Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

205.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Jones, Mullin, Thomas a Shotton gysylltiad personol ag eitem 14 ar y rhaglen – Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anghysonderau o ran Cludiant i’r Ysgol.

206.

Cofnodion pdf icon PDF 120 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarodydd ar 19 Mehefin 2018 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2018 wedi eu dosbarthu gyda’r agenda. Yn amodol ar ddileu’r geiriau ‘ac ariannu hynny’ o gofnod 189, Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol – Adolygu’r Polisi, a chywiro gwall teipio yng nghofnod 193, cymeradwywyd y cofnodion fel rhai cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

207.

Ian Bancroft

I gydnabod y cyfraniad a wnaed i'r Cyngor gan Ian Bancroft, Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol), sy'n gadael yr Awdurdod ym mis Awst i ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cofnodion:

Aeth y Prif Weithredwr yn gyntaf wrth dalu teyrnged i Ian Bancroft am ei waith gyda'r Cyngor, a'r nifer o gynlluniau llwyddiannus a gyflawnwyd o dan ei arweinyddiaeth. Roedd y rheiny’n cynnwys diogelu llyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden pan grëwyd sefydliad cydfuddiannol cyntaf y staff, ac adnewyddu Theatr Clwyd. Soniodd am y cysylltiadau cryf â swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, lle byddai Ian yn mynd i fod yn Brif Weithredwr, ac am ddatblygu’r cysylltiadau hynny ymhellach. Rhoddodd ddiolch i Ian am ei holl waith gyda Chyngor Sir y Fflint, a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd.

 

            Talodd holl aelodau'r Cabinet eu teyrngedau eu hunain i Ian, gan grybwyll ei agwedd gadarnhaol, ei ddylanwad tawel, ei sgiliau cyd-drafod, a'r gallu unigryw oedd ganddo i ddod â grwpiau o bobl ynghyd.  Diolchodd Ian Bancroft i bawb am eu geiriau caredig, a dywedodd fod hynny’n adlewyrchiad o’r arweinyddiaeth gref yn Sir y Fflint. Edrychai ymlaen at weithio gyda Sir y Fflint er budd holl drigolion gogledd ddwyrain Cymru.

208.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/2018 ac Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2017/18 pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth Adroddiad Blynyddol terfynol y Gymraeg ar ddiwedd y Cyngor 2017/18 ac Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/18 cyn ei gyhoeddi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Blynyddol 2016/18 ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiad Monitro Blynyddol 2017/18 ar yr Iaith Gymraeg, a oedd yn rhoi braslun o’r cynnydd a wnaethpwyd wrth gydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb a Safonau’r Gymraeg, ac yn nodi meysydd ar gyfer gwella.

 

                        Rhannodd y Prif Weithredwr yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar yn sgil sylwadau a wnaethpwyd yng nghyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yngl?n â hybu dwyieithrwydd a diogelu pobl ifanc.

 

                        Rhoddodd y Swyddog Datblygu Polisi – Cydraddoldeb fanylion yngl?n â’r meysydd oedd eto i’w cyflawni, ac roedd manylion llawn am y rheiny yn yr adroddiad.

 

                        Cefnogodd y Cynghorydd Bithell y ‘cam nesaf’ o ran cyfathrebu’n gyson â’r gweithlu yngl?n â chydymffurfiaeth â’r drefn a hyrwyddo Safonau’r Gymraeg.          

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn ffyddiog y gwnaethpwyd cynnydd ar hyd y flwyddyn o ran cyflawni’r dyletswyddau statudol;

 

 (b)      Nodi’r meysydd ar gyfer gwella, a derbyn adroddiad ganol y flwyddyn yngl?n â’r cynnydd bryd hynny;

 

 (c)       Rhoi cymeradwyaeth i gyhoeddi’r adroddiadau ar wefan y Cyngor; a

 

 (d)      Chynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Adroddiad Monitro Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

209.

Diweddariad ar reoli'r ddeddfwriaeth ddigartrefedd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014 pdf icon PDF 178 KB

Pwrpas:        I ddiweddaru’r Cabinet ar reoli deddfwriaeth ddigartrefedd, cynnydd o ran datblygu strategaeth ddigartrefedd ranbarthol, yr heriau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu a’r dulliau o liniaru digartrefedd yn y sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Reoli'r Ddeddfwriaeth Ddigartrefedd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014, gan sôn sut oedd y Cyngor wedi bodloni gofynion y ddeddfwriaeth ddigartrefedd newydd, ynghyd â rhai o'r heriau i'r Cyngor oedd ar y gorwel.

 

            Yn yr adroddiad roedd manylion am nifer y ceisiadau brysbennu ar gyfer cwsmeriaid yn gofyn am gymorth gyda thai, oedd wedi cynyddu 3.9% yn 2017/18 o gymharu â'r llynedd.  

 

Darparwyd manylion llawn yngl?n â digartrefedd, cefnogi pobl, datblygu Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol, y gofrestr tai cymdeithasol, y sector rhentu preifat, llety dros dro, pobl yn cysgu ar y stryd, aelwydydd sengl, pobl ddiamddiffyn ac anghenion cymhleth, atal pobl rhag cysgu ar y stryd, a chynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael yn y sector rhentu preifat.

 

O ran cefnogi pobl, dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y Cyngor wedi ariannu’r cynllun hwnnw â Grant Rhaglen Cefnogi Pobl, a phe byddai unrhyw newid o ran y cyllid hwnnw, gan gynnwys ei leihau neu’i ddileu, byddai’n creu gwasgfa ar gyllideb y Cyngor. Hefyd, roedd cynllun peilot ar waith i dargedu’r bobl hynny oedd angen cymorth â dyledion rhent cyn gynted â phosib. 

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)         Nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am reoli'r ddeddfwriaeth newydd o fewn Deddf

Tai (Cymru) 2014;   

 

 (b)      Cydnabod y themâu oedd yn dod i’r amlwg yn y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol, a’r heriau’r oedd y Cyngor wedi’u hwynebu wrth ddod o hyd i ddewisiadau tai addas ar gyfer preswylwyr, a nodi’r cynlluniau ar gyfer lliniaru ar unrhyw risgiau pellach; a

 

 (c)       Chymeradwyo’r cynigion i leihau digartrefedd yn y sir.

210.

Hyrwyddo Twristiaeth a Rheoli Cyrchfannau pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        I godi ymwybyddiaeth o ddull y Cyngor i dwristiaeth a’r economi ymwelwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad yngl?n â Hybu Twristiaeth a Rheoli Cyrchfannau, a oedd yn ymdrin â’r dulliau a ddefnyddiwyd yn Sir y Fflint a’r rhanbarth ehangach i hybu’r economi dwristiaeth drwy weithgarwch hyrwyddo, a rheoli a gwella’r profiad a gynigir i ymwelwyr.

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Gwasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’r Gwasanaeth Twristiaeth, a oedd ill dau wedi chwarae rhan arwyddocaol ar y cyd, a byddai cyfleoedd i gydweithio mwy yn y dyfodol yn sgil ailstrwythuro yn ddiweddar.

 

            Er bod yr economi ymwelwyr yn Sir y Fflint yn rhan gymharol fechan o economi Sir y Fflint, roedd yn dal i wneud cyfraniad pwysig. Roedd y sector yn cyflogi oddeutu 3,273 o bobl ac yn creu oddeutu £252 miliwn bob blwyddyn, gyda 3.7 miliwn o bobl yn aros dros nos a 2.7 miliwn yn dod am y dydd. 

 

            Croesawodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad, gan sôn am yr holl atyniadau yn Sir y Fflint ac mor bwysig oedd manteisio ar bob cyfle i’w hyrwyddo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r dulliau newydd o hyrwyddo Sir y Fflint i ymwelwyr a rheoli cyrchfannau.

211.

Cynllun Gwasanaeth Bwyd ar gyfer Cyngor Sir y Fflint 2018/19 pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad yngl?n â Chynllun Gwasanaeth Bwyd Sir y Fflint ar gyfer 2018/19, a oedd yn rhoi braslun o’r Gwasanaeth Bwyd. Roedd yn pennu’r nodau ac amcanion am y flwyddyn i ddod, a sut y cyflawnid y rheiny. 

 

Roedd y Cynllun hefyd yn cynnwys adolygiad o berfformiad y Gwasanaeth o ran cyflawni Cynllun 2017/18.  Talodd y Cynghorydd Bithell deyrnged i’r tîm am yr hyn a gyflawnodd yn ystod 2017/18.

 

Soniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) mor bwysig oedd y gwasanaeth a’r ymdrechion parhaus a wnaed i’w wella.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2018/19.

212.

MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (ALLDRO) pdf icon PDF 150 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2017/18 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 12 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Canlyniadau) a oedd yn cyflwyno’r sefyllfa o ran monitro canlyniadau cyllideb refeniw 2017/18 (yn amodol ar archwilio), gan gynnwys Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

            Hon oedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

·         Y canlyniad o fewn y flwyddyn oedd gwarged gweithredol net o £0.685 miliwn;

·         Roedd y canlyniad cyffredinol yn cynnwys hwb o £1.422 miliwn oherwydd newid y polisi cyfrifo ar gyfer Darparu Isafswm Refeniw fel y penderfynodd y Cyngor Sir ar 1 Mawrth 2018.  Effaith hynny oedd cynyddu’r gwarged gweithredol, a bod gwariant net £2.107 miliwn yn llai na’r gyllideb; a

·         Balans y Gronfa Wrth Gefn at Raid 31 Mawrth 2018 Oedd £7.928 miliwn, ond lleihaodd hynny i £5.523 miliwn wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2018/19.

 

            Y Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Roedd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.004 miliwn yn uwch na’r gyllideb; ac

·         Roedd balans terfynol heb ei neilltuo o £1.116 miliwn ar 31 Mawrth 2018.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y ceisiadau i gario cyllid ymlaen.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Roedd y Pwyllgor Archwilio hefyd wedi derbyn y Datganiad Cyfrifon drafft. Derbyniodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr adroddiad, gan nodi’r effaith a gafodd Darparu Isafswm Refeniw ar y gyllideb. Gwnaethpwyd sylwadau hefyd yngl?n ag effaith cael cadarnhad o grantiau’n hwyr, ac roedd y Pwyllgor wedi gofyn am anfon llythyr i Lywodraeth Cymru'n esbonio'r risgiau; roedd y llythyr hwnnw'n cael ei ddrafftio.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn oedd yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018;

 

 (b)      Nodi'r lefel derfynol o falansau ar y Cyfrif Refeniw Tai ar 31 Mawrth 2018; a

 

             (c)       Chymeradwyo’r ceisiadau i gario cyllid ymlaen.

213.

Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Alldro) pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth alldro rhaglen gyfalaf 2017/18 i Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad yngl?n â Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Canlyniad) a oedd yn rhoi crynodeb o’r newidiadau a wnaethpwyd yn y Rhaglen Gyfalaf yn ystod tri mis olaf 2017/18.

 

            Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf ar sail y canlyniad terfynol oedd £59.143 miliwn, gostyngiad net o £0.279 miliwn o gymharu â’r cyfanswm yn y nawfed mis o’r flwyddyn (£59.422 miliwn).  Y rhain oedd y newidiadau yn y Rhaglen:

 

·         Cynnydd o £2.836 miliwn yn y rhaglen (£2.159 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor a £0.677 miliwn yn y Cyfrif Refeniw Tai);

·         Gwrthbwyso drwy gario cyllid ymlaen i 2018/19, sef swm o £1.289 miliwn a gymeradwywyd gan y Cabinet yn y nawfed mis; a

·         Gwrthbwyso drwy gario gwariant wedi’i ariannu gan grantiau hwyr Llywodraeth Cymru ymlaen i 2018/19, sef swm o £1.826 miliwn.

 

Y gwir ganlyniad oedd £57.380 miliwn, a oedd yn awgrymu tanwariant o £1.763 miliwn. Y swm dan sylw, fodd bynnag, oedd cyfanswm y cyllid a gariwyd ymlaen i 2018/19.

 

Y canlyniad o ran ariannu oedd gorwariant o £0.068 miliwn ar sail y cyllid oedd wedi’i gadarnhau. Y rheswm am hynny oedd bod y Cyngor wedi derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn hwyr, ac wedi defnyddio rhywfaint o’r arian i lenwi bylchau mewn refeniw, a arweiniodd at danwariant ar y gyllideb refeniw yn 2017/18. Byddai’r Cyngor yn ariannu’r un faint o wariant cyfalaf yn 2018/19 ar sail derbyniadau cyfalaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol; a

 

 (b)      Chymeradwyo’r addasiadau o ran cario cyllid ymlaen.

214.

Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Dros Dro) pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Darparu manylion am risgiau a materion allweddol hysbys i'r sefyllfa alldro cyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllided yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw (Dros Dro) 2018/19, sef yr adroddiad monitro cyntaf yn 2018/19. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd a wnaethpwyd wrth gyflawni arbedion effeithlonrwydd yn unol â’r targedau a bennwyd, ac yn nodi’r amrywiannau o bwys a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2018/19.

 

            Fel y nodwyd yn yr adroddiad, rhagamcanwyd mai effaith net gychwynnol y risgiau a’r amrywiannau oedd yn dod i’r amlwg oedd y byddai gwariant £1.619 miliwn yn llai na’r gyllideb.  Roedd y swm yn cynnwys ad-daliad TAW unigol o £1.940 miliwn a thanwariant o £1.400 miliwn yn y flwyddyn ar gyfer Darparu Isafswm Refeniw. Gan ystyried hynny, rhagamcanwyd y byddai’r canlyniad terfynol £1.721 miliwn yn fwy na’r gyllideb. 

 

            Cyflwynid adroddiad ar y pedwerydd mis i’r Cabinet ar 25 Medi 2018, a byddai hwnnw’n cynnwys mwy o fanylion. Roedd yr adroddiad hwn yn amlygu’r risgiau lefel uchel a allai effeithio ar y rhagamcanion ariannol, a byddai'n rhaid monitro’r rhain yn fanwl gydol y flwyddyn.

 

            Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a nodwyd fel risg ariannol uchel o ran natur anwadal y maes, gan sôn hefyd am y gwaith oedd yn mynd rhagddo yn y rhanbarth i fynd i’r afael â hynny. Soniodd hefyd am lwyddiant lobïo ar y cyd gan lywodraeth leol yngl?n â dileu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig, oedd wedi arwain at gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y dosrennid £1.2 miliwn yn genedlaethol er mwyn lliniaru ar golli'r arian yn 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad; a

 

 (b)      Chymeradwyo trosglwyddo £0.058 miliwn o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid i wneud iawn am y gostyngiad yn sgil dileu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig.

215.

Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2017/18 pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        I ddarparu ffigurau gwirioneddol Dangosydd Darbodus 2017/18 i aelodau fel sy’n ofynnol o dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad yngl?n â Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2017/18, a oedd yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2017/18 o gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.

 

            Diolchodd y Prif Weithredwr i Paul Vaughan, a fu’n rhoi arweiniad doeth i’r Cyngor wrth gyflenwi yn y swydd dros dro.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’i gymeradwyo.

216.

Cynllun gostyngiadau Treth y Cyngor i rai sy’n gadael gofal pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Ystyried rhoi cynllun gostyngiadau ar waith i rai sy’n gadael gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad yngl?n â'r Cynllun Gostyngiadau Pobl sy'n Gadael Gofal, a oedd yn amlygu meysydd o arferion da a nodwyd yn adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, ‘Breuddwydion Cudd’.  Roedd yr adroddiad yn sôn am y gefnogaeth oedd ar gael i bobl ifanc oedd yn gadael gofal o ran tai, addysg a hyfforddiant, yn ogystal â chymorth personol ac emosiynol.

 

            Yn yr adroddiad gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo polisi ariannol newydd ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal, gan roi gostyngiad hyd at 100% ar Dreth y Cyngor i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint.

 

            Plant sy’n Derbyn Gofal a phobl sy’n gadael gofal oedd rhai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Gallai'r canlyniadau fod yn wael ar brydiau, ac roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnig y cyfleoedd gorau posib i bobl oedd yn gadael gofal o ran eu dyfodol, wrth iddynt ymadael â gofal y Cyngor a dechrau byw’n annibynnol.  Roedd yno 75 o bobl yn gadael gofal yn Sir y Fflint, gyda 31 ohonynt yn 16-18 oed a 44 yn 19-25.

 

            Byddai Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor Dewisol ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018, neu’r dyddiad cyntaf y codai atebolrwydd person yn gadael gofal i dalu Treth y Cyngor, os oedd hynny ar ôl 1 Ebrill 2018.

 

            Gweinyddid y cynllun yn unol â’r fframwaith polisi oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd yn pennu’r meini prawf cymhwyso ar gyfer gostyngiadau hyd at 100%. Roedd yr adroddiad yn amlinellu egwyddorion lefel uchel y cynllun a gynigiwyd.

 

            Byddai costau darparu'r cynllun yn 2019/20 yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ragamcanion ynghylch y gyllideb yn y dyfodol. Rhagwelwyd y byddai’r cynlluniau’n costio cyfanswm o £27,000.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor Dewisol ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal ac yn gymwys, a bod hynny’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018. Y nod oedd cynnig gostyngiadau hyd at 100% i bobl hyd at 25 oed oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint. Byddai’r cynllun yn cynnwys pawb cymwys oedd yn gadael gofal ac yn byw yn Sir y Fflint, ni waeth pa awdurdod oedd yn darparu'r gofal; a

 

 (b)      Cefnogi’r Polisi Ariannol newydd ar gyfer pobl oedd yn gadael gofal, a chyhoeddi gwybodaeth hawdd ei ddarllen er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod pa gymorth ariannol y gallant eu hawlio gan y Cyngor.

217.

Deilliant Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anomeladdau Cludiant Ysgolion pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        I hysbysu Cabinet o ddeilliant yr ymgynghoriad, trefniadau cludiant lleol a'r camau nesaf i ddarparu gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy.  Mae'r adroddiad hefyd yn dangos manylion yr amserlen ar gyfer ymdrin ag anomaleddau o fewn trefniadau cludiant ysgolion a ddaeth i'n sylw yn dilyn adolygiad gwasanaeth ym mis Medi 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anghysonderau o ran Cludiant i'r Ysgol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion yngl?n â'r llwybrau bws y rhoddwyd cymhorthdal ar eu cyfer, a chanlyniad yr ymgynghoriad yngl?n ag adolygu’r rhwydwaith bysus. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad er mwyn rhoi sylw i’r gwasanaethau hynny a sicrhau gwasanaeth cludiant cyhoeddus fforddiadwy a chynaliadwy yn y dyfodol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion yngl?n â’r dull a gynigiwyd ar gyfer ymdrin â threfniadau anstatudol ar gyfer cludiant i’r ysgol a sefydlwyd yn y gorffennol, a’r anghysonderau o ran y trefniadau hynny, yn sgil adroddiad a gyflwynwyd mewn gweithdy i’r holl Aelodau fis Tachwedd 2017. Cyflwynwyd adroddiad hefyd mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd ar 12 Gorffennaf.

 

            Gan gyfeirio at adolygu’r rhwydwaith bysus, esboniodd y Cynghorydd Thomas bod y cwmnïau bysus wedi gwneud nifer o newidiadau yn y rhwydwaith bysus masnachol, a oedd wedi cael effaith ar gymunedau ac wedi creu bylchau posib yn y ddarpariaeth; nid oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros hynny. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw’r rhwydwaith bysus dan adolygiad ac ymyrryd pan oedd hynny’n briodol.

 

Er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy cynaliadwy roedd yn ofynnol gwneud adolygiad trwyadl. Yn ystod y drefn ymgynghori cyflwynwyd pedwar o ddewisiadau i'r cyhoedd, Aelodau Etholedig a Chynghorau Tref a Chymuned. Sef:

 

  • Dewis 1 – rhoi’r gorau’n llwyr i roi cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws;
  • Dewis 2 – gwneud dim a dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau hynny oedd eisoes yn eu cael;
  • Dewis 3 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol, cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.
  • Dewis 4 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau yn y rhwydwaith craidd a chyflwyno gwasanaeth sy'n ymatebol i'r galw mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.

 

Roedd yr Aelodau Etholedig a’r Cynghorau Tref a Chymuned yn bennaf o blaid Dewis 3, a chafwyd rhai ymatebion gan unigolion o blaid Dewis 2. Dewis 3 oedd yr un gorau gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd hefyd.  Pe gweithredid y dewis hwnnw, y nod fyddai darparu cludiant lleol mewn cymunedau nad oeddent yn y rhwydwaith craidd ar ffurf bysus bach.Byddai’r trefniadau hynny'n gweithio'n debyg i wasanaethau bws arferol, gydag amserlen a llwybrau parhaol. Efallai, serch hynny, na fyddai’r gwasanaethau bws bach yn mynd mor aml â'r bysus masnachol arferol nac yn cynnig yr un lefel o wasanaeth. Roedd llwybrau wedi’u nodi ar gyfer trefniadau teithio lleol, ac roedd rhestr o’r rheiny ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cwblhawyd y gwaith i optimeiddio llwybrau cludiant i’r ysgol ac ail-gaffael y gwasanaeth fis Medi 2017. Sicrhawyd y budd mwyaf posib drwy wneud defnydd mor effeithiol â phosib o’r cerbydau, cynllunio’r llwybrau yn y ffordd fwyaf cost effeithiol, a darparu cerbydau o faint addas yn ôl nifer y teithwyr cymwys. Wrth wneud y  ...  view the full Cofnodion text for item 217.

218.

Gorfodi Amgylcheddol pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth y Cabinet i orffen y trefniant gyda Grwp Gwasanaethau Kingdom i ddarparu gweithgareddau gorfodi amgylcheddol ar lefel isel yn y Sir cyn i'r trefniadau newydd ar gyfer y gwasanaeth ddod i rym ar 1 Ionawr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad yngl?n â Gorfodi Amgylcheddol, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i hysbysu Kingdom y byddai’r trefniadau presennol yn dod i ben. Byddai adroddiad pellach yn dod yn ddiweddarach yngl?n â’r dewisiadau o ran darparu gwasanaethau gorfodi yn y Sir.

 

            Yn sgil twf ymgyrch gyhoeddusrwydd yn erbyn Kingdom roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi gofyn am adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf, a chyflwynwyd yr adroddiad hwnnw mewn cyfarfod yn ddiweddar. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid dod â'r contract â Kingdom i ben, ac y dylid cyflawni’r holl swyddogaethau gorfodi yn y dyfodol drwy ddarparu’r gwasanaeth yn uniongyrchol.

 

            Er y talwyd nifer helaeth o rybuddion cosb benodedig a gyflwynodd Kingdom ar ran y Cyngor heb wrthwynebiad, bu sawl achos hysbys lle’r oedd rhesymau dadleuol dros roi’r tocynnau.  Roedd yr achosion prin hynny’n tanseilio enw da’r cwmni a’r Cyngor fel ei gilydd.          

 

Esboniodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd y cyflwynid adroddiad i'r Cabinet ym mis Medi. Dywedodd y Prif Weithredwr y gellid ymchwilio i wasanaeth wedi’i rannu ag awdurdodau lleol eraill oedd mewn sefyllfa gyffelyb. Roedd hi’n bwysig dal ati â chyfundrefn lem, a dylid gadael i ba bynnag wasanaeth oedd yn cyflawni’r swyddogaeth wneud hynny’n ddilyffethair. Cefnogodd y Cynghorydd Attridge hynny, gan ddweud ei bod yn amlwg cymaint oedd canol y trefi wedi gwella ers mabwysiadu dull gorfodi llym. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai angen mynd ati ar unwaith i gydweithio ag awdurdodau cyfagos wrth ymchwilio i wasanaeth wedi’i rannu a fyddai'n tawelu pryderon y cyhoedd ac yn ystyried sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd, ac fe gefnogwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd y dylid terfynu’r cytundeb presennol â Kingdom ar gyfer darparu gwasanaeth gorfodi amgylcheddol lefel isel, unwaith y gellir sefydlu dull gwahanol o gyflawni’r swyddogaeth; a

 

 (b)      Bod adroddiad cwmpasu’n dod gerbron y Cabinet fis Medi 2018 yn cynnwys manylion am y dull a gynigir o ddarparu’r gwasanaeth, wedi i swyddogion asesu’r holl ddewisiadau a chynhyrchu model busnes cynaliadwy. Dylai’r adroddiad hefyd gadarnhau’r amserlen ar gyfer gweithredu’r dull newydd a phennu dyddiad ar gyfer dod â'r cytundeb presennol i ben.

219.

Rheoli Asedau Tai – Caffael ar gyfer y Gwasanaeth Unedau Gwag a Chefnogaeth Atgyweirio pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Caffael gwasanaethau i ddarparu gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio i’r eiddo sy’n perthyn i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad yngl?n â Rheoli Asedau Tai – Caffael ar gyfer Gwasanaeth Unedau Gwag a Chefnogaeth Atgyweirio, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gaffael fframwaith o gontractwyr i gefnogi’r tîm atgyweirio mewnol wrth ddarparu'r gwasanaeth unedau gwag ac atgyweirio.

 

            Defnyddiai’r tîm Unedau Gwag gontractwyr i wneud gwaith mewn eiddo gwag na ellid ei gyflawni drwy'r Gweithlu Uniongyrchol. Roedd y Tîm Atgyweirio a Chynnal a Chadw hefyd yn defnyddio contractwyr i wneud gwaith a oedd naill ai'n rhy fawr neu’n rhy gymhleth i’w reoli.

 

            Roedd y cyfraddau presennol yn dirwyn i ben ac felly roedd yn rhaid llunio contract newydd a gosod tendr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Rhoi cymeradwyaeth i’r Tîm Rheoli Asedau Tai gaffael fframwaith o gontractwyr i gynorthwyo â’r gwaith atgyweirio unedau gwag sy’n eiddo i'r Cyngor.

220.

Ffermydd Solar Tirlenwi Crumps Yard a’r Fflint pdf icon PDF 172 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth i sefydlu bwrdd prosiect, cyflwyno’r ceisiadau cynllunio, caffael a phenodi contractwr a chytuno ar gyllid i’r prosiect.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad yngl?n â Ffermydd Solar Crumps Yard a Safle Tirlenwi’r Fflint, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i osod paneli solar ffotofoltaidd ar y ddaear ar y ddau safle.  

 

Yn yr achos strategol roedd tystiolaeth fod y datblygiadau solar yn gydnaws â pholisïau a strategaethau allweddol ar leihau carbon/twf economaidd, gan gynnwys polisïau a strategaethau’r Cyngor yn ogystal â rhai rhanbarthol a chenedlaethol, a’u bod yn hwyluso ac yn cyfrannu at gyflawni nodau a thargedau allweddol. Roedd modelu ariannol wedi dangos fod y prosiectau’n hyfyw.

 

Roedd yr achosion busnes amlinellol ynghlwm wrth yr adroddiad ar ffurf atodiadau cyfrinachol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Achosion Busnes Amlinellol ar gyfer Ffermydd Solar Crumps Yard a Safle Tirlenwi’r Fflint, a dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) arwain ar gyflawni’r prosiectau hyn;

 

 (b)      Awdurdodi’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i ffurfio Bwrdd Prosiect pwrpasol i fonitro’r ddau gynllun;

 

 (c)       Awdurdodi’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i gyflwyno’r ceisiadau cynllunio angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r ddau gynllun a chaffael contractwr i wneud y gwaith; a

 

 (d)      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), gan ymgynghori â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Cyngor, sicrhau cymorth allanol â materion cyfreithiol/technegol/cynllunio fel y bo'r gofyn, a neilltuo cyllideb ar gyfer hynny.

221.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 58 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Rhaglenni Strategol

  • Dymchwel Neuadd y Dref, Adleoli ac Uwchgynllunio

Roedd yr adroddiad yn argymell rhoi cymeradwyaeth i benodi H Jenkinson a’i Gwmni Cyf i ddylunio tu mewn y swyddfa, cynllun y lle gwaith a’r desgiau yn Unity House. Roedd y pris a gynigiwyd o fewn y gyllideb a gyhoeddwyd ar gyfer y cynllun, sef £0.280 miliwn. Roedd y Cabinet eisoes wedi cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer symud i Unity House ym mis Mawrth.

 

Strydwedd a Chludiant

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Bwcle) (Diddymu) 201-

Hysbyswyd yr Aelodau o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Bwcle) (Diddymu) 201-.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Cei Connah) (Diddymu) 201-

Hysbyswyd yr Aelodau o’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Cei Connah) (Diddymu) 201-.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Mannau Parcio Oddi ar y Stryd – Treffynnon) (Diddymu) 201-

Hysbyswyd yr Aelodau o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Treffynnon) (Diddymu) 201-.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Yr Wyddgrug) (Diddymu) 201-

Hysbyswyd yr Aelodau o’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Yr Wyddgrug) (Diddymu) 201-.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Mannau Parcio Oddi ar y Stryd – Queensferry) (Diddymu) 201-

Hysbyswyd yr Aelodau o’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Queensferry) (Diddymu) 201-.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Shotton) (Diddymu) 201-

Hysbyswyd yr Aelodau o’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd – Shotton) (Diddymu) 201-.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint Fourth Avenue a Second Avenue, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Cynnig i Wahardd Aros ar Unrhyw Adeg

Hysbyswyd yr Aelodau o'r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu’r cyfyngiadau Dim Aros ar Unrhyw Adeg ar Second Avenue a Fourth Avenue, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint  (Cefn y Ddôl, Maes Llwyfen a Maes Pinwydd, Ewlo) (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) (Diwygiad Rhif 11) 201-

Hysbyswyd yr Aelodau o'r gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu’r gorchymyn arfaethedig, Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio, Diwygiad Rhif 11, a oedd yn dileu’r cyfyngiadau Dim Aros ar Unrhyw Adeg yng Nghefn y Ddôl, Maes Llwyfen a Maes Pinwydd, Ewlo.

 

Tai ac Asedau

  • Wood Farm, Sandy Lane, Kinnerton CH4 9BS – Gweithred Amrywio

Gwneid Gweithred i Amrywio’r gorchymyn Cyfamod Cyfyngol fel y gellid cael annedd arall yn gysylltiedig ag amaeth ar y safle.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 16, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

222.

Casgliad o Gyfraddau Dwr yn rhan o Rhenti'r Cyngor

Pwrpas:        I nodi'r materion cyfreithiol parhaus, ar lefel genedlaethol, yngl?n â chasglu ar gyfraddau d?r fel rhan o'r Rhenti Cymdeithasau Tai / Cyngor, ynghyd ag asesiad o gyngor cyfreithiol y Cyngor ei hun mewn perthynas â natur contract Sir y Fflint â D?r Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad yngl?n â Chasglu Ardrethi D?r fel rhan o Renti’r Cyngor, a oedd yn rhoi manylion am y cadarnhad a roddodd y Cwnsler ynghylch y sefyllfa i'r Cyngor o ran derbyn comisiwn i adlewyrchu'r costau gweinyddol oedd yn gysylltiedig ag ardrethi d?r.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Parhau â’r gwasanaeth presennol o godi biliau a chasglu ardrethi d?r ar ran y cyflenwyr d?r;

 

 (b)      Nodi cyngor cyfreithiol y Cwnsler, a oedd yn cadarnhau nad oedd yn debygol iawn y byddai hawliadau yn erbyn y Cyngor yn llwyddo, er gwaethaf dyfarniad yr Uchel Lys yn achos Southwark; a

 

 (c)       Derbyn y gostyngiad 1.5% am dalu’n gynnar o 2019/20 ymlaen, ar sail cyngor y Cwnsler.

223.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.