Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Roberts gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem rhif 9 ar y rhaglen – Arfer Pwerau Dirprwyedig. 

11.

Cofnodion pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a 23 Mai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2023 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

12.

Adroddiad Blynyddol Monitro'r Gymraeg 2022/23 pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2022/23 a darparu trosolwg o’r broses o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi safonau ar gyfer y Gymraeg.  Dyma amcanion y safonau:

 

·         Gwella’r gwasanaethau y gallai siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn y Gymraeg;

·         Cynyddu’r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;

·         Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg; a

·         Sicrhau bod lefel briodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2022/23 ac roedd yn darparu trosolwg o gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.

 

Ychwanegodd y Swyddog Datblygu Polisi – Cydraddoldeb fod gofyn i’r Cyngor gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, fel a nodir mewn Hysbysiad Cydymffurfio a roddwyd ar y Cyngor yn 2015.  Roedd yr Hysbysiad yn rhoi dyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi sut y mae wedi bodloni Safonau'r Gymraeg.

 

Roedd manylion y cwynion a ddaeth i law wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Er bod meysydd cynnydd cadarnhaol, roedd rhai materion yn parhau fel meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant. Gan ystyried yr heriau o ran recriwtio i swyddi gwag, a llenwi swyddi lle’r oedd y Gymraeg yn hanfodol, roedd meysydd gwelliant allweddol yn cynnwys:

 

  • Datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithwyr, yn arbennig y rhai mewn swyddi sy’n wynebu’r cyhoedd, er mwyn cefnogi gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog
  • Cefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, yn naturiol, yn y gweithle, i gynyddu cyfleoedd i glywed a defnyddio’r Gymraeg

 

Amlinellwyd camau nesaf, sef y bydd y Cyngor yn ceisio:

 

  • Cynyddu nifer y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg (roedd hwn yn gam gweithredu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28)
  • Cyflwyno mentrau i annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
  • Parhau i lenwi hunanasesiadau yn erbyn Safonau’r Gymraeg i sicrhau bod gwasanaethau’n cydymffurfio â nhw

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Weithredwr am ei arweinyddiaeth wrth hyrwyddo’r Gymraeg.  Dywedodd fod cyrsiau ar gael i Aelodau yn ogystal ag i staff a oedd yn dymuno dysgu Cymraeg. 

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno â’r farn fod defnyddio ymadroddion Cymraeg yn rheolaidd yn y gweithle yn helpu i feithrin hyder wrth ddefnyddio’r iaith. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet wedi cael sicrwydd o ran cydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau’r Gymraeg a’i fod yn cefnogi’r meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.

13.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 cyn i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod yn rhaid i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi ei farn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi'i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd nodi’r siwrnai at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl a oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

Janet Bellis – balch iawn o’r adroddiad a hyrwyddo llais pobl ddiamddiffyn yn Sir y Fflint.  Balch o Brosiect Search.  Rhyddhau o’r ysbyty a gweithio’n agos gyda phartneriaid ym maes iechyd.  Defnyddio’r adroddiad hwn i sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein llwyddiannau a pharhau i wrando ar bobl Sir y Fflint ac ymateb yn unol â hynny.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Swyddog am yr holl waith rhagorol a wnaed ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd fod y cyfraniad gan staff ar bob lefel i sicrhau llwyddiant y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad drafft, sy’n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ni ar gyfer 2023/24 yn cael ei gymeradwyo.

14.

Adroddiad Blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        I rhoi diweddariad ar ddarpariaeth gwasanaeth a datblygiadau cyfredol o fewn Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn darparu trosolwg o berfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu, y gwasanaeth sy’n gyfrifol am ddarparu mynediad wyneb i wyneb a digidol i wasanaethau’r Cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Fel rhan o broses cynllunio busnes y Cyngor, cynhaliodd Sir y Fflint yn Cysylltu adolygiad o swyddi gwag yn ystod 2022/23 a arweiniodd at arbediad effeithlonrwydd o £60,000 a llwyddwyd i osgoi colli unrhyw swyddi.  Roedd yr adroddiad yn disgrifio effaith yr arbediad hwnnw ar y gwasanaeth.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Sir y Fflint yn Cysylltu, fel nifer o wasanaethau, wedi wynebu heriau sylweddol o ran staffio dros y deuddeg mis diwethaf.  Gyda mwy na 50% o swyddi gwag ar brydiau, ni allai’r gwasanaeth barau i weithredu oriau llawn amser ar draws y pum Canolfan.

 

Ym mis Hydref 2022, gwnaeth Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle a’r Wyddgrug leihau eu horiau agor dros dro, gan agor bob yn ail diwrnod rhwng y ddwy Ganolfan.  Ym mis Chwefror, penderfynwyd parhau â’r newidiadau ar sail barhaol, fel rhan o broses flynyddol y gyllideb.

 

Bu tarfu ysbeidiol ar oriau agor Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yng Nghei Connah a’r Fflint tua diwedd 2022 cyn i’r oriau agor gael eu lleihau dros dro ym mis Ionawr 2023.

 

Bu recriwtio’n her ond wrth i’r gwasanaeth symud i 2023/24, cafodd swyddi gwag eu llenwi a chynhaliwyd hyfforddiant a datblygu i staff newydd er mwyn sicrhau bod canolfannau Cei Connah a’r Fflint yn agor ar sail llawn amser eto cyn gynted ag oedd yn bosibl.

 

Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr oriau agor ychwanegol a diolchodd i’r staff yn y Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a ddarparodd gefnogaeth amhrisiadwy i breswylwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod perfformiad blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu 2022/23 yn cael ei nodi;

 

(b)       Bod y newid hanesyddol i oriau agor ym Mwcle a’r Wyddgrug a arweiniodd at oriau agor rhan amser yn y ddwy ganolfan yn cael ei nodi;

 

(c)        Bod cynnydd i oriau agor yng Nghanolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle (un diwrnod ychwanegol) er mwyn bod yr un fath â’r Wyddgrug, yn cael ei gymeradwyo, a byddai’n dod i rym pan fydd yr holl weithwyr newydd yn cael hyfforddiant; a

 

(d)       Bod y blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth yn cael eu cefnogi.

15.

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.  Bod yr holl newidiadau yn dod i rym o 31 Gorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod y portffolio Tai a Chymunedau yn gweithredu wyth cynllun gwresogi ardaloedd cymunedol yn Sir y Fflint, gyda 417 o eiddo ar systemau gwresogi ardaloedd cymunedol.  Roedd y Cyngor wedi aildrafod y tariff tanwydd ar gyfer 2023/24 gan fod y contract blaenorol wedi dod i ben ym mis Mawrth 2023.

 

Roedd y gyfradd gyfnewidiol ar gyfer nwy yn cynyddu oddeutu 420% ar gyfer y 12 mis nesaf.  Hyd yma, roedd tenantiaid ardaloedd cymunedol wedi elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor ac roeddent wedi’u diogelu rhag y cynnydd o ran pris ynni a oedd wedi effeithio ar denantiaid cymdeithasol eraill.  Fodd bynnag, byddai’r cynnydd yn y tariff yn effeithio ar denantiaid oedd yn byw mewn eiddo ar y systemau gwresogi ardaloedd cymunedol bellach.  Wrth roi gwybod i denantiaid am eu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2022/23, rhoddwyd hysbysiad am y cynnydd tebygol o ran ffioedd yn 2023/24 er mwyn adlewyrchu costau ynni byd-eang.

 

Roedd y ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn.  Er mwyn adennill y ffioedd gwresogi a ragwelir yn llawn, roedd angen i’r Cyngor gynyddu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn unol â’r cynyddiadau i’r tariff.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol – Tai ac Asedau fod yr ad-daliadau arfaethedig ar gyfer 2023/24 wedi’u nodi yn yr adroddiad a’u bod yn dod i rym o fis Gorffennaf.  Byddai unrhyw oedi wrth weithredu’r ffioedd yn golygu y byddai angen adennill y gost i denantiaid mewn cyfnod byrrach, a fyddai’n anfanteisiol i’r tenantiaid hynny oherwydd byddai’r ffi wythnosol yn uwch.  Byddai cefnogaeth yn parhau i’r tenantiaid a oedd yn gymwys i wneud cais am gymorth.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Bibby fanylion y drafodaeth a gynhaliwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai yr wythnos flaenorol, pan ofynnodd y Pwyllgor fod y cynnydd arfaethedig yn cael eu rhannu dros gyfnod hwy.  Fodd bynnag, eglurodd y byddai goblygiadau ariannol pe bai hyn yn cael ei weithredu.  Ymrwymodd Swyddogion i wneud darn o waith i ganfod a ellid lliniaru'r cynnydd sylweddol.  Roedd y gwaith hwnnw wedi’i wneud ac nid oedd cwmpas i rannu’r costau dros gyfnod hwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y newidiadau arfaethedig i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

16.

Penodi llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn ysgolion pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Argymell newid polisi’r Cyngor o enwebu a phenodi llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn ysgolion.  Mae’r newidiadau i’r polisi’n unol â darpariaethau Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod polisi presennol y Cyngor yn nodi y gallai Aelod/Aelodau Etholedig y Ward etholiadol yr oedd ysgol wedi’i lleoli ynddi enwebu unigolyn/unigolion i fod yn Llywodraethwr Awdurdod Lleol (ALl). Fodd bynnag, dim ond ar gyfer enwebu yr oedd polisi hwn yn amodi. Penderfyniad i’r corff llywodraethu oedd y ddyletswydd statudol i dderbyn neu wrthod yr enwebiad.

 

Roedd Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (y Rheoliadau) yn nodi sut oedd grwpiau ‘budd-ddeiliaid’ yn cael eu hethol neu eu penodi i gyrff llywodraethu a darparu disgresiwn i awdurdod lleol benderfynu ar ei broses ei hun ar gyfer cadarnhau llywodraethwyr yr ALl i’w gyrff llywodraethu.

 

Fe wnaeth Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) awdurdodi’r penodiadau trwy bwerau dirprwyedig y Cyngor, ar ôl cael sicrwydd fod y meini prawf cymhwyso i fod yn llywodraethwr dan y rheoliadau wedi’u bodloni.

 

Dyma grynodeb o’r adolygiadau:

 

1. Cael gwared â’r drefn o gael Aelodau Etholedig i enwebu i swyddi llywodraethwyr ALl

2. Disodli’r drefn gydag ystyriaeth awtomatig i’r AelodEtholedig hwnnw gael eu henwebu fel Llywodraethwr ALl i swydd wag mewnysgol yn eu Ward, os ydynt yn dymuno hynny (yn amodol ar y gofyniadrheoleiddiol na all unrhyw lywodraethwr fod yn llywodraethwr mewn mwy na dwyysgol) ac yn amodol ar gael eu derbyn gan y Corff Llywodraethu)

3. Ym mhob sefyllfa arall, gofynnir i’r Corff Llywodraethu enwebu eu llywodraethwyr ALl ar sail eu hanghenion o ran sgiliau a phrofiad a nodwyd yn yr aelodaeth.Gall yr enwebiad hwn gynnwys Aelodau etholedig (yn amodol ar y gofyniad rheoleiddiol na all unrhyw lywodraethwr fod yn llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol)

4. Mae’n rhaid i Gyrff Llywodraethu roi gwybod i’r Prif Swyddog (Addysgac Ieuenctid) am eu hymgeiswyr fel y’u cymeradwywyd gan y Corff Llywodraethu.

5. Mae’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dan bweraudirprwyedig, yn cadarnhau’r penodiad yn amodol ar y gwiriadaurheoleiddiol ar y meini prawf cymhwyso i fod yn llywodraethwr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig.

 

17.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r Gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu â’r eitem hon, cafodd y Cynghorydd Roberts ei symud i’r ystafell aros ar-lein.  Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, cadeiriodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Hughes, y cyfarfod.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Hughes gymeradwyo gohirio’r eitem ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y p?er dirprwyedig a restrir isod yn cael ei ohirio.

 

Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth

 

  • Prince of Wales Avenue, Park Avenue, St Catherine’s Close ac Allt Goch, y Fflint – Cynnig i Wahardd Aros a Chyfyngiadau Aros ar Unrhyw Adeg

Hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cynnig i Wahardd Aros ar Unrhyw Adeg ar y ffyrdd a restrir uchod.

18.

Dileu Rhent Masnachol

Pwrpas:        Nodi a chymeradwyo'r penderfyniadau masnachol sy'n cael eu cymryd i gymeradwyo dileu ôl-ddyledion rhent masnachol, a amcangyfrifir yn £55.5k.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ar gyfer dyledion unigol o fwy na £25,000, roedd angen i’r Cabinet gymeradwyo’r argymhellion i ddiddymu dyledion yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol.

 

PENDERFYNWYD:

           

Cymeradwyo diddymu’r Rhent Masnachol o oddeutu £56,000.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.