Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

135.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad.

136.

Cofnodion pdf icon PDF 341 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 23 Chwefror.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2023 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir, yn amodol ar wall teipograffyddol o dan bwerau dirprwyedig. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

137.

Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021/22 pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd ym mis Ebrill 2020, gan gyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

 

Nod yr amcanion cydraddoldeb oedd mynd i’r afael â’r materion mwyaf sylweddol a meysydd o anghydraddoldeb y mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol) yn eu hwynebu.

 

Dywedodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau fod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru, i lunio adroddiad blynyddol a ddylai amlinellu cynnydd gyda Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a chyflawni'r amcanion cydraddoldeb, a’i fod yn cael ei gyhoeddi ar 31 Mawrth bob blwyddyn.  Roedd adroddiad blynyddol y Cyngor yn amlygu cynnydd y Cyngor i roi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith a diwallu’r amcanion cydraddoldeb yn ystod 2021/22.  Cafodd y Cynllun ei atodi i’r adroddiad, gan nodi’r cyflawniadau a’r meysydd i’w gwella.  

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn adroddiad pwysig ac eang, gyda gwybodaeth am y gwaith cadarnhaol y mae’r Cyngor yn ei wneud, a beth oedd yn cael ei wneud yn gydweithredol i wella pethau i bobl yn ein cymunedau.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r amcanion statudol mewn perthynas â chydraddoldeb; a

 

(b)       Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021/2022, cyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.

138.

Polisi Torri Gwair - Rheoli Ymylon Ffordd a Glaswelltiroedd Amwynderau i Gefnogi Bioamrywiaeth pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Ystyried cyfleoedd sydd ar gael i gynyddu bioamrywiaeth wrth reoli ymylon ffordd a glaswelltiroedd amwynderau trwy bolisi torri gwair y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac yn dilyn cais gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, cynhaliwyd gweithdy i bob aelod ddydd Mawrth 24 Ionawr 2023 er mwyn dysgu mwy am reoli glaswelltiroedd ymylon ffordd ac amwynderau, blodau gwyllt a bioamrywiaeth.  Ceisiodd Aelodau ddysgu mwy am ddefnyddio plaladdwyr a deall polisïau presennol, a chamau a gymerwyd hyd yn hyn a’r cyfleoedd sydd ar gael.  Roedd y gweithdy yn ddigwyddiad portffolio ar y cyd, a gafodd ei hwyluso gan swyddogion o bortffolio Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi a phortffolio Strydwedd a Thrafnidiaeth.

           

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a hybu bioamrywiaeth. Gallai torri gwair ymylon ffordd a glaswelltiroedd amwynderau mewn ffordd ystyrlon helpu i fodloni’r ddyletswydd hwnnw.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r gwaith a wnaed hyd yma, ac i ystyried y cyfleoedd ar gyfer adolygu’r polisi yn y dyfodol.  Yn ychwanegol, fel portffolio, roedd Strydwedd a Thrafnidiaeth yn adrodd yn rheolaidd am berfformiad blynyddol y gwasanaeth torri gwair i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi at ddibenion sicrwydd.  Felly roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad i’r Cabinet am berfformiad y gwasanaeth yn ystod 2022.

 

Canmolodd y Cynghorydd Healey y berthynas weithio rhwng y Swyddog Bioamrywiaeth a staff yng Ngwasanaethau Stryd er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig yma.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r gwaith a wnaed hyd yma a bod cyfleoedd i gynyddu bioamrywiaeth wrth reoli gwair ar ymylon ein ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder yn cael eu hystyried; a

 

(b)       Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r polisi torri glaswellt a chefnogi’r gostyngiad wedi ei dargedu yn y defnydd o blaladdwyr.

139.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 10) pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2022/23 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol hyd at fis 10.

 

Roedd yr adroddiad yn darogan sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredol o £0.693 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog a oedd wedi’u talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.810 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 9.

·         Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2023 yn £7.024 miliwn 

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £3.101 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.373 miliwn.

 

             Helpodd Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru i sicrhau dros £16 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, ac roedd cyfanswm taliadau o £4.8 miliwn ar gyfer 2022/23 yn parhau i gael eu hawlio ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim a Taliadau Tanwydd y Gaeaf o fewn eu cyfnodau cymwys.

 

            Bydd y risgiau agored sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn parhau i gael eu hadolygu’n ofalus.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23;

 

(b)       Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen; a

 

(c)        Cymeradwyo trosglwyddo £0.200m o’r gronfa wrth gefn at raid i ail-lenwi Cronfa wrth Gefn i gynnal a Chadw yn y Gaeaf.

140.

Dileu dros £25,000 o ddyledion Trethi Busnes pdf icon PDF 98 KB

Pwpras:        Y Cabinet i gymeradwyo dileu gwerth £25,000 a mwy o falansau Trethi Busnes ble nad yw’n bosibl casglu’r dyledion mwyach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ar gyfer drwgddyledion unigol o fwy na £25,000, roedd angen i’r Cabinet gymeradwyo’r argymhellion uchod i ddiddymu dyledion yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 5.2).

 

Nid oedd modd adennill dwy ddyled Ardrethi Busnes oedd â chyfanswm o £112,526 ac roedd angen eu diddymu oherwydd Ansolfedd.

 

Roedd y ddau gwmni wedi dod i ben, roeddynt yn ansolfedd ac yn swyddogol roeddynt yn nwylo’r gweinyddwyr neu ar fin dod i ben ac yn y camau olaf o gael eu dirwyn i ben yn Nh?’r Cwmnïau. Roedd y rhwymedigaethau Ardrethi Busnes bellach wedi dod i ben yn y ddau achos a gan fod Ardrethi Busnes sydd heb eu talu yn cael eu hystyried yn ddyledion na ffefrir, ychydig iawn o asedau, neu ddim asedau o gwbl oedd ar gael ar gyfer credydwyr a ffefrir ac nid oedd adfer ardrethi busnes yn llwyddiannus bellach yn bosibl.

 

Nid oedd unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i’r Cyngor na’r trethdalwyr lleol gan fod colledion ardrethi busnes yn mynd i’r Gronfa Genedlaethol yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y ddau ddiddymiad oedd â chyfanswm o £112,526, sef £37,856 ar gyfer A.C. Canoe Products (Chester) Limited a £74,670 ar gyfer FTS Hatswell Limited yn cael eu cymeradwyo.

141.

Adroddiad Safonau Gwasanaethau Stryd 2022-23 pdf icon PDF 167 KB

Pwrpas:        Adolygu’r safonau Gwasanaethau Stryd presennol ac ystyried cyfres newydd o fesurau a dangosyddion perfformiad sy’n cysylltu’n agosach at Gynllun y Cyngor, polisïau a chynllun busnes portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod sawl gwasanaeth wedi cyfuno i greu portffolio Strydwedd a Thrafnidiaeth yn 2012.  Ar y pryd, cymeradwyodd y Cabinet set o Safonau Perfformiad Strydwedd oedd yn ffurfio sail ar gyfer adroddiad perfformiad chwarterol y portffolio newydd. Yna cafodd ei graffu’n ofalus gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Cabinet ar y pryd.  Cafodd y Safonau Strydwedd eu hadolygu ddiwethaf yn 2019 ac ychydig iawn o newid a fu iddynt ers iddynt gael eu llunio.

 

Amlinellodd yr adroddiad y bwriad i adolygu’r Safonau presennol ac argymell newidiadau sy’n cysylltu’n agosach i Gynllun y Cyngor a Chynllun Busnes y portffolio. Roedd yr awdurdod eisiau sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd a phreswylwyr yr oedd yn eu gwasanaethu, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.

 

Byddai ansicrwydd setliadau ariannol blynyddoedd i ddod, y gofynion sy’n newid o ran yr agenda amgylcheddol a newid hinsawdd a’r angen i ddarparu data perfformiad clir yn dylanwadu ar y ffordd y mae Strydwedd a Thrafnidiaeth yn darparu gwasanaethau dros y blynyddoedd sydd i ddod.  Fel gwasanaeth sydd yn cyffwrdd bywydau pobl o ddydd i ddydd, roedd hi’n hollbwysig arddangos gwerth gwirioneddol i bobl Sir y Fflint, ond hefyd i fesur perfformiad mewn modd sydd yn ystyrlon ac yn galluogi gwelliant parhaus.

 

Fe ychwanegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) mai pwrpas yr adroddiad oedd egluro diffygion y ddogfen bresennol a cheisio cefnogaeth gan y Cabinet i Strydwedd a Thrafnidiaeth i adolygu a chefnu ar y Safonau presennol. Byddai hynny o blaid creu cyfres o fetrigau perfformiad mwy cadarn a pherthnasol y gellid eu mesur, monitro ac adrodd amdanynt yn fwy effeithiol.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle penderfynwyd y byddai Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei sefydlu i gefnogi adolygu’r Safonau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnig i gefnu ar ddogfen bresennol Safonau Strydwedd, a chefnogi’r adolygiad arfaethedig i’w disodli gyda chyfres ddiwygiedig o fetrigau perfformiad sy’n ategu safonau gwasanaeth er mwyn mesur perfformiad yn erbyn goblygiadau statudol presennol, Cynllun y Cyngor a pholisïau presennol.  Bydd adroddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi ei gwblhau yn cael ei gyflwyno; a

 

(b)       Bod argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi, sef bod Gr?p Tasg a Gorffen Aelodau yn cael ei sefydlu i gefnogi adolygu Safonau Strydwedd, gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet yn nes ymlaen yn y flwyddyn, yn amlinellu manylion y broses adolygu unrhyw gasgliadau ac argymhellion dilynol, yn cael eu cefnogi.

142.

Prosiect Dal Carbon HyNet; Y wybodaeth ddiweddaraf am y Biblinell Carbon Deuocsid a’r Broses Gydsynio pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar y prosiect traws-ffiniol i ddal a storio hydrogen a charbon o’r enw HyNet Gogledd Orllewin, y broses gydsynio ar ei gyfer ac i benderfynu a oes angen safbwynt corfforaethol ar y prosiect cyfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd fod Liverpool Bay (Carbon Capture Storage) Limited (y Datblygwr) yn cynnig adeiladu a gosod piblinell carbon deuocsid newydd rhwng Ince, ger Stanlow, (Swydd Gaer) a’r Fflint, ac ailbwrpasu piblinell nwy naturiol presennol rhwng y Fflint a Thalacre (‘Piblinell Cei Connah i’r Parlwr Du’). Enw’r prosiect hwnnw oedd Piblinell Carbon Deuocsid y Gogledd-orllewin HyNet ac roedd yn cael ei ystyried yn Brosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol. Roedd y broses gymeradwyo yn wahanol ar gyfer Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol, a gwnaed cais o dan Ddeddf Cynllunio 2008 am ganiatâd sy’n cael ei alw’n Orchymyn Caniatâd Datblygu i adeiladu a gweithredu Piblinell Carbon Deuocsid Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol arfaethedig.

 

Yn rhan annatod o brosiect NyNet y Gogledd-orllewin oedd ailddatblygu’r gwaith yn Nherfynell Nwy y Parlwr Du, y gwaith rhwng y Derfynell Nwy at y marc Distyll Cymedrig, ac adeiladu tair Gorsaf Falf wedi’u Blocio ar hyd ‘Piblinell Cei Connah i’r Parlwr Du’ sydd eisoes yn bodoli.  Mae’r datblygwr eisiau caniatâd ar gyfer y gwaith hwnnw o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio awdurdod dirprwyedig i alluogi swyddogion i ymateb i faterion sy’n codi wrth archwilio’r Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol, cynrychioli’r Cyngor yn y gwrandawiadau, ymateb i’r Datganiad Tir Cyffredin, ateb cwestiynau sy’n codi, a darparu Adroddiad ar Effaith Lleol.

 

Mae’r adroddiad yn darparu manylion am y prosiect, y ddau broses gymeradwyo a rôl yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yna ddiwygiad i’r argymhelliad i dynnu’r geiriau  “Aelod Cynllunio, Iechyd Cyhoeddus a Gwarchod y Cyhoedd” fel ei fod mewn ymgynghoriad gyda’r Cabinet.   Cefnogwyd hyn.  Fe eglurodd mai pwrpas yr adroddiad oedd ceisio caniatâd i ymateb i’r adroddiad ar effaith lleol a fyddai’n galluogi gwybodaeth wrthrychol gael ei gyflwyno i’r Archwilwyr.

 

Byddai cyfres o sesiynau briffio’n cael eu trefnu, gan ddechrau gyda’r Cabinet.

 

Diolchodd y Cynghorydd Healey i’r swyddog sy’n arwain y gwaith am y sesiwn i’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod ymateb y Cyngor i’r Awdurdod Archwilio mewn cysylltiad â’r Adroddiad ar Effaith Lleol ar Biblinell Carbon Deuocsid Gogledd-orllewin HyNet yn cael ei ddirprwyo i swyddogion mewn ymgynghoriad gyda’r Cabinet; a

 

(b)       Bod ymatebion sy’n ymwneud â sylwadau ar Ddatganiad Tir Cyffredin, darparu Sylwadau Ysgrifenedig sy’n mynd i’r afael â chwestiynau ac unrhyw faterion sy’n codi yn rhan o sesiynau Archwilio dilynol ac yn ystod sesiynau gwrando, yn cael eu dirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).

143.

Admissions Consultation 2024/2025 pdf icon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn cynghori ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer 2024/25 ac argymell i’w cymeradwyo.

 

Mae’n rhaid i’r ymgynghoriad gynnwys y trefniadau derbyn llawn yn cynnwys:

polisi derbyniadau, meini prawf pan fydd mwy o geisiadau na lleoedd sydd ar gael, yr amserlen ar gyfer derbyniadau a niferoedd derbyn (h.y. y nifer uchafswm o ddisgyblion i gael eu derbyn gan yr awdurdod derbyn i bob gr?p blwyddyn). Roedd y wybodaeth wedi’i atodi i’r adroddiad.

 

Roedd y trefniadau derbyn presennol wedi bod ar waith ers 2003 ac roedd

mwyafrif dewisiadau’r rhieni’n parhau i gael eu bodloni (tua 96%). Roedd y nifer o apeliadau derbyn yn y blynyddoedd diweddar wedi’u manylu yn y tabl yn yr adroddiad.

 

Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 13 Ionawr 2023 a 3 Chwefror 2023 ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau. Nid oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r trefniadau derbyn. Roedd yr amserlen dderbyniadau ddiwygiedig wedi’i llunio mewn ymgynghoriad ag awdurdodau cyfagos, ac yn rhoi ystyriaeth i ffactorau megis rhoi digon o amser i rieni ymweld/ymchwilio i ysgolion a mynegi eu dewisiadau, yr amser oedd ei angen i brosesu ceisiadau ac ati.

 

Yn rhan o’r ymgynghoriad, gofynnwyd i Benaethiaid a fu yna newidiadau i’r gofod yn eu hysgolion a fyddai’n golygu bod angen adolygu eu Nifer Derbyn.  Ni chafwyd unrhyw geisiadau.  Roedd yna newidiadau i’r capasiti a’r niferoedd derbyn mewn nifer o ysgolion o ganlyniad i estyniadau a/neu adeiladau newydd, ac roedd y ffigurau hynny wedi’u hatodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2024/25.

144.

Adrodd yn ôl ar ôl Galw Penderfyniad Rhif 4056 - Adolygiad Strategaeth Wastraff pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I adrodd yn ôl o'r Galw i Mewn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd bod penderfyniad y Cabinet - Cofnod Rhif 4056 “Adolygiad o Strategaeth Gwastraff” wedi cael ei alw i mewn.

 

Cynhaliwyd y cyfarfod galw i mewn o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi ar 1 Chwefror 2023.

 

Ar ôl ystyried y penderfyniad, dewisodd y Pwyllgor Ddewis 3, i’w gyfeirio yn ôl i’r person neu gorff sy’n gwneud y penderfyniad (h.y. y Cabinet) i’w ystyried.   Roedd y Cabinet wedi ystyried y penderfyniad a gymerwyd a’r sylwadau a wnaed, a’r penderfyniad a wnaed oedd am bedwar mis (Mawrth, Ebrill, Mai a Mehefin 2023) byddai gwastraff yn cael ei fonitro ac os oedd yna dystiolaeth o ostyngiad sylweddol mewn deunydd y gellir ei ailgylchu oedd yn cael ei roi yn y biniau du, yna byddai’r Cabinet yn edrych eto ar y cynnig am gasgliadau bob tair wythnos. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) bod dal angen cyrraedd y targedau ailgylchu er mwyn osgoi’r perygl y gallai’r Cyngor gael dirwy sylweddol gan Lywodraeth Cymru.   Fe ychwanegodd bod modd ailgylchu 50% o’r hyn oedd yn cael ei roi yn y biniau du, ac roedd 27% ohono’n wastraff bwyd.  Fe fyddai angen gwelliant sylweddol mewn ailgylchu gan breswylwyr er mwyn cyrraedd y targed o 64% yn 2022-2023 a 70% erbyn 2024-25, ochr yn ochr â gorfodaeth gan y Cyngor a chynnal ymgyrchoedd addysgiadol.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Healey y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Hughes.

 

Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i breswylwyr Sir y Fflint a gysylltodd â’r Cyngor am wastraff ac ailgylchu.  Petai’r targedau ailgylchu'n gwella, nid oedd y Cabinet awydd cyflwyno casgliadau bob tair wythnos ac fe anogodd preswylwyr Sir y Fflint i helpu i wella’r cyfraddau ailgylchu. Os oedd y biniau du yn orlawn, fe fyddai’n nodi bod deunydd y gellir ei ailgylchu y tu mewn, a byddai gorfodaeth yn cael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi penderfyniad cyfarfod galw i mewn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi o ran Cofnod Rhif 4056 Adolygiad o Strategaeth Gwastraff;

 

(b)       Bod cyfnod pellach o fonitro dros y pedwar mis nesaf, i weld a ellir gwella cyfraddau ailgylchu drwy addysgu a gorfodaeth, yn cael ei gymeradwyo; a

 

(c)        Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2023.

145.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r

gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.   Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Refeniw

 

  • Dileu Dyledion

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol, i ddiddymu dyledion rhwng £10,000 a £25,000.

 

Mae yna dair dyled sydd â chyfanswm o £33,068.40.  Mae un yn ymwneud ag Ardrethi Busnes sy’n ddyledus ac mae dau yn ymwneud ag anfonebau Dyledion Corfforaethol.   Mae opsiynau adfer wedi methu ym mhob achos ac fe ystyrir nad oes modd adfer y balansau sy’n weddill ac mae eu diddymu’n cael ei ystyried yn angenrheidiol.

                                        

  • Ardrethi Busnes - Mabwysiadu Cynllun Rhyddhad, Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch (RLHRR) ar gyfer 2023/24.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes sydd wedi anelu at gefnogi busnes yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.  Bydd talwyr ardrethi cymwys yn cael rhyddhad ardrethi o 75% yn ystod 2023/24.

 

Mae’r cynllun yn fesur dros dro i gefnogi busnesau ac yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.  Yn ogystal mae gofyniad i awdurdodau lleol unigol fabwysiadu’r cynlluniau a phenderfynu pa fusnesau fydd yn cael y rhyddhad gan ddefnyddio canllaw y cynllun a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae’r adroddiad yn ymwneud â Throsglwyddo Ased Gymunedol yr Hen Gwt Sgowtiaid a’r Lôn, Park Avenue, Yr Wyddgrug.

 

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitemau canlynol wedi’u heithrio yn rhinwedd paragraffau 14, 15 ac 16 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

146.

Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2023/2052

Pwrpas:        Rhannu Cynllun Busnes Cartrefi NEWYDD 2023/52 am sylwadau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd bod Cynllun Busnes Tai (NEW) yn nodi elfennau allweddol Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu’r nifer o eiddo rhent fforddiadwy i'w cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf, i gynyddu’r nifer o eiddo sy’n cael eu rheoli gan NEW Homes.

 

Roedd rhwymedigaeth ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i geisio cymeradwyaeth y Cabinet o ran unrhyw Gynllun Busnes oedd yn darparu amcanion strategol y cwmni.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2023/2052.

147.

Grant Cymorth Tai - Ymestyn y Contract ar gyfer The Wallich, Canolfan i'r Digartref

Pwrpas:        Ymestyn y contract ar gyfer Glanrafon – Canolfan Argyfwng i’r Digartref am flwyddyn (diwedd 23/24) gyda’r opsiwn i ymestyn am flwyddyn ychwanegol (diwedd 24/25).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o ymestyn y contract ar gyfer y Ganolfan Argyfwng i Bobl Ddigartref.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ymestyn y contract ar gyfer Glanrafon – Canolfan Argyfwng i’r Digartref am flwyddyn (diwedd 23/24) gyda’r opsiwn am flwyddyn ychwanegol (diwedd 24/25).

148.

Plas Bellin (Local Solutions) Ymestyn Contract

Pwrpas:        Aelodau i nodi’r newid yn y model darparu gwasanaeth sydd wedi ei gysylltu â gwasanaethau cymorth tai ar gyfer teuluoedd diamddiffyn sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd o Brosiect Tai â Chymorth Plas Bellin ar gyfer teuluoedd diamddiffyn. 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o brosiect Cynllun Bellin, sef prosiect tai â chymorth i deuluoedd, a’r amgylchiadau oedd yn arwain at y Timau Cymorth Tai yn gofyn am estyniad pellach o flwyddyn i’w contract.

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Bod y newid yn y model darparu gwasanaeth yn gysylltiedig â gwasanaethau cymorth tai i deuluoedd diamddiffyn sy’n cael ei ddarparu o Brosiect Tai â Chymorth Cynllun Bellin ar hyn o bryd i deuluoedd diamddiffyn yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod yr estyniad a’r ffordd ymlaen a gytunwyd i alluogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan werthiant sydyn Cynllun Pelin yn cael eu cefnogi'n llawn wrth iddynt symud i lety arall yn y gymuned, yn cael ei gymeradwyo.

149.

Sut i dalu rhai sydd wedi gadael

Pwrpas:        Trafod a chytuno ar sut i dalu’r rhai sydd wedi gadael.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod cost blynyddol dyfarniad tâl costau byw, os o gwbl, yn aml yn cael ei gytuno rhan o’r ffordd drwy’r flwyddyn ariannol.  Arfer blaenorol y Cyngor oedd i dalu’r dyfarniad yn ôl weithredol i weithwyr sydd wedi gadael cyn i’r dyfarniad gael ei gytuno, petaent yn gofyn am hynny.

 

Fe amlinellodd y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol y tri opsiwn oedd ar gael. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr arfer presennol yn dod i ben ar unwaith a bod penderfyniad polisi yn cael ei wneud bod gweithwyr ond â hawl i dderbyn taliad am gynnydd a ddyfarnwyd yn rhan o’r broses drafod genedlaethol os oeddynt yn gweithio ar y diwrnod y daethpwyd i unrhyw gyd-gytundeb.

150.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.