Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

144.

Datgan Cysylltiad

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Attridge, Butler, Jones, Mullin a Shotton gysylltiadau personol ag eitem rhif 11 yr agenda – Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2019/20, gan eu bod nhw’n Llywodraethwyr Ysgol.  

 

                        Datganodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai gan Brif Swyddogion gysylltiad personol ag eitem rhif 14 yr agenda – Adolygu’r Model Gweithredu Corfforaethol, a byddai’n gadael yr ystafell. Byddai’r Prif Weithredwr yn cael ei gefnogi ar yr eitem honno gan yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu.

 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton mai eitem rhif 10 yr agenda, Adolygiad o Farchnadoedd Stryd Sir y Fflint, fyddai’n cael ei hystyried gyntaf. Ac eitem rhif 14 yr agenda, Diwygio’r Model Gweithredu Corfforaethol, fyddai’n cael ei hystyried olaf.

145.

Cofnodion pdf icon PDF 130 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 20 Chwefror 2018 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Dosbarthwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2018 gyda’r agenda ac fe’u cymeradwywyd fel gwir gofnod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel gwir gofnod.

146.

Adolygiad Marchnadoedd Stryd Sir y Fflint pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Diweddaru ar y broses adolygu marchnadoedd ac argymell dewisiadau ar gyfer dyfodol y marchnadoedd yn Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Adolygiad o Farchnadoedd Stryd Sir y Fflint a grynhodd ganlyniadau adolygiad diweddar ar y marchnadoedd stryd llai o faint yn Sir y Fflint a’r camau nesaf a argymhellir.

 

            Amlinellwyd canfyddiadau a chasgliadau’r adolygiad yn yr adroddiad, gyda chynigion i gau marchnad stryd y Fflint, trosglwyddo gweithrediad marchnad stryd Cei Connah i’r Cyngor Tref a pharhau i weithredu marchnad stryd Treffynnon dros dro wrth i drafodaethau gyda Chyngor Tref Treffynnon barhau ar y dewisiadau arbed costau i’r dyfodol.

 

            Esboniodd y Cynghorydd Butler fod marchnadoedd stryd ar draws y Deyrnas Unedig wedi dirywio o ran eu graddfa a’u bywiogrwydd a oedd yn sgil cystadleuaeth gan gadwyni adwerthu cenedlaethol mawrion, archfarchnadoedd a siopa ar-lein.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) mai mwyafrif costau gweithredu marchnadoedd stryd oedd costau staffio. Amlinellwyd yn yr adroddiad yr incwm a grëwyd gan bob marchnad o gymharu â’u costau rhedeg yn ystod 2016/17. O’i gymeradwyo, byddai’r diffyg gweithredu i farchnadoedd yn gostwng gan £21,000 y flwyddyn.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Bithell sylwadau ar farchnad stryd yr Wyddgrug a oedd yn parhau i gyfrannu at fywiogrwydd economaidd a chymdeithasol y dref, ond roedd yn wynebu ambell i straen. Pwysleisiodd bwysigrwydd diogelu’r marchnadoedd oedd yn weddill. Gofynnodd, petai newid i’r ardal i gerddwyr yn Nhreffynnon, ble fyddai’r farchnad wedyn. Atebodd y Prif Swyddog y byddai yn Tower Gardens. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, cadarnhaodd y byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn y dyfodol i farchnad stryd Treffynnon yn cael ei adrodd i’r Cabinet. 

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton benderfyniad Cyngor Tref Cei Connah i gymryd gweithrediad y farchnad stryd.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)          Bod y Cabinet yn cefnogi cau marchnad stryd y Fflint;

 

(b)          Bod gweithrediad marchnad stryd Cei Connah yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Tref Cei Connah, yn amodol ar gadarnhad gan y Cyngor Tref a chytundeb i’r telerau; a

 

(c)          Bod gweithrediad marchnad stryd Treffynnon yn parhau dros dro, a bod y trafodaethau gyda Chyngor Tref Treffynnon yn parhau ar opsiynau arbed costau i’r dyfodol.

147.

Cymeradwyo'r Costau ar gyfer Swp 3 Cynlluniau Tai Strategol ac Adfywio (SHARP) pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Cael cymeradwyaeth ar gyfer y llwyth nesaf o safleoedd i’w datblygu ar gyfer tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad Cymeradwyo’r Costau ar gyfer Swp 3 Cynlluniau Tai ac Adfywio Strategol (RhTAS) a ddarparodd wybodaeth am y cynlluniau arfaethedig, gan gynnwys lleoliad, mathau o eiddo, dyluniad a chynllun a’r costau adeiladu a ragwelir.

 

Dynododd yr adroddiad hefyd y dewisiadau ariannu sy’n cael eu ffafrio a manylodd ar Dybiaethau’r Cynllun Datblygu y cafodd ymarferoldeb y cynlluniau eu mesur a’u hasesu yn eu herbyn.

 

Dyma oedd y safleoedd a gynigiwyd i ddatblygu 92 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd:

 

·         Nant y Gro, Gronant;

·         Cyn Ganolfan y Cyngor, Dobshill; a

·         Llys Dewi, Pen-y-ffordd (ger Treffynnon).

 

Roedd datblygiad y safleoedd hyn ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy’n flaenoriaeth strategol i’r Cyngor a chafodd y safleoedd eu cytuno ymlaen llaw i’w cynnwys yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Byddai’n dod â chyfanswm nifer yr eiddo a gymeradwywyd gan y Cyngor hyd yma i 293.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y Grant Tai Fforddiadwy ar gael i Awdurdodau Lleol cadw stoc oedd yn datblygu cartrefi newydd o 2018/19. Dyma oedd dyraniad mynegol Sir y Fflint: 2018/19 - £1.9m; a 2019/20 - £1.2m. Talodd y grant hyd at uchafswm o 58% o gyfanswm costau’r cynllun tros gyfnod o 30 mlynedd. Lle bo angen, bydd y Cyngor yn ystyried y defnydd o’i ecwiti ar y cyd, derbynebau perchnogaeth ar y cyd a’r cronfeydd symiau gohiriedig i gynorthwyo gydag ariannu tai fforddiadwy trwy’r rhaglen, lle’r oedd yr amodau’n caniatáu. Darparodd y tabl yn yr adroddiad fanylion y costau a ragwelwyd i bob un o’r cynlluniau arfaethedig gyda chyfanswm y Cyfrif Refeniw Tai a ragwelwyd yn dod â’r gofyniad benthyca i £9.823m.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge y byddai angen caniatâd cynllunio ar y safleoedd. Mynegwyd pryderon yn y Digwyddiad Ymgynghori â’r Gymuned ynghylch y cynllun arfaethedig ar gyfer datblygiad Gronant, yn enwedig hygyrchedd y ffordd. Roedd y pryderon hynny’n cael eu hystyried gan swyddogion cyn iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio. Dywedodd hefyd mai ymrwymiad y Cyngor oedd darparu tai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Shotton sylwadau ar yr adeiladau diweddar a gwblhawyd yng Nghoed-llai ac ymrwymiad y Cyngor i ddarparu tai cymdeithasol ar draws y Sir. Darparodd Coed-llai esiampl dda o alluogi pobl leol i aros mewn cymuned wledig. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo datblygiad 92 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd yn Llys Dewi, Pen-y-ffordd, Nant y Gro, Gronant a hen Ganolfan y Cyngor, Dobshill;

 

(b)       Cymeradwyo’r defnydd o fenthyca darbodus i werth o £9.823m (yn amodol ar gymeradwyaeth a gwirio terfynol) i ariannu datblygiad arfaethedig y cartrefi Cyngor newydd;

 

(c)        Cymeradwyo’r defnydd o’r Grant Cartrefi Fforddiadwy o £1.903m a’r cronfeydd ecwiti ar y cyd, derbynebau perchnogaeth ar y cyd a symiau gohiriedig o gyfanswm o £1.722m i gyfrannu at gostau’r cynllun; a

 

(a)          Nodi’r cynigion gan Gartrefi NEW i ddatblygu 17 eiddo fforddiadwy ar draws y tri safle (yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd Cartrefi NEW).

 

148.

Cyllideb Cam 2: Adolygu Ffioedd Maes Parcio pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y ffioedd maes parcio diwygiedig a’r dyddiad ar gyfer cyflwyno ffioedd parcio yn y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas Gam 2 y Gyllideb: Adolygiad o Ffioedd Parcio Ceir a gynigiodd bolisi codi ffioedd terfynol a dyddiad dechrau ar gyfer ffioedd parcio ceir yn y Fflint.

 

            Ym mis Rhagfyr 2017, cymeradwyodd y Cyngor gynigion Cam 2 ar gyfer Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 a oedd yn cynnwys ffioedd parcio ceir. Roedd hyn yn amodol ar gyfeirio sawl cynnig penodol at Drosolwg a Chraffu am graffu manylach cyn ystyriaeth bellach yn y Cabinet. Trafodwyd y ffioedd parcio ceir gan aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, a oedd yn agored i bob Cynghorydd, ar 16 Ionawr 2018 lle gwnaed nifer o awgrymiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Nid oedd modd darparu ar gyfer rhai o’r cynigion a wnaed ac amlinellwyd y rhesymau yn yr adroddiad.

 

            Trefnwyd cydgyfarfod rhwng Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a Throsolwg a Chraffu’r Amgylchedd ar gyfer 15 Mawrth 2018 lle trafodwyd adroddiad y Cabinet oedd yn rhoi manylion y cynigion. Roedd hwn yn gyfarfod ar y cyd gan mai Adnoddau Corfforaethol oedd y Pwyllgor arweiniol ar gyfer craffu’r gyllideb ac roedd gan yr Amgylchedd bolisi a gweithrediadau parcio ceir fel rhan o’i gylch gorchwyl. Dosbarthwyd rhestr lawn o’r materion a godwyd yn y cyfarfod hwnnw i Aelodau’r Cabinet gyda’r ymatebion a roddwyd, gan gynnwys adborth geiriol gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd. Yn dilyn sylwadau’r cyfarfod ar y cyd, cynigiwyd newid y ffi yn yr Atodiad o 30c am 30 munud, i 30c am 60 munud. Yr effaith ar y gyllideb fyddai £11,000, ond petai trwyddedau blynyddol yn cael eu gwerthu i fusnesau, byddai hyn yn creu £15,000 pellach a fyddai’n talu am yr effaith. Darparodd yr Atodiad fanylion yr holl ffioedd; byddai’r trefniadau codi ffioedd newydd yn cael eu hysbysebu ym mhob maes parcio yn ystod mis Ebrill 2018 ac yn dod i rym o 14 Mai 2018 ymlaen. Yn ogystal â’r sylw hwnnw, gofynnodd y Cydbwyllgor hefyd am grynodeb o’r costau rheoli a chynnal a chadw ar gyfer 2017/18 a 2018/19 a rhestr lawn o’r meysydd parcio lle codir a lle na chodir ffioedd a gafodd ei darparu.

 

Gohiriwyd cyflwyno ffioedd parcio ceir yn y Fflint oherwydd nad oes lleoedd parcio ceir ar gael yn gyffredinol yn y dref o ganlyniad i raglen adfywio canol y dref oedd bellach yn agos at gwblhau. Byddai gorchmynion parcio ar y stryd yn cael eu cyflwyno ar rai ffyrdd yn yr ardal ar yr un pryd â’r ffioedd parcio ceir. Yn amodol ar wrthwynebiadau, 21 Mai 2018 fyddai’r dyddiad targed i gyflwyno’r trefniadau codi ffioedd newydd.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y gallai’r Cynghorau Tref ystyried rhoi cymhorthdal i ffioedd parcio ceir yn eu hardal ac felly byddai unrhyw gynnig o’r fath yn cael ei ystyried yn ôl teilyngdod a chyflawniadwyedd yn y strategaeth parcio ceir gyfredol.

 

            Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai adolygiad o’r ffioedd parcio ceir diwygiedig yn cael ei gynnal ymhen chwe mis.          

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod y cynigion wedi’u hystyried yn y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ddwywaith gyda’r cynigion  ...  view the full Cofnodion text for item 148.

149.

Gwahoddiad i Baratoi Cynllun Datblygu Strategol pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ymateb i gynnig Llywodraeth Cymru i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yCynghorydd Bithell adroddiad y Gwahoddiad i Baratoi Cynllun Datblygu Strategol a esboniodd fod yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru’n gwahodd eu safbwyntiau ar baratoi Cynllun Datblygu Strategol (CDS) ar gyfer yr ardal.

 

            Anfonwyd yr un llythyr at Awdurdodau Lleol De Ddwyrain, Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y sail fod gan bob un o’r ardaloedd hynny gynigion Bargen Ddinesig neu Fargen Twf yn bodoli neu’n dod i’r amlwg. Ychwanegwyd y llythyr at yr adroddiad gydag ymateb arfaethedig yn cael ei hychwanegu hefyd.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) na wnaeth llythyr Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw sylw ar sut na phwy fyddai’n cynhyrchu’r CDS ond roedd hi’n deg tybio ar y cam hwn y byddai’r Cynllun yn cael ei gynhyrchu ar y cyd gan Awdurdodau Cynllunio lleol yr ardal ac y byddai adnoddau cyfyngedig, os o gwbl, yn cael eu darparu ar lefel ranbarthol neu genedlaethol.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cytuno i’r ymateb arfaethedig i’r Ysgrifennydd Cabinet fel y manylwyd yn Atodiad 2.

150.

Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Fod Aelodau yn cytuno beth yw’r weledigaeth, yr amcanion a’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad yr Urban Tree and Woodland Plan. Astudiodd y Cynllun y cyfleoedd i blannu coed, sut byddai’n cael ei wneud a darparodd ddull arfer gorau i reoli coed a choetir trefol presennol, gan gynnwys gweithio yn y gymuned ac mewn partneriaeth yn ei gyflawniad. 

 

            Rhoddodd sylwadau ar fanteision coed, fel gwella iechyd a lles, darparu cysgod, oeri a chysylltu pobl gyda natur. Esboniodd mai gweledigaeth y Cynllun oedd ‘Cael gorchudd canopi coed amrywiol a gwydn ar hyd trefi Sir y Fflint sy’n cael ei werthfawrogi, sy’n cael ei reoli’n gynaliadwy, sy’n darparu manteision amryfal i bobl a’r amgylchedd ac yn gwella bioamrywiaeth’.

 

            Er mwyn cyflawni’r weledigaeth, dyma oedd yr amcanion strategol:

 

1.    Cynyddu swm y coed sy’n cael eu plannu;

2.    Rheoli coed yn gynaliadwy;

3.    Rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â choed;

4.    Hyrwyddo bioamrywiaeth; a

5.    Gweithio mewn partneriaeth.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod y Cynllun wedi gosod targed o gyflawni gorchudd canopi trefol o 18% erbyn 2011 o’r 14.5% cyfredol, sef y seithfed isaf yng Nghymru. Esboniodd mai Brychdyn a Saltney oedd y ddau anheddiad yn y Sir gyda’r gorchudd canopi isaf a byddai camau cynnar y cynllun yn canolbwyntio ar gynyddu swm y coed oedd yn cael eu plannu ar safleoedd yr oedd y Cyngor yn eu cynnal yn yr aneddiadau hynny.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a’r Cynllun a soniodd am grwpiau eraill a allai ddenu cyllid yn annibynnol ar y Cyngor, megis cyllid loteri. Gallai hyn helpu cyflymu’r amserlenni yn y Cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod gan Wates Residential darged o 150 o goed i’w plannu erbyn mis Ebrill fel rhan o’r Cynllun Gwyrdd.

 

Soniodd y Cynghorydd Jones ar y coed arbennig ym Mharc Gwepra ac ardaloedd chwarae llai o faint eraill, a’r Ysgolion Coedwig mewn ysgolion cynradd.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cytuno’r weledigaeth, yr amcanion a’r camau a osodwyd yn yr Urban Tree and Woodland Plan.

151.

Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 10) pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 10), a ddarparodd y sefyllfa monitro cyllideb refeniw gyfredol ar gyfer 2017/18 i Gronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Cyflwynodd yr adroddiad y sefyllfa ar sail incwm a gwariant gwirioneddol, a rhagwelodd sut byddai’r gyllideb yn sefyll wrth gloi’r flwyddyn ariannol os ydy pethau’n parhau’n gyfartal.

 

            Dyma oedd y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn:

 

Cronfa’r Cyngor:

 

  • Mae gwariant net yn y flwyddyn yn rhagweld diffyg gweithredu o £0.375m;
  • Roedd y sefyllfa yn y flwyddyn gyffredinol a ragwelwyd bellach yn cynnwys £1.422m oherwydd y newid mewn polisi cyfrifo ar gyfer y ffioedd Isafswm Darpariaeth Refeniw a gytunwyd gan y Cyngor Sir ar 1 Mawrth. Cafodd hyn yr effaith o ddileu’r diffyg gweithredu gyda disgwyl i’r gwariant net fod £1.047 yn llai na’r gyllideb; a
  • Balans Cronfa Wrth Gefn a Ragwelir ar 31 Mawrth o £8.119m ond cafodd hynny ei ostwng i £5.714m wrth ystyried y cyfraniadau a gytunwyd ar gyfer cyllideb 2018/19.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai:

                   

  • Rhagwelir y bydd y gwariant net yn y flwyddyn £0.035 yn fwy na’r gyllideb; a
  • Banals cronfa wrth gefn a ragwelir ar 31 Mawrth 2018 o £1.081m.

 

Crynhowyd y rhesymau am yr amrywiadau a ragwelir yn yr atodiad i’r adroddiad gan esbonio’r amrywiadau portffolio arwyddocaol allweddol yn yr adroddiad.

 

Cwmpasodd yr adroddiad y rhagolwg yn y flwyddyn diweddaraf yn ôl portffolio; symudiadau sylweddol rhwng cyllideb Mis 9 a Mis 10; cyflawni arbedion cynlluniedig yn y flwyddyn; olrhain risgiau yn y flwyddyn a materion yn dod i’r amlwg; cynnal a chadw dros y gaeaf; chwyddiant a chronfeydd a balansau.

 

Yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar, gwnaed sylwadau ar y canlyniad a ragwelir ar gyfer lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a ffioedd ar draws Cymru, a gosod targedau incwm realistig mewn rheoli pla.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod cyllid grant ychwanegol o £0.428m wedi’i adrodd yn y gwasanaeth Pobl H?n ac mai cyllid ydoedd i gyfrannu at y gwariant ychwanegol a achoswyd mewn Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd pwysau’r gaeaf. O ran arbedion cynlluniedig yn y flwyddyn, byddai 94% yn cael ei gyflawni a oedd 1% yn llai na’r targed a gytunwyd. Roedd amrywiaeth hefyd mewn Strydwedd a Chludiant oherwydd bod y cynnydd mewn ffioedd parcio ceir ond yn berthnasol am 10.5 mis eleni yn lle 12.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Shotton sylwadau ar y costau i gyllideb cynnal a chadw’r gaeaf yn dilyn y tywydd andwyol diweddar a barhaodd i roi pwysau ar gyllideb cynnal a chadw’r gaeaf. Roedd y gwasanaeth eisoes wedi rhagori ar nifer ei gynyrchiadau a rhagwelwyd y byddai’r gwariant hwnnw’n £1.059m a ragorodd ar y gyllideb gan £0.215m. Fodd bynnag, byddai hynny’n cael ei wrthbwyso trwy dynnu grant i lawr a glustnodwyd ar gyfer creighalen.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a swm wrth gefn disgwyliedig Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a

 

(b)       Chymeradwyo’r trosglwyddiad o £0.250m o’r gronfa wrth gefn i warchodfa wedi’i chlustnodi i’w defnyddio rhag ofn y bydd unrhyw faterion ariannol yn codi o  ...  view the full Cofnodion text for item 151.

152.

Lle i’w alw’n gartref pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Gofynnir i’r Cabinet gytuno ar ymateb i waith Comisiynydd Pobl H?n Cymru o ran perfformiad Sir y Fflint yn yr adolygiad o gartrefi gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad Lle i’w Alw’n Gartref a ddilynodd Adolygiad Cartrefi Gofal y Comisiynydd Pobl H?n ym mis Tachwedd 2014. 

 

Edrychodd yr adolygiad i ansawdd bywyd a gofal pobl h?n sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru ac er y cadarnhaodd yr adolygiad bod gofal preswyl yn ddewis cadarnhaol i lawer o bobl, ac yn un a wellodd eu hansawdd bywyd, roedd hefyd gwelliannau y gellid eu gwneud i wella ‘profiad byw’ nifer fawr o drigolion.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys 43 pwynt gweithredu yr oedd yr awdurdodau lleol yn gyfrifol am rai ohonynt. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae Sir y Fflint wedi bod yn datblygu strategaethau i wella profiad ac ansawdd bywyd i bobl sy’n byw yng nghartrefi gofal Sir y Fflint ac adolygwyd y gwaith gan y Comisiynydd yn 2017. Canfu’r Comisiynydd fod Sir y Fflint yn “Ddigonol” ym 15 maes yr adolygiad; dyma oedd y categori uchaf y gellid ei ddyfarnu felly roedd yn werthusiad cadarnhaol i’r Cyngor.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton safbwyntiau’r Comisiynydd a’r gydnabyddiaeth o arfer da. Rhoddodd hyder i’r Cyngor yn ei uchelgeisiau a oedd yn cynnwys cynyddu’r ddarpariaeth gwelyau ym Marleyfield ym Mwcle.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad hefyd a rhoddodd glod i’r staff am y cyflawniad. Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu fod y cartrefi oedd yn weddill i gyflawni ‘Creating a Place Called Home, Delivering What Matters’ yn fusnesau annibynnol ac fe’u hanogwyd i gymryd rhan.

 

Dymunodd y Cynghorydd Jones yn dda i’r Comisiynydd gan fod ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ym mis Ebrill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys adroddiad ‘Lle i’w Alw’n Gartref – Asesiad o Effaith’ Sir y Fflint;

 

(b)       Nodi bod manylion camau a mentrau parhaus sy’n mynd rhagddynt yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wella ansawdd bywyd y trigolion yng nghartrefi gofal Sir y Fflint; a

 

(c)        Chymeradwyo’r llythyr ymateb i’r Comisiynydd Pobl H?n.

153.

Trefniadau Derbyniadau Ysgol 2019 pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ynghylch trefniadau derbyn 2019 ac I argymell eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2019/20 a roddodd wybod am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar y trefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2019.

 

            Mae’r trefniadau derbyn presennol wedi bod ar waith er 2003 a pharhawyd i fodloni mwyafrif y dewisiadau rhieniol, sef 96%.

 

            Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau i’r meini prawf gordanysgrifio derbyniadau ond achubwyd ar y cyfle i adolygu ac egluro rhywfaint o’r geiriad. Amlinellwyd y geiriad diwygiedig yn yr Atodiad ac fe’i crynhowyd fel:

 

  • Cyfeiriad cartref – eglurhad mai cyfrifoldeb y rhieni oedd dod i gytundeb ar y dewisiadau a fynegwyd mewn cais;
  • Pellter – diweddarwyd y diffiniad o ran sut roedd pellter yn cael ei gyfrifo i adlewyrchu arfer cyfredol; ac
  • Roedd rhestrau aros gyda nifer o bwyntiau’n cael eu hegluro.

 

Cymerwyd y cyfle hefyd i ddiwygio’r niferoedd derbyn i ddwy ysgol er mwyn adlewyrchu’r newidiadau mewn ystafelloedd. Y rhain oedd Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug ac Ysgol Gynradd Brychdyn.

 

Gwnaed ceisiadau am leoedd gan ddefnyddio system ar-lein y Cyngor ac roedd hyn yn gweithio’n dda. Darparwyd cymorth gan staff y Cyngor i unrhyw rieni oedd yn cael anawsterau’n llenwi neu’n cyflwyno’r ffurflen ar-lein. Roedd bellach 100% o geisiadau’n dod i law ar-lein ond byddai copïau papur o ffurflenni cais yn parhau i fod ar gael o ofyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thomas am ailadrodd i rieni fod cludiant ysgol am ddim ar gael i’r ysgol agosaf yn unig a chadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn digwydd. Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Thomas ar ysgolion yn dod yn llawn, esboniodd y Prif Swyddog fod y Tîm Cynllunio Lleoedd Ysgol yn defnyddio model cydnabyddedig ar gyfer y cynnyrch potensial y byddai unrhyw ddatblygiadau newydd yn esgor arnynt. Petai ysgol yn llawn, byddai lle arall yn cael ei gynnig ac roedd opsiwn i apelio hefyd.

 

Soniodd y Cynghorydd Bithell ar bwysigrwydd rhoi gwybod i rieni am yr angen i nodi mwy nag un dewis ar y ffurflen gais, ac esbonio na fyddai gwneud hynny’n effeithio ar eu cais cyntaf am le.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2019/20.

154.

Dymchwel Neuadd y Dref, Adleoli ac Uwchgynllunio – Datblygu Achos Busnes pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad manwl am gynnydd y broses o symud i Unity House, Ailddatblygu Campws Neuadd y Dref a dymchwel Camau 3 a 4.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Datblygu Achos Busnes Dymchwel, Symud a Chynllun Mawr Neuadd y Sir.

 

            Rhoddodd yr adroddiad manwl wybodaeth am Neuadd y Sir ac Unity House, Ewlo, ailddatblygu gweddill campws Neuadd y Sir, Theatr Clwyd ac ymgysylltu â’r gweithlu. Amlinellwyd manylion llawn pob elfen yn yr adroddiad.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, esboniodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) mai’r nod oedd sicrhau bod Unity House yn cael ei breswylio erbyn diwedd y flwyddyn. O ran nifer y lleoedd parcio ceir, roedd gwaith yn mynd rhagddo ar gynyddu’r ardal llawr caled er mwyn cynyddu nifer y lleoedd. O ran yr effaith ar dref yr Wyddgrug, esboniodd y byddai craidd gweinyddol y Cyngor yn aros yn Neuadd y Sir a byddai Neuadd Llewynegrin yn aros hefyd. 

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod cynaliadwyedd y Theatr yn bwysig i gynnal bywiogrwydd y dref. Gallai Neuadd Llewynegrin gael ei hystyried am ddefnydd amryfal ac roedd Theatr Clwyd hefyd yn ystyried rhagor o weithgareddau masnachol. Gallai fod cyfle hefyd am adeilad gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r defnydd o’r swm ariannol a drafodwyd wrth i’r brydles ddirwyn i ben fel rhan o’r taliad dadfeiliadau diamod;

 

(b)       Nodi’r dyraniad cyllid yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor i ddymchwel camau 3 a 4 Neuadd y Sir pan ddaw derbynebau cyfalaf digonol ar gael;

 

(c)        Rhoi cymeradwyaeth i symud ymlaen penodiad partner datblygu i ailddatblygu campws Neuadd y Sir, gydag adroddiadau pellach yn cael eu dwyn yn ôl i’r Cabinet wrth i’r broses hon wneud cynnydd; a

 

(d)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Newid Trefniadol) a’r Prif Swyddog (Llywodraethiant) trwy ymgynghori â’r Aelod Cabinet ar gyfer Datblygu Economaidd i gwblhau penodiad contractwr, a enwir yn yr atodiad cyfrinachol, ar gyfer y dyluniad a datblygiad a’r gwaith adeiladu yn Theatr Clwyd yn unol â’r adroddiad hwn ac yn amodol ar fod yn fodlon bod y camau penodol angenrheidiol ac adnabyddedig yn yr adroddiad yn fodlon cyn cwblhau’r broses penodi a chaffael.

155.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 52 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwydeitem wybodaeth ar y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Roedd y camau gweithredu fel a nodir isod: -

 

Strydlun a Thrafnidiaeth

·         Cyngor Sir y Fflint - York Road, Clifton Park Avenue, Queens Avenue, Hamilton Road, Lansdowne Road, Parc yr Hafod a Kent Road, Cei Connah (Gwahardd Cyfyngu Aros a Lleoedd Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chydgyfnerthu) (Diwygio Rhif 14) 201.

Rhoi gwybod i'r Aelodau am wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbyseb York Road, Clifton Road, Cei Connah. (Gwahardd a Chyfyngu Lleoedd Aros a Llwytho a Pharcio (Gorfodi Sifil a Chydgyfnerthu) (Diwygiad Rhif 14) 201.

 

Newid Trefniadol

·         Bailey Hill - Arwyddo'r Amodau i Galluogi Cam 2 Cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri

           Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu'r gwaith a gwblhawyd i alluogi cais cam 2 i

           Gronfa Treftadaeth y Loteri yn unol ag adroddiad y Cabinet ar 24 Hydref 2017.

 

·         Coed Fron Dudur i'r De o Fferm Cefn, Bagillt CH6 6ET

           Coetir collddail cymysg yn ymestyn i 13.66 i'w werthu i'r perchennog cyfagos.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r camau a gymerir o dan bwerau.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am weddill y cyfarfod am yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y diwygiwyd).

156.

Adolygiad Cynnydd Arlwyo a Glanhau NEWydd

Pwrpas:        Adolygu cynnydd NEWydd ers iddo sefydlu yn 2017.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Adolygiad o Gynnydd y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd. Roedd y cwmni’n agosáu at ddiwedd masnachu’r flwyddyn gyntaf a darparodd yr adroddiad fanylion ar sut datblygodd y trawsnewid a chyfeiriad bwriadedig y busnes i flwyddyn 2.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Attridge fod NEWydd yn mynychu cyfarfodydd Cabinet i’r dyfodol pan fo eitem yn ymwneud â nhw ar yr agenda, a chefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Cynllun Busnes NEWydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19;

 

(b)       Nodi a chroesawu cynnydd NEWydd wrth gael blwyddyn gyntaf gref o fasnachu; a

 

(c)        Bod NEWydd yn mynychu ac yn cyflwyno i gyfarfodydd Cabinet y dyfodol pan fydd yr eitem ar yr agenda.

157.

Adolygiad o Gynnydd Gwasanaeth Hamdden a Llyfrgelloedd Aura

Pwrpas:        Adolygu cynnydd y flwyddyn gyntaf o weithredu a chytuno ar y Cynllun Busnes ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Adolygiad o Gynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a ddarparodd adolygiad o gynnydd o ran gyntaf y flwyddyn weithredu, copi o’r Cynllun Busnes arfaethedig ar gyfer Ebrill 2018 - Mawrth 2019, a diweddariad o gyfarfod y Bwrdd Partneriaeth a gynhaliwyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar 22 Chwefror 2018.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge fod Hamdden a Llyfrgelloedd Aura yn mynychu cyfarfodydd Cabinet i’r dyfodol pan fydd yna eitem yn ymwneud â nhw ar yr agenda, a gefnogwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Cynllun Busnes Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar gyfer y flwyddyn 2018/19 a dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog, ar y cyd â’r Deilydd Portffolio ar gyfer Addysg, os na ellir cyflawni’r amcanestyniadau ariannol, gweithredu un neu bob un o’r tri phrosiect wrth gefn y manylir arnynt yn yr adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo rhyddhau cyllid refeniw i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura am y flwyddyn 2018/19 gan wneud cyfanswm o £3.773m; a

 

(c)        Bod Aura yn mynychu ac yn cyflwyno i gyfarfodydd Cabinet y dyfodol pan fydd yr eitem ar yr agenda.

158.

Adolygiad o’r Model Gweithredu Corfforaethol

Pwrpas:        I adolygu strwythur portffolio'r Prif Swyddog o wybod am y newidiadau i'r tîm personél.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad Adolygu’r Model Gweithredu Corfforaethol a wnaeth argymhellion ar y canlynol:

 

  • Parhauster y trefniadau i reoli portffolio’r Prif Swyddog (Pobl ac Adnoddau) a dileu’r swydd wag o’r strwythur trefniadol;
  • Dechrau ar broses recriwtio i benodi Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) parhaol;
  • Ailddosbarthu cyfrifoldebau’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) ymhlith y Tîm Prif Swyddogion sy’n weddill a dileu’r swydd honno o’r strwythur;
  • Trosglwyddo rhai swyddogaethau rhwng dwy swydd Prif Swyddog (Newid Trefniadol) bresennol i greu un swydd Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol); ac
  • Ail-ddynodi tair o’r swyddi Prif Swyddog sy’n weddill.

 

Diolchodd i’r holl Brif Swyddogion am eu cefnogaeth wrth ddatblygu’r cynigion a welodd gyfleoedd yn cael eu rhoi i unigolion.

159.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd ac roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.