Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:         I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau

yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.

3.

Cofnodion pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Ystyried cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 31 Mai a 14 Mehefin 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 31 Mai a 14 Mehefin 2022 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

 

4.

Strategaeth ariannol tymor canolig a chyllideb 2023/24 pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Cyflwyno'r amcangyfrif cyntaf ar gyfer gofyniad cyllideb 2023/24 a'r strategaeth ar gyfer ariannu'r gofyniad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem ac eglurodd bod y Cyngor yn adolygu ac yn diweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn flynyddol, a chyn cynllunio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn rhagweld yr adnoddau fyddai’r Cyngor ei angen i fodloni ein sail costau sy’n newid yn gyson, ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos bod y Cyngor yn debygol o gael isafswm gofyniad cyllidebol o £16.503 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2023/24.

 

Yn ystod yr hydref, byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu gwahodd i adolygu pwysau costau, a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli costau ac effeithlonrwydd, o dan eu cylch gorchwyl perthnasol. Byddai gweithdai’n cael eu cynnal i Aelodau i egluro’r sefyllfa a ragwelir a’r strategaeth cyllideb yn fwy manwl. Byddent yn cael eu trefnu ar gyfer mis Medi.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r strategaeth i gyflawni cyllideb gyfreithiol, gytbwys, oedd yn seiliedig ar gyllid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru drwy Gyllid Allanol Cyfun, nodi arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth a chorfforaethol a chynnydd blynyddol mewn Treth y Cyngor.

 

Fel rhan o’r Setliad Llywodraeth Leol 2022/23, roedd y Cyngor wedi cael ffigurau dangosol ar gyfer 2023/24 a 2024/25.  Er bod hyn yn cael ei groesawu, byddai setliad Llywodraeth Leol y ddwy flynedd nesaf yn sylweddol is na’r ddwy flynedd flaenorol, oedd yn golygu heriau sylweddol ac yn cynyddu’r swm oedd angen ei fodloni o ffynonellau eraill.

 

Roedd Aelodau’n ymwybodol, er y gellid nodi rhai arbedion cost ac effeithlonrwydd fel rhan o’r broses cyllideb flynyddol, ar ôl degawd o dan-gyllido llywodraeth leol, nad oes arbedion costau o raddfa ar ôl, ac roedd y Cyngor wedi glynu at yr egwyddor na fyddai’r Cyngor yn lleihau cyllideb ar gyfer unrhyw wasanaeth i’r pwynt ble bydd y gwasanaeth yn anniogel. Wrth wneud hynny, ni fyddwn yn bodloni ein dyletswyddau statudol neu ein safonau ansawdd.

 

Felly, byddai’r angen i ystyried meysydd o ddiwygio gwasanaethau i greu mwy o arbedion cost pan fyddai’n bosibl, yn faes ble byddai angen i’r Cyngor wneud llawer iawn o waith arno dros yr haf i ddod o hyd i ddatrysiadau fyddai’n galluogi'r Cyngor osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. 

 

Roedd amserlen y gyllideb wedi’i hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol y trefniadau ar gyfer y gweithdai i Aelodau, fyddai’n galluogi pob Aelod i fynd drwy’r ffigurau’n fwy manwl. Hefyd, o ran y Dyfarniadau Cyflog Cenedlaethol, pe bai’r ffigwr yn fwy na 3.5%, byddai hynny’n rhoi mwy o bwysau ar y gyllideb ar gyfer 2023/24.  Eglurodd y Prif Weithredwr ei bod yn broses heriol o ran y gyllideb a phwysleisiodd bwysigrwydd y Gweithdai i Aelodau.  Yn dilyn ceisiadau, cadarnhaodd y byddai sesiwn friffio i’r holl Aelodau yn cael ei chynnal ar 22 Gorffennaf, gan John Rae o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar sut mae’r fformiwla cyllido’n gweithio.  

 

O ran dyfarniadau cyflog i athrawon, dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai pob hanner canran ychwanegol yn gyfystyr â thua £200,000 yn fwy. Byddai hynny’n berthnasol i’r holl weithlu.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

23.

Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2022-23 ar gyfer Cyngor Sir Y Fflint pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2022-23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr eitem oedd yn rhoi trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010. Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth am y flwyddyn nesaf a sut y byddent yn cael eu cyflawni.

 

Roedd y Cynllun Gwasanaeth wedi’i lunio gan swyddogion y Tîm Diogelwch 

a Safonau Bwyd a’r Tîm Iechyd Anifeiliaid yn y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn unol â’r model yn y Cytundeb Fframwaith. Roedd yn amlinellu’r cynigion ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn y cyfnod o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023. Roedd hefyd yn cynnwys adolygiad o berfformiad y gwasanaeth ar gyfer 2021-22 ac roedd manylion perfformiad cyffredinol 2021-22 yn Atodiad 3 y Cynllun Gwasanaeth.

 

            Amlinellwyd y cyflawniadau allweddol ar gyfer 2021-22 a thargedau 2022-23 yn yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ei fod yn gynllun statudol a bod yr adroddiad wedi’i gyflwyno hefyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, ble cafodd ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2022/23.

 

5.

Adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn cynllun y Cyngor pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Adolygu alldro cynnydd blynyddol Cynllun y Cyngor yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem oedd yn cyflwyno sefyllfa derfynol flynyddol y cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2021/22. Bu’n flwyddyn anodd i staff a diolchodd i bawb am eu hymdrechion yn ystod y cyfnodau anodd, yn cynnwys eu hyblygrwydd.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2021/22 yn dangos bod 73% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da, a bod 74% yn debygol o gyflawni’r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 73% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro'n agos ac roedd 18% ddim yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.

 

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd.

 

Ategodd y Cynghorwyr Mullin a Healey eu diolch i’r holl staff am y gwaith a wnaed.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo a chefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawniadau’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor 2021/22;

 

(b)       Cymeradwyo a chefnogi’r perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

 

6.

Cynllun y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth i fabwysiadu Rhan 1 ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 ar ôl ymgynghori â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem ac eglurodd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor Sir i ddangos blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer tymor pum mlynedd y weinyddiaeth newydd.  Roedd y Cynllun i gael ei adolygu’n flynyddol.

 

Roedd Cynllun Drafft 2022/23 wedi'i adolygu a'i adnewyddu o ran ei gynnwys yn dilyn yr ymateb i'r pandemig a'r Strategaeth Adfer. Roedd y themâu a’r blaenoriaethau yr un fath ag ar gyfer 2021/22, ond roedd rhai datblygiadau gydag is-flaenoriaethau.

 

Roedd ‘uwch-strwythur’ y Cynllun yn parhau i gyd-fynd â set o chwech o Amcanion Lles. Roedd y chwe thema’n parhau i roi ystyriaeth tymor hir i adfer, uchelgeisiau a gwaith dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Roedd yr amlinelliad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022/23, yn cynnwys y chwe thema, eu blaenoriaethau a chamau gweithredu, wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu cymorth wrth ffurfio a datblygu’r ddogfen. Roedd y Cynghorydd Healey yn croesawu’r ychwanegiadau i’r Cynllun, yn enwedig yr addasiad ar newid yn yr hinsawdd.  Ychwanegodd fod angen bod yn ymwybodol o amodau eithriadol eraill, megis tymereddau uchel a chyfnodau o wres eithafol a allai hefyd effeithio ar wasanaethau.    Ategodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y pryderon am amodau tywydd o’r fath, ac eglurodd fod mesurau’n cael eu rhoi ar waith i ddargyfeirio adnoddau i helpu gwasanaethau hanfodol dros y dyddiau nesaf a’r tywydd poeth iawn oedd yn cael ei ddarogan. Roedd y Cynghorydd Johnson yn croesawu’r flaenoriaeth yn ymwneud â thlodi, yn enwedig o nodi’r heriau sy’n wynebu’r awdurdod yn y flwyddyn sydd i ddod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Rhan 1 Cynllun y Cyngor 2022/23 a’i argymell i’r Cyngor ei fabwysiadu.

 

7.

Canlyniadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Ddigidol pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Rhannu canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Ddigidol a chytuno ar y camau i’w cymryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr eitem ac eglurodd fod y strategaeth ddiwygiedig yn cynnwys profiadau dysgu, twf ac uchelgais ers i Sir y Fflint Digidol gael ei gyhoeddi i ddechrau yn 2016. Roedd hefyd yn cynnwys fel thema ar wahân amcan i helpu i leihau’r allgau y gallai pobl heb y sgiliau, y dyfeisiadau neu'r cysylltedd angenrheidiol i fanteisio ar wasanaethau digidol ei brofi.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yr ymgynghoriad wedi bod ar agor i bawb a’i fod wedi’i gynnal drwy ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd, y gweithlu a grwpiau defnyddwyr penodol a’i fod wedi’i gyhoeddi ar y wefan. Derbyniwyd 179 o ymatebion, ac roedd pob un ohonynt yn dangos cefnogaeth i nodau ac uchelgeisiau strategol y Cyngor. 

 

Roedd yr adborth yn nodi pedwar prif faes, oedd yn cael sylw’n bennaf fel rhan o brosiectau neu themâu cyffredinol yn y Strategaeth Ddigidol a byddent yn cael eu blaenoriaethu wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.  Y meysydd oedd:

 

·         Cynllunio a gwybodaeth;

·         Cynhwysiant a hygyrchedd;

·         Cysylltedd; a

·         Y wefan a darpariaeth y gwasanaeth.

 

Roedd gr?p gwefan wedi’i ailsefydlu i sicrhau bod y wefan yn cael ei gwella, er enghraifft, diweddaru’r cynnwys ar-lein a chynnal dolenni. Hefyd, byddai’r wefan yn parhau i gael ei symleiddio a’i diweddaru, byddai’r swyddogaeth chwilio’n cael ei wella a byddai ar gael ar bob dyfais, gan nodi bod mwyafrif y rhai sy’n ei defnyddio yn gwneud hynny ar ffonau clyfar.

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad, roedd geiriad ychwanegol wedi cael ei gynnig i gynnwys rhai elfennau o’r adborth ac roedd ymateb drafft wedi’i baratoi ar gyfer ei gyhoeddi. 

 

Roedd y Cynllun Prosiect Strategaeth Ddigidol yn cynnwys rhestr o’r holl brosiectau yn y Strategaeth Ddigidol oedd wedi’u neilltuo i thema ac oedd yn cael eu hadrodd arnynt. Roedd hefyd yn casglu costau’r prosiectau ar gyfer cynllunio ariannol. Atodwyd y strategaeth ddiwygiedig i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Croesawu canlyniadau’r ymgynghoriad;

 

(b)       Bod y Strategaeth Ddigidol ddiwygiedig ar gyfer 2021-2026 yn cael ei gymeradwyo gyda’r addasiadau ychwanegol a awgrymwyd yn yr adroddiad;

 

(c)        Bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn cael awdurdod i derfynu’r polisi mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Lywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol yn cynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol.

 

8.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â datblygiad y rhaglen a’r drefn ar gyfer cyflwyno’r Strategaeth Fuddsoddi i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol erbyn 1 Awst 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr eitem gan egluro y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad o £2.5 biliwn hyd at fis Mawrth 2025 ar draws y DU. Nod y rhaglen oedd “meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd”. Roedd Llywodraeth y DU wedi dyrannu £126 miliwn i Ogledd Cymru i ddarparu’r rhaglen rhwng 2022/23 a 2024/25 ac roedd £10.8 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir y Fflint ar gyfer y rhaglen graidd.

 

Roedd Llywodraeth y DU wedi gosod amserlen heriol o 16 wythnos i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Fuddsoddi ar lefel uchel ar gyfer y rhaglen. Y dyddiad cau oedd 1 Awst 2022 ac amcangyfrifwyd y byddai angen dechrau darparu’r rhaglen ym mis Medi 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o’r rhaglen, crynodeb o’r gwaith a wnaed hyd yma i baratoi ar ei chyfer a’r camau nesaf sydd eu hangen i fodloni gofynion Llywodraeth y DU i ganiatáu i’r cyllid gael ei dalu. Y blaenoriaethau buddsoddi a nodwyd gan Lywodraeth y DU oedd:

 

·         Cymuned a Lle

·         Cefnogi Busnesau Lleol

·         Pobl a Sgiliau

 

Roedd dyraniad cyllideb rhanbarthol ar gael gan Lywodraeth y DU ac roedd y manylion yn yr adroddiad. Wrth ymateb i sylw, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n tynnu sylw Llywodraeth y DU o ran dyrannu’r cyllid gan fod awdurdod cyfagos yn cael dwywaith cymaint y pen â Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo datblygiad pellach rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir y Fflint ac yn rhanbarthol drwy fewnbwn swyddogion, yn unol â’r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad;

 

(b)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir y Fflint i gael eu cynnwys yn y Strategaeth Fuddsoddi ranbarthol i ganiatáu i’r cyllid gael ei dalu;

 

(c)        Cefnogi’r cynnig i ofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol i gyflwyno’r Strategaeth Fuddsoddi ranbarthol i Lywodraeth y DU ac i arwain darpariaeth y rhaglen wedi hynny; ac

 

(d)       Ysgrifennu at Lywodraeth y DU am ddyrannu’r cyllid, gan fod awdurdod cyfagos yn cael dwywaith cymaint y pen â Sir y Fflint.

 

9.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynigion ar gyfer Deddfwriaeth Bws Newydd pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        I gynghori’r Cabinet ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth bws newydd ac ymateb arfaethedig Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr eitem ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar y cynnig i gyflwyno deddfwriaeth newydd i newid y ffordd mae gwasanaethau bysiau’n cael eu cynllunio a’u gweithredu yng Nghymru, ac roeddent wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar sut y byddai’r system fysiau newydd yn cael ei chynllunio. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 24 Mehefin 2022.

 

Roedd Sir y Fflint wedi gofyn am estyniad i’r ymgynghoriad ar gyfer y weinyddiaeth newydd ac i sicrhau bod Aelodau etholedig newydd yn cael cyfle i ddysgu am y cynigion a rhoi ymateb. Yn unol â hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi estyniad byr y tu hwnt i ddyddiad cau’r ymgynghoriad, a fyddai’n sicrhau bod Aelodau Sir y Fflint yn cael cyfle i ymateb i’r cynigion.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y cynigion deddfwriaethol yn cynnig newid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau’n cael eu llywodraethu, eu cydlynu a’u gweithredu yng Nghymru. Bwriad Llywodraeth Cymru oedd sicrhau system fysiau oedd yn rhoi hwb i gydraddoldeb cymdeithasol ac a fyddai’n gallu darparu’r newid moddol sydd ei angen gan yr argyfwng hinsawdd. Un oedd yn cael ei llywodraethu a’i chynllunio i wasanaethu lles y cyhoedd, oedd yn cynnwys ardal ddaearyddol mor fawr â phosibl a chysylltiadau integredig llawn rhwng gwasanaethau gwahanol, gwasanaethau mor aml â phosibl a system docynnau a gwybodaeth syml, unedig a hawdd ei defnyddio dan y faner:  ‘Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru’.

 

Amlinellodd yr adroddiad y cynigion ar gyfer deddfwriaeth fysiau newydd a thynnodd sylw at rai o’r manteision a risgiau.

 

Wrth ymateb i sylw gan y Cynghorydd Healey, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr ymateb ffurfiol yn ddogfen hir ond ei bod wedi’i chrynhoi yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod ymateb rhanbarthol yn cael ei gyflwyno hefyd, ynghyd â rhai gan y Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a bod pob un yn adlewyrchu’r risgiau a amlinellwyd yn ei adroddiad.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wasanaethau bysiau yng Nghymru yn cael eu croesawu, gan nodi rhai o’r risgiau a heriau yn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod yr ymateb arfaethedig a gyflwynwyd gan Sir y Fflint i’r Ymgynghoriad Papur Gwyn yn cael ei gefnogi.

 

10.

Monitro'r Gyllideb Refeniw 2021/22 (Canlyniadau) pdf icon PDF 183 KB

Pwrpas:        Cyflwyno gwybodaeth fonitro canlyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem oedd yn rhoi sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Roedd y Cyfrifon ar gyfer 2021/22 wedi cael eu cau ac roedd y Cyngor ar y trywydd iawn i gyflwyno’r Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau cefnogol i Archwilio Cymru o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod y pandemig COVID-19 wedi parhau i achosi heriau i’r Cyngor a bod yr effaith ariannol dros y 12 mis diwethaf yn sylweddol. Roedd y sefyllfa derfynol yn adlewyrchu cyllid grant ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd wedi cyfrannu’n sylweddol at lefel y gwarged gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys cyllid Gofal Cymdeithasol ychwanegol ar gyfer pwysau’r gaeaf o £2.167 miliwn ynghyd â chyllid grant ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Plant gan Lywodraeth Cymru o £0.292 miliwn.

 

Y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Gwarged gweithredol o (£5.711 miliwn) a oedd yn symudiad ffafriol o (£1.107 miliwn) o’r ffigwr gwarged o (£4.604 miliwn) a adroddwyd ym Mis 10

·         Gwarged gweithredol o (£5.711 miliwn) oedd gyfwerth a 1.9% o’r Gyllideb Gymeradwy, a oedd yn uwch na DPA y SATC o amrywiad yn erbyn y gyllideb o 0.5%

·         Balans y gronfa wrth gefn at raid a ragwelwyd o £7.098 miliwn ar 31 Mawrth 2022

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Gwariant refeniw net £1.404 miliwn yn uwch na’r gyllideb

·         Balans terfynol o £3.616 miliwn ar 31 Mawrth 2022

 

Eglurodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig nodi fod mwyafrif y symudiadau positif yn darparu budd unwaith yn unig ac na fyddent yn berthnasol i’r broses gosod cyllideb ar gyfer 2022/23.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2022;

 

(b)       Nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

(c)        Chymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.

 

11.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Sefyllfa Derfynol) pdf icon PDF 322 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r wybodaeth am Sefyllfa Derfynol Rhaglen Gyfalaf 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem a oedd yn crynhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2021/22 ynghyd â’r newidiadau a wnaed i'r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter olaf.

 

Bu gostyngiad net o £10.146 miliwn yng nghyllideb y Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter diwethaf a oedd yn cynnwys:

 

·         Gostyngiad net o £7.008 miliwn yn y rhaglen (gweler Tabl 2 - Cronfa’r Cyngor (£6.293 miliwn), Cyfrif Refeniw Tai (£0.715 miliwn))

·         Swm Net i’w Ddwyn Ymlaen i 2022/23, wedi’i gymeradwyo ym Mis 9, o (£0.667 miliwn), newid o grantiau cyfalaf ychwanegol ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim Cynradd (£1.262 miliwn) a Chronfa Gofal Integredig (£0.839 miliwn) (Cronfa’r Cyngor)

·         Arbedion a ddynodwyd yn y sefyllfa derfynol (£0.370 miliwn) (Cronfa’r Cyngor)

 

Gwir wariant yn y flwyddyn oedd £67.907 miliwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r arian dros ben terfynol o'r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 oedd £6.296 miliwn. Cymeradwywyd Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2024/25 ar 7 Rhagfyr 2021, yn defnyddio £4.147 miliwn o arian dros ben y flwyddyn bresennol tuag at y rhaglen a gadael diffyg a ragwelir o £0.081 miliwn, yn dilyn y setliad llywodraeth leol terfynol. Effaith y sefyllfa derfynol ar gyfer 2021/22 oedd sefyllfa ariannol ddiwygiedig o arian dros ben o £2.068 miliwn, cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai sefyllfa derfynol gwariant, ar draws y Rhaglen Gyfalaf gyfan oedd £67.907 miliwn. Dadansoddwyd y gwariant yn nhabl 3 yr adroddiad, ynghyd â chanran y gwariant yn erbyn y gyllideb. Dangosodd bod 95.5% o’r gyllideb wedi’i wario, sy’n lefel dda.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo'r addasiadau dwyn ymlaen; a

 

(c)        Cymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.

 

12.

Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2021/22 pdf icon PDF 264 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2021/22 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem ac eglurodd bod yn rhaid i'r Cyngor, o dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), fel y’i diweddarwyd yn 2017, bennu amrediad o Ddangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a osodwyd ar gyfer:

 

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Doethineb Ariannol

·         Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol mai bwriad y fframwaith a sefydlwyd gan y Cod Darbodus oedd cefnogi cynllunio strategol lleol, cynllunio rheoli asedau lleol a threfn gadarn o werthuso dewisiadau. Amcanion y Cod oedd sicrhau, o fewn fframwaith clir, bod cynlluniau buddsoddi cyfalaf awdurdodau lleol yn fforddiadwy, darbodus a chynaliadwy a bod penderfyniadau rheoli’r trysorlys yn cael eu gwneud yn unol ag arferion proffesiynol da. 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r adroddiad.

 

13.

2022/23 monitro cyllideb refeniw (Interim) pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem a oedd yn rhoi'r trosolwg cyntaf o sefyllfa monitro'r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23. Adroddwyd drwy eithriad ar amrywiadau arwyddocaol a allai effeithio ar sefyllfa ariannol 2022/23.

 

Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o tua £0.300 miliwn.

 

Byddai gallu’r Cyngor i liniaru risgiau ariannol yn y cam adfer wedi’r pandemig yn hanner cyntaf y flwyddyn, yn dilyn colli’r Grant caledi a cholli incwm gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar adolygu a herio gwariant gohiriedig, gan wneud y mwyaf o ffrydiau incwm yn dilyn dychwelyd i’r drefn arferol. 

 

Roedd swm o £2.066 miliwn yn dal ar gael o’r gronfa frys o £3 miliwn a glustnodwyd. Roedd cyllideb 2022/23 a gymeradwywyd ym mis Chwefror yn cynnwys £3.250 miliwn ychwanegol i’r gronfa wrth gefn i ddarparu amddiffyniad darbodus yn erbyn effeithiau parhaus y pandemig.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol y bydd adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi a fydd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ariannol gyffredinol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i breswylwyr Sir y Fflint am y taliadau Treth y Cyngor gan ddweud os bydd unrhyw un ohonynt yn cael anhawster ariannol, yna dylent gysylltu â’r Cyngor a allai helpu neu eu cyfeirio at y lle priodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2022/23.

 

14.

Adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022 pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth i ganlyniadau’r adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem ac eglurodd bod yr adolygiad o ffioedd a thaliadau 2022 wedi’i gwblhau yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor sy’n nodi'r rhesymeg a'r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau.  Roedd canlyniad yr adolygiad wedi’i nodi yn atodiad yr adroddiad a byddai’n berthnasol o 1 Hydref 2022.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod y Polisi Cynhyrchu Incwm wedi cael ei ddiweddaru i roi mwy o eglurder am rolau a chyfrifoldebau yn dilyn argymhellion gan Archwilio Mewnol yn 2022. Atodwyd fersiwn tri diwygiedig o’r polisi i’r adroddiad ac argymhellwyd ei gymeradwyo.

 

Hefyd, amlinellodd yr adroddiad ofynion parhaus yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2023, yn enwedig y ffioedd a thaliadau nad oedd eto wedi dangos eu bod wedi adfer y gost yn llawn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau a amlinellwyd yn Atodiad A i’w rhoi ar waith ar 1 Hydref 2021;

 

(b)       Cymeradwyo fersiwn tri ddiwygiedig y Polisi Cynhyrchu Incwm; a

 

(c)        Bod fersiwn hawdd ei ddefnyddio o’r amserlen ffioedd a thaliadau’n cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi.

 

15.

Costau gwresogi cymunedol 2021/22 pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer taliadau gwresogi yn eiddo'r Cyngor gyda systemau gwresogi cymunedol ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr eitem ac eglurodd bod y portffolio'n gweithredu wyth cynllun gwresogi cymunol yn Sir y Fflint.  Mae’r Cyngor yn trafod prisiau tanwydd ymlaen llaw ac mae tenantiaid yn elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor.

 

Roedd y ffioedd gwresogi cymunol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn.

 

Roedd y ffioedd arfaethedig ar gyfer 2022/23, wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn aros am gymeradwyaeth gan y Cabinet.  Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2022/23 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan barhau i drosglwyddo manteision costau ynni is i denantiaid.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod tenantiaid yn elwa o gyfraddau ffafriol fesul uned oherwydd bod y Cyngor wedi sicrhau cyfradd sefydlog ar ynni hyd at fis Mawrth 2023. Mae’n debygol iawn y bydd Ffioedd Gwresogi Cymunol yn codi o 2023/24 pan fydd raid i’r Cyngor drafod tariffau ynni newydd.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai ac Asedau ar 6 Gorffennaf. Roedd Aelodau’n cefnogi’r argymhellion ond mynegwyd pryderon am effaith unrhyw gynnydd ym mhrisiau ynni yn y dyfodol, yn enwedig pan fydd cyfnod y contract sefydlog presennol yn dod i ben. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunol a fydd yn dod i rym ar 5 Medi 2022.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai newid arall i drefn yr eitemau ar y rhaglen ac y byddai eitem rhif 18 ar y rhaglen: Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei ystyried nesaf.

 

18.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Y Cabinet i edrych ar Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol a rhoi adborth ar gynnwys y drafft.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr eitem ac eglurodd ei bod yn ofynnol i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi eu barn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi'i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoliadau ac Arolygiadau (Cymru) 2015. 

 

Pwrpas yr adroddiad oedd nodi’r siwrnai at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl a oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai bwriad yr adroddiad oedd rhoi darlun didwyll i’r cyhoedd, rheoleiddiwr a budd-ddeiliaid ehangach o wasanaethau yn Sir y Fflint, a dangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r heriau a wynebir. Soniodd am lwyddiannau’r Project Search, T? Nyth, Marleyfield House a Glan y Morfa.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cynnwys datblygiadau allweddol y llynedd a blaenoriaethau’r flwyddyn nesaf.

 

16.

Mabwysiadu Fframwaith Polisi a Chynllun Cefnogi Costau Byw yn ôl Disgresiwn pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Cynllun yn ôl Disgresiwn i ddefnyddio dyraniad cyllid o £1.14m y Cyngor i ddarparu taliad costau byw o £150 i aelwydydd cymwys.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr eitem ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Cymorth Costau Byw yn ddiweddar, oedd yn darparu grantiau i aelwydydd i helpu gyda chostau cynyddol biliau ynni. Roedd y pecyn o fesurau’n cynnwys £6.99 miliwn yn y prif gynllun i ddarparu grant o £150 i tua 46,670 o aelwydydd cymwys ym Mandiau Treth y Cyngor A i D ynghyd â’r aelwydydd hynny ym Mandiau Treth y Cyngor A i I oedd yn derbyn Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor.

 

Yn ogystal â’r £6.99 miliwn, roedd £1.15 miliwn ar gael i’r Cyngor i ddarparu cymorth disgresiynol ac i gefnogi aelwydydd eraill oedd fwyaf angen cymorth ariannol yn eu tyb nhw, neu a fyddai hefyd yn cael eu heithrio o gael cymorth drwy’r prif gynllun. Roedd gan awdurdodau lleol ymreolaeth lwyr i dargedu’r cyllid i gefnogi preswylwyr a ystyrir eu bod angen cymorth gyda’u costau byw.

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod yr adroddiad yn nodi meini prawf arfaethedig y cynllun disgresiynol i ddarparu cymorth i aelwydydd nad oedd yn gymwys ar hyn o bryd i gael grant yn y prif gynllun yn ogystal â darparu grant cyflenwol o £125 wedi’i dargedu i aelwydydd y mae eu plant yn cael Prydau Ysgol am Ddim.

 

Roedd rhan fechan o’r Cyllid Disgresiynol hefyd wedi’i glustnodi i gefnogi’r mesurau gwrthdlodi ehangach ac i helpu’r Cyngor fodloni un o’i amcanion lles allweddol (Amddiffyn pobl rhag tlodi drwy eu cefnogi i fodloni eu hanghenion sylfaenol) drwy gefnogi datblygiad parhaus y ganolfan fwyd “Well Fed” fel bod preswylwyr yn gallu cael prydau ffres am brisiau fforddiadwy.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Fframwaith Polisi Disgresiynol a dosbarthu’r cyllid.

 

17.

Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Gofyn i’r Cabinet wneud sylw a chefnogi ardystiad Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr eitem oedd yn cyflwyno drafft terfynol y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar ei gynnwys.

 

Mae’r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru yn hyrwyddo datblygiad economaidd ar y cyd ar draws y rhanbarth drwy set o flaenoriaethau a rennir ac y cytunwyd arnynt ar gyfer cyflawni ymhlith partneriaid rhanbarthol.

 

Mae’r Memorandwm o Ddealltwriaeth (Memorandwm o Ddealltwriaeth Gweithio Gyda’n Gilydd i greu Economi gryfach yng Ngogledd Cymru) yn nodi sut y byddai Llywodraeth Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a phartneriaid eraillyn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu a darparu yn erbyn un

Fframwaith Economaidd Rhanbarthol cyffredin i Ogledd Cymru.

 

Yn ogystal â’r cyd-gynhyrchu a ddigwyddodd drwy grwpiau amrywiol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, cynhaliwyd dau ddigwyddiad traws-sector i fudd-ddeiliaid. Rhoddodd y cyntaf ym mis Mai 2022 gefndir a thrafodaeth ar gryfderau a chyfleoedd i’r rhanbarth. Roedd yr ail yn gyfres o wyth gweithdy oedd yn gofyn am farn ar flaenoriaethau i’r rhanbarth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod ‘Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru’ yn cael ei argymell i’w gymeradwyo gan y Cyngor.

 

19.

Rhaglenni Llywodraeth Cymru - Haf o Hwyl, Gaeaf Llawn Lles pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar sut mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig a sut mae hynny wedi cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o wasanaethau a phartneriaid yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem ac eglurodd fod Comisiynydd Plant Cymru wedi dechrau trafodaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod gwanwyn 2021 am yr angen i ddarparu mynediad i blant a phobl ifanc at weithgareddau hwyliog i geisio lliniaru effaith y pandemig ar eu lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid i awdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol eraill i ddarparu ‘Haf o Hwyl’. Cafodd hyn ei ddarparu’n llwyddiannus yn Sir y Fflint ochr yn ochr â chynlluniau chwarae a chafodd adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ym mis Rhagfyr 2021. Arweiniodd llwyddiant y cynllun, a gafodd ei werthuso’n annibynnol, at fwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen ‘Gaeaf Llawn Lles’ dros y gaeaf 2021-2022 ac yn ddiweddar, mae wedi cadarnhau cyllid ychwanegol ar gyfer rhaglen ‘Haf o Hwyl’ arall eleni.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o ddarpariaeth y rhaglenni hyn gan y Cyngor ac adroddiad gwerthuso Llywodraeth Cymru. Roedd lleoliadau’n cael eu casglu ar gais y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a byddent yn cael eu rhannu ag Aelodau pan fyddant yn gyflawn.

 

Roedd y Cynghorwyr Johnson a Bithell yn croesawu’r ystod eang o weithgareddau oedd ar gael i blant a phobl ifanc dros yr haf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cael sicrwydd bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint wedi elwa o gyllid Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gaeaf Llawn Lles.

20.

Darparu diweddariad ar sut mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig a sut mae hynny wedi cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o wasanaethau a phartneriaid yn Sir y Fflint. pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Gwahodd y Cabinet i benderfynu a ddylid parhau â’r cynigion statudol ar gyfer newid trefniadaeth ysgol i ehangu’r ddau eiddo yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyhoeddi rhybudd statudol drwy ‘Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, Cod Trefniadaeth Ysgolion’ i ymestyn yr eiddo mewn dwy ysgol - Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Gynradd Penyffordd.

 

Mae’r Cod yn nodi gofynion Newid a Reoleiddir i Ysgolion Cymunedol, Sylfaen a Gwirfoddol o ran ymestyn eiddo ysgolion.Mae’r prosiectau buddsoddi arfaethedig yn Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Gynradd Penyffordd yn bodloni’r sbardun sy’n gofyn am ymgynghoriad ar gynyddu capasiti i bob ysgol drwy fframwaith gyfreithiol Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol drwy ‘Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, Cod Trefniadaeth Ysgolion’ i ymestyn yr eiddo yn Ysgol Gynradd Drury ac Ysgol Gynradd Penyffordd.

 

21.

Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022 pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad o’r adroddiad i Lywodraeth Cymru mewn cydymffurfiad â Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem gan ddweud bod Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid wedi ymrwymo i sicrhau bod gan yr holl blant a phobl ifanc sy’n byw yn y sir fynediad at amser, lle a chaniatâd i chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd, fyddai o fudd i’w teuluoedd a’u cymunedau. Roedd gan blant yn Sir y Fflint ‘hawl i chwarae’ fel sydd wedi’i ymgorffori yn Erthygl 31 yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

 

Roedd y Cyngor yn cydnabod bod chwarae yn ganolog i fwynhad plant a phobl ifanc o fywyd ac yn hanfodol i’w lles corfforol ac emosiynola’u datblygiad iach. Cydnabuwyd y gallai rhai agweddau o gymdeithas fodern gyfyngu ar amser, lle a chaniatâd plant i chwarae. Mae’rCyngor wedi ymrwymo i barhau i greu partneriaethau effeithiol ialluogi plant i chwarae.

 

Y nod oedd helpu i greu amgylcheddau chwarae cyfoethog ble gallai plant chwarae’n rhydd ac annog ein cymunedau i fod mor gyfeillgar â phosibl at chwarae i gefnogi chwarae plant. Drwy greu mwy o gyfleoedd chwarae yn ein cymunedau lleol, byddai profiadau plant a phobl ifanc o dyfu i fyny yn Sir y Fflint yn cael eu gwella.

 

Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o’r broses Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol, datblygiad Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol a’r Asesiad drafft ar gyfer 22-23 cyn cyflwyno’r asesiad cyflawn i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin 2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys Asesiad Cyfleoedd Chwarae Digonol 2022 drafft a’r Cynllun Gweithredu 2022/23 drafft cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru; a

 

(b)       Cefnogi datblygiad parhaus Gr?p Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol strategol i Sir y Fflint, i ddarparu fforwm aml-asiantaeth i fonitro Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae Digonol 2022/23.

 

22.

Deddf y Lluoedd Arfog 2021 pdf icon PDF 347 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Cabinet am y ddeddfwriaeth newydd mewn perthynas â’r Lluoedd Arfog, a fydd yn cael effaith ar y gwasanaethau Tai ac Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr eitem ac eglurodd bod Cyngor Sir y Fflint, wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog ym mis Gorffennaf 2013. Roedd y Cyfamod yn addewid gan y genedl i’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg, ynghyd â’u teuluoedd.

 

Ymgorfforodd Deddf y Lluoedd Arfog 2021 y ddeddf yn gyfraith, gan roi rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i sicrhau nad yw personél, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr na’u teuluoedd dan anfantais wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod disgwyl i Adran 8 Deddf y Lluoedd Arfog 2021 ddod i rym ym hydref 2022 a’i bod yn cyflwyno dyletswydd ar adrannau Tai ac Addysg i roi “sylw dyledus” i egwyddorion y Ddeddf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r ddeddfwriaeth sydd ar fin dod i rym a’i goblygiadau o ran Tai ac Addysg.

 

24.

Moderneiddio Ysgolion - Prosiect Campws Mynydd Isa pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu contract ar gyfer gwaith adeiladu Prosiect Campws Mynydd Isa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem, oedd yn dilyn diweddariadau blaenorol i’r Cabinet ar Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (y cyn Raglen Fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif, Band B) ar gyfer y prosiect Campws 3-16 ym Mynydd Isa.

 

Rhoddodd yr adroddiad y cefndir i’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a chynnydd y prosiect drwy broses achos busnes Llywodraeth Cymru, a’r broses datblygu dyluniad i sicrwydd cost.

 

Amlinellwyd manylion y rhwymedigaethau cyfalaf a refeniw yn yr adroddiad a gofynnwyd am gymeradwyaeth am y taliad gwasanaeth blynyddol, ac i gytuno ar Gytundeb Prosiect ar gyfer y cam adeiladu, cyllid a chynnal a chadw’r adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig ar gyfer prosiect campws blynyddoedd 3-6. Roedd yn seiliedig ar uchafswm ariannol a bennir gan Lywodraeth Cymru i oresgyn yr heriau presennol i’r sector adeiladu/cadwyn gyflenwi, cymhlethdodau’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac er mwyn cadw amserlen y prosiect ar amser. 

 

Oherwydd natur y Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat, ysgrifennwyd yr adroddiad yn rhannol i sicrhau bod gofynion cyllidwyr yn cael eu bodloni ac o ganlyniad roedd yr adroddiad yn cynnwys geiriad technegol a chyfreithiol a oedd wedi cael eu symleiddio cymaint â phosibl. 

 

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, rhagwelir y byddai’r gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Awst 2022 a’r bwriad oedd symud i’r adeilad ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2024. Byddai gwaith allanol yn dilyn, gan ddechrau gyda’r gwaith o ddymchwel Ysgol Uwchradd Argoed. Gallai unrhyw oedi cyn dechrau’r gwaith arwain at oedi sylweddol i’r prosiect a chynnydd cysylltiedig mewn costau. Byddai cymeradwyaeth y Cabinet yn caniatáu i’r pecyn ariannol ar gyfer y prosiect gael ei gwblhau ynghyd ag arwyddo Cytundebau a dechrau’r gwaith yn unol â’r rhaglen.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod materion byd-eang amrywiol wedi bod yn effeithio ar brisiau yn y farchnad adeiladu yn ystod y 24/30 mis diwethaf, o ganlyniad i Brexit, y pandemig Covid 19 a’r rhyfel yn Wcráin.  Roedd y rhain wedi cyfuno a’r effaith oedd:

·         Cynnydd yn y galw am adeiladu (wedi COVID)

·         Amhariad i’r gadwyn gyflenwi ac argyfwng ynni parhaus. Canlyniadau hyn oedd diffyg deunyddiau adeiladu

·         Chwyddiant uchel a phrisiau anwadal

·         Prisiau uchel deunyddiau crai

·         Prisiau uchel ynni a mwy o ansicrwydd

 

Er mwyn i’r prosiect fynd yn ei flaen, roedd tîm MIM Llywodraeth Cymru, gyda’u harbenigwyr a gomisiynwyd, wedi gosod uchafswm ariannol, oedd yn gosod amcangyfrif o uchafswm y tâl gwasanaeth blynyddol. Roedd yr uchafswm a amcangyfrifwyd yn ganlyniad uniongyrchol y materion presennol yn ymwneud â’r farchnad, chwyddiant a’r gadwyn gyflenwi sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu ar hyn o bryd ac roedd yn adlewyrchiad o sefyllfa’r prosiect yn y broses fanwl o brofi marchnad/sicrwydd cost. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai ffigwr prosiect is yn cael ei gadarnhau wrth i’r prosiect symud tuag at derfyn ariannol ym mis Gorffennaf/Awst 2022.

 

Roedd yr Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru hefyd yn gofyn am gytundeb gan Lywodraeth Cymru i osod cyfraniad tâl gwasanaeth blynyddol y Cyngor ar uchafswm o £1,000,000 y flwyddyn. Os bydd ffigwr y prosiect yn is na’r uchafswm, fel y rhagwelir, byddai hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai a Chymunedau

 

  • Rhent y Cyngor – Diddymu Ôl-Ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi y dylid ystyried ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol a ddylid dileu dyledion drwg a rhai nad oes modd eu hadennill sydd dros £5,000. Roedd y penderfyniad hwn i ddileu ôl-ddyledion yn ymwneud â dau achos tai cyngor ar wahân ble mae’r tenant yn destun Gorchmynion Rhyddhau o Ddyled. Yn yr achos cyntaf, roedd ôl-ddyledion rhent o £9,232.42 wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Yn yr ail achos, roedd ôl-ddyledion rhent o £5,552.95 wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Bellach, nid oes modd adennill y dyledion yn yr un o’r ddau achos.

 

  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol, Cyn Safle Amwynder  Dinesig, Dock Road, Cei Connah, Sir y Fflint

Mae’r adroddiad yn ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol y Cyn Safle Amwynder Dinesig, Dock Road, Cei Connah, Sir y Fflint.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

26.

Gwaith Cyfalaf – Amrywiad i Gontract, Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) Rhaglen Allanol Ty Cyfan (WHE)

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i gynyddu gwerth archeb fewnol ar gyfer contract Connolly’s Ltd o £1,000,000 i hwyluso gwaith a chostau ychwanegol ar gyfer rhaglen Allanol T? Cyfan (WHE) SATC 2021/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem gan egluro bod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i gynyddu gwerth yr archeb O Brynu Hyd Dalu ar gyfer y contract er mwyn talu am eiddo, gwaith a chostau ychwanegol ar gyfer rhaglen T? Cyfan Allanol Safon Ansawdd Tai Cymru 2021/22.

 

Roedd y contract yn dal ar y gweill a byddai’r cynnydd yn caniatáu i’r gwaith barhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynnydd yn swm y contract o £1,000,000 fel y nodir yn yr adroddiad.

 

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.