Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

60.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol

a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

61.

Cofnodion pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 19  Medi 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

62.

Hunanasesiad Corfforaethol pdf icon PDF 198 KB

Pwrpas:        I roi’r adroddiad terfynol i Aelodau, gyda chrynodeb o’r casgliadau ar ôl cwblhau Cam 2 yn cynnwys crynodeb o adborth ar ôl ymgynghoriad ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod yn rhaid i Gynghorau gyflwyno adroddiad hunanasesu ar gyfer bob blwyddyn ariannol.  Rhaid i’r adroddiad nodi ei gasgliadau yngl?n ag i ba raddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno, ac unrhyw gamau yr oedd yn bwriadu eu cymryd, neu yr oedd eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

 

Roedd y model hunanasesu yn dilyn proses tri cham:

 

·         Cam un – dadansoddi a gwerthuso ‘wrth ddesg’

·         Cam dau - canfod barn, ymgynghori ac ymgysylltu

·         Cam tri - cyhoeddi’r asesiad terfynol a’r cynllun gwella

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod canlyniadau’r Hunanasesiad Corfforaethol wedi nodi bod y Cyngor, ar y cyfan, yn perfformio’n dda yn erbyn yr asesiad; 3% Arfer Orau, 6% Arfer Orau / Tystiolaeth Dda a 74% Tystiolaeth Dda.  Nododd ganlyniadau’r Hunanasesiad Corfforaethol gyfleoedd ar gyfer gwelliant hefyd; 14% Tystiolaeth ond Angen Camau Gweithredu Pellach a 2% Peth Tystiolaeth ond Diffyg mewn Meysydd Allweddol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Healey y ddogfen a llongyfarchodd bawb a oedd ynghlwm â’r broses.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo; a

 

(b)       Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu cymeradwyo.

63.

Diweddariad Perfformiad Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Tai pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar gynnydd y Cyngor Strategaeth Tai 2019-2023 a chynllun gweithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu’r Cynllun Cyflawni Strategaeth Dai 2019-2024 gyda phwyslais arbennig ar y flwyddyn ariannol 2022/23.

 

Roedd gan y Strategaeth Dai gynllun cyflawni oedd yn gosod 3 blaenoriaeth strategol a gweithgaredd cysylltiol i gyflawni’r blaenoriaethu hynny:

 

Blaenoriaeth 1: Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir.

Blaenoriaeth 2: Darparu cefnogaeth i sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref

Blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi

 

Darparwyd manylion ar y cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23; rhaglen ddatblygu/darparu arfaethedig; cynnydd yn erbyn y mesurau sefydledig; adnewyddu’r strategaeth dai a’r cynllun gweithredu; a’r camau nesaf.   Mae’r camau nesaf yn amlinellu fframwaith ar gyfer adnewyddu’r strategaeth a’r amserlenni adrodd.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn egluro lefel yr her a wynebir yn sgil yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

 

Roedd yr adroddiad eisoes wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai ac ni chafwyd unrhyw sylwadau ar yr argymhellion.

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y sylwadau ar Gynllun Gweithredu Strategaeth Tai 2019/24; a

 

(b)       Nodi’r newidiadau canlynol a amlinellwyd yn yr adroddiad:-

·         Y broses PDP a symud i borth ar-lein

·         Dileu’r cyfyngiad 20% ar y gyllideb ar gyfer caffaeliadau

·         Alinio safonau a graddfa ymyrraeth ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro

64.

Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn rhoi’r diweddariad blynyddol am brosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint sy’n galluogi’r awdurdod lleol i adnabod eu blaenoriaethau ar gyfer Grant Tai Cymdeithasol fel rhan o fframwaith Grant LlC. Mae’r prosbectws hefyd yn rhoi crynodeb glir a chryno o’r angen a’r galw am dai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod ar Lywodraeth Cymru angen i bob Awdurdod Lleol (ALl) ddatblygu Prosbectws Anghenion Tai i’w ddiweddaru yn flynyddol. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) wybod bod y prosbectws presennol wedi cael ei adolygu a bod drafft diwygiedig wedi cael ei ddatblygu i’w gymeradwyo.  Nid oedd fformat a chynnwys y prosbectws wedi newid yn sylweddol i addasu’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn y prosbectws y llynedd.   Roedd y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am dai cymdeithasol o’r gofrestr tai a dyletswyddau tai, gan gynnwys galw sylweddol uwch am lety dros dro, oedd yn effeithio ar y tîm atal digartrefedd a chyllideb refeniw y Cyngor. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad blynyddol ar brosbectws Anghenion Tai’r Cyngor er mwyn sicrhau, fel rhan o fframwaith Grantiau LlC, bod yr ALl yn nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol, yn ogystal â darparu crynodeb clir a chryno o’r angen a’r galw am dai.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hughes, eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod gwaith ymchwil yn mynd rhagddo i gynnig crynodebau pellach ar reoli cartrefi gweigion er mwyn darparu dadansoddiad pellach o eiddo lle nad oes llawer o alw amdanynt.

 

Roedd yr adroddiad eisoes wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai ac ni chafwyd unrhyw sylwadau ar yr argymhellion.   Sefydlwyd Gr?p Tasg a Gorffen i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo cynnwys Prosbectws Anghenion Tai drafft Sir y Fflint; a

 

(b)       Nodi bod angen adolygu Strategaeth Tai Lleol 2019-2024 y flwyddyn nesaf. 

65.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 5) pdf icon PDF 178 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl gyntaf i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, fel yr oedd ym Mis 5. 

 

Y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredol o £3.660 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog y byddai angen eu talu o gronfeydd wrth gefn - amcangyfrif o £2.727 miliwn ar yn o bryd), a oedd yn newid anffafriol o £1.016 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 4.

·         Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £3.027 miliwn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog) 

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.006 miliwn yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.071 miliwn o’r ffigwr a adroddwyd ym Mis 4; a

·         Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.191 miliwn.

 

Roedd y rhagolygon economaidd yn dal i fod yn heriol o ganlyniad i lefelau chwyddiant uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â chynnydd parhaus mewn galw am wasanaeth yn

dod yn fwyfwy anodd i ddelio â nhw gan nad oedd cyllid y Cyngor yn gallu delio â graddfa’r pwysau hynny. Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, roedd moratoriwm drwy adolygu gwariant diangen ynghyd â phroses o reoli swyddi gweigion yn parhau.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a darparwyd yr atebion i’r cwestiwn naill ai yn y cyfarfod neu’n fuan wedyn. 

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Cyllid yr angen i wasanaethau ymdrin ag unrhyw gynigion i rewi gwariant mewn modd cadarn.   Byddai neges am foratoriwm yn cael ei hanfon at bob aelod o staff.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24.

66.

Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus – Alcohol a Rheoli Cwn pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Penderfynu ynghylch adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ymwneud â rheoli c?n ac alcohol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ymyrraeth i atal unigolion, neu grwpiau, rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.  Roeddent yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

 

Gan ddod i rym ar 19 Hydref 2017, cymeradwyodd y Cabinet

Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli c?n yn dilyn cyfnod ymgynghorol a gofynion eraill dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Roedd

y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion c?n:

 

1. Waredu gwastraff eu c?n o bob man cyhoeddus o fewn Sir y Fflint

2. Mynd â modd o godi gwastraff eu c?n i fyny gyda nhw

3. Rhoi eu ci ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt pan fo’r ci

yn achosi niwsans

4. Gwahardd c?n rhag mynd ar ardaloedd chwarae caeau chwaraeon cyhoeddus wedi eu marcio,

ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i lawntiau bowlio

a chyrtiau tennis, ardaloedd chwarae gydag offer i blant gyda ffensys o’u cwmpas a phob

ardal ar diroedd ysgolion

5. Cadw eu c?n ar dennyn mewn mynwentydd.

 

O dan ddarpariaethau Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014,

roedd Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig Sir y Fflint ar gyfer Alcohol yn newid yn awtomatig i

Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar yr un dyddiad.  Roedd y gorchymyn hwn yn rhoi p?er i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau o’r cyhoedd ildio alcohol os oeddent yn credu bod aelod o’r cyhoedd

yn achosi niwsans mewn man cyhoeddus. Nid oedd hyn yn waharddiad alcohol llwyr

mewn ardal gyhoeddus, ac nid oedd hyn yn berthnasol i eiddo trwyddedig, ond yn annog

yfed yn gall.

 

Adnewyddwyd y ddau Orchymyn yn 2020 ac roedd y ddau bellach angen eu hadolygu a’u hadnewyddu neu byddent yn dod i ben ar 29 Hydref 2023.

 

Gallai unrhyw awdurdod lleol sy’n gwneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ymestyn y cyfnod gweithredol cyn belled â’i fod yn fodlon, ar sail resymegol, bod angen gwneud hynny i atal y gweithgareddau a nodwyd yn y gorchymyn rhag digwydd neu ailddigwydd, neu gynnydd yn amlder neu ddifrifoldeb y gweithgareddau hynny, ar ôl y cyfnod hwnnw.

 

Yn ogystal â hynny, mae Cyngor Tref yr Wyddgrug a Chlwb Pysgota Cei Connah a’r Cylch wedi gofyn i’r Cyngor ddiwygio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli C?n i wahardd c?n o Erddi Coffa yr Wyddgrug, Maes Bodlonfa, yr Wyddgrug,

a The Rosie, Parc Gwepra, Cei Connah.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y gwaharddiadau cyfredol a’r amrywiadau arfaethedig yn unol â’r gofynion cyfreithiol am 5 wythnos rhwng 5 Mehefin ac 14 Gorffennaf 2023.  Derbyniwyd cyfanswm o 881 ymateb.  Roedd cefnogaeth gref i adnewyddu’r ddau

Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys yr amrywiadau a geisiwyd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) eu bod wedi derbyn deiseb mewn perthynas â gerddi coffa’r Wyddgrug ac er bod yr awdurdod wedi ei chydnabod, roedd prosesau llym yn golygu nad  ...  view the full Cofnodion text for item 66.

67.

Polisi Addasiadau i'r Anabl pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Cyflwyno'r Polisi wedi'i ddiweddaru ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby’r adroddiad ac eglurodd fod Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn rhoi dyletswydd orfodol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu grantiau cyfleusterau i bobl anabl. 

 

Roedd y grant ar gael i addasu neu ddarparu cyfleusterau i unigolion anabl mewn annedd. Roedd yr adroddiad oedd yn manylu’r newidiadau i’r polisi oedd yn ofynnol i alinio addasiadau ar gyfer y sector preifat neu gyda rhai tai cyngor awdurdod lleol. 

 

Roedd y terfyn statudol ar gyfer Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn £36,000 ar hyn o bryd fesul cais o fewn cyfnod o bum mlynedd.    Fodd bynnag, mae modd cyflwyno ceisiadau eraill o fewn y cyfnod hwnnw os yw cyflwr meddygol y cwsmeriaid wedi newid.  Byddai’r achos yn cael ei adolygu gyda’r Therapydd Galwedigaethol ar ôl derbyn y cais.

 

Mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau fod unrhyw waith addasu’n darparu’r

datrysiad mwyaf effeithiol yn y tymor hir i fodloni anghenion yr unigolyn anabl.

 

Datganodd y Cynghorydd Attridge, a oedd yn bresennol fel arsylwr, ddatganiad personol.  

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod y Pwyllgor Trosolwg Cymunedau a Thai wedi ystyried yr adroddiad fis ynghynt a chefnogwyd yr argymhellion.   Gofynnwyd nifer o gwestiynau, a’u hateb, ynghylch argaeledd Therapyddion Galwedigaethol a phridiannau tir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y polisi Addasiadau i Bobl Anabl a ddiweddarwyd oedd yn cynnwys cartrefi preifat ac eiddo stoc y cyngor yn cael eu cefnogi a’u cymeradwyo. 

68.

Deddf Etholiadau 2022 – Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prawf Adnabod i Bleidleisio pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y broses prawf adnabod i bleidleisio a’r gefnogaeth a ddarperir i bleidleiswyr nad oes ganddynt fath derbyniol o brawf adnabod â llun. Mae hefyd yn rhoi amlinelliad o’r gwaith a wnaed i hyrwyddo’r Prawf Adnabod i Bleidleisio a’r trefniadau cyfathrebu arfaethedig ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ddydd Iau 2 Mai 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Etholiadau 2022 wedi gwneud nifer o newidiadau i broses etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Nid oedd hyn yn berthnasol i etholiadau Cyngor Sir y Fflint, Cynghorau Tref a Chymuned neu’r Senedd.

 

Roedd rhai o’r newidiadau’n cynnwys y gofyniad bod pleidleiswyr yn dangos prawf adnabod â llun wedi’i gymeradwyo yn yr orsaf bleidleisio, newidiadau i reoliadau ceisiadau pleidleisio absennol, hawliau pleidleisio dinasyddion y DU a ‘phleidleisiau am oes’ ar gyfer etholwyr tramor

 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y broses prawf adnabod i bleidleisio a’r gefnogaeth a ddarperir i bleidleiswyr nad oedd ganddynt fath derbyniol o brawf adnabod â llun.  Mae hefyd yn

amlinellu’r gwaith a gwblhawyd i hyrwyddo’r Prawf Adnabod i Bleidleisio a’r trefniadau cyfathrebu arfaethedig

ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ddydd Iau 2 Mai 2024. 

           

            Cafwyd trafodaeth ar y mathau o ddulliau adnabod a fyddai’n dderbyniol a dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod nifer ohonynt, a’u bod wedi’u rhestru ar wefan y Cyngor.   Dywedodd hefyd y gallai pobl wneud cais am bleidlais bost neu enwebu pleidleisiwr drwy ddirprwy ar eu rhan.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar hysbysu preswylwyr, eglurodd y Prif Swyddog eu bod wedi ysgrifennu at bob aelwyd yn Sir y Fflint â’r manylion, a bod datganiadau i’r wasg wedi cael eu cyhoeddi ac yn parhau i gael eu cyhoeddi yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bibby pa hyfforddiant fyddai’n cael ei ddarparu i’r staff sy’n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio.   Eglurodd y Prif Swyddog fod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bob aelod o staff sy’n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio cyn bob etholiad ac y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr hyfforddiant.   Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy gydol unrhyw gyfnod etholiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am Brawf Adnabod i Bleidleisio;

 

(b)       Cefnogi’r gwaith a gwblhawyd a’r trefniadau cyfathrebu sydd ar y gweill i hyrwyddo’r Prawf Adnabod i Bleidleisio.

69.

Newidiadau i’r Cynllun Dirprwyo pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Dirprwyo pob mater ac ymatebion y Cyngor sy’n ymwneud â Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Phrosiectau Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddirprwyo pob mater ac ymatebion y Cyngor sy’n ymwneud â Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Phrosiectau Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).

 

Amlinellwyd y newidiadau i’r Cynllun Dirprwyo a geisiwyd yn yr adroddiad ac roedd y rhain yn cynnwys bob cam mewn perthynas â’r ddau fath o gais.

 

Rhoddwyd enghreifftiau o’r ddau fath o brosiect gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi). 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r Cynllun Dirprwyo fel yr amlinellir yn yr adroddiad a;

 

(b)       Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’w gweithredu dan Bwerau Dirprwyedig i Arweinydd y Cyngor fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

70.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r

Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.   Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint  (Cymau Road, Abermorddu, Blackbrook, Sychdyn, Crecas Lane, Ffordd y Faenol Fach, Grange Lane a Ddreiniog Road, Carmel, Mountain Road, Cilcain, Bryn Yorkin Lane a Ffordd Las, Cymau, Duckers Lane, Mancot, Ffordd y Gilrhos, Treuddyn, Ffordd Penrallt, Gwaenysgor, Cae Rhug Lane, Gwernaffield, Kelsterton Lane, Kelsterton, B5121, Parc Caple, Ffordd Gledlom, Ffordd Ddienw, Ffordd Ddienw, Ffordd y Graig a Ffordd Ddienw, Licswm, Ffordd Llanfynydd, Llanfynydd, Ffordd y Pentre, Ffordd y Bryn a Henffordd, Nercwys, Penyfron Road, Pantymwyn, Brynford Road, Pentre Helygain, Stryd Fawr, Trelawnyd, Ffordd Ddienw, Trelogan, Well Street Bwcle a Wood Lane, Brychdyn) (Terfyn Cyflymder 20mya) 202x

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r terfyn cyflymder 20mya ar y ffyrdd a restrir uchod.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol o fewn Sir y Fflint) (Terfyn Cyflymder 30mya) 202-

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r uchod.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Drury New Road, Drury Lane, Bannel Lane a Padeswood Road South, Bwcle) (Station Road, Talacre)

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r terfyn cyflymder 40mya a 50mya ar y ffyrdd a restrir uchod.

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae’r adroddiad yn ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol Gardd Gymunedol Cei Connah, ger Mill Lane, Cei Connah, Sir y Fflint, CH5 4HA.

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae’r adroddiad yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Gymunedol Clwb Criced Cei Connah, Parc Canolog, Cei Connah, CH5 4DZ.

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae’r adroddiad yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Gymunedol Canolfan Gymunedol Ffynnongroyw, Prif Ffordd, Ffynnongroyw, CH9 9SN.

 

Arlwyo a Glanhau NEWydd

 

  • Cynyddu Pris Prydau Ysgol

Cynyddu pris prydau mewn ysgolion er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn unol â chostau sy’n cynyddu’n sylweddol, yn enwedig costau mewn perthynas â bwyd a llafur.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

71.

Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022-2025

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (cam 2) arfaethedig, fel bod modd cyflwyno Achos Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru i ryddhau arian Cyfalaf ar gyfer y prosiectau a nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r prosiectau arfaethedig ar gyfer cam 2 rhaglen gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar.   Roedd y prosiectau o fewn y rhaglen wedi cael eu blaenoriaethu yn defnyddio meini prawf cyllid Llywodraeth Cymru ac Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant.

 

PENDERFYNWYD:

           

Cymeradwyo’r rhaglen gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (cam 2) arfaethedig, fel bod modd cyflwyno Achos Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru i ryddhau arian cyfalaf.

72.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.