Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

111.

Datgan Cysylltiad

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Attridge, Butler, Jones a Shotton gysylltiad personol ag eitem rhif 4 ar y rhaglen – Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru (LlC) a Rhaglen Addysg Band B a’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC), ac eitem rhif 5 ar y rhaglen - Trefniadaeth Ysgolion – Adolygiad Ardal, Brynffordd a Licswm, gan eu bod yn Llywodraethwyr Ysgol.

112.

Cofnodion pdf icon PDF 68 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 12 Rhagfyr a 19 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017 ac 19 Rhagfyr 2017 wedi eu dosbarthu gyda’r rhaglen ac fe’u cymeradwywyd fel cofnod cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnodion cywir.

113.

Rhaglen Ysgolion yr 21G Llywodraeth Cymru, Rhaglen Addysg Band B a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru (MIM) pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Ceisiocymeradwyaeth y Cabinet i gymeradwyo model noddi MIM a chynnal y prosiectau o fewn y rhaglen.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ymddiheuriadau am y camgymeriad yn yr atodiad i’r adroddiad, oedd yn nodi mai bwriad y Cyngor oedd uno Ysgol Terrig ac Ysgol Glanrafon ar safle Glanrafon yn Yr Wyddgrug a chau’r ddarpariaeth yn Ysgol Terrig.  Dylai’r adroddiad fod wedi amlinellu’r angen i adolygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardaloedd hynny a cheisio mynd i’r afael â’r lleoedd gwag yn Ysgol Terrig a’r diffyg lleoedd yn Ysgol Glanrafon, sydd ill dau â’u heriau eu hunain.  Diolchodd i Bennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Terrig am dderbyn ymddiheuriad y Cyngor ac am eu cadarnhad eu bod yn dymuno gweithio’n ymarferol â’r Cyngor i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

 

            Trwy’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn helpu Llywodraeth Cymru (LlC) i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Roedd Band B yn cynnwys cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Croes Atti.

 

            Amlinellodd yr adroddiad y prosiectau sydd wedi’u cynnwys o fewn cyflwyniad Cynllun Amlinellol Strategol (CAS) y Cyngor i LlC.  Eglurodd yr egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith lleiaf posib ar gyllidebau refeniw’r dyfodol.  Darparwyd manylion hefyd am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).

 

            Darparodd Band B gyfle cyffrous arall i’r Cyngor adeiladu mwy o ysgolion newydd a gwella’r cyfleusterau’n llwyr mewn eraill.  Byddai hyn yn sicrhau bod llawer mwy o ddisgyblion Sir y Fflint yn cael defnydd o’r cyfleusterau gorau posib, fyddai’n gwella ansawdd y dysgu.

 

            Ar gyfer prosiectau traddodiadol, byddai’r cyllid yn cael ei rannu 50:50 rhwng LlC a’r Cyngor.  Fodd bynnag, dan y mecanwaith cyllido MBC newydd, bydd LlC yn cyllido 75% a’r Cyngor yn cyllido 25%.

 

            Y CAS oedd cam cyntaf proses hir o dynnu’r ffrwd gyllido i lawr gan LlC, a dyma oedd datganiad o fwriad y Cyngor.  Bydd pob prosiect unigol yn cael ei ystyried gan y Cabinet.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Thomas am wybodaeth am y broses ymgynghori ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, gan geisio sicrwydd am y model MBC.  Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cafodd y cynigion eu hystyried yn y lle cyntaf gan Fwrdd y Rhaglen Addysg ac Ieuenctid a Bwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf.  Cyflwynir yr adroddiad a’r argymhellion ger bron y Cabinet heddiw ac, os cânt eu cymeradwyo, bydd ymarfer ymgynghori cyhoeddus manwl yn cychwyn, fel y diffiniwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.  Ar MBC, eglurodd mai ffurf newydd LlC ar Fenter Cyllid Preifat (MCP) yw hwn, gydag unrhyw brosiectau MBC yn arwain at system addysg ddwy haen o ran ansawdd a dwyster y drefn gynnal a ddefnyddir.  Bu i MBC ystyried a dysgu o faterion blaenorol gyda MCP.  Bydd gwaith yn cael ei wneud â phartneriaid allweddol mewn cymunedau i sicrhau bod cymunedau’n ymwybodol bod addysg cyfrwng Cymraeg yn ddewis iddynt hwy.

           

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn debygol y byddai rhywfaint o le i symud o fewn y cynigion,  ...  view the full Cofnodion text for item 113.

Item 4/Minute 113 - Amended version circulated at the meeting pdf icon PDF 109 KB

114.

Trefniadaeth Ysgolion – Adolygiad Ardal, Brynfordd a Licswm pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Darparu ffordd ymlaen ar gyfer trefniadaeth ysgolion cynradd ym Mrynffordd a Licswm.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Adolygiad Ardal Trefniadaeth Ysgolion Brynffordd a Licswm, oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed ers y Cabinet ym mis Medi, pan gymeradwywyd seibiant byr i alluogi swyddogion i weithio gyda Chyrff Llywodraethu Ysgolion Cynradd Brynffordd a Licswm. Darparodd yr adroddiad hefyd wybodaeth bellach ac opsiynau i’w hystyried er mwyn dod i benderfyniad ar y ffordd ymlaen yn yr ardal.

 

                        Er fod yr adroddiad yn argymell symud ymlaen at ymgynghoriad statudol, pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts nad oedd hyn yn golygu cau ysgolion o reidrwydd, a rhoddodd enghreifftiau o ysgolion eraill a symudodd ymlaen at ymgynghoriad statudol ac a oedd wedi ffedereiddio yn hytrach na chau.

 

Os cafwyd cynigion ar gyfer ffedereiddio oedd yn ymarferol, gallai hyn fod yn opsiwn y byddai’r Cyngor yn ei gefnogi. Byddai barn y gymuned leol yn cael ei cheisio fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol fel yr amlinellwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. 

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Shotton tybed a ellid amlinellu beth oedd yn sbarduno’r cynigion, er budd y galeri cyhoeddus. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mai’r ysgolion allai gael eu hadolygu, dan y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, oedd y rhai hynny â lleoedd gwag a bod gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) leihau’r rhain.  Mae lleoedd gwag mewn ysgolion yn aneffeithlon o ran cynaliadwyedd ysgolion bychain oherwydd y gost, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni. Pwysleisiodd bwysigrwydd symud y broses ymlaen yn gyflym er mwyn rhoi sicrwydd i’r ysgolion dan sylw o ran y ffordd ymlaen cyn gynted ag y bo modd.

 

                        Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylwadau ar nifer y llythyrau a negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan y gymuned, oedd yn fuddiol er mwyn gallu rhoi ystyriaeth i bob barn. Pwysleisiodd nad oedd y cynnig i symud ymlaen at ymgynghoriad statudol wedi’i gysylltu mewn unrhyw ffordd â gofyn ar y Cyngor i fantoli cyllideb.

 

                        Nododd y Prif Swyddog mai barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg oedd y dylai awdurdodau lleol ystyried pob llwybr sydd ar gael i ysgolion, ac y dylid cefnogi ffedereiddio lle bynnag y bo hynny’n bosib. Byddai unrhyw gynigion pellach i ffedereiddio yn dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod ymgynghori ac yn cael eu hystyried.

 

                        Atodwyd amserlen ar gyfer y broses i’r adroddiad, ond eglurodd y Prif Swyddog pe byddai cynnig ymarferol ar gyfer ffedereiddio’n dod i law, y gellid symud ymlaen â hwnnw yn gynt os byddai’n bosib. Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn gorffen cyn cychwyn gwyliau haf yr ysgolion.

 

                        Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn dilyn her yn LlC, wedi ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ddweud bod y prosesau a ddilynwyd ar drefniadaeth ysgolion yn Sir y Fflint yn gywir ac y gallai’r trigolion roi eu ffydd yn y broses.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 Y bydd y Cyngor yn symud ymlaen at ymgynghoriad statudol ar newid trefniadaethol ysgolion, gyda'r cynnig i uno ysgolion cynradd Brynffordd a Licswm i greu un ysgol ardal.

Area Review Letter pdf icon PDF 23 KB

115.

Datrysiad Trafnidiaeth Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Diweddaru’r Cabinet am gynnydd y datrysiad trafnidiaeth integredig ar gyfer ardal Glannau Dyfrdwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Ddatrysiad Cludiant Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy.

 

            Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yw un o ystadau diwydiannol mwyaf Cymru, gyda tua 400 o fusnesau’n cyflogi tua 9,000 o bobl, ac mae’r Parc wedi dod yn un o rymoedd economaidd allweddol y rhanbarth.  Mae’r ardal gyfagos wedi bod yn destun nifer o astudiaethau diweddar, gyda phob un yn dod i’r casgliad mai un o’r prif ffactorau sy’n cyfyngu ar dwf yw’r cysylltiadau cludiant gwael i mewn ac o amgylch y Parc. Er mwyn darparu datrysiad cludiant cynaliadwy hirdymor, rhaid integreiddio pob dull o gludiant yn llwyddiannus a darparu ar gyfer gofynion pob un, gan gynnal a hyrwyddo Gwasanaeth Cludiant Cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar yn greiddiol iddo ar yr un pryd.

 

            Amlinellodd yr adroddiad y prif yrwyr ar gyfer newid a’r ymyriadau allweddol ar gyfer llwybr beiciau a theithio llesol, gwelliannau i’r briffordd, y rhwydwaith bysiau a gwelliannau i’r rheilffordd.

 

            Darparodd y cynigion cyffredinol lwyfan y gellid ei ledaenu o ran cwmpas i ddarparu datrysiad cludiant ar gyfer mannau cyflogaeth allweddol lleol eraill, yn enwedig Brychdyn a’r safle Airbus cyfagos.  

 

            Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn ymwneud â darparu mynediad didrafferth i bobl sydd eisiau gweithio yn yr ardal ond yn byw mewn Siroedd eraill yn y Gogledd neu’r Canolbarth a Gogledd-orllewin Lloegr.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a’r cynnydd a wnaed, oedd yn ganlyniad i waith y Cabinet yn hyrwyddo, ymgyrchu a lobïo am ddatrysiad ar gyfer Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ers blynyddoedd lawer. Gwnaeth sylwadau ar nifer y cyfleoedd y byddai hyn yn ei agor i’r Sir, y Gogledd a’r Canolbarth a Gogledd-orllewin Lloegr.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Roberts am i unrhyw newidiadau arfaethedig i batrymau aros ar linell reilffordd Arfordir Gogledd Cymru a chynigion ar gyfer ffioedd meysydd parcio gorsafoedd rheilffyrdd gael eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

            Croesawodd y Cynghorwyr Butler a Bithell yr adroddiad hefyd, gan ddweud y byddai o fudd i gadw gweithwyr ar y Parc. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod yn falch o weld y gwelliannau arfaethedig i Barth 3, y gwelliannau i’r llwybr beicio a’r arhosfan lorïau arfaethedig y mae galw mawr amdano yn yr ardal.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r gwaith ar Ddatrysiad Cludiant Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy a’i gysylltiadau â chynlluniau ehangach Metro’r Gogledd-ddwyrain gan Lywodraeth Cymru.

116.

Ail Gam y Buddsoddiad Cyfalaf mewn Goleuadau Stryd a Gosod Llusernau LED pdf icon PDF 98 KB

Prwpas:        Derbyn cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno ail gynnig i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid i osod unedau LED rhad-ar-ynni yn lle’r colofnau goleuadau stryd aneffeithiol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Ail Gam y Buddsoddiad Cyfalaf yn y Seilwaith Goleuadau Stryd a’r Gwaith i Uwchraddio i Lusernau Deuodau Allyrru Golau (LED), gan egluro bod Llywodraeth Cymru, yn dilyn llwyddiant y rhaglen gychwynnol i ailosod unedau, wedi nodi y gallai cyllid pellach fod ar gael i gwblhau’r prosiect. 

 

Os bydd LlC yn ei gymeradwyo, byddai cyllid pellach yn arwain at gael holl seilwaith goleuadau stryd y Cyngor yn gweithio’n gyfan gwbl ar lusernau LED ynni effeithlon. Byddai cais yr ail gam yn tua £1.6m a byddai hyn yn galluogi ailosod y 6,500 o oleuadau sy'n weddill, nad oedd wedi'u cynnwys yn y prosiect cychwynnol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo cyflwyniad Cam 2 Rhaglen Gyllido Cymru am Gyllid Cyfalaf i ailosod y Llusernau Goleuadau Stryd sy’n weddill gydag unedau golau LED newydd sy’n fwy effeithlon; a

 

(b)       Cynnig, yn amodol ar gael cyllid gan LlC, contract ar gyfer ailosod yr unedau golau LED o dan Fframwaith Goleuadau Priffyrdd Cymru Gyfan i gaffael y llusernau.

117.

Mabwysiadu Nodyn Cyngor Datblygwr a Chanllawiau Atodol yn ymwneud â Newt Mitigation pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu’r canllawiau atodedig fel Canllawiau Cynllunio Atodol er mwyn ychwanegu pwysau i’r canllawiau pan gânt eu defnyddio at ddibenion Rheoli Datblygiad wrth bennu ceisiadau cynllunio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad ar Fabwysiadu Nodyn Cyngor i Ddatblygwyr a Chanllawiau Atodol mewn Perthynas â Mesurau Lliniaru Madfallod D?r, oedd yn ceisio cymeradwyaeth derfynol i fabwysiadu dau nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio yn ffurfiol. 

 

            Mae’r Nodyn Cyfarwyddyd i Ddatblygwyr ar Ddatblygiad Tybiannol eisoes wedi’i fabwysiadu, ond heb ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae bellach wedi bod trwy broses ymgynghori gyhoeddus a gellir ei fabwysiadu’n ffurfiol fel Nodyn Cyngor. Roedd y Nodyn Mesurau Lliniaru Madfallod D?r yn Nodyn newydd, a gynhyrchwyd i gyd-fynd â’r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol rhif 8 presennol ar Warchod Natur, er mwyn ychwanegu cyngor mwy manwl ar y mesurau lliniaru sy’n gysylltiedig â Madfallod D?r Cribog. Gellir mabwysiadu’r Nodyn hwnnw fel Canllaw Cynllunio Atodol ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo mabwysiadu’r Nodyn Cyngor Datblygiad Tybiannol a’r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Mesurau Lliniaru Madfallod D?r, er mwyn rhoi pwysau y tu ôl iddynt fel ystyriaethau cynllunio perthnasol wrth ystyried ceisiadau cynllunio penodol.

118.

Canolfan Cymorth Cynnar pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        I roi'r diweddaraf am gynnydd wrth gyflawni Canolfan Cymorth Cynnar, a cheisio cymeradwyaeth i lansio’r Ganolfan Cymorth Cynnar yn ffurfiol i'r cyhoedd ym mis Ebrill 2018.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad y Ganolfan Cymorth Cynnar, oedd yn egluro y dyluniwyd y Ganolfan i’w gwneud yn bosib darparu ymyrraeth a chefnogaeth mwy amserol a phriodol i deuluoedd â mwy o anghenion.

 

            Dros yr haf, cafodd y Ganolfan ‘lansiad tawel’ i brofi’r gweithdrefnau a’r trefniadau cydweithio arfaethedig. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd atgyfeiriadau gan asiantaethau partner nad oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant eu cyfeirio i'r Ganolfan. Cynhaliwyd adolygiad o’r lansiad tawel a amlygodd ddeilliannau cadarnhaol yn ogystal â meysydd y gellid eu mireinio a’u cryfhau. Mae’r Ganolfan bellach yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan asiantaethau partner a gweithwyr proffesiynol, a chynigiwyd lansio’r Ganolfan yn ffurfiol i ddarparu mynediad i’r cyhoedd ym mis Ebrill 2018.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai prif fwriad y Ganolfan Cymorth Cynnar oedd darparu’r lefel uchaf o wybodaeth a dadansoddi’r holl gudd-wybodaeth a gwybodaeth hysbys ar draws y bartneriaeth aml-asiantaeth, er mwyn sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu cael gafael ar gyngor  a gwybodaeth am gymorth cynnar perthnasol er mwyn datblygu sgiliau ymdopi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyn iddynt ymwreiddio.   

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Shotton y dylid dod â’r Ganolfan Cymorth Cynnar at sylw Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddangos sut y mae gwaith y Ganolfan yn cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, a chytunwyd ar hyn. Gofynnodd hefyd am adroddiad i’r Cabinet yn cynnwys arfarniad o’r gwaith, a chytunwyd ar hyn hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo lansiad ffurfiol y Ganolfan Cymorth Cynnar i dderbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan y cyhoedd ym mis Ebrill 2018; a

 

(b)       Cymeradwyo arfarniad ffurfiol o’r Ganolfan Cymorth Cynnar o fewn 12 mis i’w lansiad. Bydd yr arfarniad yn darparu dadansoddiad o’r adnoddau y mae asiantaethau’n eu cynnig, pa mor effeithio ydynt a’r deilliannau sy’n cael eu cyflawni.

119.

Cynigion ar gyfer Integreiddio Datblygu'r Celfyddydau a’r Gwasanaethau Cerdd gyda Theatr Clwyd pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Mae'r adroddiad hwn yn bwriadu newid rheolaeth llinell Gwasanaeth Datblygu'r Celfyddydau a Cherddoriaeth i adrodd yn uniongyrchol i strwythur Theatr Clwyd a sicrhau bod y gwasanaethau'n cael eu hintegreiddio'n llawn er mwyn manteisio i'r eithaf ar fudd-daliadau ac effeithlonrwydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad ar y Cynigion i Integreiddio Datblygu'r Celfyddydau a’r Gwasanaethau Cerdd gyda Theatr Clwyd.

 

            Roedd rhan o gynigion cyllideb Cam 2 2018/19 yn cynnwys £0.075m i’w ddefnyddio o gyllid gostyngiad yn y dreth y Theatr i leihau’r cymhorthdal Gwasanaeth Cerdd presennol o £0.035m ac i roi cymhorthdal o £0.040m i Wasanaeth Datblygu'r Celfyddydau.Roedd y dull hwn yn gwarchod y ddarpariaeth gwasanaeth bresennol ym mhob un o'r gwasanaethau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytuno i integreiddio Datblygu’r Celfyddydau (Y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau) a’r Gwasanaeth Cerdd gyda Theatr Clwyd fel yr amlinellir yn yr adroddiad, a rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddogion (Newid Sefydliadol) a’r Prif Swyddog (Addysg a’r Amgylchedd) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet perthnasol, roi’r newidiadau hyn ar waith.

120.

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 51 KB

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem wybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Prif Weithredwr

  • Cronfa’r Degwm 2017/18 – Cylch 5

Yng Nghylch 5, ystyriwyd 9 o geisiadau yng nghyfarfod y panel ar 29/11/17 a chymeradwywyd wyth cais hyd at werth o £2,229.99. Gyda Chylch 5 wedi’i gwblhau, mae £1,168.22 o’r gyllideb ar ôl i’w dyrannu.

 

Cymuned a Menter

  • Dileu Dyled Gorfforaethol

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6) - Incwm a Gwariant, yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Cyllid. Mae’r cais i ddileu yn ymwneud ag un ddyled sy’n dod i gyfanswm o £5,390.31 am Ffioedd Cartref Gofal. Nid oedd gan y cwsmer unrhyw ecwiti yn eu hystâd, gan nad oeddent yn berchen ar y t? yr oeddent yn byw ynddo cyn symud i’r cartref gofal. Er bod y ddyled yn ddilys gan mai’r awdurdod a dalodd Ffioedd y Cartref Gofal, nid oes posib ei hadfer yn dilyn marwolaeth y cwsmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

121.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Prosiect Penyffordd – Comisiynu Cytundeb

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth i gytundebu ar gyfer y prosiect gwella Cyfalaf yn Ysgol Penyffordd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gontractio ar gyfer y prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Penyffordd, a gyllidwyd gan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru Band A.

 

            Mae gan y prosiect gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn gan LlC a bydd cymeradwyaeth yn cael ei geisio yn y Pwyllgor Cynllunio ym mis Chwefror 2018. Roedd cost ddangosol y prosiect ychydig yn uwch na’r cwmpas cyllido LlC y cytunwyd arno ar gyfer y rhaglen Band A.

 

            Cafwyd trafodaeth am gost y prosiect, gan gynnwys yr opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor pe bai’r diffyg yn parhau yn y cyllid. Roedd gwybodaeth gan y contractwr am gadarnhad o’r gwir gostau gan ei gadwyn gyflenwi yn dal heb ddod i law, ond mae disgwyl iddo fod yn hysbys erbyn diwedd Ionawr. Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Attridge, cytunwyd i ddiwygio’r argymhelliad trwy dynnu’r geiriau ‘a goddefiannau ariannol a amlinellir o fewn yr adroddiad'.

           

            Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid cysylltu â LlC i geisio cymorth i ddefnyddio unrhyw danwariant mewn prosiectau Band A eraill, gan mai ar faint yn unig y mae methodoleg LlC wedi’i seilio,  a chefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r contract er mwyn galluogi cam adeiladu a darparu’r prosiect gwella cyfalaf i fynd yn ei flaen, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynllunio; a

 

(b)       Bod swyddogion yn trafod gyda Llywodraeth Cymru i ddefnyddio unrhyw danwariant mewn prosiectau Band A eraill i helpu gyda’r prosiect hwn.

122.

Polisi Gorfodi Cynllunio pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Gorfodi Cynllunio diwygiedig at ddibenion ymgynghori.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad y Polisi Gorfodi Cynllunio, oedd yn argymell llunio Polisi diwygiedig i ymgynghori arno.

 

            Mae’r Polisi diwygiedig wedi cael ystyriaeth ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ym mis Medi 2017, lle cafodd ei gefnogi ar ôl cynnwys tri mân newid oedd wedi'u hymgorffori yng nghorff y Polisi.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) bod Adran 9 y Polisi’n darparu safle amddiffynadwy i’r Cyngor dros pam fod rhai materion gorfodi’n cael eu dilyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal trwy wefan Sir y Fflint, gyda’r ddogfen derfynol hefyd ar gael ar y wefan honno.  Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, dywedodd y Prif Swyddog y byddai crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno ger bron un o gyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Polisi Gorfodi Cynllunio diwygiedig at ddibenion ymgynghori.

123.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd 11 aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol.

124.

Cronfa Gwaddol Cymunedol – Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        i) Derbyn adroddiad blynyddol y Gronfa Gwaddol Cymunedol, gan gynnwys adolygiad o ddyfarniadau grant Sir y Fflint. 

                        ii) Cefnogi’r cynnig i gyfuno Cronfa Deddf Eglwys Cymru a chronfa Sefydliad Cymunedol Sir y Fflint a throsglwyddo gweinyddiaeth a rheolaeth y gronfa i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

iii) Cymeradwyo CROSC i adolygu’r cynnig mewn manylder.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol y Gronfa Waddol Gymunedol, oedd yn ystyried cynnig a ddaeth i law gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i reoli, gweinyddu a buddsoddi Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd, sydd ar hyn o bryd yn cal ei weinyddu gan y Cyngor ar ran Cynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.

 

            Cafodd y cynnig ei gefnogi’n unfrydol gan yr Aelodau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar. Awgrymwyd argymhelliad ychwanegol i gael adroddiadau mwy rheolaidd ar berfformiad ac effaith y Gronfa, a chefnogwyd hyn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bithell ei bod yn galonogol gweld yr incwm a gafwyd o fuddsoddiadau.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Thomas sylwadau ar y broses o wneud cais am gyllid, gan ddweud y byddai'n fuddiol pe gellid hysbysu ymgeiswyr am y cynnydd ar wahanol gamau’r broses.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Parhau i gefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a dyfarniad grantiau lleol fel rhan o Gronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint;  

 

(b)       Cymeradwyo trosglwyddiad prosesau rheoli a gweinyddu Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd ar gyfer Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018;  

 

(c)        Cymeradwyo trosglwyddiad prosesau rheoli a gweinyddu grantiau Sir y Fflint a ddyfarnwyd gan Gronfa’r Degwm i’w cyfuno â’r broses sydd eisoes ar waith ar gyfer Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint; a

 

(d)       Darparu adroddiadau’n fwy rheolaidd ar berfformiad ac effaith y Gronfa.

125.

MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 8) pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 8), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Dyma ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb unrhyw fesur lliniaru i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion:

 

Cronfa’r Cyngor:

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.846m yn uwch na’r gyllideb; a
  • Rhagamcanir y bydd balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £4.236m.

 

Cyfrif Refeniw Tai:

 

  • Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.035m yn uwch na’r gyllideb; a
  • Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081m.

 

Yr amrywiannau mwyaf sylweddol a ragamcanwyd oedd y tanwariant ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r amrywiant cadarnhaol ar y gronfa gasglu Treth y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y gwnaed sylwadau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar ar y gorwariant yn ystod y flwyddyn ar Leoliadau y Tu Hwnt i’r Sir, ond roedd yr Aelodau’n fodlon ag ymateb y swyddogion y bydd y maes hwnnw’n cael ei adolygu. 

 

PENDERFYNWYD:

           

            (a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r

                        Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a

 

(b)       Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai.