Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

4.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Banks gysylltiad personol sy’n rhagfarnu i eitem agenda rhif 5 - Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint - Ystyried Sylwadau ac Ymatebion i'r Ymgynghoriad ynghylch y ddogfen i'w harchwilio gan y cyhoedd a chyflwyno’r cynllun ar gyfer archwiliad cyhoeddus.

5.

Cofnodion pdf icon PDF 352 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 14 Gorffennaf a 28 Gorffennaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2020 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

6.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai ef a’r Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briff ar y sefyllfa, a roddwyd i Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.

 

            Rhoddodd sicrwydd bod parhad busnes yn cael ei adolygu’n gyson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

7.

Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint - Ystyried Sylwadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Ddogfen i'w Harchwilio Gan y Cyhoedd a Chyflwyno’r Cynllun ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus pdf icon PDF 229 KB

Pwrpas:        Bod yr Aelodau yn ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod ymarfer ymgynghori’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn argymell bod y rhain yn cael eu hadrodd i'r Cyngor Llawn a bod y Cyngor yn cytuno â nhw ac yn cymeradwyo cyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion yr archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Banks wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar yr eitem hon, cafodd ei symud i'r lobi ar-lein yn ystod cyfnod y cyflwyniad, trafodaeth a phleidlais.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod y Cabinet angen ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod ymarfer ymgynghori’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn argymell bod y rhain yn cael eu hadrodd i'r Cyngor Sir a bod y Cyngor yn cytuno â nhw ac yn cymeradwyo cyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio (at ddibenion yr archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol).

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) bod y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd wedi’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyngor Sir ar 23 Gorffennaf 2019. Cafwyd ymgynghoriad rhwng 30 Medi a 11 Tachwedd 2019, a daeth 1281 sylwad i law gan 657 o ymatebwyr ar wahân. Yn dilyn yr ymgynghoriad, roedd gan y Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Lleol ddyletswydd statudol dan rheoliadau CDLl i wneud holl sylwadau a ddaeth i law i fod ar gael. Roedd hyn wedi cael ei wneud drwy eu rhoi ar y porth ymgynghoriad CDLl ac mewn tabl crynodeb ar wefan y Cyngor.

 

Yn y cyfarfod blaenorol o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 30 Gorffennaf 2020, cymeradwyodd y Gr?p pob un o’r ymatebion a argymhellwyd i’r sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd, ac argymhellwyd y dylai’r Cabinet a’r Cyngor Llawn ystyried y rhain fel rhan o’r broses o gytuno i gyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus. Wrth wneud hyn, roedd rhai Aelodau yn deall bod ymatebion i'r cynllun angen eu hystyried ar y cyfan er mwyn symud ymlaen, a byddai rhai Aelodau o'r Cyngor a fyddai gyda phroblem gyda rhannau o’r Cynllun oherwydd rhesymau penodol i bolisi neu ward.  Roedd yn bwysig bod gan yr holl Aelodau ddealltwriaeth bod y Cynllun angen ei symud ymlaen ar y cyfan, a bod Archwiliad Cyhoeddus yw’r lle y bydd y craffu annibynnol terfynol o gadernid y cynllun yn cael ei gyflawni.

 

Cafodd hyperddolen, gyda chrynodeb o sylwadau ei gynnwys yn adroddiad y Cabinet. 

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r Cynghorydd Bithell am ei gefnogaeth hirdymor o’r broses CDLl ac am gadeirio'r Gr?p Strategaeth Cynllunio, a diolchodd i holl Aelodau eraill o'r gr?p hwn hefyd. Roedd nifer o sesiynau briffio i Aelodau wedi eu cynnal yr wythnos flaenorol lle cyflwynwyd crynodeb o’r sefyllfa. Cafodd y sesiynau eu rhannu i ardaloedd daearyddol, a bu i gyfanswm o 41 Aelod fynychu. Nid oedd unrhyw dystiolaeth yn dweud na ddylem barhau ar y llwybr hwn. Roedd nifer o bobl a wnaeth y sylwadau wedi dweud yr hoffent wneud sylwadau yn yr Ymholiad a roedd hyn o fewn pwerau’r Arolygydd. Bydd yr Ymholiad yn cael ei gynnal ar ddechrau 2021. 

 

Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i geisio awdurdod dirprwyedig ar gyfer unrhyw newidiadau bychain  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Llythyr Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn i hysbysu’r Cabinet o gynnwys Llythyr Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru diweddar a gyhoeddwyd ar 2 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad a oedd yn cyflwyno cynnwys Llythyr Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru a gyhoeddwyd ar 2 Gorffennaf 2020.

 

Bob blwyddyn roedd llythyr yn cael ei anfon at bob awdurdod lleol yng Nghymru a’i gyhoeddi ar wefan CIW. Roedd pob llythyr yn crynhoi gwerthusiad CIW ar berfformiad mewn perthynas â gwasanaethau plant ac oedolion yn ystod y flwyddyn ariannol ac yn cael eu hadrodd yn erbyn y pedwar egwyddor craidd. Yn ogystal mae’r llythyr yn nodi rhaglen waith unigol y CIW i adolygu perfformiad yn ystod y flwyddyn sy’n dod.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda chydnabyddiaeth o brosiectau blaengar. Amlinellwyd rhai heriau yn yr adroddiad a chafodd yr ymateb gweithredol ei atodi i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod hwn yn adborth cyson a ddaeth i law gan y CIW a oedd yn rhoi hyder i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod cynnwys llythyr Perfformiad Blynyddol ac asesiad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad yr awdurdod yn ystod blwyddyn 2019/20 yn cael ei nodi a bod y Cabinet yn cael ei sicrhau ganddo; a

 

 (b)      Nodi bod Cynllun Adolygu Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru 2020/21 wedi'i oedi, a bydd y Cyngor yn cael eu hysbysu pan fydd y rhaglen o arolygiaethau yn ailddechrau.

9.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4) pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y risgiau a’r materion hysbys ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

            Roedd y sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

 

            Roedd y risgiau posibl a phwysau o ran costau yn amrywio rhwng £2.8miliwn a £5.4miliwn (gan eithrio’r effaith o’r dyfarniad cyflog). Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredu o £0.983miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei fodloni gan gronfeydd wrth gefn)

·         Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.418 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.295 miliwn yn is na’r gyllideb; a

·         Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2021 fydd £2.468.

 

            Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn o’r sefyllfa ragamcanol gan y portffolio; amrywiaethau sylweddol; risgiau agored; cyllid argyfwng; cyflawniad o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

            Argymhellwyd trosglwyddiad cyllideb i fynd i’r afael â darparu gwasanaeth o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol, am y swm am £0.300 miliwn i’w drosglwyddo o fewn y gwasanaethau oedolion o’r cyllideb Ardaloedd, o fewn y gwasanaeth Pobl H?n, i’r gwasanaethau Adnoddau a Rheoledig (o fewn y Gwasanaeth Pobl H?n hefyd). Roedd y ddau bennawd cyllideb yn cynnwys darpariaeth o wasanaethau ar gyfer pobl h?n megis gofal preswyl a gofal cartref. Fodd bynnag, roedd un cyllideb ar gyfer y gofal a gomisiynwyd gan ddarparwyr gofal lle’r oedd y gyllideb arall ar gyfer darpariaeth gofal yn uniongyrchol gan y Cyngor. Dros amser roedd  darpariaeth mewnol o ofal wedi cynyddu mewn cymhlethdod lle’r oedd gofal a gomisiynwyd wedi lleihau.

 

            Yn ogystal argymhellwyd bod y swm o £0.134M yn cael ei ddyrannu gan y Gronfa Hapddigwyddiad Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer pwysau hysbys yn 2020/21. Bydd y cyllid yn dod â chynhwysedd ychwanegol i drefniadau cefnogaeth busnes a chydymffurfiaeth gyda gofynion diogelu o fewn y Gwasanaethau Plant.

 

            Cafwyd drafodaeth ar ffioedd maes parcio ac eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Llywodraeth Cymru wedi cynghori lle mae’r Cyngor wedi gwneud penderfyniad i gael gwared ar newidiadau i feysydd parcio, a oedd yn argymhelliad mewn adroddiad i’w ystyried yn y cyfarfod hwn, ni fyddent yn ad-dalu costau o’r Ail Chwarter. Roedd y colled incwm net y maes parcio yn £0.550M. Trafododd yr Aelodau’r ffaith nad oedd y golled oherwydd bod codi ffioedd wedi dod i ben, ond roedd llai o bobl yn ymweld â chanol trefi ar hyn o bryd. Cytunwyd bod yr hawliau am yr Ail Chwarter a’r Drydydd Chwarter yn cael eu ymlid gyda Llywodraeth Cymru.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer arian at raid Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021;

 

 (b)  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 4) pdf icon PDF 294 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ar Fis 4 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/21 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ers ei gosod ym mis Ionawr 2020 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2020), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.

 

            Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £6.829M yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:

 

·         Lleihad net o £12.287m yn y rhaglen (£0.837m yng Nghronfa’r Cyngor a £13.124m yn y Cyfrif Refeniw Tai);

·         Cyflwyniad i Arian a Ddygwyd Ymlaen o 2019/20 o £19.766m (Cronfa’r Cyngor £19.766M, y Cyfrif Refeniw Tai £0.000M)

·         Arbedion a nodwyd ym Mis 4 o (£0.650M Cronfa’r Cyngor)

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £9.512M.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r arian dros ben terfynol o'r Rhaglen Gyfalaf 2019/20 – 2021/22 oedd £1.145M. Cymeradwywyd y Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 ar 28 Ionawr 2020, gyda diffyg mewn cyllid o £2.264M. Roedd y arian dros ben a gafodd ei gario ymlaen wedi arwain at agor sefyllfa diffyg cyllid o £1.119M.

 

Roedd Derbyniadau Cyfalaf a ddaeth i law yn y chwarter cyntaf 2020/21, ynghyd ag arbedion a nodwyd wedi dod i gyfanswm o £0.948 miliwn. Gwnaethpwyd cais am ddyraniad ychwanegol o £0.217M tuag at y prosiect Campws Queensferry a oedd yn rhoi’r diffyg mewn cyllid cyfredol, am gyfnod o dair blynedd, yn £0.388M. Roedd hyn cyn unrhyw dderbyniadau cyfalaf ychwanegol neu i unrhyw gyllid arall gael ei gynhyrchu.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr eu bod dal yn aros am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar amserlen y pecyn ysgogi economaidd. Gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar y Rhaglen Gyfalaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas y byddai’n ymlid Llywodraeth Cymru o’r cyllid Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;

 

(b)      Cymeradwyo’r addasiadau o ran cario cyllid ymlaen wedi’u nodi yn yr adroddiad; ac

 

(c)       Bod y dyraniadau ychwanegol fel y nodir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

11.

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2019/20 pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2019/20 drafft i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys drafft ar gyfer 2019/20 i’w argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

            Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, adolygwyd yr Adroddiad Blynyddol gan y Pwyllgor Archwilio ar 23 Gorffennaf 2020 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar 20 Hydref 2020 yn amodol ar argymhelliad y Cabinet i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys yn cael eu cymeradwyo a'u hargymell i'r Cyngor.

12.

Proses ymgynghori ddiwygiedig ar gyfer cynnydd y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig a’r cynlluniau sydd wedi’u hariannu gan grantiau Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y broses ymgynghori ddiwygiedig sy’n gysylltiedig â chynlluniau cludo lleol o ganlyniad i’r cyfyngiadau yn dilyn yr argyfwng presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y broses ymgynghori ddiwygiedig sy’n gysylltiedig â chynlluniau cludiant lleol o ganlyniad i’r cyfyngiadau yn dilyn yr argyfwng presennol.

 

Mae’r cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol cyfredol o’r pandemig hwn wedi arwain at bryderon am allu’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd statudol o ymgynghoriad, y ddau ar gyfer cynlluniau grant blynyddol Llywodraeth Cymru a gweithredu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig hefyd. 

 

Mae’r adroddiad yn nodi dull diwygiedig a fyddai'n caniatáu partïon a rhanddeiliaid sydd â diddordeb i gael cyfle i roi sylw a rhoi mewnbwn i ddyluniad y cynllun, cyn ei weithredu.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau ymgynghori yn ystod y pandemig Covid 19 yn cael eu cydnabod, a bod gweithredu’r broses ymgynghori ar gyfer Cynlluniau Cludo Llywodraeth Cymru 2020/21 yn cael eu cymeradwyo.

13.

Atal Taliadau Parcio Ceir dros dro yng Nghanol y Dref pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn atal taliadau parcio ceir dros dro yng nghanol y dref tan 31ain Rhagfyr 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn cyfnod atal ffioedd parcio meysydd parcio canol y dref tan 31 Rhagfyr 2020.

 

            Penderfynodd y Cyngor i atal y ffioedd Talu ac Arddangos yn y meysydd parcio ar draws y Sir o 25 Mawrth 2020. Gwnaethpwyd y penderfyniad i leihau cyswllt personol a'r risg o drosglwyddiad arwyneb o COVID-19/ coronafeirws o'r peiriannau, ac i gynorthwyo gweithwyr allweddol a siopa hanfodol yn ystod y cyfnod argyfwng. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ganiatáu siopau nad ydynt yn hanfodol i agor o 22 Mehefin 2020, mae’r ffioedd maes parcio wedi parhau i gael eu hatal i gefnogi adferiad canol y dref ar ôl y cyfnod clo.

 

            Ceisiodd yr adroddiad gymeradwyaeth i barhau ag atal y ffioedd tan 31 Rhagfyr 2020 i gefnogi adfywio canol y dref ymhellach.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai bwriad y cynnig oedd i gefnogi gwaith y Cyngor i ailagor canol y trefi ac annog siopwyr ac ymwelwyr i ddychwelyd i ganol y dref. Bydd y dull hwn yn golygu y caiff pobl barcio am ddim dros gyfnod y Nadolig, a fydd hefyd yn cefnogi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

 

            Argymhellir y dylai meysydd parcio arhosiad byr barhau i gael eu rheoli ar ffurf tocyn Talu ac Arddangos yn ffenestr y cerbyd i sicrhau bod y cerbydau yn defnyddio’r gofodau parcio agosaf at ganol y dref a bod yr holl gyfyngiadau eraill, fel arddangos bathodyn glas mewn bae barcio i bobl anabl, dal yn berthnasol.

 

            Ailadroddwyd y drafodaeth gynharach ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ad-dalu ffioedd maes parcio o’r Ail Chwarter gyda’r un argymhelliad bod yr hawliau am golled incwm meysydd parcio ar gyfer yr Ail Chwarter a'r Trydydd Chwarter angen ei ymlid gyda Llywodraeth Cymru.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad a dywedwyd bod busnesau lleol wedi ei dderbyn yn dda. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod ffioedd meysydd parcio ym meysydd parcio canol dref Sir y Fflint yn cael eu hatal tan 31 Rhagfyr 2020 yn cael ei gymeradwyo; a

 

(b)       Bod yr hawliadau am golled incwm meysydd parcio ar gyfer yr Ail Chwarter a’r Trydydd Chwarter yn cael ei ymlid gyda Llywodraeth Cymru.

14.

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Adolygiad o’r Rhwydwaith Bysiau pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am gynnydd ailgyflwyno'r Trefniadau Cludo Lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd nad oedd gan y Cyngor rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol nag unrhyw ffurf arall o gludiant cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i adolygu’r rhwydwaith bysus ac ymyrryd pan mae’n teimlo bod hynny’n briodol.

 

Mae wedi bod yn flaenoriaeth gan Gyngor Sir y Fflint i ymdrechu i gynnal gwasanaeth cludiant bysiau cyhoeddus gan fydd effaith eu colli yn effeithio ar y rhai mwyaf diamddiffyn yn y gymdeithas. Ym mis Gorffennaf 2018 cymeradwyodd y Cabinet fodel cludiant newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau, a oedd yn cynnwys rhwydwaith bysiau craidd wedi’i gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy. Mae’r rhwydwaith craidd yn cynnwys nifer o gyrchfannau (canolfannau) allweddol, fel prif drefi neu gyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus / gorsafoedd rheilffordd â chysylltiad uniongyrchol a rheolaidd gyda gwasanaethau bysiau sy’n rhedeg rhwng y canolfannau i gysylltu teithwyr â chyrchfannau allweddol eraill i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, siopau a chyfleusterau iechyd, cymdeithasol a hamdden. Mae’r rhwydwaith craidd yn cynnwys gwasanaethau bysiau masnachol yn bennaf. Fodd bynnag, mae rhywfaint o gefnogaeth yn parhau i gael ei ddarparu i sicrhau bod cysylltiadau yn cael eu cadw a bod gwasanaethau rheolaidd o ansawdd uchel yn parhau i gysylltu’r canolfannau allweddol ar hyd y rhwydwaith. Mae’r rhwydwaith craidd yma yn cael ei gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy sydd wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus mewn sawl ardal yn y sir.

 

Wrth i fwy o wasanaethau masnachol gael eu hatal gan weithredwyr, roedd angen cynnal adolygiad o'r gwasanaethau cludiant lleol presennol er mwyn gallu defnyddio'r gwasanaethau hynny’n well i ddarparu cysylltiadau cludiant hanfodol i breswylwyr wedi'u heffeithio gan golli’r gwasanaethau masnachol hyn.  Mae COVID-19 yn amlwg wedi amharu ar yr adolygiad o’r Trefniadau Teithio Lleol. Ers i’r cyfnod clo ddod i ben, rydym ni wedi gorfod cael llai o deithwyr ar gerbydau a chyhoeddi amserlenni diwygiedig i fodloni gofynion teithwyr, ond mae pethau i’w gweld yn gweithio’n dda. Er ein bod ni yn y cyfnod adfer, mae gweithredwyr wedi adrodd cynnydd yn hyder defnyddwyr cludiant.

 

Roedd adolygiad o’r gwasanaethau Trefniadau Teithio Lleol yn Nhreffynnon a’r cymunedau cyfagos i fod i ddechrau heddiw, gan gynnwys treialu gwasanaeth Trafnidiaeth Seiliedig Ar Alw Fflecsi sydd yn cael ei dreialu hefyd yn Sir Ddinbych ac ardaloedd eraill o Gymru. 

 

            Roedd y Cynghorydd Thomas yn falch o adrodd bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer dau fws trydan i’w ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau LT7 a LT4. Byddant yn cael eu cadw ym Mwcle a bydd y cerbydau hynny yn cael eu pweru gan ffynhonnell ynni'r haul y Cyngor ei hunain.

 

Mae adolygiad y Cyngor o Drefniadau Teithio Lleol yn parhau i fod yn broses barhaus ac mae cynigion pellach yn cael eu harchwilio ar gyfer y misoedd nesaf. Roedd yn sefyllfa sy’n newid ac yn achosi pryder gan fod mwy o weithredwyr yn cael trafferthion i wneud i deithiau weithio’n fasnachol ac roeddynt yn dod â chontractau i ben.

 

Roedd Llywodraeth Cymru yn edrych i Drafnidiaeth Cymru oruchwylio gwasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Wybodaeth Ddiweddaraf am Grant Cyfalaf Gofal Plant pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cabinet am gynnydd o ran gweithredu rhaglen Gyfalaf Gofal Plant y Cyngor, gan gynnwys y sail resymegol a ddefnyddiwyd i flaenoriaethu prosiectau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn darparu manylion ar y cynnydd o ddarparu Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant, gan gynnwys rhesymwaith a ddefnyddiwyd i flaenoriaethu prosiectau.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid grant Cyfalaf ar gael i gefnogi darpariaeth Gofal Plant. Mae prosiectau wedi’u blaenoriaethu er mwyn alinio â’r dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae dull cydlynol ar waith i uno ystod o becynnau cyllid cyfalaf i greu un rhaglen er mwyn gwneud y gorau o’r buddsoddiad. Mae’r rhaglen yn cydlynu’r ffrydiau ariannu canlynol:Grant Gofal Plant LlC, Grant Cyfrwng Cymraeg LlC, Ysgolion yr 21ain Ganrif, Dechrau'n Deg a chyllid cyfalaf Cyngor Sir y Fflint.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y Cyngor yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y prosiectau cyfalaf a fyddai’n cefnogi plant a’u teuluoedd yn gadarnhaol drwy sicrhau bod mynediad cynyddol at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel. Cadarnhaodd y gellir symud Ysgol y Llan Gwirfoddol a Gynorthwyir, Whitford, o’r rhestr ‘wrth gefn’ i’r rhestr ‘prosiectau a gymeradwywyd’ a chytunwyd bod hyn yn ffurfio rhan o'r penderfyniad.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Roberts bod argymhelliad ychwanegol, bod y penderfyniad ar Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgol yr Esgob, yn cael ei ohirio tan y mis blaenorol i ganiatáu amser i gyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd, a chefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod cynnwys yr adroddiad hwn yn cael ei nodi a bod y gefnogaeth yn cael ei gadarnhau ar gyfer y meini prawf i flaenoriaethu prosiectau o fewn y rhaglen.

 

 (b)      Bod dull ar sail rhaglen a oedd yn alinio ffrydiau ariannu i gydlynu a gwella cyfleoedd ariannu yn cael ei ardystio.

 

 (c)       Bod y penderfyniad ar Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgol yr Esgob, yn cael ei ohirio tan y mis ganlynol i ganiatáu amser i gyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd, a chefnogwyd hyn.

 

(d)      Bod Ysgol y Llan Wirfoddol a Gynorthwyir, Whitford yn cael ei symud o’r rhestr ‘wrth gefn’ i’r rhestr ‘prosiectau a gymeradwywyd’.

16.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 196 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Cyngor Sir Y Fflint – Ffordd Carmel, Allt-Y-Golch a Carmel Hill, Carmel. Gwaharddiad Arfaethedig i Aros ar Unrhyw Adeg

 

Cynghori Aelodau o’r gwrthwynebiad a ddaeth i law yn dilyn hysbysiad o’r Gwaharddiad Arfaethedig i Aros ar Unrhyw Adeg yng Ngharmel Road, Allt-Y-Golch a Carmel Hill, Carmel.

 

Tai ac Asedau

 

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

 

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent o £5,361.56 wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.

 

Prif Weithredwyr

 

  • Cyflwyno Ffi Newydd

 

Mae ffi newydd, wedi’i osod ar sail adfer costau yn cael ei gyflwyno ar gyfer gwasanaethau dylunio graffeg allanol.

17.

Campws Queensferry - Prosiect buddsoddi cyfalaf

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i bontio bwlch ariannu trwy ddyraniad cyfalaf ychwanegol gan y Cyngor ac i ymrwymo i gontract adeiladu gyda chwmni adeiladu Kier ar gyfer y prosiect buddsoddi cyfalaf yn y campws, yn amodol ar gymeradwyaeth LlC ar gyfer yr achos busnes Llawn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad yn eisio cymeradwyaeth i bontio bwlch ariannu trwy ddyraniad cyfalaf ychwanegol gan y Cyngor ac i ymrwymo i gontract adeiladu gyda chwmni adeiladu Kier ar gyfer y prosiect buddsoddi cyfalaf yn y campws, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr achos busnes Llawn.

 

Mae gwerth prosiect buddsoddi ysgol yr 21ain Ganrif yn uwch na’r cyllid sydd ar gael, ac mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i bontio’r bwlch fforddiadwyedd o £217K.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar sail diffyg prosiect o £216,588 yn cael ei fodloni o ddyraniad ychwanegol yn y rhaglen gyfalaf y Cyngor; a

 

 (b)      Yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o’r Achos Busnes bod y Cyngor yn mynd i gytundeb adeiladau gyda Kier Construction (North West).

18.

Ysgol Castell Alun - Prosiect buddsoddi cyfalaf

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i ymrwymo i gontract adeiladu gyda chwmni adeiladu Wilmott Dixon ar gyfer y prosiect buddsoddi cyfalaf yn yr ysgol wedi’i ariannu trwy raglen gyfalaf y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ymrwymo i gontract adeiladu gyda chwmni adeiladu Wilmott Dixon ar gyfer y prosiect buddsoddi cyfalaf yn yr ysgol wedi’i ariannu trwy raglen gyfalaf y Cyngor

 

Mae’r prosiect Buddsoddi Cyfalaf yn Ysgol Castell Alun wedi’i gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor, mae rheolau caffael yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau dros werth penodol gael cymeradwyaeth y Cabinet i barhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cabinet yn cymeradwyo mynd i gytundeb gyda Willmott Dixon ar gyfer cyfnod adeiladau prosiect buddsoddiad yn Ysgol Castell Alun;

 

 (b)      Cymeradwyo diwygiad y cwmpas prosiect i ddod yn unol â’r cyllideb sydd ar gael; a

 

 (c)       Bod cynhwysiant o'r eitemau sydd wedi’u tynnu o'r prosiect fel opsiynau cost o fewn y cytundeb ar gyfer adferiad posibl os yw cyllideb ar gael i'w chymeradwyo.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.