Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

51.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Dim.

52.

Cofnodion pdf icon PDF 254 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 16eg Gorffennaf, 2019.

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2019 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

53.

Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ac Ysgolion Craidd pdf icon PDF 149 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn darparu cysondeb gyda Strategaeth Ariannol Tymor Canolog y Cyngor, gan fod angen penderfyniadau allweddol gan y Cabinet er mwyn i'r rhaglen symud ymlaen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir yngl?n âchynlluniau buddsoddi cyfalaf arfaethedig yn Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti (safle Shotton).

 

            Roedd yr adroddiad yn dangos sut yr oedd y Cyngor yn cyflawni ei ymrwymiad i barhau i wella cynaliadwyedd addysg gynradd yn y Sir, ac yn tanategu’r ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg ac i ysgolion gwledig.

 

            Ceisiwyd cefnogaeth i ddod â nifer o ffynonellau cyllid allweddol ynghyd ar gyfer Ysgol Croes Atti, yn ogystal â gwneud ymrwymiad cynnar o fewn y rhaglen gyfalaf i wneud y mwyaf o’r buddsoddiad sydd wir ei angen yn yr ysgol.  Byddai’n gwella’r amgylchedd dysgu o dan do ac yn yr awyr agored er mwyn sicrhau ei fod yn addas i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru a darparu’r gofal cofleidiol yr oedd rhieni ei angen.  

 

            Er bod adeilad yr ysgol yn strwythurol gadarn, roedd angen gwneud addasiadau pellach. Byddai’r addasiadau o gymorth i ddarparu ar gyfer y nifer gynyddol o ddisgyblion, i gyfuno gofal plant a’r ddarpariaeth addysg gynnar bresennol a gwella’r mannau awyr agored yn benodol, gan nad oeddent yn addas ar gyfer cwricwlwm modern na lles y dysgwyr.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyllid a dderbyniwyd drwy Grant Cyfalaf Gofal Plant ac ailddefnyddio cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif yng ngoleuni’r Cyllid Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg i Ysgol Glanrafon. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid a chwrdd â therfynau amser gwariant, cynigiwyd dwyn cyfraniad ariannol y Cyngor yn y rhaglen gyfalaf yn ei flaen er mwyn i’r prosiect allu symud ymlaen ar gyflymder a chyflawni’r gwerth gorau.

 

            O ran Ysgol Brynffordd, penderfynodd y Cabinet i beidio â chyfuno ysgolion Brynffordd a Licswm y llynedd a nodwyd bod ar Ysgol Brynffordd angen buddsoddiad o oddeutu £1.3m i fynd i’r afael â rhai o’r diffygion sylweddol o ran ei llety.  Parhaodd yr ysgol i ffynnu, roedd wedi’i gordanysgrifio ac yn darparu profiad dysgu o safon, er roedd gwneud hynny’n heriol iawn dan yr amodau cyfyng. 

 

            Roedd yr ysgol wedi derbyn Grant Gofal Plant Llywodraeth Cymru o £500k, gan adael diffyg o £800k i gwblhau’r gwaith angenrheidiol. Gyda therfyn amser o hyd at 2021 i wario’r Grant Gofal Plant, byddai eto’n fuddiol i’r Cyngor ddwyn ymlaen yr ymrwymiad a wnaed yn y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i gyflawni’r gwaith ailfodelu angenrheidiol mewn un prosiect a chyflawni’r gwerth gorau.

 

            Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion a oedd yn rhan o’r gwaith ar y prosiectau a chroesawu’r cynigion.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr bod y ddau brosiect yn hanfodol ac roedd cyllid sylweddol ynghlwm â’r ddau ohonynt drwy’r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Band B. Roedd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn fodlon â’r cynigion ac roedd y cyllid wedi cael ei ystyried wrth lunio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a chymeradwyo’r prosiectau yn Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti, Shotton i’w cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf gyda chostau wedi’u rhannu dros 2019/20 a 2020/21 ac wedi’u hariannu trwy fenthyca darbodus a grant Llywodraeth Cymru. Bydd y  ...  view the full Cofnodion text for item 53.

54.

Canlyniad Arolwg Estyn pdf icon PDF 189 KB

Pwrpas:        Hysbysu'r Aelodau o ganlyniad yr Arolwg diweddar gan Estyn o Wasanaethau Addysg Cyngor Sir Y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r arolwg llawn gan Estyn a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2019, ac fe gyhoeddwyd yr adroddiad ar wefan Estyn ar 9 Awst.

 

            Roedd yn falch iawn o gyflwyno’r adroddiad a oedd yn dathlu’r arolwg cadarnhaol o wasanaethau addysg y Cyngor yn Sir y Fflint. Roedd yn adolygiad cynhwysfawr gyda thîm o 12 o arolygwyr yn cyfweld ag uwch reolwyr, swyddogion y rheng flaen, penaethiaid a budd-ddeiliaid ehangach.

 

            Darganfu Estyn, ar y cyfan, bod disgyblion mewn ysgolion lleol, gan gynnwys y rhai â hawl i brydau ysgol am ddim a'r rhai gydag anghenion addysgol arbennig, yn gwneud cynnydd da yn ystod eu hamser mewn addysg statudol.Roedd addysg gynradd yn y sir yn arbennig o gryf gyda’r gyfran o ysgolion cynradd sy’n cyflawni dyfarniadau ardderchog am safonau, yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Amlygwyd y berthynas waith effeithiol rhwng y Cyngor a GwE fel cryfder gyda chefnogaeth briodol ar gyfer ysgolion gan arwain at wella’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion.

 

            Roedd perfformiad grwpiau diamddiffyn wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf gyda nifer y disgyblion sy'n gadael Blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith yn parhau'n isel a’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr wedi’u haddysgu mewn man arall ac eithrio’r ysgol yn dda.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlygu bod lles disgyblion yn dda ar draws holl gyfnodau addysg ac yn nodi bod gan y Cyngor strategaethau i wella eu hiechyd meddyliol ac emosiynol yn yr ysgolion. Nodwyd bod arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gryf gydag uwch swyddogion ac aelodau etholedig yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer darparu addysg a oedd wedi’i hadlewyrchu’n dda yn y strategaethau corfforaethol.

 

            Gwnaed nifer fechan o argymhellion yn yr adroddiad ar gyfer gwelliannau parhaus ac roedd y Cyngor yn cytuno â’r rheini, ac roeddent eisoes wedi’u nodi yn y cynlluniau busnes gan y Tîm Portffolio. Roeddent yn cynnwys parhau i wella'r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 4, gwella lefelau presenoldeb disgyblion, a lleihau’r nifer o waharddiadau cyfnod penodol a pharhaol. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell bod y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i gadw diffyg ariannol ysgolion dan reolaeth.

 

Diolchodd yr Aelodau i bawb a oedd yn rhan o hyn a chroesawu’r adroddiad cadarnhaol gan Estyn, gan nodi bod y Cyngor hefyd wedi cael cais i lunio astudiaeth achos ar ei arferion effeithiol wrth gefnogi datblygiad iaith cynnar plant, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar wefan Estyn i effeithio’n gadarnhaol ar waith awdurdodau lleol eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yn Sir y Fflint a chydnabod y canfyddiadau.

55.

Menter Bwyd Sir y Fflint ac Ymateb i’r Tlodi Bwyd pdf icon PDF 245 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor i ffurfio Menter Bwyd Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a’r model busnes ar gyfer y busnes menter gymdeithasol newydd. 

 

            Diffiniwyd Tlodi Bwyd fel ‘pobl heb fynediad at fwyd ffres da trwy ddewis’, a chyfeiriwyd at y diffiniad ‘os ydych yn bwydo pobl yn dda, maent yn fwy tebygol o allu dod allan o’u sefyllfa’. Roedd yn hysbys am £1 a oedd yn cael ei gwario ar fwyd wedi’i brosesu, roedd 37c yn cael ei hychwanegu ar gyfer afiechydon yn ymwneud â diet a oedd angen triniaeth yn nes ymlaen. 

 

Penderfynodd y Cyngor Sir, a’i bartneriaid Tai Clwyd Alyn a Can Cook, yn flaenorol i gynnig cefnogaeth i’r rhai oedd yn fwyaf diamddiffyn ac nad oedd ganddynt fynediad i fwyd da, ffres. Yn ystod yr ymgyrch Llwglyd Dros y Gwyliau cynhyrchwyd cyhoeddusrwydd cadarnhaol a dosbarthwyd dros 17,000 o brydau i blant yng nghymunedau’r Sir a fyddai fel arall wedi bod mewn angen yn ystod y gwyliau. Oherwydd llwyddiant yr ymgyrch yn 2018, ailadroddwyd yr ymgyrch ac roedd yr ymateb yn llawer mwy yn 2019.

 

Ers hynny, roedd y Cyngor a’i bartneriaid wedi bod yn archwilio nifer o opsiynau a fyddai’n sicrhau datblygu datrysiad cynaliadwy a mwy hirdymor i dlodi bwyd.

 

Roedd y model busnes, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ar ffurf atodiad cyfrinachol, ar gyfer busnes menter gymdeithasol newydd gyda’r tri phartner â hawliau cyfartal dros reoli a darparu’r gweithrediad.  Byddai bwyd yn cael ei baratoi yn Sir y Fflint drwy nifer o ganolfannau, gyda phrif ganolfan paratoi bwyd yn ardal Shotton.

 

Y brif nod fyddai cyrraedd a datblygu modelau cynaliadwy er mwyn i bobl gael mynediad i fwyd da, fforddiadwy a ffres, yn arbennig drwy gysylltu â'r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud a'r gwasanaethau a ddarperir fel:

 

·         Gofal cartref a chysylltu darpariaeth bwyd gyda gwasanaethau gofal;

·         Datblygu rhaglen drawsnewid o gymorth bwyd i brynu bwyd ar gyfer grwpiau diamddiffyn, e.e. teuluoedd digartref;

·         Cysylltu â gwasanaethau sy’n cefnogi trigolion ac yn mewnoli cefnogaeth o amgylch darpariaeth bwyd yn y gwasanaethau hynny; a

·         Defnyddio darpariaeth bwyd fel catalydd i ddechrau mynd i’r afael ag unigedd ac ynysu

 

Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad gan ddweud ei fod yn alinio â Chynllun y Cyngor a bod yn Gyngor Gofalgar.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r holl Swyddogion a oedd yn rhan o’r prosiect a fyddai o gymorth wrth ymdrin â materion cymdeithasol; roedd y Cyngor yn awyddus i symud ymlaen â’r prosiect cyn gynted â phosib.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cefnogi a chymeradwyo’r cynnig am fodel Menter Gymdeithasol newydd a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau tlodi bwyd yn y Cyngor; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor, i gymeradwyo’r cynllun busnes, contractau a dogfennau cyfreithiol.

56.

Adolygu’r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Wastraff pdf icon PDF 201 KB

Pwrpas:         Cymeradwyo’r digwyddiad ymgynghori yngl?n â Strategaeth Wastraff ddiwygiedig y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cynnig bod y Cyngor yn cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus eang ar ddarpariaeth y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol er mwyn deall disgwyliadau a thueddiadau’r preswylwyr yn well, a gosod y cyfeiriad ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

                        Yn 2011, cyflwynodd y Cyngor wasanaeth Casgliad Wythnosol a Reolir a newidiodd y casgliadau gwastraff yn y Sir o sachau du wythnosol a chasgliadau ger y drws cefn i gasgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol, gyda chasgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob pythefnos. Bu i’r newid wella perfformiad ailgylchu’r Cyngor yn sylweddol ac oherwydd ymgysylltiad ac ymdrechion y preswylwyr, parhaodd y Cyngor i berfformio’n dda ac fe gadarnhawyd perfformiad ailgylchu o 69.16% ar gyfer 2018/19. Roedd hynny eisoes yn uwch na’r targed o 64% ar gyfer 2019/20 a’r targed sylweddol nesaf fydd 70% yn 2025.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod angen dathlu’r perfformiad ailgylchu presennol, ond heb newid gweithredol a pholisi, roedd yn debygol y byddai perfformiad yn sefydlogi ac y byddai unrhyw welliant o ran perfformiad yn y dyfodol yn anodd i’w gyflawni. Er nad oedd y strategaeth wastraff bresennol yn dod i ben tan 2025, roedd y targed a osodwyd o fewn y ddogfen o 70% bron â’i gyflawni ac roedd yn bwysig bod y Cyngor yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ystyried beth yn fwy ellid ei wneud i gynyddu cyfraddau ailgylchu yn y dyfodol a lleihau gwastraff gweddilliol.

 

                        Byddai’r ymgynghoriad yn ystyried sawl agwedd, yn cynnwys:

 

·         Rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth am lwyddiant presennol y gwasanaeth;

·         Hysbysu defnyddwyr gwasanaeth o’r hyn a ddigwyddodd i’r eitemau ailgylchadwy a gasglwyd;

·         Esbonio’r angen i gynnal adolygiad;

·         Cael  gwybodaeth am dueddiadau ailgylchu cyfredol; a

·         Rhoi ystyriaeth i ddewisiadau newid gwasanaeth yn y dyfodol a fyddai’n gwneud y mwyaf o botensial ailgylchu. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r holiaduron ar gael i’w cwblhau ar-lein ond byddai modd cwblhau copi papur ar gais. Roedd llawer o ddigwyddiadau galw heibio cymunedol wedi cael eu trefnu a byddai’r adborth o’r digwyddiadau hynny yn cael ei dderbyn.

 

            PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Bod y Cabinet yn nodi’r perfformiad presennol mewn perthynas ag

                      ailgylchu  ac yn mynegi diolch i’r preswylwyr a’r gweithwyr am eu

                      perfformiad; a

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo bwrw ymlaen â’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar Strategaeth Wastraff y Cyngor a chyfeiriad y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol ac annog preswylwyr i ymgysylltu â’r arolwg.

57.

Cynllun y Cyngor 2018/19: Adroddiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 426 KB

Pwrpas:        Adolygu'r cynnydd a wnaed yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r cynnydd sydd wedi’i fonitro yng Nghynllun y Cyngor ar ddiwedd 2018/19.

 

Roedd yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2018/19 yn adroddiad cadarnhaol. Roedd yn dangos bod 92% o’r gweithgareddau a aseswyd wedi gwneud cynnydd da ac 89% ar y trywydd cywir er mwyn cyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. 

 

Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 70% ar y trywydd cywir, roedd 20% yn cael eu monitro a 10% wedi gwyro oddi ar y trywydd cywir. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (64%), mân risgiau (14%) neu’n risgiau ansylweddol (11%).

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a byddai’n sail i’r adroddiad statudol i’r Cyngor Sir ym mis Hydref.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi a chefnogi lefelau cynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19; a

 

 (b)      Bod y Cabinet wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20.

58.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 4) pdf icon PDF 347 KB

Pwrpas:        Mae'r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu'r sefyllfa monitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2019/20 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a Chyfrif Refeniw Tai. Mae'r swydd yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel ym Mis 4, a phrosiectau ymlaen at ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl gyntaf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd a chyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 4 y flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

            Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Adroddwyd diffyg gweithredol o £2.983m – gostyngiad o £0.118m o’r ffigwr diffyg o £3.101m – yn yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Interim ym mis Gorffennaf 2019; a

·         Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £1.886m.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.081m yn uwch na’r gyllideb; a’r

·         Balans terfynol disgwyliedig ar 31 Mawrth 2020 fydd £1.242m.

 

Parhaodd y Cyngor a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymgyrchu a lobïo Llywodraeth Cymru am gyllid cenedlaethol ychwanegol penodol ar gyfer galw uchel – gwasanaethau cost uchel. Roedd y galw cynyddol mewn perthynas â gofal Gwasanaethau Plant / Tu Allan i’r Sir yn parhau i gyflwyno heriau sylweddol.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion yngl?n â’r amrywiadau mawr; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill yn ystod y flwyddyn; effaith a risgiau MTFS; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai dyma’r flwyddyn gyntaf gyda gorwariant o’r fath ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r portffolios i bennu a fyddai modd atal gwariant nad yw’n hanfodol yn ystod y flwyddyn, ond pwysleisiodd mai digwyddiad untro yn unig fyddai hyn. Byddai’r effaith ar y flwyddyn ganlynol yn sylweddol. O ran Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, roedd y sefyllfa yn anrhagweladwy ac roedd galw pellach gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â gofynion y gyllideb ar gyfer y Cyngor. Apeliodd at Lywodraeth Cymru gan ddweud y dylai tanwariant yn ystod y flwyddyn gael ei dargedu at Leoliadau y Tu Allan i’r Sir ar draws Gymru.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ochr yn ochr â dau adroddiad eithrio ar y gorwariant ar Leoliadau Tu Allan i’r Sir a Strydwedd a Chludiant a diolchodd y Cynghorydd Banks i’r Pwyllgor am dderbyn yr wybodaeth â realaeth.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020;

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

 (c)       Cytuno ar drosglwyddiad cyllideb o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn ailalinio’r gyllideb i ddiwallu anghenion presennol y gwasanaeth.

59.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/20 (Mis 4) pdf icon PDF 176 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ar Fis 4 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019/20 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2019/20 ers ei gosod ym mis Chwefror 2019 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2019), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.

 

Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £27.844m yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £15.914m yn y rhaglen (£15.390m yng Nghronfa’r Cyngor a £0.524 yn y Cyfrif Refeniw Tai); a

·         Chario cyllid ymlaen o 2018/19, sef swm o £11.930m (£11.930m o Gronfa’r Cyngor a £0.000m o’r Cyfrif Refeniw Tai).

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £15.106m.

 

Roedd sefyllfa alldro terfynol y Monitro Rhaglen Gyfalaf 2018/19, ar gyfer y gyllideb 3 blynedd a osodwyd ym mis Chwefror 2018 a fydd yn dod i ben yn 2020/21, yn adlewyrchu diffyg o £1.187m.

 

Sefyllfa ddiffyg bresennol a chyfunol y Rhaglen Gyfalaf, ar gyfer y gyllideb 3 blynedd a osodwyd ym mis Chwefror ac a ddaw i ben yn 2021/22 oedd £1.230m. Roedd hyn cyn unrhyw dderbyniadau cyfalaf ychwanegol neu i unrhyw gyllid arall gael ei gynhyrchu yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;

 

             (b)      Cymeradwyo’r addasiadau cario ymlaen ym mharagraff 1.16; a

 

 (c)       Chymeradwyo ariannu cynlluniau o’r lle presennol ac ail-broffilio cyllideb y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd ac, os oes angen, cyllid ar gyfer effaith llifogydd ar y Rhwydwaith Priffyrdd.

60.

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2018/19 pdf icon PDF 271 KB

Pwrpas:        Cyflwyno drafft Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018/19 i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn cyflwyno drafft Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018/19 i’w argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

                        Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, adolygwyd yr Adroddiad Blynyddol gan y Pwyllgor Archwilio ar 10 Gorffennaf 2019 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar 22 Hydref 2019 yn amodol ar argymhelliad y Cabinet i’w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Bod drafft Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2018/19 ac Adroddiad Drafft Canol Blwyddyn 2018/19 yn cael eu cymeradwyo a'u hargymell i'r Cyngor.

61.

Lonydd Bysus yn Sir y Fflint – Cyfyngiadau ar eu defnydd pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cyfyngiadau ar y cerbydau a fydd yn defnyddio’r lonydd bysus arfaethedig newydd yng Nglannau Dyfrdwy.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cadarnhau pa fath o gerbydau fyddai’n cael defnyddio’r lonydd bysiau newydd ar y B5129 rhwng Queensferry a Shotton a’r trefniadau gorfodi fyddai’n cael eu rhoi ar waith i reoli defnydd yr isadeiledd newydd.

 

                        Roedd y Cyngor yn cyflawni mesurau blaenoriaethau bysiau amrywiol fel rhan o’i Strategaeth Trafnidiaeth Integredig, a oedd yn cefnogi dyheadau Llywodraeth Cymru am gael ‘Metro Gogledd Ddwyrain Cymru’ rhanbarthol, gan hyrwyddo datrysiad cludiant cynaliadwy, a fyddai’n llwyddo i integreiddio cludiant o bob math, a chynnal a hyrwyddo gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar, gyda chysylltiadau â phob man yn Sir y Fflint a’r rhanbarth ehangach.

 

                        Roedd y gwaith hefyd yn alinio â’r ymyriadau lefel uchel o fewn Cyd-gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru 2015-2020 a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys:

 

·         Annog cludiant cynaliadwy;

·         Cysylltiadau gwell i gyflogaeth a mynediad at wasanaethau;

·         Gwelliannau i isadeiledd cludiant cyhoeddus; a

·         Partneriaethau o safon ar goridorau llwybr bws allweddol.

 

Fel rhan o’r gwaith, bu i’r Cabinet gymeradwyo’r cynllun i adeiladu lonydd bysiau dynodedig a bydd y gwaith ar y cynllun yn dechrau ym mis Ionawr 2020.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod ar y Cyngor angen cymeradwyaeth benodol gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi’r pwerau cyfreithiol i orfodi ar yr isadeiledd bws pwrpasol, yn cynnwys defnydd y lonydd bysiau gan gerbydau nad ydynt wedi’u hawdurdodi. Roedd y Cyngor wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru i gael yr awdurdod angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau gorfodi o’r fath.

                       

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo’r cyfyngiadau ar gerbydau ag awdurdod i ddefnyddio’r

                      lonydd  bysiau arfaethedig ar y B5129; a

 

 (b)      Chymeradwyo’r trefniadau gorfodi ar yr holl lonydd bysiau eraill a mesurau blaenoriaethau bysiau mewn lleoliadau allweddol ar draws y coridor.

62.

Pas Bws Consesiynol Cymru Gyfan (Adnewyddu Pasys Bysus) pdf icon PDF 191 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar gynigion Llywodraeth Cymru i ddisodli’r pasys bysus presennol ar gyfer defnyddwyr consesiynol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses a’r amserlen ar gyfer y prosiect disodli Cardiau Teithio Rhatach.

 

                        Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgynghori â’r holl fudd-ddeiliaid cenedlaethol a phartneriaid lleol ar eu bwriad i ail-ddosbarthu oddeutu 750,000 o Gardiau Teithio Rhatach ar draws Gymru erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019.  

 

                        Roedd y cardiau newydd hyn eisoes wedi cael eu dosbarthu i bob ymgeisydd newydd ers mis Mehefin 2019, ac fe ddechreuodd y gwaith o ddosbarthu’r cardiau newydd hyn yn genedlaethol yn ddiweddar. Yn dilyn problemau mewn perthynas â phrysurdeb ar wefan Trafnidiaeth Cymru, cynyddwyd capasiti’r wefan ac roedd ar gael i’w defnyddio’r wythnos ganlynol. Byddai modd i breswylwyr gwblhau ceisiadau ar bapur drwy ymweld â Chanolfan Gyswllt.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r broses i ailddosbarthu Cardiau Teithio Rhatach i bob preswyliwr cymwys yn Sir y Fflint.

63.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bwerau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

  • Cymorth fel y bo’r Angen at Gam-Drin Domestig Aster Hope

Roedd y contract 5 mlynedd hwn yn weithredol hyd at fis Awst 2018 ac wedi hynny fe gymeradwywyd estyniad hyd at fis Awst 2019. Pwrpas yr amrywiad hwn yw ymestyn y contract am 7 mis eto ac o bosib hyd at 19 mis os oes angen. Gofynnodd Cefnogi Pobl am yr estyniad gwreiddiol o flwyddyn (31/08/18 – 31/09/19) cyn y penderfynwyd gwneud tendr Consortiwm Cymorth fel y bo’r Angen. Mae’r contract hwn yn cyd fynd â’r Consortiwm Cymorth fel y bo’r Angen, felly mae Cefnogi Pobl yn gofyn i gael ei wneud yn unol â’r holl estyniadau eraill a gytunwyd.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

  • Cynnydd Blynyddol Diogelwch Bwyd a Ffioedd a Thaliadau Safonau

Cynnydd mewn ffioedd archwiliadau ail-sgorio hylendid bwyd a hefyd archwiliadau glanweithdra llongau.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

64.

MENTER BWYD SIR Y FFLINT AC YMATEB I'R TLODI BWYD (ATODIAD CYFRINACHOL I EITEM RHIF 6 AR Y RHAGLEN)

Cofnodion:

Nodwyd.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Nodi’r atodiad.

65.

Alinio’r Tâl ‘Crefft’ Llyfr Coch â Model Tâl y Cyngor

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn y darparu trosolwg o effaith ail flwyddyn (2019) y cytundeb tâl dwy flynedd y Cydbwyllgor Cenedlaethol (NJC) (2018/19-2019/20) gan ddefnyddio’r model cenedlaethol a chynnig i drosglwyddo’r gweithwyr llyfr coch i’r model tâl newydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhoi braslun o’r effaith yn sgil gweithredu’r ail flwyddyn (2019) o gytundeb cyflogau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol (2018/19 – 2019/20) ar sail y dull cenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Nodi a chroesawu’r cynnydd a wnaed wrth adolygu’r Drefn Gyflogau

                      i gynnwys gofynion ail flwyddyn y Dyfarniad Cyflog Cenedlaethol; a

 

 (b)      Gwahodd y Prif Weithredwr i gwblhau’r trafodaethau â’r Undebau Llafur i gytuno ar drefn gyflogau newydd a gweithredu’r drefn honno, yn rhinwedd ei bwerau dirprwyedig, ar yr amod bod y drefn gyflogau newydd yn bodloni’r meini prawf a nodwyd yn yr adroddiad, yn cynnwys Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb cadarnhaol.

66.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol a dim un aelod o’r cyhoedd.