Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

89.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

90.

Cofnodion pdf icon PDF 179 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 22 Tachwedd 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.  

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

91.

Cyllideb 2023/24 a'r Strategaeth Ariannu

Pwrpas:        Derbyn diweddariad llafar gan y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem lafar ac eglurodd fod y setliad amodol cyffredinol wedi’i gyhoeddi. Arweiniodd hyn at gynnydd yn y gyllideb o 8.4% a oedd yn well na’r hyn a ragwelwyd yn flaenorol, yn bennaf o ganlyniad uniongyrchol i lif ‘canlyniadol’ cyllideb fechan y Cangellorion.  Roedd angen gwneud gwaith i benderfynu beth oedd hynny'n ei olygu i'r bwlch o £32m a adroddwyd amdano yn flaenorol, gan fod y cynnydd yn delio â rhan o'r bwlch hwnnw yn unig.  Byddai'r gwaith hwnnw'n dechrau ac yn parhau i fis Ionawr.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y cadarnhawyd bod y Grant Cynnal Refeniw yn £251.747m, a'r cynnydd, mewn termau arian parod, yn £19.568m.  Roedd Sir y Fflint yn parhau i fod yn 20fed yn seiliedig ar gyllid y pen.  

 

Roedd y setliad yn rhoi gwybodaeth am amcangyfrifon ar gyfer grantiau penodol, a groesawyd, ond roedd tri grant mawr i'w cadarnhau o hyd.

 

O ran cyllid cyfalaf, ychydig iawn o newid a fu o’r Rhaglen Gyfalaf ddrafft a oedd i’w hystyried gan y Cyngor Sir ym mis Ionawr 2023.  O ran refeniw dangosol ar gyfer 2024/25, y ffigur a nodwyd yng nghynnig setliad tair blynedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn wreiddiol oedd 2.4%, byddai’r swm hwn yn cynyddu i 3.1% yn seiliedig ar y swm canlyniadol uwch. 

 

Croesawyd y setliad uwch ond erys risgiau megis dyfarniadau cyflog, digartrefedd a Lleoliadau y tu allan i’r Sir.  Byddai'n parhau'n her i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys, ond fel yr eglurwyd gan y Prif Weithredwr, byddai'r gwaith hwnnw'n digwydd dros yr wythnosau nesaf cyn cyflwyno dewisiadau i'r Aelodau yn y Flwyddyn Newydd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr eglurhad ar y sefyllfa a theimlai ei fod yn deyrnged i’r strategaeth yr oedd y Cyngor wedi’i datblygu, gan gynnwys y gwaith drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a oedd wedi bod yn effeithiol iawn ac a oedd yn amlwg yn y canlyniad a gyflawnwyd.  Fodd bynnag, roedd yn dal i fod yn gyllideb heriol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Roberts â sylwadau'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y codiad cyflog yn risg y byddai angen edrych arno yn y Flwyddyn Newydd.  Mynegodd ei ddiolchgarwch i Lywodraeth y DU am y symiau canlyniadol a basiwyd i Lywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at sefyllfa well i awdurdodau lleol Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

92.

Adrodd ar Berfformiad Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/2023 pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Adrodd ar Berfformiad Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor 2022/23 wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno sefyllfa canol blwyddyn y cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23.

 

Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol yn dangos bod 59% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 70% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, 9% yn cael eu monitro’n agos, a 21% nad oeddent yn cyrraedd y targed.

 

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn gadarnhaol mewn perthynas â chynnydd, gyda chategorïau da/boddhaol yn cyfateb i 94%.  Manylwyd ar y 9% mewn statws coch yn yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau canol blwyddyn yng Nghynllun y Cyngor 2022/23 yn cael eu cymeradwyo a’u cefnogi;

 

(b)       Bod y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23 yn cael ei gymeradwyo a’i gefnogi; a

 

(c)        Bod yr Aelodau’n cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

93.

Adolygiad o Feini Prawf Pás Cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty pdf icon PDF 140 KB

Pwrpas:        Adolygu meini prawf gweithrediadau a thrwyddedau cerbydau presennol y ganolfan ailgylchu gwastraff cartref.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ionawr 2022 yn cynnig polisi trwydded cerbyd diwygiedig, gyda manylion ynghylch sut y byddai’n cael ei weithredu.  Cymeradwywyd y polisi diwygiedig a’i roi ar waith ym mis Ebrill 2022.

 

Roedd nifer fach o gwynion wedi dod i law gan drigolion nad oedd bellach yn cael mynediad i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gyda’u cerbydau. Rhoddwyd ymrwymiad i gynnal adolygiad o’r polisi i sicrhau ei fod yn cwrdd â’r amcanion gwreiddiol a osodwyd, ac adolygu a oedd angen diwygio'r meini prawf ymhellach.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu trosolwg o effaith y polisi diwygiedig ynghyd â manylion yr adolygiad a gynhaliwyd a’r cynigion ar gyfer diwygio’r polisi.  Cyflwynwyd ystyriaethau pellach hefyd ar weithrediadau ehangach ar gyfer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, gyda'r bwriad o gyflwyno arbedion a gwelliannau pellach i’r gwasanaeth.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ei fod wedi bod drwy broses drylwyr, gyda'r diweddaraf yn cynnwys gweithdai i'r holl Aelodau ac adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi.  Rhoddodd fanylion am y diwygiadau y gofynnodd yr Aelodau amdanynt, a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell y cyfleoedd a roddwyd i Aelodau fynegi eu barn yn y gweithdai.  Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Swyddog fod cyfyngiadau uchder ar bob cerbyd, gan gynnwys trelars, a gaiff fynd i mewn i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.  Roedd dimensiynau wedi'u cynnwys yn y polisi, fodd bynnag nid oedd y dimensiwn uchder yn fanwl a byddai'n cael ei ychwanegu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cefnogi'r adolygiad a gynhaliwyd a chymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Trwyddedau Cerbyd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref;

 

(b)       Bod y diwygiad arfaethedig i’r Polisi Trwyddedau Cerbydau i gyflwyno hawlen flynyddol (gan ganiatáu uchafswm o 12 ymweliad) i ganiatáu mynediad i gerbydau arwyddion penodol i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar yr amod bod y cerbyd wedi’i gofrestru â chyfeiriad preswyl yn Sir y Fflint, nid yw'r fasnach yn gysylltiedig ag unrhyw wastraff masnach; nid yw'r gwastraff a adawir yn y Ganolfan Ailgylchu wedi'i gynhyrchu neu'n annhebygol o fod wedi'i gynhyrchu gan weithgaredd y busnes hwnnw neu fusnesau cysylltiedig; a'r unig wastraff a gyflwynir yn y Ganolfan Ailgylchu yw gwastraff domestig o gartrefi, yn cael ei gefnogi;

 

(b)       Cefnogi’r awgrym i gynnwys teiars fel llif gwastraff ychwanegol ar system archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref er mwyn rheoli a lleihau gwastraff; a 

 

(d)       Cefnogi a chymeradwyo'r cynigion ychwanegol i wella rheolaethau gweithredol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac adolygu'r estyniad arfaethedig i oriau agor yn sgil cyllidebau ac adnoddau presennol ac yn y dyfodol.

94.

Consultation on the Flintshire and Wrexham Public Services Board (PSB) draft Well-being Plan 2023-28 pdf icon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan egluro bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn i rai cyrff cyhoeddus penodol gydweithio dan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol lleol.

 

Roedd cyfrifoldebau BGCau yn cynnwys paratoi a chyhoeddi asesiad o les lleol o bryd i’w gilydd, a ddefnyddiwyd i lywio’r gwaith o osod amcanion lles lleol a oedd wedi’u cynnwys mewn cynllun Lles lleol pum mlynedd o hyd.

 

Cyn cyhoeddi Cynllun Lles newydd, roedd yn ofynnol i’r BGC ymgynghori â nifer o ymgyngoreion statudol, gan gynnwys Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Awdurdod Lleol.

 

Cafodd Cynllun Lles drafft 2023-28 ei atodi i’r adroddiad i’w ystyried.

 

Mae tîm o swyddogion o sefydliadau partner sy’n ymwneud â gwaith

BGCau Sir y Fflint a Wrecsam wedi cydweithio i lunio Cynllun Lles drafft ar gyfer 2023-28.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r mewnwelediad a amlygwyd gan yr asesiad o les; blaenoriaethau presennol y BGC; a’r dysgu a’r myfyrio o gydweithio â BGC ar wydnwch cymunedol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd y tîm o swyddogion wedi cynhyrchu Cynllun Lles drafft a oedd yn nodi’r camau gweithredu allweddol sydd eu hangen i gyflawni dau amcan lles ar gyfer 2023-2028:

 

  • Meithrin cymunedau llewyrchus drwy leihau anghydraddoldebau ar draws

yr amgylchedd, addysg, gwaith, incwm a thai.

  • Gwella lles cymunedol drwy alluogi pobl o bob oed i fyw bywydau iach ac annibynnol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod angen mabwysiadu'r cynllun cyn 4 Mai. Roedd y cynllun drafft wedi'i atodi i'r adroddiad ar gyfer unrhyw sylwadau a fyddai'n cael eu bwydo i mewn i'r cynllun.

 

Eglurodd y Cynghorydd Johnson fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos ddiwethaf, a gofynnwyd i'r Aelodau gyflwyno unrhyw sylwadau y tu allan i'r cyfarfod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi Cynllun Lles drafft Sir y Fflint a Wrecsam ar gyfer 2023-28.

95.

Aelodaeth Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Dyfrdwy pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        Cytuno i fod yn rhan o Fwrdd Rheoli Maethynnau Afon Dyfrdwy er mwyn mynd ati i liniaru ar effaith ffosffadau, a phenodi cynrychiolwyr y Cyngor o blith uwch-swyddogion ac Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gymryd rhan yn ffurfiol mewn partneriaeth newydd ei sefydlu yng Ngogledd Cymru, sef ‘Bwrdd Rheoli Maethynnau Dalgylch y Ddyfrdwy’.  

 

Byddai cyfranogiad ochr yn ochr â Chyngor Wrecsam, cynghorau eraill Gogledd Cymru a chynghorau cyfagos yn Lloegr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a D?r Cymru ac eraill gan gynnwys datblygwyr, tirfeddianwyr a’r sector amaethyddol, i oruchwylio’r gwaith o gydlynu a gweithredu strategaeth, a chynllun gweithredu i fynd i'r afael â llygredd ffosfforws yn Afon Dyfrdwy. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r rhesymau dros greu'r Bwrdd Cydgysylltu a'r cylch gorchwyl drafft.

 

Roedd Strategaeth Lleihau Ffosfforws Dalgylch y Ddyfrdwy (Tachwedd 2021) wedi’i hatodi i’r adroddiad ac wedi’i pharatoi ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint a Wrecsam oherwydd bod yn rhaid iddynt fynd i’r afael â phroblem ffosfforws yn yr Archwiliadau Cyhoeddus i’w Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) eu hunain.

 

Roedd ffosfforws yn faetholyn a llygrydd yn deillio o dd?r gwastraff, yn tarddu'n bennaf o amaethyddiaeth, ond hefyd o ddatblygiad dynol presennol a newydd(tai ac ati). Yn hanesyddol, roedd wedi’i dynnu o dd?r gwastraff mewn gweithfeydd trin d?r cyn i’r d?r wedi’i drin gael ei ollwng i’r prif afonydd (yn achos Sir y Fflint, Afon Alyn a oedd wedyn yn llifo i Afon Dyfrdwy).

 

Ym mis Ionawr 2021, cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfyngiadau

llawer llymach ar ollyngiadau ffosfforws i Afon Dyfrdwy er mwyn amddiffyn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Roedd y safon newydd wedi'i chymhwyso i bob ACA afon arall yng Nghymru.

 

Roedd y bwrdd newydd yn anstatudol ac ni fyddai ganddo bwerau i wneud penderfyniadau. Byddai angen i unrhyw argymhellion, megis y strategaeth derfynol a’r cynllun gweithredu, gael eu cymeradwyo gan Fyrddau Gweithredol y Cynghorau priodol (neu’r rhai cyfatebol).

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) ddadansoddiad lefel uchel y bwrdd a'r is-grwpiau arfaethedig a fyddai'n cyfrannu at y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu ac yn eu cydlynu. 

 

            Roedd cylch gorchwyl y bwrdd a’r is-grwpiau wedi’u hatodi i’r adroddiad ac yn seiliedig ar y dull a ddefnyddiwyd ym Mwrdd Afon Gwy.  Mater i'r bwrdd arfaethedig fyddai cytuno ar eu ffurf derfynol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Healey welliant i argymhelliad rhif 2 i ddarparu dirprwy pe na bai’r Aelod Cabinet ar gael i fod yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod sefydlu, a rhan y Cyngor ym Mwrdd Rheoli Maethynnau Afon Dyfrdwy yn cael ei gefnogi;

 

(b)       Bod yr Aelod Cabinet dros Gynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd yn cael ei enwebu i gynrychioli'r Cyngor ar y bwrdd newydd, ac os nad yw'n gallu bod yn bresennol y dylai dirprwy fod yn bresennol i gynrychioli'r Cyngor; a

 

(c)        Rhoi cymeradwyaeth mewn egwyddor ar y Strategaeth Lleihau Ffosfforws Dalgylch Afon Dyfrdwy (Tachwedd 2021), (wedi’i atodi i’r adroddiad), yn amodol ar ystyried fersiynau pellach ar gyfer cymeradwyaeth wrth i’r Bwrdd newydd ddatblygu a mireinio’r strategaeth a’r cynllun gweithredu cysylltiedig.

96.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 7) pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2022/23 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu

sefyllfa monitro cyllideb refeniw ddiweddaraf 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Y sefyllfa a ragamcanwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredol o £0.094 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog y byddai angen cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid anffafriol o £0.061 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 6

·         Rhagwelir y byddai balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2023 yn £4.055 miliwn (ar ôl effaith y dyfarniad cyflog terfynol) 

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £3.321 miliwn yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.153 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol lle cafodd ei gefnogi.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau £16 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, a byddai’r awdurdod yn parhau i hawlio taliadau yn 2022/23 ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim o fewn eu cyfnodau cymwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23; a

 

(b)       Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.

97.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2022/23 pdf icon PDF 351 KB

Pwrpas:        Cyflwyno drafft Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2022/23 i’w gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor.

 

Roedd Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys drafft wedi'i atodi i'r adroddiad i'w adolygu.  Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, roedd yr adolygiad wedi cael ei adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 14 Tachwedd 2022 a byddai’n cael ei adrodd i’r Cyngor Sir ar 24 Ionawr 2023.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2020/23 a’i argymell i'r Cyngor.

98.

Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2023/24 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod gosod Sylfaen Treth y Cyngor yn rhan ganolog o’r broses i osod y Gyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2023/24, gan ganiatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo Praesept Treth y Cyngor eu hunain at y flwyddyn nesaf.

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y sylfaen wedi’i chyfrifo yn seiliedig ar 65,815 o eiddo Band ‘D’, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai sydd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle rhoddir gostyngiadau statudol.

 

Roedd gosod y Sylfaen Dreth ar 65,815 cyfwerth â Band ‘D’ yn cynnwys codiad yng nghyfraddau Premiwm Treth y Cyngor i 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar gyfer Ail Gartrefi o fis Ebrill 2023.  Ar y cyfan, roedd hynny’n cynrychioli twf yn y Sylfaen Dreth o 0.95% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a oedd yn cynrychioli 621 eiddo ychwanegol cyfatebol Band ‘D’ ar ôl ystyried y newid naturiol mewn adeiladau newydd, gostyngiadau, eithriadau a chyfraddau premiwm.

 

Yn dilyn cyfarfod y Cabinet, cysylltir â phob Cyngor Tref a Chymuned i'w hysbysu o'r Sylfaen Dreth y cytunwyd arni.

 

Mewn ymateb i gais, rhoddodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fanylion llawn ynghylch pryd y byddai eithriadau’n gymwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Sylfaen Dreth yn seiliedig ar 65,815 o eiddo Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24;

 

(b)       Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hynny'n berthnasol i’r sir gyfan;

 

(c)        At ddibenion pennu’r Sylfaen Dreth, mae’r Sylfaen yn ymgorffori newidiadau arfaethedig i Gyfraddau Premiwm Treth y Cyngor o fis Ebrill 2023 ac yn adlewyrchu cynnydd o 50% i 75% ar gyfer eiddo Gwag Hirdymor a 100% ar gyfer Ail Gartrefi.

99.

Ymgynghoriad Treth y Cyngor ar Reoliadau Drafft i Ymestyn Eithriadau i Bremiwm Ail Gartref pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth i’r Cabinet ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar eithriad o bremiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo wedi eu cyfyngu gan amod cynllunio yn atal meddiant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                                        

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac ymateb a argymhellir i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd am farn ar reoliadau drafft a oedd wedi'u cynllunio i sicrhau bod eiddo ail gartrefi yn destun Treth y Cyngor ar y gyfradd safonol, nid ar gyfradd premiwm, lle'r oedd eiddo'n destun amod cynllunio a oedd yn nodi mai dim ond ar gyfer gosodiadau gwyliau byrdymor y gellid defnyddio annedd neu at ddiben meddiannaeth preswylwyr yr eiddo fel unig neu brif breswylfa.

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael mai’r dyddiad cais arfaethedig ar gyfer cyflwyno’r newidiadau fyddai 1 Ebrill 2023.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cynigion Llywodraeth Cymru fel y'u nodwyd yn yr ymgynghoriad ac awdurdodi uwch swyddogion i ymateb yn gadarnhaol i'r ymgynghoriad.

100.

Siarter Troseddau Casineb pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Ceisio cefnogaeth y Cabinet i fabwysiadu Siarter Cymorth i Ddioddefwyr Trosedd Casineb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi ymrwymo i fynd i’r afael â throseddau casineb, fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.  Fel rhan o'u hymrwymiad mae LlC wedi ariannu Cymorth i Ddioddefwyr i ddarparu Canolfan Cymorth Casineb Cymru, a oedd yn darparu cymorth a gwasanaethau adrodd ledled Cymru i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb.

 

Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol, Cyfalaf ac Asedau fod Cymorth i Ddioddefwyr wedi cyflwyno Siarter Troseddau Casineb i Gymru a'i fod yn gofyn i bob sefydliad, cyhoeddus a phreifat, lofnodi'r Siarter.  Mae’r Siarter yn nodi hawliau dioddefwyr ac ymrwymiadau sefydliadau i chwarae rhan wrth fynd i’r afael â throseddau casineb.

 

Ymrwymodd y sefydliadau sy’n mabwysiadu’r Siarter i sicrhau bod gweithwyr a gwirfoddolwyr yn cadw at addewidion y Siarter pryd bynnag y byddent yn dod i gysylltiad â’r rhai yr effeithir arnynt gan droseddau casineb, yn ogystal â gweithio i feithrin cymunedau cryf a chynhwysol.  Roedd y Siarter Troseddau Casineb ynghlwm i’r adroddiad.

 

Roedd y Cyngor eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â throseddau casineb yn Sir y Fflint, gan gynnwys y fenter ar-lein Bydd Garedig.  Byddai mabwysiadu’r Siarter yn datblygu’r gwaith ac yn cyfrannu at Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor a nod Lles Llywodraeth Cymru (LlC) “Cymru â Chymunedau Mwy Cydlynol”.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i fabwysiadu Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr.

101.

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgol (Cymru) 2013, Cod Trefniadaeth Ysgolion ar gyfer ehangu eiddo ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Drury ac Ysgol Gynradd Gymunedol Penyffordd pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        I hysbysu’r Cabinet o ymatebion o’r cyfnod Gwrthwynebiad Statudol ar gyfer ehangu eiddo mewn dwy ysgol - Ysgol Gynradd Gymunedol Drury ac Ysgol Gynradd Gymunedol Penyffordd ac i wahodd y Cabinet i benderfynu ar y Cynigion Statudol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad, a oedd yn rhoi gwybodaeth am yr ymatebion o’r cyfnod Gwrthwynebiadau Statudol, o dan adran 49 o ‘Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, Cod Trefniadaeth Ysgolion’ ar gyfer ehangu safle dwy ysgol – Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Gynradd Penyffordd.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet benderfynu ar y Cynigion Statudol a gyflwynwyd ar gyfer ehangu'r ddwy ysgol hynny.

 

Dechreuodd ymgynghoriad statudol ar y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Drury ar 1 Mawrth 2022 a daeth i ben ar 11 Ebrill 2022. Cafwyd 42 o ymatebion gan gynnwys ymateb ffurfiol gan Estyn a Chyngor Disgyblion yr ysgol. Roedd 90% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig.

 

Dechreuodd ymgynghoriad statudol ar y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Penyffordd ar 1 Mawrth 2022 a daeth i ben ar 11 Ebrill 2022. Cafwyd 84 o ymatebion gan gynnwys ymateb ffurfiol gan Estyn a disgyblion yr ysgol. Roedd 73% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig.  Cafwyd un gwrthwynebiad ac amlinellwyd y manylion yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) pe byddent yn cael eu cymeradwyo gan y Cabinet, byddai llythyrau penderfyniad yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r ymatebion o'r cyfnod Gwrthwynebiadau Statudol ar gyfer Ysgol Gynradd Penyffordd ac Ysgol Gynradd Drury a chymeradwyo’r cynigion i gynyddu capasiti'r ysgolion.

102.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.   Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Llywodraethu

 

  • Newid Dros Dro i Oriau Agor

Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn parhau i wynebu heriau staffio difrifol. Mae cyfuniad o salwch a swyddi gwag yn golygu bod y gwasanaeth 33% yn fyr o weithwyr. Oherwydd hyn ni all y gwasanaeth weithredu 3 Chanolfan yn llawn amser a 2 Ganolfan yn rhan amser ar hyn o bryd, hyd nes y bydd staff yn dychwelyd i'r gwaith, a rhagwelir mai ym mis Ionawr fydd hyn.  Yn ystod mis Rhagfyr, bydd y Canolfannau Cyswllt yng Nghei Connah a’r Fflint yn agor yn rhan amser. Os bydd gweithwyr yn dychwelyd i'r gwaith yn gynt na'r disgwyl, yna bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i agor yn llawn amser cyn gynted â phosibl. Bydd yr oriau agor rhan amser y cytunwyd arnynt yn flaenorol ar gyfer Canolfannau Cyswllt yr Wyddgrug a Bwcle yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth tra'n aros am benderfyniad ynghylch

a ddylid lleihau oriau agor yn barhaol yn y canolfannau hynny fel rhan o broses y gyllideb.

103.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.