pandemig.  Un o’r chwe thema ar gyfer adfer oedd adfywio canol trefi, a byddai tystiolaeth yn cael ei ddarparu i'r llywodraeth wrth wneud cais am gyllid.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog bod gan yr awdurdod lleol y p?er i ymyrryd ag eiddo gwag, gyda chymorth pecyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru (LlC) sy’n amlinellu pwerau gorfodi gyda rhai o’r enghreifftiau gwaethaf o eiddo sydd ddim yn cael eu cynnal, er mwyn dod â hwy yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned leol a chanol trefi.

 

Siaradodd y Cynghorydd Thomas yngl?n â mentrau cadarnhaol a fyddai’n helpu canol trefi, gan gyfeirio at y caffi trwsio ym Mwcle a siopau dros dro fel enghreifftiau.  Eglurodd y Prif Swyddog bod y cynllun hwn yn cymryd y camau hynny un cam ymhellach, gan gymryd eiddo a’i ddefnyddio i bwrpas gwahanol.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mullin, eglurodd y Prif Swyddog y byddai gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Rheolwyr Canol Trefi a Chynghorau Tref.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones bwysigrwydd ystyried pobl ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol,  anawsterau iechyd meddwl a dementia, yn y broses.  Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad ar gyfer canol trefi penodol yn cael ei lunio ac y byddai’n sicrhau y caiff y pwyntiau hyn eu cynnwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cytuno ar rôl y Cyngor wrth adfywio canol trefi drwy ymyraethau sy’n canolbwyntio ar eiddo.

123.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 200 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:- 

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Ffioedd a Thaliadau Gwaith Stryd ar gyfer 2021/22

Adolygwyd y ffioedd a’r taliadau a godir am drwyddedau a cheisiadau amrywiol o fewn Gwaith Stryd, a nodwyd y taliadau arfaethedig ar gyfer 2021/22 yn yr adroddiad.

 

  • Cynnig i Adeiladu Twmpathau Ffordd Sinwsoidaidd a Chyffyrdd /Byrddau Fflatwedi’u Codi ar King George Street, Mostyn Street, Plymouth Street a Woodland Street, Shotton.

Rhoi gwybod am gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu’r Cynnig i Adeiladu Twmpathau Ffordd Sinwsoidaidd a Chyffyrdd /Byrddau Fflat wedi’u Codi ar King George Street, Mostyn Street, Plymouth Street a Woodland Street, Shotton.

 

Tai ac Asedau

 

  • Rent y Cyngor – Cais i Ddiddymu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod yn rhaid ystyried diddymu dyledion unigol a drwg ac anadferadwy sy’n fwy na £5,000, ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol.  Y penderfyniad i ddiddymu dyled mewn perthynas ag un tenant sydd o dan Orchymyn Rhyddhau o Ddyled.  Mae ôl-ddyled rhent o £6,210,08 wedi'i gynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled sydd nawr yn anadferadwy o ganlyniad i ddyfarniad y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

124.

Fframwaith Dylunio Graffeg ac Argraffu

Pwrpas:         Ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet ar gyfer fframwaith System Prynu Ddeinamig newydd. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn darparu manylion yngl?n â fframwaith caffael argraffu a dylunio presennol Sir y Fflint a rennir gyda Sir Ddinbych.

 

            Y tro diwethaf i’r fframwaith gael ei ddiweddaru oedd yn 2017, ac fe’i hadolygwyd yn 2020 pan gynigwyd System Brynu Ddeinamig.  Roedd angen i’r fframwaith presennol, er yn addas i’r diben, gael mwy o hyblygrwydd o ran cael rhagor o ddewis o ddarparwyr er mwyn sicrhau gwerth am arian.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo fframwaith newydd System Brynu Ddeinamig.

125.

Cymeradwyo costau ar gyfer cynllun tai newydd yn Duke Street, Y Fflint

Pwrpas:        Cymeradwyo datblygu dau gartref rhent cymdeithasol yn Duke Street Y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu dau gartref Rhent Cymdeithasol newydd yn Duke Street, Y Fflint.

 

            Roedd yr adroddiad a’r atodiadau yn darparu gwybodaeth fanwl am y cynllun arfaethedig, gan gynnwys lleoliad, y mathau o eiddo y bwriedir eu hadeiladu, dyluniad, gosodiad a'r costau adeiladu rhagamcanol.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo datblygu dau gartref Rhent Cymdeithasol newydd yn Duke Street, Y Fflint; a

 

(b)       Cymeradwyo’r benthyca darbodus gofynnol (fel y’i amlinellir yn yr adroddiad)(yn amodol ar gymeradwyaeth a gwiriad terfynol) er mwyn ariannu’r datblygiad arfaethedig yn Duke Street, Y Fflint.

126.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.