Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Urgent Item of Business Cofnodion: Fel Arweinydd y Cyngor, darllenodd y Cynghorydd Roberts ddatganiad ar y cyd ar ei ran ei hun a'r Prif Weithredwr:
“Rydym yn cydymdeimlo’n llwyr ac yn rhannu yn yr ymdeimlad o bryder ar draws cymunedau yn y sefyllfa genedlaethol bresennol - un nad oes ganddi gynsail yn ddiweddar.
Mae hon yn sefyllfa genedlaethol a rhyngwladol sy'n datblygu'n gyflym.Cewch fod yn dawel eich meddwl fod gennym gynllun parhad busnes llawn ar waith ar draws ein gwasanaethau yn barod.
Mae strwythur gorchymyn a gwneud penderfyniadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar waith - o'r cyfarfod COBRA cenedlaethol dan arweiniad y Prif Weinidog - ac rydym yn chwarae ein rhan lawn fel eich Cyngor Sir chi.Mae hyn yn gwbl weithredol bellach.
Arweinir y gwaith cynllunio a'r ymateb rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru gan y Gr?p Cydlynu Strategol, gr?p sy'n cynnwys uwch weithwyr proffesiynol o bartneriaid gwasanaethau iechyd, brys a chyhoeddus.Mae’r gr?p hwn yn cyfarfod yn aml, yn dilyn cyfarwyddyd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chynghorwyr cenedlaethol ac yn cyfrannu at eu gwaith gydag adborth a mwy o geisiadau am gefnogaeth.Rydym yn aelod gweithredol iawn o’r Gr?p Cydlynu Strategol drwy’r Prif Weithredwr a swyddogion arweiniol eraill.
Mae nifer o aelodau o’r cyhoedd wedi holi am ein rôl fel cyngor.Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig sy'n arwain yr ymateb i'r sefyllfa genedlaethol, ac mae'n ddibynnol iawn ar gyngor asiantaethau cenedlaethol Iechyd y Cyhoedd a'r arbenigwyr meddygol ac iechyd cyhoeddus penodedig. Rydym yn dilyn eu harweiniad ac yn gwneud penderfyniadau rhanbarthol a lleol yn unol â hynny.Er ein bod yn chwarae rhan bwysig iawn, nid ni yw'r arweinydd yn llygad y cyhoedd a rhaid i ni weithio drwy ddilyn cyngor a chyfarwyddyd cenedlaethol a rhanbarthol.Dyma pam rydyn ni'n cyfeirio pobl at y ffynonellau cyngor awdurdodol ar iechyd a lles personol, a chymorth meddygol, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Byddwn yn cyhoeddi datganiadau cyhoeddus lleol ar ymatebion lleol a threfniadau gwasanaeth yn ôl yr angen. Rydym yn croesawu a byddwn yn cefnogi camau hunangynhaliol cymunedol yn llawn trwy ein partneriaid gwirfoddol ac elusennol, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, sefydliadau cymunedol a Chynghorau Tref a Chymuned. Bydd y sefyllfa’n datblygu’n gyflym a byddwn yn gwneud penderfyniadau am flaenoriaethu ein hadnoddau ar gyfer y gwasanaethau mwyaf hanfodol fel bo angen.
Byddwn yn gwneud ein cyhoeddiadau cyntaf ar gau cyfleusterau a gwasanaethau lleol dros dro o heddiw ymlaen.Rydym eisoes wedi cyfyngu ymweliadau â'r cartrefi gofal preswyl yr ydym yn eu gweithredu, ac wedi annog ein darparwyr cartrefi gofal annibynnol i wneud yr un peth.Rydym wedi cynghori penaethiaid i gyfyngu mynediad i ysgolion i bawb ond disgyblion a'u staff addysgu a chymorth ac i ganslo pob digwyddiad cyhoeddus nad yw'n hanfodol.Rydym yn cyhoeddi cyngor dyddiol i bartneriaid gofal cymdeithasol ac i ysgolion.
Mae holl wasanaethau hanfodol eraill y Cyngor yn rhedeg fel arfer ar hyn o bryd.Gall hyn newid.Fel cyflogwr rydym wedi bod yn cymryd camau i ddiogelu ein gweithlu dros y pythefnos diwethaf. ... view the full Cofnodion text for item 156. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/24 PDF 122 KB Pwrpas: Cytuno ar amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2020/2024 y Cyngor cyn eu cyhoeddi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gytuno ar amcanion cydraddoldeb diwygiedig y Cyngor a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020/2024 cyn ei gyhoeddi'n statudol.
Rhoddodd y Cynghorydd Polisi Strategol drosolwg o'r ystyriaethau allweddol a'r ymchwil a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Roedd chwech o'r saith amcan cydraddoldeb yn gyson â'r rhai a osodwyd yn 2016, gan ychwanegu amcan newydd ar dlodi a oedd yn adlewyrchu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd a roddwyd ar gyrff cyhoeddus. Byddai gweithredoedd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael eu hadolygu'n flynyddol a'u hymgorffori yn system CAMMS i ddarparu adroddiadau mwy cadarn.
Croesawodd y Cynghorydd Banks y cam i adolygu'r Cynllun yn flynyddol a oedd yn darparu mwy o hyblygrwydd.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Roberts a Thomas.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/2024 y Cyngor. |
|
Diweddariad Adfywio Canol Trefi PDF 191 KB Pwrpas: I ddarparu a diweddaru ar y dulliau a ddefnyddir i adfywio canol trefi. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad diweddaru ar y dull strategol o adfywio canol trefi fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor sydd wedi ei adnewyddu ar gyfer 2020 ymlaen.
Yn ogystal â diweddaru camau a gymerwyd gan y Cyngor ers mis Chwefror 2019, manylodd yr adroddiad ar ddisgwyliad Llywodraeth Cymru (LlC) i gynghorau fabwysiadu dull mwy uchelgeisiol o adfywio canol trefi. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r angen am adnoddau ychwanegol er mwyn i’r tîm gyflawni'r gwaith ychwanegol. Croesawyd yr adroddiad a'r argymhellion gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd.
Wrth gynnig yr argymhellion, dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y drafodaeth yn y cyfarfod hwnnw wedi bod yn gadarnhaol. Siaradodd am gyd-destun newidiol canol trefi wrth archwilio opsiynau fel hybiau trafnidiaeth, llety o ansawdd a phrosiectau o dan raglen fuddsoddi'r Fenter Treftadaeth Treflun.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Banks y tîm ar gynigion llwyddiannus am gyllid LlC.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid nodi’r cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer adfywio canol tref a gytunwyd yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mai 2019;
(b) Cefnogi'r cyfeiriad strategol yn y dyfodol a nodir yn yr adroddiad i gyflawni'r blaenoriaethau hynny yn y dyfodol;
(c) Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i wneud cynnig am arian allanol wrth iddo ddod ar gael i gefnogi'r dulliau o adfywio canol trefi a nodir yn yr adroddiad; a
(d) Cefnogi'r dyraniad adnoddau fel y nodwyd yn yr adroddiad i gynyddu effaith dull y Cyngor o adfywio canol trefi. |
|
Moderneiddio Ysgolion - Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif PDF 135 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad diweddaru ar brosiectau o fewn Band B Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn ysgolion i wella'r amgylchedd dysgu i ddisgyblion yn Sir y Fflint.
Wrth symud yr argymhellion, esboniodd y Cynghorydd Roberts fod y prosiectau ar gyfer datblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Croes Atti yn y Fflint a strategaeth ymgynghori ar gyfer model diwygiedig o addysg gynradd ac uwchradd yn ardal Saltney/Brychdyn. Ceisiwyd cymeradwyaeth hefyd i ymgysylltu â phartner strategol Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer prosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol a enwebwyd gan y Cyngor i gydleoli darpariaeth gynradd ac uwchradd yn Mynydd Isa. Nodwyd y prosiect hwn fel yr un mwyaf addas ar gyfer prosiect braenaru LlC a fyddai'n elwa o well cyfraddau ymyrraeth Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts na fyddai unrhyw ymgynghoriad yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith.
Eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Thomas a chroesawodd y camau a gymerwyd gan y Cyngor i wella adeiladau ysgolion, a fyddai hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar allyriadau carbon.
Croesawodd y Cynghorydd Banks y cynnig ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg gyntaf mewn adeilad newydd yn Sir y Fflint, a manteisiodd ar y cyfle i dalu teyrnged i LlC am weithio gyda'r Cyngor ar foderneiddio ysgolion.
PENDERFYNWYD:
(a) Mynd ymlaen ag ymgynghoriad statudol trwy'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, ar gyfer adleoli Ysgol Croes Atti, y Fflint i safle newydd ar ddatblygiad tai Croes Atti;
(b) Bod prosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol a enwebwyd gan y Cyngor fel y prosiect arfaethedig ar gyfer ardal Mynydd Isa yn cael ei ddiwygio a thrwy wneud hynny caniatáu i swyddogion ymgysylltu â Phartner Strategol LlC ar gyfer Model Buddsoddi Cydfuddiannol, pan fyddant ar gael yn nhymor yr Hydref 2020;
(c) Ymgynghori trwy'r cod Trefniadaeth Ysgolion ar y cynnig i gyfuno darpariaeth ysgolion cynradd a gynhelir gan awdurdodau lleol yn ardal Saltney - Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood; ac
(d) Ymgynghori'n anffurfiol â budd-ddeiliaid allweddol yn Saltney a Brychdyn mewn perthynas â datblygu cynnig newydd o addysg uwchradd sy'n fodern, o ansawdd uchel ac sy'n denu disgyblion lleol o bob rhan o'r ardal leol, ac sy'n gynaliadwy. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cabinet am yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad i rannu manylion yr ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol ac i geisio cefnogaeth i'r ail-ddynodiad fynd yn ei flaen. Cadarnhaodd na chafwyd unrhyw wrthwynebiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr adroddiad yn nodi uchafbwyntiau cryn dipyn o waith a wnaed gyda chymunedau.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn bwrw ymlaen â'r cynnig i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol. |
|
Trefniadau Derbyniadau Ysgol 2021/22 PDF 88 KB Pwrpas: Rhoi gwybod am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ynghylch trefniadau derbyn Medi 2021 ac i argymell eu cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i ddarparu manylion am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2021. Yn ystod y broses ymgynghori, nid oedd unrhyw ysgol wedi gofyn am adolygiad o'u niferoedd derbyn ar gyfer 2021/22. Roedd y trefniadau derbyn cyfredol a nodwyd yn yr adroddiad yn dangos bod mwyafrif dewisiadau rhieni yn parhau i gael eu bodloni.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2021/22. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 10) PDF 177 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ar sefyllfa monitro cyllideb refeniw Cronfa'r Cyngor a Chyfrif Refeniw Tai fel ym Mis 10. Roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yr un fath. Ni chodwyd unrhyw faterion ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor · Roedd y diffyg gweithredol o £1.625m sy’n symudiad ffafriol o £0.041m o’r ffigwr diffyg £1.666m a adroddwyd ym Mis 9; a · Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £3.244m.
Y Cyfrif Refeniw Tai · Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.062m sydd yn is na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.165m o’r ffigur diffyg o £0.103m a adroddwyd ym Mis 9; a · Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 fydd £1.385m.
Roedd y mesurau a gyflwynwyd i liniaru'r sefyllfa gorwario a ragwelir yn gyffredinol wedi cael effaith gadarnhaol a byddai'r gwaith hwn yn parhau gyda meysydd penodol o dan adolygiad tactegol fel y manylir yn yr adroddiad. Gallai'r potensial ar gyfer dyfarniadau grant hwyr gan Lywodraeth Cymru (LlC) hefyd wella'r canlyniad ar ddiwedd y flwyddyn.
O ran yr amrywiannau sylweddol, arhoswyd am gadarnhad ynghylch dyraniad y Cyngor o arian grant Pwysau Gaeaf Ychwanegol i'w ddosbarthu trwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
O ran Cronfeydd wrth Gefn a Balansau, y balans a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn ar Gronfeydd wrth Gefn oedd £3.244m.
Roedd un cais am ddwyn arian ymlaen ar gynllun grant Seilwaith Mewn Ysgolion Hwb yr oedd angen ei hawlio cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Byddai’r arian hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi rhwydweithiau TGCh ysgolion yn erbyn gwariant presennol yn ystod y flwyddyn, gan ofyn am gymeradwyaeth i'r tanwariant o ganlyniad gael ei ddwyn ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf i ariannu'r cam gweithredu.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd disgwyl unrhyw newid sylweddol i sefyllfa diwedd blwyddyn a bod oedi mewn gwariant yn codi o fynd i’r afael â materion llifogydd yn bosibilrwydd. Ni ddisgwylid unrhyw wariant brys ychwanegol mewn ymateb i'r Coronafeirws, ond roedd swyddogion yn gweithio ar gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21. Byddai unrhyw wybodaeth am gyllid cenedlaethol i gefnogi gwasanaethau ac incwm coll yn cael ei rhannu pan fyddai ar gael.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020;
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai; a
(c) Cymeradwyo’r cais i ddwyn ymlaen ym mharagraff 1.22. |
|
Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy PDF 102 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar yr Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy a goblygiadau posibl yr argymhellion, a wnaed gan banel annibynnol, ar y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes ddiweddariad ar y cynnydd gydag argymhellion yr adolygiad annibynnol o Gyflenwad Tai Fforddiadwy yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC). Atodwyd ymatebion LlC ac amserlenni i'r argymhellion i'r adroddiad ochr yn ochr â chamau a gymerwyd gan y Cyngor yn lleol a rhanbarthol gyda phartneriaid strategol i wella trefniadau darpariaeth tai fforddiadwy.
Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y panel annibynnol wedi cytuno ar y diffiniad o dai fforddiadwy yng nghyd-destun Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2 a oedd yn cynnwys ystod o fodelau tai fel cynlluniau rhannu ecwiti, Cymorth i Brynu a Rhentu i Berchnogi.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at y cyllid grant a gafwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig nad oedd yn berthnasol i gynghorau. Dywedodd y Prif Swyddog fod hyn wedi arwain at y Cyngor yn cymryd agwedd fwy arloesol tuag at ei raglen adeiladu tai. Mewn ymateb i gwestiynau pellach, rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn Garden City, lle roedd y cynllun adeiladu modiwlaidd cyntaf yn Sir y Fflint yn cael ei ddatblygu. Wrth gydnabod effaith ariannol gosod paneli solar ar dai, talodd deyrnged i waith y tîm Ynni.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Banks, rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad ar waith sy'n cael ei wneud gan LlC ar argymhellion Tir y Sector Cyhoeddus yn yr adroddiad.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Thomas.
PENDERFYNWYD:
Bod yr argymhellion atodedig o'r adolygiad a sylwadau'r Gweinidog yn cael eu nodi, ac y dylid derbyn diweddariadau pellach wrth i oblygiadau'r camau gweithredu a argymhellir gael eu datblygu ymhellach. |
|
Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru Cyfyngedig PDF 81 KB Pwrpas: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r addasiadau i reolau Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (erthyglau cymdeithasiad) i ganiatáu mwy o gyfarwyddwyr annibynnol ar y bwrdd a thynnu’r ddarpariaeth o Swyddog Gyfarwyddwr y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes adroddiad ar North East Wales (NEW) Homes i geisio newid i reolau'r cwmni (Erthyglau Cymdeithasiad) i ganiatáu Cyfarwyddwyr mwy annibynnol ar y bwrdd a chael gwared ar y ddarpariaeth ar gyfer swyddog gyfarwyddwr y Cyngor. Wrth gynnig yr argymhellion, dywedodd y byddai'r newidiadau i gynyddu sgiliau a phrofiad ar y bwrdd yn cyfrannu at ymrwymiad y cwmni i ddarparu tai fforddiadwy.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) er bod y rhaglen adeiladu tai hyd yma wedi canolbwyntio ar Sir y Fflint, dyhead NEW Homes oedd ehangu ei sylfaen asedau ar draws y rhanbarth.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo diwygiad i Erthyglau Cymdeithasiad NEW Homes, i gael gwared ar y ddarpariaeth ar gyfer hyd at 1 Swyddog Cyngor ar y bwrdd a'i newid i ganiatáu hyd at 4 cyfarwyddwr annibynnol ar y bwrdd fel y manylir yn Atodiad A; a
(b) Rhoi’r awdurdod i'r Aelod Cabinet Tai ac Asedau lofnodi'r Penderfyniad Ysgrifenedig yn awdurdodi'r newidiadau. |
|
Tipio Anghyfreithlon a Gorfodaeth Dyletswydd Gofal Deiliad Ty PDF 91 KB Pwrpas: Darparu adolygiad deuddeng mis i’r Cabinet ar roi Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer troseddau Tipio Anghyfreithlon a chynnig cyflwyno addysg a gorfodaeth i ofynion Dyletswydd Gofal Deiliad T?. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar yr adolygiad deuddeg mis o’r broses ar gyfer cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon ar raddfa fach a gofynnodd am gymeradwyaeth ar gyfer cyflwyno addysg a gorfodaeth ar gyfer gofynion Dyletswydd Gofal deiliaid t?.
Nodwyd bod tua dwy ran o dair o dipio anghyfreithlon yn tarddu o eiddo domestig lle'r oedd trigolion wedi trosglwyddo eu gwastraff i fasnachwyr anghofrestredig. Yr ymgyrch addysg arfaethedig oedd tynnu sylw at gyfrifoldebau deiliaid tai ar waredu gwastraff domestig a chyhoeddi Rhybudd Cosb Benodedig lle gellid dangos bod trigolion wedi methu yn eu dyletswydd gyfreithiol, gyda gostyngiad am dalu’n fuan.
Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y gallai nifer yr achosion tipio anghyfreithlon yn Sir y Fflint fod oherwydd dull rhagweithiol y Cyngor i annog adrodd am ddigwyddiadau a gofnodwyd wedyn i fonitro ardaloedd â phroblem. Adroddodd berfformiad da o ran cael gwared â thipio anghyfreithlon o fewn 24 awr a dywedodd fod ymchwiliadau'n cael eu cynnal i nodi'r ffynhonnell lle bo hynny'n bosibl.
Manteisiodd y Cynghorydd Banks ar y cyfle i dalu teyrnged i weithredwyr Strydwedd a siaradodd o blaid cynnydd pellach yn y tâl Rhybudd Cosb Benodedig fel rhwystr. Rhannwyd y farn hon gan y Cynghorydd Jones a gyfeiriodd at effaith tipio anghyfreithlon ar faterion llifogydd.
Eglurodd y Cynghorydd Thomas fod tâl Rhybudd Cosb Benodedig o £1,000 am dipio eitemau mawr yn anghyfreithlon.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Thomas a Jones.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd ar gyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig am ddigwyddiadau bach o dipio anghyfreithlon;
(b) Cymeradwyo'r ymgyrch addysg ledled y sir a gorfodi trefniadau Dyletswydd Gofal Deiliaid Tai trwy Hysbysiad Cosb Sefydlog wedi hynny;
(c) Cymeradwyo'r tâl Rhybudd Cosb Benodedig am dorri Dyletswydd Gofal Deiliaid Tai o £300, gyda gostyngiad i £150 os telir y Rhybudd Cosb Benodedig o fewn 10 diwrnod; a
(d) Cymeradwyo'r tâl Rhybudd Cosb Benodedig am droseddau tipio anghyfreithlon bach o £300, gyda gostyngiad i £150 os telir y Rhybudd Cosb Benodedig o fewn 10 diwrnod. |
|
Rhaglenni Ynni Domestig PDF 99 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad am y dulliau a gymerwyd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn Sir y Fflint. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dulliau a ddefnyddir gan dîm Rhaglen Arbed Ynni Domestig y Cyngor i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Sir y Fflint.
Cafodd yr adroddiad, a oedd yn cynnwys enghreifftiau dienw o gymorth a roddwyd i drigolion i wella ansawdd eu bywyd, glod gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd.
Yn ystod y drafodaeth, talodd yr Aelodau deyrnged i'r gwaith pwysig a wnaed gan y tîm a'u hymgysylltiad cadarnhaol â thrigolion i roi sicrwydd a chynorthwyo gyda materion eraill. Cytunodd y Prif Swyddog adrodd yr adborth cadarnhaol yn ôl i’r tîm.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r cynnydd rhagorol a wnaed wrth ddarparu rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig i gefnogi cartrefi sy'n brin o danwydd yn Sir y Fflint a bod y maes gwaith hwn yn parhau i gael ei gefnogi fel blaenoriaeth i’r Cyngor yn y dyfodol. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 64 KB Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau. Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Strydwedd a Chludiant
Rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 20mya arfaethedig a'r Parth Terfyn Cyflymder 20mya ar Leaches Lane, Hawarden Way, Foxes Close, Earle’s Crescent, Field View, Cottage Lane, The Paddock, Colliery Lane, Wilton Road, Willow Lane, Hampton Avenue, Clos Coed, Marnel Drive, Mancot Royal Close, Crossways, Mancot Way, Ashfield Crescent, Maxwell Avenue, Wenlock Crescent, Sunnyside, Ffordd Deiniol, Oakley Road, Leaches Close, Oak Court, Orchard Close, Westway a Mancot Lane, Mancot.
Rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cyfyngiadau aros arfaethedig ar Mancot Lane, Willow Lane, Field View, Mancot Way, Crossways, Hawarden Way, Leaches Lane, Foxes Close, Cottage Lane, Colliery Lane, The Paddock, Wilton Road, Clos Coed, Mancot Royal Close ac Earle’s Crescent, Mancot.
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r groesfan i gerddwyr (Sebra) arfaethedig ar Leaches Lane, Mancot.
Tai ac Asedau
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.
Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion dau denant sy’n destun Gorchmynion Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent gwerth cyfanswm o £13,848.08 ar gyfer y ddau achos wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn Dileu Dyled, sydd bellach yn anadferadwy o ganlyniad i ddyfarnu'r Gorchymyn.
Adran Dyledion Corfforaethol
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Adnoddau Corfforaethol.
Mae'r penderfyniad i ddileu yn ymwneud â dau gyfrif sy'n dod i gyfanswm o £25,724.38. Mae'r holl atebion adfer bellach wedi methu, gan gynnwys defnyddio asiantau casglu dyledion ac achos llys sirol. Ni ellir cymryd unrhyw gamau pellach i adfer y balans sy’n weddill. |
|
Sylwadau I Gloi - Coronafeirws Cofnodion: Manteisiodd y Cynghorydd Roberts ar y cyfle i ddiolch i swyddogion a oedd yn paratoi cynlluniau ar gyfer gwasanaethau a fydd yn parhau i weithredu dros yr wythnosau nesaf.
Talodd Aelodau eraill deyrnged i dimau o fewn eu portffolios priodol, yn enwedig y rhai mewn gwasanaethau rheng flaen am eu hymroddiad i helpu trigolion. Manteisiodd y Cynghorydd Banks ar y cyfle i ganmol yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ynghyd ag unigolion sy'n gwirfoddoli ar draws cymunedau.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod gwasanaethau’n parhau fel arfer yn ystod y cyfnod anodd hwn ar hyn o bryd, a bod canllawiau'n cael eu diweddaru a'u cyhoeddi'n rheolaidd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |