Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

100.

Datgan Cysylltiad

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim datganiad.

101.

Rhagolwg Ariannol a Cham Dau y Gyllideb 2018/19 pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Ystyried yr adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar Gam Dau y Gyllideb 2018/19 ac i wneud argymhellion i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Ragolwg Ariannol a Cham Dau Cyllideb 2018/19 a oedd yn gofyn bod yr aelodau’n ystyried adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, yr oedd pob aelod wedi cael gwahoddiad iddo, ar Gam Dau y gyllideb ac i wneud argymhellion i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

Cyflwynwyd y penderfyniadau drafft a wnaed gan y cyfarfod hwnnw o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i Aelodau'r Cabinet, sef:

 

1.            Wedi ystyried opsiynau cyllideb Cam 2, y dylid nodi’r adroddiad a’r cynigion.

2.            Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi;

3.            Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Datganiadau Gwytnwch yn cael eu dosbarthu i’r holl Aelodau.

4.            Bod manylion llawn yr asesiad o risgiau, effeithiau a chanlyniadau'r holl gynigion parthed y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr.

5.            Bod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Addysg ac Ieuenctid yn cael eu cynnal ym mis Ionawr er mwyn edrych yn fanwl ar daliadau parcio ceir a chynigion par: cyllideb ysgolion, yn y drefn honno, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud; a

6.            Bod adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.

 

Soniwyd yn benodol am y trefniadau ar gyfer Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Addysg ac Ieuenctid a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr i adolygu’r cynigion ar gyfer parcio ceir a’r gyllideb ysgolion a ddeilliodd o sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.   O ganlyniad i gyfraddau amser ac oherwydd yr adroddir ar y gyllideb mewn tri cham erbyn hyn, barnwyd mai dyma’r ffordd orau i graffu ar faterion penodol fel rhan o’r broses.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod adborth yn cael ei dderbyn o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gydag argymhelliad i’r Cyngor ar Gam 2 o strategaeth y gyllideb.

 

(b)       Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi; a

 

(c)        Bod 6 argymhelliad drafft y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (gweler isod) yn cael eu derbyn a'u cymeradwyo.  Nododd a chymeradwyodd y Cabinet Gam 2 o’r gyllideb i'r Cyngor Sir ar yr amod fod cynigion penodol ar gyfer cyllidebau ysgolion a thaliadau parcio yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Ionawr i’w hadolygu yn llawn er mwyn iddyn nhw adrodd yn ôl cyn unrhyw gytundeb terfynol ar y ddau faes hwn.

 

Argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:

1.            Wedi ystyried opsiynau cyllideb Cam 2, y dylid nodi’r adroddiad a’r cynigion.

2.            Bod y camau sy'n weddill o'r broses o osod y gyllideb a'r cyfraddau amser yn cael eu nodi;

3.            Bod y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Datganiadau Gwytnwch yn cael eu dosbarthu i’r holl Aelodau.

4.            Bod manylion llawn yr  ...  view the full Cofnodion text for item 101.

102.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd a dim ond un aelod o’r wasg yn bresennol.