Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

194.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

195.

Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig: Adferiad yn dilyn Covid-19 a Diogelu’r Busnes i’r Dyfodol

Pwrpas:        Cynghori’r Cabinet ynghylch sefyllfa bresennol Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig yn sgil effaith Covid-19 a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r newidiadau busnes sydd eu hangen i sicrhau dyfodol i’r cwmni.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad ac eglurodd, ers trosglwyddo i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn 2017, bod Arlwyo a Glanhau Cyfyngedig NEWydd wedi ymdrechu i greu model o weithrediadau mwy modern a chystadleuol a oedd yn nodwedd allweddol o'i Gynllun Busnes cyn Covid-19 ar gyfer 2020/21.           

 

Rhoddodd Rheolwr Gyfarwyddwr NEWydd gyflwyniad cynhwysfawr a oedd yn nodi’r cynigion yn llawn ar gyfer newid sefydliadol a datblygiad model gweithredu newydd i ddiogelu hirhoedledd Arlwyo a Glanhau Cyfyngedig NEWydd.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau yngl?n â chyfleoedd gan Aelodau ac ymatebwyd iddynt, gyda'r pwyslais ar y busnes yn datblygu.  Gofynnwyd cwestiynau hefyd yngl?n â’r gweithlu a’r gwaith a wnaed gyda'r Undebau Llafur.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol, gwnaeth y Cynghorydd Mackie y sylw canlynol:

 

“Teimlaf y dylai’r adroddiad fod wedi dechrau gyda manylion o baragraff 2.08 sy’n egluro fod y busnes wedi cronni arian wrth gefn yn llwyddiannus yn eu 3 mlynedd gyntaf.Rwyf hefyd wedi clywed eu bod wedi ymdrin â heriau sylweddol yn ystod yr argyfwng a gyda’i gilydd byddai'r pwyntiau hyn wedi dangos eu bod yn fusnes llwyddiannus a hyblyg sydd angen newid yn yr hinsawdd gyfredol”.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi sefyllfa bresennol Arlwyo a Glanhau Cyfyngedig NEWydd yng ngoleuni effaith yr argyfwng Covid-19 a’r gyrwyr ar gyfer newid sefydliadol o fewn y cwmni;

 

 (b)      Cymeradwyo cychwyn cyfnod o ymgynghori gyda’r Undebau Llafur, staff a chleientiaid ar y model gweithredu newydd arfaethedig a fydd yn diogelu dyfodol hirdymor y cwmni; a

 

(c)        Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol ac Asedau a’i ddefnyddio gyda chyngor y Rheolwr Gyfarwyddwr, i awdurdodi a gweithredu'r model gweithredu newydd.

196.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.