Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

38.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.

39.

Cofnodion pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Ystyried cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Mehefin a 12 Gorffennaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Mehefin a 12 Gorffennaf 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd yn gofnod cywir.

40.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2023/24 pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar yr  amcangyfrifon cyllideb a’r strategaeth ar gyfer gosod cyllideb 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 cyn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu a’r sesiynau briffio penodol i Aelodau a fydd yn cael eu cynnal yn yr hydref.

 

Roedd cynigion cyflog y cyflogwyr cenedlaethol presennol ar gyfer Athrawon a gweithwyr y NJC (Llyfr Gwyrdd) bellach yn hysbys ac yr oedd yr effaith ariannol sylweddol wedi'i chynnwys yn y rhagolygon diwygiedig. Roedd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd posibl yn y dyfodol ar brisiau cyfleustodau hefyd wedi'i chynnwys yn y rhagolygon, a oedd hefyd yn arwyddocaol.

 

Roedd effaith tâl a chyfleustodau, ynghyd â newidiadau eraill i bwysau presennol o ran costau a phwysau newydd sy’n codi mewn Portffolios, wedi cynyddu’r isafswm gofyniad cyllidebol i £24.348 miliwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn nodi datrysiadau’r gyllideb a'r peryglon y byddai angen eu hystyried ar fyrder er mwyn galluogi'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.

 

Roedd nifer o beryglon parhaus a allai newid y gofyniad cyllidebol ychwanegol ymhellach, y cafodd eu nodi yn yr adroddiad.

 

Ategodd y Prif Weithredwr yr her sy'n wynebu'r Cyngor i ymdrin â’r diffyg ariannol.  Byddai pob portffolio yn cynnal sesiwn briffio ar gyllid cyn i adroddiadau gael eu cyflwyno i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Roberts a'r Prif Weithredwr ddiolch i'r staff i gyd a fu'n ymwneud ag Ymgyrch Pont Llundain.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn a nodi gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24; a

 

(b)       Nodi'r datrysiadau cyllidebol a'r peryglon y bydd angen eu hystyried ar fyrder er mwyn galluogi'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.   

41.

Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        I’r Cabinet osod y cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer 2023-24 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau disgresiwn ers 2017 i godi premiwm Treth y Cyngor hyd at 100% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar gategorïau penodol o ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

 

O fis Ebrill 2023, byddai awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd yn gallu codi neu amrywio cyfradd premiwm Treth y Cyngor o hyd at 300% yn uwch na’r tâl safonol a allai olygu bod unigolion yn talu ffi gyffredinol o 400%.

 

Cyflwynodd y Cyngor gynllun premiwm yn 2017 a sefydlodd gyfradd premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ac yr oedd y gyfradd honno wedi bod yn berthnasol bob blwyddyn ers 2017.

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2021, fod yr adroddiad yn nodi’r ystyriaethau a’r dewisiadau allweddol i’r Cabinet ystyried cadw neu amrywio’r cyfraddau premiwm o 2023/24, ac i’r argymhellion hynny gael eu cymeradwyo mewn cyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol. Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd fod y rhan fwyaf o awdurdodau cyfagos yn codi ardoll o 50%.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cyfradd bresennol y premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros yr un fath.

42.

Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Aelodau i gefnogi a chymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn cynnig trosolwg o Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022 yr oedd wedi’i lunio’n unol â gofyniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Mae’n rhaid llunio un Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ranbarthol ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru a’i gymeradwyo gan Gyngor pob un o ardaloedd yr Awdurdod Lleol, a Bwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol.

 

Dylai asesiad o’r farchnad ofal gael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi erbyn mis Mehefin 2022.  Rhannwyd drafft o’r adroddiad â Llywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, eglurwyd i Lywodraeth Cymru ei fod yn ddrafft cynnar nad oedd wedi’i gymeradwyo gan Gynghorau llawn a’r Bwrdd Iechyd eto. Cafodd y broses gymeradwyo ei chynnal rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Hydref 2022 ac aeth fersiwn derfynol yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym mis Tachwedd 2022 cyn iddi gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod yn rhaid cyhoeddi’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad terfynol ar wefan pob awdurdod lleol, ar wefan y Bwrdd Iechyd a gwefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn Gymraeg a Saesneg.  Byddai copi o’r adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.  Roedd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad llawn yn ddogfen hir a byddai crynodeb gweithredol a fformatau hygyrch hefyd ar gael er mwyn gwneud y cynnwys a'r negeseuon allweddol yn fwy hygyrch a dealladwy.

 

Roedd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Cyngor Sir y diwrnod canlynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwywyd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022.

43.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 4) pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2022/23 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cynnwys y sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Y sefyllfa a ragamcanwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredu o £0.285 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog y byddai angen ei dalu o gronfeydd wrth gefn)

·         Rhagwelir y byddai balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2023 yn £6.911 miliwn (cyn effaith y dyfarniad cyflog terfynol) 

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.188 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £6.287 miliwn.

 

              Gwnaeth Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru helpu i sicrhau £16 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, a byddai’r awdurdod yn parhau i hawlio taliadau ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim yn 2022/23.

 

              Roedd swm o £2.066 miliwn a gyflwynwyd yn dal i fod ar gael o’r gronfa frys wreiddiol o £3 miliwn a glustnodwyd. Roedd cyllideb 2022/23 a gymeradwywyd ym mis Chwefror yn cynnwys £3.250 miliwn ychwanegol i’r gronfa wrth gefn i ddarparu amddiffyniad darbodus yn erbyn effeithiau parhaus y pandemig.  Yr arwyddion cynnar oedd, er bod y peryglon o ganlyniad i COVID-19 wedi lleihau’n sylweddol, roedd y perygl o ran chwyddiant wedi cynyddu.  Byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro'n agos dros y misoedd nesaf a byddai unrhyw effeithiau'n cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Ceir manylion dyfarniadau cyflog ar gyfer staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23.

44.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 4) pdf icon PDF 326 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 4 ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2022/23 ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2021 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2022), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniad a ragwelir.

 

              Bu cynnydd net o £29.590 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £15.864 miliwn yn y rhaglen (Cronfa’r Cyngor £17.621 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai (£1.757 miliwn));

·         Cyflwyniad i Arian a Ddygwyd Ymlaen o 2021/22 o £13.726 miliwn (Cronfa’r Cyngor £13.726 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai £0.000 miliwn)

 

              Y gwariant gwirioneddol oedd £14.290 miliwn.

 

            Roedd derbyniadau cyfalaf a gafwyd yn chwarter cyntaf 2022/23 yn gyfanswm o £1.058 miliwn.   Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 4 o £3.126 miliwn (o warged sefyllfa ariannu agoriadol o £2.068 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid eraill.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen; a

 

(c)        Cymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.

45.

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 350 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 drafft i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys drafft 2020/21 a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, yr oedd yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Gorffennaf 2021 pryd yr ymatebodd swyddogion i gwestiynau gan fodloni’r Pwyllgor ac nid oedd unrhyw faterion penodol i’w dwyn i sylw’r Cabinet.

 

Argymhellwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 18 Hydref i'w gymeradwyo'n derfynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn argymell Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 drafft i'r Cyngor ar 18 Hydref i'w gymeradwyo'n derfynol.

46.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Diwygio Treth y Cyngor pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ac ymatebion i’r Cabinet ar gyfer ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad cam 1 Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddiwygio Treth y Cyngor. 

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y cynigion yn cynnwys:

 

·         Cwblhau ailbrisiad Treth y Cyngor

·         Cynllunio system newydd o fandiau a chyfraddau treth a oedd yn fwy blaengar

·         Gwella'r fframwaith o ostyngiadau, pobl a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau

·         Gwella Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o ymatebion a argymhellir ar y cynigion diwygio i gwestiynau penodol a ofynnodd  Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Awdurdodi'r Rheolwr Refeniw a Chaffael i ymateb i'r ymgynghoriad ar gynigion Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio Treth y Cyngor fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.

47.

Argyfwng costau byw pdf icon PDF 146 KB

Pwrpas:        Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am gynlluniau cymorth a cheisio cymeradwyaeth i ddatblygu canolbwyntiau cynnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y cynnydd diweddar yng nghostau byw wedi ychwanegu at gyfuniad o ffactorau sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd a’n cymunedau ni, gan orfodi mwy o bobl i fyw mewn tlodi a chreu anghenion cymdeithasol nad oedd yn bodoli cyn y pandemig.

 

Yr oedd felly’n bwysig bod y Cyngor a’i bartneriaid yn ystyried pa gamau i’w cymryd a pha gefnogaeth y gellid ei rhoi i gymunedau i liniaru rhai o’r effeithiau hynny.

 

Roedd yr adroddiad yn archwilio rhai o'r rhesymau dros yr argyfwng, yn myfyrio ar yr ymateb hyd yn hyn ac yn edrych ar yr ymateb yn y dyfodol.

 

Er mwyn mynd i'r afael ag amrywiaeth eang y materion, byddai angen cydlynu gweithgareddau'r Cyngor a'i bartneriaid i sicrhau bod yr ymateb a'r gefnogaeth sy’n cael eu cynnig mewn cymunedau mor eang â phosibl.  Roedd y diagram yn yr adroddiad yn dangos darlun cynhwysfawr o'r gwahanol gymorth a fyddai'n angenrheidiol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar ymateb y Cyngor yn y flwyddyn ddiwethaf a'r camau nesaf.  Roedd manylion Cynllun Taliadau Tanwydd y Gaeaf 2022/23, a’r budd-daliadau cymwys, hefyd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Roedd cynnig ar gyfer Canolfannau Clyd a fyddai'n rhoi rhagor o gymorth.   Roedd 22 o ganolfannau cymunedol yng nghynlluniau llety gwarchod y Cyngor ei hun ledled y Sir.  Ers llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo, mae’r Cyngor wedi gallu ailagor nifer o’r canolfannau hynny i drigolion allu mynd i ddosbarthiadau a boreau coffi i helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

 

Yn rhan o’r cynigion Canolfannau Clyd, byddai preswylwyr yn cael eu cefnogi i fwyta’n dda drwy gyflenwi oergell, microdon a phrydau Well-Fed ym mhob canolfan, gan roi cyfle i’r preswylwyr fwyta gyda’i gilydd neu fynd â’u pryd adref gyda nhw.  Yn ogystal â'r canolfannau, byddai'r Cyngor hefyd yn cefnogi canolbwyntiau cymunedol yn Shotton a Threffynnon yn ogystal â'r ganolfan gymunedol yn Holway i ddod yn Ganolfannau Clyd.

 

Ategodd y Rheolwr Budd-daliadau bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo a bod gwaith yn parhau i gael ei wneud i ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi cymunedau i lenwi unrhyw fylchau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor eisiau gweithio gyda llawer o sefydliadau trydydd sector i gefnogi cymunedau lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau cymorth costau byw wedi’i nodi, a bod datblygu Canolfannau Clyd wedi’i gefnogi a’i gymeradwyo.

48.

Safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gael gwared ar safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu ar draws y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod safle dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu yn fan casglu lleol lle cafodd cynwysyddion ailgylchu eu gosod mewn mannau fel meysydd parcio ac ar strydoedd fel bod trigolion yn gallu mynd at gyfleusterau ar gyfer cael gwared ar ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu, a gwneud hynny mewn modd hwylus.  Mae cyfleusterau o’r fath wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd, ac ar un adeg, dyma oedd yr unig ddewis o ran ailgylchu i drigolion, yn ogystal â chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) fod cyflwyno'r gwasanaeth didoli o ymyl palmant wedi gwneud ailgylchu yn llawer mwy hwylus i drigolion a'i fod ar gael i bob cartref yn Sir y Fflint.  Roedd cael banciau ar safleoedd ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu, fel gwydr, bellach yn ddiangen, gan fod gwasanaeth casglu ymyl palmant arall ar gael, yn ogystal â'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Byddai hefyd yn helpu i leihau tipio anghyfreithlon a chostau’n gysylltiedig â glanhau'r safleoedd hynny. 

 

Drwy’r casgliadau ymyl palmant wythnosol ar gyfer ailgylchu gwydr a’r banciau tecstilau sydd ar gael ym mhob un o'r pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, yr oedd cyfle i adolygu darpariaeth y safleoedd dod â gwastraff yn Sir y Fflint ac ystyried eu haddasrwydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo'r argymhelliad i gael gwared ar y safleoedd ailgylchu tecstilau ledled y sir; a

 

(b)       Nodi y bydd y contractwr gwydr presennol yn cael gwared ar yr holl wydr o safleoedd dod â gwastraff ledled y sir.

49.

Datblygu Ardoll Ymwelwyr Lleol pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth i’r Cabinet am yr Ardoll Ymwelwyr Lleol cyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Rhaglen Lywodraethu rhwng 2021 - 2026 yn ddiweddar, yn rhan o’r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ymgynghori ar a chyflwyno pwerau codi treth ar gyfer awdurdodau lleol i godi ardoll ar lety ymwelwyr dros nos yng Nghymru.

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael mai'r amcanion polisi ar gyfer ardoll ymwelwyr oedd galluogi awdurdodau lleol i godi refeniw ychwanegol i'w ail-fuddsoddi yn yr amodau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi gwybodaeth sylfaenol a chynnar i'r Cabinet ar ddatblygiad yr ardoll a’r gwaith sydd wedi’i arwain gan Lywodraeth Cymru.  Byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r datblygiadau diweddaraf ar gyfer datblygu Ardoll Ymwelwyr lleol cyn ymgynghoriad ffurfiol Llywodraeth Cymru yn nhymor yr hydref 2022.

50.

Adroddiad Hunanwerthuso Addysg ac Ieuenctid 2021 - 2022 pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        I ddarparu manylion adolygiad a gwerthusiad y portffolio o’r gwasanaethau yn ystod 2021-2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol trwyadl o'i berfformiad a'i wasanaethau i roi sicrwydd i'r Cyngor ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint. Nododd yr adroddiad gryfderau a meysydd i’w gwella ymhellach ac adlewyrchwyd y meysydd hynny i’w gwella wedyn yng Nghynllun Gwella’r Cyngor a Chynllun Busnes y Portffolio ei hun.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i strwythuro i roi sicrwydd i'r Cyngor ar draws y tri maes arolygu, sef:

 

  • Canlyniadau 
  • Ansawdd y Gwasanaethau Addysg (yn cynnwys Gwasanaethau Ieuenctid)
  • Arweinyddiaeth a Rheoli

 

Casgliad cyffredinol yr adroddiad hunanwerthuso oedd bod gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gadarn, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol ac yn cynnig gwerth da am arian.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Roberts ddiolch i'r Prif Swyddog a'i staff am eu gwaith ar y ddogfen, ac i bob aelod o staff yr ysgolion am eu cyfraniadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysg ar gyfer cyfnod 2021/2022; a

 

(b)       Bod unrhyw sylwadau yn cael eu cyflwyno i'r Tîm Portffolio.

51.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd dan bwerau dirprwyedig.  Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:-

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae hyn yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Cymunedol T? Calon, Chester Road West, Glannau Dyfrdwy.

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae hyn yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Cymunedol Clwb Criced Bwcle, Lane End Ground, Chester Road, Bwcle.

 

Refeniw

 

  • Rhent Tai Cyngor – Diddymu Hen Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a

rhai na ellir eu hadennill sydd dros £5,000 yn cael eu hystyried ar gyfer eu diddymu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Mae'r penderfyniad i ddiddymu yn ymwneud â 2 achos o rent heb ei dalu. Yn dilyn y camau a gymerwyd, ystyrir bod yr hen ôl-ddyledion tenantiaeth ym mhob achos yn rhai na ellir eu hadennill ac nid oes unrhyw obaith o sicrhau taliad. Cyfanswm y rhent heb ei dalu yn gysylltiedig â’r ddau yw £13,003.98.

 

  • Diddymu Ardrethi Busnes

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Rheolaeth Gorfforaethol ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae dwy ddyled Ardrethi Busnes heb eu talu sydd â chyfanswm o £15,133.81, a ddiddymwyd ar gyfer dyledion rhwng 2019/20 a 2021/22 yr ystyrir nad oes modd eu hadennill.

 

  • Diddymu Treth y Cyngor

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Rheolaeth Gorfforaethol ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae tri dyled Treth y Cyngor heb eu talu sydd â chyfanswm o £26,224.98 yr ystyrir nad oes modd eu hadennill, ac ystyrir bod angen eu diddymu.

 

  • Diddymu Rhent Tai Cyngor

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Rheolaeth Gorfforaethol ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae dwy ddyled Ardrethi Busnes heb eu talu sydd â chyfanswm o £15,133.81, a ddiddymwyd ar gyfer dyledion rhwng 2019/20 a 2021/22 yr ystyrir nad oes modd eu hadennill.

 

  • Diddymu Rhent Tai Cyngor

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a

rhai na ellir eu hadennill sydd dros £5,000 yn cael eu hystyried ar gyfer eu diddymu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Mae’r penderfyniad i ddiddymu yn ymwneud â dau achos o rent heb ei dalu lle mae’r tenantiaid yn ddarostyngedig i ansolfedd. Ystyrir nad oes modd adennill y dyledion ac nid oes unrhyw obaith o sicrhau taliad. Cyfanswm y rhent heb ei dalu yn gysylltiedig â’r ddau achos hyn yw £15,324.75.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Llywodraethwyr Ysgol a Benodir gan yr Awdurdod Lleol

Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwr/ Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

 

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Cytunodd y Cabinet yn y cyfarfod ar 12 Gorffennaf, ymhlith pethau eraill, y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi i ddatblygu a  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

52.

Prosiect Theatr Clwyd - Diweddariad

Pwrpas:        Bod y Cyngor yn cymeradwyo ei gyfran o’r cynnydd disgwyliedig mewn costau ar gyfer adnewyddiad cyfalaf y Theatr cyhyd â bod Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i ysgwyddo ei chyfran o’r costau ychwanegol yn unol â’r cyfrannau y cytunwyd arnynt eisoes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Theatr Clwyd.

 

Rhoddodd ddatrysiad posibl i fwlch cyllido a thynnodd sylw at y peryglon o beidio â symud ymlaen â buddion economaidd buddsoddi ym mhrosiect y Theatr a phecyn budd cymunedol a chymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r £1.5 miliwn ychwanegol sydd ei angen i fwrw ymlaen â phrosiect Theatr Clwyd;

 

(b)       Wrth wneud hynny, cymeradwyo ymrwymo i gontract ar gyfer y cam adeiladu, a bydd hyn yn amodol ar gael cadarnhad bod rhagor o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn cyfeirio’r prosiect at y Cyngor Sir ar gyfer y penderfyniad terfynol os na fydd Llywodraeth Cymru yn gallu cynyddu ei chyfraniad yn gymesur neu os na fydd yn fodlon gwneud hynny yn unol â chostau cynyddol y prosiect.

53.

Comisiynu Gwasanaethau Preswyl a Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint

Pwrpas:        Gofynnir am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract yn uniongyrchol gyda Gweithredu dros Blant ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau Preswyl a Therapiwtig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ddyfarnu contract ar gyfer parhau i ddarparu Gwasanaethau Preswyl a Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r dull o ddyfarnu'r contract ar gyfer parhau i ddarparu Gwasanaethau Preswyl a Therapiwtig i Blant a Phobl Ifanc yn Sir y Fflint.

54.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.