Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

78.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim.

79.

Cofnodion pdf icon PDF 275 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 16 Tachwedd 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir. 

 

PENDERFYNWYD:

                                          

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

80.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Flynyddol 2022/23 pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Flynyddol 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2022/23 cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a'r broses ffurfiol o bennu'r gyllideb.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod adroddiad wedi mynd ger bron y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn nodi bod gofyniad cyllidebol ychwanegol o £16.750m.  Ystyriwyd yr holl bwysau costau gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Medi a mis Hydref a chefnogwyd pob un ohonynt, heb argymell unrhyw newidiadau.  Yn y Cabinet ym mis Hydref, dwedwyd wrth yr Aelodau bod gofyniad cyllidebol ychwanegol wedi'i ddiweddaru o £18m oherwydd amryw newidiadau, a'r mwyaf arwyddocaol o'r rhain oedd y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr o 1 Ebrill 2022 ymlaen.  Ers hynny, roedd rhagor o waith wedi’i wneud ar ragdybiaethau cyflog a chwyddiant ac roedd y Cyngor wedi cael gwybod am gynnydd i’r gyllideb ddrafft gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Roedd effaith y rheiny, ac addasiadau eraill i bwysau costau presennol, wedi cynyddu'r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer pwysau costau presennol ac wedi cynyddu'r gofyniad cyllidebol ychwanegol i £20.696m fel mae Tabl 1 yn yr adroddiad yn ei nodi.  Roedd newidiadau i’r gofynion cyllidebol ychwanegol o Gam 1 ym mis Gorffennaf yn Nhabl 2 yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod isafswm y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2022/23 o £20.696m gyfwerth â chynnydd yng Ngrant Llywodraeth Cymru (LlC) o isafswm o 7%.

 

Roedd hyn yn cyd-fynd â Chynghorau eraill Gogledd Cymru ac roedd llythyr wedi'i anfon at LlC gan chwe Arweinydd a Phrif Weithredwr Cynghorau Gogledd Cymru cyn cael y Setliad Dros Dro a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.  Roedd y Setliad i fod i gael ei dderbyn ar 21 Rhagfyr 2021.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn a nodi'r gofyniad cyllidebol ychwanegol diwygiedig a newidiadau i bwysau costau; a

 

(b)       Nodi'r strategaeth ddatrysiadau a'r cynnydd angenrheidiol yn y Cyllid Allanol Cyfun cyn derbyn y Setliad Dros Dro.

81.

Adrodd ar Berfformiad Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2021/2022 pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Adolygu adroddiad monitro perfformiad canlyniad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn rhoi crynodeb o berfformiad ar ganol y flwyddyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn dangos bod 70% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da, ac roedd 73% yn debygol o gyflawni’r canlyniadau a gynlluniwyd.  Roedd 53% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau, gyda 2% yn cael eu monitro'n agos ac roedd 20% ddim yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.  Roedd y 25% arall yn fesurau newydd ac yn cael eu monitro fel blwyddyn sylfaen.

 

Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fod yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.

 

Roedd y Cynghorydd Roberts yn dymuno cofnodi diolch i holl staff y Cyngor am eu hymdrechion yn ystod y pandemig, gan ychwanegu y byddai gwasanaethau hefyd yn parhau drwy gydol cyfnod y Nadolig.  Cytunodd y Prif Weithredwr â’r sylwadau hynny gan ddweud bod gan yr awdurdod le i ddiolch yn arbennig i’r staff.  Fe wnaeth pob aelod hefyd dalu teyrnged i’r holl staff.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo a chefnogi’r canlynol:

·         Y lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor 2021/22

·         Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22

 

(b)       Bod yr Aelodau'n cael eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r gwaith o gyflawni Cynllun y Cyngor 2021/22 a gan yr esboniadau ar gyfer y meysydd hynny lle’r oedd tanberfformiad.

82.

Cynllun Drafft y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        I adolygu cymeradwyo Rhan 1 diweddaraf o Gynllun y Cyngor 2022/23 cyn ymgynghori gyda’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn dangos blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer cyfnod y weinyddiaeth newydd o bum mlynedd.  Roedd y Cynllun i gael ei adolygu’n flynyddol.

 

Roedd Cynllun Drafft 2022/23 wedi'i adolygu a'i adnewyddu o ran ei gynnwys yn dilyn yr ymateb i'r pandemig a'r Strategaeth Adfer.  Roedd y themâu a’r blaenoriaethau yr un fath ag ar gyfer 2021/22, ond roedd rhai datblygiadau gydag is-flaenoriaethau.

 

Roedd ‘uwch-strwythur’ y Cynllun yn parhau i gyd-fynd â set o chwech o Amcanion Lles.  Roedd y chwe thema’n parhau i roi ystyriaeth tymor hir i adfer, uchelgeisiau a gwaith dros y ddwy flynedd nesaf.  Roedd yr amlinelliad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022/23, yn cynnwys y chwe thema, eu blaenoriaethau a chamau gweithredu, wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytuno ar themâu a blaenoriaethau drafft Rhan 1 Cynllun y Cyngor.

83.

Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Nodi'r Cynllun Gweithredu Cynnydd Hydref 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad blynyddol ar y cynnydd i gyflawni’r blaenoriaethau yn Strategaeth Tai Lleol 2019-24.

 

            Roedd cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Tai a oedd yn nodi tair blaenoriaeth gyda meysydd allweddol i weithredu arnynt o dan bob blaenoriaeth:

 

Blaenoriaeth 1: Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir

Blaenoriaeth 2: Darparu cefnogaeth i sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref

            Blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi.

 

             Roedd pob un o’r blaenoriaethau wedi’u manylu yn yr adroddiad, ynghyd â sut y byddai’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau yn y cynllun gweithredu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad cynnydd Hydref 2021 y Cynllun Gweithredu.

84.

Sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer Gogledd Cymru pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo trefniadau Llywodraethu amlinellol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi p?er i Weinidogion greu math newydd o gorff rhanbarthol o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig.  Roedd Gweinidogion wedi gorchymyn bod pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael eu creu yng Nghymru, a phob un â’r un pedair swyddogaeth: lles economaidd; paratoi Cynllun Datblygu Strategol; cludiant; a gwella addysg.  Roedd yr union drefniadau llywodraethu ar gyfer pob Cyd-bwyllgor i gael eu pennu gan y corff ei hun.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru wedi’i greu ar 1 Ebrill 2021 ac y byddai ei swyddogaethau’n dod i rym ar 30 Mehefin 2022.  Roedd yn rhaid iddo osod ei gyllideb amlinellol ar gyfer ei flwyddyn gyntaf o weithredu cyn pen mis Ionawr 2022.  Roedd felly angen i’r Cyd-bwyllgor amlinellu ei drefniadau llywodraethu.  Roedd y swyddogaeth lles economaidd yn cwmpasu’r diben y sefydlwyd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ar ei gyfer.  Byddai’r swyddogaethau cynllunio strategol a chludiant hefyd yn dylanwadu ar rôl BUEGC felly roedd yn bwysig bod y corff newydd yn ystyried, ac yn plethu ynghyd â strwythurau llywodraethu rhanbarthol presennol.  Roedd cynigion ar gyfer y strwythurau llywodraethu ynghlwm wrth yr adroddiad. 

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn aelod ychwanegol oedd â hawl i bleidleisio ar y Cyd-bwyllgor, ond ar faterion oedd ynghlwm â’r swyddogaeth cynllunio strategol a’i gyllideb yn unig. 

 

Croesawai’r Cynghorydd Johnson yr adroddiad, yn enwedig bod gan y Cynghorau a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig bwerau cyfochrog ynghlwm â hyrwyddo lles economaidd, a’r dyletswyddau ehangach a oedd yn sail i’r cynigion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell am yr angen am awdurdod cynnal ar gyfer cynllunio strategol, ac un ar gyfer trafnidiaeth strategol, eglurodd y Prif Weithredwr fod Sir y Fflint yn gweithio'n strategol ar gludiant ar hyn o bryd, felly roedd y sgiliau angenrheidiol ar gael pe bai gofyn i Sir y Fflint fod yn yr awdurdod cynnal ar gyfer trafnidiaeth strategol. 

 

Roedd y Cynghorydd Banks hefyd yn croesawu’r adroddiad a gofynnodd a fyddai’n bwnc mewn gweithdy i Aelodau yn y dyfodol.  Eglurodd y Prif Weithredwr fod hwn yn ddarn o waith a oedd yn datblygu ac y byddai adroddiadau'n cael eu cyflwyno'n rheolaidd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac i'r Cabinet.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yr adroddiad yn cael ei ystyried gan bob un o'r chwe Chyngor ac felly ei fod mewn fformat cyffredin i sicrhau bod y materion yn cael eu cyflwyno'n gyson i bob Cyngor.

                                   

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno mewn egwyddor fod swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael eu trosglwyddo drwy gytundeb dirprwyo i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar yr amod;

a)         bod y fframwaith statudol sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu dirprwyo’r swyddogaethau gweithredol perthnasol i Gyd-bwyllgor Corfforaethol

b)         bod Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn cytuno i sefydlu Is-bwyllgor, gan gytuno ar yr aelodaeth gyda’r Cynghorau, i ymgymryd â swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd.

 

b)         Cytuno ar y trosglwyddiad er mwyn cael model llywodraethu mwy syml,  ...  view the full Cofnodion text for item 84.

85.

Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 7) pdf icon PDF 177 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 7 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai am y flwyddyn ariannol, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, fel yr oedd ym Mis 7.

 

Roedd yr adroddiad yn darogan sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Swm gweithredol o £0.655m dros ben (heb gynnwys effaith dyfarniad cyflog yr NJC a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.428m o’r swm o £0.227m dros ben a adroddwyd ym Mis 6
  • Amcangyfrif o falans o £6.543m yn y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Amcangyfrif y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.539m yn uwch na’r gyllideb

·         Amcangyfrif o falans terfynol o £3.933m ar 31 Mawrth 2022

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gyflawnwyd; cyllid at argyfwng, cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.

 

Yn ystod 2021/22 hyd yma, roedd cyfanswm o hawliadau costau ychwanegol dan y Gronfa Galedi rhwng mis Ebrill a mis Hydref o £6.192m ac roedd £1.096m o hawliadau Colli Incwm yn Chwarter 1 a 2 ar gyfer Aura, Newydd a Cambrian Aquatics.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r amcangyfrif o’r effaith ariannol ar gyllideb 2021/22; a

 

(b)       Chymeradwyo trosglwyddiad cyllidebol o £2.731m ar gyfer Costau Cyfleustodau Canolog o’r Portffolio Tai ac Asedau i Gyllid Canolog a Chorfforaethol.

86.

Prosiect Micro-Ofal Sir y Fflint pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yma.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Sir y Fflint, fel llawer o awdurdodau lleol, yn wynebu pwysau i fodloni’r galw mwy am ofal cymdeithasol, gyda phoblogaeth h?n ac asiantaethau gofal yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gweithwyr.  Gallai darparu gofal yn rhannau mwy gwledig y sir fod yn benodol broblemus.

 

            Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb, roedd menter beilot Micro-ofal wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â’r broblem o gyflenwi gofal ac roedd yr awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn ei geisiadau am gyllid gan Cadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi gweithredu'r prosiect.

 

            Roedd mentrau Micro-ofal yn cael eu diffinio fel cwmnïau bach â phum gweithiwr, gyda nifer ohonynt yn fasnachwyr unigol, yn darparu gofal neu wasanaethau'n ymwneud â gofal i drigolion Sir y Fflint.  Hyd yma, roedd y cynllun peilot wedi llwyddo i gefnogi 22 o unigolion i sefydlu a gweithredu fel busnes gofal annibynnol.  Ym mis Medi 2021, roedd y busnesau hynny’n darparu ar gyfer 79 o gleientiaid ac yn cynnig cyfartaledd o 497 awr o wasanaethau gofal, cymorth neu les.  O’r 497 awr, roedd 420 ar gyfer gofal personol a 77 awr ar gyfer gwasanaethau yn ymwneud â lles, e.e. glanhau, siopa a chwmni.

 

            Roedd y cynllun wedi bodloni pob un o dargedau dangosyddion perfformiad allweddol y ddau gyllidwr a gan ei fod mor llwyddiannus, roedd wedi’i ariannu am 12 mis arall drwy Gronfa Economi Sylfaenol LlC ar gyfer 2021/22.  Byddai’n cael ei ddefnyddio i barhau â’r cynllun Micro-ofal a thyfu nifer y microfusnesau a oedd wedi’u sefydlu ac yn darparu gofal yn y sir.

 

            Dywedodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu, yn dilyn gwerthusiad cynnar o’r cynllun, fod micro-ofal yn Sir y Fflint eisoes i’w weld yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r farchnad ofal.  Roedd yn creu swyddi cynaliadwy a datrysiadau gofal mwy lleol i bobl.  Roedd adborth gan gleientiaid, teuluoedd a swyddogion y Cyngor wedi bod yn hynod gadarnhaol.

 

            Canmolodd y Prif Weithredwr y gwasanaeth am y fenter arloesol oedd yn creu gwytnwch mewn marchnad dan bwysau a chroesawai y byddai’n ychwanegu gwerth at y gymuned.

 

            Croesawai’r Cynghorydd Bithell yr adroddiad, a oedd yn dangos y byddai gwasanaethau gofal addas yn cael eu darparu at anghenion unigol.  Gofynnodd sut y byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bobl a oedd yn ymgymryd â’r gwaith ac eglurodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu fod hyfforddiant o safon wedi’i ddatblygu ac y byddai’r gwasanaeth yn sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i bawb.

           

PENDERFYNWYD:

 

Parhau i gefnogi cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r cynllun peilot micro-ofal arloesol a chyfraniad cadarnhaol y cynllun i fodloni’r galw am ofal yn Sir y Fflint.

87.

Talu Heb Arian Parod mewn Maes Parcio pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        I dderbyn cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno system dalu sydd ddim yn defnyddio arian parod i ddefnyddio’r maes parcio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad gan egluro, ers cyflwyno taliadau maes parcio ledled y sir yn 2015, mai’r unig ddull o dalu am barcio oedd peiriant talu ac arddangos yn y maes parcio.  Dim ond â darnau arian oedd modd talu wrth y peiriannau hynny, ac roedd yn rhaid i'r cwsmer fod â’r swm cywir o arian i brynu tocynnau talu ac arddangos gan na allai'r peiriannau roi newid.

 

            I wella’r profiad i gwsmeriaid, roedd opsiwn i gyflwyno ffyrdd o dalu heb ddefnyddio arian parod fel dewis amgen i beiriannau talu ac arddangos ac i gyd-fynd â’r dull presennol o dalu ag arian parod.  System dalu dros y ffôn oedd hon, a oedd eisoes wedi cael ei chyflwyno yn holl feysydd parcio awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru.  Roedd yn ffordd ddiogel o dalu am barcio dros y we, neges destun, ar y ffôn neu drwy ap ar ffon clyfar.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod angen i’r cwsmer gofrestru gyda’r darparwr gwasanaeth pan oeddent yn ei ddefnyddio’r tro cyntaf.  Roedd y system yn ffordd gyfleus o dalu ar y diwrnod, ond gallai’r cwsmer hefyd archebu parcio am fwy o amser, fel wythnos, mis neu docyn tymor.

 

            Ni fyddai’n rhaid i gwsmeriaid ddangos tocyn parcio a gallent dalu i aros am fyw o amser heb orfod dychwelyd i’w car drwy dalu ffi fechan.

 

            Nid oedd unrhyw gostau sefydlu ac roedd yr arwyddion a’r system cefn swyddfa yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim.  Byddai taliadau â darnau arian yn parhau i gael eu derbyn ym mhob maes parcio.

 

            Croesawai’r Cynghorydd Johnson yr adroddiad a’r wybodaeth am drefi a dinasoedd eraill lle gallai’r ap gael ei defnyddio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi cyflwyno system dalu heb arian parod mewn meysydd parcio.

88.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 194 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

 

  • Trosglwyddo Ased Cymunedol, Toiledau Cyhoeddus Treffynnon, Gerddi’r T?r, Treffynnon

Mae hyn yn ymwneud â Throsglwyddiad Ased Cymunedol toiledau cyhoeddus Treffynnon.  Gerddi’r T?r, Treffynnon.

 

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Cael Gwared ag Adeilad Diangen

Datgan Adeilad Diangen – adeilad Cyngor Sir y Fflint sy’n cael ei alw’n doiledau cyhoeddus Treffynnon.  Gerddi’r T?r, Treffynnon.  Bydd yr adeilad yn cael ei Drosglwyddo fel Ased Cymunedol i Gyngor Tref Treffynnon ar brydles 27 mlynedd.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Glynd?r, Ffordd Owen a Ffordd Edwin, Llaneurgain) (Traffig Unffordd) 20-.

Hysbysu’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd ar ôl hysbysebu’r Gorchymyn Unffordd arfaethedig ar y ffyrdd uchod.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

  • Bryn Tirion, Charmly’s Lane, Shotton

Cais i safle Bryn Tirion gael ei ddatgan yn ddiangen i ofynion y Gwasanaeth Addysg ac Ieuenctid.

89.

Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru - comisiynu Byw â Chymorth Sir y Fflint.

Pwrpas:        Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau awdurdodau lleol, oherwydd gwerth disgwyliedig y contractau, mae angen cymeradwyaeth y Cabinet i barhau gydag ymarferion tendr a dyfarnu’r contractau hyn.

Cofnodion:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

                       

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

90.      FFRAMWAITH BYW Â CHYMORTH GOGLEDD CYMRU – SIR Y FFLINT

COMISIYNU BYW Â CHYMORTH

                                        

            Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad gan egluro, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau awdurdodau lleol, oherwydd gwerth disgwyliedig dau gontract, bod angen cymeradwyaeth y Cabinet i barhau â’r broses o dendro a dyfarnu’r contractau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo mabwysiadu Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer y ddau ddarpar ymarfer comisiynu Byw â Chymorth am saith lleoliad; a

 

(b)       Chymeradwyo’r cynnig i gomisiynu'r Gwasanaethau Byw â Chymorth, yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contractau gwerth dros £2 filiwn.

90.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.