Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

71.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

72.

Cofnodion pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 18 Hydref 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.  

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

73.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2023/24 pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad i’r gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 cyn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu penodol sydd i’w cynnal trwy gydol mis Rhagfyr a chyn derbyn y Setliad Dros Dro ar 14 Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 cyn cynnal cyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu penodol trwy gydol mis Rhagfyr, a chyn derbyn y Setliad Dros Dro ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Ers mis Medi, cafodd nifer o newidiadau a risgiau sylweddol eu nodi, a oedd yn debygol o arwain at gynnydd pellach yn y gofyniad cyllidebol ychwanegol ac maent wedi’u manylu yn yr adroddiad. Roedd eu heffaith yn parhau i gael eu modelu a byddai ambell faes yn destun trafodaethau dros yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai’r gofyniad cyllidebol ychwanegol yn codi i oddeutu £32 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar y datrysiadau cyllidebol a oedd ar gael i’r Cyngor er mwyn bodloni’r gofyniad cyllidebol ychwanegol a fyddai’n cael ei ddwyn ymlaen i’w ystyried gan yr Aelodau fesul cam, trwy gydol proses y gyllideb.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod pob Cyngor arall yn yr un sefyllfa â Sir y Fflint ac mai’r farn yn gyffredinol oedd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer y darpariaethau y bu iddynt eu haddo.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr holl ddatrysiadau cyllidebol sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cael eu datblygu’n ddi-oed, ac y byddai’r cynigion yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu pob portffolio.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r risgiau a fydd yn cynyddu’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24; a

 

(b)       Cyfeirio’r holl bwysau o ran costau ac unrhyw ostyngiadau posibl yn y gyllideb at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu unigol, i’w hadolygu ym mis Rhagfyr.

74.

Strategaeth Gyfalaf, yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2023/24 - 2025/26 pdf icon PDF 285 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i’w hargymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo ei argymell i’r Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn egluro nodau allweddol y strategaeth a chynnwys pob adran, a pham bod angen y strategaeth.

 

Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), roedd yn ofynnol i awdurdodau bennu ystod o Ddangosyddion Darbodus. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2023/24 – 2025/26.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor; a

 

(b)       Cymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor:

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2023/24 – 2025/26 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf; a

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i greu symudiadau rhwng y terfyniadau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer yr effaith allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

75.

Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 pdf icon PDF 516 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i’w hargymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn manylu ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023/24-2025/26 i’w hargymell i’r Cyngor.

 

Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer yr hirdymor er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Mae’r asedau’n cynnwys adeiladau (megis ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd), isadeiledd (megis priffyrdd a rhwydweithiau TG) ac asedau nad ydynt yn eiddo i’r Cyngor (megis gwaith i wella ac addasu cartrefi’r sector preifat). Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau busnes gwasanaethau portffolio a Chynllun y Cyngor.

 

Roedd yr adnoddau cyfalaf a gaiff y Cyngor gan Lywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor yn gyfyngedig. Fodd bynnag, roedd ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf trwy fenthyca. Dros dro oedd hynny ac yn y pen draw, byddai cost ad-dalu unrhyw fenthyciad yn cael ei dynnu o gyllideb refeniw’r Cyngor. Roedd cynlluniau sy’n cael eu hariannu trwy fenthyca yn cael eu hystyried yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol - dyraniadau i gynnwys gwaith rheoleiddiol a statudol.

2.    Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

3.    Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau er mwyn cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau, fel yr amlinellir yng Nghynllun y Cyngor. 

 

Yn hanesyddol, caiff y rhan fwyaf o raglen y Cyngor ei hariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau. Roedd gallu’r Cyngor i greu derbyniadau cyfalaf sylweddol yn heriol, gan fod yr asedau oedd ar gael i’w gwaredu gan y Cyngor yn lleihau. Bydd y Cyngor yn manteisio ar bob cyfle posibl i nodi asedau i’w gwerthu a ffynonellau eraill o arian, fel grantiau penodol a chyfraniadau refeniw. Fodd bynnag, byddai angen i’r Cyngor ddefnyddio benthyca darbodus i ariannu mwy o’r rhaglen wrth symud ymlaen. Yn benodol, byddai angen i’r rhaglen Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a chynlluniau eraill sydd wedi’u cynnwys o fewn y rhaglen fuddsoddi gael eu hariannu trwy fenthyca darbodus.

 

Cafodd y Strategaeth Gyfalaf ei diweddaru a’i chyflwyno ar wahân ar y rhaglen.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, lle codwyd pryderon ynghylch cyllid cyfalaf a’r effeithiau posibl ar y gyllideb refeniw.   Rhoddwyd lefel o sicrwydd ar y rhaglen gyfalaf a chafwyd trafodaeth fanwl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 yr adroddiad ar gyfer yr adrannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau a Gedwir yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2023/24 – 2025/26;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynlluniau a gaiff eu cynnwys yn Nhabl 4 yr adroddiad ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2023/24 – 2025/26;

 

(c)        Nodi fod y diffyg o ran ariannu’r cynlluniau yn 2024/25 yn Nhabl 5 yr adroddiad ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 75.

76.

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae landlordiaid yng Nghymru yn gosod eu heiddo, a fydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd mai’r Ddeddf Rhentu Cartrefi yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. O 1 Rhagfyr 2022, byddai Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd mae bob landlord yng Nghymru yn rhentu eu heiddo.

 

Nod y Ddeddf yw symleiddio’r broses o rentu cartref yng Nghymru a rhoi mwy o wybodaeth i bartïon am eu hawliau a’u rhwymedigaethau. Roedd y Ddeddf mewn grym yn rhannol, at ddibenion gwneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r Ddeddf newydd a’r newidiadau a fyddai’n dod i rym o 1 Rhagfyr 2022.

 

Cafodd yr adroddiad ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ar 16 Tachwedd a chodwyd pryderon ynghylch: pa ymarferion ymgynghori oedd yn cael eu cynnal; newidiadau i Denantiaethau Rhagarweiniol; newidiadau i Hysbysiadau Gadael; a Hawliau Olyniaeth Pellach.

 

Mewn ymateb i sylw a wnaed ar derfynu tenantiaethau, roedd y Rheolwr Budd-daliadau wedi gwneud ymholiadau gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyfreithiol y Cyngor a darperir ymateb i Aelodau, unwaith y bydd wedi’i dderbyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bibby y byddai’n rhannu’r sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu â Llywodraeth Cymru, ei fod yn ceisio cael cyfarfod â’r Gweinidog, a bod camau gweithredu yn cael eu cofnodi fel datrysiad ychwanegol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r newidiadau arfaethedig i’r modd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu eu heiddo, i’w weithredu o 1 Rhagfyr 2022; a

(b)       Nodi’r defnydd o ddisgresiwn a ddarperir yn y Ddeddf i ddileu’r defnydd o denantiaethau rhagarweiniol o’r polisi; a

 

(c)        Bod yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio yn rhannu’r sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai gyda’r Gweinidog.

77.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 6) pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2022/23 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:

Cronfa’r Cyngor

Diffyg gweithredol o £0.033 miliwn (heb gynnwys effaith y dyraniadau cyflog y byddai angen eu talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.647 miliwn, ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 5

Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2023 yn£8.071 miliwn (cyn effaith y dyraniadau cyflog terfynol)

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £3.324 miliwn yn uwch na’r gyllideb

Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.150 miliwn

 

Bu i Gyllid caledi gan Lywodraeth Cymru helpu i sicrhau £16 miliwn o

gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol a byddai’r awdurdod yn parhau i hawlio taliadau ar gyfer taliadau Hunan Ynysu a thaliadau Tâl Salwch Statudol ychwanegol yn 2022/23, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim, o fewn eu cyfnodau cymwys.

 

            Bu i’r Aelodau longyfarch y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am yr holl waith a wnaed ar y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23.

78.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 6) pdf icon PDF 289 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 6 ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2022/23, ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2021 hyd at ddiwedd Mis 6 (Medi 2022), ynghyd â gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.

 

Bu gostyngiad net o £0.154 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £1.639 miliwn yng nghyllideb y rhaglen (Tabl 2 – Cronfa’r Cyngor – £2.647 miliwn), Cyfrif Refeniw Tai (£4.286 miliwn);

·         Swm i’w ddwyn ymlaen i 2023/24 wedi’i gymeradwyo ym Mis 4 (£1.543 miliwn – Cronfa’r Cyngor)

·         Arbedion a nodwyd ym Mis 6 (£0.250 miliwn – Cronfa’r Cyngor)

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £22.471 miliwn.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn ail chwarter 2022/23.   Cyfanswm yr arbedion a nodwyd oedd £0.250 miliwn. Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 6 o £3.376 miliwn (o warged sefyllfa ariannu Mis 4 o £3.126 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau ariannu eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen; a

 

(c)        Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.

79.

Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2023/24 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Awgrymodd y Cynghorydd Mullin ohirio’r eitem nes bydd gwaith pellach wedi’i wneud, ac fe gefnogwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio’r adroddiad tan fis Rhagfyr.

80.

Ymgynghoriad ar Ddiwygio Ardrethi Busnes pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth i’r Cabinet ynghylch ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio barn ar ddiwygio Ardrethi Busnes. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, yn ceisio barn ar ystod eang o welliannau i Ardrethi Busnes.  

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y cynigion yn cynnwys:

 

·         Cylchredau ailbrisio amlach

·         Gwella’r llif gwybodaeth rhwng y llywodraeth a thalwyr ardrethi

·         Rhoi mwy o hyblygrwydd i LlC ddiwygio rhyddhadau ac eithriadau

·         Adolygu rhyddhadau ac eithriadau

·         Darparu mwy o gyfleoedd i amrywio’r lluosydd

·         Gwella sut y caiff y swyddogaethau prisio eu gweinyddu

·         Mesurau pellach i fynd i’r afael ag osgoi ardrethi

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o ymatebion a argymhellir ar y cynigion gwella, a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad, i gwestiynau penodol a ofynnwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyried cynigion yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru a rhoi awdurdod i’r Rheolwr Refeniw a Chaffael, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol, i ymateb i gwestiynau’r ymgynghoriad, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

81.

Cronfa Ffyniant Bro pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am ddatblygiad y rhaglen a’r prosiectau a gofyn iddynt ddyrannu cyllid cyfalaf i fodloni’r gofynion ariannu cyfatebol a ddisgwylir gan Lywodraeth y DU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd, fel y cyhoeddwyd yn yr Adolygiad Gwariant yn 2020, fod y Gronfa Ffyniant Bro yn cyfrannu at raglen ffyniant bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig, trwy fuddsoddi mewn isadeiledd a fyddai’n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio cludiant lleol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.  

 

Bwriad y gronfa gwerth £4.8 biliwn oedd creu effaith weledol a diriaethol ar bobl a lleoedd a chefnogi adferiad economaidd.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg ar ddatblygiad a chyflwyniad dau gais yn unol â’r strategaeth ymgeisio a gytunwyd gan y Cabinet ar 18 Ionawr 2022 ac ar drydydd cais cludiant strategol. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen yn gyffredinol ac yn ceisio dyraniad o gyllid cyfatebol o’r rhaglen gyfalaf o £1,106,915 (£630,467 cais Alyn a Glannau Dyfrdwy, £476,448 cais Delyn) er mwyn cael cyllid gan Lywodraeth y DU.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, a bod yr argymhellion wedi cael eu cefnogi. Wrth ailgyflwyno’r Cais Cludiant, cadarnhaodd fod yr elfen nad oedd yn cael ei chefnogi yn y rownd gyntaf wedi cael ei dileu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd o ran datblygiad a chyflwyniad ceisiadau i ail rownd Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU;

 

(b)       Nodi’r risgiau a’r mesurau lliniaru sy’n gysylltiedig â’r pecyn o gynnyrch;

 

(c)        Sicrhau bod y cyllid cyfatebol o hyd at £1.107 miliwn ar gael o’r rhaglen gyfalaf yn 2024/2025.

82.

Adrodd Adran 6 Bioamrywiaeth pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Diweddaru aelodau am y gwaith i sicrhau Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 Deddf yr Amgylchedd er mwyn adrodd ar y camau a gymerir i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn darparu manylion ynghylch sut mae’r Cyngor yn gwneud cynnydd o ran cyflawni ei ddyletswydd bioamrywiaeth o dan Adran 6, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

Rhoddwyd eglurhad ar Gynllun Cyflawni Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint 2020-2023, ‘Cefnogi Natur yn Sir y Fflint’, a chafodd cynnydd y camau i gyflawni’r amcanion eu hadolygu, gan dynnu sylw at feysydd allweddol o waith bioamrywiaeth o fewn y Sir. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr adroddiad Adran 6 statudol a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023 ar ddiwedd yr ail rownd adrodd 3 blynedd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i gyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, a bod yr argymhellion wedi cael eu cefnogi. Cafodd rhai awgrymiadau cadarnhaol eu gwneud yn y cyfarfod hwnnw ynghylch sut caiff bioamrywiaeth ei fonitro o safbwynt cynllunio, a allai gael ei gynnwys yn adroddiad monitro’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Gwnaethpwyd cysylltiad rhwng y rhaglen newid hinsawdd a bioamrywiaeth, a byddai’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn gofyn iddynt gynnwys bioamrywiaeth ar eu rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad a chadarnhau cefnogaeth i swyddogion gyda’u gwaith parhaus o ran gwella bioamrywiaeth.

83.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen ac i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y fframwaith blaenoriaethau a’r prosesau sydd eu hangen i roi’r rhaglen ar waith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad, gan egluro y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad o £2.5 biliwn hyd at fis Mawrth 2025 ar draws y DU. Nod y rhaglen oedd “meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd”.  Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £126 miliwn i Ogledd Cymru ar gyfer darparu’r rhaglen rhwng 2022/2023 a 2024/2025 ac roedd £10.8 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir y Fflint ar gyfer y rhaglen graidd.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad yr isadeiledd rheoli rhaglen, yn lleol ac yn rhanbarthol, ac yn nodi’r blaenoriaethau a argymhellir ar gyfer y rhaglen, yn ogystal â’r meini prawf a fyddai’n cael ei ddefnyddio i asesu’r prosiectau sy’n ceisio cyllid drwy’r rhaglen.                         

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad eang ar brosiectau strategol y Cyngor, a oedd wrthi’n cael eu datblygu’n barod ar gyfer y rhaglen.

 

Enwebwyd Cyngor Gwynedd fel y prif gorff sy’n atebol am y rhaglen yng Ngogledd Cymru. Cyn i Lywodraeth y DU gymeradwyo’r rhaglen, bu swyddogion o’r chwe awdurdod lleol yn paratoi’r systemau sydd eu hangen ar gyfer dyrannu a rheoli cyllid y rhaglen.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, a’i fod wedi cael ei gefnogi.

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd a wnaed o ran datblygu rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhanbarthol ac yn lleol; a

 

(b)       Chymeradwyo’r amlinelliad bras o’r strwythurau a’r prosesau a ddefnyddir i gyflawni’r rhaglen, a rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, i’w diwygio a’u cwblhau yn ôl yr angen, unwaith y bydd Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo’r rhaglen ac y bydd y telerau a’r amodau terfynol ar gael.

84.

Llythyr Blynyddol 2021-22 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2022-23 (Ebrill-Medi 2022) pdf icon PDF 190 KB

Pwrpas:        Rhannu Llythyr Blynyddol 2021-22 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng y cyfnod 1 Ebrill – 30 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint.

 

Roedd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon yn rhoi trosolwg o berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion a ymchwiliwyd iddynt yn 2021-22.

 

Croesawodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Matthew Harris, Pennaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion, a oedd yn bresennol, i roi trosolwg o rôl yr Ombwdsmon a Llythyrau Blynyddol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio’r Cyngor rhwng 1 Ebrill – 30 Medi 2022.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid bod 99 o gwynion wedi’u gwneud yn erbyn Sir y Fflint yn 2021/22, a oedd yn gynnydd ers y flwyddyn flaenorol, lle cafwyd 59 o gwynion. Roedd y ffigwr yn cyd-fynd â chanfyddiadau’r Ombwdsmon, bod cwynion yn erbyn awdurdodau lleol wedi cynyddu o 47%. Fodd bynnag, er bod y ffigwr yn uwch na’r cyfartaledd, ni ddylid ei ystyried mewn modd anffafriol, oherwydd cafodd 80% o’r cwynion i’r Ombwdsmon eu cau, gan eu bod y tu hwnt i awdurdodaeth, ei bod yn rhy gynnar i ymchwilio iddynt neu ar ôl ystyriaeth gychwynnol.  

 

Roedd cwynion yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth a oedd yn galluogi’r Cyngor i wella ei wasanaethau.  

 

Canmolodd Matthew Harris yr awdurdod am ymrwymo â’u gwaith safonau cwynion ac am wneud defnydd o’r hyfforddiant sy’n cael ei gynnig gan yr Ombwdsmon. Roedd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i barhau i wella prosesau yn y dyfodol. Cafodd arferion da mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn deillio o Sir y Fflint, eu rhannu ledled Cymru.

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi perfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2021-22;

 

(b)       Nodi perfformiad hanner blwyddyn 2022-23 y Cyngor o ran cwynion a wnaed i wasanaethau yn unol â’r weithdrefn gwynion; a

 

(c)        Chefnogi’r camau a amlinellwyd yn yr adroddiad i wella’r broses o ymdrin â chwynion ymhellach, ar draws y Cyngor.

85.

Croes Atti 2 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad i’r Cabinet am gynnydd Cartref Gofal Preswyl Croes Atti, Y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd, fel rhan o’i gynlluniau uchelgeisiol, a rhaglen Llywodraeth Cymru i ailgydbwyso gofal,

fod y Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu capasiti’r ddarpariaeth gofal preswyl fewnol

ar draws yr awdurdod. Yn dilyn llwyddiant adeilad newydd Marleyfield House

ym Mwcle, cam nesaf y gwaith hwn oedd ceisio cynyddu capasiti yn ardal y Fflint.

 

Ar hyn o bryd, roedd gan y Fflint ddarpariaeth Croes Atti, cartref gofal preswyl 31 lleoliad wedi’i leoli ar Prince of Wales Avenue.

 

Dros y 12 mis diwethaf, gwnaethpwyd gwaith i archwilio dewisiadau priodol ar gyfer cynyddu capasiti gofal preswyl yn y Fflint a’r cyffiniau, trwy nifer o werthusiadau dewisiadau a chynlluniau safle. O ganlyniad, bu i’r Cyngor ddefnyddio safle hen Ysbyty Cymunedol y Fflint ar Cornist Road yn gynnar yn 2022.  Ers hynny, mae astudiaeth ddichonoldeb lawn wedi’i chwblhau, er mwyn archwilio dewisiadau o ran sut y gellid lleoli cartref 56 lleoliad newydd ar y safle.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) drosolwg o gynnydd y dyluniad hyd yma, yn ogystal â manylu ar y cerrig milltir allweddol wrth i ddyluniad terfynol manwl y cartref gofal gael ei lunio, gan gynnwys darparu model gweithredu ar gyfer y cartref.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cadarnhau cefnogaeth ar gyfer prosiect ‘Croes Atti 2’, fel blaenoriaeth strategol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol; a

 

(b)       Nodi’r prif weithgareddau prosiect sydd ar y gweill, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r model gweithredol gyda’r Bwrdd Iechyd.

86.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Refeniw

 

  • Diddymu Treth y Cyngor

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol, i ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000.

 

Mae gan dri chwmni/unigolyn ddyledion Treth y Cyngor sydd heb eu talu gwerth cyfanswm o £23,196.35 a ystyrir yn anadferadwy, gan fod y cwmnïau neu’r unigolion atebol yn mynd yn fethdalwyr ac ystyrir bod angen eu diddymu.

87.

Contract Rheoli Storfeydd

Pwrpas:        Cymeradwyo dyfarnu’r contract rheoli storfeydd drwy fframwaith deunyddiau Cymru gyfan ADRA.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu a gwasanaethau cysylltiedig yn y dyfodol trwy reoli storfeydd trwy gontract dyfarnu uniongyrchol Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan ADRA.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Dyfarnu’r contract rheoli storfeydd trwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan ADRA; a

 

(b)       Nodi’r dyfarniad ar gyfer contract pedair blynedd gyda’r opsiwn o’i ymestyn am bedair blynedd arall, yn amodol ar berfformiad.

88.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.